{"id":630,"date":"2020-05-07T21:00:07","date_gmt":"2020-05-07T20:00:07","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=630"},"modified":"2020-05-07T21:14:40","modified_gmt":"2020-05-07T20:14:40","slug":"ve","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/07\/ve\/","title":{"rendered":"Diwrnod VE &#8211; a&#8217;r gwirioneddau eraill am ryfel"},"content":{"rendered":"<p>Mai 1af oedd Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr. G\u0175yl Banc fel arfer, ond n\u00f4l yn 2019 cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y byddai yr \u0174yl Banc yn cael ei symud i Mai 8fed yn 2020 er mwyn dathlu 75 mlynedd ers Diwrnod VE \u2013 sef y diwrnod pan ddaeth yr Ail Ryfel Byd i ben yn Ewrop. Y bwriad oedd cael jambori tridiau i gofio, nes i Covid-19 ymosod a gorfodi newid yn y cynlluniau.<\/p>\n<p>Fyddwn i ddim yn meiddio dweud nad oes yna werth i gofio diwedd y Rhyfel honno. Bellach, dim ond dyrnaid ohonom sydd bellach yn cofio byw drwy\u2019r profiad. Ac yn sicr, mae llawer o\u2019r rhai a fu\u2019n rhan o\u2019r gyflafan wedi treulio oes yn cofio mewn rhyw ffordd neu\u2019i gilydd. Aeth gormod o lawer i\u2019w beddau, llawer yn gynamserol, wedi gorfod byw yr hunllef yn feunyddiol. Wedi methu cau\u2019r drws ar erchyllterau.<\/p>\n<p>Iddyn nhw, nid methu a chofio oedd y felltith, ond methu ag anghofio.<\/p>\n<p>Gweddus yw i ni i gyd barchu hynny. A diolch mai ail-law ydi ein syniadau ni am sut beth oedd bod yn rhan o\u2019r gwallgofrwydd mawr.<\/p>\n<p>Mae yna gofio tawel, myfyrgar, trist, hiraethus, a gwylaidd. Y math o gofio a fyddai cymaint o bobl gyffredin a rwygwyd o gysur eu cyfanfyd i greulondeb rhyfel yn ei wneud. Pobl nad oedd yn dymuno ymladd yn y lle cyntaf, heblaw fod gorfodaeth arnyn nhw. Pobl addfwyn a thyner a garai eu teuluoedd, ac a orfodwyd i ladd eraill oedd yn addfwyn a thyner, ac a garent eu teuluoedd. Pobl na fyddent fyth yn s\u00f4n am eu profiadau, gan mor gignoeth oedd yr atgofion. Pobl efo pyllau diwaelod o ddioddefaint yn eu llygaid. Fel milwyr ar hyd yr oesau.<\/p>\n<p>Ond mae yna fath arall o gofio. Cofio sy\u2019n dwyn yr achlysur ar gyfer dibenion gwleidyddol sinigaidd. Cofio sy\u2019n llurgunio\u2019r cofio, yn herwgipio arwriaeth, yn rhamantu trasiedi. Cofio sy\u2019n dathlu militariaeth a jingoistiaeth Prydain Imperialaidd. Dyna\u2019r math o gofio swyddogol a gawn ym Mhrydain.<\/p>\n<p>Y math o gofio sy\u2019n rhoi bri i\u2019r meddylfryd o Brydain unedig yn erbyn Ewrop.<\/p>\n<p>Digon posib mai dyna oedd rhan o fwriad gwreiddiol creu G\u0175yl Banc \u2013 sef atgyfnerthu Brecsit. Wrth gwrs, bu\u2019n rhaid addasu erbyn hyn. Felly defnyddir yr achlysur i gyplysu ein trafferthion presennol ynghanol yr haint efo \u2018rhyfel\u2019 yn erbyn \u2018gelyn\u2019 y feirws.<\/p>\n<p>Daw prawf pendant yng ngeiriau Tony Hall, Prif Gyfarwyddwr y BBC:<\/p>\n<blockquote><p>At a time when many are looking for unity and hope, the BBC will bring households together to remember the past, pay tribute to the Second World War generation and honour our heroes both then and now.<\/p><\/blockquote>\n<p>Ceisio ail-greu \u2018ysbryd y rhyfel\u2019 (wartime spirit) yn y cyfnod hwn. A thrwy hynny gobeithio tynnu sylw oddi wrth ddiffygion y Llywodraeth yn Llundain (a Llywodraeth Cymru) sy wedi dod a ni i\u2019r fan lle mae mwy o bobl wedi marw o\u2019r haint yn y Deyrnas Gyfunol nag unman arall yn y byd heblaw yr Unol Daleithiau. I Lywodraeth lle mae dweud y gwir yn opsiwn nid yn rheidrwydd, dydi creu hanes ffug yn ddim byd newydd. Ond mae\u2019r llygredd moesol yn mynd yn ddyfnach nag un blaid \u2013 mae\u2019n rhan o feddylfryd y Deyrnas Gyfunol.<\/p>\n<p>Gallwn ddeall pam, yn 1945, ar \u00f4l blynyddoedd o ryfel, fod pobl eisiau dathlu efo parti yn y stryd a chroesawu\u2019r hogiau adref. Ond cyfnod gwahanol yw hwn, a rhaid cwestiynu beth sydd wedi ei ddarparu ar ein cyfer eleni. Dyma\u2019r arlwy.