{"id":800,"date":"2020-06-17T16:07:45","date_gmt":"2020-06-17T15:07:45","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=800"},"modified":"2020-06-19T10:00:08","modified_gmt":"2020-06-19T09:00:08","slug":"keith-murrell","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/","title":{"rendered":"&#8221;Pwy sy&#8217;n berchen ar yr hanes a phwy sy&#8217;n elwa?&#8221; &#8211; Cyfweliad Keith Murrell, Caerdydd"},"content":{"rendered":"<p><em>Yn ystod yr wythnos ddiwethaf yma mae&#8217;r drafodaeth sy&#8217;n troi o gwmpas cynnig gan <\/em><a href=\"https:\/\/twitter.com\/huwthomas_Wales\/status\/1268665174615040000?s=20\"><em>Gyngor Caerdydd<\/em><\/a><em> am Amgueddfa Feddygaeth Filwrol ar <\/em><a href=\"https:\/\/cardiffcivicsociety.blog\/2020\/05\/17\/keep-our-childrens-park-no-military-museum-demand-local-cardiff-residents\/\"><em>Barc Britannia<\/em><\/a><em> ym Mae Caerdydd wedi arwain at lawer iawn o ddadlau o fewn cyd-destun ehangach, rhyngwladol mudiad &#8216;Black Lives Matter&#8217; (BLM) \u2013 gan arwain at alwadau dros Amgueddfa &#8216;Tiger Bay&#8217;. Fe&#8217;i nodweddwyd gan ymgyrchwyr, gwleidyddion a sylwebyddion yn cael eu pig i mewn &#8211; ond y mae lleisiau o Drebiwt wedi bod yn amlwg yn eu habsenoldeb. Cynigodd Keith Murrell, Cyfarwyddwr Creadigol BACA (Butetown Arts &amp; Culture Association) &#8211; trefnwyr carnifal Butetown &#8211; ymateb bachog ar Twitter:<\/em><\/p>\n<blockquote><p>Butetown Heritage:<\/p>\n<p>for as long as I can remember, others have<\/p>\n<p>celebrated our history<\/p>\n<p>planned our futures<\/p>\n<p>and disregarded our presence<\/p><\/blockquote>\n<p><em>Penderfynom ddal i fyny ag ef i drafod y sefyllfa, a chawsom ymateb nodweddiadol a heriol &#8211; ac un sy&#8217;n cyfleu peth o gymhlethdod a chyfoeth y sefyllfa dan sylw.<\/em><\/p>\n<p><strong>Undod<\/strong>: Siwmae Keith, da bod mewn cyswllt eto. Cyn i ni fynd ati i siarad am y trafodaethau diweddar, a fyddech chi cystal a dweud gair am eich cefndir? O&#8217;ch clywed chi&#8217;n siarad yn flaenorol, roedd ambell i linell gofiadwy fel:<\/p>\n<blockquote><p>Doedden ni ddim angen mynd i weld y byd, daeth y byd i Tiger Bay<\/p><\/blockquote>\n<p>a<\/p>\n<blockquote><p>Roeddem yn arfer amlddiwylliannedd flynyddoedd cyn i unrhyw academydd ei dadansoddi, neu roi label arni.<\/p><\/blockquote>\n<p>A yw&#8217;n gywir i feddwl bod y sylwadau yma&#8217;n crynhoi tipyn ar eich profiadau?<\/p>\n<p><strong>KM<\/strong>: wrth gwrs, mae wastad rhyw elfen o <em>poetic licence <\/em>pan fydda i&#8217;n siarad, ac wrth gwrs &#8216;fe <em>wnaethon<\/em> ni fynd i weld y byd&#8217; fel morwyr masnachol, yn y lluoedd arfog, <em>GI Brides<\/em> a mwy. Mae&#8217;r ymadrodd yn fwy o adwaith i oes o fychanu anthropolegol.<\/p>\n<p>Ond i egluro beth rwy&#8217;n ei olygu o safbwynt personol &#8230;<\/p>\n<p>Dwi heb fod i&#8217;r coleg (wel, i ddweud y gwir rwy&#8217; wedi rhoi&#8217;r gorau i un neu ddau o gyrsiau yn fy amser), doeddwn i erioed wedi cael pasbort neu drwydded gyrru, ac heblaw am ychydig o gyfnodau byr iawn rydw i wedi byw yng Nghaerdydd erioed: Butetown yn bennaf a Grangetown yn fwy diweddar.<\/p>\n<p>Ond hyd yn oed cyn dyfodiad technoleg y rhyngrwyd roeddwn i eisoes yn gyfarwydd iawn \u00e2 gwleidyddiaeth fyd-eang, diwylliant a materion cyfoes (er ychydig yn arafach na&#8217;r dyddiau hyn). Mae gennyf ffrindiau o bob cwr o&#8217;r byd ymysg y bobl rwy&#8217; wedi cwrdd \u00e2 nhw yn Butetown a nifer nad ydynt yn ffrindiau.<\/p>\n<p>Fel wyddost ti, weithiau mae gen i broblemau o ran terminoleg ac mae amlddiwylliannol yn un enghraifft. Mae&#8217;n debyg y gallwn i ysgrifennu papur cyfan yn amlygu fy marn am ddiwylliant, ond digon yw dweud bod yr holl werthoedd a arddelir (neu o leiaf y potensial ar eu cyfer) eisoes wedi&#8217;u gwireddu&#8217;n organig yn Butetown.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-801 size-full\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/keith-murrell.jpg\" alt=\"\" width=\"791\" height=\"960\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/keith-murrell.jpg 791w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/keith-murrell-247x300.jpg 247w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/keith-murrell-768x932.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 791px) 100vw, 791px\" \/><\/p>\n<p><strong>Undod<\/strong>: A beth am edrych &#8216;mewn&#8217; yn ogystal ag &#8216;allan&#8217; fel petai? Mae&#8217;n deg dweud bod rhai o&#8217;ch profiadau chi yn dangos nad oes rhaid i&#8217;r nodweddion yma bod mewn gwrthgyferbyniad i, neu rywsut ar wahan i brofiadau eraill Cymreig, y gellid ystyried eu bod yn fwy &#8216;nodweddiadol&#8217;. Mae eich gwaith gyda&#8217;r carnifal yn ystod Eisteddfod 2018 yng Nghaerdydd yn neidio i&#8217;r meddwl fel rhywbeth gwirioneddol gofiadwy, ond hefyd onid yw&#8217;n gywir dweud mai nid hwn oedd y tro cyntaf i chi gymryd rhan yn yr hyn y gallem ei alw&#8217;n ddiwylliant &#8216;Cymraeg&#8217;?