{"id":762,"date":"2020-06-10T17:18:14","date_gmt":"2020-06-10T16:18:14","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=762"},"modified":"2020-06-10T17:40:02","modified_gmt":"2020-06-10T16:40:02","slug":"tramshed","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/10\/tramshed\/","title":{"rendered":"Ap\u00eal brys Undod: 24 awr i achub Tramshed"},"content":{"rendered":"<p>&#8221;Ry&#8217;n ni am i Gyngor Caerdydd deimlo&#8217;r sarhad y mae trigolion Caerdydd yn ei deimlo dros y posibilrwydd o Gwdih\u0175 arall, a thros achos arall o&#8217;r hyn sydd er lles y cyhoedd yn cael ei drechu er budd rhyw ddatblygiad corfforaethol.&#8221;<\/p>\n<p>Mae Cyngor Caerdydd, sy&#8217;n enwog am eu diffyg ystyriaeth i ddiogelu diwylliant mewn dinas mor hanesyddol \u00e2 Chaerdydd, unwaith eto ar fin gwneud tro gwael \u00e2&#8217;u hetholwyr. Dylai trigolon lleol fod y tu cefn i newid i gymunedau, ond mae&#8217;r Cyngor yn cynllunio, yn gudd, i adeiladu bloc swyddfeydd a fflatiau wedi&#8217;u gwasanaethu y tu cefn i Tramshed, lleoliad cerddoriaeth byw mewn dinas lle mae eisoes dan fygythiad. Os caiff y cynnig hwn ei gymeradwyo, bydd yn cael effaith ofnadwy ar fusnes Tramshed, yn ogystal \u00e2 chael effaith negyddol ar draffic a llygredd ar Stryd Pendyris a Heol Clare. Fel trigiolion Caerdydd, rhaid i ni frwydro&#8217;n erbyn y modd annemocrataidd y mae cynllunio a datblygu yn y ddinas yn cael eu gweithredu. Rhaid i ni gymryd y cam cyntaf i atal y datblygiad hwn, a gwrthwynebu&#8217;r cais cynllunio.<\/p>\n<p>Yn hytrach na chanolbwyntio eu polisi a&#8217;u penderfyniadau ar anghenion eu dinasyddion, neu roi platfform i ddiwylliant sy&#8217;n ffynnu mewn dinas amrywiol, mae&#8217;r Cyngor yn benderfynol o lenwi Caerdydd ag adeiladau llety myfyrwyr di-nod, bariau a chaffis boneddigeiddiol, cymeradwyo ffynhonnau enfawr, ac unrhyw nodwedd bensaern\u00efol arall sydd \u00e2&#8217;i fwriad i wyngalchu&#8217;r Caerdydd a adeiladwyd gan y dosbarth gweithiol. Mae Grangetown, Butetown a&#8217;r Bae yn dargedau arbennig i foneddigeiddio di-baid Cyngor Caerdydd, ardaloedd a gyfrannwyd iddynt yn fawr gan fewnfudwyr, a greodd rhai o gymunedau cryfaf a diwylliannol-gyfoethog ein dinas. Yng nghanol pandemig byd-eang, mae&#8217;r Cyngor wrthi eto.<\/p>\n<h2>Hanes fer ond drychinebus datblygiad a Chyngor Caerdydd<\/h2>\n<p>Fel enghraifft, ystyriwn Cyfnewidfa Lo Caerdydd, safle arwyddo siec \u00a31 miliwn cyntaf y byd, a chanolfan economaidd a olygodd bod Cymru&#8217;n cyflenwi tannau&#8217;r byd. Mewn unrhyw brifddinas arall, ac yn sicr unrhyw ddinas sy&#8217;n rhoi gronyn o ystyriaeth i gadwraeth ei hanes, byddai&#8217;r adeilad hwn yn cael ei droi&#8217;n amgueddfa, yn ofod ar gyfer digwyddiadau cymunedol \u2013 neu <a href=\"https:\/\/exchangehotelcardiff.co.uk\/blog\/ultimate-boys-weekend-cardiff\/\">westy cadwyn sy&#8217;n arbenigo mewn part\u00efon &#8216;<i>stag<\/i>&#8216; a &#8216;<i>hen<\/i><\/a>&#8216;, efallai? Gan osod enghraifft arbennig o roi&#8217;n \u00f4l i&#8217;r gymuned, penderfynodd Cyngor Caerdydd y byddai&#8217;r olaf o rheiny yn syniad da. Ystyriodd y Cyngor y cannoedd o bobl digartref yng Nghaerdydd, y niferoedd trychinebus o dlodi plant mewn cymunedau BAME, a&#8217;r diffyg mynediad at addysg cynradd cyfrwng Cymraeg, a phenderfynu mai benthyg \u00a32 filiwn i Signature Living, 8 Mathew Street, Lerwpl, oedd y cam gorau. Dyna un ffordd o gael y gorau ar y Gyfnewidfa Lo.