{"id":571,"date":"2020-04-08T02:43:53","date_gmt":"2020-04-08T01:43:53","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=571"},"modified":"2020-04-08T15:12:22","modified_gmt":"2020-04-08T14:12:22","slug":"nid-nawr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/","title":{"rendered":"Nid nawr yw&#8217;r amser i &#8220;gefnogi&#8221; yr arweinwyr annwyl."},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2>Hydref 21ain, 1966<\/h2>\n<p>Eisteddwn mewn ystafell ysgol; ar drothwy gwyliau hanner tymor. O fewn eiliadau bydd y domen enfawr o faw a gwastraff glo ar ochr y bryn uwch ein pennau yn dechrau llithro. Bydd y mwyafrif ohonom yn marw, a bydd y rhai fydd yn byw yn byw am byth gydag euogrwydd dychrynllyd.<\/p>\n<p>Ni fydd unrhyw gosb i\u2019r rhai gaiff eu talu\u2019n hael i&#8217;n ddiogelu.<\/p>\n<p>Bydd cadeirydd y Bwrdd Glo Cenedlaethol, a oedd unwaith yn ddyn dosbarth gweithiol fel ein tadau, yn cadw ei swydd &#8211; a&#8217;i swydd arall ar fwrdd Banc Lloegr &#8211; ar waetha&#8217;r ffaith y bydd yr ymchwiliad swyddogol yn dangos iddo ddweud celwydd am y peryglon oedd yn hysbys iddo. Yn ddiweddarach heddiw caiff wybod am drychineb mewn pentref mwyngloddio ond bydd yn ei anwybyddu i fynd i seremoni mewn prifysgol yn Lloegr.<\/p>\n<p>Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn arwain ymweliad brenhinol ac yn syfrdanu ein rhieni galarus drwy ddweud pa mor freintiedig ydynt i yfed te mewn cwmni o&#8217;r fath. Yna bydd yn dwyn arian a roddwyd er cof amdanom ar gyfer dyfodol ein cyd-ddisgyblion, a&#8217;i roi i&#8217;r bwrdd glo. Bydd yn mynd ymlaen i gam-drin plant eraill a chaiff elusen plant ei henwi ar ei \u00f4l. Daw yn Arglwydd gan ddwyn enw tref lofaol ar gyfer ei deitl.<\/p>\n<p>Ni fydd chaiff neb ei gosbi. Bydd y blaid wleidyddol a grewyd gan ein rhieni a&#8217;n neiniau a&#8217;n teidiau i&#8217;n cynrychioli, yn penodi cadeirydd y Bwrdd Glo i lunio&#8217;r rownd nesaf o ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch. Bydd yn sicrhau ei bod bron yn amhosibl i erlyn y rheini ymhlith asiantau pwerus y wladwriaeth sy&#8217;n lladd trwy arfau banal \u2018busnes fel arfer\u2019. A bydd plaid y perchnogion glo a laddodd gyda&#8217;r un arfau hynny yn cynnig eu sel bendith i droi ei gynigion yn gyfraith.<\/p>\n<p>Bydd y pyllau glo oedd gan ein rhieni a&#8217;n cymunedau gymaint o ofn eu colli oherwydd atgofion y 1930au newynog, yn cau beth bynnag. A bydd y cymunedau a adeiladwyd o amgylch y pyllau glo hynny yn cael eu galw &#8220;y gelyn oddi mewn&#8221; pan fyddan nhw&#8217;n meiddio gwrthsefyll.<\/p>\n<p>Gwrandewch. Mae&#8217;r domen yn dechrau llithro.<\/p>\n<p>Am genhedlaeth, ac am byth, ni fydd dial am ein trasiedi. Yng nghanol arswyd eu hawr o anobaith nid yw pobl dda yn ymgyrraedd at gasineb, ond yn achub beth bynnag a phwy bynnag a allant, gyda&#8217;r holl gariad sydd ganddynt yn weddill. Nid ydynt yn chwarae gwleidyddiaeth yng ngwres y foment, ond yn gobeithio mai\u2019r da fydd yn trechu. Erbyn inni sylweddoli mai dim ond da byw i\u2019r lladd-dai a fuom, bydd y llofruddion yng nghoridorau grym yn eistedd yn ddiogel y tu \u00f4l i\u2019r waliau sy\u2019n ein parlysu yn ein tristwch a&#8217;n dryswch. Bydd y ffeithiau eglur yn dod i&#8217;r amlwg rhy hwyr yn y dydd, fel y gall haneswyr ddweud &#8220;edrychwch, roedd anghyfiawnder yma&#8221;.<\/p>\n<p>Gwrandewch. Mae&#8217;r domen yn llithro.