{"id":739,"date":"2020-06-08T19:08:16","date_gmt":"2020-06-08T18:08:16","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=739"},"modified":"2020-06-28T11:52:22","modified_gmt":"2020-06-28T10:52:22","slug":"diwedd-ffermio","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/","title":{"rendered":"Diwedd ffermio Cymreig?"},"content":{"rendered":"<p>Wrth i&#8217;r byd wynebu pandemig byd-eang sydd yn deillio o gynhyrchu bwyd mewn modd anniogel, gallech feddwl y byddai diogelwch bwyd yn uchel ar yr agenda wleidyddol.<\/p>\n<p>Yn yr un modd, wrth i nifer o wledydd ymbaratoi at brinder bwyd, yn sgil effaith Covid-19 ar gadwyni cyflenwi cynnyrch a llafur byd-eang, gallech ddisgwyl, efallai, y byddai llywodraeth San Steffan yn blaenoriaethu diogeledd bwyd ac yn gwarchod cynhyrchu bwyd yn lleol. Ond na, fe ymddengys, wrth i Aelodau Seneddol \u2013 gan gynnwys pob AS Toriaidd Cymru, yn ddi-hid o&#8217;u haddewidion dros ffermwyr neu o gynnwys eu hymgyrchoedd etholiadol \u2013 wrthod newidiadau i&#8217;r Bil Amaeth a fyddai&#8217;n gwarchod ffermwyr a defnyddwyr y DU rhag fewnforion o safon is.<\/p>\n<p>A&#8217;r penawdau&#8217;n s\u00f4n am ddim byd ond coronafeirws, cafodd y gwrthwynebiad i&#8217;r newidiadau prin dim sylw y tu allan i&#8217;r wasg amaethyddol. Mae&#8217;r Bil bellach wedi pasio ei drydydd darlleniad yn Nh\u0177&#8217;r Cyffredin, a T\u0177&#8217;r Arglwyddi yw&#8217;r unig rwystr sy&#8217;n weddill cyn iddo droi&#8217;n gyfraith.<\/p>\n<p>Beth yw goblygiadau hyn i ddyfodol ffermio Cymreig? Ac yn bwysicach, beth allwn ni wneud amdano?\u00a0<\/p>\n<h2>R\u00e2s i&#8217;r gwaelod<\/h2>\n<p>Mae&#8217;r Bil Amaeth yn ymgais byrbwyll i dawelu&#8217;r UDA ac i osgoi cynnydd sydyn mewn prisiau bwyd o ganlyniad i Brexit. Mae goblygiadau ei basio heb newidiadau ym mhob maes polisi arall yn ddifrifol. O safbwynt lles anifeiliaid, mae&#8217;r diffyg newidiadau yn golygu ein bod ni, i bob pwrpas, wedi rhoi&#8217;r gorau i unrhyw wrthwynebiad ystyrlon i arferion creulon a pheryglys da byw ym Mhrydain, wedi Brexit. Bydd hyn yn caniat\u00e1u mewnforio cyw i\u00e2r wedi&#8217;i glorineiddio, un o&#8217;r cynhyrchion prin sydd wedi dal sylw&#8217;r cyhoedd Prydeinig, fel canlyniad negyddol i drafodaethau masnach Brexit.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r rheswm y caiff ieir yr UDA eu trochi mewn clorin diocsid cyn cael eu bwyta yn llai hysbys, fodd bynnag: mae ieir sydd wedi&#8217;u cludo&#8217;n fyw mewn caetsys am 28 awr yn methu symud (i gymharu \u00e2 12 awr yr Undeb Ewropeaidd) wedi&#8217;u gorchuddio i&#8217;r fath raddau \u00e2 charthion erbyn iddynt gael eu difa, mae eu carcasau yn llawn salmonella a meicro-organyddion niweidiol eraill.<\/p>\n<p>Ni allwn wahanu pryderon dros les anifeiliad oddi wrth y bygythiad ehangach i iechyd y cyhoedd a ddaw o gynhyrchu cig yn arddwys, wedi&#8217;i yrru gan elw yn unig.