{"id":654,"date":"2020-05-18T22:01:48","date_gmt":"2020-05-18T21:01:48","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=654"},"modified":"2021-06-11T20:22:44","modified_gmt":"2021-06-11T19:22:44","slug":"datrys-digartrefedd-solving-homelessness","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/","title":{"rendered":"Cam nesaf Cymru: Datrys digartrefedd ar y stryd"},"content":{"rendered":"<p><em>Rhan o gyfres <a href=\"http:\/\/undod.cymru\/cy\/tag\/cam-nesaf-cymru\/\">Cam nesaf Cymru<\/a><\/em><\/p>\n<p>&#8220;Nid oedd y system ddigartrefedd flaenorol yn yn briodol nac yn deg, ac mae&#8217;r camau beiddgar a gymerwyd yn ystod yr argyfwng hwn yn dangos hyn yn glir. Rhaid peidio \u00e2 mynd yn \u00f4l at yr hen system. Rhaid i\u2019r argyfwng fod yn gatalydd i ddatrys digatrefedd.&#8221;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/Digartre_Newydd_Homeless_New.gif\" alt=\"\" width=\"1000\" height=\"1000\" \/><\/p>\n<p>Yng Nghaerdydd, dinas sydd, er mawr cywilydd, wedi dod yn gyfystyr \u00e2 digartrefedd, mae coronafeirws wedi, i bob pwrpas, dod \u00e2 chysgu tu allan i ben.<\/p>\n<p>Fis yn \u00f4l, roedd bygythiad y firws yn cynrychioli sefyllfa hunllefus i wasanaethau digartrefedd y ddinas.<\/p>\n<p>Roedd nifer sylweddol o&#8217;r rhai oedd yn cysgu allan yn wynebu risg arbennig o coronafeirws oherwydd bod eu systemau imiwnedd eisoes wedi&#8217;u gwanhau. Petai&#8217;r firws yn cydio ymysg y boblogaeth ddigartref\u2014p&#8217;un ai\u2019n cyd-fyw yn agos gyda&#8217;i gilydd mewn hosteli neu&#8217;n cysgu allan\u2014byddai&#8217;n torri drwyddynt fel menyn, gan olygu&#8217;r posibilrwydd o efelychu&#8217;r clystyrau trasig rydym yn eu gweld mewn cartrefi gofal ar hyn o bryd. Mae&#8217;r boblogaeth ddigartref hefyd yn ifanc (h.y. y gr\u0175p sy&#8217;n cael blaenoriaeth ar gyfer peiriannau anadlu), a gallai cynnydd sylweddol mewn achosion yn eu plith ychwanegu straen enfawr ar wasanaeth iechyd lleol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r ffordd y mae darpariaeth ddigartrefedd yn y ddinas wedi cael ei sefydlu yn hanesyddol yn gwneud heintio torfol ymysg y digartref yn bosibilrwydd go iawn. Mae bellach yn amlwg bod datrysiad hirsefydlog o &#8216;ofod llawr&#8217; (lle mae&#8217;r rhai sy&#8217;n cyflwyno eu hunain fel digartref yn cael eu cynnig llawr i gysgu arno yn un o adeiladau&#8217;r Cyngor) yn amhriodol yn ystod yr argyfwng, oherwydd golyga&#8217;r amodau gorlawn bod ymbellhau cymdeithasol a hunanynysu yn amhosib. Yn yr un modd, mae hefyd yn amlwg bellach bod llochesi nos mewn argyfwng, a oedd yn arfer cynnwys dau neu dri o&#8217;r sawl a oedd yn cysgu allan ymhob ystafell, yn amhriodol am yr un rheswm.<\/p>\n<p>O&#8217;r blaen, byddai&#8217;r llochesi nos mewn argyfwng hefyd yn gorfodi preswylwyr i adael am 12 awr y dydd, gan olygu bod y rhai sy&#8217;n cysgu allan yn ymgasglu yng nghanol y ddinas mewn grwpiau mawr i gael cwmn\u00efaeth a bod yn gefn i&#8217;w gilydd ac er mwyn cael mynediad at wasanaethau megis darpariaeth bwyd. Roedd y symudedd a&#8217;r ymgasglu dyddiol hyn yn golygu risg enfawr arall yn ystod pandemig covid.