{"id":93,"date":"2019-02-26T13:27:57","date_gmt":"2019-02-26T13:27:57","guid":{"rendered":"https:\/\/undod.cymru\/?p=93"},"modified":"2019-03-13T20:21:17","modified_gmt":"2019-03-13T20:21:17","slug":"dyddiau-cynnar-silyn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/","title":{"rendered":"Dyddiau cynnar Silyn"},"content":{"rendered":"<p>Dwi&#8217;n gwenu wrth feddwl amdanynt \u2013 Lenin a Silyn yn sgwrsio yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn Llundain lle daethant i &#8216;nabod ei gilydd tua 1903. Ar yr olwg gyntaf, does dim yn debyg rhwng y chwyldroadwr o Rwsia a&#8217;r gweinidog Methodist o Ddyffryn Nantlle, ond mae nodweddion cyffredin. Roedd dyddiadau eu geni a marw yn debyg, roeddent yn rhannu&#8217;r un credoau gwleidyddol, a daethant yn ddigon enwog i gael eu hadnabod gan un enw yn unig. Wedi dweud hynny, falle fod mwy wedi clywed am Lenin na Silyn.<\/p>\n<p>Ganed Silyn, neu Robert Roberts, yn fab i chwarelwr ym 1871 ym Mryn Llidiart, Pen Cymffyrch, tyddyn sy&#8217;n adfail yn un o ardaloedd uchaf a mwya diarffordd Dyffryn Nantlle. Gadawodd ysgol Nebo yn 13 oed a mynd i weithio i&#8217;r chwarel. Ond diau fod hanesion am ei ewythr wedi dylanwadu arno. Collodd hwnnw ei waith pan yn ddwy ar bymtheg oed wedi streic yn Chwarel y Penrhyn 1846 a bu raid iddo &#8216;fudo i&#8217;r Amerig. Yno, yn Etholiad 1861 bu&#8217;n areithio ar ochr Abraham Lincoln.<\/p>\n<figure id=\"attachment_106\" aria-describedby=\"caption-attachment-106\" style=\"width: 1024px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-106 size-full\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/cartref-silyn-brynllidiart.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"768\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/cartref-silyn-brynllidiart.jpg 1024w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/cartref-silyn-brynllidiart-300x225.jpg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/cartref-silyn-brynllidiart-768x576.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-106\" class=\"wp-caption-text\">Cartref Silyn, Brynllidiart. (Yma y ganed Mathonwy Hughes yn 1901, nai Silyn. Enillodd hwnnw y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1956.) Llun gan Angharad Tomos, 2019<\/figcaption><\/figure>\n<p>Ond roedd cyfiawnder cymdeithasol yn fater o synnwyr cyffredin i chwarelwyr Dyffryn Nantlle, ac yno y cafodd Silyn ei addysg go iawn. Wedi pum mlynedd yn y chwarel, cafodd fynd i Ysgol Ramadeg Clynnog. Wedi astudio yno am dair blynedd, fe&#8217;i derbyniwyd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor. Graddiodd gyda anrhydedd mewn Saesneg cyn mynd i astudio ar gyfer y Weinidogaeth yng Ngholeg y Bala, a dilyn cwrs gradd MA ar yr un pryd. Ef oedd un o&#8217;r pum cyntaf yng Nghymru i ennill gradd MA. Erbyn hynny, roedd wedi cael cryn lwyddiant gyda&#8217;i farddoniaeth ac wedi ennill cadeiriau yn y steddfodau coleg. Ym 1902, ennillodd goron yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn weinidog ar gapel Cymraeg Methodist yn Llundain.<\/p>\n<figure id=\"attachment_108\" aria-describedby=\"caption-attachment-108\" style=\"width: 1024px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-108 size-full\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/eglwys-jewin.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"768\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/eglwys-jewin.jpg 1024w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/eglwys-jewin-300x225.jpg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/eglwys-jewin-768x576.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-108\" class=\"wp-caption-text\">Eglwys Silyn yn Llundain, o&#8217;r llyfr City Mission gan Huw Edwards<\/figcaption><\/figure>\n<p>Ni anghofiodd Silyn ei wreiddiau, ac yn sicr, roedd o flaen ei oes. Mor gynnar \u00e2 1896, roedd yn tarannu yn erbyn &#8216;the jingoism and the land grabbing of John Bull&#8217;, ac yn dadlau dros Ddiarfogi. Mynnai mai ymryson masnachol rhwng gwledydd oedd yn achosi cymaint o wario ar arfogaeth, a bod pentyrru arfau yn gwneud rhyfel yn fwy tebygol. Yn y flwyddyn hon, cyhoeddodd ei fod yn Sosialydd.