<\/p>\n<p>Mae mewnblaniadau hormonau mewn gwartheg \u2013 wedi&#8217;u gwahardd gan yr UE ond yn gyffredin yn yr UDA \u2013 wedi&#8217;u cysylltu \u00e2 nifer o sg\u00eel-effeithiau iechyd niweidiol yn yr anifeiliaid eu hunain: mastitis, anhwylderau esgyrnol, a diffyg rheoli gwres. Mae&#8217;r sg\u00eel-effeithiau hyn yn boenus ac yn achosi gofid i&#8217;r anifeiliaid, ac maent yn arwain at raddfa uwch o ddifa mewn gwartheg llaeth sydd wedi&#8217;u trin \u00e2 hormonau.<\/p>\n<p>Y rheswm dros waharddiad yr UE, fodd bynnag \u2013 rheswm sydd wedi&#8217;i gydnabod gan Sefydliad Masnach y Byd \u2013 yw&#8217;r cysylltiad ymddangosiadol rhwng gwartheg wedi&#8217;u trin \u00e2 hormonau a chansr yn y bobl sy&#8217;n defnyddio&#8217;r cynnyrch. Mae safonau hylendid is wrth fagu a difa anifeiliaid hefyd yn cynnig risg sylweddol i&#8217;r cyhoedd; fel y dywedodd Simon Dawson (uwch-ddarlithydd mewn gwyddoniaeth bwyd a thechnoleg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd) wrth y Big Issue ym mis Mai y llynedd, \u201cYou are currently seven times more likely to get food poisoning in the US than the UK.\u201d<\/p>\n<p>Mae dulliau ffermio arddwys, a&#8217;r cig artiffisial o rad (sydd felly&#8217;n cael ei or-ddefnyddio) y mae&#8217;r dulliau hyn yn ei gynhyrchu hefyd yn achosi bygythiad arwyddocaol i&#8217;n hamgylchedd drwy eu cyfraniad at newid hinsawdd, a&#8217;r difrod i gynefinoedd a&#8217;r bioamrywiaeth a geir yn y cynefinoedd hynny. Mae hyn yn arbennig o hurt yng nghyd-destun y gwelliannau i gymorthdaliadau ffermio a ddaw yn sgil Brexit. O dan gynlluniau newydd y DU, ni fydd ffermwyr yn cael cymhorthdal am weithio&#8217;r tir yn unig, ond am gyflenwi cynnyrch cyhoeddus \u2013 atafaelu carbon mewn coed a thir, tyfu blodau sy&#8217;n annog peillwyr, ac ehangu mynediad y cyhoedd at gefn gwlad. Croesewir y penderfyniad hwn, sy&#8217;n anarferol o flaengar, ond caiff ei danseilio&#8217;n sylweddol gan y ffaith y bydd y Bil yn caniat\u00e1u mewnforion rhad, wedi&#8217;u cynhyrchu heb unrhyw ystyriaeth am y cyhyrchion cyhoeddus hyn, gan werthu&#8217;n rhatach na ffermwyr Prydeinig.\u00a0<\/p>\n<h2>Ffermio ar \u00f4l Brexit<\/h2>\n<p>Bydd y nifer dirfawr o fewnforion rhad o dramor yn cael effaith ddinistriol ar ffermio&#8217;r DU. Wedi&#8217;u cynhyrchu at gost amhosib o rad i ffermwyr Prydeinig (bydd yn dal i orfod glynu at gyfreithiau&#8217;r DU), bydd y cynhyrchion hyn yn boddi marchnad ddomestig y DU, mewn cyfnod pan fydd allforion eisoes yn lleihau. Wrth i&#8217;r llywodaeth Geidwadol wrthod ymestyn trafodaethau gyda&#8217;r UE, ymddengys eu bod yn gweithio yn fwyfwy tuag at Brexit heb gytundeb. Mae&#8217;n anodd asesu effaith economaidd Brexit heb gytundeb yn ystod y cwymp byd-eang digyffelyb presennol, sydd yn esboniad posib dros safbwynt benderfynol y DU i wrthod estyniad: gwell claddu effaith economaidd Brexit heb gytundeb dan ddirwasgiad Covid-19 a chadw&#8217;r ergydion dilynol yn gynnar yn y cylch etholiadol. Wedi dweud hyn, nid yw&#8217;r rhagfynegion a wnaed cyn argyfwng coronafeirws yn galonogol chwaith. Yn \u00f4l canolfan Anderson, disgwylir cwymp o 18% i fuddioldeb ffermio&#8217;r DU mewn Brexit heb gytundeb, sef colled o \u00a3850 miliwn i&#8217;r diwydiant.