{"id":882,"date":"2020-07-02T16:15:53","date_gmt":"2020-07-02T15:15:53","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=882"},"modified":"2020-07-03T17:34:57","modified_gmt":"2020-07-03T16:34:57","slug":"ubi","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/","title":{"rendered":"Anfon ymaith bwgan tlodi bwyd yng Nghymru, drwy Incwm Sylfaenol Cyffredinol"},"content":{"rendered":"<p>Mae banciau bwyd wedi camu i&#8217;r adwy yn ystod y blynyddoedd o gyni, a thrwy gydol yr argyfwng corona mae eu hangen fwy nag erioed gyda&#8217;r <a href=\"https:\/\/twitter.com\/IFAN_UK\/status\/1264101285697069056\">ciwiau ar gyfer parseli bwyd brys<\/a> yn cynyddu bob wythnos. Ym mis Mawrth, gwelodd Ymddiriedolaeth Trussell, un o nifer o elusennau banciau bwyd y DU, <a href=\"https:\/\/www.trusselltrust.org\/2020\/05\/19\/need-government-act-now\/\">gynnydd o 81% yn y galw<\/a>.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n enghraifft o&#8217;r awydd dynol i roi cymorth i eraill sydd mewn angen, i&#8217;n hatgoffa o&#8217;n hymdeimlad o dosturi ac undod cymdeithasol. Fodd bynnag, er ei bod yn bwysig ein bod yn cefnogi banciau bwyd ar hyn o bryd, yn ystod y cyfnod argyfyngus hwn, ni ellir eu hystyried yn ateb hirdymor i&#8217;r broblem o ansicrwydd bwyd. Mae&#8217;n hynod annynol ac anghyfiawn, mewn byd lle mae digonedd o fwyd, bod cymaint o bobl yn gallu mynd heb fwyd. Mae eu trafferthion yn arwydd o gymdeithas sydd wedi chwalu. Serch hynny, mae&#8217;r blynyddoedd o gyni wedi gweld banciau bwyd yn cael eu normaleiddio yng nghymdeithas Prydain.<\/p>\n<p>Ledled y byd, <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/global-development-professionals-network\/2015\/jul\/17\/the-hunger-numbers-are-we-counting-right\">nid oes gan 2 biliwn o bobl ddigon o fwyd ac maent yn ei chael hi&#8217;n anodd<\/a> i sicrhau&#8217;r gynhaliaeth sydd ei angen er mwyn goroesi. Yn y DU, roedd ar fwy na 1,500,000 o bobl angen parsel bwyd brys yn 2018-19 oddi wrth Ymddiriedolaeth Trussell yn unig, a bydd y niferoedd yn 2020 yn uwch nag erioed. Roedd\u00a0<a href=\"https:\/\/foodfoundation.org.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/FF_LSHTM_SHEFS_Submission-to-HOL-Inquiry_30September-2019-website.pdf\">tua 14,4 miliwn o aelwydydd<\/a>\u00a0 ar draws y DU yn methu \u00e2 fforddio gwario digon o arian i fodloni&#8217;r deiet a argymhellwyd gan ganllaw Bwyta&#8217;n Dda y Llywodraeth.<\/p>\n<p>Yng Nghymru yn 2017, dywedodd <a href=\"https:\/\/www.food.gov.uk\/sites\/default\/files\/media\/document\/foodsecurityinwales_0.pdf\">35% o bobl 16-34 oed<\/a> eu bod wedi poeni y byddent yn rhedeg allan o fwyd, ac roedd <a href=\"https:\/\/www.food.gov.uk\/sites\/default\/files\/media\/document\/foodsecurityinwales_0.pdf\">14% o bobl<\/a> wedi cael profiad o redeg allan o fwyd cyn y gallent fforddio mwy. Mae hon yn sefyllfa enbyd ac annerbyniol yn yr hyn sydd i fod yn chweched economi fwyaf y byd. Nid yw cymdeithas yn gweithio os yw canran fawr yn wynebu bod \u00e2 dim digon o fwyd.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/environment\/2020\/may\/18\/coronavirus-offers-chance-to-create-fairer-uk-food-supply-chain-say-experts\">Dywedodd Sue Pritchard<\/a>, prif weithredwr y <a href=\"https:\/\/www.thersa.org\/action-and-research\/rsa-projects\/public-services-and-communities-folder\/food-farming-and-countryside-commission\">Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad<\/a>, ac sy&#8217;n byw yn ne Cymru, &#8220;Mae&#8217;r pandemig wedi amlygu&#8217;r gwendidau yn ein system fwyd&#8221;.