<\/p>\n<p>Bydd trasied\u00efau eraill fel ein un ni. Bydd yna gymdeithasegwyr a haneswyr sydd yn gwybod, ac yn dangos nad yw troseddau&#8217;r pwerus yn cael eu cosbi fel rhan o\u2019r drefn, ac sy&#8217;n cynnal dicter arwrol yn wyneb yr anghyfiawnder hwnnw, drwy yr oesoedd ac ar draws y byd.<\/p>\n<p>Ychydig fydd yn eu darllen. Bydd llai yn cymryd sylw.<\/p>\n<p>Waeth beth yw maint y drasiedi, neu faint y troseddau a gyflawnir yn enw \u2018pwyll piau hi\u2019 a \u2018busnes yn \u00f4l yr arfer\u2019 ac ymddiried yn y sawl sy\u2019n fwy cyfoethog, yn well, neu\u2019n uwchraddol, greddf gyntaf pobl dda fydd achub bywydau nawr &#8211; a gadael dydd barn tan yn ddiweddarach. Byddant yn cyfogi wrth dystio i salwch seicig y rhai sydd yn dwyn enw &#8220;Aberfan&#8221; i sgorio pwyntiau yn unig.<\/p>\n<p>Gwrandewch. Mae rhuo\u2019r llithr wedi tawelu.<\/p>\n<p>Mae cynnwrf yr achub drosodd. Mae&#8217;r ymchwiliad swyddogol ar ben. Pasiodd y degawdau. Ni newidiodd unrhyw beth.<\/p>\n<h2>Rhagfyr 31ain, 2019<\/h2>\n<p>Ysgol yw&#8217;r byd; ar drothwy&#8217;r Flwyddyn Newydd.<\/p>\n<p>Mae nant yn rhedeg trwy&#8217;r domen ar ochr y bryn uwch ei phen.<\/p>\n<p>Mae\u2019r awdurdodau wedi cael eu rhybuddio, dro ar \u00f4l tro, ond maent wedi dewis anwybyddu\u2019r rhybudd. Nid oes unrhyw elw i\u2019w ennill o gynllunio ar gyfer trychinebau.<\/p>\n<p>Mae strategaeth bandemig naw mlwydd oed llywodraeth y DU yn druenus ac wedi&#8217;i chynllunio&#8217;n berffaith i ymledu afiechyd yn gynt. Mae&#8217;r llinellau yma\u2019n nodweddiadol:<\/p>\n<blockquote><p>Mae cynulliadau cyhoeddus mawr neu ddigwyddiadau gorlawn lle gall pobl fod yn agos at ei gilydd yn ddangosyddion pwysig o &#8216;normalrwydd&#8217; &#8211; a gallant helpu i gynnal mor\u00e2l y cyhoedd yn ystod pandemig. Mae canlyniadau cymdeithasol ac economaidd argymell canslo neu ohirio cynulliadau mawr yn debygol o fod yn sylweddol&#8230;<\/p><\/blockquote>\n<p>A bydd y canllaw hwn yn profi\u2019n angeuol:<\/p>\n<blockquote><p>Nid yw Llywodraeth y DU yn bwriadu cau ffiniau, atal cynulliadau torfol na gosod rheolau ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod unrhyw bandemig.<\/p><\/blockquote>\n<p>Mae offer amddiffyn personol ar gyfer staff meddygol yn derbyn feto fel rhan o\u2019r drefn gan GIG Lloegr. Mae uwch swyddogion a gweinidogion wedi bod yn brwydro gyda\u2019r undebau Meddygon a Nyrsys ers blynyddoedd. Mae staff meddygol wedi rhybuddio am for\u00e2l isel yn gyson, ac yn ddiweddar maent wedi mynd ar streic i&#8217;w brofi.<\/p>\n<p>Mae eisoes yn arferol i leisiau cyfryngau\u2019r chwith rybuddio am annigonolrwydd cyllid y GIG, er eu bod yn cael eu boddi gan biliwnyddion a\u2019u newyddiadurwyr taeog, dylanwadwyr cyfryngau, newyddiadurwyr cyfryngau\u2019r wladwriaeth, a hysbysebu llechwraidd ar y rhwydweithiau cymdeithasol. Mae meddylfryd \u00f4l-fodern yn dal i ddominyddu&#8217;r dosbarthiadau cyfryngol, gwleidyddol a rheolaethol gan olygu bod ffeithiau anghyfforddus yn eilaidd i&#8217;w delwedd. Ac eithrio&#8217;r ffaith o bwy sy&#8217;n talu eu cyflogau &#8211; a&#8217;r bwlch dychrynllyd rhyngddynt a&#8217;r rhai nad ydynt eto wedi dysgu dweud celwydd am eu ceiniogau.<\/p>\n<p>&#8220;Nid oes nant yn rhedeg trwy&#8217;r domen&#8221; medden nhw. Os ydyn nhw&#8217;n colli cwsg dros y celwydd, maen nhw&#8217;n gwneud mewn gwelyau cyfforddus.<\/p>\n<p>Yna mae llywodraeth Tsieina yn rhybuddio Sefydliad Iechyd y Byd am fath newydd o afiechyd, gyda 44 o achosion hyd yn hyn.<\/p>\n<p>Gwrandewch. Ai dyna swn y domen yn symud uwch ein pennau?<\/p>\n<h2>Ionawr 31ain, 2020<\/h2>\n<p>Cadarnheir achosion cyntaf Prydain. Mae Ysgrifennydd Iechyd y Tor\u00efaid, Matt Hancock, yn llawn hyder serch hynny.