<\/p>\n<p>Bydd Cymru yn cael ei effeithio&#8217;n arbennig o wael gan Brexit heb gytundeb a mewnforion heb gyfyngiadau ill dau. Yn \u00f4l adroddiad gan Lywodraeth Cymru o 2019, mae amaethyddiaeth yn cynrychioli 0.8% o Werth Ychwanegol Gros (<i>Gross Value Added<\/i>, neu GVA) i&#8217;r economi Gymreig, 30% yn uwch na&#8217;r cyfartaledd Prydeinig, sef 0.6%. Yn 2018, roedd amaethyddiaeth, coedwigaeth, a physgota yn cynrychioli 3.2% o swyddi&#8217;r gweithlu yng Nghymru, i gymharu ag 1.1% ar gyfartaledd ym Mhrydain gyfan.<\/p>\n<p>O&#8217;r tir amaethyddol yng Ngymru, mae 80% wedi&#8217;i ddyfarnu gan yr UE yn Ardal Llai Ffafriol (sydd \u00e2 photensial cynhyrchu is) oherwydd ein gormodedd o dir mynydd a glaw. O ganlyniad i hyn, mae ffermio defaid yn cynrychioli cyfran uwch o&#8217;n sector amaethyddol ni yma nag yn y DU yn gyffredinol. Cig defaid Prydeinig yw un o&#8217;r sectorau fydd yn cael ei effeithio waethaf gan Brexit heb gytundeb, gyda chwymp o 24% i brisiau. Golyga hyn ostyngiad yng ngwerth yr allbwn \u2013 hynny yw, i incwm ffermwyr \u2013 o 37%. Mewn gwlad fel Cymru, lle mae ffermydd yn dueddol o fod yn rhai bach, teuluol, ni ellir goroesi hyn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r realiti i gymunedau ffermio Cymreig sy&#8217;n wynebu&#8217;r colledion hyn yn fwy llwm fyth na&#8217;r darlun a geir uchod. Er bod amaethyddiaeth yn cynrychioli cyfran fach o&#8217;r allbwn cenedlaethol, mae&#8217;n cyfrannu&#8217;n fawr i&#8217;r economi drwy wariant canolraddol (e.e. bwyd, peirianneg, gwasanaethau milfeddygol). Mae ffermydd Cymru yn cynnal rhwydweithiau o ddiwydiannau annibynnol yn ogystal \u00e2 bywoliaethau&#8217;r ffermwyr eu hunain. Gan ystyried y crynhoad rhanbarthol o swyddi amaethyddol \u2013 dros 12% o swyddi yng Ngheredigion a Phowys \u2013 bydd cwymp ffermio Cymreig yn dinistro cymunedau gwledig.\u00a0<\/p>\n<h2>Colli anian<\/h2>\n<p>Mae&#8217;n amhosib cyfleu galar a cholled cwymp ffermydd bychan yng Nghymru drwy restru ystadegau yn unig. Wrth i ddiweithdra godi, gwelwn bobl ifanc ardaloedd gwledig Cymru yn mudo i&#8217;r dinasoedd ac i Loegr ar raddfa gyflymach fyth. Cymunedau sy&#8217;n heneiddio fydd yn weddill, yn dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus tila. Dangosodd etholiad 2019 yn glir y dicter a&#8217;r wleidyddiaeth adweithiol y mae&#8217;r ardaloedd gadawedig hyn yn eu meithrin: y seddi hynny a newidiodd i&#8217;r Ceidwadwyr am y tro cyntaf oedd y rheiny ag oedran uchaf y boblogaeth ar gyfartaledd.<\/p>\n<p>O&#8217;r ffermydd a wnaeth gais am gynlluniau amaeth llywodraeth Cymru yn 2019, 52% yn unig oedd yn berchen ar yr holl dir yr oeddent yn ei ffermio. I ffermwyr tenant, sy&#8217;n aml \u00e2 chytundebau tenantiaeth yn amodol ar ennill cyfran benodol o&#8217;u hincwm ar y fferm, bydd colli eu diwydiant hefyd yn golygu colli eu cartrefi. Bydd tir sydd wedi cael ei weithio ers degawdau, neu ganrifoedd hyd yn oed, gan aeloedau o un teulu, yn cael ei drosglwyddo i gorfforaethau ffermio. Bydd y chwedlau, traddodiadau a defodau sy&#8217;n byw yn y tir y maent yn ei weithio yn mynd yn angof, fel gymaint o hunaniaeth Cymru.