{"id":689,"date":"2020-05-26T19:35:21","date_gmt":"2020-05-26T18:35:21","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=689"},"modified":"2020-05-27T13:40:03","modified_gmt":"2020-05-27T12:40:03","slug":"pam-undod","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/","title":{"rendered":"Pam fyswn i isio mwydro efo rhywbeth gwleidyddol fel Undod?"},"content":{"rendered":"<p><em>Rhan o&#8217;r gyfres <a href=\"http:\/\/undod.cymru\/cy\/tag\/cam-nesaf-cymru\/\">Cam nesaf Cymru<\/a><\/em><\/p>\n<p>Dwi ddim am esgus nad ydw i&#8217;n berson gwleidyddol &#8211; mi ydw i. Dwi wedi bod erioed. Fel y mae fy nheulu ac fel y bydd fy mhlant yn tyfu i fod. Felly, mae&#8217;n hawdd i mi ddweud y dylai pawb fod \u00e2 diddordeb gweithredol mewn gwleidyddiaeth &#8211; os nad am unrhyw reswm arall na&#8217;r ffaith mai drwy wleidyddiaeth mae eraill yn rheoli ein bywydau. Dyma&#8217;r ffordd maen nhw&#8217;n ein rheoli ni. Efallai byddwch yn ymateb drwy ddweud \u2018Does neb yn fy rheoli i, dwi&#8217;n dewis yr hyn dwi isio pan dwi isio fo &#8211; mae&#8217;n wlad rydd&#8217; (gydag iaith ychydig yn fwy lliwgar o bosib).<\/p>\n<p>Mae&#8217;r ddau ddatganiad yn gywir. Rydym yn byw yn yr hyn a dybiwn i fod yn \u2018wlad rydd\u2019, ni sy&#8217;n dewis i bwy a rown ein pleidlais, ac os nad ydyn yn plesio wel allan a nhw tro nesa. Ond ai\u2019r gwirionedd yw mai dim ond o fewn y fframwaith a osodir gan gyfreithiau, rheolau, normau ac ymddygiad derbyniol yr ydym yn rhydd? Ai\u2019r gwir yw ein bod ni&#8217;n ddim ond yn rydd-<i>ish?<\/i><\/p>\n<p>Gallaf ddewis dechrau gweithio ar unrhyw adeg rhwng 8am a 10am oherwydd fod gen i drefniant gwaith hyblyg, cyn belled \u00e2 fy mod i&#8217;n gwneud fy oriau. Dwi&#8217;n teimlo mewn rheolaeth.<\/p>\n<p>Fe allwn i hefyd ddewis mynd i&#8217;r gwaith am 12yp a gadael am 12:30yp, fy newis i yw hynny &#8211; ond fyddai&#8217;m yn cadw fy swydd yn hir. Allwn ddewis mynd i&#8217;r archfarchnad yn fy nillad isaf neu noeth hyd yn oed, ond bydd pawb yn siarad amdanaf a bosib yn chwerthin arnaf yn fy nghymuned. Efallai bydd rhywun yn galw&#8217;r heddlu ac o bosibl gai&#8217;n neud am fod yn anweddus. Felly dwi ddim. Y peth ydi fydd hyn ddim yn dod i fewn i&#8217;n newisiadau wrth wisgo i fynd allan. Nid dillad neu ddim ond pa ddillad. Hyd yn oed wedyn, dwi&#8217;n dewis rhywbeth sy&#8217;n gymdeithasol dderbyniol o fewn fy hunaniaeth fy hun. Rwy&#8217;n teimlo fy mod wedi bod yn rhydd i wneud fy newis yngl\u0177n \u00e2 sut dwi&#8217;n edrych ac yn yr hyn a wisgaf, ond ydi hyn yn hollol gywir?<\/p>\n<p>Mewn gwirionedd mae ein rhyddid wedi&#8217;i gyfyngu gan gyfreithiau, rheolau, normau ac ymddygiadau derbyniol sy&#8217;n aml yn pennu pa ddewisiadau sy&#8217;n dod \u00e2 gwobrau a pha ddewisiadau sy&#8217;n debygol o fod yn broblemus. Wrth gwrs rydym yn derbyn fod rhai deddfau sylfaenol yn ddefnyddiol i annog pobl i beidio ymddwyn yn\u00a0 wrthgymdeithasol neu niweidiol. Fodd bynnag, gall deddfau fod yn anghyfiawn, ac mae&#8217;n aml yn wir fod llawer o normau&#8217;n ffafrio rhai pobl benodol a ddim eraill.<\/p>\n<p>Beth a wnelo hyn ag Undod? Mae rheolau, deddfau, normau, polis\u00efau, ymddygiad derbyniol, targedau a rheoliadau i gyd yn hyfryd cyhyd \u00e2&#8217;ch bod chi ar yr ochr iawn iddynt, ac mi ydw i\u2019n si\u0175r eich bod chi &#8211; nes bod chi ddim. Yn waeth na hynny efallai na fydd yn fai arnoch chi i chi beidio \u00e2 bod: efallai eich bod chi&#8217;n cael bargen wael oherwydd pwy ydych chi, beth ydych chi&#8217;n ei wneud, o ble rydych chi&#8217;n dod, pa mor &#8216;normal&#8217; ydych chi, pa mor hawdd rydych chi&#8217;n ffitio i mewn i&#8217;r brif ffrwd. A gadewch inni fod yn onest, y dyddiau hyn mae\u2019n ymddangos fod y \u2018brif ffrwd\u2019 yn mynd yn gulach gyda phob ton newydd o wallgofrwydd sy\u2019n amlyncu\u2019r ynysoedd yma.<\/p>\n<p>Chwyldro amdani felly!<\/p>\n<p>Mae&#8217;n ymddangos nad yw pobl wedi cyffroi gan y syniad hwn am ryw reswm &#8211; sy&#8217;n fy synnu, i fod yn onest. