{"id":528,"date":"2020-03-22T18:18:58","date_gmt":"2020-03-22T18:18:58","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=528"},"modified":"2020-03-23T18:21:36","modified_gmt":"2020-03-23T18:21:36","slug":"corona-galw-demands","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/","title":{"rendered":"Ymateb i bandemig coronafeirws: ein galwadau wrth Lywodraeth Cymru"},"content":{"rendered":"<p>Trwy ddilyn yn y lle cyntaf strategaeth a oedd yn groes i ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a thystiolaeth o&#8217;r hyn sydd wedi gweithio mewn gwledydd eraill, mae Llywodraeth y DU wedi colli wythnosau yn y frwydr yn erbyn y firws hwn \u2014 camgymeriad a allai gostio bywydau heb gamau brys a radical i daclo lledaeniad y firws a lleihau pwysau ar y gwasanaeth iechyd.<\/p>\n<p>Nid yw mesurau diweddar a gyflwynwyd o dan bwysau cynyddol gan y cyhoedd yn mynd yn ddigon pell o ran hwyluso lefel y pellter cymdeithasol sydd ei angen, neu brofi ac olrhain achosion o haint. Dim ond yn awr yr ydym yn gweld dechrau ar unrhyw ymgais difrifol i ddarparu adnoddau digonol ar gyfer ein GIG a&#8217;i weithwyr ac amddiffyn pobl rhag effeithiau economaidd yr argyfwng. Mae angen gwneud llawer mwy.<\/p>\n<p>Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn siomedig o fodlon i gyd-fynd ag agwedd Llywodraeth y DU, gan wrthod rhoi mesurau pellach ar waith na chwestiynu neu feirniadu aneffeithlonrwydd di-hid a di-deimlad Llywodraeth y DU.<\/p>\n<p>Er eu bod yn gyfyngedig, mae&#8217;r pwerau datganoledig sydd gan Lywodraeth Cymru yn cynnig cyfle i gymryd camau sylweddol i amddiffyn pobl yng Nghymru yn erbyn effeithiau gwaethaf yr argyfwng hwn, a fydd yn effeithio&#8217;n wael ar wlad \u00e2 phoblogaeth sy&#8217;n heneiddio a chyfraddau uwch nag arferfol o salwch anadlol, a gwasanaeth iechyd sydd eisoes o dan straen aruthrol a nifer fach iawn o welyau gofal dwys. Yn ogystal \u00e2&#8217;i bregusrwydd meddygol, mae tlodi Cymru sydd wedi&#8217;i wreiddio&#8217;n ddwfn hefyd yn golygu y bydd hi&#8217;n fwy agored i effeithiau economaidd yr argyfwng: mae mwy nag un ym mhob pump o weithwyr Cymru mewn cyflogaeth ansicr.<\/p>\n<p>Mae angen i Lywodraeth Cymru achub ar y cyfle hwn i gyflawni ei dyletswydd foesol a gwleidyddol i bobl Cymru. Ni all barhau i ddilyn arweinyddiaeth San Steffan mewn modd cibddall. Yn hytrach, rhaid cymryd camau brys i helpu&#8217;r boblogaeth yn seiliedig ar argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd, yn ogystal \u00e2 gweithredu cymdeithasol radical i liniaru effeithiau economaidd gwaethaf yr argyfwng. Dylai&#8217;r Senedd hefyd wrthod rhoi cydsyniad deddfwriaethol i unrhyw fesurau gan Lywodraeth y DU sy&#8217;n cyfyngu&#8217;n ddi-angen ar ryddid sifil, hawliau gweithwyr ac atebolrwydd democrataidd.<\/p>\n<p>Dylai gweinidogion wneud adolygiad brys o rymoedd datganoledig i weithredu mesurau fel yr hyn rydym yn amlinellu isod a rhyddhau&#8217;r cyllid sydd ei angen trwy gyllideb arbennig yn y Senedd. Dylai hyn gynnwys wneud y defnydd llawn o&#8217;u grymoedd benthyca a chronfeydd wrth gefn a threth argyfwng ar gyfoeth. Ni fydd llawer o&#8217;r mesurau hyn yn costio dim fodd bynnag, ac i gyd fydden nhw&#8217;n galw amdano ydy ewyllys wleidyddol.<\/p>\n<p><b>Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd y camau canlynol ar unwaith:<\/b><\/p>\n<h2>1. Galluogi pellhau cymdeithasol mwy effeithiol<\/h2>\n<ul>\n<li>Cyflwyno gwaharddiad ar gynulliadau mawr a digwyddiadau cyhoeddus.<\/li>\n<li>Cau&#8217;r holl lety gwyliau a gwahardd defnyddio cartrefi gwyliau.<\/li>\n<li>Cau&#8217;r holl amgueddfeydd, canolfannau diwylliannol ac atyniadau i dwristiaid.<\/li>\n<li>Atal dysgu wyneb yn wyneb mewn prifysgolion a cholegau.<\/li>\n<li>Cau pob siop sy&#8217;n gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol, meysydd chwarae, canolfannau crefyddol, canolfannau cymunedol, meithrinfeydd a chyfleusterau gofal dydd.<\/li>\n<li>Cau&#8217;r holl lyfrgelloedd cyhoeddus, hybiau a chanolfannau hamdden. Cefnogi hybiau i ddarparu cefnogaeth o bell ar fudd-daliadau a thai. Atal a chanslo holl ddirwyon llyfrgell a threfnu benthyciadau a danfoniadau llyfrgell o bell.