{"id":903,"date":"2020-07-15T09:16:57","date_gmt":"2020-07-15T08:16:57","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=903"},"modified":"2020-07-15T10:54:52","modified_gmt":"2020-07-15T09:54:52","slug":"iechyd-meddwl","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/","title":{"rendered":"Iechyd meddwl yng Nghymru: y bwlch rhwng rhethreg a realiti"},"content":{"rendered":"<p><em>Rhybudd cynnwys: mae&#8217;r erthygl hwn yn trafod hunanladdiad ac esgeulustod mewn lleoliadau cleifion mewnol iechyd meddwl.<\/em><\/p>\n<h2>Cyflwyniad<\/h2>\n<p>Yn hwyr ar brynhawn Gwener y 24ain o Ionawr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru&#8217;r trydydd cynllun cyflawni, a&#8217;r un olaf, ar gyfer ei strategaeth deng mlynedd ar iechyd meddwl. Yn dilyn ymgynghoriad chwe wythnos yr haf diwethaf, treuliodd y Gweinidogion bum mis yn eistedd ar ymatebion cyn cyhoeddi Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019-2022.<\/p>\n<p>Ychydig a sylwodd ei fod eisoes flwyddyn yn hwyr.<\/p>\n<p>Er bod iechyd meddwl yn un o&#8217;r pum blaenoriaeth a nodwyd ac yn cyfrif am oddeutu 1 o bob \u00a320 o wariant datganoledig, prin iawn yw&#8217;r gwaith craffu y mae Llywodraeth Cymru yn ei wynebu ar yr hyn mae wedi&#8217;i gyflawni. Y tro diwethaf i&#8217;r strategaeth gael ei thrafod yn y Senedd oedd pedair blynedd yn \u00f4l, a chyhoeddwyd yr &#8216;adroddiad blynyddol&#8217; ar gynnydd diwethaf yn 2014. Mae&#8217;r adroddiad bellach wedi&#8217;i ddileu o wefan y Llywodraeth. Fel y cynlluniau cyflawni blaenorol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r osgoi craffu hwn yn gynnyrch o&#8217;r un hunanfodlonrwydd sydd wedi dod i nodweddu agwedd Llafur Cymru tuag at iechyd meddwl. Mae&#8217;n flaenoriaeth mewn enw yn unig. Ffas\u00e2d, lle mae Gweinidogion yn s\u00f4n am gydraddoldeb rhwng iechyd corfforol a meddyliol ac yn annog pobl i siarad a gofyn am gymorth, ond yn ein gorfodi ni i ddefnyddio gwasanaethau sydd wedi eu tanariannu ac sydd \u00e2 diffyg adnoddau, os ydyn ni&#8217;n ddigon lwcus i gael cymorth o gwbl.<\/p>\n<p>Yn ystod degawd o lymder a ddaeth \u00e2 rhagor o dlodi, diweithdra, banciau bwyd a thrawma&#8217;r Credyd Cynhwysol i gymunedau Cymru, mae&#8217;r galw am wasanaethau iechyd meddwl wedi parhau i godi. Cynyddodd nifer yr atgyfeiriadau i dimau argyfwng iechyd meddwl <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/cymrufyw\/46654184\">gan 17%<\/a> yn y tair blynedd hyd at 2018. Cynyddodd nifer y bobl a gadwyd yn y ddalfa gan yr heddlu o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl gan <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-50222385#:~:text=The%20number%20of%20times%20police,over%20the%20last%20five%20years.&amp;text=The%20Welsh%20Government%20said%20it,out%2Dof%2Dhours%20care.\">30% yn y pum mlynedd hyd at 2019<\/a>. Ymhlith y 2,256 o bobl a gadwyd yn y ddalfa yn y flwyddyn honno, roedd 117 ohonynt o dan 18 oed.<\/p>\n<p>Yn ystod y deng mlynedd hyd at 2014, dyblodd nifer y presgripsiynau ar gyfer meddyginiaeth gwrth-iselder, ac mae&#8217;r ffigwr yn parhau i godi. Yn ardal Cwm Taf, mae 1 o bob 9 o bobl yn cymryd meddyginiaeth ar gyfer eu hiechyd meddwl. Yn Aberpennar, mae&#8217;r ffigwr hwn mor uchel ag 1 ym mhob 3. Mae hwn yn batrwm a welir ar bob lefel. Mae&#8217;r achosion yn gymhleth ac yn unigryw i&#8217;r unigolyn; ychydig a wna&#8217;r ystadegau i gyfleu&#8217;r emosiynau personol dwfn y tu \u00f4l iddynt. Ond ar y cyfan, mae&#8217;n anodd gwadu eu bod yn cyfleu cymdeithas sy&#8217;n anniogel yn seicolegol.