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn unig mae&#8217;n debyg fod posib hawlio dros <a href=\"https:\/\/www.bmj.com\/company\/newsroom\/health-and-social-care-spending-cuts-linked-to-120000-excess-deaths-in-england\/\">120,000 o farwolaethau i lymder<\/a> a dros <a href=\"https:\/\/www.ft.com\/content\/67e6a4ee-3d05-43bc-ba03-e239799fa6ab\">50,000<\/a> o farwolaethau Covid-19, gyda mwy i ddod. Mae pob un ohonynt yn farwolaethau gwleidyddol, pob teulu&#8217;n galaru am rai coll oherwydd dewisiadau gwleidyddol a pholis\u00efau penodol. Ar ben hyn mae gennym nyrsys, meddygon, gofalwyr, gyrwyr, parafeddygon, gweithwyr siop o bob math, glanhawyr, athrawon &#8211; pob un i\u2019w aberthu oherwydd dewisiadau a wnaed er mwyn y canlyniad \u2018gwleidyddol\u2019 gorau.<\/p>\n<p>Fe gyfrodd Llywodraeth Prydain pob p\u00e2r o fenig fel dwy uned o PPE, hunan-les gwleidyddol oedd hyn. Fe wnaethant ddal yn \u00f4l yn ormodol ar alw am gloi-lawr, fel y gwnaeth y llywodraeth yng Nghymru. Maent yn parhau i israddio gwerth ein bywydau i ba fudd bynnag sydd iddynt hwy a&#8217;u ffrindiau ym myd busnes, ond hefyd maent yn ein trin fel ffyliaid. Lle gallai fod wedi lliniaru mae disgwyliad i ni ddiolch am yr hyn a gawn yn wyneb marwolaeth, colled a&#8217;r trawma. A sbiwch ar y ffordd mae Boris Johnson yn amddiffyn ei gadfridog Dominic Cummings er iddo dorri reolau\u2019r cau mawr. Un set o reolau i ni, un arall iddyn nhw.<\/p>\n<p>Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig taliad ychwanegol o \u00a3500 i weithwyr gofal&#8230; neith \u00a3500 ddim prynu wythnos o wyliau i deulu o bedwar pan fydd hyn ar ben, ac yn sicr nid yw\u2019n ddigon i&#8217;w gwneud yn iawn fod pobl yn gorfod dewis rhwng mynd i&#8217;r gwaith, peryglu eu bywydau, bywydau eu teuluoedd neu&#8217;r posibilrwydd o golli eu swyddi.<\/p>\n<p>Yn waeth na hyn i bobl fwyaf gofalgar ein cymdeithas yw gorfod siomi&#8217;r t\u00eem a&#8217;u cleifion os nad ydyn nhw&#8217;n mynd i&#8217;r gwaith. Mae&#8217;n sylweddoliad o&#8217;r math gwaethaf pan welwn fod ein llywodraeth felly yn manteisio ar y bobl ofalgar hyn, ein gweithwyr rheng flaen. Y rhai lleiaf abl i ddewis peidio \u00e2 gweithio, y rhai sy&#8217;n gwneud y swyddi sydd fwyaf hanfodol i&#8217;n bywydau (ond na phoener, mae fy nwylo&#8217;n brifo o glapio ddydd Iau diwethaf &#8230; Mae fy pinkey, wel, yn binc o&#8217;r holl beth).<\/p>\n<p><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/clap-youtookthatwell.png\" \/><\/p>\n<p>Felly ai&#8217;r ateb yw gwleidyddiaeth = drwg ydyw? NA. Na, oherwydd i ddewis peidio \u00e2 bod yn wleidyddol sa\u2019 waeth deud \u2018Gwnewch beth bynnag a fynnoch gyda mi, fy mywyd, fy anwyliaid\u2019. Opsiwn peryg iawn gydag un o\u2019r llywodraethau fwyaf asgell dde er cof byw yn San Steffan. Yr hyn y mae&#8217;n rhaid i ni ei wneud yn y tymor byr yw ehangu&#8217;r brif ffrwd. Ei ehangu fel ein bod ni i gyd yn ffitio i mewn. Cydnabod pwy yw ein cynghreiriaid. Pwy sy&#8217;n sefyll gyda ni fel pobl, fel bodau dynol? Sut ydyn ni&#8217;n gwneud i&#8217;r realiti hwn weithio i ni i gyd? Y munud a wnawn gwelwn na fydd newid yn bosibl heb ymgysylltiad gwleidyddol, ac mae angen newid arnom, mae angen i&#8217;n bywydau ni fod o bwys i&#8217;r rhai sydd yn llywodraethu. Mae angen iddynt fod yn gwneud eu penderfyniadau ar sail yr hyn sydd orau i ni.<\/p>\n<p>Mae Undod yn ymladd dros Gymru annibynnol sy&#8217;n dod \u00e2 rheolaeth go iawn i bobl a chymunedau &#8211; dyma sut gawn ni newid. Dyma sut wnawn ni&#8217;n bywydau fod o bwys i&#8217;r rhai mewn llywodraeth: trwy ddod \u00e2&#8217;r llywodraeth honno&#8217;n agosach atom ni. Yn aml fydd Mam neu Nain i\u2019w clywed yn dweud \u2018Pwy mae&#8217;n perthyn i?