<\/p>\n<p><strong>KM: <\/strong>Byddem yn dathlu Dydd G\u0175yl Dewi yn yr ysgol gynradd fel pawb arall &#8211; fi oedd Owain Glyndwr un flwyddyn ac os cofiaf yn iawn, fe enillon ni&#8217;r frwydr honno; astudiais y Gymraeg am gwpl o flynyddoedd ond doeddwn i ddim yn ddigon hoff o&#8217;r athro i barhau.<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n cofio adroddiadau yn y cyfryngau o genedlaetholwyr Cymreig amser Arwisgiad Charles a meddwl, gan nad oeddem yn siarad Cymraeg ychwaith, eu bod &#8216;yn ein herbyn ni&#8217; hefyd &#8211; heb s\u00f4n am llychwino ein parti stryd &#8230; ond roedden nhw mewn lle o&#8217;r enw Gogledd Cymru felly doedd na ddim gymaint o effaith arna i.<\/p>\n<p>Yn fy arddegau diweddar, yn amlwg newidiodd fy safbwyntiau gwleidyddol a chymdeithasol, a roeddwn i&#8217;n cytuno \u00e2&#8217;r &#8216;ymgyrch tai haf&#8217; a&#8217;r ymgyrch dros deledu Cymraeg: roeddwn yn meddwl bod y ymgyrchwyr hynny&#8217;n arwain y ffordd ac ysgrifennais ychydig o ganeuon (Saesneg eu hiaith) yn cyfeirio at y pethau hynny ar y pryd.<\/p>\n<p>Tua&#8217;r amser yma cwrddais i \u00e2 Geraint Jarman &#8211; yn nh\u0177 cyfaill cerddorol yn Nhrebiwt. Roedd Geraint wedi bod yn defnyddio mwy o ddylanwadau reggae yn ei waith ac rwy&#8217;n gwybod llawer am reggae &#8230; Does dim syndod bod ein sgyrsiau am gerddoriaeth yn canolbwyntio mewn gwirionedd ar faterion gwleidyddol a chymdeithasol, yn gymaint \u00e2&#8217;r gerddoriaeth.<\/p>\n<p>Yn achlysurol, ac fel arfer yn ddigymell, byddai Geraint yn fy ngwahodd i ganu ar ei draciau stiwdio (Dirwnod i&#8217;r Brenin oedd gyntaf) ac er nad oeddwn yn siaradwr Cymraeg dim ond ychydig o linellau syml oedd gen i i&#8217;w dysgu ac roeddwn yn iawn wrth ynganu &#8230; ac eithrio ar un achlysur arbennig, pan oeddwn wedi dysgu&#8217;r llinell o ganwr arall gydag &#8216;chydig o lisp &#8211; ac felly treuliais 20 munud yn y bwth yn canu &#8220;Lliglo ar y Lliglen&#8221; \u2026<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-804 size-full\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/tich-gwilym-geraint-jarman-keith-murrell.jpg\" alt=\"\" width=\"636\" height=\"458\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/tich-gwilym-geraint-jarman-keith-murrell.jpg 636w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/tich-gwilym-geraint-jarman-keith-murrell-300x216.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 636px) 100vw, 636px\" \/><\/p>\n<p>Fe wnes i ambell i gig byw ledled Cymru gan gynnwys &#8220;Taith y Carcharorion&#8221;: roedd yn gyfle gweld a meithrin ymdeimlad o&#8217;r dirwedd a&#8217;r hanes, a chwrdd \u00e2 phobl oedd yn siarad Cymraeg y tu allan i swigen academaidd\/proffesiynol Caerdydd.<\/p>\n<p>Mi ges i wir werthfawrogi gwerth cerddoriaeth Gymraeg i bobl ifanc yn y cynulleidfaoedd &#8230; a hyd yn oed gwerth cerddoriaeth reggae i ffermwr ym Mhenfro. Fy moment mwyaf dwys o gysylltiad oedd mewn siop sglodion yn y Bala, lle&#8217;r oedd y ddynes yn gweini, gan droi&#8217;n gynnes a syth bin i&#8217;r Saesneg i ateb fy archeb.<\/p>\n<p>Ers hynny, rwyf wedi gweithio ar un neu ddau o brosiectau celfyddydau cymunedol yng Ngogledd Cymru gyda dim ond profiadau cadarnhaol o&#8217;r lle a&#8217;r bobl. Rwy&#8217;n gwybod i sicrwydd nad yw mor ddelfrydol \u00e2&#8217;m profiadau i, ond rwy&#8217;n teimlo&#8217;n bersonol yr un mor gartrefol yn y Gogledd a gogledd Caerdydd.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Geraint Jarman - Carcharorion Riddim\" width=\"640\" height=\"360\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/XR2H6x2e1Dg?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p><strong>Undod<\/strong>: Felly mae Butetown a&#8217;r Bae wedi cael llawer o sylw yn ystod yr wythnos ddiwethaf oherwydd y trafodaethau yngl\u0177n \u00e2&#8217;r cynnig am Amgueddfa meddygaeth filwrol ar y gofod a adwaenir fel Parc Britannia &#8211; wrth ymyl yr Eglwys Norwyaidd a rownd y gornel o&#8217;r Senedd. Beth oedd d&#8217;ymateb cyntaf?<\/p>\n<p><strong>KM<\/strong>: Do, fe welais i&#8217;r mater yn codi eto &#8230; i fod yn onest, fy ymateb cyntaf pan welais yr edefyn Twitter [<a href=\"https:\/\/twitter.com\/huwthomas_Wales\/status\/1268665174615040000?s=20\">gan Huw Thomas<\/a>] oedd ei fod yn sgwrs arall gan bobl o&#8217;r tu allan am yr hyn y dylem ei gael, heb drafferthu gofyn &#8230; a dydyn ni ddim fel petai&#8217;n anodd ei gyrraedd. Gwelais ddarn WalesOnline a theimlais ei fod yn ddos arall o&#8217;r hyn y gallech ei alw&#8217;n &#8220;dirymuso rhadlon&#8221;.