<\/p>\n<figure id=\"attachment_96\" aria-describedby=\"caption-attachment-96\" style=\"width: 729px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-96 size-full\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/cofiant-silyn-david-thomas.jpg\" alt=\"\" width=\"729\" height=\"1022\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/cofiant-silyn-david-thomas.jpg 729w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/cofiant-silyn-david-thomas-214x300.jpg 214w\" sizes=\"auto, (max-width: 729px) 100vw, 729px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-96\" class=\"wp-caption-text\">Cofiant Silyn gan David Thomas (Gwasg y Brython, 1956)<\/figcaption><\/figure>\n<p>Roedd yn \u0175r ifanc a garai gynnwrf, ac wrth sgwennu ei gofiant, meddai nhaid am Silyn, &#8216;Os byddai rhywbeth mawr yn digwydd yn rhywle, yr oedd Silyn eisiau bod yn ei ganol&#8217;. Pan oedd rhyfel rhwng Groeg a Thwrci ym 1897 a Groeg yn ymladd dros annibyniaeth i Greta, Silyn oedd un o&#8217;r ddau gyntaf i gynnig ei henwau i fynd yno i ymladd drosti. Ei arwr mawr oedd Byron, ac roedd elfen ramantaidd gref yn ei gymeriad. Ym 1903, roedd wedi ymweld \u00e2&#8217;r Unol Daleithiau a Chanada, wedi cael cyfnod o dri mis yn pregethu yn Utica, teithiodd i Ffrainc, Gwlad Belg a&#8217;r Iwerddon.<\/p>\n<p>Wedi tair mlynedd lwyddiannus yn Llundain, daeth ef a&#8217;i gariad, Mary Parry i Danygrisiau i fyw. Priodwyd y ddau, aethant i fyw i Afallon ac ef oedd gweinidog Bethel. Er fod y capel wedi ei ddymchwel bellach, mae&#8217;r festri yn enwog fel stiwdio recordio Gai Toms. Ganed tri o blant iddynt, Glynn, Meilir a Rhiannon.<\/p>\n<p>Yn \u0175r ifanc 34 oed, daeth Silyn yn weinidog poblogaidd yn Nhanygrisiau, yn enwedig efo&#8217;r bobl ifanc. Doedd ganddo fawr o amynedd efo ffug barchusrwydd rhai aelodau oedd yn edrych i lawr eu trwynau ar gwmni drama. Ymateb Silyn oedd mynd ati i sgwennu drama iddynt.<\/p>\n<p>Ni chafodd unrhyw anhawster cymhathu ei grefydd a&#8217;i wleidyddiaeth, dwy ochr i&#8217;r un geiniog oeddent. Pan basiwyd Deddf Tyddynod ym 1908, er mwyn i&#8217;r Cynghorau Sir brynu tir a&#8217;i osod i dyddynwyr, bu Silyn yn frwd o blaid y syniad. Ysgrifennodd gyfres o erthyglau i&#8217;r Glorian am sut i wneud cais am dyddyn. Cyn pen dim, roedd wedi ei ethol fel Cynghorydd Sir yn ddiwrthwynebiad. Ambell waith, sgwennai lythyr i gwyno fod ffermwr wedi ei droi o&#8217;i fferm, dro arall, sgwennai at Fwrdd Llywodraeth Leol am fod hen wraig wedi gorfod aros pum wythnos cyn cael ei phensiwn (sy&#8217;n taro nodyn cyfoes efo&#8217;r problemau gaiff pobl heddiw efo&#8217;r credyd cynhwysol). Yn y Blaid Ryddfrydol y&#8217;i magwyd, ond roedd yn aelod o&#8217;r Fabian Society o oedran cynnar iawn. Bu&#8217;n hynod weithgar gyda&#8217;r ILP \u2013 yr Independent Labour Party. Pan ddaeth trefnydd yr ILP yng Ngogledd Cymru i siarad ym 1908, cychwynnodd Silyn gangen ym Mlaenau Ffestiniog. Dyna sut y daeth David Thomas, Talysarn (fy nhaid) a Silyn i adnabod ei gilydd. Deuai Silyn i annerch canghennau oedd David Thomas wedi ei sefydlu yn Sir Gaernarfon, a deuai David Thomas i annerch y canghennau yn Sir Feirionnydd yr oedd Silyn wedi ei sefydlu. Erbyn Rhagfyr 1908, yr oedd Silyn wedi cyhoeddi pamffled ceiniog, &#8216;Y Blaid Lafur Anninynnol, ei Hanes a&#8217;i Hamcan.<\/p>\n<p>Dyma ddyfyniad,<\/p>\n<blockquote><p>&#8216;Nis gall neb agor ei lygaid ac edrych.. heb gael ei argyhoeddi mai perchnogion tir a chyfalaf yw gwir feistriaid y genedl&#8230;.Ond dan Sosialaeth fe baid eiddo yn yr ystyr hwn \u00e2 bod, oblegid fe droir y cyfan yn eiddo&#8217;r cyhoedd; yna fe ddaw grym llywodraethol sydd yn awr yn nwylaw ychydig oludogion yn eiddo&#8217;r holl bobl. Fel hyn y golyga Soaialaeth ryddid trefniadol, a chydraddoldeb gweleidyddol perffaith&#8217;<\/p><\/blockquote>\n<p>gan ychwanegu,<\/p>\n<blockquote><p>&#8216;Gelyn anghymodlawn gwyddoniaeth a Sosialaeth yw&#8217;r dyn hunanol, a fyn gadw ei feddwl a&#8217;i egni i wasanaethu arno ef ei hun.&#8217;<\/p><\/blockquote>\n<p>Mynych oedd y galwadau arno i ddarlithio yn y De. Bu yno deirgwaith yn nechrau 1909 a bu&#8217;n annerch yr \u0174yl Lafur ym Merthyr ar Galan Mai 1911. Siaradwr pwyllog a thawel ydoedd, a siaradai gyda argyhoeddiad dwfn a gallai lenwi cyfarfodydd. Un oedd yn \u0175r ifanc bryd hynny oedd Jim Griffiths, a etholwyd yn ddiweddarach fel Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru. Meddai am Silyn,<\/p>\n<blockquote><p>&#8216;Yr oedd i&#8217;w ddyfodiad ef arwyddoc\u00e1d arbennig i ni ieuenctid Deheudir Cymru. Yr oedd ef yn ddolen yn cydio&#8217;r hen a&#8217;r newydd&#8230; Silyn oedd y ddolen. Pregethai Dduw a Datblygiad. Yr oedd yn weinidog ac yn Sosialydd&#8230; Efe oedd ein hysbrydoliaeth, a&#8217;n cyfianwhad hefyd&#8230; