{"id":746,"date":"2020-06-09T16:30:06","date_gmt":"2020-06-09T15:30:06","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=746"},"modified":"2020-06-18T12:36:00","modified_gmt":"2020-06-18T11:36:00","slug":"amgueddfa-filwrol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/","title":{"rendered":"Mae&#8217;r amgueddfa filwrol yn sarhad. Gadewch i ni weithio gyda&#8217;n gilydd i&#8217;w atal."},"content":{"rendered":"<p>Mae\u2019r cynlluniau ar gyfer adeiladu <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/plans-military-museum-cardiffs-norwegian-18355340\">Amgueddfa Meddygaeth Filwrol<\/a> ym Mharc Britannia, lawr Bae Caerdydd, wedi cael eu beirniadu&#8217;n ffyrnig dros yr wythnos ddiwethaf. Ceir yr argraff cyffredinol, unwaith eto, fod Caerdydd yn cael ei datblygu y tu hwnt i ddylanwad ei thrigolion.<\/p>\n<p>Un stori ymhlith nifer yng Nghaerdydd yw&#8217;r datblygiad arfaethedig hwn. Ry\u2019 ni wedi colli lleoliadau cerddoriaeth, fel <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/guildford-crescent-cardiff-rapport-council-17113364\">Gwdih\u0175<\/a>. Ry\u2019 ni wedi gweld neuaddau preswyl, fel y &#8216;<a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/cardiff-student-accommodation-flats-coronavirus-18348624\">Zenith<\/a>&#8216;, yn cael eu datblygu&#8217;n ddiangen, er mwyn manteisio ar fan gwan y gyfraith gynllunio. Mae hoff sefydliadau cymunedol wedi&#8217;u colli neu o dan fygythiad, fel y <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/paddle-steamer-pub-butetown-cardiff-17445535\">Paddle Steamer<\/a>\u00a0yn Butetown. Mae coed <a href=\"https:\/\/www.voice.wales\/shame-on-you-protesters-look-on-in-horror-as-cardiff-council-allows-ancient-trees-to-be-destroyed\/\">T\u0177 Suffolk<\/a> wedi cwympo. A chofiwch yr amser y bu bron i ni golli <a href=\"https:\/\/www.vice.com\/en_uk\/article\/mg4gv4\/cardiff-music-scene-venue-closures-gatekeeper-hotel\">Stryd Womanby<\/a> i westy Wetherspoons. Mae traeon fel hyn yn geiniog a dime yn ein prifddinas.<\/p>\n<p>Erbyn hyn mae cynlluniau i adeiladu Amgueddfa meddygaeth filwrol yn y Bae. Dyma&#8217;r rhesymau allweddol &#8211; <strong>arian, gofod,<\/strong> a <strong>gwladychiaeth<\/strong> &#8211; dylem i gyd ei wrthwynebu- a&#8217;r hyn y gallwn ei wneud i wrthsefyll ac adeiladu Caerdydd well.<\/p>\n<h2>Arian<\/h2>\n<p>Yr arian sy\u2019n cyfri, medden nhw, a does dim dwywaith bod Cyngor Caerdydd yn gweld hi felly. Mae eu gweledigaeth ar gyfer y ddinas yn un sy&#8217;n ei ystyried fel y sbardun ariannol i <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/business\/business-news\/cardiff-waless-best-economic-asset-14465472\">weddill Cymru<\/a>, lle mae&#8217;r syniad o <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/new-leader-cardiff-council-huw-13033629\">ehangu&#8217;r ddinas<\/a> yn cael ei ystyried yn beth da ynddo\u2019i hun. Mae&#8217;r cynnydd mawr yn y tyrrau o fflatiau a\u2019r gwerthu tir yn gysylltiedig \u00e2 gweledigaeth o Gaerdydd fel prifddinas digwyddiadau a chyrchfan i dwristiaid &#8211; dim ots am y bobl sy&#8217;n byw yma, cofiwch.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r rhesymeg hon yn amlwg yn eu hamddiffyniad o&#8217;r prosiect, gan eu bod yn honni y bydd gwerthu Parc Britannia yn eu helpu i adennill arian a fuddsoddwyd i&#8217;w brynu gan awdurdod y porthladd (i&#8217;w atal rhag cael ei ddatblygu ar gyfer fflatiau). Mae&#8217;n honni na fyddai&#8217;r Cyngor yn buddsoddi unrhyw arian yn y prosiect, ac felly byddai&#8217;n talu amdano&#8217;i hun &#8211; tra hefyd yn ychwanegu at y coffrau.