{"id":833,"date":"2020-06-25T15:09:28","date_gmt":"2020-06-25T14:09:28","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=833"},"modified":"2020-06-28T11:52:27","modified_gmt":"2020-06-28T10:52:27","slug":"tir-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/","title":{"rendered":"Tir Cymru"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2>Cyflwyniad<\/h2>\n<p>Mae&#8217;r diwydiant amaeth wedi bod ynghlwm \u00e2 thir Cymru o&#8217;r dechrau.<\/p>\n<p>Fel un o&#8217;r gyfres <a href=\"http:\/\/undod.cymru\/cy\/tag\/cam-nesaf-cymru\/\">Cam nesaf Cymru<\/a> bwriad yr erthygl yma yw ceisio cyflwyno peth o gefndir amaeth yng Nghymru i gynulleidfa drefol, a cheisio gofyn rhai cwestiynau am y diwydiant ei hun. Byddwn yn edrych ar ffyrdd y gall amaethwyr a phobl Cymru greu gwell perthynas efo&#8217;i gilydd. Perthynas fydd yn dibynnu ar barch at bobl, at dir, at natur, at anifeiliaid, ac at fwyd. Perthynas i wella doluriau.<\/p>\n<p>Gallwn droi&#8217;r diwydiant amaeth yng Nghymru oddi ar lwybr dinistriol agri-fusnes ac at lwybr gwaraidd. Drwy gefnogi ffermydd teuluol Cymru mae gwneud hynny. Bydd cynnwys pobl gyffredin yn nyfodol y defnydd o dir yn rhan o&#8217;r weledigaeth. Mae&#8217;n rhan o&#8217;r frwydr dros gael dyfodol llewyrchus a theg i ni gyd.<\/p>\n<p>Cafwyd darlun cignoeth o&#8217;r dyfodol enbyd allai wynebu y diwydiant amaeth yng Nghymru yn erthygl rymus Siwan Clark <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/\">The End of Welsh Farming?<\/a> ar blog Undod yn ddiweddar. Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i osgoi trychineb o&#8217;r fath. Fel arall, bydd y tirlun, y bobl, y bwyd, y cymunedau a&#8217;r iaith i gyd yn newid er gwaeth. Bydd y dirywiad a welwyd dros y degawdau \u2013 ac yn wir y canrifoedd \u2013 yn prysuro.<\/p>\n<p>Os na fedrwn ni ail-ddychmygu cymunedau&#8217;r tir, yna bydd y broses o ddiflaniad y fferm deuluol yn prysuro, hyd yn oed os gellir goresgyn y bygythiad o gytundebau masnach dinistriol.<\/p>\n<p>Bydd Undod yn cefnogi ymdrechion i arbed y diwydiant unigryw hwn, sy nid yn unig yn rhoi bywoliaeth uniongyrchol i ffermwyr, ond yn cynnal llawer o fusnesau eraill yn ogystal \u00e2 bod yn greiddiol i wead y gymdeithas wledig, ac i lunio&#8217;r tirlun.<\/p>\n<p>Ond beth am edrych ar sut mae&#8217;r diwydiant wedi cyrraedd y lle hwn? Sut y torrwyd y cwlwm rhwng y rhan fwyaf o bobl efo&#8217;r bwyd mae nhw&#8217;n ei fwyta? Beth yw lle amaethyddiaeth o fewn bywyd Cymru gyfan, nid o fewn cefn gwlad yn unig? Ac os daw&#8217;r diwydiant drwy&#8217;r argyfwng sy ar ei warthaf, ydi&#8217;r strwythur presennol yn cyfateb i anghenion ein pobl y tu hwnt i&#8217;r diwydiant ei hun? Beth yw&#8217;r croeswyntoedd sy&#8217;n tynnu&#8217;r diwydiant i bob cyfeiriad? Gwyntoedd sy mor rymus fel ei bod yn tynnu&#8217;r llechi oddi ar y to, a bygwth dymchwel y muriau a fu mor gadarn.<\/p>\n<p>Troes galwedigaeth lle &#8216;roedd pobl yn gweithio ochr yn ochr yn frwydr unigolion i oroesi dan bwysau cynyddol. \u201cDau heddiw lle bu deuddeg\u201d fel y dywedodd Dic Jones, yr athrylith o fardd oedd yn ffermwr ei hun. Efallai nad oes gan y plant ddiddordeb, neu fod y fferm bellach yn rhy fychan i roi bywoliaeth i genhedlaeth newydd. Gwelwn gymaint o ffermwyr yn gweithio ar eu pennau eu hunain am oriau meithion, gan raddol golli&#8217;r frwydr ariannol a chorfforol. Cerwch i unrhyw farchnad anifeiliaid a mi welwch fod cyfran uchel o&#8217;r ffermwyr mewn cryn oedran, a sawl un yn amlwg yn gloff gan grud cymalau.<\/p>\n<p>&#8216;Does dim rhyfedd fod unigrwydd a phroblemau meddyliol ar gynnydd. A dim syndod chwaith mai&#8217;r diwydiant hwn sy efo nifer uchel o hunan-laddiadau a damweiniau yn y gweithle.<\/p>\n<p>A oes modd i ni ddychmygu dyfodol amgen i&#8217;n cymunedau gwledig? A hynny mewn modd fydd yn cynnig gweledigaeth i gyfannu ffermwyr, amaethu cynaliadwy, amgylchedd iach, bioamrywiaeth, diwydiannau gwledig, bywyd cymunedol pentrefi, a chynnal y Gymraeg. Diwydiant sy&#8217;n cael ei ddeall a&#8217;i werthfawrogi fel rhan canolog o fywyd Cymru, yn lle cael ei weld (os cael ei weld o gwbl) fel diwydiant sy&#8217;n dadfeilio a llawn o stereoteips o&#8217;r oes o&#8217;r blaen.<\/p>\n<p>Dyfodol lle mae pobl ifanc nid yn unig yn medru ond eisiau aros yn eu cynefin. Dyfodol lle mae modd i bobl heb lawer o gyfalaf gael mynediad i amaethu. Dyfodol sy&#8217;n dathlu&#8217;r gorau o&#8217;r hen Gymru wledig, a hynny heb droi cefn gwlad yn amgueddfa, ond yn hytrach yn adeiladu ar seiliau&#8217;r gorffennol.<\/p>\n<p>Y gobaith yw datblygu diwylliant gwledig sy&#8217;n rhan o&#8217;r byd cyfoes, ond ar delerau sy heb ildio y rhuddin gwerthfawr. Diwylliant sy&#8217;n hyderus wrth wynebu&#8217;r dyfodol, yn lle bod yn ansicr ac amddiffynnol.