<\/p>\n<p>Dwi&#8217;n siwr bod treth-dalwyr Butetown, wedi gweld eu <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/local-news\/butetown-history-arts-centre-close-11365080\">Canolfan Celfyddydau yn cau<\/a>, ar ben eu digon i gael <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/tiger-bays-incredible-history-preserved-11737263\">uned<\/a> mewn gwesty di-chwaeth sy&#8217;n nodi Coyote Ugly fel un o nosweithiau allan gorau Caerdydd, yn hytrach na safle benodol sy&#8217;n dathlu eu cefndir diwylliannol fel un o gymunedau BAME cyntaf Ewrop. I rwbio halen i&#8217;r briw, bydd <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/plans-military-museum-cardiffs-norwegian-18355340\">amgueddfa filwrol newydd<\/a> yn cael ei adeiladu ar eu stepen ddrws yn lle&#8217;r bloc o fflatiau a gafodd ei wrthod yn wreiddiol. Dafliad carreg o&#8217;r Senedd, sy&#8217;n gartref i ddeddfwrfa wedi&#8217;i arwain gan Lafur \u00e2 Llywodaeth Cymru sy&#8217;n enwog am eu <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-politics-49680566\">perthynas hawdd<\/a> gyda&#8217;r diwydiant arfau, mae&#8217;r prosiect yn enghraifft perffaith o ba mor anghywir yw blaenoriaethau datblygiad yng Nghaerdydd.<\/p>\n<p>Er bod y rhan fwyaf o&#8217;i drawsffurfiad wedi&#8217;i orffen, mae dyfodol y Gyfnewidfa Lo yn ansicr ar hyn o bryd. Mae&#8217;r ffaith bod y Cyngor wedi boddio Signature Living, gan gynnig benthyciad a fyddai&#8217;n cael ei dderbyn heb oedi pe bai&#8217;n cael ei gynnig gan fanc neu fuddsoddwr preifat, yn dangos yr agwedd hollol unllygeidiog sydd gan y Cyngor tuag at gadwraeth atyniadau diwylliannol y ddinas. Dyma&#8217;r un Signature Living sy&#8217;n gyfrifol am <a href=\"https:\/\/www.pressreader.com\/uk\/western-mail\/20181031\/281642486171363\">rodd \u00a311,200<\/a> i ymgyrch Vaughan Gething i arwain Llafur Cymru, wedi i Gething baratoi&#8217;r ffordd i brosiect y Gyfnewidfa Lo gael ei feddiannu gan Signature Living. Mae&#8217;n adeilad rhestredig Gradd II, ac nid yw&#8217;r ffaith ei fod wedi&#8217;i adael i ddadfeilio gan y Cyngor dros ddegawdau lawer yn rheswm iddynt droi eu cefnau ar y Gyfnewidfa Lo. Mae diwylliant Caerdydd yn gaffaeliad i&#8217;r ddinas, ac mae agwedd ymddangosiadol di-wyro&#8217;r Cyngor i droi Caerdydd mewn i gl\u00f4n generig yn rhwystredig, ond hefyd yn wirioneddol andwyol i&#8217;r diwylliannau cymhleth sydd wedi datblygu yng Nghaerdydd dros ddegawdau a chanrifoedd<\/p>\n<h2>Wedi&#8217;u boneddigeiddio gan blaid y dosbarth gweithiol: Bae Caerdydd a&#8217;i gyffiniau<\/h2>\n<p>Mae&#8217;r dylifiad hwn o ddatblygiad drud yng Nghaerdydd yn codi&#8217;r cwestiwn, beth yw gweledigaeth y Cyngor i Gaerdydd? Beth yw&#8217;r nod yn y pendraw? Mae gan y Cyngor ddiffyg gweledigaeth wrth gyhoeddi Cynlluniau Datblygiad Lleol. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn y ddinas yn echrydus. Mae&#8217;r diffyg mewn gwasanaethau parcio-a-theithio yn golygu bod pobl yn tyrru i&#8217;r gwaith yn eu ceir bob bore, a thra bo hyn yn symptom o&#8217;r diffyg datblygiad yn Ne Cymru&#8217;n fwy cyffredinol, nid yw Cyngor Caerdydd yn gwneud unrhyw ymdrech i&#8217;w leddfu. Mae&#8217;r ddinas yn dod yn le gwell (darllener: mwy generig) i ymwelwyr a theithwyr undydd, ond lle gwaeth i fyw. Mae&#8217;r Senedd, Adeilad y Pierhead, Canolfan y Mileniwm oll yn rhoi&#8217;r argraff o siop ar fin mynd i&#8217;r wal yn dangos ei nwyddau drytaf yn y ffenest, wedi&#8217;u chwifio o flaen trwynau twristiaid ym Mae Caerdydd i&#8217;w denu i&#8217;r Zizzi neu Nando&#8217;s agosaf. Prin yw&#8217;r berthynas rhwng y llefydd hyn \u00e2 phobl Caerdydd: hyd yn oed ym meicrocosm y Bae, mae llinell derfyn amlwg rhwng Mermaid Quay a Stryd Bute. Gallech yn hawdd wylio&#8217;ch panto yng Nghanolfan y Mileniwm, picio i Salt am ddiod rhy ddrud, a neidio&#8217;n \u00f4l ar y tr\u00ean i Fryste heb sylweddoli bod dinas gyfan sydd dan lach