<\/p>\n<blockquote><p>&#8220;Mae ein GIG o&#8217;r radd flaenaf wedi&#8217;i baratoi&#8217;n dda ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn y cyhoedd.&#8221;<\/p><\/blockquote>\n<p>Tridiau yn ddiweddarach, rhoddodd cenhedloedd y &#8220;Deyrnas Unedig&#8221; gyfarwyddiadau i olchi ein dwylo, ac i aros gartref os ydym wedi bod yn nhalaith Wuhan yn ddiweddar. Nid oes gorfodaeth. Nid oes unrhyw wirio mewn meysydd awyr. Mae&#8217;r llywodraeth mor wrthwynebus i lywodraethu mai ymgyrch hysbysebu golchi-a-chredu yw ei ymateb pandemig, yn ei gyfanrwydd.<\/p>\n<p>Newydd ddatgan bod Argyfwng Iechyd Cyhoeddus rhyngwladol y mae\u2019r WHO. Ond yn yr un cyfarfod, er gwaethaf cymhlethdodau arteithiol cydweithredu meddygol a diplomyddol rhyngwladol, maent yn llwyddo i gytuno ar hyn:<\/p>\n<blockquote><p>Cydnabu&#8217;r Pwyllgor hefyd fod yna lawer o bethau anhysbys o hyd, mae achosion bellach wedi&#8217;u hadrodd mewn pum rhanbarth WHO mewn un mis, ac mae trosglwyddiad person-i-berson wedi digwydd y tu allan i Wuhan a thu allan i Tsieina.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Pwyllgor yn credu ei bod yn dal yn bosibl torri ar draws lledaeniad firws, ar yr amod bod gwledydd yn rhoi mesurau cryf ar waith i ganfod yr afiechyd yn gynnar, ynysu a thrin achosion, olrhain cysylltiadau, a hyrwyddo mesurau pellhau cymdeithasol sy&#8217;n gymesur \u00e2&#8217;r risg.<\/p><\/blockquote>\n<p>Nid yw&#8217;r tirlithriad yn dod eto. Efallai ein bod ni&#8217;n ddiogel. Efallai bod amser.<\/p>\n<p>Nawr, a\u2019r chwe wythnos nesaf, yw&#8217;r amser pan all y pwerus, os ydyn nhw&#8217;n malio ac os oes ganddyn nhw&#8217;r asgwrn cefn sy&#8217;n cyfiawnhau eu cyflogau enfawr, gymryd camau pendant. Gallant sefyll a dweud mai dyma&#8217;r argyfwng a fydd yn diffinio ein bywydau. Gallant weiddi bod angen i bawb dynnu at ei gilydd. Gallant ddweud wrthym nad yw&#8217;r stociau o offer amddiffynnol a awyryddion sydd eu hangen arnom yn barod, a bod yn rhaid inni eu paratoi nawr. Gallant ymddangos ar ein sgriniau teledu gyda wynebau difrfiol gan adrodd geiriau tawel am sut mae angen i ni wirio ac olrhain cysylltiadau pawb sydd wedi bod ar wyliau neu ymweld ag unrhyw le y mae Covid-19 yn bresennol.<\/p>\n<p>Gallant edrych i fyw ein llygaid, a dweud wrthym fod angen i ni gau&#8217;r ysgolion a&#8217;r prifysgolion o fewn dyddiau, fel y bydd yn ddiogel eu hailagor eto o fewn misoedd. Gallant ddangos lluniau ffansi inni o ystafell friffio COBRA, a&#8217;n cyflwyno i&#8217;r arbenigwyr meddygol y maent yn mynd i ddibynnu arnynt.<\/p>\n<p>Gallant ddweud wrth y BBC am dorri ar draws ei rowndiau dibendraw o sioeau &#8220;sut i wneud eich t\u0177 yn fwy diflas&#8221; a chyfweld \u00e2 meddygon a gweithwyr gofal a pharafeddygon am union fanylion y cit amddiffynnol y mae angen eu gwneud, dangos cemegwyr a biolegwyr yn cynnal dosbarthiadau teledu ynghylch sut yn union mae&#8217;r firws yn ymosod ar y corff a beth y gellir ei wneud i&#8217;w atal.<\/p>\n<p>Gallant wneud hyn i gyd, mewn amrantiad, heb ddeddfwriaeth newydd. Gallant alw&#8217;r biliwnyddion i mewn a dweud wrthynt, nes eu bod wedi curo Coronavirus, rhaid iddynt helpu&#8217;r wlad, yn hytrach na dim ond helpu eu hunain.<\/p>\n<p>Gallant actio eu ffantas\u00efau o fod yn gymeriadau hanesyddol a oedd yn bwysig, a wnaeth rywbeth yn iawn ar y pryd. Gall Boris Johnson hyd yn oed gael ei foment Churchill, yn lle bod yn Chamberlain.