<\/li>\n<li>Darparu cyllid i awdurdodau lleol ehangu darpariaeth pryd ar glud ar gyfer yr henoed, bregus a&#8217;r rhai sy&#8217;n hunan-ynysu. Dylai hyn hefyd gynnwys danfon bwyd i deuluoedd \u00e2 phlant sy&#8217;n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.<\/li>\n<li>Gweithio gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion i hwyluso dysgu o bell. Sicrhau bod gan bob plentyn fynediad at adnoddau addysgol.<\/li>\n<li>Cyfarwyddo&#8217;r holl weithwyr nad ydynt yn rheng flaen yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru i weithio gartref lle bo hynny&#8217;n bosibl.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>2. Gwybodaeth i&#8217;r cyhoedd<\/h2>\n<ul>\n<li>Darparu ymgyrch iechyd cyhoeddus ddigynsail ar raddfa enfawr, gyda hysbysebion ar draws yr holl gyfryngau ac mewn mannau cyhoeddus yn cynghori dinasyddion am risgiau coronafirws a sut y gallant amddiffyn eu hunain ac eraill o&#8217;u cwmpas. Dylai hyn gynnwys:\n<ul>\n<li>Arweiniad i bawb ar sut i ymarfer pellter cymdeithasol cryfach mewn modd effeithiol a pham fod hyn yn hanfodol.<\/li>\n<li>Cyngor penodol ac arbenigol i&#8217;r rhai sydd fwyaf agored i niwed ar sut mae coronafirws yn rhyngweithio \u00e2 chyflyrau eraill.<\/li>\n<li>Cyngor ac adnoddau i bobl ar sut i ddelio ag effaith pellhau cymdeithasol a gorbryder sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2&#8217;r argyfwng.<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n<\/ul>\n<h2>3. Cymorth i&#8217;r gwasanaeth iechyd<\/h2>\n<ul>\n<li>Hawlio ar unwaith adnoddau gofal iechyd a gwelyau ysbyty preifat at ddefnydd cyhoeddus.<\/li>\n<li>Ail-osod eiddo masnachol gwag at ddefnydd meddygol.<\/li>\n<li>Cyflenwi offer amddiffyn personol ar frys i&#8217;r holl weithwyr rheng flaen yn y gwasanaeth iechyd a swyddi allweddol eraill, gan gynnwys gweithwyr gwasanaethau brys, gofalwyr, athrawon a gweithwyr cymorth.<\/li>\n<li>Cyflwyno profion ac olrhain ar raddfa eang ar gyfer yr holl weithwyr gofal iechyd a rheng flaen a&#8217;u teuluoedd.<\/li>\n<li>Ehangu profion ac olrhain cyswllt ymysg y boblogaeth gyffredinol ar frys.<\/li>\n<li>Recriwtio a hyfforddi staff ychwanegol ar gyfer y GIG ar frys.<\/li>\n<li>Rhoi diwedd ar unwaith ar yr holl daliadau gofal iechyd ar gyfer gwladolion o&#8217;r tu allan i&#8217;r DU a chyfathrebu&#8217;n glir na fydd unrhyw un yn gorfod talu am geisio gofal iechyd.<\/li>\n<li>Ail-osod safleoedd gweithgynhyrchu i gynhyrchu peiriannau anadlu.<\/li>\n<li>Trefniadau ar gyfer presgripsiynau o bell a danfon meddyginiaethau.<\/li>\n<li>Atal ffioedd am lety ysbyty a pharcio i staff.<\/li>\n<\/ul>\n<p><em>Mae <a href=\"https:\/\/ymatebc19.cymru\/2020\/03\/20\/llythyr\/\">rhestr llawn o alwadau<\/a> gan weithwyr rhengflaen y GIG ar gael.<\/em><\/p>\n<h2>4. Sicrwydd ariannol i bawb<\/h2>\n<ul>\n<li>Cyflwyno incwm sylfaenol dros dro ar frys i bawb sy&#8217;n byw yng Nghymru i gymryd lle incwm a gollwyd ac amddiffyn pobl rhag y cwymp economaidd, yn enwedig y rhai hunangyflogedig a&#8217;r rhai sy&#8217;n colli swyddi. Rhaid ymestyn hyn hefyd i bobl heb ddinasyddiaeth a&#8217;r rheini nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus.<\/li>\n<li>Oedi&#8217;r casgliad o ffioedd a dyled myfyrwyr.<\/li>\n<li>Canslo dyledion treth y cyngor.<\/li>\n<li>Cynyddu cyllid ac ehangu cymhwysedd i&#8217;r Gronfa Cymorth Dewisol er mwyn darparu cymorth brys.<\/li>\n<li>Parhau \u00e2 thaliadau Lwfans Cynhaliaeth Addysg tra bod ysgolion a cholegau ar gau a chael gwared ar ofynion presenoldeb.<\/li>\n<li>Atal biliau cyfleustodau lle bo hynny&#8217;n bosibl i&#8217;r rheini sy&#8217;n cael eu taro gan y cwymp economaidd.<\/li>\n<li>Gweithio gyda banciau bwyd i ddarparu cyllid a chefnogaeth ychwanegol gyda chyflenwadau yn wyneb angen cynyddol.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>5. Llety diogel i bawb<\/h2>\n<ul>\n<li>Gwahardd troi pobl allan o&#8217;u tai<\/li>\n<li>Rhewi rhent ar unwaith a chanslo rhent ar gyfer y rhai sy&#8217;n cael eu heffeithio gwaethaf gan yr argyfwng.<\/li>\n<li>Cymryd drosodd eiddo gwag a gwestai i gartrefu pobl ddigartref ac amddifad.<\/li>\n<li>Atal treth y cyngor.