<\/p>\n<p>Wrth asesu eu barn, doeth byddai ystyried llanast diweddar y Gyfnewidfa Lo, lle&#8217;r oedd y Cyngor wedi cynnig benthyciad o \u00a32 miliwn i gwmni, sydd ers hynny wedi <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/cardiff-coal-exchange-administration-signature-18238767\">mynd i&#8217;r wal<\/a>. Yn wir, mae&#8217;n boenus o glir ar sail eu rhesymeg ariannol eu hunain bod y cynlluniau yn sylfaenol ddiffygiol. Mae Cymdeithas Ddinesig Caerdydd eisoes wedi darparu&#8217;r atebion gyda <a href=\"https:\/\/cardiffcivicsociety.blog\/2020\/05\/17\/keep-our-childrens-park-no-military-museum-demand-local-cardiff-residents\/\">dogfen anferthol<\/a> yn rhoi manylion yr holl wrthwynebiadau posibl y gallech eu dychmygu. Dylech ei ddarllen, ond os nad oes gennych yr amser, dyma&#8217;r isafbwyntiau ar yr arian:<\/p>\n<p>Mae gan yr Amgueddfa incwm blynyddol o \u00a318k a rhagwelir diffyg blynyddol o \u00a3125k; mae \u00a31,740,000 o arian ar \u00f4l ganddynt a roddwyd gan y Trysorlys i adleoli, ond bydd eu datblygiad arfaethedig yn costio<a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-50249739\"> \u00a330 miliwn<\/a>. Honnir y bydd cyllid cyfalaf yn cael ei godi o grantiau a rhoddion, nawdd, a buddsoddiad, ond nid oes unrhyw awgrym gan bwy, na faint o arian sy&#8217;n cael ei addo. O gofio&#8217;r cyfnod yr ydym yn byw ynddo, a&#8217;r derbyniad llai na chynnes a gaiff yr amgueddfa, mae\u2019n hen bryd i Gyngor Caerdydd ailasesu eu hyder yn y gred bod y brosiect hon am ddelifro. Y neges i Huw Thomas? <i>Show me the Money.<\/i><\/p>\n<h2>Gofod<\/h2>\n<p>Parc Britannia yw&#8217;r unig lecyn gwyrdd, agored sydd ar y Bae, encilfa groesawgar i ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd, gyda pharc plant at hynny. Ewch i lawr a chwiliwch am y lle eich hun, a sylwch ar y cannoedd o fflatiau, gan gynnwys tai cymdeithasol, nad oes gan eu preswylwyr fynediad i ardd, a gofynnwch pa mor briodol yw hi i&#8217;r Cyngor fod eisiau mynd \u00e2 hyn oddi yno mewn ward lle mae .88 hectar fesul 1000 o drigolion, yn sylweddol is na gofyniad y <a href=\"https:\/\/www.cardiff.gov.uk\/CYM\/preswylydd\/Cynllunio\/Cynllun-Datblygu-Lleol\/Documents\/Final%20Adopted%20Plan%20Welsh.pdf\">cynllun datblygu lleol<\/a> o 2.43 hectar fesul 1000 o bobl (tud. 195). Mewn gwirionedd, mae gan Lywodraeth Cymru bolisi penodol ar fannau agored gwyrdd. Mae eu canllawiau, o dan y teitl <a href=\"https:\/\/gov.wales\/sites\/default\/files\/publications\/2018-09\/tan16-sport-recreation-open-space.pdf\">TAN 16<\/a> yn datgan:<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-751\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/parc-brittania-park.jpg\" alt=\"\" width=\"800\" height=\"450\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/parc-brittania-park.jpg 800w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/parc-brittania-park-300x169.jpg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/parc-brittania-park-768x432.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 800px) 100vw, 800px\" \/><\/p>\n<blockquote><p>Mae gan gaeau chwarae a mannau agored gwyrdd arwyddoc\u00e2d arbennig i&#8217;w gwerth adloniadol ac amwynder, yn enwedig mewn trefi a dinasoedd &#8230; Mae meysydd chwarae a mannau gwyrdd yn ychwanegu diddordeb a bywiogrwydd i amgylcheddau gwaith a byw&#8230; Yn ogystal \u00e2&#8217;u r\u00f4l amgylcheddol, gallant hefyd gynnig manteision o ran iechyd a lles, a chyfleoedd i ymgysylltu \u00e2&#8217;r gymuned. &#8230; Dim ond lle gellir dangos yn glir nad oes unrhyw ddiffyg, y dylid ystyried y posibilrwydd o&#8217;u defnyddio ar gyfer datblygiad amgen.