<\/p>\n<p>Yn y Senedd, gall Vaughan Gething ddweud wrthym yn ddifrifol fod ein GIG gwerthfawr mewn perygl o gael eu llethu os na weithredwn yn awr fel cenedl. Gall Mark Drakeford fod y Prif Weinidog a achubodd fywydau eich rhieni oedrannus a&#8217;ch neiniau a&#8217;ch teidiau. Gall Kirsty Williams fod y Democrat Rhyddfrydol defnyddiol cyntaf erioed a sefydlu cynllun cydlynol a gwych i gyflymu dysgu ar-lein a chydweithrediad labordai ar draws addysg Cymru. Gall y Senedd ddweud wrth y twristiaid am aros adref; a bydd y Cymry yn sicrhau eu bod yn gwneud hynny.<\/p>\n<p>Yn niffyg hynny, gall ein swyddogion meddygol cenedlaethol fynd ar eu liwt eu hunain. Gallant dynnu sylw at rybuddion cynyddol Sefydliad Iechyd y Byd. Gall y gwyddonwyr ymddygiadol gwympo ar eu bai a datgan bod y lledaeniad yn rhy gyflym, nid yw&#8217;r \u2018hergwd\u2019 yn gweithio. Gall y cynghorwyr gwyddonol dorri rhengoedd a chyfaddef bod rhywbeth i&#8217;w ofni. Dim ond un ffigwr mewn awdurdod sy&#8217;n gorfod gweithredu a gellir lleihau&#8217;r arswyd.<\/p>\n<p>Gall unrhyw un ohonynt ddweud wrthym fod busnes fel yr arfer wedi dod i ben; a chaiff y swyn ei dorri.<\/p>\n<p>Ond does &#8216;na&#8217;r un yn gwneud.<\/p>\n<p>Trwy dair wythnos o Fawrth 2020 mae gofyn inni dderbyn &#8220;yr ergyd heb gwyno&#8221; ac &#8220;imiwnedd yr haid&#8221;. Mae Gething a Drakeford yn gwrthod atal g\u00eam rygbi, a phobl Cymru (y lleiaf tebygol o wneud o holl genhedloedd y byd) yn gorfodi tro-pedal ar Undeb Rygbi Cymru &#8211; dim ond unwaith y bydd arian y tocynnau wedi&#8217;i gymryd. Rydym yn gweld safleoedd carafanau ar agor, tra bod arweinwyr y Senedd yn wilibowan ynghylch pa bwerau sydd ganddyn nhw i&#8217;w cau. Gwelwn filiwnyddion yn rhedeg i&#8217;w hynysoedd preifat ac yn cardota am help llaw am eu cwmn\u00efau hedfan hoff. Rydym yn cynnal y Cwpan Aur Cheltenham. Mae\u2019r Stereophonics yn chwarae&#8217;r gigs \u2013 fydd yn eu dinistrio. Mae cadwyni o dafarndai yn gwrthod cau oherwydd, wedi&#8217;r cyfan, nhw sy&#8217;n berchen arnom ni. Clywn Lee Waters yn dweud wrthym am roi&#8217;r gorau i sgorio pwyntiau. Cawn filiwn o bobl yn byw ar fin y gyllell. Rydym yn gweld ein cytundeb profion yn cael y caibosh gan San Steffan fel pe na bai ein meirw o bwys. Derbyniwn wyddoniaeth ymddygiadol ffuantus sy\u2019n cael ei bwmpio allan gan lwfrgwn &#8211; sy\u2019n cael eu hailddiffinio fel &#8220;gwyddoniaeth&#8221; oherwydd ei bod yn Brydeinig, a phobl yng Nghymru yn marw o&#8217;n hufudd-dod slafaidd wrth i hyd yn oed Donald Trump wawdio hurtrwydd ein llywodraethwyr.<\/p>\n<h2>Ffyliaid Ebrill 2020<\/h2>\n<p>Gwrandewch. Mae&#8217;r llithriad wedi cychwyn.<\/p>\n<p>Yn ystod y tridiau nesaf bydd niferoedd bras y meirwon yng Nghymru yn fwy na&#8217;r cyfanswm a fu farw yn Ysgol Pantglas, a&#8217;r rhai na chafodd erioed gyfiawnder.<\/p>\n<p>Bydd y byd yn newid yn llwyr, hyd yn oed i&#8217;r rhai ohonom sy&#8217;n goroesi. Hyd yn oed i&#8217;r rhai sy&#8217;n dal gafael ar eu cariadon, rhieni, chwiorydd, brodyr, ffrindiau a chydweithwyr. Ond mae&#8217;r bobl a&#8217;n harweiniodd i&#8217;r drychineb yn dal i fod yno. Ac mae&#8217;r tlotaf a&#8217;r mwyaf bregus yn cael eu carcharu dan do, ar drugaredd gofynion rhent a chymhellion ac arbedion bychan. Dim ond ein dicter a&#8217;n gwyliadwriaeth fydd yn gallu chwalu oes o &#8220;fusnes fel yr arfer&#8221;.<\/p>\n<p>Nid nawr yw&#8217;r amser i &#8220;gefnogi&#8221; yr arweinwyr annwyl. Dyma&#8217;r amser i\u2019w bychanu ac aflonyddu ar y rhai na chyflawnodd eu swyddi: mas o fywyd cyhoeddus; eu hesgymuno o\u2019n hanes.