<\/p>\n<p>Beth am droi&#8217;r mantra cyfoes ar ei ben, fel mae Sel Wilias o <a href=\"http:\/\/cwmnibro.cymru\/\">Cwmni Bro<\/a> wedi ein dysgu i wneud? Y gred fod ardaloedd gwledig yn barasitiaid sy&#8217;n dibynnu ar y <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/business\/business-news\/cardiff-waless-best-economic-asset-14465472\">metropolis<\/a> am gynhaliaeth. Ond y gwir ydi mai&#8217;r metropolis sy&#8217;n sugno adnoddau o&#8217;r ardaloedd gwledig heb ddeall eu gwerth. Pobl, bwyd, dwr, mwynau, coed. Ac ar ben hynny yn darparu lle i ddianc o brysurdeb dinesig ac adnewyddu corff ac enaid.<\/p>\n<p>Yn y pendraw rhaid i ni &#8211; pob un ohonom ni &#8211; fod yn gyfrifol am y tir. Ganrifoedd yn \u00f4l dywedodd <a href=\"http:\/\/pencader.org.uk\/cy\/old-man-pencader\/\">Hen \u0174r o Bencader<\/a> wrth y brenin Harri yr Ail mai ni, y Cymry, \u201ca fydd yn ateb dros y cornelyn hwn o&#8217;r ddaear\u201d.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-840\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/cymru-nasa.jpg\" alt=\"\" width=\"615\" height=\"927\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/cymru-nasa.jpg 615w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/cymru-nasa-199x300.jpg 199w\" sizes=\"auto, (max-width: 615px) 100vw, 615px\" \/><\/p>\n<h2>Cefndir amaeth yng Nghymru<\/h2>\n<p><b>Gweithdy ffermwyr yw y tir<\/b><\/p>\n<p>Mae arwynebedd Cymru yn rhyw 8,000 milltir sgw\u00e2r. Amcangyfrifir fod tua 88% o&#8217;r tir yn cael ei ffermio. Mynydd-dir neu ucheldir yw cyfran helaeth ohono, sy&#8217;n cael effaith ar y dull o ffermio. Cawn dywydd gwlyb yma! Cymru yw un o wledydd gwlypaf Ewrop. Ar gyfartaledd mae Blaenau Ffestiniog yn cael 120 modfedd o law bob blwyddyn. Mae&#8217;r glaw ynghyd \u00e2&#8217;r hinsawdd gymedrol yn ffafrio tyfu porfa.<\/p>\n<p>Tir glas &#8211; porfa &#8211; yw 75% o&#8217;r tir a ddefnyddir, a mae 80% o hwnnw yn Dir Llai Ffafriol (term a ddefnyddir ar gyfer tir sy&#8217;n anos i&#8217;w ffermio, ac yn cael cymorthdal uwch na thir da). Maint daliad amaethyddol yng Nghymru ar gyfartaledd yw 120 erw (48 hectar), sy&#8217;n llai nag yn Lloegr a&#8217;r Alban, ond mae amrywiaeth anferth o fewn y ffigwr hwn.<\/p>\n<p>Mae tua 24,000 o ddaliadau amaethyddol (2018), ond mae 10,000 o rhain yn fychan iawn.<\/p>\n<p>Mae gwerth ariannol tir yn amrywio&#8217;n fawr, gan ddibynnu ar ei ansawdd. Yn ddiweddar (diwedd 2019) gwelwyd rhywfaint o leihad yn ei werth oherwydd ansicrwydd yn dilyn Brecsit, a daeth llai o dir ar y farchnad. Gall cytundeb masnach anffafriol gael effaith pellach wrth gwrs.<\/p>\n<p>Ar gyfartaledd, gwerth tir amaethyddol a werthwyd yng Nghymru (3ydd chwarter 2019) yw: Tir pori \u00a36,000\/erw (lawr 7.7% o 2018); Tir \u00e2r \u00a38,500 (lawr 5.6%); Mynydd-dir \u00a31,000 (lawr 23.1%). Ond gwelwyd prisiau ar adegau yn y blynyddoedd diwethaf o \u00a312,000 i \u00a315,000 yr erw am dir efo galw mawr amdano.<\/p>\n<p>Gwelwyd dirywiad aruthrol ers yr Ail Ryfel Byd yn ansawdd y tir o ran bioamrywiaeth. Collwyd 99% o feysydd gwair traddodiadol. Diflannodd llawer o gynefinoedd megis corsydd. Rhwygwyd gwrychoedd allan. Aeth adar oedd gynt yn gyffredin yn brin.<\/p>\n<p><b>Ers talwm \u2013 hanes cefn amlen!<\/b><\/p>\n<p>Credir fod pobl wedi bod ar dir Cymru ers o leiaf 30,000 o flynyddoedd, ac yn barhaol yn dilyn yr Oes I\u00e2 ddiwethaf tua 10,000 i 12,000 o flynyddoedd yn \u00f4l. Helwyr a chasglwyr ddaeth gyntaf, yna ffermwyr Neolithig tua 6,000 o flynyddoedd yn \u00f4l, pan oedd Prydain bellach yn ynys ar wah\u00e2n i Ewrop a&#8217;r Iwerddon. Y ffermwyr yma ddechreuodd y broses o glirio&#8217;r fforestydd a chreu porfeydd. Yn ddiweddarach daeth diwylliannau Celtaidd yr Oes Efydd a&#8217;r Oes Haearn, a&#8217;u hiaith yn ogystal \u00e2&#8217;u technolegau. Daeth y Rhufeiniaid, daeth y Normaniaid. Daeth y mynachod gyda&#8217;u dulliau newydd hwy o ffermio eu tiroedd helaeth, fel yn Ystrad Fflur, Glyn y Groes, Penrhys a Bassaleg.<\/p>\n<p>Mae \u00f4l a dylanwad amaethu gan ddynoliaeth ar dir Cymru i&#8217;w olrhain ymhell iawn. Tirlun sy wedi ei greu a&#8217;i reoli gan ddyn sydd gennym i raddau helaeth. Rhan bwysig o&#8217;r drafodaeth yw ystyried os ydyw dyn yn gweithio efo&#8217;r ddaear neu yn ei herbyn yn yr oes hon.<\/p>\n<p>Yn wleidyddol, bu cefn gwlad yn lwyfan i sawl pennod yn hanes Cymru \u2013 Deddfau Cau Tiroedd Comin, Terfysg Beca, Rhyfel y Degwm, Rhyfel y Sais Bach, Gwrthdystiadau yn erbyn cig rhad yn y Porthladdoedd yn 1997, Gwrthdystiad Tanwydd yn 2000. Gellid honni fod pob un o&#8217;r digwyddiadau hyn yn ymwneud \u00e2 brwydro yn erbyn grym, gorthrwm, tlodi a chyfalaf.