<\/p><\/blockquote>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.cardiff.gov.uk\/CYM\/preswylydd\/Cynllunio\/Cynllun-Datblygu-Lleol\/Documents\/Final%20Adopted%20Plan%20Welsh.pdf\">cynllun datblygu lleol<\/a> Caerdydd hefyd yn nodi:<\/p>\n<blockquote><p>Ni chaniateir datblygiad ar fannau agored oni bai na fyddai\u2019n achosi nac yn gwaethygu diffyg o ran man agored. (p. 195)<\/p><\/blockquote>\n<p>Mae&#8217;r Datganiad Dylunio a Mynediad ar y cynigion yn cyfaddef y byddai&#8217;n lleihau&#8217;r gofod gwyrdd agored tua 780 metr sgw\u00e2r, gan gymryd bron i draean o&#8217;r arwynebedd presennol a lleihau faint o borfa a choed yn sylweddol, tra hefyd yn lleihau maint yr lle chwarae gan 130 metr sgw\u00e2r. Mewn ymateb i&#8217;r honiad y byddai cysgod yr Amgueddfa&#8217;n creu man chwarae mwy hwylus, mae\u2019r Gymdeithas Ddinesig Caerdydd yn nodi bod yna ffyrdd llawer haws o ddarparu cysgod nag adeilad 5 llawr.<\/p>\n<p>Ar adeg pan fo argyfwng hinsawdd wedi ei ddatgan a mannau agored yn cael eu gwerthfawrogi yn fwy nag erioed, mae&#8217;n gofyn cwestiynu meddylfryd gwleidyddion a fyddai&#8217;n hapus i gau mewn yr un man agored ar y Bae gydag adeilad mor fawr. Mae\u2019r ffaith na allant ddychmygu na deall bod man agored o\u2019r fath &#8211; y gellid ei dirlunio neu ychwanegu ato mewn ffyrdd llawn dychymyg- yn gaffaeliad i ymwelwyr a phreswylwyr fel ei gilydd, yn adrodd cyfrolau am eu gwerthoedd a&#8217;u &#8216;breuddwydion&#8217;.<\/p>\n<h2>Gwladychiaeth<\/h2>\n<p>Yn \u00f4l <a href=\"https:\/\/museumofmilitarymedicine.org.uk\/\">gwefan<\/a> yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol ar gyfer eu lleoliad presennol (Aldershot, Lloegr), mae&#8217;r Amgueddfa&#8217;n darlunio hanes meddygaeth filwrol &#8220;o ryfel cartref Lloegr hyd heddiw.&#8221;<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cyfnod hwn yn cwmpasu anterth yr Ymerodraeth Brydeinig. Gorchfygodd yr Ymerodraeth Brydeinig, trwy rym, 23% o boblogaeth y byd. Y tu \u00f4l i hanesion am &#8220;yr ymerodraeth y mae&#8217;r haul byth yn ei fachlud arni&#8221; yw gwaddol y fasnach gaethion traws-Iwerydd, yr oedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn brif symbylydd ohoni gan elwa\u2019n fwy na neb, erchyllterau trwy law dyn fel y <a href=\"https:\/\/cy.wikipedia.org\/wiki\/Newyn_Bengal_1943\">newyn yn y Bengal<\/a> yn 1943, a gostiodd rhwng 2-3 miliwn o fywydau; y cyflafan <a href=\"https:\/\/cy.wikipedia.org\/wiki\/Cyflafan_Jallianwala_Bagh\">Jallianwala Bagh<\/a> yn 1919, chwalu\u2019r <a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Mau_Mau_Uprising\">gwrthryfel Mau Mau<\/a> yn Kenya, a erchyllterau dirifedi eraill.<\/p>\n<p>Heb ei feddyginiaeth filwrol, ni fyddai&#8217;r Ymerodraeth Brydeinig wedi gweithredu. Yn union fel y mae bom yn ddiwerth heb focs i&#8217;w gario ynddi, neu gleddyf yn anaddas heb gwaun i&#8217;w gadw rhag anafu&#8217;r sawl sy\u2019n ei drin, nid oedd meddygyniaeth filwrol yr Ymerodraeth Brydeinig, fel y mae Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd wedi awgrymu, <a href=\"https:\/\/twitter.com\/huwthomas_Wales\/status\/1268665187038527495\">yn rym diniwed<\/a>, ond yn elfen angenrheidiol ac anwahanadwy o farbariaeth warthus yr Ymerodraeth Brydeinig.