<\/p>\n<p>Ceir tystiolaeth glir o&#8217;r cysylltiadau rhwng tlodi a phroblemau iechyd meddwl. Y bobl sydd fwyaf tebygol o nodi problem iechyd meddwl yw&#8217;r rheiny sy&#8217;n byw yng nghymunedau tlotaf Cymru, a&#8217;r rhai lleiaf tebygol yw&#8217;r bobl sy&#8217;n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Mae effaith economaidd sydyn a hirdymor Covid-19 &#8211; neu yn hytrach ymateb y Llywodraeth iddo &#8211; yn peryglu ymwreiddio&#8217;r anghydraddoldebau hyn ymhellach a chymell problemau iechyd meddwl. Mae effaith Covid-19 eisoes yn ddifrifol ac yn anghyfartal. Effeithiwyd ar bobl oedd eisoes yn byw \u00e2 phroblemau iechyd meddwl ar raddfa anghymesur, a gwaethygwyd anghydraddoldebau a oedd yn bodoli eisoes.<\/p>\n<p>Ar yr un pryd, mae&#8217;r pandemig wedi datgelu&#8217;r grym gwirioneddol sydd gan y Llywodraeth. Mae pethau oedd yn \u2018rhy anodd&#8217; ar un adeg, fel rhoi diwedd ar ddigartrefedd ar y stryd, wedi eu cyflawni fwy neu lai dros nos. Yn yr un modd, mae Covid-19 wedi arwain at ymdeimlad newydd o gymuned, o drefnu, gweithredu a chefnogi. Dyma&#8217;r pethau yr adeiledir cymdeithas sy&#8217;n seicolegol iach arnynt \u2013 pethau a gollwyd o dan lymder.<\/p>\n<p>Mae iechyd meddwl yn bwnc eang sy&#8217;n cwmpasu nifer o faterion. Mae atal, ymyrraeth gynnar a thriniaeth yn y gymuned i gyd yn haeddu sylw manwl ac archwiliad llawer mwy trwyadl nag y mae un cofnod blog yn ei ganiat\u00e1u. Yr hyn sy&#8217;n dilyn yw trosolwg o un maes &#8211; triniaeth yn yr ysbyty &#8211; a&#8217;r hyn sydd angen ei wneud.<\/p>\n<h2>Preifateiddio<\/h2>\n<p>Amlygir y bwlch rhwng rhethreg Llafur Cymru a realiti sefyllfa iechyd meddwl yn glir yn achos preifateiddio&#8217;r GIG. Mae&#8217;n fater sy&#8217;n taro wrth galon y Blaid Lafur. Fel y dywedodd Mark Drakeford, dyletswydd y Blaid Lafur yw &#8220;cadw ein GIG yn rhydd o ddylanwad maleisus y sector breifat sy&#8217;n ceisio gwneud elw.&#8221;<\/p>\n<p>Gallwn ddyfynnu nifer o Weinidogion y\u00a0 Llywodraeth ar hyn, o Vaughan Gething yn dweud y &#8220;dylai&#8217;r GIG barhau yn yn nwylo cyhoeddus yn gadarnhaol&#8221; neu Julie James yn datgan bod y blaid yn \u201cllwyr ffieiddio preifateiddio&#8217;r GIG.&#8221; Neu gallwn fynd yn \u00f4l at y Prif Weinidog a ddywedodd yn gadarn bod &#8220;rhaid i&#8217;r gwasanaeth iechyd yng Nghymru barhau i fod yn wasanaeth cyhoeddus, wedi&#8217;i ariannu&#8217;n gyhoeddus ac wedi&#8217;i ddarparu&#8217;n gyhoeddus. Nid oes lle i breifateiddio yn y GIG yng Nghymru.&#8221;<\/p>\n<p>Ond nid oes dim o hynny&#8217;n wir. Er gwaetha&#8217;r holl eiriau cynnes ar gydraddoldeb rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwll, mae GIG Cymru yn talu dros \u00a375 miliwn y flwyddyn i ddarparwyr preifat. Mae hynny tua 8-10% o&#8217;r gyllideb gyfan ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu wedi&#8217;u cyfuno. Mae&#8217;r union ffigwr yn anhysbys. Ni chaiff ei gyhoeddi na&#8217;i drafod.<\/p>\n<p>Byddai hyn yn sgandal cenedlaethol mewn unrhyw faes arall o&#8217;r GIG.<\/p>\n<p>Pan ddywedodd Donald Trump y byddai&#8217;r GIG yn fater i&#8217;w drafod mewn unrhyw gytundebau masnach wedi-Brexit, roedd Llafur Cymru yn barod i ddatgan yn gryf nad oedd GIG Cymru ar werth. Dywedodd Vaughan Gething yn falch:<\/p>\n<blockquote><p>&#8220;Mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn wasanaeth cyhoeddus, ac fe fydd yn parhau i fod yn wasanaeth cyhoeddus tra bo&#8217;r Llywodraeth hon mewn grym yng Nghymru. Ac yng Nghymru, dan y llywodraeth hon, bydd yn parhau i fod yn wasanaeth gwerthfawr sy&#8217;n rhoi pobl &#8211; nid elw &#8211; yn gyntaf.