{"id":703,"date":"2020-05-29T16:41:34","date_gmt":"2020-05-29T15:41:34","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=703"},"modified":"2020-07-13T14:14:12","modified_gmt":"2020-07-13T13:14:12","slug":"caernarfon","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/","title":{"rendered":"Prynu&#8217;n lleol: gwersi o Gaernarfon ar gynaladwyedd cymuned"},"content":{"rendered":"<p><em>Rhan o&#8217;r gyfres <a href=\"http:\/\/undod.cymru\/cy\/tag\/cam-nesaf-cymru\/\">Cam nesaf Cymru<\/a><\/em><\/p>\n<p>Flwyddyn yn \u00f4l, roedd pawb yn dotio at yr ambarels lliwgar yn Stryd y Plas, nid am ei bod yn tresio bwrw, ond am ei bod yn ddiwrnod heluog, braf. Dyma&#8217;r syniad diweddaraf gan y stryd i&#8217;w gwneud yn fwy dengar. Yn wir, ar benwythnos yr \u0174yl Fwyd ar ail Sadwrn Mai, roedd mil a mwy o bobl yn mwynhau y dref fwyaf Cymreig yn y byd.<\/p>\n<p>I&#8217;r sawl nad yw yn gyfarwydd \u00e2&#8217;r lle, er ei bod yn stryd ddigon cartrefol, mae ar y brif lwybr twristaidd, o Ganolfan Galeri a&#8217;r Harbwr tuag at y Castell. Falle i chi ei gweld ar bennod yr Arwisgo yng nghyfres The Crown, yn edrych yn go wahanol efo Iwnion Jacs dros y lle.<\/p>\n<p>Beth sydd yn ei gwneud yn stryd mor ddengar? Y nifer uchel o siopau annibynnol mae&#8217;n debyg, a&#8217;r hyn sydd yn dda yw eu bod dan berchnogaeth leol. Tra bod strydoedd drwy Brydain gweld edwino yn y nifer o siopau, mae Stryd y Plas, Caernarfon wedi gweld cynnydd yn nifer y siopau yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.\u00a0 Dyma stryd sy\u2019n adleisio llwyddiannau pentrefi a threfu eraill yng Nghymru sydd wedi adeiladu ar fusnesau lleol ac ymdeimlad o berthyn, ac sy\u2019n gosod glasbrint ar gyfer adnewyddu cymunedau hyd a lled y wlad; meddyliwch yn arbennig am lwyddiant <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/cymrufyw\/51268708\">Treorci<\/a> wrth ennill cystadleuaeth stryd fawr y flwyddyn yn 2019.<\/p>\n<p>Gan na allwn ymweld \u00e2&#8217;r fan ar hyn o bryd, dewch am dro rhithiol gyda mi.<\/p>\n<p>Dros y ffordd i&#8217;r castell, mae tafarn Pen Deitsh, sydd efo traddodiad maith o dorri syched teithwyr, a dros y ffordd mae siop hufen ia liwgar. Bonta Deli sydd nesa, deli o safon uchel a chaffi bach i fyny&#8217;r grisiau. Dros y ffordd mae Petalau Pert sy&#8217;n siop fechan yn gyforiog efo blodau, a T\u0177 Siocled drws nesaf, &#8211; nefoedd i&#8217;r rhai sydd efo dant melys <i>(hon &#8216;di symud?)<\/i>. Dileit y crefftwyr yw&#8217;r siop wl\u00e2n dros ffordd, Habadash, a lliwiau&#8217;r gwl\u00e2n yn cystadlu efo&#8217;r blodau. Yna, os am rhywbeth i&#8217;w fwyta, piciwch i&#8217;r Becws, am baned neu dorth o fara. Mae siop Lotti &amp; Wren yn siop grandiach, yn cynnig yr anrheg arbennig hwnnw y buoch yn chwilio amdano, a drws nesaf mae&#8217;r siop lyfrau orau yng Nghymru yn \u00f4l Jon Gower ac Onllwyn &#8211; Palas Print (sydd hefyd yn gartref i swyddfa Cymdeithas yr Iaith a&#8217;r pensaer Sel Jones). Os am anrheg cwbl unigryw, ewch i Siop Manon, sy&#8217;n cynnig deunydd &#8216;vintage&#8217; gwahanol, ac mae siop enwog Iard yn gwerthu tlysau Ann Catrin ac Angela Evans (a luniodd y Goron yn Eisteddfod 2019). Lluniau a werthir yn Panorama, ac erbyn i chi gael hufen ia yn Scoops, mae&#8217;n amser am rhywbeth bach i&#8217;r fwyta yn Wal. Ia, hawdd fyddai treulio bore cyfan dim ond yn crwydro Stryd y Plas. Pan mae hi&#8217;n braf, mae naws gyfandirol yn perthyn i&#8217;r stryd arbennig hon.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-705\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/papur-ty-bach.jpg\" alt=\"\" width=\"1200\" height=\"899\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/papur-ty-bach.jpg 1200w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/papur-ty-bach-300x225.jpg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/papur-ty-bach-1024x767.jpg 1024w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/papur-ty-bach-768x575.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1200px) 100vw, 1200px\" \/><\/p>\n<h2>Effaith Covid-19<\/h2>\n<p>Bellach, a ninnau yng nghanol pandemig, sut mae hi ar Stryd y Plas bellach, un o&#8217;r strydoedd mwyaf poblogaidd yn nhref y Cofis?