<\/p>\n<p>Mae Butetown, y ward sy&#8217;n cynnwys Bae Caerdydd, yn gartref i rai o gymunedau aml-ddiwylliannol hynaf y DU. Yno a ledled Caerdydd mae disgynyddion o bobl a ddioddefodd waethaf yr Ymerodraeth Brydeinig yn byw, a\u2019u mamwledydd wedi\u2019u trefedigaethu gan Brydain. Mae&#8217;n bosibl bod rhai o&#8217;u hynafiaid wedi darfod yn siambrau artaith yr Ymerodraeth Brydeinig. Mae gan Butetown, yn arbennig, gymuned Somali sylweddol y mae ei chof hanesyddol yn cynnwys straeon am greulondeb a gwladychu eu hynafiaid yn yr Ymerodraeth Brydeinig. Heddiw, gwaddol yr Ymerodraeth hon a welwn pan fyddwn yn tystio i hiliaeth amlwg a sefydliadol, fel sy&#8217;n cael ei hamlygu gan y ffrwydrad yn y mudiad <i>Black Lives Matter<\/i>. Mae ysbrydion yr Ymerodraeth yn bodoli o&#8217;n cwmpas ni, p&#8217;un a ydym yn eu cydnabod ai peidio.<\/p>\n<p>Ac mae hyn cyn inni s\u00f4n am y r\u00f4l y mae sefydliadau fel yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol (wedi ei leoli\u2019n bresennol yn farics Keogh yn Surrey) yn ei chwarae o ran recriwtio i\u2019r lluoedd arfog, yn gwasanaethu fel taclau er mwyn bwydo mwy o gyrff i felin gig neilltuoliaeth filwrol Brydeinig, a amlygir gan y rhyfeloedd dibwrpas yn Irac ac Affganistan. Mae gwrthwynebiad eisoes wedi bod yng Nghaerdydd i weld y fyddin yn <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/education\/army-opened-cadet-unit-welsh-13712487\">ymledu i ysgolion<\/a>. Mae hyn yn rhan o waith &#8216;<a href=\"https:\/\/www.dailypost.co.uk\/news\/north-wales-news\/army-shamelessly-targeting-poor-kids-14179922\">digywilydd<\/a>&#8216; y fyddin wrth dargedu plant o deuluoedd tlawd yng Nghymru fel rhan o ymdrechion penodol Byddin Prydain i <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/uk-news\/2018\/sep\/09\/british-army-explicitly-targeting-working-class-recruits-say-critics\">recriwtio o gymunedau dosbarth gweithiol<\/a>.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n sarhad i bobl Butetown a Chaerdydd fod Amgueddfa sy&#8217;n cydymdeimlo \u00e2&#8217;r Ymerodraeth Brydeinig ac yn mawrygu militariaeth ar garreg eu drws. Tra byddwn yn gwylio llofruddion yr heddlu yn yr Unol Daleithiau gydag arswyd, dylem ddadansoddi hanes creulon, hiliol ein hunain a&#8217;i drin \u00e2&#8217;r feirniadaeth y mae&#8217;n ei haeddu. Mae\u2019n anodd dychmygu gweithred sydd yn fwy groes i\u2019r grain yn y dyddiau sydd ohoni nag adeiladu amgueddfa filwrol ar riniog cymunedau aml-ddiwylliannol hynaf Cymru. Mae\u2019n gwneud i gynnig Ken Skates ar gyfer yr \u2018<a href=\"https:\/\/www.dailypost.co.uk\/news\/north-wales-news\/replacement-flint-castle-anus-north-17198151\">anus of the north<\/a>\u2019 ymddangos yn ystyrlon.<\/p>\n<h2>Sut rydym yn datrys hyn<\/h2>\n<p>Byddai gadael Parc Britannia fel ag y mae yn opiswn. Neu gellid ail-lunio a gwella&#8217;r gofod ar ei delerau ei hun. <a href=\"https:\/\/www.change.org\/p\/cardiff-council-save-cardiff-bay-s-britannia-park\">Mae deiseb i achub Parc Britannia ei hun yma.<\/a><\/p>\n<p>Neu, fel yr <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/society\/2001\/mar\/14\/guardiansocietysupplement5\">awgrymwyd ers blynyddoedd<\/a>, gellid adeiladu Amgueddfa sy&#8217;n deilwng o <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/local-news\/butetown-history-arts-centre-close-11365080\">hanes yr ardal<\/a>, yn hytrach nag Amgueddfa heb unrhyw gysylltiad hanesyddol lleol. <a href=\"https:\/\/www.change.org\/p\/welsh-government-a-tiger-bay-museum-for-cardiff-bay\">Mae deiseb eisioes ar gyfer Amgueddfa o&#8217;r fath, a gallwch ychwanegu eich enw fan yma.