<\/p>\n<p><em><a href=\"https:\/\/www.scotchcamel.com\/\">Ted Jackson<\/a>, Ebrill 4ydd, 2020<br \/>\n<\/em><em>Cyfieithiad Cymraeg: Angharad Tomos<br \/>\nLlun: <a title=\"View profile\" href=\"https:\/\/www.geograph.org.uk\/photo\/5295231\" rel=\"cc:attributionURL dct:creator\">Mel Hartshorn<\/a> (CC BY SA)<\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Hydref 21ain, 1966 Eisteddwn mewn ystafell ysgol; ar drothwy gwyliau hanner tymor. O fewn eiliadau bydd y domen enfawr o faw a gwastraff glo ar ochr y bryn uwch ein &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Nid nawr yw&#8217;r amser i &#8220;gefnogi&#8221; yr arweinwyr annwyl.&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":23,"featured_media":576,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[93,86,83],"class_list":["post-571","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-aberfan","tag-coronafirws","tag-covid-19","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Nid nawr yw&#039;r amser i &quot;gefnogi&quot; yr arweinwyr annwyl. - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Nid nawr yw&#039;r amser i &quot;gefnogi&quot; yr arweinwyr annwyl. - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Hydref 21ain, 1966 Eisteddwn mewn ystafell ysgol; ar drothwy gwyliau hanner tymor. O fewn eiliadau bydd y domen enfawr o faw a gwastraff glo ar ochr y bryn uwch ein &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Nid nawr yw&#8217;r amser i &#8220;gefnogi&#8221; yr arweinwyr annwyl.&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-04-08T01:43:53+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-04-08T14:12:22+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/aberfan.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1024\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"676\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Ted Jackson\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Ted Jackson\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"21 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/\"},\"author\":{\"name\":\"Ted Jackson\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/bbf8d9f2675443cbf8e46fc5e783476d\"},\"headline\":\"Nid nawr yw&#8217;r amser i &#8220;gefnogi&#8221; yr arweinwyr annwyl.\",\"datePublished\":\"2020-04-08T01:43:53+00:00\",\"dateModified\":\"2020-04-08T14:12:22+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/\"},\"wordCount\":4228,\"commentCount\":2,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/aberfan.jpg\",\"keywords\":[\"Aberfan\",\"coronafirws\",\"COVID-19\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/\",\"name\":\"Nid nawr yw'r amser i \\\"gefnogi\\\" yr arweinwyr annwyl. - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/aberfan.jpg\",\"datePublished\":\"2020-04-08T01:43:53+00:00\",\"dateModified\":\"2020-04-08T14:12:22+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/aberfan.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/aberfan.jpg\",\"width\":1024,\"height\":676},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Nid nawr yw&#8217;r amser i &#8220;gefnogi&#8221; yr arweinwyr annwyl.\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/bbf8d9f2675443cbf8e46fc5e783476d\",\"name\":\"Ted Jackson\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/43aeea3ab5d8b8b927c159511970d4f7a0ac4d79e33097769ec689522ac44908?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/43aeea3ab5d8b8b927c159511970d4f7a0ac4d79e33097769ec689522ac44908?