<\/p>\n<h2>Dylanwad yr argyfwng<\/h2>\n<p>Ar 20 Mawrth, dyma Lywodraeth Cymru, a oedd wedi bod yn boenus o araf wrth fynd i&#8217;r afael \u00e2 digartrefedd hyd yma, yn cyhoeddi <a href=\"https:\/\/chcymru.org.uk\/cy\/view-news\/\">cronfa \u00a310 miliwn<\/a> i helpu i symud pobl oddi ar y stryd drwy ariannu llety mewn gwesty a gwely a brecwast. Dyma wasanaethau digartrefedd Cyngor Caerdydd yn manteisio ar yr arian hwn yn gyflym, gan ei ddefnyddio i gymryd drosodd gwestai a hosteli mawr, a dechreuodd symud pobl sy&#8217;n cysgu allan i mewn i&#8217;r llety newydd yn gyflym.<\/p>\n<p>O fewn wythnos, lleihawyd y boblogaeth sy&#8217;n cysgu allan, a oedd yn rhifo tua 100 (allan o boblogaeth ddigartref lawer mwy) i lawr i ffigurau sengl. Heddiw, dim ond ychydig o bobl sy&#8217;n parhau ar y stryd. Mae hosteli a arferai fod \u00e2 dau neu dri i bob ystafell bellach yn rhai ystafelloedd sengl. Yn hytrach na gorfod gadael am 12 awr ar y tro, caniateir i breswylwyr aros ar y safle 24 awr y dydd. Nid yw dyletswyddau tai bellach yn <a href=\"http:\/\/www.legislation.gov.uk\/cy\/anaw\/2014\/7\/section\/74\/enacted\/welsh\">&#8216;rhedeg allan&#8217;<\/a> nac yn &#8216;diweddu&#8217;. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dyfarnu, yn ystod yr argyfwng hwn, y bydd yr holl bobl sy\u2019n cysgu allan yn cael eu <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/publications\/2020-04\/guidance-for-local-authorities-in-supporting-people-sleeping-rough-covid-19_0.pdf\">categoreiddio\u2019n ddigwestiwn fel y sawl sydd ag \u2018angen blaenoriaethol\u2019<\/a>, sy\u2019n eu categareiddio fel rhai sy\u2019n fregus ac yn gwarantu cynnig awtomatig o lety dros dro. Yn flaenorol, dim ond ar gyfer y bobl fwyaf bregus yr oedd y categori hwn, ac yn ymarferol anaml iawn y byddai&#8217;n cael ei ddefnyddio. Gwaharddwyd yn ogystal troi allan o hosteli yn ystod y cyfnod hwn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r ddeddf &#8216;cysylltiad lleol&#8217;, a oedd yn atal cymaint o bobl rhag cael gafael ar lety yn y gorffennol, wedi cael ei hepgor. Gall mudwyr nad oedd ganddynt hawl i gael wasanaethau cyhoeddus megis llety, o dan bolisiau\u2019r \u2018hinsawdd gelyniaethus\u2019 y Swyddfa Cartref, bellach gael gafael ar wasanaethau digartrefedd yma yng Nghymru. Mae&#8217;r system <a href=\"https:\/\/www.talktofrank.com\/drug\/methadone#how-it-feels\">presgripsiynau methadon<\/a> yn digwydd yn gyflymach, (ac nid yw pobl yn cael eu tynnu oddi ar eu presgripsiynau); a chaiff preswylwyr ym mhob hostel dri phryd o fwyd a dydd.<\/p>\n<p>Nid yn unig y mae hyn, i raddau helaeth, wedi datrys cysgu allan mewn un cam, dywed y rhai sy&#8217;n byw yn y llety dros dro newydd fod y profiad cyffredinol o gael eich ystafell eich hun, prydau poeth, a pheidio \u00e2 chael eich deffro i orfod gadael yr hostel drwy&#8217;r dydd hefyd yn rhoi hwb pwysig &#8211; i ysbryd a hyder pobl sydd wedi arfer \u00e2 chael eu gadael i lawr a&#8217;u trin heb urddas.<\/p>\n<p>Wrth gwrs, erys llawer o faterion o hyd: mae pobl yn dal i gael eu gwneud yn ddigartref pan g\u00e2nt eu rhyddhau o&#8217;r carchar, er enghraifft, a bydd y gwestai a gymerwyd drosodd yn dod yn llawn yn fuan. Yn ychwanegol at hynny, roedd y canllawiau cychwynnol ar reoli&#8217;r firws mewn lleoliadau preswyl a&#8217;r ymdrech logistaidd a oedd yn gysylltiedig \u00e2 symud pobl oddi ar y stryd yn amlygu&#8217;r ffolineb o fod \u00e2 chynifer o wahanol elusennau digartrefedd yn ymwneud \u00e2 darpariaeth ar ben yr hyn a ddarperir gan y sector cyhoeddus\u2014mae&#8217;n anodd iawn cyfathrebu mesurau brys ac yna eu gweithredu ar draws sawl darparwr.