<\/p>\n<p>Mae&#8217;r rhan fwyaf o&#8217;r siopau wedi sylweddoli ers stalwm na fydde yr un siop yn gallu goroesi ar ei phen ei hun, ac mae cydweithredu iach wedi bodoli ers stalwm. Mae&#8217;r argyfwng yma wedi cryfhau&#8217;r cydweithrediad hwn ymysg nifer o fusnesau&#8217;r stryd a thu hwnt.<\/p>\n<p>Ar y dydd Sadwrn cyn y cau mawr, cytunodd saith busnes yn y stryd (yr enwau mewn bold) na fyddent yn agor ar y dydd Llun canlynol. Er gwaetha&#8217;r rhagofalon, y teimlad cyffredinol oedd y byddai siopau ar agor yn creu ffug synnwyr o normalrwydd. Sut felly oedd dal ati? Bu trafod mawr a oedd hi&#8217;n iawn neu&#8217;n saff i werthu ar lein, dros y ff\u00f4n neu drwy&#8217;r cyfryngau cymdeithasol. Y casgliad oedd ei bod yn bwysig darparu gwasanaeth i gwsmeriaid, gan gynnwys pobl h\u0177n, heb anghofio&#8217;r ffaith fod <i>cwsmeriaid eisiau cefnogi busnesau lleol sy&#8217;n rhan bwysig o&#8217;r economi leol<\/i>.<\/p>\n<p>O ganlyniad i&#8217;r cyd-weithio hwn, dydi pleserau Stryd y Plas heb lwyr ddiflannu. Falle na allwch gerdded ar ei hyd, ond gallwch gael gafael ar y nwyddau. Gallwch flasu danteithion Bonta Deli, neu archebu hamper hyd yn oed dros y W\u00ea. Does dim angen dal eich dwylo mewn diflastod, archebwch lyfr o Palas Print neu wl\u00e2n o Habedash. Os daw penblwydd neu ddathliad arbennig, mae Lotti &amp; Wren a Siop Manon i gyd yn cynnig gwasanaeth ar lein, os na chawsoch gyfle i brynu planhigion, mae Petalau Pert yn gallu danfon blodau. Falle i chi fanteisio ar y Caethfyd i beintio ac addurno&#8217;r t\u0177, ac eisiau llun i&#8217;w roi ar y wal \u2013 mi wnaiff Geraint Panorama wneud yn siwr y bydd yn ateb y gofyn.<\/p>\n<p>O ran dosbarthu&#8217;r nwyddau, y ffordd saffaf yw eu derbyn drwy&#8217;r post. I&#8217;r sawl sy&#8217;n byw yn ddigon agos, mae&#8217;r siopau yn fodlon danfon y nwyddau. Mae gan Palas Print system dda, maent yn cludo llyfrau i bentrefi cyfagos unwaith yr wythnos, ac os oes digon o archebion, maent yn barod i ddosbarthu ar ran busnesau eraill. Arweiniodd hyn at eraill mewn strydoedd cyfagos yn dangos diddordeb mewn cydweithio. Un ohonynt yw&#8217;r siop ddi-blastig a agorodd ddiwedd llynedd \u2013 Y Glorian, ar y Maes. Gallwch gael deliferis diddorol \u2013 cofiant O.M. Edwards efo lentils, neu gopi o Barn efo hylif golchi llestri a dipyn o diwmeric! Beth fyddai eich archeb ddelfrydol chi?<\/p>\n<h2>Creu yr amodau i alluogi, hwyluso a chefnogi siopau<\/h2>\n<p>Y gobaith yw y bydd y cydweithio yn cryfhau. Mae perchnogion siopau Stryd y Plas wedi hen sylweddoli na fydd pethau yn mynd yn \u00f4l i sut oeddent cynt. Ond fe ddaru nhw wrthod digalonni. Wrth gwrs fod bosib cael cant a mil o bethau ar Amazon, ond mae nifer cynyddol o bobl yn troi eu cefnau ar y farchnad fudr hon. Pwy gebyst sydd eisiau cefnogi cwmni sy&#8217;n camdrin eu gweithwyr?<\/p>\n<p>Na, mae yna fanteision hir-dymor i gefnogi busnesau lleol. Mi gewch chi sgwrs gl\u00ean ar y ff\u00f4n yn un peth, a gwasanaeth personol. Mi gewch bobl sy&#8217;n fodlon mynd yr ail filltir. Ac wedi cael danteithion Stryd y Plas ar garreg eich drws, drwy&#8217;r post, neu ymweliad personol, gallwch gysgu&#8217;n fwy dedwydd gan wybod fod y gymuned yn elwa, bod eich arian yn aros o fewn yr economi leol ac o fewn Cymru &#8211; a bod trethi\u2019n cael eu talu yma hefyd.<\/p>\n<p>Gweithred cadarnhaol yw prynu\u2019n lleol felly &#8211; yn weithred gwleidyddol hyd yn oed. Mae gymaint a hynny\u2019n amlwg pan fo\u2019r Blaid Genedlaethol yn galw ar bobl i brynu cynnyrch Cymreig.\u00a0 Ond mae angen meddwl yn amgenach na bwyd, ac mae yna fesurau y gall sefydliadau a llywodraeth leol a chenedlaethol cymryd er mwyn cefnogi busnesau a chwsmeriaid wrth gadw pethau\u2019n lleol.<\/p>\n<p>Un mesur fyddai o gymorth mawr a hynny ydi diwygio treth busnes fel ei fod yn cael ei asesu ar sail trosiant neu elw busnes (fel rhyw treth incwm busnes). A sut bod gwerth ardrethol (mesur ar gyfer gwerth eiddo sy\u2019n sail i drethi busnes) wedi bod yn codi er bod y stryd fawr mewn trafferthion? Mae hyn yn sicrhau bod lefel y rhent yn uchel, sydd er budd buddsoddwyr mawr yn unig. Canlyniad hyn yn y pen draw yw bod llywodraeth Cymru yn gorfod sybsideiddio y taliadau dreth (fel bod busnesau&#8217;n gallu fforddio talu&#8217;r dreth).