<\/p>\n<ul>\n<li>Darllediad gan Mrs Windsor<\/li>\n<li>Darlledu rhannau o araith Churchill ar ddiwrnod VE<\/li>\n<li>Galwadau fideo rhwng Boris, y Windsors a rhai o oroeswyr y Rhyfel<\/li>\n<li>Mark Drakeford am efelychu hyn yng Nghymru<\/li>\n<li>Carlo yn darllen o ddyddiadur ei daid ar ddiwrnod VE<\/li>\n<li>Cyfres o raglenni ar y BBC, yn cynnwys Katherine Jenkins<\/li>\n<li>Annog pobl i gynnig llwncdestun i gofio am 3 y pnawn<\/li>\n<li>Annog pobl i roi llun o filwr o\u2019r Rhyfel yn y ffenest<\/li>\n<li>Pecyn gan y llywodraeth er mwyn creu addurniadau, baneri, gemau a deunydd addysgol<\/li>\n<li>Ac i gloi, yn dilyn Mrs Windsor am 9 yr hwyr, annog pawb i gyd-ganu \u201cWe\u2019ll Meet Again\u201d a anfarwolwyd gan Vera Lynn adeg y Rhyfel<\/li>\n<\/ul>\n<p>Diau fod cofio fel hyn yn siwtio llawer. Digon posib fod rhai o\u2019r hen filwyr wrth eu boddau. Ac wrth gwrs fod camp aruthrol yr hen filwr, y Capten Tom Moore, yn codi miliynau i\u2019r Gwasanaeth Iechyd i\u2019w ganmol i\u2019r cymylau (er ei bod yn sgandal mai esgeulustod y Llywodraeth achosodd y prinder yn y Gwasanaeth yn y lle cyntaf).<\/p>\n<p>Gochelwn rhag coelio\u2019r fersiwn yma o hanes heb gydnabod fod yna wirioneddau eraill am ryfel nad yw Llywodraeth Llundain \u2013 na Llywodraeth Cymru o ran hynny \u2013 am i ni holi rhyw lawer amdanynt. Oherwydd i ni gael ein cyflyru i dderbyn myth y sbloet chwerw-felys, ramantaidd am yr Ail Ryfel. Rhyfel cyfiawn. Rhyfel arwrol. Rhyfel na ellid ei osgoi. Rhyfel gwneud ein rhan. Rhyfel dros ryddid.<\/p>\n<p>Effaith y myth yma yw ceisio atgyfnerthu y syniad o Brydain Imperialaidd, Frenhinol, bwysig.<\/p>\n<p>Creu ymdeimlad fod Prydain ar grws\u00e2d cyfiawn yn y byd, ac yn deilwng o\u2019i phriod le fel un o\u2019r gwledydd sy\u2019n cyfrif. Dyma\u2019r hanes a gyflwynir nid yn unig i oedolion, ond i blant, er mwyn llywio eu byd-olwg i gyfeiriad penodol \u2013 sef mai Oes Aur Prydain oedd yr Ymerodraeth, fod y ddau Ryfel Byd yn anturiaethau cyfiawn, a fod Prydain yn dal i fod yn B\u0175er Mawr. A dro ar \u00f4l tro, sonnir am \u201cuno\u2019r wlad\u201d \u2013 sef y Deyrnas Gyfunol, a pheidio a chydnabod y gwledydd unigol.<\/p>\n<p>Ac yn y dyddiau yma yn arbennig, creu hinsawdd lle mae unrhyw gwestiynu am y pethau hyn yn gyfystyr a brad, ac yn ennyn casineb yr haid.<\/p>\n<p>Dyna pam mae hi\u2019n hawdd i Lywodraethau gael rhwydd hynt i wneud pethau sy\u2019n wrthun. Gwerthu arfau rhyfel i Sawdi Arabia, a\u2019r arfau yn cael eu defnyddio i ladd y diniwed yn yr Yemen. Adnewyddu Trident ar gost anhygoel o uchel. Mynnu bod \u00e2 rhan flaenllaw mewn rhyfeloedd tramor fel yn Irac ac Afghanistan. Mae\u2019n anorfod fod pobl gyffredin y gwledydd mae Prydain yn ymosod arnynt yn cael eu lladd wrth y miloedd bob tro. Ac wrth gwrs mae hyfforddiant milwrol yn dad-ddynoli dyn ac yn ei droi yn beiriant sy\u2019n fodlon gwneud pethau na fyddai fyth yn breuddwydio am eu gwneud fel arfer. Trais yn arwain yn anochel at ragor o drais.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gallu i fedru ymarfer grym milwrol yn gyffur mae\u2019r wladwriaeth Brydeinig yn hollol gaeth iddo.<\/p>\n<p>Yn y cyfamser, mae\u2019r darnau o ddynion a ddaw allan o\u2019r Lluoedd Arfog yn cael eu gor-gynrychioli mewn sawl maes truenus. Dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol. Methu dygymod efo bywyd pob dydd. Yn garcharorion. Yn ddigartref ac yn cysgu ar y stryd. A rhain yn aml yn bobl wedi eu targedu i ymuno yn y lle cyntaf am eu bod yn dod o drefi tlawd, a\u2019r Lluoedd Arfog yn cynnig dihangfa.<\/p>\n<p>Nhw sy\u2019n talu\u2019r pris am freuddwydion ff\u00f4l y rhyfelgwn. Nhw sy\u2019n galluogi\u2019r diwydiant arfau i ymelwa. Nhw sy\u2019n cael eu rhoi o\u2019r neilltu a chael eu anghofio \u2013 heblaw pan fydd angen sioe.