<\/a><\/p>\n<p>Nid yw\u2019r ateb wedi&#8217;i benderfynu eto. Ond, yn gyntaf oll, pobl Butetown ddylai benderfynu ar ddyfodol Parc Britannia. Dylid rhoi&#8217;r gair olaf iddynt dros yr hyn sydd wedi&#8217;i adeiladu ar garreg eu drws. Democratiaeth leol, real, yw&#8217;r ateb.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-749\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/amgueddfa-milwrol-ein-dinas-ni.jpg\" alt=\"\" width=\"810\" height=\"539\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/amgueddfa-milwrol-ein-dinas-ni.jpg 810w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/amgueddfa-milwrol-ein-dinas-ni-300x200.jpg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/amgueddfa-milwrol-ein-dinas-ni-768x511.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 810px) 100vw, 810px\" \/><\/p>\n<p>Mae gr\u0175p ohonom yn trefnu o gwmpas y mater, ac yn ceisio ei gysylltu \u00e2 materion datblygu a chynllunio eraill ar draws Caerdydd, megis y bygythiadau i&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/paddle-steamer-pub-butetown-cardiff-17445535\">Paddle Steamer<\/a> a&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.voice.wales\/another-treasured-cardiff-music-venue-is-under-threat-people-are-being-urged-to-save-it\/\">Tramshed<\/a>. Rydym wedi dechrau trefnu dros dro o dan yr enw &#8220;Reclaim Cardiff &#8211; Ein Dinas Ni&#8221; ac yn eich annog i gysylltu \u00e2 ni ar Twitter <a href=\"https:\/\/twitter.com\/reclaimcardiff\">@ReclaimCardiff<\/a> neu drwy <a href=\"mailto:reclaimcardiff@gmail.com\">reclaimcardiff@gmail.com<\/a><\/p>\n<p>Rydym hefyd yn eich annog i <a href=\"https:\/\/www.writetothem.com\/\">anfon e-bost at eich cynghorwyr, ASau a MSs yng Nghaerdydd<\/a>-y n arbennig (ond nid yn unig) os ydych yn byw yn Butetown\/The Bay<\/p>\n<p>Mae Caerdydd yn cael ei rhwygo oddi arnom ni. Mudiad eang sy&#8217;n seiliedig ar glymblaid yw&#8217;r hyn sydd ei angen arnom i wrthsefyll datblygiadau erchyll fel yr amgueddfa hon ac, yn y pen draw, adeiladu Dinas ddemocrataidd sy&#8217;n perthyn i bob un o&#8217;i thrigolion. Rydym yn haeddu dim llai.<\/p>\n<p>I Huw Thomas a gweddill Cyngor Caerdydd, yr ydym yn si\u0175r y byddent yn cytuno y dylem fyw mewn dinas ddemocrataidd ac, yn fwy na dim, y dylem ystyried beirniadaeth mudiad Black Lives Matter, ac archwilio sut y mae ein gweithredoedd yn effeithio ar anghydraddoldeb hiliol: gawn ni weld a ydych chi <a href=\"https:\/\/twitter.com\/huwthomas_Wales\/status\/1270115131033354242?s=20\">cystal a\u2019ch gair<\/a>.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r cynlluniau ar gyfer adeiladu Amgueddfa Meddygaeth Filwrol ym Mharc Britannia, lawr Bae Caerdydd, wedi cael eu beirniadu&#8217;n ffyrnig dros yr wythnos ddiwethaf. Ceir yr argraff cyffredinol, unwaith eto, fod &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Mae&#8217;r amgueddfa filwrol yn sarhad. Gadewch i ni weithio gyda&#8217;n gilydd i&#8217;w atal.&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":749,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[71,114,112,113],"class_list":["post-746","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-caerdydd","tag-cyngor-caerdydd","tag-reclaim-cardiff-ein-dinas-ni","tag-ymerodraeth-brydeinig","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Mae&#039;r amgueddfa filwrol yn sarhad \/ The military museum is an insult<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Cynlluniau Amgueddfa Meddygaeth Filwrol lawr Bae Caerdydd, wedi cael eu beirniadu&#039;n ffyrnig \/ Plans for Museum of Military Medicine, down Cardiff Bay, have met fierce