<\/p>\n<p>Er hynny, mae&#8217;r profiad a gafwyd y mis diwethaf yn dangos ei bod yn gwbl bosibl ailgartrefu&#8217;r rhai sy&#8217;n cysgu allan yn gyflym os yw&#8217;r ewyllys gwleidyddol yno. Fel cymaint o bethau eraill yn ystod yr argyfwng hwn, mae wedi dod i&#8217;r amlwg bod yr arian i wneud rhywbeth fel hyn wedi bod yno o&#8217;r cychwyn. Yn y gorffennol, er gwaethaf yr ystumiau a&#8217;r rhethreg arferol gan Lywodraeth Cymru ac uchelfannau&#8217;r Cyngor, yn y pen draw, ni oeddynt yn poeni digon am gysgu allan i wneud unrhyw beth gwirioneddol radical. Roedd cysgu allan yn cael ei dderbyn yn y b\u00f4n, ac yn hytrach na chymryd y camau amlwg i&#8217;w ddatrys, roeddent yn hapus i botsian rownd yr ymylon, dim ond oherwydd bod yr ateb go iawn, yn eu llygaid nhw, yn rhy ddrud.<\/p>\n<p>Mae yna wersi amlwg yma hefyd ar gyfer llywodraethu a gweithredu polisi yn fwy cyffredinol. Mae Cymru yn wlad lle nad oes unrhywbeth yn digwydd yn gyflym. Mae atebion amlwg a syml sydd wedi gweithio mewn gwledydd eraill, ar gyfer problemau y gellid eu datrys mewn wythnosau, yn hytrach yn troi&#8217;n grwpiau \u2018tasg a gorffen\u2019 diddiwedd, pwyllgorau, ymholiadau ac astudiaethau peilot sy&#8217;n cael eu llusgo allan dros flynyddoedd, hyd yn oed degawdau. Mae arbenigwyr yn rhoi tystiolaeth ac yn gwneud argymhellion sy&#8217;n cael eu hanwybyddu neu eu gwlastwreiddio dro ar \u00f4l tro. Caiff dogfennau strategaeth \u2018radical\u2019 eu cyhoeddi ac yna\u2019n mynd yn angof. Yn hytrach na gweithredu polisi, rydym yn penodi <a href=\"https:\/\/www.planetmagazine.org.uk\/planet-online\/238\/frances-williams\">\u2018comisiynwyr\u2019 di-ddannedd<\/a> fel y gallwn gyhoeddi i\u2019r byd pa mor radical ydyn ni, heb wir newid unrhyw beth. Hyd yn oed pan fydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu, o&#8217;r diwedd, ar bolisi, nid oes canllawiau nac arian ychwanegol i awdurdodau lleol i\u2019w cefnogi, sy&#8217;n golygu mai <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/cymrufyw\/44222098\">anaml y gweithredir mentrau beth bynnag<\/a>. Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/lareviewofbooks.org\/article\/on-bureaucracy-and-the-left\/\">diwylliant hwn o fiwrocratiaeth<\/a> a diffyg brys sefydliadol ar ei fwyaf amlwg yn y broses boenus o araf a cheidwadol o wireddu\u2019r cynllun <a href=\"https:\/\/senedd.wales\/laid%20documents\/cr-ld11517\/cr-ld11517-w.pdf\">\u2018tai yn gyntaf\u2019<\/a> yng Nghymru.<\/p>\n<p>Dylai&#8217;r profiad o ddatrys cysgu allan mewn dinas o fewn wythnos bellach weithredu fel model ar gyfer llywodraethu ac arweinyddiaeth gyflym, effeithlon: adnabod datrysiad, ei ariannu&#8217;n iawn, gorchymyn i awdurdodau lleol weithredu ar unwaith, diystyru gweithdrefnau biwrocrataidd.<\/p>\n<p>Y cyfrwystra mwyaf yn y ddadl dros ddigartrefedd dros y degawd diwethaf fu datgysylltu digartrefedd (a chysgu allan yn benodol) oddi wrth y mater strwythurol, cymdeithasol o ddiffyg tai a lloches priodol. Yn hytrach, mae&#8217;r naratif wedi symud yn llechwraidd i faterion sy&#8217;n ymwneud \u00e2 gwendidau unigol &#8211; ymddengys fod pobl yn ddigartref nid oherwydd diffyg lloches, ond oherwydd eu bod yn gaeth i alcohol a chyffuriau, ymddygiad gwael, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac yn y blaen. Felly rydym yn edrych ar adeiladu &#8216;gwytnwch&#8217;, &#8216;ffiniau&#8217; a &#8216;hyder&#8217; mewn pobl yn lle adeiladu tai fforddiadwy.