<\/p>\n<p><b>Heddiw \u2013 cipolwg ar y diwydiant<\/b><\/p>\n<p>Tua 52,000 o bobl (2018) sy&#8217;n gweithio ar ffermydd Cymru, sy&#8217;n cynnwys pobl rhan amser. Mae hyn o gwmpas 4% o&#8217;r gweithlu (canran uwch na Lloegr). Mae&#8217;r niferoedd wedi disgyn yn sylweddol dros y blynyddoedd, ond teg dweud fod nifer wedi symud i weithio i gontractwyr sy&#8217;n gweithio bron yn gyfangwbl ar ffermydd. Mae tuedd i weithwyr o dramor gael eu cyflogi ar ffermydd yn y degawd neu ddwy ddiwethaf, ond nid i&#8217;r un graddau ag yn Lloegr.<\/p>\n<p>Mae busnesau eraill yn dibynnu ar ddiwydiant amaethyddol iach, fel cyflenwyr bwyd anifeiliaid, peiriannau amaethyddol a milfeddygon. Ac wrth gwrs mae&#8217;r sector bwyd a diod yn dibynnu&#8217;n helaeth ar amaeth am ei ddeunyddiau crai. Dywedir fod ffermydd teuluol Cymru mewn perthynas economaidd o ryw fath efo 40 i 80 o fusnesau eraill, llawer o fewn eu hardaloedd.<\/p>\n<p>Os edrychwn ar y bobl a gyflogir gan y diwydiant amaeth? drwyddo draw yna mae&#8217;r ffigwr tua 220,000 neu 17% o&#8217;r gweithlu.<\/p>\n<p>Cig coch, defaid ac eidion yn bennaf, a llaeth yw&#8217;r prif gynhyrchion. Mae da byw yn werth 51% a chynhyrchion da byw yn werth 35% Mae 29% o ddefaid ac 11% o wartheg y Deyrnas Gyfunol yng Nghymru. Mae 60% o wartheg Cymru yn y sector laeth (ffigurau o 2016).<\/p>\n<p>Cymharol fychan yw&#8217;r sector tyfu cnydau ar gyfer pobl, a hynny o ganlyniad yn bennaf i ddiffyg tir \u00e2r addas.<\/p>\n<p>Ffermydd teuluol yw llawer iawn o fusnesau amaethu yng Nghymru \u2013 gallant fod yn berchen ar eu tir, yn denantiaid llawn, efo cytundeb rhannu tir efo&#8217;r perchennog, neu yn dal tir am dymor yn unig. Gall yr un busnes fod mewn sawl categori! Erbyn heddiw nid yw&#8217;r tir a ffermir gan un teulu neu fusnes mewn un &#8216;parsel&#8217; mewn llawer iawn o achosion.<\/p>\n<p>Mae nifer helaeth o fusnesau fferm wedi arall-gyfeirio, rhai ers degawdau, i feysydd fel twristiaeth, ynni a sawl cyfeiriad arall. Yn aml iawn yr anhawster o greu elw digonol trwy ffermio yn unig sy wedi cyflymu hyn yn y blynyddoedd diwethaf. Yn ogystal mae llawer o ffermwyr yn entrepreneuriaid mentrus.<\/p>\n<p>Yn gyffredinol, mae&#8217;r iaith Gymraeg yn gryfaf ac yn iaith naturiol mewn ardaloedd amaethyddol. Mae&#8217;r cymunedau hyn wedi cyflenwi siaradwyr Cymraeg naturiol fel darlledwyr a diddanwyr (<a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Eleri_Si%C3%B4n\">Eleri Sion<\/a>, <a href=\"https:\/\/lolcomedyclubs.co.uk\/comedian\/tudur-owen\/\">Tudur Owen<\/a> ac <a href=\"http:\/\/eddieladd.com\/\">Eddie Ladd<\/a> i enwi ond tri), gan alluogi Cymru gyfan i werthfawrogi cyfoeth ein tafodieithoedd. &#8216;Does dim ond rhaid gwrando ar hen recordiadau o rai o hen gymeriadau ardaloedd fel Epynt a&#8217;r Wenhwyseg i sylweddoli beth sy&#8217;n cael ei golli yn ieithyddol pan fydd cymdeithas amaethyddol yn gwanychu a diflannu.<\/p>\n<h2>Croeswyntoedd geirwon<\/h2>\n<p>Trafodwn rai problemau penodol gan eu gosod o fewn cyd-destun ehangach. Y bwriad yw ystyried eu natur, a&#8217;r meddylfryd gwahanol sydd ei angen i geisio cael atebion sydd yn llesol i ffermwyr ac i&#8217;r gymdeithas drwyddi draw. Yn yr ystyr ddyfnaf, mae tir Cymru yn eiddo i ni i gyd. Dyna pam mae lles y tir a&#8217;r bobl sy&#8217;n byw a gweithio ar y tir yn bwysig \u2013 mae&#8217;n greiddiol i&#8217;n lles ninnau.<\/p>\n<p>Cynigir rhai syniadau allai arwain at dawelu rhai o&#8217;r croeswyntoedd hyn.<\/p>\n<p><b>Perchnogaeth<\/b><\/p>\n<p>Mae bod yn berchen tir yn golygu bod yn berchen p\u0175er. Dyna wers hanes \u2013 y mwyaf o dir, y mwyaf o rym. Dyna pam y collwyd cymaint o waed drosto yng Nghymru a ledled y byd drwy&#8217;r broses o goloneiddio (a chyn hynny) dros y canrifoedd.<\/p>\n<p>Bellach mae perchnogi tir \u2013 a&#8217;r adnoddau naturiol sy ynghlwm &#8211; yn gallu cael ei weld fel buddsoddiad cyfalafol yn unig. Mae hyn yn broses sy&#8217;n digwydd mewn nifer o wledydd eraill. Effaith hyn yw codi pris tir a gwasgu pobl gyffredin allan o amaeth. Dyna sut y cafwyd gweithwyr ar gyfer y chwyldro diwydiannol \u2013 drwy droi pobl oedd yn gymharol hunan gynhaliol yn werin heb dir (&#8216;landless peasants&#8217;) oedd yn ddibynnol ar weithio i eraill. Dechrau&#8217;r broses mewn sawl achos oedd eu gosod mewn cymaint o ddyled fel na allent fyth dalu&#8217;r ddyled yn \u00f4l. Mae&#8217;n dal i ddigwydd, mewn gwledydd sy&#8217;n wynebu grym cyfalafiaeth o&#8217;r newydd, fel yn Romania. Dadwreiddir pobl, chwelir cymunedau, ac o fewn cenhedlaeth neu ddwy mae&#8217;r cyswllt efo&#8217;r tir wedi mynd, a&#8217;r dealltwriaeth am ble a sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, heb s\u00f4n am iaith a diwylliant.