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>6. Amddiffyn y bregus<\/h2>\n<ul>\n<li>Cefnogi cydlyniant ac hyfforddiant ar gyfer rhwydweithiau cyd-gymorth lleol.<\/li>\n<li>Cyfarwyddo&#8217;r holl wasanaethau cyhoeddus na ddylid gweithredu amodau ar arian cyhoeddus mwyach (sy&#8217;n gwahardd rhai mudwyr a cheiswyr lloches sydd wedi&#8217;u gwrthod rhag cael mynediad at unrhyw wasanaethau cyhoeddus neu gymorth).<\/li>\n<li>Gweithio&#8217;n agos gyda gwasanaethau cam-drin domestig i sicrhau bod cyfundrefnau cadarn ar waith i amddiffyn y rhai fydd yn awr mewn mwy o berygl o gam-drin domestig a&#8217;u galluogi i riportio yn ddiogel ac yn ddienw.<\/li>\n<li>Datblygu gwasanaethau iechyd meddwl a rhoi adnoddau iddynt i gynnig cefnogaeth o bell, gyda chefnogaeth wedi&#8217;i theilwra ar gyfer y rhai y mae unigedd yn effeithio arnynt a&#8217;r rhai sydd \u00e2 chyflyrau iechyd meddwl presennol.<\/li>\n<li>Gweithio&#8217;n agos gyda gwasanaethau digartrefedd ar allgymorth i amddiffyn y boblogaeth ddigartref a darparu cyngor penodol i bobl ddigartref.<\/li>\n<li>Gweithio&#8217;n agos gyda charchardai i gynghori a darparu adnoddau a chyllid ychwanegol i amddiffyn carcharorion a staff.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>7. Hawliau cryfach i weithwyr<\/h2>\n<ul>\n<li>Gweithio&#8217;n agos gydag undebau llafur i sicrhau hawliau gweithwyr i absenoldeb salwch \u00e2 th\u00e2l a sicrhau nad yw gweithwyr yn cael eu diswyddo&#8217;n annheg o&#8217;u swyddi am hunan-ynysu.<\/li>\n<li>Sicrhau bod gan bob gweithiwr fynediad at offer amddiffyn personol cywir a&#8217;u bod yn cael y gwybodaeth diweddaraf am eu hawliau fel nad ydynt yn cael eu hecsbloetio&#8217;n annheg yn ystod yr argyfwng.<\/li>\n<li>Sicrhau nad yw trefnu undebau llafur yn cael ei rwystro yn ystod yr argyfwng.<\/li>\n<\/ul>\n<p><em>A oes gennych chi syniadau neu arbenigedd pellach ar ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru arwain wrth fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r argyfwng hwn? Rhowch wybod i ni yn y sylwadau neu e-bostiwch <a href=\"mailto:post@undod.cymru\">post@undod.cymru<\/a>.<\/em><\/p>\n<p><em>Gallwch ychwanegu eich cefnogaeth at lythyr agored gan weithwyr gofal iechyd at\u00a0Lywodraeth Cymru yn <a href=\"https:\/\/ymatebc19.cymru\/2020\/03\/20\/llythyr\/\">galw am weithredu ar frys i amddiffyn staff ac arafu lledaeniad y firws yma<\/a>.<\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Trwy ddilyn yn y lle cyntaf strategaeth a oedd yn groes i ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a thystiolaeth o&#8217;r hyn sydd wedi gweithio mewn gwledydd eraill, mae Llywodraeth &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Ymateb i bandemig coronafeirws: ein galwadau wrth Lywodraeth Cymru&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":535,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[86,83,55],"class_list":["post-528","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-coronafirws","tag-covid-19","tag-llywodraeth-cymru","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Ymateb i bandemig coronafeirws: ein galwadau wrth Lywodraeth Cymru - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Ymateb i bandemig coronafeirws: ein galwadau wrth Lywodraeth Cymru - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Trwy ddilyn yn y lle cyntaf strategaeth a oedd yn groes i ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a thystiolaeth o&#8217;r hyn sydd wedi gweithio mewn gwledydd eraill, mae Llywodraeth &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Ymateb i bandemig coronafeirws: ein galwadau wrth Lywodraeth Cymru&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-03-22T18:18:58+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-03-23T18:21:36+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/undod-logoteip.