<\/p>\n<p>Efallai mai ar yr iaith Gymraeg fydd yr effaith fwyaf. Nifer bychan o ardaloedd sydd ar \u00f4l yng Nghymru lle gallwn ddweud bod yr iaith wir yn fyw yn yr ystyr o fod yn iaith bywyd bob dydd. Mae&#8217;r rhan fwyaf o&#8217;r ardaloedd hyn yn gymunedau gwledig \u2013 cymunedau amaethyddol. Mae&#8217;n anodd i&#8217;r rheiny sy&#8217;n byw y tu allan i&#8217;r ardaloedd hynny ddirnad byd lle nad Saesneg yw&#8217;r norm, lle mae arwerthiannau c\u0175n defaid yn nodi ar y rhaglen pa iaith y mae&#8217;r c\u0175n yn ei ddeall. Mae ffermio yn cadw&#8217;r byd hwn yn fyw. Mae&#8217;r iaith Gymraeg ei hun wedi&#8217;i gwreiddio mewn amaethyddiaeth, \u00e2 geirfa dibendraw ganddi i ddisgrifio nodweddion y tir. Os caiff y cymunedau sy&#8217;n dal i ddefnyddio&#8217;r eirfa hon eu dinistrio, yna bydd y geiriau, a&#8217;r bydolwg maent yn ei gynnal, yn olion \u2013 yn enwau llefydd na fyddwn bellach yn eu deall.<\/p>\n<h2>Y ffordd ymlaen?<\/h2>\n<p>Sut gall ffermio Cymreig oroesi&#8217;r argyfyngau anochel sy&#8217;n ei wynebu? Sut allwn osgoi&#8217;r argyfyngau nad ydynt yn anorfod? Ceir isod restr, ymhell o fod yn gyflawn, o awgrymiadau, nifer ohonynt sy&#8217;n deilwng o erthygl unigol. Mae rhai yn uchelgeisiau mwy hir-dymor, eraill yn mynnu gweithredu brys; ond mae pob un yn angenrheidiol i oroesiad ffermio Cymreig.<\/p>\n<h3>Arallgyfeirio a ffermio gwerth ychwanegol<\/h3>\n<p>Wrth ystyried dyfodol ffermio Cymreig, rhaid i ni asesu, yn onest, ei bresennol a&#8217;i orffennol. Mae Incwm Cyflawn o Ffermio (<i>Total Income From Farming<\/i>, neu TIFF) \u2013 sy&#8217;n cynnwys elw busnes, taliadau i weithwyr heb eu talu, a chymorthdaliadau \u2013 yn rhoi syniad o&#8217;r incwm cyflawn a ddaw gan allbynnau amaethyddol, cymorthdaliadau a gweithgareddau arallgyfeirio gan ffermwyr. Rhwng 1995 a 2017, roedd cynnydd o 24% i TIFF y DU. Yn yr un cyfnod, 3% yn unig oedd y cynnydd i TIFF Cymru. Yng Nghymru, mae amaethyddiaeth yn cynrychioli 88% o ddefnydd y tir, a llai nag 1% o&#8217;r Cynnyrch Domestig Groseg (GDP). Yn Ffrainc, mae ychydig dros hanner y tir yn cael ei ddefnyddio at bwrpas amathyddiaeth, ac eto mae&#8217;r sector yn cynhrychu rhwng 1.5 a 2% o GDP.<\/p>\n<p>Beth yw&#8217;r rheswm dros danberfformiad Cymru? Does yna ddim ateb syml i gwestiwn felly, ond mae diffyg cynnyrch gwerth ychwanegol mewn ffermio da byw Cymreig yn allweddol. Fel y mae Tegid Roberts yn esbonio mewn cyfweliad gyda <i>Desolation Radio<\/i>, mae&#8217;r rhan fwyaf o&#8217;r llaeth sy&#8217;n cael ei gynhyrchu yn Ffrainc yn cael ei werthu fel cynnyrch gwerth ychwanegol: caws, hufen, menyn, maidd ayyb. Yng Nghymru, mae 50% o&#8217;r llaeth yn cael ei werthu fel llaeth yn unig, gan golli&#8217;r holl werth sy&#8217;n cael ei ychwanegu i gynnyrch llaeth Ffrengig wrth iddo gael ei drosi i gynhyrchion wedi&#8217;u prosesu. Yn yr un modd, mae da byw yn aml yn cael eu gwerthu gan ffermwyr i weithredwyr cyfryngol, sy&#8217;n prosesu&#8217;r cig y tu allan i Gymru cyn ei werthu ymlaen i adwerthwyr.