{"id":928,"date":"2020-08-11T15:20:17","date_gmt":"2020-08-11T14:20:17","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=928"},"modified":"2020-08-11T15:22:42","modified_gmt":"2020-08-11T14:22:42","slug":"cyfiawnder-hinsawdd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/","title":{"rendered":"Cyfiawnder cymdeithasol yw cyfiawnder hinsawdd"},"content":{"rendered":"<p><i>Mae&#8217;r canlynol yn cyflwyno&#8217;r achos dros ddull radical o daclo&#8217;r argyfwng hinsawdd yng Nghymru, ac yn gwahodd cyfraniadau gan aelodau Undod i archwilio pynciau perthnasol mewn rhagor o fanylder.<\/i><\/p>\n<h2>Mae&#8217;r argyfwng go iawn ar y gorwel&#8230;<\/h2>\n<p>A ninnau yng nghanol pandemig byd-eang, hawdd yw anghofio ein bod ni hefyd yng nghrafangau argyfwng llawer mwy. <a href=\"https:\/\/rebellion.earth\/the-truth\/the-emergency\/\">Mae helynt yr hinsawdd a chwymp ecolegol<\/a> yn fygythiad marwol i bob agwedd ar fywyd ar y ddaear, a bydd y tarfu rydyn ni&#8217;n ei brofi ar hyn o bryd yn bitw o&#8217;i gymharu.<\/p>\n<p>Ond fel yn achos argyfwng Covid19, mae angen cadw persbectif. I lawer o bobl, mae effeithiau bob dydd y cwymp ecolegol sy&#8217;n datblygu yn dal i fod yn amlwg. Yn achos cymunedau&#8217;r de, cyflwynwyd y cyfyngiadau symud bron yn syth ar \u00f4l llifogydd catastroffig a berodd i lawer o bobl ddod yn ddi-gartref, a hynny ar adeg pan oedden ni i gyd yn cael ein hannog i &#8216;aros gartre&#8217; &#8211; ac wrth gwrs mae&#8217;r union un cymunedau <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/21\/llifogydd-rhondda-flooding\/\">wedi dioddef dilyw arall<\/a>.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Super-cyclone Amphan batters India and Bangladesh\" width=\"640\" height=\"360\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/RHvuMMCgUYA?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p>Felly hefyd yng ngweddill y byd, mae trychinebau sy&#8217;n ymwneud \u00e2&#8217;r hinsawdd a&#8217;u heffeithiau anghyfartal ar y byd yn dod yn haenau ar ben heriau Covid19 \u2013 fel <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/world-asia-india-52749935\">seiclon Amphan<\/a> ym Mae Bengal, sy&#8217;n ein hatgoffa <i>mai<\/i> cyfiawnder cymdeithasol yw cyfiawnder hinsawdd. Ar yr un pryd,\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cnbc.com\/2020\/05\/21\/american-billionaires-got-434-billion-richer-during-the-pandemic.html\">mae cyfoeth biliwnyddion y byd wedi cynyddu \u00a3434 biliwn<\/a> hyd yma yn ystod y cyfyngiadau symud, sy&#8217;n dangos i sicrwydd nad ydyn ni i gyd yn hyn gyda&#8217;n gilydd yn y sefyllfa yma.<\/p>\n<p>Nid yw&#8217;r\u00a0<a href=\"https:\/\/www.resilience.org\/stories\/2020-04-09\/this-pandemic-is-ecological-breakdown-different-tempo-same-song\/\">cysylltiadau<\/a> rhwng y pandemig presennol ac achosion gwaelodol ein hargyfwng amgylcheddol byd-eang yn anodd eu gweld \u2013 gydag economi draphoeth fyd-eang wedi&#8217;i phweru gan gyfalafiaeth neoryddfrydol ddi-reolaeth, dim ond y diweddaraf o blith llu o glefydau trosglwyddadwy iawn yw Covid19, ac ni allwn ond disgwyl mwy.