<\/p>\n<p>Ni wnaeth y pandemig coronafeirws greu&#8217;r problemau hyn ond mae wedi eu gwaethygu, ac mae wedi rhoi mwy o bobl ar drugaredd system lem sy&#8217;n cosbi&#8217;r rhai sy&#8217;n wynebu caledi ariannol. Mae nifer y bobl sy&#8217;n hawlio budd-daliadau yn y DU\u00a0<a href=\"https:\/\/www.ons.gov.uk\/employmentandlabourmarket\/peoplenotinwork\/outofworkbenefits\/timeseries\/bcjd\/unem\">wedi cynyddu&#8217;n gyflym<\/a> i fwy na 2,000,000 o bobol yng nghanol yr argyfwng corona (does dim rheswm i gredu mai dyma fydd yr uchafswm). Byddwn yn gweld llawer mwy o bobl yn colli eu swyddi dros y cyfnod sy&#8217;n weddill o&#8217;r pandemig a&#8217;r ergydion a ddaw yn sgil hynny.<\/p>\n<p>O ddarllen adroddiadau llawer o felinau meddwl a sefydliadau bwyd uchel eu parch, maent i gyd fel petaent yn cilio rhag gwir achos y broblem. Maent yn awgrymu cynyddu&#8217;r talebau bwyd sydd ar gael; <a href=\"https:\/\/foodfoundation.lcdev.co.uk\/what-gets-measured-gets-mended\/\">mae s\u00f4n am<\/a> &#8216;cywirir yr hyn a fesurir&#8217;, ond mewn gwirionedd a yw hynny&#8217;n wir? Mae mesur yn bwysig, ond ddylen ni ddim rhagdybio y bydd newid yn digwydd yn awtomatig o ganlyniad i hynny. Edrychwch ar <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/global-development-professionals-network\/2015\/jul\/17\/the-hunger-numbers-are-we-counting-right\">ymagwedd y Cenhedloedd Unedig tuag at ffigurau byd-eang<\/a> ynghylch diffyg bwyd &#8211; os nad ydych yn hoffi&#8217;r data, symudwch y pyst. Byddai newid cadarnhaol yn rhagdybio gwladwriaeth resymegol sydd \u00e2 diddordeb mewn iechyd a lles ei dinasyddion; mewn gwirionedd, rydym yn poeni mwy am gadw grym a chyfoeth yr el\u00eet fel ag y mae, gan arwain at anghydraddoldeb pellach.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/\">Rydym yn gwybod bod cysgu ar y stryd a digartrefedd yn broblem<\/a>; rydym yn gwybod y rhifau, ond nid ydynt yn gwneud dim yn ei gylch (ac eithrio yn ystod pandemig). Rydym yn gwybod nad oes digon o dai cymdeithasol, ond dydyn nhw dal ddim yn eu hadeiladu. Rydym yn gwybod sawl rhan o garbon deuocsid fesul miliwn sy&#8217;n bodoli yn yr atmosffer, ond eto maent yn oedi o ran gweithredu.<\/p>\n<p>A ydym wedi datblygu obsesiwn am fesur problemau fel ffordd o osgoi mynd i&#8217;r afael \u00e2 hwy? A yw hyn oherwydd ein bod wedi bod yn dawedog yn gyhoeddus am enwi&#8217;r eliffant yn yr ystafell: sef cyfalafiaeth? Y rheswm y mae&#8217;r hinsawdd yn cael ei gwasgu yw er mwyn elw preifat; y rheswm y mae pobl yn byw ar y stryd yw am fod eiddo yn ased buddsoddi a warchodir yn ffyrnig; y rheswm y mae teuluoedd yn mynd i&#8217;w gwelyau yn y nos heb ddigon o fwyd yw&#8217;r anghydraddoldeb economaidd a&#8217;r gost afresymol o fyw, o gymharu ag incwm. Nid oes angen rhagor o adroddiadau arnom i wybod hyn. Sut mae datrys y problemau hyn? Mynd i&#8217;r afael \u00e2 natur wenwynig cymhelliad elw a&#8217;i anallu i ddarparu&#8217;n ddigonol ar gyfer anghenion sylfaenol pawb.<\/p>\n<p>Yn y pen draw, i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r mater o ansicrwydd bwyd, rhaid inni fynd i&#8217;r afael ag achosion sylfaenol tlodi. Fel y dywedodd Emma Revie, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Trussell, <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/society\/2020\/may\/15\/food-banks-warning-government-poor-families-coronavirus\">wrth Aelodau Seneddol<\/a>, &#8220;Y broblem yw caledi ariannol. Nid bwyd yw&#8217;r ateb i galedi ariannol.&#8221; Dywedodd y byddai&#8217;n amhosibl i fanciau bwyd barhau i fodloni&#8217;r lefel digyffelyb o alw am eu gwasanaethau yn barhaus.