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1200\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"628\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Undod\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Undod\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"13 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/\"},\"author\":{\"name\":\"Undod\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/64898897482e6fd169018b684328ec4e\"},\"headline\":\"Ymateb i bandemig coronafeirws: ein galwadau wrth Lywodraeth Cymru\",\"datePublished\":\"2020-03-22T18:18:58+00:00\",\"dateModified\":\"2020-03-23T18:21:36+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/\"},\"wordCount\":2678,\"commentCount\":1,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/undod-logoteip.png\",\"keywords\":[\"coronafirws\",\"COVID-19\",\"Llywodraeth Cymru\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/\",\"name\":\"Ymateb i bandemig coronafeirws: ein galwadau wrth Lywodraeth Cymru - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/undod-logoteip.png\",\"datePublished\":\"2020-03-22T18:18:58+00:00\",\"dateModified\":\"2020-03-23T18:21:36+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/undod-logoteip.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/undod-logoteip.png\",\"width\":1200,\"height\":628},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Ymateb i bandemig coronafeirws: ein galwadau wrth Lywodraeth Cymru\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/64898897482e6fd169018b684328ec4e\",\"name\":\"Undod\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Undod\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/undod\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Ymateb i bandemig coronafeirws: ein galwadau wrth Lywodraeth Cymru - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Ymateb i bandemig coronafeirws: ein galwadau wrth Lywodraeth Cymru - undod","og_description":"Trwy ddilyn yn y lle cyntaf strategaeth a oedd yn groes i ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a thystiolaeth o&#8217;r hyn sydd wedi gweithio mewn gwledydd eraill, mae Llywodraeth &hellip; Parhau i ddarllen \"Ymateb i bandemig coronafeirws: ein galwadau wrth Lywodraeth Cymru\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-03-22T18:18:58+00:00","article_modified_time":"2020-03-23T18:21:36+00:00","og_image":[{"width":1200,"height":628,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/undod-logoteip.png","type":"image\/png"}],"author":"Undod","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Undod","Est. reading time":"13 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/"},"author":{"name":"Undod","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/64898897482e6fd169018b684328ec4e"},"headline":"Ymateb i bandemig coronafeirws: ein galwadau wrth Lywodraeth Cymru","datePublished":"2020-03-22T18:18:58+00:00","dateModified":"2020-03-23T18:21:36+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/"},"wordCount":2678,"commentCount":1,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/undod-logoteip.png","keywords":["coronafirws","COVID-19","Llywodraeth Cymru"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/","name":"Ymateb i bandemig coronafeirws: ein galwadau wrth Lywodraeth Cymru - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/undod-logoteip.png","datePublished":"2020-03-22T18:18:58+00:00","dateModified":"2020-03-23T18:21:36+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/undod-logoteip.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/undod-logoteip.png","width":1200,"height":628},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Ymateb i bandemig coronafeirws: ein galwadau wrth Lywodraeth Cymru"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/64898897482e6fd169018b684328ec4e","name":"Undod","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g","caption":"Undod"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/undod\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/528","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=528"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/528\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":538,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/528\/revisions\/538"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/535"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=528"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=528"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=528"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}