{"id":555,"date":"2020-03-31T11:58:19","date_gmt":"2020-03-31T10:58:19","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=555"},"modified":"2020-04-08T03:27:12","modified_gmt":"2020-04-08T02:27:12","slug":"cam-tu-ol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/","title":{"rendered":"Llywodraeth Cymru: wastad cam tu \u00f4l"},"content":{"rendered":"<p>Yn nhrydedd wythnos yr argyfwng COVID-19, nid yw pethau&#8217;n argoeli&#8217;n rhy dda yng Nghymru. Mae&#8217;r Bwrdd Iechyd GIG sy&#8217;n dwyn enw ei sylfaenydd, yn cofnodi <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-52093126\">lefelau uwch o heintio<\/a> fesul 100,000 na Llundain hyd yn oed, tra bod Cymru gyfan yn ymdebygu i orllewin canolbarth Lloegr &#8211; un o&#8217;r rhanbarthau sydd wedi&#8217;i effeithio mwyaf yn Lloegr. Dylai fod rhywfaint o gysur i ni yn y ffaith, fodd bynnag, bod gennym Gynulliad Cymru (a Senedd arfaethedig) o dan arweinyddiaeth Llafur &#8211; er mwyn sicrhau ymateb cadarn, gwirioneddol sosialaidd i&#8217;r argyfwng, gan ein hamddiffyn rhag fympwyon gwaethaf\u00a0 llywodraeth Dor\u00efaidd ddidoreth, \u00e2&#8217;i diddordeb yn y pen draw ar effaith yr argyfwng ar y farchnad yn unig. Dyma fyddai&#8217;r \u2018difidend&#8217; datganoli, wedi&#8217;r cyfan; dyma baham yr argyhoeddwyd cymaint o bobl i bleidleisio dros y Cynulliad &#8211; i amddiffyn Cymru yn erbyn gormodedd gwaethaf San Steffan, gan sicrhau gwleidyddiaeth byddai&#8217;n fwy addas at ein hanghenion ni.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae&#8217;n deg awgrymu nad yw digwyddiadau diweddar wedi cadarnhau&#8217;r ddamcaniaeth. Yn wir, byddai&#8217;n esgeulus beidio \u00e2 darparu crynodeb o gamau gweigion Llywodraeth Cymru wrth iddynt gloffi dros y pythrefnos diwethaf. Dechreuodd ar y droed \u00f4l, gyda&#8217;r ychydig ddyddiau swrreal yna a arweiniodd yn y pen draw at ganslo g\u00eam rygbi Cymru v yr Alban, wrth i Vaughan Gething a&#8217;r Undeb Rygbi Cymru fel petai ceisio sicrhau mai hwn fyddai&#8217;r unig ddigwyddiad chwaraeon yn cychwyn unrhyw le ar y blaned. Cymsgedd o syndod a dicter a nodweddodd yr ymateb, a chafodd ei chanslo ar yr unfed awr ar ddeg &#8211; ond cymaint oedd y twrw ynghylch y g\u00eam nes i benderfyniad y Stereophonics gynnal dau gig yng Nghaerdydd osgoi sylw&#8217;r cyfryngau a chyhoedd, nes ei bod hi&#8217;n rhy hwyr . Mae&#8217;n ddigon posib y bydd y delweddau o&#8217;r gigs rheiny yn fater o gryn edifarhau ar ran y band a&#8217;r llywodraeth. Yn ddigon buan hefyd y cynyddodd y dicter mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru gyda thwristiaid yn ceisio preswylio mewn amrywiol safleoedd a lletai &#8211; a dim ond wrth i rau rhybuddio am aflonyddu gwirioneddol yn y cymunedau yma (er gwaethaf cynseiliau amlwg mewn gwledydd eraill) y daeth penderfyniad &#8211; a phan oedd Llywodraeth y DU ar fin cyhoeddi&#8217;r \u2018cau lawr&#8217; cyffredinol beth bynnag.<\/p>\n<p>Priodolir rhan helaeth o&#8217;r petruso a gwamalu i&#8217;r amwysedd ymddangosiadol ynghylch cyfraith a pholisi datganoledig, ond hyd yn oed lle mae llywodraeth Dor\u00efaidd Boris Johnson wedi achub y blaen, mae llywodraeth Lafur Cymru wedi straffaglu wrth ddilyn. Erys y dryswch, er enghraifft, o gwmpas polisi ar gyfer y diwydiant adeiladu. Cynigiwyd arena&#8217;r ICC i&#8217;r Llywodraeth fel lleoliad preifat i helpu gyda&#8217;r argyfwng iechyd digynsail hwn, ond ni chafwyd ymateb. Ac yng nghyswllt y GIG wrth gwrs y mae&#8217;r problemau fwyaf, lle erbyn hyn mae <a href=\"https:\/\/ymatebc19.cymru\/2020\/03\/20\/llythyr\/\">dros fil o weithwyr iechyd wedi llofnodi llythyr agored<\/a> yn mynnu gwell. Mae tystiolaeth o&#8217;r reng flaen yn peri pryder mawr o ran diffyg offer amddiffyn personol ar gyfer gweithwyr iechyd, a phrin iawn yw&#8217;r profion ymysg staff. Yn sgil y dyddiau diwethaf, cryfach eto yw&#8217;r argraff y gall y cwbl chwalu&#8217;n ddeilchion, wrth i gytundeb gweithgynhyrchu ar gyfer miloedd o brofion &#8211; conglfaen i&#8217;r ymateb arfaethedig &#8211; <a href=\"https:\/\/twitter.com\/adavies4\/status\/1244722327562133505\">cwympo drwodd<\/a>.