criticism\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"{:cy}Mae&#039;r amgueddfa filwrol yn sarhad \/ The military museum is an insult{:}\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"{:cy}Cynlluniau Amgueddfa Meddygaeth Filwrol lawr Bae Caerdydd, wedi cael eu beirniadu&#039;n ffyrnig \/ Plans for Museum of Military Medicine, down Cardiff Bay, have met fierce criticism{:en}Plans for the building of a Museum of Military Medicine at Britannia Park, down Cardiff Bay, have met fierce criticism over the past week. There is a widespread feeling that, once again, Cardiff is being developed outside of the influence of its residents.{:}\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-06-09T15:30:06+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-06-18T11:36:00+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/amgueddfa-milwrol-ein-dinas-ni.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"810\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"539\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Gohebydd\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Gohebydd\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"17 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/\"},\"author\":{\"name\":\"Gohebydd\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538\"},\"headline\":\"Mae&#8217;r amgueddfa filwrol yn sarhad. Gadewch i ni weithio gyda&#8217;n gilydd i&#8217;w atal.\",\"datePublished\":\"2020-06-09T15:30:06+00:00\",\"dateModified\":\"2020-06-18T11:36:00+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/\"},\"wordCount\":3559,\"commentCount\":3,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/amgueddfa-milwrol-ein-dinas-ni.jpg\",\"keywords\":[\"Caerdydd\",\"Cyngor Caerdydd\",\"Ein Dinas Ni\",\"Ymerodraeth Brydeinig\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/\",\"name\":\"{:cy}Mae'r amgueddfa filwrol yn sarhad \/ The military museum is an insult{:}\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/amgueddfa-milwrol-ein-dinas-ni.jpg\",\"datePublished\":\"2020-06-09T15:30:06+00:00\",\"dateModified\":\"2020-06-18T11:36:00+00:00\",\"description\":\"{:cy}Cynlluniau Amgueddfa Meddygaeth Filwrol lawr Bae Caerdydd, wedi cael eu beirniadu'n ffyrnig \/ Plans for Museum of Military Medicine, down Cardiff Bay, have met fierce criticism{:en}Plans for the building of a Museum of Military Medicine at Britannia Park, down Cardiff Bay, have met fierce criticism over the past week. There is a widespread feeling that, once again, Cardiff is being developed outside of the influence of its residents.{:}\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/amgueddfa-milwrol-ein-dinas-ni.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/amgueddfa-milwrol-ein-dinas-ni.jpg\",\"width\":810,\"height\":539},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Mae&#8217;r amgueddfa filwrol yn sarhad. Gadewch i ni weithio gyda&#8217;n gilydd i&#8217;w atal.\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538\",\"name\":\"Gohebydd\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Gohebydd\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gohebydd\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Mae'r amgueddfa filwrol yn sarhad \/ The military museum is an insult","description":"Cynlluniau Amgueddfa Meddygaeth Filwrol lawr Bae Caerdydd, wedi cael eu beirniadu'n ffyrnig \/ Plans for Museum of Military Medicine, down Cardiff Bay, have met fierce criticism","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"{:cy}Mae'r amgueddfa filwrol yn sarhad \/ The military museum is an insult{:}","og_description":"{:cy}Cynlluniau Amgueddfa Meddygaeth Filwrol lawr Bae Caerdydd, wedi cael eu beirniadu'n ffyrnig \/ Plans for Museum of Military Medicine, down Cardiff Bay, have met fierce criticism{:en}Plans for the building of a Museum of Military Medicine at Britannia Park, down Cardiff Bay, have met fierce criticism over the past week. There is a widespread feeling that, once again, Cardiff is being developed outside of the influence of its residents.