digartrefedd, tlodi ac annhegwch hiliol, a hynny yn ddim ond taith fer i ffwrdd ar Nextbike. Pa ymrwymiad sydd wedi&#8217;i gynnig, er enghraifft, i drigolion Butetown yng nghyswllt datblygiad y Bae? Maen nhw&#8217;n byw ar gyrion lle chwarae gosmopolitaidd, wedi&#8217;i gasglu ynghyd gan wleidyddion heb unrhyw ddealltwriaeth o flaenoriaethau, a dirmyg enfawr at wrando ar y bobl maen nhw i fod yn eu cynrychioli. Mae&#8217;r gwahaniad wedi&#8217;i adlewyrchu yn nefnydd trigolion lleol o <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/butetown-cardiff-drugs-poverty-community-16505275\">\u2018Wal Berlin&#8217;<\/a> i gyfeirio at y pared sy&#8217;n rhedeg ar hyd y trac rheilffordd a&#8217;n eu gwahanu wrth Atlantic Wharf.<\/p>\n<p>Byddai&#8217;n hawdd, i ddechrau, i gyhuddo Cyngor Caerdydd o fethu&#8217;r pwynt, ond maen nhw wedi creu patrwm ymddygiad sy&#8217;n ddigamsyniol: cymysgedd o fuddiannau breintiedig, <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/local-news\/cardiff-councils-russell-goodway-under-3863977\">ymarferion amheus<\/a>, a chwant dybryd i drawsnewid Caerdydd i Fryste neu Lundain Fach yn llawn tyrrau uchel, wedi&#8217;i wyngalchu&#8217;n ddigonol i chi anghofio pa ddinas ry&#8217;ch chi ynddi wedi i chi gamu oddi ar y tr\u00ean. Mae trigolion Caerdydd yn byw yng nghysgod obsesiwn y Cyngor am gynnydd serch cynnydd \u2013 mae datblygiad y ddinas yn gasgliad di-drefn o adeiladau hyll a gwag heb ddim i&#8217;w glymu ynghyd, dim byd i ddangos i bobl eu bod nhw yng Nghaerdydd.<\/p>\n<p>Efallai mai&#8217;r ffigwr gellir ei gysylltu gryfaf \u00e2 datblygiad a boneddigeiddio Caerdydd yn hanes ddiweddar y Cyngor yw&#8217;r dyn sy&#8217;n gyfrifol am y rhan fwyaf ohono, sef Russell Goodway. Gwleidyddion fel Goodway yw&#8217;r math o bobl sy&#8217;n dinistrio <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/local-news\/cardiff-councils-russell-goodway-under-3863977\">ffydd y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth<\/a> fel grym er gwell (<a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/local-news\/residents-complain-cardiff-bay-under-12112466\">heb s\u00f4n am y ffath bod Butetown wedi&#8217;i dan-gynrychioli beth bynnag<\/a>). Y peth gwaethaf yw bod diffyg atebolrwydd gan y dyn yn y llefydd y mae wedi bod mor ddylanwadol yn eu creu. Fel cynghorydd ar gyfer ward Trelai, gweithiodd Goodway ei ffordd i&#8217;w swyddi fel Prif Weithredwr Siambr Masnach Caerdydd a Gweinidog Datblygiad Economaidd y Cabinet, gan amlygu ei ddyhead i Gaerdydd i fod yn \u2018<a href=\"https:\/\/www.business-live.co.uk\/economic-development\/cardiff-been-transformed-truly-european-17600112\">brifddinas Ewropeaidd<\/a>&#8216;. Mae&#8217;n chwerthinllyd i esgus am eiliad bod Caerdydd yn yr un cae \u00e2 Pharis neu Prague, dinasoedd sy&#8217;n cefnogi eu diwylliant a&#8217;u hanes ac sydd ar eu hennill o&#8217;r herwydd. Yn ddisgwyliedig, fel y mae Goodway&#8217;n nodi yn ei erthygl ar drawsnewid Caerdydd i brifddinas Ewropeaidd, nid yw&#8217;n gefnogol i&#8217;r hyn sy&#8217;n digwydd yn y Senedd, gan ei fod yn deall bod llai o ddadgysylltiad rhwng y Senedd a&#8217;r cymunedau difreintiedig na rhwng y cymunedau hynny a San Steffan. Pe bai gan drigolion Butetown y Senedd i&#8217;w cynrychioli yn 90au pan oedden nhw&#8217;n gwrthwynebu adeiladu Atladtic Wharf neu Mermaid Quay (sy&#8217;n swnio fel cadwyn yn ei hun), gallai bywyd Mr. Goodway ac eraill fod wedi bod llawer yn fwy anodd: gall datganoli a, Duw a&#8217;n gwaredo, atebolrwydd rhanbarthol, wneud dim ond cymhlethu materion i Goodway a&#8217;r sefydliad Llafur Cymru sy&#8217;n rhedeg Cyngor Caerdydd. Mae gwleidyddion fel