&#8221;<\/p><\/blockquote>\n<p>Ond celwydd yw hyn. Mae corfforaethau&#8217;r Unol Daleithiau eisoes yn gweithredu yng Nghymru.<\/p>\n<p>Ystyriwch Cygnet Health Care er enghraifft, cwmni preifat er elw sy&#8217;n cynnal gwasanaethau arbenigol i gleifion mewnol yn y DU. Mae Cymru a Lloegr yn rhoi cleifion a ariennir gan y GIG yn y gwasanaethau hyn, yn aml am fisoedd neu flynyddoedd ar y tro. Mae Cygnet Health Care yn eiddo i gorfforaeth yr Unol Daleithiau, \u2018Universal Health Services Inc&#8217;<i>.<\/i><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone size-full wp-image-909\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/uhs.jpg\" alt=\"\" width=\"1242\" height=\"810\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/uhs.jpg 1242w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/uhs-300x196.jpg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/uhs-1024x668.jpg 1024w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/uhs-768x501.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1242px) 100vw, 1242px\" \/><\/p>\n<p>Mae UHS yn gwmni enfawr sy&#8217;n cyflogi tua&#8217;r un faint o bobl \u00e2 GIG Cymru ac mae ganddo refeniw sy&#8217;n fwy na chyllideb gyfan GIG Cymru. Mae eu gweithrediadau yn America wedi profi cyfres o sgandalau, a arweiniodd at ddirwy o $127 miliwn y llynedd. Cyhuddir y cwmni o gadw cleifion yn erbyn eu hewyllys a gorliwio eu problemau iechyd meddwl er mwyn gwneud hawliadau yswiriant twyllodrus.<\/p>\n<p>Mae gan Cygnet ddau safle yng Nghymru, ond anfonir cleifion o Gymru hefyd i ysbytai Cygnet yn Lloegr &#8211; sydd yn aml gannoedd o filltiroedd o&#8217;u cartrefi, eu teuluoedd a&#8217;u ffrindiau, sydd ynddo&#8217;i hun yn gallu bod yn niweidiol i&#8217;r broses o wella.<\/p>\n<p>Yn waeth fyth, mae rhai darparwyr preifat wedi darparu lefel echrydus o ofal, gan gynnwys Cygnet Health Care.<\/p>\n<p>Ym mis Mai 2017, trosglwyddwyd Claire Greaves, menyw ifanc o Bontypridd, o Ysbyty GIG Nevill Hall yn y Fenni i ysbyty Cygnet yn Coventry. Ar y pryd, trydarodd &#8220;Hoffwn pe bawn i&#8217;n gallu mynd adref, dydw i ddim eisiau bod dros 100 milltir i ffwrdd o adref am amser mor hir.&#8221;<\/p>\n<p>Yn Coventry, cafodd Claire Greaves a chadw ar wah\u00e2n am gyfnod hir a chafodd ei hatal droeon. Bu farw drwy hunanladdiad yn yr ysbyty ym mis Chwefror 2018.<\/p>\n<p>Canfu rheithgor cwest bod ei marwolaeth yn deillio o fethiannau yn ei gofal. Bu methiant i gynyddu pa mor drwyadl arslywyd arni, er gwaethaf nifer o achosion o hunan-niweidio yn y dyddiau cyn iddi farw. Cysylltodd y rheithgor y methiannau hyn \u00e2 staffio gwael, a daeth i&#8217;r casgliad bod lefelau staffio &#8216;mwy na thebyg wedi achosi neu gyfrannu at&#8217; farwolaeth Ms Greaves.<\/p>\n<p>Mae cleifion GIG Cymru yn dal i gael eu lleoli yn ysbytai Cygnet.<\/p>\n<p>Darparwr preifat arall sy&#8217;n derbyn arian gan y GIG yw Regis Healthcare, cwmni o Gymru sydd wedi&#8217;i leoli yng Nglynebwy. Yn gynnar yn 2018, cododd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru bryderon ynghylch diogelwch y gwasanaeth. Mewn un achos, ataliwyd claf ifanc am fwy nag awr a hanner. Ataliwyd person arall 109 gwaith mewn chwe mis. Dywedodd pobl ifanc a oedd yn cael eu cadw&#8217;n gaeth yn yr uned wrth yr arolygwyr fod y defnydd o atal yn \u201cfychanol ac yn anghyfforddus i&#8217;w wylio.&#8221; Erbyn mis Medi, cafodd pob claf a ariannwyd gan GIG Cymru eu symud o wasanaethau Regis Healthcare.