<\/p>\n<p>Fe wyddoch o&#8217;n trafodaethau wyneb i wyneb beth yw fy nghywair a&#8217;i bwriad pan fyddaf yn dweud pethau fel hyn, a dydy hi ddim yn un dialgar &#8211; ond efallai fy mod i wedi crynhoi ychydig yn llai brathog yn fy sylw Twitter am eraill yn dathlu ein hanes, yn cynllunio ein dyfodol ac yn anwybyddu ein presenoldeb.<\/p>\n<p>Mae tystiolaeth o r\u00f4l y cyfryngau yn hynny o beth mewn unrhyw ffilm archif o&#8217;r 1960au hyd heddiw, lle mae cyfraniadau lleol yn gyfyngedig i ychydig o &#8216;bennau llafar&#8217; a <em>montage meat<\/em>: gall y defnydd mwy diweddar o gyflwynwyr DU awgrymu ryw fath o welliant, ond mae&#8217;r ffaith bod pobl o&#8217;r tu allan yn cael eu targedu am y swydd yn adrodd cyfrolau imi. Mae&#8217;r ffaith eu bod nhw bob tro yn gorfod ailgyfogi yr un hen foftiffau a memes yn cynddeiriogi a bodloni fi ar yr un pryd.<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n gwybod bod y cyfnod cyfredol hwn yn cael ei yrru gan ddiddordeb gwirioneddol yn hanes ac ewyllys da&#8217;r gymuned; bod yr ymgyrch yn ceisio defnyddio&#8217;r cyfryngau ac nid fel arall.<\/p>\n<p>Ond dangosodd yr erthygl WalesOnline yn arbennig y patrwm cyfarwydd ac anghyfforddus iawn o ran cynrychiolaeth gyfyngedig.<\/p>\n<p>Un mater penodol a gododd yma ac mewn mannau eraill yw trafod cau Canolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown (BHAC) &#8211; fel profiad o golled a thynnu cyllid fel rhyw anghyfiawnder mawr i&#8217;r gymuned.<\/p>\n<p>Efallai y bydd hyn yn peri syndod i&#8217;r rhai y tu allan i&#8217;r gymuned, ond nid yn gymaint i&#8217;r rhai sy&#8217;n rhan ohono, pan ddywedaf bod y gwrthwyneb yn wir yn fy marn i: roedd y gefnogaeth swyddogol a roddwyd i BHAC ar draul y gymuned leol, nid oedd y sefydliad yn atebol i&#8217;r gymuned (er bod rhai pobl leol symbolaidd ar y Bwrdd) ac ni allai Cyngor Celfyddydau Cymru fforddio parhau i daflu arian da at y brosiect. Er gwaethaf gwerth emosiynol yr hyn a allai fod wedi&#8217;i golli, ychydig iawn o gefnogaeth neu adwaith lleol a gafwyd iddo&#8217;n cau ei ddrysau.<\/p>\n<p>Unwaith eto, rwy&#8217;n derbyn bod y diffyg gwaith cartref ar y mater hwn fwya tebyg oherwydd brwdfrydedd yn hytrach nag ymdrech fwriadol i lurgunio&#8217;r stori &#8211; ond nid yw cael amrywiaeth barn yn Butetown mor galed \u00e2 hynny, ac nid yw hyd yn oed dod o hyd i gysylltiadau mwy hyddysg yn anodd.<\/p>\n<p>O ran y syniad o Amgueddfa, dydw i ddim mewn gwirionedd yn ei erbyn <em>per se<\/em>, ond fel dwi wedi&#8217;i ddweud o&#8217;r blaen, mae gan ein hanes ni hanes o gael ei ecsbloetio a&#8217;i gamliwio &#8230; ac mae&#8217;r drafodaeth rwyf wedi&#8217;i darllen hyd yn hyn i&#8217;w weld yn mynd i&#8217;r un cyfeiriad (pa mor bynnag dda yw&#8217;r bwriad).<\/p>\n<p>Byddai mwy o ddiddordeb gen i yn bersonol mewn trafodaeth ehangach (a chamau gweithredu) ynghylch pa dreftadaeth sy&#8217;n bwysig a pham &#8211; pwy sy&#8217;n berchen ar yr hanes a phwy sy&#8217;n elwa? Ac yna&#8217;r sut: p&#8217;un ai a ydi Amgueddfa mewn gwirionedd y buddsoddiad gorau o ba bynnag arian cyhoeddus allai fod ar gael?<\/p>\n<p>Pa mor berthnasol fydd amgueddfeydd hyd yn oed yn y dyfodol? Ai dewis amgen neu gymar i&#8217;r amgueddfa filwrol yn unig yw hyn? Unwaith eto, dydw i ddim yn erbyn y syniad ac yn deall y diffuantrwydd sydd y tu \u00f4l i&#8217;r cyfan &#8230; Dydw i ddim yn blwyfol neu&#8217;n gae\u00ebdig, ond byddwn am gefnogi agwedd wahanol tuag at unrhyw brosiect newydd.<\/p>\n<p><strong>Undod<\/strong>: Mae hynny&#8217;n amlwg yn ateb pryfoclyd sy&#8217;n awgrymu \u2013 yn anochel efallai \u2013 fod pethau&#8217;n fwy cymhleth na dim ond gosod Amgueddfa &#8216; Tiger Bay &#8216; ar y safle yn lle&#8217;r hyn a gynigir, ac y dylem fod yn meddwl am y cwestiwn hwn o ran set gyfan o gwestiynau ehangach.<\/p>\n<p><strong>KM<\/strong>: Ydy, dydy hi ddim hyd yn oed mor syml \u00e2 dweud bod hyn yn fater o&#8217;r gymuned a&#8217;r sawl o&#8217;r &#8216;tu allan&#8217;. Mae pobl yn mudo i mewn i&#8217;r gymuned yn amlwg yn nodweddiadol o&#8217;i hanes, ac mae cael y gallu i groesawu a chynnwys newydd-ddyfodiaid yn beth da ac yn dangos cryfder y gymuned &#8211; ac er gwaethaf yr enw drwg, nid ydym yn gwbl amharod i weithio gyda &#8216;phobl o&#8217;r tu allan&#8217; chwaith &#8230; ond nid yw&#8217;r profiad hanesyddol wedi bod yn gynsail gwych, rhaid nodi.