<\/p>\n<p>Pan fydd gan deulu ar Gredyd Cynhwysol ond <a href=\"https:\/\/www.voice.wales\/fifty-grand-in-rent-facing-eviction-a-pandemic-wales-housing-shame\/\">\u00a350 yr wythnos<\/a> i fyw arno, yna nid yw&#8217;n syndod bod yn rhaid i deuluoedd ddewis rhwng bwyta neu wresogi&#8217;r t\u0177. <a href=\"https:\/\/www.thersa.org\/discover\/publications-and-articles\/rsa-blogs\/2018\/04\/ubiandpoverty\">Fel y dywedodd Anthony Painter, o&#8217;r Gymdeithas Frenhinol er hybu&#8217;r Celfyddydau, Gweithgynhyrchion a Masnach (RSA<\/a>),&#8221;Nid yw m\u00e2n addasiadau i Gredyd Cynhwysol yn ymddangos yn ddigonol.&#8221;<\/p>\n<p>Ac fel y <a href=\"https:\/\/www.endhungeruk.org\/2019\/02\/07\/uk-food-poverty-now-public-health-emergency\/\">noda End Hunger UK<\/a> &#8220;Mae tlodi bwyd yn gofyn am ateb hirdymor, cynaliadwy sy&#8217;n mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r materion polisi sydd o dan sylw: incwm isel; tangyflogaeth\/diweithdra; cynnydd mewn prisiau bwyd; a diwygio lles, wedi&#8217;i lywio gan drefniadau monitro ac adrodd rheolaidd ar raddau tlodi bwyd ymhlith ein dinasyddion a gefnogir gan y Llywodraeth.&#8221;<\/p>\n<p>Yn y pen draw, rhaid inni ddiwygio ein system wleidyddol ac economaidd bresennol yn sylweddol yn y modd y mae Undod yn arddel wrth weithio tuag at Gymru annibynnol.<\/p>\n<h2>Incwm Sylfaenol Cyffredinol<\/h2>\n<p>Fel y gallwn weld, mae ansicrwydd bwyd wedi&#8217;i, &#8216;<a href=\"https:\/\/committees.parliament.uk\/download\/file\/?url=%2Fwrittenevidence%2F281%2Fdocuments%2F308%3Fconvertiblefileformat%3Dhtml&amp;slug=the-food-foundation-fpo0073html\">glymu&#8217;n agos<\/a> at annigonolrwydd incwm y cartref a&#8217;r galw ar adnoddau ariannol aelwydydd.&#8217;<\/p>\n<p>Dyma oedd gan brif weithredwr Ymddiriedolaeth Trussell, Emma Revie <a href=\"https:\/\/www.trusselltrust.org\/news-and-blog\/latest-stats\/end-year-stats\/\">i&#8217;w ddweud,<\/a> &#8220;Yr hyn rydym yn ei weld flwyddyn ar \u00f4l blwyddyn yw bod mwy a mwy o bobl yn cael trafferth bwyta oherwydd, yn syml iawn, ni allant fforddio bwyd. Nid yw hyn yn iawn.&#8221;<\/p>\n<p>Felly mae prif achos hyn yn eithaf syml: diffyg arian. Mae mynd i&#8217;r afael \u00e2 hyn drwy fudd-daliadau, talebau bwyd, prydau ysgol am ddim a&#8217;r tebyg yn ymateb dyrys ac amherffaith sy&#8217;n gadael gormod o fylchau\u2014yn enwedig ers cyflwyno llymder. Er gwaethaf blynyddoedd o roi cynnig ar y tactegau hyn, mae mwy a mwy o bobl yn dibynnu ar barseli bwyd brys.<\/p>\n<p>Yn ddiau, mae agweddau eraill y mae&#8217;n rhaid eu hystyried megis diffyg moddion i goginio pryd o fwyd. Mewn fflat un ystafell efallai na fydd gennych fynediad at oergell na st\u00f4f, felly mae&#8217;n amlwg bod yn rhaid buddsoddi mewn mwy o dai cymdeithasol, ynghyd \u00e2 diwygiadau i&#8217;r sector rhentu preifat, neu&#8217;n well fyth, cymdeithasoli tai, er mwyn rhoi terfyn ar y defnydd ohono fel dosbarth buddsoddi ar gyfer dosbarth rhentwyr.<\/p>\n<p>Byddai cyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol yn helpu i sicrhau bod pobl yn gall talu am anghenion sylfaenol fel llety, bwyd a chyfleustodau -o gofio mai&#8217;r sector preifat sy&#8217;n darparu&#8217;r rhain yn bennaf ar hyn o bryd. Byddai hyn yn ychwanegol at daliadau i&#8217;r rhai ag anghenion cynyddol megis taliadau anabledd, budd-dal cymorth plant (a dylem gael gwared ar y terfyn dau blentyn), a budd-dal diweithdra.