<\/p>\n<p>Ond ni ddi-rymwyd trwydded Regis Healthcare ac arhosodd cleifion eraill yno &#8211; gan gynnwys y rhai a ariannwyd gan GIG Lloegr. Cafodd gwasanaethau y barnwyd eu bod yn anniogel i gleifion GIG Cymru aros ar agor. Dim ond y cleifion roedden nhw&#8217;n uniongyrchol gyfrifol amdanynt y ceisiodd Llywodraeth Cymru eu diogelu, gan beidio \u00e2 gwneud hynny ar ran pobl ifanc a oedd yn cael triniaeth yn breifat na&#8217;r rhai a ariannwyd gan GIG Lloegr.<\/p>\n<p>Yn y cyfamser, mae Regis Healthcare yn brysur yn gwneud cynlluniau i agor rhagor o unedau i gleifion mewnol dros y blynyddoedd nesaf a nodwyd yn ddiweddar mai dyma un o&#8217;r <a href=\"http:\/\/www.fastgrowth50.com\/2019\/regis-healthcare\">cwmn\u00efau sy&#8217;n tyfu gyflymaf<\/a> yng Nghymru.<\/p>\n<p>O dan y rhethreg, mae defnyddio darparwyr er elw yn rhan allweddol o ddull Llafur Cymru o ymdrin \u00e2 thriniaeth cleifion mewnol. Dim ond y mis hwn, gwrth-drowyd penderfyniad cynllunio i ganiat\u00e1u <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/amp\/uk-wales-53084065\">ysbyty iechyd meddwl preifat gyda 61 o welyau yn y Rhyl<\/a>.<\/p>\n<p>Ond nid Llafur Cymru yn unig sydd wrthi. Ar draws y pleidiau gwleidyddol a chymdeithas ddinesig, mae&#8217;r rhagrith hwn yn cael ei gynnal gan dawelwch. Er ein holl gynnydd o ran deall problemau iechyd meddwl, mae salwch meddwl difrifol yn dal i gael ei gamddeall, ei stigmateiddio a&#8217;i ysgubo o&#8217;r neilltu i raddau helaeth.<\/p>\n<p>Mae angen mwy na geiriau ar gydraddoldeb rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Rhaid iddo fod yn egwyddor, wedi&#8217;i chyflawni gan y Llywodraeth ond wedi&#8217;i hategu gan bawb. Pan geisiodd Llywodraeth Cymru breifateiddio gwasanaethau dialysis yng ngogledd Cymru, gorfodwyd iddynt wneud tro pedol yn dilyn yr dicter gwleidyddol priodol a ddilynodd. Mae ffordd bell i fynd cyn i&#8217;r fath ddicter adeiladol ymestyn i iechyd meddwl.<\/p>\n<h2>Gweithredu<\/h2>\n<p>Yn aml, pobl sy&#8217;n cael eu hanfon i ysbytai iechyd meddwl preifat yw&#8217;r rhai y credir eu bod yn peri&#8217;r risgiau mwyaf iddyn nhw eu hunain neu i eraill. Gall y rhain gynnwys pobl sydd ag anhwylderau bwyta difrifol, anableddau dysgu, trawma cymhleth neu sy&#8217;n wynebu heriau o ran ymddygiad. Mae hyn yn tryledu &#8216;risg&#8217; a chyfrifoldeb.<\/p>\n<p>Yr un esgeuluso dyletswydd yw&#8217;r hyn sy&#8217;n gweld Gweinidogion Llafur Cymru yn datgan nad oes ganddynt unrhyw lais dros cau&#8217;r gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Neu Cyngor Caerdydd yn mynnu nad oes ganddynt lais dros faterion cynllunio lleol. Mae&#8217;n ymagwedd sy&#8217;n gweld sefydliadau&#8217;n diogelu eu hunain, yn hytrach na dinasyddion, ac un sy&#8217;n magu apathi biwrocrataidd ar bob lefel.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r misoedd diwethaf wedi amlygu hyn yn gliriach nag erioed ac felly yn cynnig cyfle prin ond euraid ar gyfer newid gwirioneddol. I fenthyg oddi wrth <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/\">cyfrannwr<\/a> arall: &#8220;Dylai&#8217;r profiad o roi diwedd ar gysgu ar y stryd mewn dinas o fewn wythnos weithredu fel model ar gyfer arweinyddiaeth a llywodraethu cyflym ac effeithlon: nodi ateb, ei ariannu&#8217;n briodol, rhoi trefn ar awdurdodau lleol i weithredu ar unwaith, diystyru gweithdrefnau biwrocrataidd.&#8221;<\/p>\n<p>Mae&#8217;r un peth yn wir am wasanaethau cleifion mewnol. Mae&#8217;r profiad o ddyblu gwelyau&#8217;r GIG mewn ychydig wythnosau&#8217;n profi&#8217;r hyn sy&#8217;n bosibl. Gyda blaenoriaeth, arweiniad a chyfeiriad, gallai Llafur Cymru yn hawdd roi terfyn ar breifateiddio yn y GIG.