{"id":678,"date":"2020-05-25T11:57:00","date_gmt":"2020-05-25T10:57:00","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=678"},"modified":"2020-12-18T19:34:48","modified_gmt":"2020-12-18T19:34:48","slug":"newid","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/25\/newid\/","title":{"rendered":"Mae mudiad cenedlaethol dros newid gwleidyddol yn bosib &#8211; ac mae ei angen."},"content":{"rendered":"<p><em>Rhan o&#8217;r gyfres <a href=\"http:\/\/undod.cymru\/cy\/tag\/cam-nesaf-cymru\/\">Cam nesaf Cymru<\/a><\/em><\/p>\n<p>Mae&#8217;n bosib eich bod chi&#8217;n un sydd wedi gofyn, beth yw&#8217;r stori felly?\u00a0 A myfyrio rhywfaint ar y cwestiwn a holwyd yn lled gyson: &#8216;Pam?&#8217;<\/p>\n<p>Dyma geisio esbonio i chi rai ystyriaethau felly, a dangos pam bod mudiad o&#8217;r fath yn angenrheidiol yn y cyfnod sydd ohoni.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/pam-undod.gif\" alt=\"\" width=\"1000\" height=\"1000\" \/><\/p>\n<p>Y man cychwyn yw&#8217;r angen am fudiad sy&#8217;n mynegi&#8217;n eglur sut fath o Gymru annibynnol, sosialaidd sydd angen ei datblygu. Lle mae YesCymru ac AUOB Cymru yn fudiadau sydd yn ymgyrchu dros yr egwyddor o annibyniaeth, swyddogaeth Undod yw mynegi posibiliadau yr annibyniaeth honno o safbwynt creu Cymru decach, sydd yn gwarchod y bobl a&#8217;r amgylchfyd fel ei gilydd.<\/p>\n<p>Ymateb cynifer sydd yn ystyried y cwestiwn o annibyniaeth i Gymru, yw gofyn sut byddai&#8217;n newid pethau. Ein gwaith ni yw dangos y posibiliadau sydd i bawb. Nid rhaniad diangen o YesCymru, felly, ond datblygiad naturiol o fudiad sy&#8217;n aeddfedu; edrychwn tua&#8217;r gogledd a ffyniant mudiad yr Alban trwy grwpiau niferus, yn eu plith <a href=\"http:\/\/radical.scot\/\"><i> Radical Independence <\/i><\/a>.<\/p>\n<p>Bydd rhai efallai am fynnu bod gweithgaredd o&#8217;r fath yn gallu digwydd o fewn ein pleidiau, gan fod Plaid Cymru erioed wedi cynnwys y chwith cenedlaetholgar, tra bod canran helaeth o bleidleisiwyr y Blaid Lafur erbyn hyn yn mynegi cefnogaeth dros annibyniaeth, a&#8217;r grwp Llafur dros Annibyniaeth yn cynrychioli aelodau o&#8217;r anian hynny.<\/p>\n<p>Un ateb, wrth gwrs, yw bod y pleidiau cyfansawdd yma yn aml yn gwanhau neu neilltuo&#8217;r dadleuon a&#8217;r syniadau yma. Ac eto, mae pwysleisio pwysigrwydd pleidiau&#8217;n ddealladwy mewn cymdeithas lle rydym wedi tueddu, ar y cyfan, cymryd yn ganiataol mai pleidiau sydd yn &#8216;gwneud&#8217; gwleidyddiaeth, a bod unrhyw weithgaredd amgen yn digwydd yn y trydydd sector a&#8217;r sector cyhoeddus.<\/p>\n<p>Diflanodd yn ogystal yr undebau llafur &#8211; i raddau helaeth &#8211; o&#8217;r ymwybod gwleidyddol (er i gyfnod Corbyn eu llusgo n\u00f4l rhyw fymryn, a&#8217;r argyfwng hwn rhoi llais iddynt). Ac ar wah\u00e2n i eithriad y mudiad iaith, ychydig iawn o gydnabyddiaeth gyhoeddus a fu o fudiadau yng Nghymru ers tro.<\/p>\n<p>Ond diolch yn rhannol i YesCymru ac AUOBCymru, a&#8217;n cyfryngau amgen eginol, mae&#8217;n siwr eich bod chi wedi sylwi bod hynny yn dechrau newid, ac mae hynny&#8217;n rhan elfennol o&#8217;r newid sydd ei angen.