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n rhaid ni hefyd oedi i ystyried bod taclo newid hinsawdd a&#8217;r argyfwng ecolegol yn mynd <a href=\"https:\/\/www.wbur.org\/cognoscenti\/2020\/06\/09\/the-links-between-racism-and-the-environment-frederick-hewett\">law yn llaw<\/a> \u00e2&#8217;r angen i daclo hiliaeth systemig yn ein cymdeithas; pwnc enbyd sydd wedi ffrwydo i&#8217;r brif ffrwd ers llofruddiaeth George Floyd ym Minneapolis. Dyma ddwy ochr yr un geiniog ymelwol. Mae newid hinsawdd yn ganlyniad i oruchafiaeth wen &#8211; system gymdeithasol ac economaidd sy&#8217;n trin rhai cymunedau a phobl fel rhai y gellid eu haberthu neu taflu i&#8217;r neilltu. Rhaid i ni amlygu&#8217;r cysylltiad hwn wrth fynd i&#8217;r afael \u00e2 newid hinsawdd a cholli natur &#8211; mae angen i&#8217;r drafodaeth a&#8217;r polisi yng Nghymru amlygu&#8217;r cysylltiad rhwng mynd i&#8217;r afael ag ymelwa yn ei holl ffurfiau.<\/p>\n<p>Er bod Covid19 wedi llwyddo i raddau i atal y brynwriaeth a&#8217;r gorsymudedd sy&#8217;n sail i gyfalafiaeth (gan drosglwyddo elw i freichiau agored Jeff Bezos), <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/31\/gramsci-dim-normal\/\">mae&#8217;n hollol angenrheidiol ein bod ni&#8217;n rhwystro cyfeiriad yr hyn sy&#8217;n dod nesaf<\/a> er mwyn atal fersiwn fwy eithafol o &#8220;fusnes fel arfer&#8221;. Wrth i siopau ailagor ac fe&#8217;n hanogir i siopa&#8217;n hyderus. Mae Llywodraeth Cymru wedi benthyca&#8217;r dyfyniad &#8220;Ailgodi&#8217;n Gryfach&#8221; yn eu hymgynghoriad ar y camau nesaf. Cyn i ni ailgodi, mae angen i ni gwestiynu&#8217;r rhagdybiaethau pydredig y mae ein heconomi&#8217;n seiliedig arnyn nhw &#8211; gan gynnwys yr hiliaeth a&#8217;r rhywiaeth gynhenid sy&#8217;n bwtresi&#8217;r gymdeithas gyfalafol &#8211; oherwydd heb gwestiynu&#8217;r model economaidd sylfaenol, mae &#8216;cryfach&#8217; bob amser yn golygu &#8216;mwy&#8217;, a <i>hynny ar draul rhywun arall, yn ogystal \u00e2&#8217;r blaned<\/i>.<\/p>\n<h2>Does dim dychwelyd i &#8216;normal&#8217;<\/h2>\n<p>Ymhlith y <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/cymrufyw\/52810361\">galwadau am adferiad gwyrdd<\/a>, mae angen i ni gadw&#8217;r pwysau am <i>ddull sy&#8217;n wirioneddol radical<\/i>, neu fel arall bydd gweithredu defnyddiol ar newid hinsawdd yn cael ei golli yng ngeiriau gwag\u00a0<a href=\"https:\/\/isreview.org\/issue\/70\/greening-capitalism\">&#8216;cyfalafiaeth werdd&#8217;<\/a>. Heb fawr ddim amser ar \u00f4l i osgoi trychineb llwyr, a phwysau enfawr i &#8216;gael yr economi i symud&#8217;, mae perygl y bydd yr ieithwedd bresennol yn gosod yr angen i weithredu ar yr hinsawdd <i>yn erbyn yr angen am dwf<\/i>, yn hytrach na meithrin ieithwedd adferiad teg sydd o fudd cyfartal i bawb. Gyda&#8217;r dethol rai yn straffaglu i achub cyfalafiaeth ymelwol a sicrhau bod yr anfoneb am wariant y wladwriaeth ar Covid19 yn mynd i aelodau tlotaf y gymdeithas, bydd hi hefyd yn hanfodol ein bod ni&#8217;n brwydro am system drethu deg \u2013 mae digon o arian i ariannu polis\u00efau ecogyfeillgar ynghyd \u00e2 gwasanaethau cyhoeddus, ond dim ond os yw&#8217;r rhai sy&#8217;n dod yn gyfoethog drwy ein system economaidd bresennol sy&#8217;n seiliedig ar elw yn talu eu ffordd.