\u00a0<\/p>\n<p>Beth bynnag fo canlyniad Brexit, nid yw&#8217;r model hwn yn gynaliadwy bellach. Er mwyn adfywio ffermio Cymreig a chymunedau gwledig, rhaid i ffermwyr Cymru arallgyfeirio i brosesu cig, paratoi bwyd, brandio cynnyrch, marchnata, ac agro-dwristiaeth; canfod eu harbenigedd eu hunain mewn marchnadoedd bwyd a chyda&#8217;u cwsmeriaid ffyddlon, (cymharol) leol. Mae nifer eisoes yn gwneud hyn, o gwmniau sydd wedi&#8217;u sefydlu ers tro fel <i>Llaeth y Llan<\/i>, i fentrau mwy newydd fel <i>Cig Eryri <\/i>neu<i> The Llama Farmers<\/i> (er gwybodaeth: busnes cychwynnol fy nheulu estynedig yw&#8217;r olaf). Er bod llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i gefnogi&#8217;r mentrau hyn, bydd eu llwyddiant yn dibynnu ar lawer mwy na grantiau: mae angen diwygio a buddsoddiad strwythurol ehangach.<\/p>\n<h3>Buddsoddiad mewn isadeiledd<\/h3>\n<p>Mae angen isadeiledd ar fusnesau newydd er mwyn iddynt ffynnu, i&#8217;w cynnal ac i gynnig safon bywyd derbyniol a deniadol i&#8217;w gweithlu. Mae cyrhaeddiad band eang yng nghefn gwlad Cymru yn warthus, sy&#8217;n ei wneud yn amhosib i redeg busnes modern yn effeithiol. Wrth i&#8217;r argyfwng Covid wneud gweithio o bell a chyfathrebu dros y we yn fwy canolog fyth i arferion gwaith, mae&#8217;n hollbwysig nad yw Cymru wledig ar ei cholled. Yn yr un modd, nid yw system trafnidiaeth gyhoeddus Cymru \u2013 y gwasanaeth rheilffordd yn arbennig \u2013 yn addas at ei bwrpas. Ni all economi Gymreig lewyrchus \u2013 gan gynnwys sector amaethyddol sy&#8217;n ffynnu \u2013 ddatblygu mewn gwlad \u00e2&#8217;r hyn sy&#8217;n gyffelyb i rwydwaith rheiffordd alldynnol, lle mae&#8217;n haws i deithio i Loegr nac i rannau eraill o Gymru.<\/p>\n<h3>Ehangu tu hwnt i dreuliant moesol<\/h3>\n<p>Mae angen cwsmeriaid ar fusnesau amaethyddol cychwynnol i oroesi. Ar draws y byd, mae archfarchnadoedd mawr yn achosi distryw i fywydau ffermwyr, ac maent yn gyfrifol am rai o arferion gwaethaf y diwydiant bwyd a ffermio. Dylai ymddihatru oddi wrth y system archfarchnadoedd, a phrynu&#8217;n uniongyrchol wrth y cynhyrchwyr, fod yn flaenoriaeth i unrhywun sydd am adeiladu Cymru well. Wedi dweud hyn, ni all treuliant moesol (\u2018<i>ethical consumption<\/i>&#8216;) &#8211; a chodi cywilydd elitaidd ar bobl gyffredin am eu dewisiadau &#8211; fyth fod yn ddatrysiadau radical. Bydd angen archwilio llu o ddulliau er mwyn ailstrwythuro&#8217;r ffordd y mae ein gwlad yn bwyta: mentrau bwyd cydweithredol, cynlluniau cyd-farchnata, rhoi terfyn ar yr ansicrwydd bwyd ofnadwy sydd gan gynifer o boblogaeth Cymru (gan gynnwys y system fudd-daliadau greulon), addysg a chyfranogiad pobl ifanc dinesig i weithio&#8217;r tir, ymgyrchoedd cyhoeddus yn erbyn gweithredwyr gwael yn y diwydiant, a nifer fawr o strategaethau sydd eto i&#8217;w datblygu.