<\/p>\n<p>Pan gyrhaeddodd pandemig Covid-19 Gymru, roeddem eisoes mewn sefyllfa fregus, ond drwy gydol y pandemig ac ar ei \u00f4l, bydd y sefyllfa fregus yn gwaethygu at lefelau nas gwelwyd ers 1945. Yn syml ddigon, ni fydd llawer o bobl yn gallu dod o hyd i swydd, ac efallai y bydd yn rhaid i&#8217;r sawl sy&#8217;n lwcus i ddod o hyd i swydd newydd ar \u00f4l y pandemig gymryd swydd sy&#8217;n talu llai na&#8217;r un flaenorol. Felly, bydd mwy o bobl yn cael trafferth i gael deupen llinyn ynghyd, ac i roi bwyd ar y bwrdd yn y degawd nesaf, os na fyddwn yn cynnig dewis arall sy&#8217;n gwbl wahanol i&#8217;r patrwm presennol o fynd i&#8217;r afael \u00e2 thlodi bwyd. Bydd hyn yn rhoi mwy o bwysau ar system iechyd sydd wedi&#8217;i llethu gan effeithiau degawd o doriadau, ynghyd ag effeithiau grychdonnog firws andwyol.<\/p>\n<p>Mae Valerie Tarsuk, sy&#8217;n Athro prifysgol ym maes maeth yng Nghanada, yn <a href=\"https:\/\/www.cbc.ca\/news\/canada\/toronto\/programs\/metromorning\/food-banks-food-insecurity-basic-income-1.3857066\">galw ar Lywodraeth Canada<\/a> i roi incwm sylfaenol cyffredinol ar waith am y rheswm hwn. Ni ddylid gadael mynediad at fwyd iach i&#8217;r farchnad; mae&#8217;n hawl ddynol sylfaenol ac yn fater o iechyd cyhoeddus. Ni ddylem anwybyddu&#8217;r sefyllfa greulon hyn mwyach. Mae tlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd yn broblem fyd-eang am reswm: cyfalafiaeth fyd-eang.<\/p>\n<p>Mae incwm sylfaenol cyffredinol yn cydnabod nad yw ein gallu i fwydo a sicrhau llety i&#8217;n hunain yn ddibynnol ar werth ein llafur (mewn byd sydd \u00e2 syniad gwyrdro\u00ebdig o werth), na chwaith ein mynediad at gyflogaeth. Mewn dyfodol lle bydd llawer mwy o swyddi yn cael eu disodli gan awtomeiddio, bydd datgysylltu ein gwerth fel dinesydd o&#8217;n llafur yn gynyddol bwysig. Gall incwm sylfaenol cyffredinol ryddhau pobl i wneud gwaith sy&#8217;n bwysig iddynt, ein cynorthwyo i ofalu am ein gilydd, a dechrau ar y broses hir o ailddosbarthu cyfoeth, rhywbeth y mae ei ddirfawr angen mewn byd lle mae canran fach iawn yn berchen ar y mwyafrif helaeth o arian drwy gyfoeth heb ei ennill.<\/p>\n<p>Galwodd <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/03\/22\/corona-galw-demands\/\">Undod<\/a> am incwm sylfaenol cyffredinol fel mesur brys i helpu i ddelio ag effeithiau covid. Fel y noda Tegid\u00a0 Roberts yn ei\u00a0<a href=\"https:\/\/nation.cymru\/opinion\/basic-income-could-prevent-the-coronavirus-pandemic-causing-an-economic-collapse\/\">ddarn i nation.cymru<\/a>,\u00a0gallem ddefnyddio&#8217;r argyfwng corona fel cyfle i dreialu&#8217;r incwm sylfaenol yn y byd go iawn. Mae Roberts yn cyfrifo y byddai \u00a3500 ar gyfer pob person o oedran gweithio&#8211;mae 1,900,000 o&#8217;r bobl hyn yng Nghymru &#8211; yn costio \u00a3950,000,000 y mis. Byddai rhedeg yr arbrawf am 12 mis yn costio tua 16% o gynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) Cymru. Neu i&#8217;w roi mewn ffordd arall, gallai Jeff Bezos, prif weithredwr a sylfaenydd Amazon, fforddio talu hyn am fwy na 150 o flynyddoedd allan o&#8217;i werth net ei hun yn unig. Fodd bynnag, nid yw Bezos yn debygol o wneud hynny.<\/p>\n<p>Ceir dadl, fodd bynnag, bod yn rhaid i unrhyw incwm sylfaenol cyffredinol a weithredir fod yn ddigonol. Mae Sefydliad Bevan yn awgrymu swm o <a href=\"https:\/\/www.bevanfoundation.org\/commentary\/universal_basic_income_wales\/\">\u00a3213 yr wythnos<\/a>, yn seiliedig ar ymchwil gan Sefydliad Fraser Allander yn yr Alban. Mae eu hymchwil yn awgrymu y byddai&#8217;n lleihau tlodi gan 25 pwynt canran, a thlodi plant gan 17 pwynt canran. Byddai incwm sylfaenol cyffredinol o&#8217;r swm hwn yn cynrychioli dwywaith yr hyn y byddai person sengl dros 25 oed yn disgwyl ei gael drwy&#8217;r credyd cynhwysol.<\/p>\n<p>Fel y <a href=\"https:\/\/www.thersa.org\/discover\/publications-and-articles\/rsa-blogs\/2020\/05\/ubi-basic-income-covid\">noda<\/a> Anthony Painter o&#8217;r RSA &#8220;Mae&#8217;r rhan fwyaf o bobl yn elwa o incwm sylfaenol cyffredinol, ond y rhai ar incymau isel sy&#8217;n elwa fwyaf.