<\/p>\n<h2>Ehangu ystyr &#8216;gwleidyddiaeth&#8217;<\/h2>\n<p>Mae taer angen codi ymwybyddiaeth ynglyn \u00e2 sut mae gwleidyddiaeth yn digwydd ym mhob agwedd o&#8217;n cymdeithas, ym mywyd pob dydd pob un ohonoch &#8211; o&#8217;r cartref i sefydliadau rhyngwladol pellenig. At ei gilydd, rydym yn llai ymwybodol na chenedlaethau gynt ynghylch sut mae gwleidyddiaeth cenedl yn cael ei heffeithio gan bob math o ddatblygiadau, nid dim ond datblygiadau&#8217;r pleidiau gwleidyddol.<\/p>\n<p>Nid damwain mohoni: dyma ganlyniad Thatcheriaeth a bwriad pwrpasol diwylliant gwleidyddol &#8216;proffesiynol&#8217; sydd wedi ein harwain i anghofio <i> bod modd dylanwadu <\/i> . Dyma adlewyrchu&#8217;r ffordd mae ein cymdeithas ddinesig (civil society) wedi pellhau oddi wrth gwleidyddiaeth y pleidiau. Prinach o lawer yw&#8217;r cysylltiadau organig rhwng proffesiynoldeb a strwythyrau pleidiau a bywydau pob dydd pobl.<\/p>\n<p>Er mwyn i ni gael y cyfle i sicrhau&#8217;r dylanwad felly, mae angen i ni ddeall sut mae grym gwleidyddol yn gweithio, a sut mae agweddau pobl yn cael eu llunio. Mae&#8217;r diwylliant cyfoes o ddiffyg trafodaeth ddeallus wedi arwain at ddiffyg parch at unigolion a rhannau eang o gymdeithas. Mae slogan tri gair wedi di-orseddu rhesymeg. Felly mae angen galluogi ein gilydd i feddwl mewn termau gwahanol. Tasg Undod yn rhannol yw gwneud hynny, gan gysylltu&#8217;r dotiau o&#8217;n cwmpas fel bod modd deall yr hyn sy&#8217;n ein wynebu.<\/p>\n<p>Gwendid difrifol yw&#8217;r diwylliant hwn, wrth gwrs \u2013 tu hwnt i ystyriaethau&#8217;r mudiad dros annibyniaeth. Wrth i rywun ymddiddori&#8217;n gynyddol yn ein gwleidyddiaeth, daw yn fwyfwy ymwybodol bod ein cyhoeddfa (public sphere) &#8211; y gofod yna lle mae syniadau cymdeithas yn treiddio&#8217;r sefydliad gwleidyddol ac yn dylanwadau arni &#8211; yn eiddil ac aneffeithiol dros ben. Yr enghraifft amlycaf i bawb yw&#8217;r diffyg cyfryngau Cymreig dylanwadol sydd yn cyfathrebu i, ac yn adelwyrchu trwch ein poblogaeth &#8211; cyfryngau gallasai arwain sgyrsiau cenedlaethol (ac y mae Llywodraeth Cymru yn dyheu amdani nawr er iddynt treulio&#8217;r 20 mlynedd diwethaf yn anwybyddu&#8217;r alwad i ddatganoli darlledu).<\/p>\n<p>Felly, mae mudiad gwleidyddol arall, un sydd a&#8217;r bwriad o ddenu pobl o bob cefndir, sy&#8217;n anelu at weithredu a chyfrannu ar lefel y gymuned, ac sydd a&#8217;r gobaith o weithredu nawr er mwyn creu Cymru&#8217;r ddyfodol, yn ddatblygiad sydd yn gallu helpu ymateb i&#8217;r galw mawr o fewn ein cymdeithas gyfoes.<\/p>\n<h2>Y llwybr i annibyniaeth<\/h2>\n<p>Rhaid ystyried yn benodol wrth gwrs sut y gall mudiad arall gyfrannu at y nod o symud Cymru tuag annibyniaeth &#8211; mewn cenedl sydd wedi bod yn simsan ar y gore o safbwynt yr egwyddor o ymreolaeth. Mae&#8217;n addas i ni edrych ar y newidiadau gwleidyddol yn Catalunya ac i raddau llai yn yr Alban, lle mae&#8217;r gymdeithas ddinesig wedi bod ar flaen y gad.<\/p>\n<p>O safbwynt gwthio a datblygu agenda annibyniaeth, yr hyn oedd yn nodedig yn achos Catalunya oedd dylanwad mudiadau llawr gwlad, yn groes i&#8217;r patrwm traddodiadol o bleidiau yn arwain y ffordd. Gwelwyd elfen gref o hynny yn yr Alban hefyd, er bod yr SNP wedi rhoi annibyniaeth ar yr agenda trwy ei maniffesto: wrth i&#8217;r refferendwm agosai, blodeuodd mudiad annibyniaeth a thrawsnewidiwyd y disgwrs gwleidyddol. Daeth daioni o&#8217;r refferendwm o safbwynt diwylliant gwleidyddol ehangach y wlad &#8211; a ddylanwadodd mae&#8217;n siwr ar ansawdd y drafodaeth ynghylch Brecsut (ydych chi&#8217;n cofio hwnnw?).