<\/p>\n<p>Mae caffael yn faes arall &#8211; un sy\u2019n gofyn newid diwylliant ymysg ein sefydliadau gymaint a newid gan ein gwleidyddion. Un o\u2019r meini tramgwydd amlwg fan hyn yw\u2019r ymgyrch <a href=\"https:\/\/www.gwerthwchigymru.llyw.cymru\/\">Sell2Wales<\/a> sydd o\u2019i hanfod yn milwrio yn erbyn amcan yr economi sylfaenol, trwy geisio denu cwmniau o du allan i gynnig am tendrau a chytundebau gan y sector cyhoeddus yng Nghymru. Ddylai cyngorau a chyrff cyhoeddus bod yn edrych i brynu&#8217;n lleol am resymau budd yr economi leol, rhanbarth a chenedlaethol.<\/p>\n<p>Dameg o\u2019r stori ehangach yw hanes siop a busnes nwyddau ag offer swyddfa sydd wedi gorfod cau ym Mangor &#8211; lle nad oedd prin dim archebion yn dod o&#8217;r cynghorau na&#8217;r brifysgol. Does dim syndod nad oes siop lyfrau ym Mangor pan nad yw\u2019r brifysgol yn archebu unrhyw lyfrau o fusnesau yn lleol. Mae\u2019n debyg bod pob archeb gan y llyfrgell neu ar ran darlithwyr yn cael ei osod i consortiwm, sydd wrth gwrs y tu allan i Gymru. A hyn tra bod Swyddog Caffael o\u2019r Brifysgol yn nodi bod yn rhaid diogelu arian cyhoeddus ac o fewn dim yn nodi eu bod hefyd yn prynu o Amazon!<\/p>\n<p>Ydyn, mae penderfyniadau gan reiny sydd yn arwain ein cymdeithas ac sydd yn rheoli ein sefydliadau mawrion yn allweddol wrth gynnal busnesau lleol, ledled y wlad.\u00a0 Ac heb newid y penderfyniadau hynny, anos o lawer fydd hi i wireddu amcanion economaidd ac amgylcheddol rydym i fod yn ymrwymiedig iddynt yma yng Nghymru. Yn sicr, pan fydd cyfle i droedio dan ambarels lliwgar Stryd y Plas unwaith eto, bydd y bobl leol yn falch iddynt wneud eu rhan i gadw&#8217;r stryd arbennig hon rhag diflannu. Cawn obeithio nawr y bydd ein harweinwyr hefyd yn gwneud eu rhan.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rhan o&#8217;r gyfres Cam nesaf Cymru Flwyddyn yn \u00f4l, roedd pawb yn dotio at yr ambarels lliwgar yn Stryd y Plas, nid am ei bod yn tresio bwrw, ond am &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Prynu&#8217;n lleol: gwersi o Gaernarfon ar gynaladwyedd cymuned&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":26,"featured_media":704,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[106,31,56,101,83],"class_list":["post-703","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-amazon","tag-bangor","tag-caernarfon","tag-cam-nesaf-cymru","tag-covid-19","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Prynu&#039;n lleol: gwersi o Gaernarfon ar gynaladwyedd cymuned - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Prynu&#039;n lleol: gwersi o Gaernarfon ar gynaladwyedd cymuned - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Rhan o&#8217;r gyfres Cam nesaf Cymru Flwyddyn yn \u00f4l, roedd pawb yn dotio at yr ambarels lliwgar yn Stryd y Plas, nid am ei bod yn tresio bwrw, ond am &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Prynu&#8217;n lleol: gwersi o Gaernarfon ar gynaladwyedd cymuned&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-05-29T15:41:34+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-07-13T13:14:12+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/ymbarels.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1200\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Sel Jones\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Sel Jones\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"15 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/\"},\"author\":{\"name\":\"Sel Jones\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/a89c3e1d1326a0086adc926a8a516dda\"},\"headline\":\"Prynu&#8217;n lleol: gwersi o Gaernarfon ar gynaladwyedd cymuned\",\"datePublished\":\"2020-05-29T15:41:34+00:00\",\"dateModified\":\"2020-07-13T13:14:12+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/\"},\"wordCount\":3161,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/ymbarels.jpg\",\"keywords\":[\"Amazon\",\"Bangor\",\"Caernarfon\",\"Cam nesaf Cymru\",\"COVID-19\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/\",\"name\":\"Prynu'n lleol: gwersi o Gaernarfon ar gynaladwyedd cymuned - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/ymbarels.jpg\",\"datePublished\":\"2020-05-29T15:41:34+00:00\",\"dateModified\":\"2020-07-13T13:14:12+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/ymbarels.