<\/p>\n<h3>Codi ymwybyddiaeth cyhoeddus<\/h3>\n<p>Diau mai&#8217;r bygythiad mwyaf i oroesiad ffermio Cymreig yw&#8217;r diffyg gwrthwynebiad cyhoeddus i&#8217;w ddinistr. Mae&#8217;r diffyg gwrthwynebiad hwn yn adlewyrchu diffyg gwybodaeth, sydd yn ei hun yn adlewyrchu&#8217;r diffyg sylw gan y cyfryngau. Yn Sioe Frenhinol Cymru y llynedd, rhybuddiodd llywydd NFU Cymru \u2013 undeb nodedig o wrth-filwriaethus heblaw dan amgylchiadau eithafol \u2013 am aflonyddwch sifil a gweithredu uniongyrchol pe na byddai&#8217;r llywodraeth yn gwarchod ffermwyr Cymru: \u2018<i>We have to avert a no-deal Brexit and I want to be clear that as far as NFU Cymru is concerned, we rule nothing out in terms of how we achieve this<\/i>.&#8217; Synnwn i pe bai gan 1 o 1000 o drigolion Caerdydd syniad bod ffermwyr Cymru&#8217;n ystyried gweithredu yn y fath fodd, heb s\u00f4n am unrhyw un y tu allan i Gymru. Dyma ganlyniad cyfryngau Prydeinig sy&#8217;n ffocysu ar Lundain, na fydd byth yn rhoi sylw addas i&#8217;r hyn sy&#8217;n bwysig i Gymru. Mae&#8217;n angenrheidiol ein bod yn cefnogi&#8217;n cyfryngau annibynnol Cymreig cychwynnol, a brwydro dros ddatganoli&#8217;r cyfryngau os ydym am ddeall, heb son am wella ein gwlad.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n hawdd teimlo&#8217;n ddi-obaith am ddyfodol ffermio Cymreig, yn arbennig gan fod cyn lleied o bobl i&#8217;w gweld yn gwybod neu&#8217;n poeni am yr hyn sy&#8217;n ei fygwth. Dylai&#8217;r anwybodaeth a&#8217;r difaterwch yma ein cymell, fodd bynnag: mae cymaint o bobl yn gwybod dim (yn llythrennol) am y pwnc, gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth enfawr drwy siarad amdano. Wrth i&#8217;r Bil Amaeth gael ei drafod yn Nh\u0177&#8217;r Arglwyddi, dyma&#8217;r amser i siarad ac ymgyrchu. Os bydd rhywun yn s\u00f4n am Brexit, sicrhewch eu bod yn gwybod sut y bydd ffermio yn cael ei effeithio. Os bydd rhywun yn s\u00f4n am greulondeb at anifeiliad, sicrhewch eu bod yn gwybod beth fydd y Bil Amaeth yn ei ganiat\u00e1u. Os bydd rhywun yn s\u00f4n am yr iaith Gymraeg, sirchewch eu bod yn gwybod pa ddiwydiant sy&#8217;n ei chynnal. Mae ffermio Cymreig yn rhan o&#8217;n treftadaeth a&#8217;n hunaniaeth boed o ba ran o Gymru ry&#8217;n ni&#8217;n dod. Efallai nad \u2018Sheepshagger&#8217; yw&#8217;n hoff lysenw, ond byddwn ni&#8217;n ei gweld hi&#8217;n chwith hebddo.<\/p>\n<h2>Tair ffordd i helpu atal y bill amaeth<\/h2>\n<ul>\n<li>Arwyddo <a href=\"https:\/\/www.change.org\/p\/uk-government-save-our-farms-stop-the-agriculture-bill-achub-ein-ffermydd-atal-y-bil-amaeth\">ein deiseb<\/a><\/li>\n<li>Arwyddo <a href=\"https:\/\/www.nfuonline.com\/news\/latest-news\/food-standards-petition\/\">deiseb yr NFU<\/a><\/li>\n<li>Arwyddo fyny i <a href=\"https:\/\/stoptheagriculturebill.wordpress.com\/achub-ein-ffermydd\/\">ymuno \u00e2&#8217;n ymgyrch<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<p><i>\u00c2&#8217;m diolch i fy modryb, ewythr, a chefndryd, sy&#8217;n cadw fferm Taid yn fyw, sydd wedi dysgu imi gymaint o&#8217;r hyn sydd wedi&#8217;i gynnwys uchod, ac sy&#8217;n gweithio a chadw un darn gwerthfawr o Gymru.