<\/p>\n<p>O ran y ffordd rydym yn archifo ac yn dathlu&#8217;r ardal, dylwn ddatgan bod gen i rai diddordebau personol gan fy mod hefyd wedi bod yn datblygu syniadau o gwmpas eiddo fel rhan o Gymdeithas Celfyddydau Diwylliannol Butetown (BACA), gan edrych ar gynllun busnes 5 mlynedd a allai gael ei ariannu gan Gyngor y celfyddydau. O&#8217;n <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/groups\/480826868777138\/\">safle archif<\/a> gallwch weld fy mod wedi buddsoddi&#8217;n llwyr yn ein treftadaeth gymunedol ac mewn gwirionedd, rwyf wedi chwarae rhan sylweddol yn y gwaith o greu&#8217;r dreftadaeth honno dros y 40 mlynedd diwethaf neu fwy &#8211; nid wyf yn amau y byddwn yn cael sylw yn y pen draw mewn unrhyw amgueddfa yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Nid dim ond fi sy&#8217;n canu corn fy hun fan hyn, dyma sywl ar berchnogi &#8211; dwi&#8217;n diflasu bod ein gorffennol yn cael ei ddathlu gan bobl sy &#8216;mor ddifater tuag at ein presennol (a hynny&#8217;n hanesyddol hefyd). Yn absenoldeb cymorth (a&#8217;r gwahardd gwirioneddol mewn rhai achosion), yng nghysgod BHAC ac eraill, rydym wedi cadw, ymchwilio, rhannu a hyrwyddo hanes Butetown yn barhaus ar lafar. Ac wrth gwrs, mae technolegau rhyngrwyd wedi creu byd o bosibiliadau newydd &#8230; Rydym wedi sefydlu tudalen archif Bywyd y Bae am ei bod yn rhad ac am ddim.<\/p>\n<p>O ran y datblygiad penodol hwn: byddwn yn ddigon parod i ddweud fy mod yn erbyn yr Amgueddfa Meddygaethl Milwrol am sawl rheswm, ond dyma&#8217;r dociau a Bae Caerdydd ac rwyf wedi bod mewn gwrthwynebiad (ofer) lawer gwaith o&#8217;r blaen. Rwyf wedi siarad o&#8217;r blaen, mewn perthynas \u00e2 Charnifal, am y datgysylltiad rhwng y Bae a&#8217;r gymuned &#8211; am adennill y lle fel rhan o&#8217;n treftadaeth fel y gallwn fod yn rhan o&#8217;r dyfodol.<\/p>\n<p><strong>Undod<\/strong>: Mae yna lawer sydd wedi ei ddweud am y berthynas honno rhwng y gymuned a&#8217;r Bae, ac mae&#8217;n hollol amlwg i unrhyw un sydd wedi treulio unrhyw amser yma bod rhesymau da pam fod rhai yn cyfeirio at &#8216;wal Berlin&#8217; sy&#8217;n rhedeg ochr yn ochr \u00e2&#8217;r cledrau, ac yn rhannu sgw\u00e2r Loudon a Stryd Bute o adeiladau newydd Glanfa&#8217;r Iwerydd \u2013 ac wrth gwrs, yn symbolaidd iawn \u2013 y Senedd ei hun. Wyt ti&#8217;n credu bod modd y goresgyn y rhaniad hwnnw neu creu adferiad, o ystyried yn enwedig y modd y gwnaeth Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd niweidio&#8217;r cymunedau hynny wrth greu&#8217;r hyn sydd yma heddiw?<\/p>\n<p><strong>KM<\/strong>: Mae amseroedd yn newid. Er enghraifft, roeddwn yn erbyn adeiladu T\u0177 Opera tra nad oeddwn i ac eraill yn y gymuned hyd yn oed yn cael eu cydnabod fel artistiaid. Yn llythrennol, doeddwn i ddim wedi mynd ar gyfyl Canolfan Mileniwm Cymru am y 10 mlynedd cyntaf. Ond yr wyf yn llawer mwy cyfforddus yno y dyddiau hyn. Ychydig o flynyddoedd yn \u00f4l, es i heibio&#8217;r adeilad gyda fy wyres a dywedodd &#8220;Edrychwch, dyna lle rydym yn gwneud carnifal&#8221; a wnaeth i mi sylweddoli bod y ganolfan mewn gwirionedd yn garreg filltir yn ei chymuned &#8211; nid rhywbeth a adeiladwyd dros rywbeth arall &#8230; yn y foment hon, mae&#8217;r ganolfan wedi bod o gwmpas cyn belled \u00e2&#8217;r Casablanca yn ei anterth neu unrhyw rai eraill o&#8217;n straeon ni.<\/p>\n<p>Mewn gwirionedd, byddai&#8217;n freuddwyd i gael presenoldeb a llais gwirioneddol yn yr ardal honno (roedd fy swydd gyntaf wrth adael yr ysgol yn union gyferbyn y loc). Unwaith eto, mae gen i amheuon am amgueddfa fel bocs llawn pethau marw a chelwyddau &#8230; a dydw i ddim yn hollol si\u0175r am y pellter corfforol o &#8216;galon&#8217; y gymuned &#8230; ond mae hynny hefyd yn codi nifer o gwestiynau. Byddem yn sicr yn hapus i weithio gydag eraill i geisio dod o hyd i rywbeth hyfyw a gwerthfawr, ond unwaith eto, byddem yn ddigon dethol o ddarpar bartneriaid, am resymau da.<\/p>\n<p>Hoffwn hefyd danlinellu fy mod yn siarad am y gorffennol a&#8217;r presennol &#8211; gallai pob un o&#8217;r rhain fod yn bosibilrwydd gwahanol ar gyfer y dyfodol, os yw&#8217;r sefyllfa&#8217;n caniat\u00e1u i bobl weithio gyda&#8217;i gilydd yn well.<\/p>\n<p><strong>Undod<\/strong>: Felly, dywedwch fwy wrthym am dy syniadau am yr hyn a allai fod yn ddatblygiadau gwerthfawr i bobl yn Butetown yn eich barn chi \u2013 o gofio bod cynifer o bobl eraill wedi cynnig eu rhai nhw&#8217;n barod!