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/ymbarels.jpg\",\"width\":1200,\"height\":800},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Prynu&#8217;n lleol: gwersi o Gaernarfon ar gynaladwyedd cymuned\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/a89c3e1d1326a0086adc926a8a516dda\",\"name\":\"Sel Jones\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/658df0591f3563f676eedefa4a228af8946383a7c953a39c4282051f1cecff14?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/658df0591f3563f676eedefa4a228af8946383a7c953a39c4282051f1cecff14?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/658df0591f3563f676eedefa4a228af8946383a7c953a39c4282051f1cecff14?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Sel Jones\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/seljones\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Prynu'n lleol: gwersi o Gaernarfon ar gynaladwyedd cymuned - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Prynu'n lleol: gwersi o Gaernarfon ar gynaladwyedd cymuned - undod","og_description":"Rhan o&#8217;r gyfres Cam nesaf Cymru Flwyddyn yn \u00f4l, roedd pawb yn dotio at yr ambarels lliwgar yn Stryd y Plas, nid am ei bod yn tresio bwrw, ond am &hellip; Parhau i ddarllen \"Prynu&#8217;n lleol: gwersi o Gaernarfon ar gynaladwyedd cymuned\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-05-29T15:41:34+00:00","article_modified_time":"2020-07-13T13:14:12+00:00","og_image":[{"width":1200,"height":800,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/ymbarels.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Sel Jones","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Sel Jones","Est. reading time":"15 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/"},"author":{"name":"Sel Jones","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/a89c3e1d1326a0086adc926a8a516dda"},"headline":"Prynu&#8217;n lleol: gwersi o Gaernarfon ar gynaladwyedd cymuned","datePublished":"2020-05-29T15:41:34+00:00","dateModified":"2020-07-13T13:14:12+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/"},"wordCount":3161,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/ymbarels.jpg","keywords":["Amazon","Bangor","Caernarfon","Cam nesaf Cymru","COVID-19"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/","name":"Prynu'n lleol: gwersi o Gaernarfon ar gynaladwyedd cymuned - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/ymbarels.jpg","datePublished":"2020-05-29T15:41:34+00:00","dateModified":"2020-07-13T13:14:12+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/ymbarels.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/ymbarels.jpg","width":1200,"height":800},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/29\/caernarfon\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Prynu&#8217;n lleol: gwersi o Gaernarfon ar gynaladwyedd cymuned"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/a89c3e1d1326a0086adc926a8a516dda","name":"Sel Jones","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/658df0591f3563f676eedefa4a228af8946383a7c953a39c4282051f1cecff14?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/658df0591f3563f676eedefa4a228af8946383a7c953a39c4282051f1cecff14?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/658df0591f3563f676eedefa4a228af8946383a7c953a39c4282051f1cecff14?s=96&d=mm&r=g","caption":"Sel Jones"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/seljones\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/703","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/26"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=703"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/703\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":901,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/703\/revisions\/901"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/704"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=703"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=703"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=703"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}