<\/p>\n<p>Er mwyn sicrhau elw a thalu benthyciadau rhaid i&#8217;r tir &#8216;weithio&#8217; yn galetach \u2013 felly llai o amrywiaeth planhigion mewn tir pori, cadw mwy a mwy o anifeiliaid, peiriannau anferthol, defnydd o gemegolion a gwrtaith, llai a llai o lafur cyflogedig, ffermio mwy a mwy o dir. I&#8217;r ffermwyr sy wedi goroesi dros genedlaethau \u2013 fel y rhan fwyaf o&#8217;n ffermydd teuluol &#8211; mae hyn yn ffordd o ffermio na fyddai llawer wedi ei dewis heblaw eu bod yn teimlo fod yn rhaid iddynt.<\/p>\n<p>Ac os byddan nhw yn rhoi&#8217;r ffidil yn y to, bydd y ffarm yn aml yn cael ei phrynu gan ffermwr cyfagos lleol, neu gan gwmni agri-fusnes, sy&#8217;n edrych ar echdynnu popeth posib o&#8217;r tir, ac yn manteisio i&#8217;r eithaf ar unrhyw gymorthdal gan Lywodraeth. Gall fferm deuluol dyfu i fod yn agri-fusnes \u2013 nid estron mohonynt o angenrhaid.<\/p>\n<p>Penllanw&#8217;r broses raddol hon yw&#8217;r argyfwng a welwn yng Nghymru ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Felly mae&#8217;r ffordd mae perchnogaeth wedi datblygu yng Nghymru wedi dod a ni i fan lle mae llawer o ffermwyr teuluol yn berchen ar eu tir, ond nifer helaeth sy ddim. Mae yna stadau helaeth sy&#8217;n eiddo i dirfeddianwyr &#8216;bonedd&#8217; yn dal i fodoli, a mae nhw yn aml wedi newid eu strategaeth i ffwrdd o osod tenantiaeth lawn, ac yn dueddol i un ai ffermio eu hunain, neu osod y tir ar wahanol fathau o gytundebau. Gall hyn arwain at broblemau pellach o ddirywiad yn y gymdeithas wledig, gan fod t\u0177 ffarm sy&#8217;n dod yn wag yn aml yn cael ei osod fel t\u0177 haf, neu ei werthu ar y farchnad agored i brynwr cefnog. Nid yw&#8217;r mater hwn wedi cael sylw haeddiannol hyd yma.<\/p>\n<p>Cofiwn fod nifer o stadau mawrion wedi eu hadeiladu ar sylfeini amheus yn y lle cyntaf.\u00a0 Dyma rai o&#8217;r sylfeini. Cefnogi&#8217;r ochr &#8216;iawn&#8217; yn y brwydrau am goron Lloegr; priodasau strategol sy&#8217;n clymu sawl stad efo&#8217;i gilydd (ambell dro efo tiroedd helaeth yng Nghymru a Lloegr); dwyn tir adeg cau&#8217;r Tir Comin; defnyddio arian o ffynonellau anfoesol fel y fasnach gaethweision. Yn y broses &#8216;roedd yr &#8216;uchelwyr&#8217; Cymreig gwreiddiol yn raddol droi yn bileri&#8217;r drefn Brydeinig \u2013 ac yn dal i fod.<\/p>\n<p>Tirfeddianwyr pwysig arall yw&#8217;r Cynghorau Sir. Mae ganddynt bortffolio o ffermydd, fel arfer yn dyddynnod neu ffermydd cymharol fychan. Bwriad rhain yn wreiddiol oedd i roi troed ar yr ysgol ffermio i bobl ifanc, gan eu galluogi i hel dipyn o arian a magu anifeiliaid cyn symud ymlaen i fferm fwy. Bellach mae&#8217;r sustem, tra&#8217;n dal i fodoli, wedi gweld problemau dyrys. Mae ambell i Gyngor yn dewis gwerthu man-ddaliad neu fferm ar y farchnad agored, o dan bwysau ariannol byddant yn hawlio mae&#8217;n debyg. Felly mae&#8217;r cyfle i berson ifanc brwdfrydig wedi mynd.<\/p>\n<p>Mae Cyngor Sir yn dewis gwerthu yn cau y drws ar ffyrdd amgen o edrych ar sut i ddefnyddio&#8217;r tir a ffermio er budd y gymuned leol, fel y gwelwyd yn achos Fferm Trecadwgan ger Solfach yn ddiweddar.<\/p>\n<hr \/>\n<p><strong>Trecadwgan \u2013 astudiaeth achos<\/strong><\/p>\n<p>Bu ymdrech lew gan ardalwyr i brynu&#8217;r fferm er mwyn creu menter gymunedol fyddai wedi cynhyrchu bwyd i bobl leol, a dysgu&#8217;r grefft o ffermio i&#8217;r trigolion.\u00a0 Crewyd cynllun busnes credadwy, a gwrthwynebwyd penderfyniad y Cyngor yn chwyrn, gyda deiseb o fil o lofnodion. Sawl gwaith &#8216;roedd y gymuned yn credu eu bod wedi cael cytundeb gyda&#8217;r Cyngor Sir i brynu&#8217;r fferm, ond drylliwyd y gobeithion.<\/p>\n<p>&#8216;Roedd gweledigaeth gyffrous ac adeiladol i greu cymuned o gwmpas y fenter. Yn lle hynny gwelodd y Cyngor yn dda i roi buddion ariannol tymor byr o flaen dymuniad y gymuned i adeiladu rhywbeth fyddai o wir werth, a hwnnw&#8217;n barhaol, ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau&#8217;r dyfodol.<\/p>\n<p>Dyma fel y mynegodd, Gerald Miles o fferm T\u0177 Rhys ger T\u0177 Ddewi, y Cymro o ffermwr sydd ei hun yn tyfu cnydau ar gyfer ei ardal leol, y weledigaeth ar gyfer y fferm:<\/p>\n<blockquote><p>&#8220;Cynnwys pobl ifanc a phlant yn y fferm ac adfer parch at fwyd. Rhaid i ni ddod a chariad yn \u00f4l i dyfu bwyd. Tyfu gyda&#8217;n gilydd a bwydo ein gilydd. Cadw&#8217;r fferm yn \u00f4l y bwriad gwreiddiol, tyfu a darparu bwyd ar gyfer y gymuned, gyda&#8217;r gymuned.&#8221;<\/p><\/blockquote>\n<p>A oes yna well gweledigaeth ar gyfer cenedlaethau&#8217;r dyfodol?