Goodway yn anghofio eu bod nhw&#8217;n rhedeg Caerdydd er mwyn trigolion Caerdydd, ddim er mwyn y bobl sydd eisiau penwythnos o wyliau dosbarth-canol mewn \u2018prifddinas Ewropeaidd&#8217;. Ni ellir tanbwysleisio pwysigrwydd bod yn ddeniadol i dwristiaid, wrth gwrs, ond yng Nghaerdydd, y diwylliannau sydd yma&#8217;n barod, sydd mor amrywiol a chyfoethog, ddylai&#8217;r prif atyniad i fod \u2013 nid wyth o dafarndai Wetherspoons ac <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/cardiff-bay-arena-red-dragon-17418691\">arena dan-do<\/a> sgleiniog.<\/p>\n<p>Gadawodd Goodway i gorfforaethau wyngalchu&#8217;r Bae, ac fe&#8217;u croesawodd \u00e2 breichiau agored. Pe bai buddsoddiad o dramor yn fetrig cymharol i les pobl mewn llefydd fel Butetown, byddai ganddo Wobr Heddwch Nobel. Mae stripio nodweddion adnabyddus Caerdydd yn ymosodiad parhaol ar ddiwylliant, ac mae gwleidyddion fel Goodway yn cynrychioli&#8217;r hyn y mae boneddigeiddio yn ei olygu mewn gwirionedd \u2013 tynnu&#8217;r penderfyniadau am ddatblygiad a chynllunio&#8217;r ddinas wrth y bobl sy&#8217;n gweithio i&#8217;w adeiladu. Wrth i&#8217;r erthygl hon gael ei ysgrifennu, mae Mr. Goodway yn dal i aros am e-bost gan bwyllgor y Wobr Heddwch.<\/p>\n<h2>Swyddfa 292m2 office ac 16 o fflatiau wedi&#8217;u gwasanaethu does mo&#8217;u hangen ar Grangetown<\/h2>\n<p>Mae&#8217;r Cyngor yn llygadu Tramshed nesaf. Ynghanol yr argyfwng coronafeirws, mewn cyfnod lle mae lleoliadau cerddoriaeth yng Nghaerdydd wedi gorfod cau eu drysau (gweler Gwdi\u0175 am enghraifft arbennig o drist) ac eraill, yn ddiarwybod i ni ar hyn o bryd, na fydd yn agor eto o ganlyniad i effeithiau economaidd y pandemig, mae&#8217;r Cyngor yn tagu&#8217;r Tramshed, yn targedu&#8217;r lleoliad fel llofrudd, yn ei ddedfrydu i farwolaeth drwy ganiat\u00e2d cynllunio. Pe bai&#8217;r Cyngor yn cymeradwyo&#8217;r cais, fe fyddent i bob pwrpas yn datgan nad yw&#8217;r gofod parcio a dosbarthu yn angenrheidiol i weithredu parhaol Tramshed. Bydd y 3,000 o droedfeddi sgw\u00e2r yn cael eu llenwi gan swyddfeydd a fflatiau wedi&#8217;u gwasanaethu, a fydd, heb os, ymhell heibio&#8217;r hyn y byddai rhywun arferol o Grangetown yn medru ei fforddio, gan godi prisiau eiddo cyfagos i&#8217;r datblygiad hefyd. Mae Grangetown yn un o gymunedau Caerdydd sydd ar ei h\u00f4l hi fwyaf, ac mae angen datblygiad sy&#8217;n canoli&#8217;r gymuned, yn hytrach na thagfeydd a phroblemau parcio. Ond, fe ymddengys, mae&#8217;r bobl sy&#8217;n byw yn Grangetown ar waelod y rhestr flaenoriaethau.<\/p>\n<p>Mae posibilrwydd cryf na fyddai Tramshed, yn wag ers mis Mawrth \u00e2&#8217;u sefyllfa ariannol wedi&#8217;i niweidio&#8217;n sylweddol wrth ddod allan o&#8217;r pandemig, yn gallu gweithredu heb ofod dosbarthu a heb y parcio stryd sydd ar gael ar hyn o bryd ar Stryd Pendyris. Ni fyddai artistiaid sy&#8217;n teithio yn gallu dadlwytho offer neu barcio bysiau, a byddai&#8217;r gofod ar gyfer dosbarthiadau&#8217;n cael ei effeithio&#8217;n sylweddol heb unrhyw ofod arall i&#8217;w derbyn yn ddiogel: os bydd hyn yn digwydd, mae risg gwirioneddol y bydd yn rhaid i Tramshed gau ei ddrysau, ac fe fydd Signature Living, The Shoreditch Bar Group neu unrhyw un arall o&#8217;r buddsoddwyr arbennig sydd gennym yma yng Nghaerdydd yn si\u0175r o fod yn gwerthu coct\u00eals \u00a38 yno erbyn y Nadolig.