<\/p>\n<p><strong>KM<\/strong>: Yn gyntaf, dim ond i egluro fy nheimladau am y cynigion. Yn sicr, gall fy holl amheuon a sinigiaeth am Amgueddfa Tiger Bay gael eu helaethu 1000 o weithiau yn achos amgueddfa filwrol: fy atgasedd at unrhyw beth milwrol bron; gorfodaeth o&#8217;r &#8216;tu allan&#8217; a choloneiddio &#8216;ein gofod&#8217;; dargyfeirio arian cyhoeddus &#8230; Rwy&#8217;n deall nad yw&#8217;n ariannol hyfyw, ac felly&#8217;r s\u00f4n am gynnwys elfennau eraill. Yn wir, fydden i ddim yn synnu os ydyn nhw hefyd yn meddwl am gynnwys rhyw fath o elfen dreftadaeth leol o fewn y cynlluniau.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-805\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/butetown-carnival.jpg\" alt=\"\" width=\"1668\" height=\"1221\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/butetown-carnival.jpg 1668w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/butetown-carnival-300x220.jpg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/butetown-carnival-1024x750.jpg 1024w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/butetown-carnival-768x562.jpg 768w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/butetown-carnival-1536x1124.jpg 1536w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/butetown-carnival-1568x1148.jpg 1568w\" sizes=\"auto, (max-width: 1668px) 100vw, 1668px\" \/><\/p>\n<p>O ran dewis cadarnhaol, soniais am BACA yn gynharach &#8211; mae&#8217;n fwrdd a ddaeth at ei gilydd yn bennaf ar gyfer Carnifal ond sydd eisiau gwneud pethau eraill (e.e. yr archif). Fel y gwyddoch, mae llawer o wybodaeth leol ac arbenigedd proffesiynol yn y gr\u0175p. Rydym wedi bod yn derbyn cymorth da gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac roeddwn yn y broses o wneud cais am grant mawr (1 flwyddyn) i ddatblygu cynllun busnes ac yna gwneud cais am gyllid &#8216;portffolio&#8217; (5 mlynedd). Mae Covid wedi atal y broses hon am y tro ond rydym yn dal mewn sefyllfa gymharol dda i ailafael ar &#8211; neu golynnu &#8211; y cynlluniau pan yn bosibl. Yn sicr, roedd safle yn un o amcanion (mwy uchelgeisiol) y cynllun busnes drafft hyd yn hyn, ond dwi ddim yn ceisio cais neilltuol fan hyn am y defnydd gorau, ac efallai nad yw&#8217;r safle penodol hwnnw yn addas i&#8217;n cynlluniau ni. Mae llawer o leoedd yn Butetown y gellid eu datblygu, ac nid oes rheswm dros gyfyngu&#8217;r uchelgais i&#8217;r safle hwn os yw&#8217;r gwleidyddion wirioneddol o ddifrif yngl\u0177n \u00e2 gwrando.<\/p>\n<p>Mewn gwirionedd, gyda golwg ar Barc Britannia (ac mae wir angen newid enw!) gellid ei ddatblygu fel rhyw fath o amffitheatr awyr agored&#8230; Byddai&#8217;n wych ar gyfer Carnifal\/Eisteddfod a hyd yn oed mwy o ddigwyddiadau, yn enwedig pan fyddwn yn meddwl sut mae Covid yn effeithio ar y theatr. Gellid ei ddefnyddio hefyd ar gyfer gwrthdystiadau a dylai, mewn gwirionedd, gynnwys cornel siaradwyr. Nid wyf yn ddatblygwr, ond rwy&#8217;n credu y gellid cyflawni llawer ohono drwy dirlunio yn hytrach nag adeiladu, ac y byddai&#8217;n parhau i fod yn fan agored ar gyfer defnydd hamdden cyffredinol.<\/p>\n<p>Fy mhwynt olaf &#8211; a byddai hwn yn un mwy cyffredinol &#8211; yw bod angen inni ystyried yn hyn i gyd y materion gwaelodol sy&#8217;n wynebu cymunedau Butetown. Mae angen i ni feddwl am anghenion a chyfleoedd i bobl ifanc &#8211; ac i&#8217;m feddwl i mae hynny&#8217;n cynnwys amlygu naratif gwahanol &#8211; a hyd yn oed yn fwy hanfodol yw&#8217;r symudiad i ddod \u00e2 hanes pobl dduon i&#8217;r cwricwlwm, sy&#8217;n ennill rhywfaint o gefnogaeth. Cofiwch, rwyf wedi llofnodi&#8217;r ddeiseb fy hun, tra&#8217;n dal i fod yn wyliadwrus iawn y bydd y cynnwys yn llythrennol yn cael ei liwio i gyd-fynd ag uchelgais unigolion a sefydliadau. Dydw i ddim yn credu bod disodli un set o fythau gyda set arall yn mynd i sicrhau&#8217;r canlyniadau a ddymunir.<\/p>\n<p><strong>Undod<\/strong>: Cynigion sy&#8217;n ymddangos yn anodd i weld bai arnynt, chwarae teg. Mae wedi bod yn wych siarad \u00e2 ti Keith. Byddai&#8217;n dda orffen drwy glywed eich barn am y digwyddiadau ehangach sy&#8217;n digwydd ar hyn o bryd. Felly dim ond cwestiwn bach(!) i ddiweddu: Beth wnei di o fudiad BLM a&#8217;r protestiadau yng Nghaerdydd &#8211; ydi hwn yn gyfle go iawn i Gymru (a&#8217;r byd)?<\/p>\n<p><strong>KM<\/strong>: Dwi mewn cyflwr &#8220;ddeubegynol&#8221; braidd am BLM, ac yn enwedig yng Nghaerdydd, Cymru.<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n cytuno&#8217;n llwyr \u00e2&#8217;r mudiad swyddogol a&#8217;r ymdeimlad gwreiddiol &#8211; rwy&#8217;n deall ac yn cytuno \u00e2&#8217;r brand er y gallwn ddweud ei fod yn gamenwi, oherwydd ei fod yn ymwneud mwy \u00e2 marwolaethau pobl dduon ac is-set benodol ar hynny. Dydw i ddim yn gwybod beth sydd ganddynt mewn golwg o ran eu huchelgais ehangach ond rwy&#8217;n cefnogi BLM a&#8217;u prif ffocws o atal llofruddiaethau gan yr heddlu.