<\/p>\n<p>Dyma fideo byr o Gerald yn egluro&#8217;r weledigaeth cyn i&#8217;r fferm gael ei gwerthu i bobl o Gaerloyw:<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/player.vimeo.com\/video\/347131017\" width=\"640\" height=\"360\" frameborder=\"0\" allowfullscreen=\"allowfullscreen\"><\/iframe><\/p>\n<p>Tristwch affwysol oedd i&#8217;w glywed yn llais Gerald wrth ymateb i&#8217;r newydd fod y fferm wedi ei gwerthu.<\/p>\n<hr \/>\n<p>Dyma rai atebion posib:<\/p>\n<p><b>Banc tir<\/b>. Mynediad at dir i&#8217;w ffermio yw&#8217;r maen tramgwydd anorchfygol i lawer. Mae hyn yn arbennig o wir am ffermwyr ifanc. Ond gallai banc tir fod yn fodd o hybu cymunedau sy am dyfu bwyd eu hunain hefyd.<\/p>\n<p><b>Adfer Tir.<\/b> Gwyddom yn iawn y gall arian cyhoeddus gael ei wario i brynu tir \u2013 er enghraifft ar \u00f4l y troi allan gwarthus ar Epynt 80 mlynedd yn \u00f4l. Dylid difilitareiddio y tir a&#8217;i adfer i ddefnydd amaethu heddychlon yn unig.<\/p>\n<p><b>Ffermydd Cyngor.<\/b> Dylai fod yn anghyfreithlon i Gyngor Sir werthu eu ffermydd \u2013 fel y gwnaed yn achos Trecadwgan.<\/p>\n<p><b>Uchafswm o dir\/cymorthdaliadau.<\/b> Mae&#8217;n afresymol fod gormod o dir yn nwylo un unigolyn, busnes neu stad. Mae&#8217;n hollol anghywir hefyd fod busnesau mawr yn cael symiau enfawr o arian gan y trethdalwr.<\/p>\n<p><b>Olyniaeth.<\/b> Nid yw&#8217;r ffaith fod y rhan fwyaf o bobl sy&#8217;n rhedeg ffermydd yn eu pumdegau a&#8217;u chwedegau yn arwydd o ddiwydiant iach. Mae nifer sy&#8217;n h\u0177n na hynny. Mewn sawl achos, &#8216;does gan ffermwr neb i&#8217;w olynu yn y busnes. Gallai Banc Tir brynu&#8217;r fferm, a gosod y fferm i ffermwr ifanc.<\/p>\n<p><b>Marchnadoedd<\/b><\/p>\n<p>Mae&#8217;r Deyrnas Gyfunol yn mewnforio 48% o&#8217;r bwyd sydd ei angen, cyfran sy&#8217;n tyfu. Byddech yn meddwl mai prif waith ffermwyr yma yw bwydo ein pobl ein hunain. Pam felly mae cymaint o bwyslais gan y diwydiant amaeth ar gadw marchnadoedd i allforio iddyn nhw ar agor? I symleiddio rhesymau cymhleth iawn, prisiau&#8217;r farchnad yw&#8217;r bwgan.<\/p>\n<p>Datblygodd grym archfarchnadoedd i&#8217;r fath raddau fel y gallan nhw fwy neu lai gynnig beth bynnag mae nhw eisiau i ffermwyr, heblaw fod yna brinder dros dro o rhywbeth neu&#8217;i gilydd. Gallant wasgu pris a gytunwyd i lawr hefyd \u2013 &#8216;Rhaid i ti gymryd ceiniog yn llai am bob un o dy fresych achos mi allwn ni fewnforio cyflenwad rhatach. Fyny i ti, Mistar Ffarmwr, os ti am dderbyn y pris neu adael i&#8217;th fresych bydru yn y cae&#8230; o, dydan ni ddim eisiau y rhai sy&#8217;n rhy fawr neu&#8217;n rhy fach chwaith.&#8217;<\/p>\n<p>Felly mae ffermwyr Cymru am gadw masnach cig oen a chig eidion efo Ewrop, gan fod y prisiau yn well, ar adegau pan fydd archfarchnadoedd yma yn mewnforio cig o Seland Newydd, efallai. Mae corff penodol, Hybu Cig Cymru, yn chwilio am gwsmeriaid dramor, yn ogystal ag yma, mewn llefydd fel y Dwyrain Canol hyd yn oed. Mewn difri calon, methiant marchnadoedd dilyffethair sy wedi dod a ni i hyn.<\/p>\n<p>Mantra&#8217;r farchnad yw &#8216;Bwyd Rhad!&#8217;. Dydi hynny ddim yn gyfystyr a bwyd da, maethlon, wedi ei fagu i safonau iechyd a lles da. Mae&#8217;n diraddio parch at fwyd. Mae&#8217;n gwneud i ffermwyr weithio&#8217;n galetach i aros yn eu hunfan yn ariannol, efo cost i&#8217;w hiechyd corfforol a meddyliol. Mae&#8217;n cynyddu milltiroedd bwyd yn ddiangen. Tra &#8216;rydyn ni i gyd yn ddiolchgar fod yna ddigon o fwyd ar y silffoedd, mae&#8217;n hen bryd i ni holi beth, yn union, yw cost y bwyd &#8216;rhad&#8217; yma mewn termau heblaw am rhai ariannol yn unig. Y gost i&#8217;r amgylchedd, y gost i gymunedau.<\/p>\n<p>Daeth Marchnadoedd Ffermwyr yn boblogaidd dros y blynyddoedd diweddar, ond talcen caled mae nhw&#8217;n ei gael i dorri trwodd i fod yn brif ffrwd.<\/p>\n<p>Dyma rai atebion posib:<\/p>\n<p><b>Bwyd lleol.<\/b> Mae angen ymestyn y dulliau o gyflenwi bwyd lleol trwy greu partneriaethau efo ffermwyr lleol ar raddfa eang. Dylai hyn fod yn arferol ymhobman, yn lle bod yn eithriad cymharol brin.<\/p>\n<p>Ar ben hynny credwn fod angen cefnogaeth go iawn ar gymunedau sy am dyfu bwyd eu hunain. Gwelwn fod hyn yn dalcen caled am sawl rheswm, ond byddai cynnydd yn y prosiectau hyn yn gwneud cymaint o les i ail-gysylltu pobl efo&#8217;u bwyd.<\/p>\n<p>Dyma fideo (35 munud) gan y mudiad rhyngwladol Access To Land sy&#8217;n edrych ar y sefyllfa mewn gwahanol wledydd \u2013 y problemau a&#8217;r llwyddiannau.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/player.vimeo.com\/video\/161256216\" width=\"640\" height=\"360\" frameborder=\"0\" allowfullscreen=\"allowfullscreen\"><\/iframe><\/p>\n<p><b>Prosesu a dosbarthu.