<\/p>\n<h2>Ap\u00eal Undod: sut i wrthwynebu&#8217;r cynllun<\/h2>\n<p>Mae Undod yn apelio at ei aelodau sydd wedi&#8217;u lleoli yng Nghaerdydd, yn enwedig y rheiny sydd yn Grangetown, i weithredu yn erbyn y sefyllfa warthus hon. Os nad ydych yn byw yng Nghaerdydd, ond yn adnabod rhywun sydd, rhannwch yr erthygl hon gyda nhw. Mae boneddigeiddio o&#8217;r fath heb gydsyniad trigolion sydd eisoes wedi colli eu gofod cymunedol yn sarhaus. Dylai achos Tramshed a&#8217;r swyddfa ein peri i feddwl am ein cymunedau ac i bwy y maen nhw&#8217;n cael eu rhedeg. Ai&#8217;r Cyngor ddylai wneud y penderfyniad, neu ai&#8217;r bobl fydd yn gorfod byw gyda&#8217;r traffig erchyll a phroblemau s\u0175n ddylai gael y dewis? Oes yn rhaid i bobl fel Russell Goodway fyw gyda&#8217;r llygredd aer y mae ei ddatblygiadau wedi eu cynhyrchu? Mae&#8217;r cais cynllunio&#8217;n cael ei wrthio ymlaen pan mae pobl yn fwy prysur yn poeni am gadw eu teuluoedd yn ddiogel na threfnu ymgyrch yn erbyn adeiladu&#8217;r rhwystr andwyol hwn i weithredu parhaol Tramshed. Ry&#8217;n ni, wrth reswm, mewn cyfnod o ymwybyddiaeth wleidyddol gynyddol ar hyn o bryd, ac mewn cyfnod lle mae nifer o bobl a oedd ynghynt wedi&#8217;u dadrithio yn teimlo&#8217;n rwystredig gyda&#8217;r cynllwynion gwleidyddol sy&#8217;n rheoli eu bywydau. Dyma gyfle i lansio ymgyrch i wneud gwahaniaeth go iawn.<\/p>\n<p>Dewch i ni ddangos i Gyngor Caerdydd na fyddwn ni&#8217;n derbyn eu boneddigeiddio na&#8217;u dosbarthiaeth (<i>classism<\/i>) mwyach. Mae&#8217;r cyngor Llafur Cymru eisoes mewn sefyllfa wleidyddol ansicr, ac ni fyddai&#8217;n ddoeth iddyn nhw anwybyddu&#8217;r cyfalaf gwleidyddol a fyddai&#8217;n cael ei golli drwy ddiystyru ymgyrch gan drigolion Caerdydd sydd wedi&#8217;u dadrithio ac wedi trefnu&#8217;u hunain. Mae yna eisoes bryderon dros symboleiddiaeth yr ymgynghoriad, gyda newidiadau bychan yn unig i&#8217;w gweld yn y cais o gymharu \u00e2&#8217;r diwethaf. Os bydd nifer digonol o wrthwynebiadau&#8217;n cael eu derbyn, mae&#8217;n gyfrifoldeb ar y Cyngor i weithredu er budd trigolion Caerdydd. Nid yw \u201cFe glywson ni chi, a dewis peidio gwrando&#8221; yn ddigon da.<\/p>\n<p>Mae angen i ni <a href=\"https:\/\/planningonline.cardiff.gov.uk\/online-applications\/applicationDetails.do?activeTab=makeComment&amp;keyVal=_CARDIFF_DCAPR_120751\">wrthwynebu&#8217;r cynnig, sydd yn medru cael ei wneud yma<\/a>. Os nad yw&#8217;r wefan, fel y mae nifer yn adrodd, yn gweithio, cymerwch sgrinlun o unrhyw broblemau sy&#8217;n codi. Gallwch anfon y rhain, gyda&#8217;r gwrthwynebiad ry&#8217;ch chi am ei gyflwyno ar y wefan, i <a href=\"mailto:Development.Management@cardiff.gov.uk\">Development.Management@cardiff.gov.uk<\/a> gan gynnwys y Project ID 17\/01744\/MJR, a gofyn i gofrestru eich gwrthwynebiad. Yn yr ebost, dylech gynnwys eich manylion cyswllt a&#8217;ch cyfeiriad Caerdydd.<\/p>\n<p>Yn eich gwrthwynebiad, ry&#8217;n ni&#8217;n argymell cyfeirio at yr isod, yn ogystal \u00e2 nodi pwysigrwydd Tramshed i Grangetown. Mae nifer y gwrthwynebiadau, ac yn fwyaf pwysig 50 o wrthwynebiadau o Grangetown ei hun, yn ein cael i&#8217;r cam pwyllgor; ansawdd y gwrthwynebiadau sy&#8217;n gosod y seiliau am ymgyrch gref i atal adeiladu&#8217;r bloc swyddfeydd:<\/p>\n<ul>\n<li style=\"font-weight: 400;\">Pe bai&#8217;r cynnig cael ei gymeradwyo, byddai diffyg parcio i Tramshed fedru gweithredu. Nid yw&#8217;r llefydd parcio presennol yn ddigonol; byddai&#8217;r datblygiad hwn yn cael effaith negyddol ar Tramshed, ond hefyd ar bobl sy&#8217;n byw ac yn gweithio yn gyfagos. Ni fyddai gan fws teithio, fel y math sy&#8217;n cael ei ddefnyddio gan nifer o artistiaid sy&#8217;n teithio, unrhywle i barcio ar y strydoedd cyfagos.<\/li>\n<li style=\"font-weight: 400;\">Pe bai&#8217;r cynnig yn cael ei gymeradwyo, mae pryder gwirioneddol ynghylch traffig a thagfeydd ar Stryd Pendyris a Heol Clare. Mewn dinas sy&#8217;n ceisio bod yn fwy gwyrdd, gall y cynnig hwn achosi cynnydd sylweddol i ddefnydd ceir ar yr heolydd, a fyddai&#8217;n achosi cynnydd mewn llygredd aer a s\u0175n i drigolion Grangetown \u2013 pobl na fydd, mwy na thebyg, yn gweithio yn y swyddfeydd.