<\/p>\n<p>Yn gyntaf, mae angen mynd i&#8217;r afael \u00e2 materion o fewn gwasanaethau cleifion iechyd meddwl mewnol y GIG ei hun. Bydd hyn yn gofyn am gynnydd cyflym yng nghapasiti a gweithlu&#8217;r gwasanaethau cleifion mewnol, yn ogystal \u00e2 chreu gwasanaethau newydd, gan gynnwys gwelyau ychwanegol a gwasanaethau arbenigol fel Uned Mamau a Babanod a gwasanaethau i blant a phobl ifanc. Gall arweinyddiaeth, cyllid digonol a diystyru strwythurau biwrocrataidd gyflawni hyn yn gyflym.<\/p>\n<p>Ni ellir parhau \u00e2&#8217;r distawrwydd cyfunol a gawsom hyd yma. Mae gwir gydraddoldeb rhwng iechyd corfforol a meddyliol yn galw am weithredu ac mae&#8217;n rhaid dechrau drwy roi terfyn ar sgandal preifateiddio&#8217;r GIG.<\/p>\n<p><em>Os ydych chi eisiau siarad \u00e2 rhywun am y materion a trafodwyd yma cysylltwch \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.samaritans.org\/england-cy\/how-we-can-help\/contact-samaritan\/welsh-language-phone-line\/\">Samaritans Cymru<\/a> neu&#8217;r <a href=\"http:\/\/www.callhelpline.org.uk\/DefaultW.asp?\">Llinell Cymorth Iechyd Meddwl C.A.L.L.<\/a><\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rhybudd cynnwys: mae&#8217;r erthygl hwn yn trafod hunanladdiad ac esgeulustod mewn lleoliadau cleifion mewnol iechyd meddwl. Cyflwyniad Yn hwyr ar brynhawn Gwener y 24ain o Ionawr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru&#8217;r &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Iechyd meddwl yng Nghymru: y bwlch rhwng rhethreg a realiti&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":907,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[86,83,89,55],"class_list":["post-903","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-coronafirws","tag-covid-19","tag-iechyd","tag-llywodraeth-cymru","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Iechyd meddwl yng Nghymru: y bwlch rhwng rhethreg a realiti - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Iechyd meddwl yng Nghymru: y bwlch rhwng rhethreg a realiti - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Rhybudd cynnwys: mae&#8217;r erthygl hwn yn trafod hunanladdiad ac esgeulustod mewn lleoliadau cleifion mewnol iechyd meddwl. Cyflwyniad Yn hwyr ar brynhawn Gwener y 24ain o Ionawr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru&#8217;r &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Iechyd meddwl yng Nghymru: y bwlch rhwng rhethreg a realiti&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-07-15T08:16:57+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-07-15T09:54:52+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/gething-uhs.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1200\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"675\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Gohebydd\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Gohebydd\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"19 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/\"},\"author\":{\"name\":\"Gohebydd\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538\"},\"headline\":\"Iechyd meddwl yng Nghymru: y bwlch rhwng rhethreg a realiti\",\"datePublished\":\"2020-07-15T08:16:57+00:00\",\"dateModified\":\"2020-07-15T09:54:52+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/\"},\"wordCount\":3947,\"commentCount\":1,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/gething-uhs.jpg\",\"keywords\":[\"coronafirws\",\"COVID-19\",\"iechyd\",\"Llywodraeth Cymru\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/\",\"name\":\"Iechyd meddwl yng Nghymru: y bwlch rhwng rhethreg a realiti - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/gething-uhs.jpg\",\"datePublished\":\"2020-07-15T08:16:57+00:00\",\"dateModified\":\"2020-07-15T09:54:52+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/gething-uhs.