<\/p>\n<p>Dydw i ddim eisiau herwgipio na dargyfeirio o BLM, ond gan fy mod i mewn sefyllfa i edrych ar bethau o bell, dwi&#8217;n meddwl bod gen i rywbeth i gynnig o safbwynt trafod materion ehangach a hyd yn oed yn nes adref.<\/p>\n<p>Mewn termau byd-eang, rhaid imi ddweud fy mod mewn penbleth ynghylch y &#8216;pam nawr&#8217; &#8211; ac i ba raddau mae ein cysylltiad ni gyda&#8217;i diwylliant nhw yn gwneud hyn yn foment bwysig &#8230; ond &#8216;dyw hynny&#8217;n amharu dim ar y foment, ac yn gyffredinol mae&#8217;r ymateb cyhoeddus yn fy nghalonogi&#8217;n fawr.<\/p>\n<p>Roedd y niferoedd a&#8217;r awyrgylch cyffredinol ym Mharc Bute yn ysbrydoledig &#8211; ond roeddwn i&#8217;n teimlo bod y siaradwyr a&#8217;r areithiau&#8217;n tueddu ar y cyfan tuag at greu sioe a braw &#8211; a dangos diffyg arweinyddiaeth ddilys yn llwyr, hyd yn oed yng nghyswllt y drafodaeth ar faterion hil fel y&#8217;u gelwir yng Nghaerdydd a Chymru (a hwyrach bod hynny&#8217;n draethawd arall ar gyfer diwrnod arall &#8230;).<\/p>\n<p>Er yr holl ddicter a difrifoldeb y materion, y neges ehangach oedd ei hangen oedd cefnogaeth a chydsafiad, ac nid dim ond cloddio am hen gwynion i gyd-fynd a&#8217;r foment. Oes, mae gwaith i&#8217;w wneud i fynd i&#8217;r afael ag anghyfiawnderau fan yma, ond rwy&#8217;n wirioneddol ffieiddio&#8217;r ensyniad y gallai bywydau duon fod mewn perygl fel arfer o drais hamddenol gan yr heddlu. Dyma bryfocio dan gochl creu ymwybyddiaeth.<\/p>\n<p>Y tu hwnt i&#8217;r rali, rwy&#8217; hefyd wedi gweld rhai unigolion a grwpiau yn dechrau lleoli eu hunain i fanteisio ar y sefyllfa i guro ar ddrysau fel rhyw fath o pi\u00f1ata gwleidyddol.<\/p>\n<p>Mae hwn yn ddosbarth rheoli sydd wedi hen ennill ei blwyf yn y diwydiant cydraddoldebau yng Nghaerdydd\/Cymru\/y DU (roeddwn i&#8217;n arfer eu galw&#8217;n &#8216;prefnics&#8217; &#8211; a dylid nodi wrth basio bod rhan fwyaf o&#8217;r prif gymeriadau yn dod o&#8217;r tu allan i Gymru a\/neu mor bell o Butetown ag y bo modd). Mae llawer o&#8217;r rhai sydd bellach yn y sefyllfa o &#8216;gondemnio&#8217; hiliaeth systemig yn gyfranogwyr a buddiolwyr mewn gwirionedd, ac wedi methu \u00e2 gwneud newid parhaol, mae ganddynt bellach gyfle i adennill hygrededd o BLM.<\/p>\n<p>Fel cyffelybiaeth: rwy&#8217;n cymeradwyo&#8217;r hyn sydd ar droed i gael gwared ar Picton o Neuadd y ddinas Caerdydd, ond rwy&#8217;n gwybod y bu gloddesta VIP dirifedi i&#8217;r sefydliadau BAME yn y fan honno, lle&#8217;r oedd pobl yn ddigon hapus i fod mewn cwmni o&#8217;r fath.<\/p>\n<p>Gwelsom rywfaint o hyn yn dod o achos Stephen Lawrence a sawl mater arall ers hynny. Mae Cymru (Llafur) yn mwynhau cael eu digio yn arbennig gan hiliaeth o Loegr (y Tor\u00efaid) ac fel arfer bydd yn dosbarthu ychydig o \u00a3\u00a3\u00a3 i&#8217;w cymdeithion BAME i drefnu jamboree. Rwy&#8217;n sylweddoli bod rhan fwyaf o hyn yn mynegi fy ochr sinigaidd \u2013 ond rwy&#8217;n credu bod gen i hawl i hynny o ystyried bod pawb yn lleisio eu rhwystredigaethau ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Yn fwy optimistaidd, ac ar gyfer y dyfodol: rwy&#8217;n credu y bydd newidiadau cadarnhaol a sylweddol yn deillio o BLM &#8211; mae&#8217;r ffaith ein bod ni&#8217;n ei drafod fel sail ar gyfer newid yn dangos i mi ei fod yn digwydd &#8230; Dwi wir yn credu bod hyn yn golygu y bydd cenhedlaeth o bobl ifanc yn gwireddu&#8217;r newidiadau sydd eu hangen &#8211; efallai ddim yn gyfan gwbl, ond byddan nhw&#8217;n gwneud eu rhan &#8230;<\/p>\n<p>Ychydig dros 20 mlynedd yn \u00f4l, roeddwn yn ymwneud \u00e2 chefnogi Fforwm Ieuenctid Cenedlaethol y DG, a arweiniodd at gyhoeddi Siarter a gyflwynwyd wedyn gan y bobl ifanc yn Nh\u0177&#8217;r Cyffredin a swyddfeydd y Senedd.<\/p>\n<p>Ddoe, cysylltodd un neu ddau o&#8217;r bobl ifanc (nid mor ifanc bellach) a gweithwyr (hynafion bellach). Mae un o&#8217;r bobl o&#8217;r fforwm bellach yn gweithio ar &#8216;amrywiaeth&#8217; yn Nh\u0177&#8217;r Cyffredin ac mae&#8217;n hyderus iawn y byddai&#8217;r Siarter dal i fod yn gyfredol wrth ymateb y Llywodraeth i sefyllfa&#8217;r BLM. Mae hyn i gyd yn dal yn ad hoc iawn ar hyn o bryd, ac wrth gwrs y bwriad fyddai ail-ymgysylltu \u00e2&#8217;r genhedlaeth bresennol o bobl ifanc er mwyn rhoi perthnasedd a pherchnogaeth, ond gallai gostwng oedran pleidleisio i Gymru fod yn ffenestr ddelfrydol i&#8217;w hyrwyddo.<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n credu y bydd hyn hefyd yn effeithio ar ymgyrchoedd a materion eraill hefyd &#8230; Ac rwy&#8217;n meddwl bod grwpiau fel XR wedi dangos rhywfaint o arweiniad wrth godi&#8217;r tymheredd gwleidyddol, hyd yn oed os nad ar y mater penodol hwn.