<\/li>\n<li style=\"font-weight: 400;\">Pe bai&#8217;r cynnig yn cael ei gymeradwyo, bydd llwytho a dadlwytho nwyddau, sydd fel arfer yn digwydd yng nghefn Tramshed, yn amhosib. Nid oes unrhyw safle arall lle gellir llwytho a dadlwytho nwyddau yn ddiogel.<\/li>\n<li style=\"font-weight: 400;\">Mae&#8217;r cynnig yn digwydd yn ystod pandemig byd-eang sydd wedi lladd cannoedd o filoedd o bobl. Nid yw hyn yn adeg deg i fod yn holi barn y cyhoedd ar ddatblygiad o&#8217;r fath, a fydd yn anochel yn cael effaith ddifrifol ar Tramshed. Mae Tramshed eisoes yn mynd i gael trafferth wrth ailagor, pryd bynnag fo hynny; bydd y cynnig hwn bron yn sicr yn golygu y bydd yn rhaid iddynt gau. Er budd democratiaeth leol ac atebolrwydd, rhaid i&#8217;r cynnig gael ei wrthod.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Dim ond y dechrau yw gwrthwynebu&#8217;r cais hwn. Gallai hyn, a dylai hyn, fod yn ddechrau i ymgyrch wedi&#8217;i arwain gan y gymuned i frwydro yn erbyn haerllugrwydd y Cyngor, ac i drosglwyddo&#8217;r p\u0175er o&#8217;r Pwyllgorau Cynllunio i bobl gweithgar Grangetown. Os derbynnir 50 gwrthwynebiad gan drigolion Grangetown, yna mae&#8217;n rhaid i&#8217;r cynnig fynd i&#8217;r pwyllgor cynllunio, ac fe fydd un o&#8217;r deisyfwyr o Grangetown yn cael mynychu i gyflwyno achos y gymuned. Yn ddelfrydol, byddai&#8217;r Cyngor yn derbyn llawer mwy na 50 o wrthwynebiadau, a&#8217;r rheiny yn dod o Gaerdydd gyfan. Ry&#8217;n ni am i Gyngor Caerdydd deimlo&#8217;r sarhad y mae trigolion Caerdydd &#8211; y rhieny y mae&#8217;r Cyngor i fod i warchod eu buddiannau a&#8217;u lles &#8211; yn ei deimlo dros y posibilrwydd o Gwdih\u0175 arall, a thros achos arall o&#8217;r hyn sydd er lles y cyhoedd yn cael ei drechu er budd rhyw ddatblygiad corfforaethol.<\/p>\n<h2>Dyddiad cau<\/h2>\n<p>Dyddiad cau cyflwyno sylwadau yw <strong>dydd Iau, Mehefin 11eg 2020<\/strong>.<\/p>\n<h2>Dysgu mwy<\/h2>\n<p><em>Os hoffech wrando ar gynnwys deifiol, sy&#8217;n peri rhywun i feddwl, am ddinas Caerdydd, gwrandewch ar &#8216;The Right to the City: Cardiff&#8217;, podlediad o ddyddiau cynnar Desolation Radio ar <a href=\"https:\/\/open.spotify.com\/episode\/2p8w95hqA0H1wcUoJ9pNps?si=wsH0LaqZRpKGYyte27I3Ww\">Spotify<\/a> neu Soundcloud:<\/em><\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/w.soundcloud.com\/player\/?url=https%3A\/\/api.soundcloud.com\/tracks\/285993465&amp;color=%23ff5500&amp;auto_play=false&amp;hide_related=false&amp;show_comments=true&amp;show_user=true&amp;show_reposts=false&amp;show_teaser=true\" width=\"100%\" height=\"166\" frameborder=\"no\" scrolling=\"no\"><\/iframe><\/p>\n<div style=\"font-size: 10px; color: #cccccc; line-break: anywhere; word-break: normal; overflow: hidden; white-space: nowrap; text-overflow: ellipsis; font-family: Interstate,Lucida Grande,Lucida Sans Unicode,Lucida Sans,Garuda,Verdana,Tahoma,sans-serif; font-weight: 100;\"><a style=\"color: #cccccc; text-decoration: none;\" title=\"Desolation Radio\" href=\"https:\/\/soundcloud.com\/desolationradio\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Desolation Radio<\/a> \u00b7 <a style=\"color: #cccccc; text-decoration: none;\" title=\"1. The Right to the City: Cardiff\" href=\"https:\/\/soundcloud.com\/desolationradio\/the-rights-to-cardiff-city\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">1. The Right to the City: Cardiff<\/a><\/div>\n<p><em>Os hoffech wybod mwy am gymuned anhygoel Grangetown, dilynwch <a href=\"https:\/\/twitter.com\/grangecardiff\">@grangecardiff<\/a> ar Twitter.