<\/p>\n<p>Does dim prinder tystiolaeth i ddangos sut mae&#8217;r sefyllfa bresennol yn gadael y blaned a phobl Cymru i lawr. Er enghraifft,\u00a0<a href=\"https:\/\/oxfamilibrary.openrepository.com\/bitstream\/handle\/10546\/346207\/rr-welsh-doughnut-sustainability-social-justice-090315-summ-cy.pdf\">mae adroddiad Toesen Cymru gan Oxfam<\/a> (sy&#8217;n seiliedig ar y model\u00a0<a href=\"https:\/\/www.kateraworth.com\/doughnut\/\">Economeg Toesen a luniwyd gan Kate Raworth<\/a>) yn dangos sut rydyn ni ar ein taflwybr presennol yng Nghymru yn torri drwy o leiaf chwech o naw ffin blanedol (fel newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth ac iechyd y cefnfor) ac yn methu ym mhob un o&#8217;r 13 elfen sy&#8217;n ffurfio &#8216;llawr cymdeithasol&#8217; y model ar gyfer poblogaeth Cymru (fel tai, incwm, llywodraethu ac addysg). Mae&#8217;n amlwg nad ydy&#8217;r sefyllfa bresennol yn gweithio ar gyfer y blaned nac ar gyfer pobl.<\/p>\n<p>Mae argyfyngau&#8217;n cynnig cyfleoedd i ail-feddwl mewn modd blaengar, ond ymhlith yr anhrefn mae risgiau enfawr hefyd y bydd pobl yn cymryd mantais ar ran cyfalaf byd-eang a buddiannau breintiedig er mwyn cipio a chamddefnyddio mwy fyth o&#8217;n hadnoddau ni i gyd \u2013 mae&#8217;n ffaith bod hyn yn digwydd nawr. Yn ddiweddar, y pasiodd San Steffan y\u00a0<a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/environment\/2020\/may\/21\/farmers-urge-government-protect-food-standards-trade-bill\">bil amaethyddiaeth<\/a> drwodd i D\u0177&#8217;r Arglwyddi, gan wrthod derbyn diwygiadau a fyddai wedi diogelu safonau bwyd a ffermio mewn cytundeb masnach gyda&#8217;r Unol Daleithiau yn y dyfodol. Mae hyn yn mynd \u00e2 ni gam yn agosach at ddyfodol o gyw i\u00e2r clorinedig, ac mae&#8217;n bygwth ein diwydiant ffermio yn uniongyrchol \u2013 <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/06\/08\/diwedd-ffermio\/\">wele dadleuon disglair Siwan Clark<\/a> &#8211; un o&#8217;r rhesymau niferus i frwydro dros annibyniaeth radical i Gymru. <a href=\"https:\/\/www.change.org\/p\/uk-government-save-our-farms-stop-the-agriculture-bill-achub-ein-ffermydd-atal-y-bil-amaeth\/u\/26944670\">Gallwch lofnodi deiseb yn galw am ddiwygio&#8217;r bil.<\/a><\/p>\n<p>Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi creu mewnflwch y gallwn ni anfon syniadau iddo.<\/p>\n<p>Dylen ni wthio am ymgysylltiad mwy ystyrlon ac am gynulliad dinasyddion llawn, sy&#8217;n cynrychioli ein holl gymunedau (mae hwn yn un o brif ofynion y mudiad hinsawdd Gwrthryfel Difodiant, fel y gwelwyd yn eu gwrthdystiad pellter cymdeithasol ar risiau&#8217;r Senedd yr wythnos hon) er mwyn eu galw i gyfrif ar eu datganiad argyfwng hinsawdd.\u00a0<a href=\"https:\/\/senedd.wales\/cy\/newhome\/Pages\/newsitem.aspx?itemid=2029\">Cynhaliwyd cynulliad dinasyddion yng Nghymru y llynedd,<\/a> ond erbyn hyn mae angen datblygu&#8217;r broses hon ar frys i fod yn fodel o ymwneud gwirioneddol, yn hytrach na llithro&#8217;n \u00f4l i ymgynghori mewn ffurflen ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol fel sy&#8217;n cael ei gynnig ar hyn o bryd, er mwyn sicrhau y caiff datrysiadau radical eu gweithredu yn hytrach na&#8217;u bod yn ddim ond testun trafod.