\u2019 Dychmygwch os fysa&#8217;r rhai sy&#8217;n llywodraethu, sy&#8217;n dewis, mor agos atoch chi a&#8217;ch teulu a hyn. Dylent fod. Sa&#8217; modd gyrru Anti Pat o gwmpas i gael panad gyda&#8217;u Mam pan wnaethant rywbeth hurt \u2026<\/p>\n<p>Rwy\u2019n tynnu coes wrth gwrs, ond y pwynt ydi dyna pa mor agos yw ein cymunedau yma yng Nghymru a dyna beth ddylai gael ei adlewyrchu yn strwythurau gwleidyddol ein cymdeithas.<\/p>\n<p>Yn y cyfamser, gadewch inni ddelio \u00e2 datganoli. Gadewch inni fwrw ymlaen i wneud y newidiadau y gallwn er gwell. Rhaid peidio bod ofn, does dim angen i ni fod. Gadewch inni ddewis sut rydyn ni&#8217;n gwneud ein dewisiadau ein hunain. Gadewch inni feddwl am ein rheolau, deddfau, normau, polis\u00efau, targedau a rheoliadau a&#8217;u diwygio fel eu bod yn darparu fframwaith lle gall pobl wneud dewisiadau go iawn, lle maent yn rhydd mewn ystyr ystyrlon, a lle mae ansawdd eu bywyd yn cael ei wella. Yn bersonol, byddaf yn dal i bleidleisio yn erbyn siopa noeth, ond dyna&#8217;ch dewis chi.<\/p>\n<p>Mae Llywodraeth Cymru a 3.136 miliwn o bobl yn sefyll gyda nhw, ysgwydd i ysgwydd, yn barod iddynt fod yn ddewr, i sefyll gyda ni. Trwy Undod rydym yn codi&#8217;n lleisiau gyda&#8217;n gilydd. Rydyn ni&#8217;n dychmygu Cymru well heddiw fel y gallwn wireddu Cymru ni, yfory.<\/p>\n<p><em>Darlun gan <a href=\"http:\/\/youtookthatwell.com\">youtookthatwell<\/a><\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rhan o&#8217;r gyfres Cam nesaf Cymru Dwi ddim am esgus nad ydw i&#8217;n berson gwleidyddol &#8211; mi ydw i. Dwi wedi bod erioed. Fel y mae fy nheulu ac fel &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Pam fyswn i isio mwydro efo rhywbeth gwleidyddol fel Undod?&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":25,"featured_media":692,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[101,104],"class_list":["post-689","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-cam-nesaf-cymru","tag-llymder","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Pam fyswn i isio mwydro efo rhywbeth gwleidyddol fel Undod? - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Pam fyswn i isio mwydro efo rhywbeth gwleidyddol fel Undod? - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Rhan o&#8217;r gyfres Cam nesaf Cymru Dwi ddim am esgus nad ydw i&#8217;n berson gwleidyddol &#8211; mi ydw i. Dwi wedi bod erioed. Fel y mae fy nheulu ac fel &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Pam fyswn i isio mwydro efo rhywbeth gwleidyddol fel Undod?&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-05-26T18:35:21+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-05-27T12:40:03+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/clap-youtookthatwell.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1024\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1024\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Elin Hywel\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Elin Hywel\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"13 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/\"},\"author\":{\"name\":\"Elin Hywel\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/24363621340036abcf8d445bd9c27e11\"},\"headline\":\"Pam fyswn i isio mwydro efo rhywbeth gwleidyddol fel Undod?\",\"datePublished\":\"2020-05-26T18:35:21+00:00\",\"dateModified\":\"2020-05-27T12:40:03+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/\"},\"wordCount\":2781,\"commentCount\":1,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/clap-youtookthatwell.png\",\"keywords\":[\"Cam nesaf Cymru\",\"llymder\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/\",\"name\":\"Pam fyswn i isio mwydro efo rhywbeth gwleidyddol fel Undod? - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/clap-youtookthatwell.png\",\"datePublished\":\"2020-05-26T18:35:21+00:00\",\"dateModified\":\"2020-05-27T12:40:03+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/clap-youtookthatwell.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/clap-youtookthatwell.png\",\"width\":1024,\"height\":1024},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Pam fyswn i isio mwydro efo rhywbeth gwleidyddol fel Undod?