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r naratif hwn yn esblygu&#8217;n hawdd i&#8217;r hyn sy&#8217;n cael ei bedlera gan rai cynghorwyr yng Nghaerdydd, sef mewn gwirionedd mae pobl ar y stryd wedi cael cynnig lloches (gofod llawr), ac felly &#8216;nid oes unrhyw reswm dros fod yn cysgu allan&#8217;. Yr isdestun, fel bob amser, yw bod pobl allan ar y stryd oherwydd rhyw fethiant personol, neu ddewis, yn hytrach na diffyg llety brys addas a phriodol.<\/p>\n<p>Mae pobl yn ddigartref oherwydd nad oes digon o dai (neu yn hytrach nid oes digon o dai fforddiadwy), ac oherwydd nad yw&#8217;r llety brys, dros dro sy&#8217;n cael ei gynnig yn addas. Dengys y mis diwethaf pan fydd y rhai sy&#8217;n cysgu allan\u2014y rhai a ystyrir y rhai mwyaf &#8216;ddisymud&#8217; (mewn geiriau eraill, &#8216;anodd&#8217;) ymhlith y boblogaeth ddigartref\u2014yn cael cynnig llety sy&#8217;n dderbyniol (heb unrhyw reolau troi allan tila) byddant yn ei dderbyn, \u00e2 pheidio \u00e2 chysgu allan &#8211; mae mor syml \u00e2 hynny.<\/p>\n<p>Er bod y newidiadau uchod yn stori lwyddiant enfawr, erbyn hyn mae&#8217;r mater enfawr, pryderus yn cael ei amlygu o&#8217;r hyn a fydd yn digwydd i&#8217;r bobl sydd mewn llety dros dro ar hyn o bryd unwaith y bydd yr argyfwng drosodd (gydag ariannu yn Lloegr <a href=\"https:\/\/www.manchestereveningnews.co.uk\/news\/greater-manchester-news\/the-numbers-streets-going-rocket-18254318\">eisoes yn dod i ben<\/a>). Ar \u00f4l i&#8217;r pandemig coronafeirws ddod i ben, gobeithio y bydd troi pobl allan o&#8217;r hosteli a llety gwely a brecwast ar raddfa fawr yn hunanladdiad gwleidyddol. Ond, am Gyngor Caerdydd rydyn ni&#8217;n siarad, felly allwn ni ddim cymryd dim yn ganiataol. Gan ystyried cyflwr y sector tai, mae&#8217;n bosibl y bydd llawer o&#8217;r bobl sydd wedi cael eu symud i lety brys yn cael eu symud i fyd didostur y Sector Rhent Preifat (SRhP), gall arwain at droi allan torfol ychydig fisoedd i lawr y lein.<\/p>\n<p>Y tu hwnt i&#8217;r bobl ddigartref sydd wedi cael eu symud i lety brys yn ystod yr argyfwng, mae risg wirioneddol y byddwn bellach yn gweld ton o droi allan tenantiaid yn y SRhP ar \u00f4l codi&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.insidehousing.co.uk\/news\/news\/coronavirus-eviction-ban-will-apply-to-wales-welsh-government-confirms-65736\">gwaharddiad dros dro ar droi allan<\/a>, rhywbeth allai llethu gwasanaethau digartrefedd.<\/p>\n<p>Nid oes modd i ni ganiatau hyn. Nid oedd y system ddigartrefedd flaenorol yn y ddinas yn briodol nac yn deg, ac mae&#8217;r camau beiddgar a gymerwyd yn ystod yr argyfwng hwn yn dangos hyn yn glir. Rhaid peidio \u00e2 mynd yn \u00f4l at yr hen system. Rhaid i\u2019r argyfwng fod yn gatalydd i ddatrys digatrefedd. Mae&#8217;n dibynnu ar bobl\u2014ni, y rhai ar y chwith (yn ei holl amrywiadau), a grwpiau sy&#8217;n eirioli dros y digartref, yn codi llais yn uchel i ddweud nad oes angen dychwelyd i gysgu allan ar raddfa fawr.<\/p>\n<h2>Yr hyn sydd ei angen<\/h2>\n<p>Cyn bo hir bydd Undod yn cyhoeddi erthyglau pellach ar dai a digartrefedd, ond dyma beth sydd angen ei wneud yn y tymor byr a&#8217;r tymor canolig.