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n werth cofio i ni orfod wynebu pandemig byd-eang cyn cyflwyno datrysiad i ddigartrefedd stryd yng Nghaerdydd \u2013 <a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/05\/18\/datrys-digartrefedd-solving-homelessness\/\">mesurau a allai fod wedi&#8217;u cyflwyno ar unrhyw adeg gyda&#8217;r ewyllys wleidyddol angenrheidiol<\/a> \u2013 mae&#8217;r un peth yn wir yn achos taclo newid hinsawdd. Yn 2015, gosododd yr adroddiad\u00a0<a href=\"http:\/\/www.regenwales.org\/upload\/pdf\/042814110151CREW%20Deep%20Place%20Study%20April%202014.pdf\">Lle Dwfn<\/a> strategaeth adfywio i Dredegar ar sail egwyddorion yr economi sylfaenol, gan gynnwys cadwyn gyflenwi fwyd leol. Nod y cynigion oedd &#8216;mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r lefelau uchel o dlodi a brofir mewn cymunedau \u00f4l-ddiwydiannol&#8230; gan gydnabod rheidrwydd carbon isel&#8217;. Ni weithredwyd argymhellion yr adroddiad, a disgrifiwyd Tredegar\u00a0<a href=\"https:\/\/www.southwalesargus.co.uk\/news\/18421437.tredegar-second-deprived-town-england-wales\/\">yn ddiweddar gan Centre for Towns fel y dref fwyaf difreintiedig ond un yng Nghymru a Lloegr.<\/a><\/p>\n<h2>Newid cyfeiriad<\/h2>\n<p>Felly be allen ni fod yn ei wneud?<\/p>\n<p>Fe\u00a0<a href=\"https:\/\/www.dw.com\/en\/the-global-injustice-of-the-climate-crisis-food-insecurity-carbon-emissions-nutrients-a-49966854\/a-49966854\">gydnabyddir yn helaeth<\/a> mai&#8217;r bobl sydd wedi cyfrannu leiaf at achosi&#8217;r broblem fydd yn profi effeithiau mwyaf difrifol newid hinsawdd, a&#8217;r rhan fwyaf ohonynt yn byw yn ne&#8217;r byd. Ar yr un pryd, mae&#8217;r bwlch rhwng disgwyliad oes y bobl fwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru wedi cynyddu ers 2010, ac mae&#8217;r cynnydd mewn disgwyliad oes cyffredinol a welwyd yn ystod y degawdau blaenorol wedi arafu i ddim. Y lle i ddechrau, yn sicr, yw polis\u00efau hinsawdd-gyfeillgar a fydd yn lleihau&#8217;r effaith y mae ein ffordd o fyw yn ei chael ar iechyd a lles pobl mewn gwledydd eraill, gan fynd ati ar yr un pryd i daclo&#8217;r problemau economaidd-gymdeithasol ac anghydraddoldeb sydd wedi ymwreiddio yng Nghymru. Does dim gwerth i&#8217;r gair &#8216;adferiad&#8217; os nad yw&#8217;n lleihau rhai o anghyfiawnderau amlwg yr economi cyn y cyfyngiadau symud. Mae&#8217;r polis\u00efau canlynol yn enghreifftiau a allai gael eu hariannu gan system drethu deg, sy&#8217;n trethu cyfalaf yn hytrach nag incwm ac sy&#8217;n cydnabod darwagiad adnoddau naturiol wrth gynhyrchu elw.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/academic.oup.com\/jpubhealth\/article\/39\/3\/485\/3076806\">Mae llygredd aer a&#8217;r effeithiau niweidiol cysylltiedig ar iechyd yn cydberthyn ag amddifadedd<\/a>, sy&#8217;n golygu mae cymunedau tlotaf Cymru sy&#8217;n wynebu&#8217;r effeithiau gwaethaf. Mae tlodi trafnidiaeth yn broblem eang yng Nghymru hefyd, yn enwedig mewn cymunedau gwledig. Er mwyn sicrhau&#8217;r lleihad yn allyriadau carbon trafnidiaeth rydyn ni wedi&#8217;i weld yn ystod yr argyfwng Covid, gan wella cyfiawnder trafnidiaeth, dylem drosglwyddo gofod yn ein holl dtrefi a dinasoedd o&#8217;r ceir i&#8217;r bobl, gan ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i gerdded a beicio, ac mae angen trafnidiaeth gyhoeddus ddiogel, reolaidd a hygyrch ar ein cymunedau gwledig. Y mae Transform Cymru, clymblaid o sefydliadau cynaliadwyedd, wedi creu gweledigaeth ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy yng Nghymru.