<\/p>\n<p>Dydi dweud \u201cdiolch\u201d am ddiwrnod ddim yn trwsio dy gorff, nac yn iachau dy feddwl, na chwaith yn dod a\u2019th ffrindiau yn \u00f4l.<\/p>\n<p>Buddugoliaeth yn erbyn Ffasgaeth a gofir ar ddiwrnod VE. Ffasgaeth a ddatblygodd mewn sawl gwlad ac a gafodd rwydd hynt i dyfu\u2019n rym maleisus a chreulon. I raddau, cr\u00ebwyd yr amgylchiadau ar ei gyfer gan anghyfiawnder Cytundeb Versailles ar \u00f4l y Rhyfel Mawr. Fedrai Hitler ddim ffynnu mewn gwlad gytbwys a theg. Yna dangosodd Franco yn Sbaen nad oedd gan wledydd eraill stumog i wrthwynebu os nad oedd eu buddiannau nhw yn cael eu bygwth \u2013 dim ond sosialwyr cyffredin (gan gynnwys Cymry) o\u2019r gwledydd hyn welodd y peryg a mynd i gefnogi\u2019r Weriniaeth yn Sbaen. Safai Llywodraeth Prydain o\u2019r naill du yn swyddogol, ond mae tystiolaeth fod llawer o\u2019r sefydliad Prydeinig yn cefnogi Franco. Yno yn 1937 y gwelwyd y bomio diwydiannol ar drigolion tref boblog gyntaf oll gan yr Almaenwyr a\u2019r Eidalwyr, fel y cofiwn o ddarlun enwog Picasso o Gernika\/Guernica yng Ngwlad y Basg. (Yn dilyn pwysau gan y cyhoedd yma, ac yn groes i ddymuniad y Llywodraeth, rhoddwyd lloches i 200 o blant o Wlad y Basg yng Nghymru).<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-628\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/guernica-picasso.jpg\" alt=\"\" width=\"1600\" height=\"715\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/guernica-picasso.jpg 1600w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/guernica-picasso-300x134.jpg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/guernica-picasso-1024x458.jpg 1024w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/guernica-picasso-768x343.jpg 768w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/guernica-picasso-1536x686.jpg 1536w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/guernica-picasso-1568x701.jpg 1568w\" sizes=\"auto, (max-width: 1600px) 100vw, 1600px\" \/><\/p>\n<p>Methiant i wrthwynebu yn ddigon cynnar a olygodd, yn y pendraw, fod pobl gyffredin o sawl gwlad wedi eu llusgo i\u2019r gyflafan. Amcangyfrifir fod o 70 i 85 miliwn o bobl wedi colli eu bywydau.<\/p>\n<p>Efallai na ddylem synnu at hynny chwaith \u2013 buddiannau tybiedig y wladwriaeth gaiff y flaenoriaeth bob tro, nid tegwch neu gyfiawnder sefyllfa benodol. Edrychwch beth ddigwyddodd yng Ngwlad Groeg. Wythnosau yn unig ar \u00f4l i\u2019r Almaenwyr gael eu trechu yno yn 1944 gan y Partisaniaid &#8211; dewrion gwerin gwlad &#8211; rhoddodd Churchill orchymyn i filwyr Prydain danio ar dorf heddychlon yn Athen, a rhoi gynnau i Roegwyr asgell dde oedd wedi ochri efo\u2019r Natsiaid. Lladdwyd 28, ac anafwyd cannoedd. Rhesymeg Churchill oedd fod comiwnyddiaeth yn rhy gryf ymysg y Partisanisiaid, ac y byddai hynny yn drysu ei gynlluniau i adfer y Frenhiniaeth yno, a chadw Comiwnyddiaeth draw. Dechrau y Rhyfel Oer cyn diwedd y rhyfel go iawn! Dyna i chi ddangos fod ystyriaethau buddiannau tybiedig Prydain yn bwysicach na chyfiawnder a rhyddid \u2013 fel yn achos Sbaen. Felly y bu, a felly y mae.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ffordd y mae\u2019r fuddugoliaeth yn erbyn Ffasgaeth yn cael ei chofio yma ar ddiwrnod VE yn dangos nodweddion o\u2019r union feddylfryd honno.