<\/p>\n<p>Yn gyntaf, mae angen diwygio <a href=\"http:\/\/www.legislation.gov.uk\/anaw\/2014\/7\/contents\/enacted\/welsh?lang=en\">Deddf Tai Cymru (2014)<\/a> ar unwaith. Mae angen dileu\u2019r system bresennol o \u2018angen blaenoriaethol\u2019. Ymhlyg yn y system cyn yr argyfwng oedd agwedd a oedd yn derbyn digartrefedd, sy&#8217;n golygu na fyddai unrhyw un a oedd yn cyflwyno ei hun fel digartref &#8211; nad oedd yn dod o dan categor\u00efau bregus iawn &#8211; yn cael cynnig llety brys. Arweiniodd y cafeat barbaraidd hwn at gannoedd o bobl fregus y dydd yn derbyn llythyrau templed yn dweud, er bod yr awdurdod lleol yn cydnabod eu bod yn ddigartref, serch hynny nid oeddent yn eu hystyried yn ddigon bregus i gael llety dros dro. Yna byddai&#8217;r unigolyn yn cael cynnig o ofod llawr a rhestr o landlordiaid preifat i gysylltu \u00e2 nhw. Ar ben hynny, mae adran 74 o\u2019r ddeddf yn caniat\u00e1u awdurdodau lleol ddod \u00e2\u2019u dyletswydd i ben i helpu pobl am resymau aml ddisail, fel \u2018gwrthod cynnig o lety\u2019 neu hawliau cartrefi unigolyn yn rhedeg allan oherwydd nad oedd wedi cael cartref o fewn 56 diwrnod. Mae angen diddymu&#8217;r adrannau anesboniadwy a niweidiol hyn o&#8217;r ddeddf.<\/p>\n<p>Mae digartrefedd yn foesol annerbyniol, ac mae pawb sy&#8217;n ddigartref wrth reswm yn fregus. Dylai&#8217;r gyfraith gael ei newid ar unwaith i adlewyrchu hyn, yn hytrach na bod \u00e2 graddfeydd o fregusrwydd. Dylai unrhyw un sy&#8217;n cyflwyno fel digartref gael llety brys addas fel ateb tymor byr.<\/p>\n<p>Gall gwell llety brys a chynnydd yn y ddarpariaeth ddatrys cysgu allan, ond dim ond un agwedd ar ddigartrefedd yw bod ar y stryd, a dyna\u2019n union yw llety brys &#8211; datrysiad tymor byr ydyw, plastr bach dros glwyf dwfn. Ni all pobl aros mewn llety brys am byth, waeth pa mor dda ydyw. Mae angen i bobl allu ei ddefnyddio ac yna symud i&#8217;w lle parhaol eu hunain, i ffwrdd o ddigartrefedd am byth. Well fyth, wrth gwrs, byddai sicrhau nad yw bobl yn ddigartref yn y lle cyntaf!<\/p>\n<p>Ond fel cymaint o bolis\u00efau a ddeddfwyd gan Lywodraeth Cymru, mae\u2019r rhesymeg dros greu a gorfodi\u2019r system o \u2018angen blaenoriaethol\u2019, er ei bod wedi\u2019i chuddio gan rethreg \u2018radical\u2019, yn y pen draw yn seiliedig ar ddiffyg cyflenwad. Felly mae\u2019r mater o lety brys i bobl sy&#8217;n cysgu allan, fel pob mater sy&#8217;n ymwneud \u00e2 digartrefedd, yn arwain yn \u00f4l yn y pen draw at yr eliffant yn yr ystafell: yn syml, nid oes digon o dai fforddiadwy yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae miloedd ar filoedd o bobl sydd yn anobeithio ar restrau hirfaeth yn aros am dai cymdeithasol, ond yn y b\u00f4n does dim digon o dai ar gael, felly rhaid wrth roi tai ar ddogn trwy gyflwyno pethau fel categor\u00efau blaenoriaeth, gan annog y gweddill i ddarganfod llety preifat eu hunain.