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/amcangyfrifon-tlodi-tanwydd-ar-gyfer-cymru-2018\">Mae dros 10% o holl aelwydydd Cymru&#8217;n byw mewn tlodi tanwydd<\/a>. Mae angen trosglwyddo cynhyrchiant ynni i berchnogaeth gymunedol, gan gyflymu datblygiad gwaith cynhyrchu ynni adnewyddadwy graddfa fach, a hynny dan berchnogaeth gydweithredol ac wedi&#8217;i reoli gan y cymunedau sy&#8217;n ei ddefnyddio. I gyd-fynd \u00e2 hyn, dylid cael rhaglen raddfa fawr i ddiweddaru tai ledled Cymru at ddibenion effeithlonrwydd ynni, a fyddai hefyd yn helpu i leihau tlodi tanwydd. Dylen ni sicrhau bod pob t\u0177 a gaiff ei adeiladu yn y dyfodol yn glynu at y safonau effeithlonrwydd uchaf (gallen ni fod wedi gwneud hyn flynyddoedd yn \u00f4l, ond plygodd Llafur Cymru\u00a0<a href=\"https:\/\/www.architectsjournal.co.uk\/news\/campaigners-slam-changes-to-part-l-in-wales\/8652058.article\">i lobi&#8217;r diwydiant adeiladu<\/a>).<\/p>\n<p>Roedd lefelau newyn a diffyg diogeledd bwyd yng Nghymru eisoes yn syfrdanol,\u00a0<a href=\"https:\/\/www.food.gov.uk\/sites\/default\/files\/media\/document\/foodsecurityinwales_0.pdf\">gyda dros 14% o bobl Cymru yn rhedeg allan o fwyd cyn iddyn nhw allu fforddio prynu mwy<\/a>. Mae llawer o hyn o ganlyniad i effeithiau llymder a dirywiad ein system lles, ond dylai sut a ble rydyn ni&#8217;n cynhyrchu bwyd fod yn ffocws brys yn ein hadferiad, er mwyn sicrhau bod gan bawb fynediad at fwyd ffres a fforddiadwy, sydd wedi&#8217;i dyfu mor lleol \u00e2 phosib.<\/p>\n<p>Mae diogelu ardaloedd llawer mwy o gynefinoedd naturiol, lleihau erydiad y pridd, ac ail-feddwl gwaith cynllunio defnydd tir yn hanfodol er mwyn gwrthdroi&#8217;r tuedd o niwed ecolegol dinistriol a wneir yn enw cyfalafiaeth. Mae cymaint o\u00a0<a href=\"https:\/\/core.ac.uk\/download\/pdf\/82002938.pdf\">dystiolaeth o werth bioamrywiaeth a mynediad at natur a gofod gwyrdd i wella iechyd a lleihau effeithiau amddifadedd<\/a> \u2013 mae&#8217;n rhaid i ni sicrhau bod gan holl bobl Cymru fynediad at natur, a&#8217;u bod yn cael addysg ecoleg gadarn er mwyn i ni allu creu dyfodol lle rydyn ni&#8217;n deall sut i fyw ym myd natur a gyda natur, yn hytrach na brwydro yn ei erbyn.<\/p>\n<p>Yr wythnos nesaf, bydd Undod yn gofyn i nifer o gyfranwyr archwilio&#8217;r materion yma ymhellach, ond os hoffech gyfrannu blog ar yr hyn ddylai Cymru annibynnol a radical fod yn ei wneud o ran ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth gynaliadwy, amaethyddiaeth, neu bwnc arall yn ymwneud \u00e2 thaclo cyfiawnder hinsawdd, cysylltwch \u00e2 ni.<\/p>\n<p>Yng ngeiriau Fred Magdoff, yr awdur ac ecolegydd; &#8216;Nid yn unig mae economi arall yn bosib, mae&#8217;n hanfodol&#8217;.<\/p>\n<p><em>Delwedd: Seiclon Amphan ar 18 Mai 2020, gan <a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Cyclone_Amphan#\/media\/File:Amphan_1825_190520.gif\">Brifysgol Colorado<\/a><\/em><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r canlynol yn cyflwyno&#8217;r achos dros ddull radical o daclo&#8217;r argyfwng hinsawdd yng Nghymru, ac yn gwahodd cyfraniadau gan aelodau Undod i archwilio pynciau perthnasol mewn rhagor o fanylder. Mae&#8217;r &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Cyfiawnder cymdeithasol yw cyfiawnder