<\/p>\n<p>Gallwn gael ein tywys i lawr y llwybr dinistriol hwnnw, yn enwedig a ninnau wedi ein cyflyru i dderbyn cyfyngiadau ar ein hawliau arferol (am resymau dilys, mae\u2019n deg dweud) yn y cyfnod unigryw hwn. Caiff y darllenydd ystyried os yw rhai o\u2019r nodweddion a gysylltir \u00e2 Ffasgaeth yn amlygu eu hunain yma:<\/p>\n<ul>\n<li>Arweinydd cryf, carismataidd<\/li>\n<li>Tagu gwrthwynebiad<\/li>\n<li>Asgell dde eithafol<\/li>\n<li>Dinasyddion militaraidd<\/li>\n<li>Rhyfel ac imperialaeth i adfywio gwladgarwch<\/li>\n<li>Symboliaeth ramantaidd i greu myth am y \u2018genedl\u2019<\/li>\n<li>Hiliaeth<\/li>\n<\/ul>\n<p>Wrth gwrs, dydyn ni ddim wedi gweld pethau fel gwladwriaeth un blaid, defnyddio grym corfforol i ddileu gwrthwynebwyr, a throi cefn yn llwyr ar ddemocratiaeth. A nid yw Johnson, ar waetha\u2019i ffaeleddau amlwg, yn yr un cae a\u2019r triawd ofnadwy o Hitler, Mussolini a Franco. Ond dylem ochel rhag y rhai sy\u2019n sefyll yn y cysgodion yn disgwyl eu cyfle.<\/p>\n<p>Cyfnod hynod o fregus i ryddid yw hwn ar sawl ystyr.<\/p>\n<p>Mae\u2019r celfi sydd i law bellach yn golygu nad oes yn rhaid, o anghenraid, defnyddio trais eithafol i reoli. Daeth oes cloddio data, ysbio digidol a chloffrwymau dyled a chyfalaf i\u2019n dofi. A daw rhagor yn y dyfodol, pethau fel Deallusrwydd Artiffisial. Y bobl fydd yn rheoli\u2019r pethau hyn fydd yn ein rheoli ni.<\/p>\n<p>Cofiwn <a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/First_they_came_...\">rybudd<\/a> Niemoller: \u201cYn gyntaf mi ddaethon nhw am y Sosialwyr\u201d&#8230;<\/p>\n<p>Byddwn effro, byddwn eofn, byddwn gadarn.<\/p>\n<p>A chofiwn y meirwon yn weddus, yn wylaidd a thawel.<\/p>\n<h2>Cyfeirnodau<\/h2>\n<ul>\n<li>Dathliadau https:\/\/www.gov.uk\/government\/news\/her-majesty-the-queen-to-send-a-message-to-the-nation-to-mark-75th-anniversary-of-ve-day<\/li>\n<li>Gernika\/Guernica https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Bombing_of_Guernica<\/li>\n<li>Groeg https:\/\/www.theguardian.com\/world\/2014\/nov\/30\/athens-1944-britains-dirty-secret<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mai 1af oedd Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr. G\u0175yl Banc fel arfer, ond n\u00f4l yn 2019 cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y byddai yr \u0174yl Banc yn cael ei symud i Mai &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/07\/ve\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Diwrnod VE &#8211; a&#8217;r gwirioneddau eraill am ryfel&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":14,"featured_media":634,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[99],"class_list":["post-630","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-rhyfel","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Diwrnod VE - a&#039;r gwirioneddau eraill am ryfel - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Diwrnod VE - a&#039;r gwirioneddau eraill am ryfel - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mai 1af oedd Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr. G\u0175yl Banc fel arfer, ond n\u00f4l yn 2019 cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y byddai yr \u0174yl Banc yn cael ei symud i Mai &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Diwrnod VE &#8211; a&#8217;r gwirioneddau eraill am ryfel&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/07\/ve\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-05-07T20:00:07+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-05-07T20:14:40+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/jac.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1900\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"601\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Robat Idris\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Robat Idris\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"19 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/\"},\"author\":{\"name\":\"Robat Idris\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91\"},\"headline\":\"Diwrnod VE &#8211; a&#8217;r gwirioneddau eraill am ryfel\",\"datePublished\":\"2020-05-07T20:00:07+00:00\",\"dateModified\":\"2020-05-07T20:14:40+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/\"},\"wordCount\":3836,\"commentCount\":1,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/jac.jpg\",\"keywords\":[\"rhyfel\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/\",\"name\":\"Diwrnod VE - a'r gwirioneddau eraill am ryfel - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/jac.jpg\",\"datePublished\":\"2020-05-07T20:00:07+00:00\",\"dateModified\":\"2020-05-07T20:14:40+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/jac.