<\/p>\n<p>Hyd nes y bydd yr argyfwng tai yn cael ei ddatrys, nes bydd Llywodraeth Cymru yn torri o\u2019u gorddibyniaeth enfawr ar fyd diegwyddor, didrugaredd y sector rhentu preifat, bydd pobl yn parhau i ddod yn ddigartref. Oni bai bod tai cymdeithasol fforddiadwy go iawn yn cael eu hadeiladu ac eiddo gwag yn cael eu hailosod, digartrefedd a rhentu ansicr fydd y norm. Mae angen <a href=\"https:\/\/www.crisis.org.uk\/media\/239700\/crisis_housing_supply_requirements_across_great_britain_2018.pdf\">o leiaf 14,000 o dai y flwyddyn ar Gymru i gadw i fyny \u00e2\u2019r galw<\/a>, ond <a href=\"https:\/\/www.insidehousing.co.uk\/news\/news\/welsh-government-pumps-extra-24m-into-affordable-housing-as-building-target-deadline-looms-65100\">dim ond 13,000<\/a> y mae Llywodraeth Cymru wedi codi ers 2016, gyda llawer ohonynt yn anfforddiadwy, yn tai \u2018helpu i brynu\u2019. Er mwyn dod \u00e2 digartrefedd i ben yn ei holl ffurfiau, mae angen ymgyrch adeiladu tai ar raddfa anferth, a hynny ar frys. Bydd hyn yn rhoi terfyn ar y ddibyniaeth gynyddol ar y SRhP i ddatrys digartrefedd, a bydd yn cael sgil-effeithiau cadarnhaol ar draws cymdeithas Cymru &#8211; gan y bydd y gafael haearnaidd sydd gan landlordiaid ac adeiladwyr tai mawr dros y sector yn cael ei llacio\u2019n sylweddol.<\/p>\n<p>Mae dros 27,000 o dai preifat gwag a 1400 o dai cymdeithasol gwag ledled Cymru. Fel datrysiad gwrth-ddigartrefedd tymor byr, mae ailosod tai gwag presennol ac eiddo di-breswyl gwag priodol yn gyflymach nag adeiladu tai cymdeithasol. Mae dros 3,000 o eiddo gwag yng Nghaerdydd, heb gyfrif y blociau myfyrwyr hanner gwag sy&#8217;n bla ar draws y ddinas. Mae angen addasu&#8217;r rhain er mwyn i wasanaethau digartrefedd gael eu defnyddio ar gyfer datrysiadau ailgartrefu cyflym, a hynny ar unwaith.<\/p>\n<p>Wedyn, dylem atgoffa pobl bod troi pobl allan yn farbaraidd ac yn annerbyniol bob amser, nid dim ond yn ystod a pandemig. Os gwaherddir troi pobl allan o&#8217;r sector rhentu preifat a thai cymdeithasol, bydd y llif cyson o bobl ddigartref newydd yn arafu&#8217;n raddol: nid oes diben gweithredu cynllun ailgartrefu cyflym heb atal achosion o droi allan gan y byddwch yn rhedeg allan o eiddo yn fuan a chael eich gadael unwaith eto gyda gofod llawr. Rhaid gweithredu hyn yn gyson ledled Cymru er mwyn iddo gael effaith.<\/p>\n<p>Yng ngoleuni llwyddiant yr arbrawf ailgartrefi brys yng Nghaerdydd, mynnwn y canlynol:<\/p>\n<p>Gwahardd troi allan i bob darparwr tai.<\/p>\n<p>Rhewi rhent ar unwaith i denantiaid yn ystod argyfwng COVID-19, ac yna <a href=\"https:\/\/www.dw.com\/en\/germany-berlin-parliament-passes-five-year-rent-freeze\/a-52210612\">uchafswm rhent<\/a> ledled Cymru unwaith y bydd yr argyfwng wedi sefydlogi.<\/p>\n<p>Bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cael <strong>gorchymyn<\/strong> i gymryd pob eiddo drosodd\u2014boed yn fasnachol neu&#8217;n breswyl\u2014a&#8217;u troi&#8217;n stoc tai cymdeithasol, gyda chyfran ohonynt wedi&#8217;u clustnodi ar gyfer gwasanaethau digartrefedd a llety argyfwng, dros-dro.<\/p>\n<p>Yn dilyn cynnydd mewn llety, mabwysiadu model ailgartrefu cyflym ym mhob awdurdod lleol, lle mae unrhyw un sy&#8217;n profi digartrefedd yn cael gwarant o ystafell ei hun. Rhoi terfyn ar y model gofod llawr.<\/p>\n<p>Diwedd ar unwaith i&#8217;r <a href=\"http:\/\/www.legislation.gov.uk\/anaw\/2014\/7\/section\/70\/enacted\/welsh\">system angen blaenoriaethol<\/a>.<\/p>\n<p>Gwaredu <a href=\"http:\/\/www.legislation.gov.uk\/cy\/anaw\/2014\/7\/section\/74\/enacted\/welsh\">adran 74<\/a> o Ddeddf Tai Cymru (2014) sy&#8217;n caniat\u00e1u i awdurdodau lleol (yn aml mewn modd llym) ddod \u00e2&#8217;u dyletswydd o gymorth i ben i bobl y gwyddys eu bod yn ddigartref o hyd: os yw rhywun yn ddigartref dylai&#8217;r ddyletswydd aros ar agor am gyfnod amhenodol nes ei fod wedi&#8217;i gartrefu.