{:}","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-06-09T15:30:06+00:00","article_modified_time":"2020-06-18T11:36:00+00:00","og_image":[{"width":810,"height":539,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/amgueddfa-milwrol-ein-dinas-ni.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Gohebydd","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Gohebydd","Est. reading time":"17 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/"},"author":{"name":"Gohebydd","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538"},"headline":"Mae&#8217;r amgueddfa filwrol yn sarhad. Gadewch i ni weithio gyda&#8217;n gilydd i&#8217;w atal.","datePublished":"2020-06-09T15:30:06+00:00","dateModified":"2020-06-18T11:36:00+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/"},"wordCount":3559,"commentCount":3,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/amgueddfa-milwrol-ein-dinas-ni.jpg","keywords":["Caerdydd","Cyngor Caerdydd","Ein Dinas Ni","Ymerodraeth Brydeinig"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/","name":"{:cy}Mae'r amgueddfa filwrol yn sarhad \/ The military museum is an insult{:}","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/amgueddfa-milwrol-ein-dinas-ni.jpg","datePublished":"2020-06-09T15:30:06+00:00","dateModified":"2020-06-18T11:36:00+00:00","description":"{:cy}Cynlluniau Amgueddfa Meddygaeth Filwrol lawr Bae Caerdydd, wedi cael eu beirniadu'n ffyrnig \/ Plans for Museum of Military Medicine, down Cardiff Bay, have met fierce criticism{:en}Plans for the building of a Museum of Military Medicine at Britannia Park, down Cardiff Bay, have met fierce criticism over the past week. There is a widespread feeling that, once again, Cardiff is being developed outside of the influence of its residents.{:}","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/amgueddfa-milwrol-ein-dinas-ni.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/amgueddfa-milwrol-ein-dinas-ni.jpg","width":810,"height":539},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/09\/amgueddfa-filwrol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Mae&#8217;r amgueddfa filwrol yn sarhad. Gadewch i ni weithio gyda&#8217;n gilydd i&#8217;w atal."}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538","name":"Gohebydd","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","caption":"Gohebydd"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gohebydd\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/746","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=746"}],"version-history":[{"count":12,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/746\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":815,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/746\/revisions\/815"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/749"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=746"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=746"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=746"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}