&#8221;<\/p>\n<p>Dylid ariannu&#8217;r incwm sylfaenol cyffredinol drwy system drethu raddoledig sy&#8217;n ceisio trethu&#8217;r cyfoethocaf i helpu i fynd i&#8217;r afael ag anghydraddoldeb cynyddol. Awgrym arall yw y gallem ariannu incwm sylfaenol cyffredinol drwy dreth incwm negyddol, sef rhywbeth y mae gan Gymru y pwerau i&#8217;w wneud ar hyn o bryd o fewn y setliad datganoli. Mae\u00a0<a href=\"https:\/\/twitter.com\/TegidRoberts\/status\/1247875924269371393\">Tegid Roberts<\/a> \u00a0wedi archwilio sut y gellir cyflawni hyn yng Nghymru drwy system treth incwm raddoledig.<\/p>\n<p>Mae modd dechrau ar hyn nawr drwy &#8216;lliniaru meintiol i&#8217;r bobl &#8216; (argraffu arian a roddir yn uniongyrchol i bobl yn hytrach na drwy ddyled i fanciau) er mwyn helpu i sbarduno&#8217;r economi ar \u00f4l cofid&#8211;mae busnesau mawrion eisoes yn cael eu hachub gan San Steffan yn y modd hwn. Pa ffordd well o ddysgu&#8217;r wers o chwalfa ariannol 2008 o&#8217;r diwedd, a rhoi&#8217;r arian hwnnw&#8217;n uniongyrchol i bobl, yn hytrach na defnyddio mesurau cyni sy&#8217;n ddinistriol yn economaidd ac yn gymdeithasol?<\/p>\n<p>Gellir defnyddio incwm sylfaenol cyffredinol fel rhan o strategaeth bontio i symud i ffwrdd o economi sy&#8217;n ceisio am rent, tuag at un teg a chynaliadwy sy&#8217;n gwerthfawrogi ymddygiad cyfrifol yn gymdeithasol.<\/p>\n<p>Mae beirniaid incwm sylfaenol cyffredinol yn honni nad yw&#8217;n ateb i bopeth, ac y byddai&#8217;n well canolbwyntio&#8217;r ewyllys gwleidyddol ar wella gwasanaethau cyhoeddus drwy ddull gweithredu o&#8217;r enw gwasanaethau sylfaenol cyffredinol (universal basic services). Eu dadl yw na fydd incwm sylfaenol cyffredinol yn mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r problemau strwythurol sylfaenol sy&#8217;n achosi tlodi. Maen nhw&#8217;n iawn, wrth gwrs, ond ydy gwasanaethau sylfaenol cyffredinol neu incwm sylfaenol cyffredinol yn eithrio&#8217;r llall yn llwyr? A hyd yn oed os nad yw incwm sylfaenol cyffredinol yn mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r rhesymau sydd wrth wraidd y broblem, nid yw hynny&#8217;n ei wneud yn llai buddiol. Pan nad oes gan bobl ddigon o fwyd, y peth cyntaf i&#8217;w wneud yw sicrhau eu bod yn gallu fforddio digon o fwyd. Ar \u00f4l hynny gellir ystyried yr achosion gwraidd a gwynebu&#8217;r ffaith bod angen dulliau gweithredu chwyldroadol.<\/p>\n<p>A allwn ni wella gwasanaethau cyhoeddus a rhoi incwm sylfaenol cyffredinol ar waith? Mae beirniaid yn dadlau na fydd y dosbarth cyfalafol byth yn cytuno iddo, ond a ddylai hynny ein rhwystro rhag rhoi cynnig arno yng nghyd-destun Cymru? Rhaid i ni ochel rhag caniat\u00e1u i&#8217;n ffenestr Overton gael ei diffinio&#8217;n rhy gul a cholli&#8217;r cyfle i weld newid mwy radical yn hytrach na cheisio dwyn persw\u00e2d i ddiwygio yn unig. Efallai bod argyfwng corona&#8217;n rhoi cyfle i ni roi incwm sylfaenol cyffredinol ar waith ar unwaith. Os nad nawr, pryd?<\/p>\n<p>Ni ddylid ystyried gwasanaethau sylfaenol cyffredinol nac incwm sylfaenol cyffredinol yn ateb ar ei ben ei hun. Mae arnom angen gwell seilwaith cyhoeddus, gwell wasanaethau cyhoeddus ac mae arnom angen digon o arian i allu prynu&#8217;r hanfodion sydd eu hangen arnom i fyw bywyd dynol, gweddus, o fewn cyd-destun cymdeithas sydd wedi&#8217;i breifateiddio&#8217;n helaeth. Hyd yn oed os nad yw incwm sylfaenol cyffredinol yn berffaith, onid yw&#8217;n sicr yn werth rhoi cynnig arni?