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/24363621340036abcf8d445bd9c27e11\",\"name\":\"Elin Hywel\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8d5f0d5c96f0cde2658bd4faa4f8080cebfbcfa2b84f75a93b4c0d7c245d8428?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8d5f0d5c96f0cde2658bd4faa4f8080cebfbcfa2b84f75a93b4c0d7c245d8428?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8d5f0d5c96f0cde2658bd4faa4f8080cebfbcfa2b84f75a93b4c0d7c245d8428?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Elin Hywel\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/elinhywel\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Pam fyswn i isio mwydro efo rhywbeth gwleidyddol fel Undod? - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Pam fyswn i isio mwydro efo rhywbeth gwleidyddol fel Undod? - undod","og_description":"Rhan o&#8217;r gyfres Cam nesaf Cymru Dwi ddim am esgus nad ydw i&#8217;n berson gwleidyddol &#8211; mi ydw i. Dwi wedi bod erioed. Fel y mae fy nheulu ac fel &hellip; Parhau i ddarllen \"Pam fyswn i isio mwydro efo rhywbeth gwleidyddol fel Undod?\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-05-26T18:35:21+00:00","article_modified_time":"2020-05-27T12:40:03+00:00","og_image":[{"width":1024,"height":1024,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/clap-youtookthatwell.png","type":"image\/png"}],"author":"Elin Hywel","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Elin Hywel","Est. reading time":"13 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/"},"author":{"name":"Elin Hywel","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/24363621340036abcf8d445bd9c27e11"},"headline":"Pam fyswn i isio mwydro efo rhywbeth gwleidyddol fel Undod?","datePublished":"2020-05-26T18:35:21+00:00","dateModified":"2020-05-27T12:40:03+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/"},"wordCount":2781,"commentCount":1,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/clap-youtookthatwell.png","keywords":["Cam nesaf Cymru","llymder"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/","name":"Pam fyswn i isio mwydro efo rhywbeth gwleidyddol fel Undod? - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/clap-youtookthatwell.png","datePublished":"2020-05-26T18:35:21+00:00","dateModified":"2020-05-27T12:40:03+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/clap-youtookthatwell.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/clap-youtookthatwell.png","width":1024,"height":1024},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/26\/pam-undod\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Pam fyswn i isio mwydro efo rhywbeth gwleidyddol fel Undod?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/24363621340036abcf8d445bd9c27e11","name":"Elin Hywel","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8d5f0d5c96f0cde2658bd4faa4f8080cebfbcfa2b84f75a93b4c0d7c245d8428?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8d5f0d5c96f0cde2658bd4faa4f8080cebfbcfa2b84f75a93b4c0d7c245d8428?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8d5f0d5c96f0cde2658bd4faa4f8080cebfbcfa2b84f75a93b4c0d7c245d8428?s=96&d=mm&r=g","caption":"Elin Hywel"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/elinhywel\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/689","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/25"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=689"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/689\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":702,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/689\/revisions\/702"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/692"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=689"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=689"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=689"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}