<\/p>\n<p>Diwedd parhaol i weithredu amodau \u2018Dim Cyfeirio at Gronfeydd Cyhoeddus\u2019 yng Nghymru, fel bod pawb yng Nghymru, o le bynnag y maent, sydd angen gwneud yn gallu cyrchu gwasanaethau tai a digartrefedd.<\/p>\n<p>Bod holl elusennau digartrefedd yn cael eu gwladoli ac yn dod yn rhan o ddarpariaeth cynghorau. Yn y cyfnod interim, galw am orfodi pob darparwr trydydd sector sy&#8217;n ymwneud \u00e2&#8217;r sector tai a digartrefedd i gydnabod undebau llafur.<\/p>\n<p>Ailwampio gwasanaethau cyffuriau ac alcohol, gan gynnwys gwladoli&#8217;r holl wasanaethau cyffuriau ac alcohol, prosesau symlach a chyflymach ar gyfer darparu methadon, a darparu cyfleusterau chwistrellu diogel a phrofi cyffuriau yn unol \u00e2 model lleihau niwed.<\/p>\n<p><em>GIF gan Tad Davies<\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rhan o gyfres Cam nesaf Cymru &#8220;Nid oedd y system ddigartrefedd flaenorol yn yn briodol nac yn deg, ac mae&#8217;r camau beiddgar a gymerwyd yn ystod yr argyfwng hwn yn &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Cam nesaf Cymru: Datrys digartrefedd ar y stryd&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":667,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6,160],"tags":[101,83,102],"class_list":["post-654","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","category-tai-housing","tag-cam-nesaf-cymru","tag-covid-19","tag-digartrefedd","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cam nesaf Cymru: Datrys digartrefedd ar y stryd - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cam nesaf Cymru: Datrys digartrefedd ar y stryd - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Rhan o gyfres Cam nesaf Cymru &#8220;Nid oedd y system ddigartrefedd flaenorol yn yn briodol nac yn deg, ac mae&#8217;r camau beiddgar a gymerwyd yn ystod yr argyfwng hwn yn &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Cam nesaf Cymru: Datrys digartrefedd ar y stryd&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-05-18T21:01:48+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-06-11T19:22:44+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/luxury-flats-now-available.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1352\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"540\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Gohebydd\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Gohebydd\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"27 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/\"},\"author\":{\"name\":\"Gohebydd\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538\"},\"headline\":\"Cam nesaf Cymru: Datrys digartrefedd ar y stryd\",\"datePublished\":\"2020-05-18T21:01:48+00:00\",\"dateModified\":\"2021-06-11T19:22:44+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/\"},\"wordCount\":5563,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/luxury-flats-now-available.jpg\",\"keywords\":[\"Cam nesaf Cymru\",\"COVID-19\",\"digartrefedd\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\",\"Tai\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/\",\"name\":\"Cam nesaf Cymru: Datrys digartrefedd ar y stryd - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/luxury-flats-now-available.jpg\",\"datePublished\":\"2020-05-18T21:01:48+00:00\",\"dateModified\":\"2021-06-11T19:22:44+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/luxury-flats-now-available.