<\/p>\n<p>&#8230; a siarad drosof fi fy hun, teimlaf fod hyn yn dod \u00e2 mwy o berthnasedd &#8211; hyd yn oed dilysiad &#8211; i&#8217;r hyn rwyf wedi bod yn ei ddweud a&#8217;i wneud ers pryd bynnag, ac rwy&#8217;n teimlo fel cario ymlaen.<\/p>\n<p>********<\/p>\n<p><strong>\u00d4l-nodyn<\/strong><\/p>\n<p>Gofynnom i&#8217;r dylunydd Malltwen Gwladys am rai syniadau ynghylch sut y gellid datblygu&#8217;r gofod yn ysbryd syniadau Keith a dyma ychydig o enghreifftiau:<\/p>\n<p>1, Parc Dinesig Superkilen gan BIG (Bjarke Ingels) Copenhagen<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.dezeen.com\/2012\/10\/24\/superkilen-park-by-big-topotek1-and-superflex\/\">https:\/\/www.dezeen.com\/2012\/10\/24\/superkilen-park-by-big-topotek1-and-superflex\/<\/a><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-817\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Copenhagen-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"302\" height=\"201\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Copenhagen-300x200.jpg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Copenhagen.jpg 564w\" sizes=\"auto, (max-width: 302px) 100vw, 302px\" \/><\/p>\n<p>Mae&#8217;r cwmni pensaern\u00efaeth Danaidd BIG wedi gwasgaru dodrefn stryd amrywiol o 60 o wahanol genhedloedd ar draws carped lliwgar o laswellt a rwber yn y Parc hwn yn Copenhagen.<\/p>\n<p>2, Pafiliwn Dulwich<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.dulwichpicturegallery.org.uk\/whats-on\/exhibitions\/2019\/may\/dulwich-pavilion-2019-the-colour-palace\/\">https:\/\/www.dulwichpicturegallery.org.uk\/whats-on\/exhibitions\/2019\/may\/dulwich-pavilion-2019-the-colour-palace\/<\/a><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-818\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Dulwich-1-300x157.jpg\" alt=\"\" width=\"305\" height=\"160\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Dulwich-1-300x157.jpg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/Dulwich-1.jpg 564w\" sizes=\"auto, (max-width: 305px) 100vw, 305px\" \/><\/p>\n<p>Cystadleuaeth bensaern\u00efol yw hon sy&#8217;n digwydd pob dwy flynedd yng ngerddi&#8217;r Dulwich Picture Gallery i adeiladu pafiliwn awyr agored ar gyfer misoedd yr haf, er mwyn cynnal rhaglen o berfformiadau a cherddoriaeth ayyb. Mae&#8217;r gystadleuaeth cynllunio pafiliwn yma yn rhan bwysig o galendr cynllunwyr (gan ddenu sylw a thalent fyd-eang). Tybed a allasai Britannia Park gael y math yma o bafiliwn a fyddai&#8217;n denu talent cynllunio leol?<\/p>\n<p>3, Ac yn olaf, dyma Pafiliwn Galeri Serpentine (Herzog &amp; de Meuron a Ai Weiwei- 2012)<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-819\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/dulwich-3-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"317\" height=\"211\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/dulwich-3-300x200.jpg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/dulwich-3.jpg 564w\" sizes=\"auto, (max-width: 317px) 100vw, 317px\" \/><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn ystod yr wythnos ddiwethaf yma mae&#8217;r drafodaeth sy&#8217;n troi o gwmpas cynnig gan Gyngor Caerdydd am Amgueddfa Feddygaeth Filwrol ar Barc Britannia ym Mae Caerdydd wedi arwain at lawer &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;&#8221;Pwy sy&#8217;n berchen ar yr hanes a phwy sy&#8217;n elwa?&#8221; &#8211; Cyfweliad Keith Murrell, Caerdydd&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":803,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[119],"tags":[120,121,71],"class_list":["post-800","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyfweliadau","tag-black-lives-matter","tag-butetown","tag-caerdydd","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cyfweliad Keith Murrell Interview - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"{:cy}Cyfweliad Keith Murrell Interview - undod {:}\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Yn ystod yr wythnos ddiwethaf yma mae&#8217;r drafodaeth sy&#8217;n troi o gwmpas cynnig gan Gyngor Caerdydd am Amgueddfa Feddygaeth Filwrol ar Barc Britannia ym Mae Caerdydd wedi arwain at lawer &hellip; Parhau i ddarllen &quot;&#8221;Pwy sy&#8217;n berchen ar yr hanes a phwy sy&#8217;n elwa?&#8221; &#8211; Cyfweliad Keith Murrell, Caerdydd&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-06-17T15:07:45+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-06-19T09:00:08+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/keith-murrell2.