<\/p>\n<p>Yn Catalunya gwyrdrowyd y patrwm arferol yn gyfan gwbl wrth i bleidiau o bob lliw ymateb i&#8217;r ymchwydd mewn gweithgaredd ac mewn ymgyrchu. Yn achos gwlad fel Cymru, lle mae&#8217;r grym gwleidyddol traddodiadol yn un sydd wedi ei rwymo (hyd yn hyn) i&#8217;r Undeb a San Steffan, a lle mae&#8217;r mecanwaith ar gyfer dylanwadu ar y grym hwnnw heb ei ddatblygu ddigon, mae&#8217;r gwaith am fod yn anos.<\/p>\n<p>Ac eto, mae&#8217;r argyfwng sydd ohoni (y mae Covid-19 dim ond yn bennod arall ohono) \u2013 a dioddefaint cynyddol cymunedau ledled y wlad \u2013 wedi creu&#8217;r amodau angenrheidiol ar gyfer newid. O dan yr amgylchiadau, yr hyn all newid y sefyllfa o ddifri yw corws o leisiau o du allan i&#8217;r sefydliad gwleidyddol \u2013 er mwyn hyrwyddo&#8217;r angen a&#8217;r dyhead am newid.<\/p>\n<h2>Pwysigrwydd mudiad<\/h2>\n<p>Ennill grym trwy&#8217;r broses gyfansoddiadol (pleidleisio, etholiadau, sefydliadau llywodraeth lleol a chenedlaethol) yw bwriad pleidiau; trawsnewid yr hinsawdd wleidyddol trwy weithgaredd mewn cymunedau a sefydliadau yw bwriad mudiad.<\/p>\n<p>Yn naturiol ddigon byddai disgwyl gorgyffwrdd rhwng dau endid o&#8217;r fath, ond tra bod y naill yn canolbwyntio ar ddwyn persw\u00e2d ar yr etholaeth i bleidleisio drostynt, mae&#8217;r llall yn rhydd i ymroi yn gyfan gwbl i&#8217;r egwyddorion a&#8217;r delfrydau sydd yn ei gyrru.<\/p>\n<p>Ceir deinameg tra gwahanol rhwng plaid \u2013 sy&#8217;n teimlo&#8217;r pwysau i ymateb i hinsawdd y realiti gwleidyddol cyfredol ac sy&#8217;n cael ei chyfyngu o&#8217;r herwydd yn ei pholis\u00efau a&#8217;i gweithredoedd \u2013 a mudiad nad yw&#8217;n anelu i ennill pleidleisiau ond sydd \u00e2&#8217;r rhyddid i hybu ei egwyddorion yn ddigyfaddawd, gan geisio trawsnewid y sefyllfa wleidyddol. Ymhellach, lle mae Plaid yn naturiol canolbwytnio ar ymgyrchu i ennill pleidleisau, mae mudiad fel Undod yn anelu at newid amgylchiadau mewn cymunedau lleol. Nid mewn Senedd a sefydliadau ffurfiol eraill fel Cynghorau yn unig mae gwleidyddiaeth yn digwydd. Mae yn y bwyd ar y bwrdd, y to uwch dy ben, a&#8217;r gwaith ti&#8217;n ei wneud. Ac yn niffyg y pethau hynny.<\/p>\n<p>Yn y cyswllt hwn, mae pwyslais Undod ar wynebu&#8217;r heriau mae cymunedau&#8217;n wynebu nawr yn hollbwyig, yn ogystal a&#8217;r angen, wrth ddychmygu Cymru o&#8217;r newydd, i geisio dylanwadu er gwell. Gyda dwy blaid honedig flaengar yn y Senedd, ac un ohonynt \u00e2&#8217;i dwylo ar rym yno ers y cychwyn, mae yna le i graffu a beirniadu o&#8217;r tu allan a chynyddu uchelgais, gan bwysleisio&#8217;r posibiliadau radical bob tro. Dyma yw ein bwriad yn y misoedd nesaf wrth i ni geisio adfer Cymru yn wyneb Covid-19.<\/p>\n<h2>Dyfod yr awr<\/h2>\n<p>Wrth ystyried y foment hanesyddol rydym yn byw trwyddi, creu delweddau trawsnewidiol o Gymru sydd o&#8217;r pwys mwyaf \u2013 a thrafod hyd yr eithaf yr hyn sy&#8217;n bosib. Nid dim ond er mwyn dylanwadu ar bleidiau ond <i>er mwyn cynnig gobaith a delfryd i&#8217;r gymdeithas ehangach.