<\/p>\n<p>Mewn unrhyw ddemocratiaeth lled iach gallem ddisgwyl i aneffeithlonrwydd ac ansicrwydd o&#8217;r math hwn, mewn argyfwng, golygu canlyniadau i&#8217;r sawl sydd wedi tresmasu. Fodd bynnag, cymaint yw&#8217;r diffyg o ran diwylliant democrataidd cadarn a gweithredol yng Nghymru, fel ei bod yn debyg mai gwasanaeth fel yr arfer fydd drech &#8211; pan mae taer angen newid arnom. Un broblem yn y cyswllt hwn yw&#8217;r ffordd y mae Llafur, mewn modd cymharol deheuig, wedi troi unrhyw gwestiynu neu feirniadaeth o&#8217;u camsyniadau i mewn i \u2018chwarae gwleidyddol&#8217; ar adeg o argyfwng. Fel rheol, gallai fod rhywfaint o ddilysrwydd i honiad o&#8217;r fath &#8211; ond ni all yr wrthbleidiau ganiat\u00e1u i&#8217;w craffu, a&#8217;u hystyriaeth o syniadau polisi a dewisiadau amgen, gael eu cymeriadu yn y modd yma, er ein mwyn ni i gyd. Mae angen gosod chwyddwydr ar weithgaredd y llywodraeth a rhaid i&#8217;r gwrthbleidiau amlygu&#8217;r ffaith mai dyna yw eu cyfrifoldeb &#8211; a bod ymgais y llywodraeth i danseilio craffu yn wrth-ddemocrataidd ei ysbryd (roedd arwr mawr Llafur, Aneurin Bevan, yn enwog wrth gwrs am ddwyn Churchill i gyfrif yn ystod rhyfel byd, er mwyn y nefoedd).<\/p>\n<p>Yn wir, mewn diwylliant gwleidyddol grymusach, mae&#8217;n ddigon posibl y byddem wedi clywed o leiaf rhai sibrydion ynghylch pleidlais o ddiffyg hyder yn y llywodraeth. Byddai hyn yn bosibilrwydd damcaniaethol yn y Senedd, ond gan ei fod yn gweithio ar gapasiti cyfyngedig, a heb y niferoedd gofynnol am lwyddiant, mae&#8217;n annhebygol y bydd unrhyw aelod unigol am fentro. Yn fwy realistig, gallai rhywun hefyd fod wedi disgwyl i ambell farc cwestiwn codi am ddyfodol Vaughan Gething yn ei r\u00f4l fel Gweinidog Iechyd. O ystyried ei fod wedi bod wrth y llyw yn achos cyfran go helaeth o&#8217;r camsyniadau mor belled, byddai rhywun yn tybio y byddai&#8217;r posibilrwydd o&#8217;i ymadawiad o leiaf yn codi fel rhan o&#8217;r ddadl gyfredol. Gellir darllen rhwng llinellau&#8217;r sylwebaeth gan newyddiadurwyr gwleidyddol Cymru eu bod yn llai na bodlon gyda&#8217;r hyn sy&#8217;n prysur ddatblygu&#8217;n llywodraeth amddiffynnol, bron yn gwbl diymateb &#8211; lle mae cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu mynnu ac yna prin yn ennyn ateb teilwng. Ond hyd yma, ni ofynnwyd y cwestiynau anodd iawn. Siawns os ydym ni yng Nghymru yn parhau y tu \u00f4l iddi, dim ond mater o amser ydyw.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n hanfodol bwysig i ni yng Nghymru, y dinasyddion cyffredin, ddechrau myfyrio nawr ar ddatblygiad yr argyfwng, ac ymddygiad ein gwleidyddion &#8211; yn rhannol oherwydd bydd y modd y mae&#8217;n dibennu yn arwain at ganlyniadau tymor hir i ddemocratiaeth yn Cymru. Os bydd pethau&#8217;n parhau fel y maent, mae&#8217;n weddol sicr y bydd rhai&#8217;n gofyn beth yw pwynt Cynulliad os na all wneud mwy dros ei bobl. Mae&#8217;n bwysig yn hyn o beth i bwysleisio mai gwleidyddion Cymru, nid gweithwyr gofal iechyd Cymru, na dosbarth gweithiol Cymru, na ni&#8217;r cyhoedd yn gyffredinol sy&#8217;n ein siomi. Mae gennym y pwerau i wneud cymaint mwy (fel y <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/\">mae Undod eisoes wedi dangos yn glir<\/a>) a byddai llywodraeth fwy beiddgar, cadarn a sosialaidd wedi eu defnyddio yn llawer mwy effeithiol.<\/p>\n<p>Mae hefyd yn dod i&#8217;r amlwg mai rhy ychydig, ac nid gormod o rym a chyfrifoldeb yr ydym wedi&#8217;u hennill yng Nghymru, a phe byddem yn debycach i wlad annibynnol go iawn, byddem wedi datblygu&#8217;r diwylliant democrataidd, y gwleidyddion atebol, a Senedd byddai&#8217;n fwy abl i gynnig ymateb priodol i&#8217;r her sydd o&#8217;n blaenau. Yn ystod yr wythnosau nesaf, gobeithiwn y cawn ni ein profi&#8217;n anghywir, er lles pawb.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn nhrydedd wythnos yr argyfwng COVID-19, nid yw pethau&#8217;n argoeli&#8217;n rhy dda yng Nghymru. Mae&#8217;r Bwrdd Iechyd GIG sy&#8217;n dwyn enw ei sylfaenydd, yn cofnodi lefelau uwch o heintio fesul &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Llywodraeth Cymru: wastad cam tu \u00f4l&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":564,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[43,86,83,55,85],"class_list":["post-555","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-aneurin-bevan","tag-coronafirws","tag-covid-19","tag-llywodraeth-cymru","tag-vaughan-gething","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Llywodraeth Cymru: wastad cam tu \u00f4l - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Llywodraeth Cymru: wastad cam tu \u00f4l - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Yn nhrydedd wythnos yr argyfwng COVID-19, nid yw pethau&#8217;n argoeli&#8217;n rhy dda yng Nghymru. Mae&#8217;r Bwrdd Iechyd GIG sy&#8217;n dwyn enw ei sylfaenydd, yn cofnodi lefelau uwch o heintio fesul &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Llywodraeth Cymru: wastad cam tu \u00f4l&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-03-31T10:58:19+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-04-08T02:27:12+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/nye-bevan2.