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"791\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"500\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Gohebydd\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Gohebydd\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"39 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/\"},\"author\":{\"name\":\"Gohebydd\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538\"},\"headline\":\"&#8221;Pwy sy&#8217;n berchen ar yr hanes a phwy sy&#8217;n elwa?&#8221; &#8211; Cyfweliad Keith Murrell, Caerdydd\",\"datePublished\":\"2020-06-17T15:07:45+00:00\",\"dateModified\":\"2020-06-19T09:00:08+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/\"},\"wordCount\":8192,\"commentCount\":1,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/keith-murrell2.jpg\",\"keywords\":[\"Black Lives Matter\",\"Butetown\",\"Caerdydd\"],\"articleSection\":[\"Cyfweliadau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/\",\"name\":\"{:cy}Cyfweliad Keith Murrell Interview - undod {:}\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/keith-murrell2.jpg\",\"datePublished\":\"2020-06-17T15:07:45+00:00\",\"dateModified\":\"2020-06-19T09:00:08+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/keith-murrell2.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/keith-murrell2.jpg\",\"width\":791,\"height\":500},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"&#8220;Pwy sy&#8217;n berchen ar yr hanes a phwy sy&#8217;n elwa?&#8221; &#8211; Cyfweliad Keith Murrell, Caerdydd\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538\",\"name\":\"Gohebydd\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Gohebydd\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gohebydd\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cyfweliad Keith Murrell Interview - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"{:cy}Cyfweliad Keith Murrell Interview - undod {:}","og_description":"Yn ystod yr wythnos ddiwethaf yma mae&#8217;r drafodaeth sy&#8217;n troi o gwmpas cynnig gan Gyngor Caerdydd am Amgueddfa Feddygaeth Filwrol ar Barc Britannia ym Mae Caerdydd wedi arwain at lawer &hellip; Parhau i ddarllen \"&#8221;Pwy sy&#8217;n berchen ar yr hanes a phwy sy&#8217;n elwa?&#8221; &#8211; Cyfweliad Keith Murrell, Caerdydd\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-06-17T15:07:45+00:00","article_modified_time":"2020-06-19T09:00:08+00:00","og_image":[{"width":791,"height":500,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/keith-murrell2.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Gohebydd","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Gohebydd","Est. reading time":"39 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/"},"author":{"name":"Gohebydd","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538"},"headline":"&#8221;Pwy sy&#8217;n berchen ar yr hanes a phwy sy&#8217;n elwa?&#8221; &#8211; Cyfweliad Keith Murrell, Caerdydd","datePublished":"2020-06-17T15:07:45+00:00","dateModified":"2020-06-19T09:00:08+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/"},"wordCount":8192,"commentCount":1,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/keith-murrell2.jpg","keywords":["Black Lives Matter","Butetown","Caerdydd"],"articleSection":["Cyfweliadau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/","name":"{:cy}Cyfweliad Keith Murrell Interview - undod {:}","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/keith-murrell2.jpg","datePublished":"2020-06-17T15:07:45+00:00","dateModified":"2020-06-19T09:00:08+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/keith-murrell2.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/keith-murrell2.jpg","width":791,"height":500},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/06\/17\/keith-murrell\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"&#8220;Pwy sy&#8217;n berchen ar yr hanes a phwy sy&#8217;n elwa?&#8221; &#8211; Cyfweliad Keith Murrell, Caerdydd"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538","name":"Gohebydd","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","caption":"Gohebydd"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gohebydd\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/800","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=800"}],"version-history":[{"count":14,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/800\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":825,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/800\/revisions\/825"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/803"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=800"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=800"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=800"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}