<\/i><\/p>\n<p>Mae hi&#8217;n amser peryglus, arswydus; ni wyddom eto natur yr hyn sydd i ddod, ond fe wyddom ddigon i gydnabod \u2013 yn wyneb cyfuniad o Covid-19, natur loerig Brecsut, yr hinsawdd eithafol anoddefgar mae wedi ennyn, a phen llanw neoryddfrydiaeth a pholisi llymder \u2013 bod tanchwa&#8217;n bosib. Ar ben y cwbl mae&#8217;r argyfwng newid hinsawdd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n gynyddol amlwg i&#8217;r mwyafrif ohonom fod hyn i gyd wedi cysylltu gyda chyfalafiaeth eithafol, a fod y gelyn hwnnw i&#8217;n lles bellach wedi ei gornelu gan fynydd o dystiolaeth ddamniol &#8211; a&#8217;r argyfwng hinsawdd yn bennaf oll, un sydd wedi&#8217;i yrru gan y prynu a threulio sydd wrth galon cyfalafiaeth. Ond gelyn peryglus yw un sy wedi ei gornelu, a bydd yn fodlon gwneud unrhyw beth i gadw cyfoeth yn nwylo yr ychydig breintiedig.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/gramsci.gif\" alt=\"Gramsci\" width=\"1080\" height=\"1255\" \/><\/p>\n<p>Gellir deall trwy syniadau y Sardinwr Antonio <a href=\"https:\/\/medium.com\/@DrDanEvans\/no-going-back-to-normal-the-left-must-seize-the-moment-and-dominate-the-crisis-8d281588ed09\"> Gramsci <\/a> beth yw posibiliadau ond hefyd peryglon y fath gyfnod, wrth i&#8217;r realiti gwleidyddol amlygu ei hun i gymdeithas; mae Covid-19 yn dinoethi agwedd gwbl erchyll y Toriaid a&#8217;r Wladwriaeth Brydeinig i&#8217;r dosbarth gweithiol a&#8217;r Cymry.<\/p>\n<p>Ond, roedd ei edmygydd mwyaf yma yng Nghymru a ysbrydolwyd gymaint ganddo &#8211; yr hanesydd Gwyn Alf Williams &#8211; yn pwysleisio&#8217;r angen am fudiad torfol er mwyn herio&#8217;r grym hegemonaidd (dominyddol, hollbresennol): un i &#8216;wasanaethu&#8217;, i &#8216;ryddhau a chlirio llwybr&#8217;, un y byddai Gramsci, &#8216; <a href=\"https:\/\/cylchgronau.llyfrgell.cymru\/view\/1229967\/1233255\/26#?xywh=-2262%2C157%2C6953%2C4472\"> pe bai wedi bod yn Gymro, wedi ei alw&#8217;n werin yn ymdrechu i sicrhau ei gweriniaeth <\/a> .&#8217;<\/p>\n<p>Mae angen y gobaith a&#8217;r weledigaeth yna nawr. Mae angen llwybr clir o&#8217;n blaenau. Gwyddwn ar sail hanes yr hyn sy&#8217;n digwydd i bobl dan warchae ac o dan straen pan nad oes gobaith. Mewn gwahanol gyfnodau yn y gorffennol, bu delfryd ar gael i alluogi&#8217;r Cymry, chwedl Gwyn Alf ac Emyr Humphreys, i ail-greu eu hunain. Dyna&#8217;r math o adferiad sydd angen arnom.<\/p>\n<p>Mewn amgylchiadau o&#8217;r fath y mae cynnig gweledigaeth ymarferol, fanwl ar gyfer Cymru amgen, a gweithio nawr i&#8217;w gwireddu, yn gwbl angenrheidiol \u2013 gweledigaeth sydd hefyd yn cynnig balm i&#8217;r enaid ac ysgogiad i&#8217;r ysbryd, ac un sydd, uwchlaw pob dim, yn pwysleisio mai cariad a thrugaredd sydd yn drech.<\/p>\n<p>Gofynnwch i chi felly myfyrio ar yr uchod, ystyried ymuno gyda&#8217;r achos, a chyfrannu at yr ymdrech i newid Cymru &#8211; a&#8217;r byd &#8211; er gwell.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/ymuno-join\/\"><em>Join Undod<\/em><\/a><\/p>\n<p><em>Llun Rali Caernarfon 2019 gan Dafydd Owen<\/em><\/p>\n<p><em>GIF gan Tad Davies<\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rhan o&#8217;r gyfres Cam nesaf Cymru Mae&#8217;n bosib eich bod chi&#8217;n un sydd wedi gofyn, beth yw&#8217;r stori felly?