<\/p>\n<p>Dadl ddilys arall yn erbyn incwm sylfaenol cyffredinol yw y gall yr arian fynd i ddwylo&#8217;r rhentwyr yn y pen draw. Yn benodol i argyfwng corona, rhaid cyfuno&#8217;r incwm sylfaenol cyffredinol \u00e2 chanslo dyled rhent, (neu o leiaf gostyngiad yn yr hyn sy&#8217;n ddyledus i rentwyr), neu bydd yr arian yn diweddu yn nwylo&#8217;r sector rhentu preifat, gyda&#8217;r\u00a0<a href=\"https:\/\/www.ippr.org\/research\/publications\/who-wins-and-who-pays\">Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus<\/a> yn amcangyfrif y bydd 45% o gost net y cynllun cadw swyddi yn mynd i dalu rhent, morgeisi a dyledion eraill. Mae&#8217;r Sefydliad hefyd yn\u00a0<a href=\"https:\/\/www.ippr.org\/research\/publications\/who-wins-and-who-pays\">nodi<\/a> argymhellion eraill sy&#8217;n ceisio tynnu&#8217;r pwysau oddi ar y rheiny sydd \u00e2 dyledion uchel o&#8217;u cymharu ag incwm. Wrth gwrs, nid yw Llafur na&#8217;r Ceidwadwyr wedi dangos awydd i herio&#8217;r rhentwyr. Mae\u00a0<a href=\"https:\/\/labourlist.org\/2020\/05\/cancel-the-rent-policy-would-be-un-labour-says-debbonaire\/\">Ysgrifennydd Tai Cysgodol y Blaid Lafur<\/a>, Thangam Debbonaire, hyd yn oed wedi galw canslo rhent yn &#8216;anflaengar iawn&#8217; ac &#8216;yn groes i werthoedd Llafur&#8217;. Wrth symud ymlaen, dylem fod yn edrych ar reoli rhenti difrifol, neu gwell fyth dileu cyfalafiaeth rhentwyr yn y farchnad eiddo a sicrhau tai fforddiadwy i bawb. Un rheswm pam nad oes gan bobl ddigon o arian i roi bwyd ar y bwrdd yw eu bod yn talu gormod o rent. Mae incwm rhent yn ymgorfforiad o gyfoeth heb ei ennill.<\/p>\n<p>Gallai mynd i&#8217;r afael ag ansicrwydd bwyd, ynghyd \u00e2 newidiadau systemig i&#8217;r system fwyd&#8211;a fyddai&#8217;n cefnogi mabwysiadu deiet iach yn ehangach&#8211;hefyd gael y sgil-effaith a groesawir o helpu i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r materion iechyd cysylltiedig. Mae bwyd iachus yn fwyd drud, fel y dengys cost y canllaw Bwyta&#8217;n Dda. Yn ddiweddar, cynhaliodd y\u00a0<a href=\"https:\/\/www.foodethicscouncil.org\/app\/uploads\/2020\/06\/Food-Policy-on-Trial-on-UBI-Food-Ethics-Council-jurys-verdict-and-summary-1.pdf\">Cyngor Moeseg Bwyd<\/a> ddadl ar incwm sylfaenol cyffredinol ar gyfer y system fwyd ac roedd y panel o&#8217;r farn ei fod yn &#8216;syniad grymus gyda&#8217;r potensial i sicrhau manteision net sylweddol i&#8217;n systemau bwyd a&#8217;n cymdeithas.&#8217; Roeddent hefyd o&#8217;r farn bod ganddo&#8217;r &#8216;potensial i wneud cyfraniad mawr wrth fynd i&#8217;r afael ag ansicrwydd bwyd aelwydydd.&#8217;<\/p>\n<p>Dywedir bod achosion tlodi bwyd <a href=\"http:\/\/ppiw.org.uk\/files\/2016\/06\/PPIW-Report-Food-Policy-as-Public-Policy.pdf\">yn gymhleth<\/a>, ond mewn gwirionedd, mae&#8217;n weddol syml, o leiaf yn ein cymdeithas bresennol. Mae&#8217;n ymwneud yn bennaf \u00e2 bod \u00e2 digon o arian i &#8216;brynu deiet iach sy&#8217;n dderbyniol yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol&#8217; yn \u00f4l <a href=\"https:\/\/business.senedd.wales\/documents\/s66092\/RFW%2026%20Food%20Poverty%20Alliance%20Wales%20FPAW.pdf\">Cynghrair Tlodi Bwyd Cymru.<\/a> Byddai incwm sylfaenol brys yn ystod y pandemig coronafeirws yn ein galluogi i gasglu data byd go-iawn ar p&#8217;un ai yw&#8217;n fecanwaith effeithiol ar gyfer dileu tlodi bwyd yng Nghymru, yn hytrach na&#8217;i liniaru&#8217;n unig. Mewn byd lle mae cyfoeth yn cael ei fonopoleiddio&#8217;n gynyddol gan y 10% uchaf, mae incwm sylfaenol cyffredinol yn cynnig cyfle i symud tuag at fyd tecach lle mae pobl yn gallu fforddio&#8217;r hanfodion. Mae&#8217;n ymddangos mai dyna&#8217;r peth lleiaf y dylem anelu ato. Ni fydd papuro dros y craciau mewn system les sydd wedi&#8217;i disbyddu yn ddigon i ateb yr her sy&#8217;n ein hwynebu. Mae&#8217;n greulon gadael i&#8217;r drosedd o dlodi bwyd barhau mwyach. Mae&#8217;n bryd rhoi cynnig ar ddull gwahanol o weithredu.