hinsawdd&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":33,"featured_media":929,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[41,101,134,86,83],"class_list":["post-928","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-amgylchedd","tag-cam-nesaf-cymru","tag-capitalism","tag-coronafirws","tag-covid-19","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cyfiawnder cymdeithasol yw cyfiawnder hinsawdd - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cyfiawnder cymdeithasol yw cyfiawnder hinsawdd - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae&#8217;r canlynol yn cyflwyno&#8217;r achos dros ddull radical o daclo&#8217;r argyfwng hinsawdd yng Nghymru, ac yn gwahodd cyfraniadau gan aelodau Undod i archwilio pynciau perthnasol mewn rhagor o fanylder. Mae&#8217;r &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Cyfiawnder cymdeithasol yw cyfiawnder hinsawdd&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-08-11T14:20:17+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-08-11T14:22:42+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/08\/440px-Amphan_1825_190520b.gif\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"440\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"330\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/gif\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Sandy Clubb\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Sandy Clubb\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"18 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/\"},\"author\":{\"name\":\"Sandy Clubb\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/a029763af0e4216c70a80eeb6a5153a6\"},\"headline\":\"Cyfiawnder cymdeithasol yw cyfiawnder hinsawdd\",\"datePublished\":\"2020-08-11T14:20:17+00:00\",\"dateModified\":\"2020-08-11T14:22:42+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/\"},\"wordCount\":3751,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/08\/440px-Amphan_1825_190520b.gif\",\"keywords\":[\"amgylchedd\",\"Cam nesaf Cymru\",\"capitalism\",\"coronafirws\",\"COVID-19\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/\",\"name\":\"Cyfiawnder cymdeithasol yw cyfiawnder hinsawdd - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/08\/440px-Amphan_1825_190520b.gif\",\"datePublished\":\"2020-08-11T14:20:17+00:00\",\"dateModified\":\"2020-08-11T14:22:42+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/08\/440px-Amphan_1825_190520b.gif\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/08\/440px-Amphan_1825_190520b.gif\",\"width\":440,\"height\":330},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Cyfiawnder cymdeithasol yw cyfiawnder hinsawdd\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/a029763af0e4216c70a80eeb6a5153a6\",\"name\":\"Sandy Clubb\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9b5800ee67072db824a9a7ec378a598ab82cb22b0ae18974f23861f0abde0b65?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9b5800ee67072db824a9a7ec378a598ab82cb22b0ae18974f23861f0abde0b65?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9b5800ee67072db824a9a7ec378a598ab82cb22b0ae18974f23861f0abde0b65?