\u00a0 A myfyrio rhywfaint ar y cwestiwn a holwyd yn lled gyson: &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/25\/newid\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Mae mudiad cenedlaethol dros newid gwleidyddol yn bosib &#8211; ac mae ei angen.&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":453,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[101,86,83],"class_list":["post-678","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-cam-nesaf-cymru","tag-coronafirws","tag-covid-19","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Mae mudiad cenedlaethol dros newid gwleidyddol yn bosib - ac mae ei angen. - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Mae mudiad cenedlaethol dros newid gwleidyddol yn bosib - ac mae ei angen. - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Rhan o&#8217;r gyfres Cam nesaf Cymru Mae&#8217;n bosib eich bod chi&#8217;n un sydd wedi gofyn, beth yw&#8217;r stori felly?\u00a0 A myfyrio rhywfaint ar y cwestiwn a holwyd yn lled gyson: &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Mae mudiad cenedlaethol dros newid gwleidyddol yn bosib &#8211; ac mae ei angen.&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/25\/newid\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-05-25T10:57:00+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-12-18T19:34:48+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/undod-rali-baner-caernarfon-2019.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1600\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1067\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Gohebydd\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Gohebydd\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"18 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/\"},\"author\":{\"name\":\"Gohebydd\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538\"},\"headline\":\"Mae mudiad cenedlaethol dros newid gwleidyddol yn bosib &#8211; ac mae ei angen.\",\"datePublished\":\"2020-05-25T10:57:00+00:00\",\"dateModified\":\"2020-12-18T19:34:48+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/\"},\"wordCount\":3703,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/undod-rali-baner-caernarfon-2019.jpg\",\"keywords\":[\"Cam nesaf Cymru\",\"coronafirws\",\"COVID-19\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/\",\"name\":\"Mae mudiad cenedlaethol dros newid gwleidyddol yn bosib - ac mae ei angen. - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/undod-rali-baner-caernarfon-2019.jpg\",\"datePublished\":\"2020-05-25T10:57:00+00:00\",\"dateModified\":\"2020-12-18T19:34:48+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/undod-rali-baner-caernarfon-2019.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/undod-rali-baner-caernarfon-2019.jpg\",\"width\":1600,\"height\":1067},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Mae mudiad cenedlaethol dros newid gwleidyddol yn bosib &#8211; ac mae ei angen.