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/luxury-flats-now-available.jpg\",\"width\":1352,\"height\":540},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Cam nesaf Cymru: Datrys digartrefedd ar y stryd\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538\",\"name\":\"Gohebydd\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Gohebydd\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gohebydd\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cam nesaf Cymru: Datrys digartrefedd ar y stryd - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Cam nesaf Cymru: Datrys digartrefedd ar y stryd - undod","og_description":"Rhan o gyfres Cam nesaf Cymru &#8220;Nid oedd y system ddigartrefedd flaenorol yn yn briodol nac yn deg, ac mae&#8217;r camau beiddgar a gymerwyd yn ystod yr argyfwng hwn yn &hellip; Parhau i ddarllen \"Cam nesaf Cymru: Datrys digartrefedd ar y stryd\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-05-18T21:01:48+00:00","article_modified_time":"2021-06-11T19:22:44+00:00","og_image":[{"width":1352,"height":540,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/luxury-flats-now-available.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Gohebydd","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Gohebydd","Est. reading time":"27 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/"},"author":{"name":"Gohebydd","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538"},"headline":"Cam nesaf Cymru: Datrys digartrefedd ar y stryd","datePublished":"2020-05-18T21:01:48+00:00","dateModified":"2021-06-11T19:22:44+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/"},"wordCount":5563,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/luxury-flats-now-available.jpg","keywords":["Cam nesaf Cymru","COVID-19","digartrefedd"],"articleSection":["Erthyglau","Tai"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/","name":"Cam nesaf Cymru: Datrys digartrefedd ar y stryd - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/luxury-flats-now-available.jpg","datePublished":"2020-05-18T21:01:48+00:00","dateModified":"2021-06-11T19:22:44+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/luxury-flats-now-available.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/luxury-flats-now-available.jpg","width":1352,"height":540},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Cam nesaf Cymru: Datrys digartrefedd ar y stryd"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538","name":"Gohebydd","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","caption":"Gohebydd"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gohebydd\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/654","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=654"}],"version-history":[{"count":9,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/654\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":674,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/654\/revisions\/674"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/667"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=654"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=654"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=654"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}