<\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>&#8221;Ry&#8217;n ni am i Gyngor Caerdydd deimlo&#8217;r sarhad y mae trigolion Caerdydd yn ei deimlo dros y posibilrwydd o Gwdih\u0175 arall, a thros achos arall o&#8217;r hyn sydd er lles &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/10\/tramshed\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Ap\u00eal brys Undod: 24 awr i achub Tramshed&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":28,"featured_media":765,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[71,114,112,116,115],"class_list":["post-762","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-caerdydd","tag-cyngor-caerdydd","tag-reclaim-cardiff-ein-dinas-ni","tag-grangetown","tag-tramshed","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>24 awr i achub Tramshed \/ 24 hours to save Tramshed<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"{:cy}24 awr i achub Tramshed \/ 24 hours to save Tramshed{:en}Undod urgent appeal: 24 hours to save Tramshed{:}\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"&#8221;Ry&#8217;n ni am i Gyngor Caerdydd deimlo&#8217;r sarhad y mae trigolion Caerdydd yn ei deimlo dros y posibilrwydd o Gwdih\u0175 arall, a thros achos arall o&#8217;r hyn sydd er lles &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Ap\u00eal brys Undod: 24 awr i achub Tramshed&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/10\/tramshed\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-06-10T16:18:14+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-06-10T16:40:02+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/tramshedcynllun2.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"624\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"351\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Daniel Edwards\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Daniel Edwards\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"28 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/\"},\"author\":{\"name\":\"Daniel Edwards\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/d3ed44493dfbcee61003b4d659287b26\"},\"headline\":\"Ap\u00eal brys Undod: 24 awr i achub Tramshed\",\"datePublished\":\"2020-06-10T16:18:14+00:00\",\"dateModified\":\"2020-06-10T16:40:02+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/\"},\"wordCount\":5899,\"commentCount\":1,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/tramshedcynllun2.jpg\",\"keywords\":[\"Caerdydd\",\"Cyngor Caerdydd\",\"Ein Dinas Ni\",\"Grangetown\",\"Tramshed\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/\",\"name\":\"{:cy}24 awr i achub Tramshed \/ 24 hours to save Tramshed{:en}Undod urgent appeal: 24 hours to save Tramshed{:}\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/tramshedcynllun2.jpg\",\"datePublished\":\"2020-06-10T16:18:14+00:00\",\"dateModified\":\"2020-06-10T16:40:02+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/tramshedcynllun2.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/tramshedcynllun2.jpg\",\"width\":624,\"height\":351},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Ap\u00eal brys Undod: 24 awr i achub Tramshed\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/d3ed44493dfbcee61003b4d659287b26\",\"name\":\"Daniel Edwards\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/cb4b88e23cf1314a3eb069b3cf291891a10e2357397619a1182b5b8ab9b4b102?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/cb4b88e23cf1314a3eb069b3cf291891a10e2357397619a1182b5b8ab9b4b102?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/cb4b88e23cf1314a3eb069b3cf291891a10e2357397619a1182b5b8ab9b4b102?