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"862\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"433\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Undod\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Undod\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"11 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/\"},\"author\":{\"name\":\"Undod\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/64898897482e6fd169018b684328ec4e\"},\"headline\":\"Llywodraeth Cymru: wastad cam tu \u00f4l\",\"datePublished\":\"2020-03-31T10:58:19+00:00\",\"dateModified\":\"2020-04-08T02:27:12+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/\"},\"wordCount\":2269,\"commentCount\":1,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/nye-bevan2.jpg\",\"keywords\":[\"Aneurin Bevan\",\"coronafirws\",\"COVID-19\",\"Llywodraeth Cymru\",\"Vaughan Gething\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/\",\"name\":\"Llywodraeth Cymru: wastad cam tu \u00f4l - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/nye-bevan2.jpg\",\"datePublished\":\"2020-03-31T10:58:19+00:00\",\"dateModified\":\"2020-04-08T02:27:12+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/nye-bevan2.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/nye-bevan2.jpg\",\"width\":862,\"height\":433},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Llywodraeth Cymru: wastad cam tu \u00f4l\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/64898897482e6fd169018b684328ec4e\",\"name\":\"Undod\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Undod\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/undod\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Llywodraeth Cymru: wastad cam tu \u00f4l - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Llywodraeth Cymru: wastad cam tu \u00f4l - undod","og_description":"Yn nhrydedd wythnos yr argyfwng COVID-19, nid yw pethau&#8217;n argoeli&#8217;n rhy dda yng Nghymru. Mae&#8217;r Bwrdd Iechyd GIG sy&#8217;n dwyn enw ei sylfaenydd, yn cofnodi lefelau uwch o heintio fesul &hellip; Parhau i ddarllen \"Llywodraeth Cymru: wastad cam tu \u00f4l\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-03-31T10:58:19+00:00","article_modified_time":"2020-04-08T02:27:12+00:00","og_image":[{"width":862,"height":433,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/nye-bevan2.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Undod","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Undod","Est. reading time":"11 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/"},"author":{"name":"Undod","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/64898897482e6fd169018b684328ec4e"},"headline":"Llywodraeth Cymru: wastad cam tu \u00f4l","datePublished":"2020-03-31T10:58:19+00:00","dateModified":"2020-04-08T02:27:12+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/"},"wordCount":2269,"commentCount":1,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/nye-bevan2.jpg","keywords":["Aneurin Bevan","coronafirws","COVID-19","Llywodraeth Cymru","Vaughan Gething"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/","name":"Llywodraeth Cymru: wastad cam tu \u00f4l - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/nye-bevan2.jpg","datePublished":"2020-03-31T10:58:19+00:00","dateModified":"2020-04-08T02:27:12+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/nye-bevan2.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/03\/nye-bevan2.jpg","width":862,"height":433},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/03\/31\/cam-tu-ol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Llywodraeth Cymru: wastad cam tu \u00f4l"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/64898897482e6fd169018b684328ec4e","name":"Undod","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/ce0b6535b657764bdba3be40bf9acf37705ae25f41c612d18e94f00c13570330?s=96&d=mm&r=g","caption":"Undod"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/undod\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/555","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=555"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/555\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":565,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/555\/revisions\/565"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/564"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=555"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=555"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=555"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}