<\/p>\n<p><em>Llun gan <a href=\"https:\/\/commons.wikimedia.org\/wiki\/File:Empty_cupboard_(4103508910).jpg\">AnemoneProjectors<\/a><\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae banciau bwyd wedi camu i&#8217;r adwy yn ystod y blynyddoedd o gyni, a thrwy gydol yr argyfwng corona mae eu hangen fwy nag erioed gyda&#8217;r ciwiau ar gyfer parseli &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Anfon ymaith bwgan tlodi bwyd yng Nghymru, drwy Incwm Sylfaenol Cyffredinol&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":32,"featured_media":884,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[111,127,101,128],"class_list":["post-882","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-amaeth","tag-bwyd","tag-cam-nesaf-cymru","tag-incwm-sylfaenol-cyffredinol","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Anfon ymaith bwgan tlodi bwyd yng Nghymru, drwy Incwm Sylfaenol Cyffredinol - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Anfon ymaith bwgan tlodi bwyd yng Nghymru, drwy Incwm Sylfaenol Cyffredinol - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae banciau bwyd wedi camu i&#8217;r adwy yn ystod y blynyddoedd o gyni, a thrwy gydol yr argyfwng corona mae eu hangen fwy nag erioed gyda&#8217;r ciwiau ar gyfer parseli &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Anfon ymaith bwgan tlodi bwyd yng Nghymru, drwy Incwm Sylfaenol Cyffredinol&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-07-02T15:15:53+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-07-03T16:34:57+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/cwpwrdd2.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1300\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1244\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Alex Heffron\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Alex Heffron\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"26 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/\"},\"author\":{\"name\":\"Alex Heffron\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/fd3b299c67b7b28aaa24964d394ddb0c\"},\"headline\":\"Anfon ymaith bwgan tlodi bwyd yng Nghymru, drwy Incwm Sylfaenol Cyffredinol\",\"datePublished\":\"2020-07-02T15:15:53+00:00\",\"dateModified\":\"2020-07-03T16:34:57+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/\"},\"wordCount\":5399,\"commentCount\":1,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/cwpwrdd2.jpg\",\"keywords\":[\"amaeth\",\"bwyd\",\"Cam nesaf Cymru\",\"Incwm Sylfaenol Cyffredinol\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/\",\"name\":\"Anfon ymaith bwgan tlodi bwyd yng Nghymru, drwy Incwm Sylfaenol Cyffredinol - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/cwpwrdd2.jpg\",\"datePublished\":\"2020-07-02T15:15:53+00:00\",\"dateModified\":\"2020-07-03T16:34:57+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/cwpwrdd2.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/cwpwrdd2.jpg\",\"width\":1300,\"height\":1244},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Anfon ymaith bwgan tlodi bwyd yng Nghymru, drwy Incwm Sylfaenol Cyffredinol\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/fd3b299c67b7b28aaa24964d394ddb0c\",\"name\":\"Alex Heffron\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/068076a978287e1618b7cbb0bc4595b1370c074abfd15fefcc5cc80e383eb227?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/068076a978287e1618b7cbb0bc4595b1370c074abfd15fefcc5cc80e383eb227?