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Daniel Edwards\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/danieledwards\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"24 awr i achub Tramshed \/ 24 hours to save Tramshed","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"{:cy}24 awr i achub Tramshed \/ 24 hours to save Tramshed{:en}Undod urgent appeal: 24 hours to save Tramshed{:}","og_description":"&#8221;Ry&#8217;n ni am i Gyngor Caerdydd deimlo&#8217;r sarhad y mae trigolion Caerdydd yn ei deimlo dros y posibilrwydd o Gwdih\u0175 arall, a thros achos arall o&#8217;r hyn sydd er lles &hellip; Parhau i ddarllen \"Ap\u00eal brys Undod: 24 awr i achub Tramshed\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/10\/tramshed\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-06-10T16:18:14+00:00","article_modified_time":"2020-06-10T16:40:02+00:00","og_image":[{"width":624,"height":351,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/tramshedcynllun2.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Daniel Edwards","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Daniel Edwards","Est. reading time":"28 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/"},"author":{"name":"Daniel Edwards","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/d3ed44493dfbcee61003b4d659287b26"},"headline":"Ap\u00eal brys Undod: 24 awr i achub Tramshed","datePublished":"2020-06-10T16:18:14+00:00","dateModified":"2020-06-10T16:40:02+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/"},"wordCount":5899,"commentCount":1,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/tramshedcynllun2.jpg","keywords":["Caerdydd","Cyngor Caerdydd","Ein Dinas Ni","Grangetown","Tramshed"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/","name":"{:cy}24 awr i achub Tramshed \/ 24 hours to save Tramshed{:en}Undod urgent appeal: 24 hours to save Tramshed{:}","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/tramshedcynllun2.jpg","datePublished":"2020-06-10T16:18:14+00:00","dateModified":"2020-06-10T16:40:02+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/tramshedcynllun2.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/tramshedcynllun2.jpg","width":624,"height":351},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/10\/tramshed\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Ap\u00eal brys Undod: 24 awr i achub Tramshed"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/d3ed44493dfbcee61003b4d659287b26","name":"Daniel Edwards","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/cb4b88e23cf1314a3eb069b3cf291891a10e2357397619a1182b5b8ab9b4b102?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/cb4b88e23cf1314a3eb069b3cf291891a10e2357397619a1182b5b8ab9b4b102?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/cb4b88e23cf1314a3eb069b3cf291891a10e2357397619a1182b5b8ab9b4b102?s=96&d=mm&r=g","caption":"Daniel Edwards"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/danieledwards\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/762","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/28"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=762"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/762\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":767,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/762\/revisions\/767"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/765"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=762"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=762"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=762"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}