\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538\",\"name\":\"Gohebydd\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Gohebydd\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gohebydd\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Mae mudiad cenedlaethol dros newid gwleidyddol yn bosib - ac mae ei angen. - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Mae mudiad cenedlaethol dros newid gwleidyddol yn bosib - ac mae ei angen. - undod","og_description":"Rhan o&#8217;r gyfres Cam nesaf Cymru Mae&#8217;n bosib eich bod chi&#8217;n un sydd wedi gofyn, beth yw&#8217;r stori felly?\u00a0 A myfyrio rhywfaint ar y cwestiwn a holwyd yn lled gyson: &hellip; Parhau i ddarllen \"Mae mudiad cenedlaethol dros newid gwleidyddol yn bosib &#8211; ac mae ei angen.\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/25\/newid\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-05-25T10:57:00+00:00","article_modified_time":"2020-12-18T19:34:48+00:00","og_image":[{"width":1600,"height":1067,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/undod-rali-baner-caernarfon-2019.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Gohebydd","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Gohebydd","Est. reading time":"18 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/"},"author":{"name":"Gohebydd","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538"},"headline":"Mae mudiad cenedlaethol dros newid gwleidyddol yn bosib &#8211; ac mae ei angen.","datePublished":"2020-05-25T10:57:00+00:00","dateModified":"2020-12-18T19:34:48+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/"},"wordCount":3703,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/undod-rali-baner-caernarfon-2019.jpg","keywords":["Cam nesaf Cymru","coronafirws","COVID-19"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/","name":"Mae mudiad cenedlaethol dros newid gwleidyddol yn bosib - ac mae ei angen. - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/undod-rali-baner-caernarfon-2019.jpg","datePublished":"2020-05-25T10:57:00+00:00","dateModified":"2020-12-18T19:34:48+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/undod-rali-baner-caernarfon-2019.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/undod-rali-baner-caernarfon-2019.jpg","width":1600,"height":1067},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/25\/newid\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Mae mudiad cenedlaethol dros newid gwleidyddol yn bosib &#8211; ac mae ei angen."}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538","name":"Gohebydd","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","caption":"Gohebydd"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gohebydd\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/678","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=678"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/678\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1053,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/678\/revisions\/1053"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/453"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=678"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=678"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=678"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}