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/068076a978287e1618b7cbb0bc4595b1370c074abfd15fefcc5cc80e383eb227?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Alex Heffron\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/alexheffron\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Anfon ymaith bwgan tlodi bwyd yng Nghymru, drwy Incwm Sylfaenol Cyffredinol - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Anfon ymaith bwgan tlodi bwyd yng Nghymru, drwy Incwm Sylfaenol Cyffredinol - undod","og_description":"Mae banciau bwyd wedi camu i&#8217;r adwy yn ystod y blynyddoedd o gyni, a thrwy gydol yr argyfwng corona mae eu hangen fwy nag erioed gyda&#8217;r ciwiau ar gyfer parseli &hellip; Parhau i ddarllen \"Anfon ymaith bwgan tlodi bwyd yng Nghymru, drwy Incwm Sylfaenol Cyffredinol\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-07-02T15:15:53+00:00","article_modified_time":"2020-07-03T16:34:57+00:00","og_image":[{"width":1300,"height":1244,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/cwpwrdd2.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Alex Heffron","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Alex Heffron","Est. reading time":"26 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/"},"author":{"name":"Alex Heffron","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/fd3b299c67b7b28aaa24964d394ddb0c"},"headline":"Anfon ymaith bwgan tlodi bwyd yng Nghymru, drwy Incwm Sylfaenol Cyffredinol","datePublished":"2020-07-02T15:15:53+00:00","dateModified":"2020-07-03T16:34:57+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/"},"wordCount":5399,"commentCount":1,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/cwpwrdd2.jpg","keywords":["amaeth","bwyd","Cam nesaf Cymru","Incwm Sylfaenol Cyffredinol"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/","name":"Anfon ymaith bwgan tlodi bwyd yng Nghymru, drwy Incwm Sylfaenol Cyffredinol - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/cwpwrdd2.jpg","datePublished":"2020-07-02T15:15:53+00:00","dateModified":"2020-07-03T16:34:57+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/cwpwrdd2.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/cwpwrdd2.jpg","width":1300,"height":1244},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/02\/ubi\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Anfon ymaith bwgan tlodi bwyd yng Nghymru, drwy Incwm Sylfaenol Cyffredinol"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/fd3b299c67b7b28aaa24964d394ddb0c","name":"Alex Heffron","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/068076a978287e1618b7cbb0bc4595b1370c074abfd15fefcc5cc80e383eb227?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/068076a978287e1618b7cbb0bc4595b1370c074abfd15fefcc5cc80e383eb227?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/068076a978287e1618b7cbb0bc4595b1370c074abfd15fefcc5cc80e383eb227?s=96&d=mm&r=g","caption":"Alex Heffron"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/alexheffron\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/882","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/32"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=882"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/882\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":885,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/882\/revisions\/885"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/884"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=882"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=882"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=882"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}