<\/b> Datblygodd y dulliau presennol i siwtio archfarchnadoedd ac agri-fusnes. Dydi rhain o ddim help i&#8217;r ddelfryd o gyflenwi bwyd mor lleol a phosib, a lleihau milltiroedd bwyd. Mae&#8217;n groes i&#8217;r graen fod anifail sy wedi ei fagu&#8217;n ofalus yn gorfod teithio filltiroedd lawer ar ei siwrnai olaf, am nad oes yna ladd-dy o fewn pellter rhesymol.<\/p>\n<p>Mae angen gweld os oes modd creu econom\u00efau bwyd lleol, sy&#8217;n cynnwys nid yn unig y cynnyrch syth o&#8217;r fferm, ond bwydydd a diodydd a wneir allan ohonynt. Fel arfer, y deunydd crai yw&#8217;r pethau rhataf yn y cynnych terfynol, a&#8217;r cynhyrchwr heb weld cyfran uchel o&#8217;r elw terfynol.<\/p>\n<p>Beth am gael strategaeth bendant o greu diwydiant bwyd yn lleol sydd efo&#8217;r ffermydd teuluol yn gonglfeini, ac isadeiledd sy&#8217;n galluogi cyflenwi a dosbarthu bwyd, a chreu cynnyrch a diodydd sy&#8217;n defnyddio cymaint a phosib o gynnyrch y fferm? Mae arian Llywodraeth wedi cael ei wario ar bethau gwaeth o lawer!<\/p>\n<p><b>Amgylchedd<\/b><\/p>\n<p>Gosodiad syml: mae&#8217;r amgylchedd yn cael ei lunio gan amaeth.<\/p>\n<p>Nid yn unig yr amgylchedd a welwn, ond yr amgylchedd nas gwelwn, fel y meicrobau a&#8217;r pryfetach yn y pridd, ac yn wir natur y pridd ei hun.<\/p>\n<p>Dyma enghreifftiau o sut mae ffermio yn cael effaith ar yr amgylchedd: patrymau aredig; pa fath o hadau gaiff eu plannu; faint a pha fath o gemegolion a ddefnyddir, dwyster y ffermio; defnydd o wrtaith artiffisial neu naturiol; gwrychoedd; cloddiau; draenio tir. Yn gyffredinol, mae ffermio yng Nghymru yn llai dwys nag yn Lloegr oherwydd natur y tirwedd i raddau helaeth. Serch hynny, mae yna broblemau dyrys iawn wedi dod i&#8217;r amlwg. Gwrandewch ar araith Iolo Williams a mi gewch eich syfrdanu pa mor ddifrifol yw pethau. Dyma fo yn <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=FnJQjtvngqA&amp;t=6s\">lawnsiad<\/a> \u00a0&#8216;State of Nature&#8217; yng Nghaerdydd 2013 (16 munud).<\/p>\n<p>Diflannodd 99% o feysydd gwair Cymru ers yr Ail Ryfel Byd. 99%!<\/p>\n<p>Gall llygredd o ffermydd ladd cannoedd os nad miloedd o bysgod. Mae pryder am effaith cemegolion ar wenyn. Daeth ofnau am effeithlonrwydd cyffuriau gwrthfiotig. Gall drewdod o fferm ddiwydiannol ddwys amharu ar ansawdd bywyd. Ond cael eu gwthio i lawr y llwybrau hyn gafodd ffermwyr. Yn yr un modd ag y ceisiwyd gwthio hadau wedi eu newid yn enetig arnyn nhw.<\/p>\n<p>Nid yw hyn o les i neb yn y pendraw, ac yn sicr ddim o les i&#8217;r ffermwyr. Mae&#8217;n anghynaladwy \u2013 i&#8217;r diwydiant ac i&#8217;r tir.<\/p>\n<p>Dyna pam mae taliadau i ffermwyr yn ddiweddar, ac yn \u00f4l pob tebyg yn y dyfodol, wedi eu llunio i hybu polis\u00efau sy&#8217;n well i&#8217;r amgylchedd. Mae ffermwyr Cymru bob tro yn ymateb i&#8217;r gofynion sy arnyn nhw. A dyna lle mae yna lygedyn o obaith \u2013 os gall y gofynion arnynt newid fel bod yr holl gyfraniad mae nhw&#8217;n ei wneud yn cael ei gloriannu a&#8217;i dalu yn iawn. Ond rhaid i&#8217;r manylion fod yn gywir yn y rheolau a&#8217;r taliadau. Rhaid i&#8217;r sgwrs rhwng ffermwyr a&#8217;r cyhoedd fod ar sail dealltwriaeth.<\/p>\n<hr \/>\n<p><strong>&#8216;O&#8217;r Mynydd i&#8217;r M\u00f4r&#8217; \u2013 astudiaeth achos<\/strong><\/p>\n<p>Cyflwynodd yr elusen &#8216;Dad-ddofi Prydain&#8217; <a href=\"https:\/\/www.rewildingbritain.org.uk\/cy\/ein-gwaith\/or-mynydd-ir-mor\">(&#8216;Rewilding Britain&#8217;)<\/a> gynllun &#8216;O&#8217;r Mynydd i&#8217;r M\u00f4r&#8217; yn ardal sy&#8217;n ymestyn o Bumlumon i Fae Ceredigion. Dyma glasur o ymgais gan bobl o&#8217;r tu allan efo bwriadau da i wthio syniadau am sut i reoli tir, er enghraifft drwy gyflwyno rhywogaethau a ddiflannodd ganrifoedd yn \u00f4l, gan beidio siarad yn gall efo pobl oedd wedi llwyddo i oroesi yno ers canrifoedd. Rhywsut aeth bwriad yr elusen i geisio creu economi a allai ddatblygu law yn llaw gyda chadwraeth a dad-ddofi ar goll yn y sgwrs. Cythruddwyd ffermwyr lleol. Bellach mae&#8217;r elusen wedi tynnu allan o&#8217;r cynllun a&#8217;i drosglwyddo i bartneriaeth mwy <a href=\"http:\/\/www.summit2sea.wales\/cy\/hafan\/\">lleol<\/a>, sy&#8217;n bwriadu datblygu&#8217;r prosiect mewn modd mwy cynhwysol. Yr hyn na wnaeth yr elusen wreiddiol oedd ystyried fod y ffermwyr cynhenid eu hunain yn rhan bwysig o fioamrywiaeth!<\/p>\n<hr \/>\n<p>Dyma rai atebion posib:<\/p>\n<p><b>Nwyddau cymdeithasol.