<\/i><i><\/i><\/p>\n<p><em>Llun gan AG, <a href=\"https:\/\/www.instagram.com\/llamafarmers_wales\/\">The Llama Farmers<\/a><\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wrth i&#8217;r byd wynebu pandemig byd-eang sydd yn deillio o gynhyrchu bwyd mewn modd anniogel, gallech feddwl y byddai diogelwch bwyd yn uchel ar yr agenda wleidyddol. Yn yr un &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Diwedd ffermio Cymreig?&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":27,"featured_media":741,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[111,101,7],"class_list":["post-739","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-amaeth","tag-cam-nesaf-cymru","tag-y-gymraeg","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Diwedd ffermio Cymreig? - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Diwedd ffermio Cymreig? - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Wrth i&#8217;r byd wynebu pandemig byd-eang sydd yn deillio o gynhyrchu bwyd mewn modd anniogel, gallech feddwl y byddai diogelwch bwyd yn uchel ar yr agenda wleidyddol. Yn yr un &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Diwedd ffermio Cymreig?&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-06-08T18:08:16+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-06-28T10:52:22+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Llama-Farmers-Dafad.jpeg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1200\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Siwan Clark\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Siwan Clark\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"25 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/\"},\"author\":{\"name\":\"Siwan Clark\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eaf4aa2f805d5946d73bb36934db92ea\"},\"headline\":\"Diwedd ffermio Cymreig?\",\"datePublished\":\"2020-06-08T18:08:16+00:00\",\"dateModified\":\"2020-06-28T10:52:22+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/\"},\"wordCount\":5092,\"commentCount\":9,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Llama-Farmers-Dafad.jpeg\",\"keywords\":[\"amaeth\",\"Cam nesaf Cymru\",\"Y Gymraeg\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/\",\"name\":\"Diwedd ffermio Cymreig? - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Llama-Farmers-Dafad.jpeg\",\"datePublished\":\"2020-06-08T18:08:16+00:00\",\"dateModified\":\"2020-06-28T10:52:22+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Llama-Farmers-Dafad.jpeg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Llama-Farmers-Dafad.jpeg\",\"width\":1200,\"height\":800},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"The end of Welsh farming?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eaf4aa2f805d5946d73bb36934db92ea\",\"name\":\"Siwan Clark\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/b9b45c3ed0e179b3731614d2bc87cc12e71be26b09a061ae54b43fe56edee4b5?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/b9b45c3ed0e179b3731614d2bc87cc12e71be26b09a061ae54b43fe56edee4b5?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/b9b45c3ed0e179b3731614d2bc87cc12e71be26b09a061ae54b43fe56edee4b5?