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/43aeea3ab5d8b8b927c159511970d4f7a0ac4d79e33097769ec689522ac44908?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Ted Jackson\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/tedjackson\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Nid nawr yw'r amser i \"gefnogi\" yr arweinwyr annwyl. - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Nid nawr yw'r amser i \"gefnogi\" yr arweinwyr annwyl. - undod","og_description":"Hydref 21ain, 1966 Eisteddwn mewn ystafell ysgol; ar drothwy gwyliau hanner tymor. O fewn eiliadau bydd y domen enfawr o faw a gwastraff glo ar ochr y bryn uwch ein &hellip; Parhau i ddarllen \"Nid nawr yw&#8217;r amser i &#8220;gefnogi&#8221; yr arweinwyr annwyl.\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-04-08T01:43:53+00:00","article_modified_time":"2020-04-08T14:12:22+00:00","og_image":[{"width":1024,"height":676,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/aberfan.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Ted Jackson","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Ted Jackson","Est. reading time":"21 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/"},"author":{"name":"Ted Jackson","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/bbf8d9f2675443cbf8e46fc5e783476d"},"headline":"Nid nawr yw&#8217;r amser i &#8220;gefnogi&#8221; yr arweinwyr annwyl.","datePublished":"2020-04-08T01:43:53+00:00","dateModified":"2020-04-08T14:12:22+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/"},"wordCount":4228,"commentCount":2,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/aberfan.jpg","keywords":["Aberfan","coronafirws","COVID-19"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/","name":"Nid nawr yw'r amser i \"gefnogi\" yr arweinwyr annwyl. - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/aberfan.jpg","datePublished":"2020-04-08T01:43:53+00:00","dateModified":"2020-04-08T14:12:22+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/aberfan.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/04\/aberfan.jpg","width":1024,"height":676},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/04\/08\/nid-nawr\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Nid nawr yw&#8217;r amser i &#8220;gefnogi&#8221; yr arweinwyr annwyl."}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/bbf8d9f2675443cbf8e46fc5e783476d","name":"Ted Jackson","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/43aeea3ab5d8b8b927c159511970d4f7a0ac4d79e33097769ec689522ac44908?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/43aeea3ab5d8b8b927c159511970d4f7a0ac4d79e33097769ec689522ac44908?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/43aeea3ab5d8b8b927c159511970d4f7a0ac4d79e33097769ec689522ac44908?s=96&d=mm&r=g","caption":"Ted Jackson"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/tedjackson\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/571","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/23"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=571"}],"version-history":[{"count":9,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/571\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":583,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/571\/revisions\/583"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/576"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=571"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=571"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=571"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}