<\/b> Allwn ni ddim dweud ar hyn o bryd sut gyflwr fydd ar y farchnad ar gyfer cynnyrch traddodiadol ffermydd Cymru. Ond gallwn fod yn hyderus y bydd galw cynyddol am y pethau mae cymdeithas eu hangen. Bioamrywiaeth, gwarchod cynefinoedd, sinc carbon, atal llifogydd i enwi rhai. Gall ffermwyr gyflenwi y rhain i gyd \u2013 ond rhaid i&#8217;r fargen gymdeithasol hon gael ei hariannu&#8217;n iawn a rhesymol. Dylai unrhyw fargen gyda Llywodraeth gynnwys ystod o bobl leol y tu allan i&#8217;r cylch arferol. Gallai gynnwys cytundeb i ddarparu tir i dyfu cnydau bwyd ar gyfer y gymuned leol \u2013 gall y ffermwr dyfu&#8217;r cnydau, neu y gymuned, neu bartneriaeth. Yr egwyddor bob tro ddylai i&#8217;r arian aros yn lleol.<\/p>\n<p><b>Cymorthdal neu gytundeb?<\/b><\/p>\n<p>Gallwn roi ateb parod i rai sy&#8217;n cwyno fod ffermwyr yn cael cymhorthdal: mae nifer o ddiwydiannau yn dibynnu ar y Llywodraeth fel eu prif gwsmer. Beth fyddai cwmn\u00efau arfau heb arian enfawr ar ffurf cytundebau gan y Llywodraeth? Lle fyddai y diwydiant niwclear? Bargen llawer well, a defnydd llawer mwy moesol o arian, yw ei wario ar ddeilliannau amgylcheddol a diogeledd bwyd o gefn gwlad. Felly dim ots am y teitl \u2013 yr egwyddor sy&#8217;n bwysig, sef bod yr arian yn talu am bethau angenrheidiol, nid fel modd o d\u00e2l elusennol i esmwytho ergydion y farchnad fwyd.<\/p>\n<p><b>Gwrthdaro<\/b><\/p>\n<p>Dyma rai pynciau sy&#8217;n achosi gwrthdaro a phegynnu rhwng ffermwyr a phobl eraill.<\/p>\n<p>Llysieuaeth a Feganiaeth; Ll\u00eas Anifeiliaid; TB; Cadwraeth; Llygredd Amgylcheddol; Mynediad Cyhoeddus; Carbon a Hinsawdd; Biwrocratiaeth.<\/p>\n<p>Gall y &#8216;bobl eraill&#8217; fod yn Lywodraeth, sefydliadau rheoleiddio, elusennau, neu garfannau o bobl efo ymgyrch benodol.<\/p>\n<p>&#8216;Does dim gofod yma i drafod y pynciau hyn, ond beth sy&#8217;n nodweddiadol ohonynt i gyd yw fod yna deimlad o ddiwydiant dan warchae sy&#8217;n cael mwy a mwy o drafferth i ganfod llwybr fedr ail-gysylltu trwch y boblogaeth efo nhw a&#8217;u gwaith.<\/p>\n<p>Mae yna elfen gref o &#8216;ni a nhw&#8217;. Ffermwyr yn meddwl nad ydi pobl y dref yn deall y wlad. Pobl y dref yn meddwl fod ffermwyr yn cwyno&#8217;n dragywydd, yn gyfoethog, ac yn dinistrio natur. Gor-symleiddio, wrth gwrs, ond mae elfen o wirionedd hefyd.<\/p>\n<p>Teg dweud fod yna rai materion lle nad oes bosib cael cytundeb, nac o bosib cyfaddawd, rhwng pobl sydd ar eithafion pwnc penodol. Y peth pwysig i&#8217;w gofio yw nad ydi y rhan fwyaf o bobl ar yr eithafion! Mae natur a th\u00f4n trafodaeth yn bwysig os am ganfod datrysiadau y gall y boblogaeth yn gyffredinol eu deall a&#8217;u cefnogi.<\/p>\n<p>Dyma rai atebion posib:<\/p>\n<p><b>Gadael y seilo!<\/b> Gydag arweiniad hirben o du&#8217;r diwydiant a pharodrwydd i drafod efo&#8217;r cyhoedd byddai modd troi y pynciau lle mae gwrthdaro yn fannau cychwyn i ail-lunio&#8217;r diwydiant amaeth a&#8217;r economi wledig. Gall cyfathrebu effeithiol chwalu&#8217;r &#8216;nhw a ni&#8217;. Nid yn unig y mur o gamddealltwriaeth rhwng ffermwyr a&#8217;r cyhoedd yn gyffredinol, ond rhwng ffermwyr a charfannau penodol fel amgylcheddwyr.<\/p>\n<p><b>Rhoi gwybodaeth i&#8217;r cyhoedd.<\/b> Nid &#8216;pobl y dre&#8217; yw&#8217;r unig rai sy angen dysgu. Erbyn hyn mae llawer o bobl yn byw yn y wlad sy heb gyswllt uniongyrchol efo amaeth.<\/p>\n<p><b>Deall pa gynnyrch mae&#8217;r cyhoedd ei angen.<\/b> Mae bwyd yn brif gynnyrch, ond mae cynhyrchion a deilliannau gwerthfawr eraill. Dyna lle mae cychwyn y sgwrs am sut i droi y pethau hyn yn fywoliaeth.<\/p>\n<h2>Casgliad<\/h2>\n<p>\u201cMae Rhyfel yn rhy bwysig i&#8217;w adael i&#8217;r cadfridogion\u201d meddai&#8217;r gair. Yn yr un modd mae&#8217;r rhyfel dros ddyfodol y tir a ffermio yn rhy bwysig i&#8217;w adael i&#8217;r gwleidyddion. Oherwydd rhyfel ydi o mewn gwirionedd. Mae&#8217;n frwydr fyd-eang, a&#8217;n tasg ni yng Nghymru yw sicrhau nad ydi ein darn fach ni o&#8217;r blaned \u2013 a&#8217;r ffermydd teuluol fedr ei gwarchod &#8211; ddim yn cael eu rhoi yn offrwm ar allor ariangarwch ymosodol cyfalafiaeth.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cyflwyniad Mae&#8217;r diwydiant amaeth wedi bod ynghlwm \u00e2 thir Cymru o&#8217;r dechrau. Fel un o&#8217;r gyfres Cam nesaf Cymru bwriad yr erthygl yma yw ceisio cyflwyno peth o gefndir amaeth &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Tir Cymru&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":14,"featured_media":839,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6,107],"tags":[111,101],"class_list":["post-833","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","category-fideos","tag-amaeth","tag-cam-nesaf-cymru","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Tir Cymru - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Tir Cymru - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Cyflwyniad Mae&#8217;r diwydiant amaeth wedi bod ynghlwm \u00e2 thir Cymru o&#8217;r dechrau. Fel un