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Siwan Clark\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/siwanclark\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Diwedd ffermio Cymreig? - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Diwedd ffermio Cymreig? - undod","og_description":"Wrth i&#8217;r byd wynebu pandemig byd-eang sydd yn deillio o gynhyrchu bwyd mewn modd anniogel, gallech feddwl y byddai diogelwch bwyd yn uchel ar yr agenda wleidyddol. Yn yr un &hellip; Parhau i ddarllen \"Diwedd ffermio Cymreig?\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-06-08T18:08:16+00:00","article_modified_time":"2020-06-28T10:52:22+00:00","og_image":[{"width":1200,"height":800,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Llama-Farmers-Dafad.jpeg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Siwan Clark","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Siwan Clark","Est. reading time":"25 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/"},"author":{"name":"Siwan Clark","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eaf4aa2f805d5946d73bb36934db92ea"},"headline":"Diwedd ffermio Cymreig?","datePublished":"2020-06-08T18:08:16+00:00","dateModified":"2020-06-28T10:52:22+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/"},"wordCount":5092,"commentCount":9,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Llama-Farmers-Dafad.jpeg","keywords":["amaeth","Cam nesaf Cymru","Y Gymraeg"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/","name":"Diwedd ffermio Cymreig? - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Llama-Farmers-Dafad.jpeg","datePublished":"2020-06-08T18:08:16+00:00","dateModified":"2020-06-28T10:52:22+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Llama-Farmers-Dafad.jpeg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Llama-Farmers-Dafad.jpeg","width":1200,"height":800},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"The end of Welsh farming?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eaf4aa2f805d5946d73bb36934db92ea","name":"Siwan Clark","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/b9b45c3ed0e179b3731614d2bc87cc12e71be26b09a061ae54b43fe56edee4b5?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/b9b45c3ed0e179b3731614d2bc87cc12e71be26b09a061ae54b43fe56edee4b5?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/b9b45c3ed0e179b3731614d2bc87cc12e71be26b09a061ae54b43fe56edee4b5?s=96&d=mm&r=g","caption":"Siwan Clark"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/siwanclark\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/739","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/27"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=739"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/739\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":831,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/739\/revisions\/831"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/741"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=739"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=739"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=739"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}