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Sandy Clubb\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/sandyclubb\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cyfiawnder cymdeithasol yw cyfiawnder hinsawdd - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Cyfiawnder cymdeithasol yw cyfiawnder hinsawdd - undod","og_description":"Mae&#8217;r canlynol yn cyflwyno&#8217;r achos dros ddull radical o daclo&#8217;r argyfwng hinsawdd yng Nghymru, ac yn gwahodd cyfraniadau gan aelodau Undod i archwilio pynciau perthnasol mewn rhagor o fanylder. Mae&#8217;r &hellip; Parhau i ddarllen \"Cyfiawnder cymdeithasol yw cyfiawnder hinsawdd\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2020-08-11T14:20:17+00:00","article_modified_time":"2020-08-11T14:22:42+00:00","og_image":[{"width":440,"height":330,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/08\/440px-Amphan_1825_190520b.gif","type":"image\/gif"}],"author":"Sandy Clubb","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Sandy Clubb","Est. reading time":"18 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/"},"author":{"name":"Sandy Clubb","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/a029763af0e4216c70a80eeb6a5153a6"},"headline":"Cyfiawnder cymdeithasol yw cyfiawnder hinsawdd","datePublished":"2020-08-11T14:20:17+00:00","dateModified":"2020-08-11T14:22:42+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/"},"wordCount":3751,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/08\/440px-Amphan_1825_190520b.gif","keywords":["amgylchedd","Cam nesaf Cymru","capitalism","coronafirws","COVID-19"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/","name":"Cyfiawnder cymdeithasol yw cyfiawnder hinsawdd - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/08\/440px-Amphan_1825_190520b.gif","datePublished":"2020-08-11T14:20:17+00:00","dateModified":"2020-08-11T14:22:42+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/08\/440px-Amphan_1825_190520b.gif","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/08\/440px-Amphan_1825_190520b.gif","width":440,"height":330},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/2020\/08\/11\/cyfiawnder-hinsawdd\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Cyfiawnder cymdeithasol yw cyfiawnder hinsawdd"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/a029763af0e4216c70a80eeb6a5153a6","name":"Sandy Clubb","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9b5800ee67072db824a9a7ec378a598ab82cb22b0ae18974f23861f0abde0b65?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9b5800ee67072db824a9a7ec378a598ab82cb22b0ae18974f23861f0abde0b65?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9b5800ee67072db824a9a7ec378a598ab82cb22b0ae18974f23861f0abde0b65?s=96&d=mm&r=g","caption":"Sandy Clubb"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/sandyclubb\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/928","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/33"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=928"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/928\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":931,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/928\/revisions\/931"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/929"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=928"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=928"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=928"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}