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/jac.jpg\",\"width\":1900,\"height\":601},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Diwrnod VE &#8211; a&#8217;r gwirioneddau eraill am ryfel\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91\",\"name\":\"Robat Idris\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Robat Idris\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/robatidris\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Diwrnod VE - a'r gwirioneddau eraill am ryfel - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Diwrnod VE - a'r gwirioneddau eraill am ryfel - undod","og_description":"Mai 1af oedd Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr. G\u0175yl Banc fel arfer, ond n\u00f4l yn 2019 cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y byddai yr \u0174yl Banc yn cael ei symud i Mai &hellip; Parhau i ddarllen \"Diwrnod VE &#8211; a&#8217;r gwirioneddau eraill am ryfel\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/07\/ve\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-05-07T20:00:07+00:00","article_modified_time":"2020-05-07T20:14:40+00:00","og_image":[{"width":1900,"height":601,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/jac.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Robat Idris","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Robat Idris","Est. reading time":"19 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/"},"author":{"name":"Robat Idris","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91"},"headline":"Diwrnod VE &#8211; a&#8217;r gwirioneddau eraill am ryfel","datePublished":"2020-05-07T20:00:07+00:00","dateModified":"2020-05-07T20:14:40+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/"},"wordCount":3836,"commentCount":1,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/jac.jpg","keywords":["rhyfel"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/","name":"Diwrnod VE - a'r gwirioneddau eraill am ryfel - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/jac.jpg","datePublished":"2020-05-07T20:00:07+00:00","dateModified":"2020-05-07T20:14:40+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/jac.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/jac.jpg","width":1900,"height":601},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2020\/05\/07\/ve\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Diwrnod VE &#8211; a&#8217;r gwirioneddau eraill am ryfel"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91","name":"Robat Idris","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","caption":"Robat Idris"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/robatidris\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/630","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/14"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=630"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/630\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":635,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/630\/revisions\/635"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/634"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=630"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=630"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=630"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}