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/gething-uhs.jpg\",\"width\":1200,\"height\":675},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Iechyd meddwl yng Nghymru: y bwlch rhwng rhethreg a realiti\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538\",\"name\":\"Gohebydd\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Gohebydd\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gohebydd\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Iechyd meddwl yng Nghymru: y bwlch rhwng rhethreg a realiti - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Iechyd meddwl yng Nghymru: y bwlch rhwng rhethreg a realiti - undod","og_description":"Rhybudd cynnwys: mae&#8217;r erthygl hwn yn trafod hunanladdiad ac esgeulustod mewn lleoliadau cleifion mewnol iechyd meddwl. Cyflwyniad Yn hwyr ar brynhawn Gwener y 24ain o Ionawr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru&#8217;r &hellip; Parhau i ddarllen \"Iechyd meddwl yng Nghymru: y bwlch rhwng rhethreg a realiti\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-07-15T08:16:57+00:00","article_modified_time":"2020-07-15T09:54:52+00:00","og_image":[{"width":1200,"height":675,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/gething-uhs.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Gohebydd","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Gohebydd","Est. reading time":"19 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/"},"author":{"name":"Gohebydd","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538"},"headline":"Iechyd meddwl yng Nghymru: y bwlch rhwng rhethreg a realiti","datePublished":"2020-07-15T08:16:57+00:00","dateModified":"2020-07-15T09:54:52+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/"},"wordCount":3947,"commentCount":1,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/gething-uhs.jpg","keywords":["coronafirws","COVID-19","iechyd","Llywodraeth Cymru"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/","name":"Iechyd meddwl yng Nghymru: y bwlch rhwng rhethreg a realiti - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/gething-uhs.jpg","datePublished":"2020-07-15T08:16:57+00:00","dateModified":"2020-07-15T09:54:52+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/gething-uhs.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/07\/gething-uhs.jpg","width":1200,"height":675},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/07\/15\/iechyd-meddwl\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Iechyd meddwl yng Nghymru: y bwlch rhwng rhethreg a realiti"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/eb0fcd9971b22fedefcf656294f6d538","name":"Gohebydd","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a0068a5b9ba6855719af58cda0d75b7c6a5cbb263558ac188a211b753ed7079f?s=96&d=mm&r=g","caption":"Gohebydd"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/gohebydd\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/903","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=903"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/903\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":913,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/903\/revisions\/913"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/907"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=903"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=903"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=903"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}