o&#8217;r gyfres Cam nesaf Cymru bwriad yr erthygl yma yw ceisio cyflwyno peth o gefndir amaeth &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Tir Cymru&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-06-25T14:09:28+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-06-28T10:52:27+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/gerald-600.gif\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"600\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"338\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/gif\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Robat Idris\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Robat Idris\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"45 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/\"},\"author\":{\"name\":\"Robat Idris\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91\"},\"headline\":\"Tir Cymru\",\"datePublished\":\"2020-06-25T14:09:28+00:00\",\"dateModified\":\"2020-06-28T10:52:27+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/\"},\"wordCount\":9327,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/gerald-600.gif\",\"keywords\":[\"amaeth\",\"Cam nesaf Cymru\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\",\"Fideos\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/\",\"name\":\"Tir Cymru - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/gerald-600.gif\",\"datePublished\":\"2020-06-25T14:09:28+00:00\",\"dateModified\":\"2020-06-28T10:52:27+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/gerald-600.gif\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/gerald-600.gif\",\"width\":600,\"height\":338},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Tir Cymru\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91\",\"name\":\"Robat Idris\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Robat Idris\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/robatidris\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Tir Cymru - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Tir Cymru - undod","og_description":"Cyflwyniad Mae&#8217;r diwydiant amaeth wedi bod ynghlwm \u00e2 thir Cymru o&#8217;r dechrau. Fel un o&#8217;r gyfres Cam nesaf Cymru bwriad yr erthygl yma yw ceisio cyflwyno peth o gefndir amaeth &hellip; Parhau i ddarllen \"Tir Cymru\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-06-25T14:09:28+00:00","article_modified_time":"2020-06-28T10:52:27+00:00","og_image":[{"width":600,"height":338,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/gerald-600.gif","type":"image\/gif"}],"author":"Robat Idris","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Robat Idris","Est. reading time":"45 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/"},"author":{"name":"Robat Idris","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91"},"headline":"Tir Cymru","datePublished":"2020-06-25T14:09:28+00:00","dateModified":"2020-06-28T10:52:27+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/"},"wordCount":9327,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/gerald-600.gif","keywords":["amaeth","Cam nesaf Cymru"],"articleSection":["Erthyglau","Fideos"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/","name":"Tir Cymru - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/gerald-600.gif","datePublished":"2020-06-25T14:09:28+00:00","dateModified":"2020-06-28T10:52:27+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/gerald-600.gif","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/06\/gerald-600.gif","width":600,"height":338},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/25\/tir-cymru\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Tir Cymru"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/6ad300eaa82ad3f18f9df5d9446e3d91","name":"Robat Idris","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/fdc83bfb86a1e92eafdb2fc3a844a6846332ebac6fb49c7fe0154c76c0d26cb4?s=96&d=mm&r=g","caption":"Robat Idris"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/robatidris\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/833","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/14"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=833"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/833\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":841,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/833\/revisions\/841"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/839"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=833"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=833"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=833"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}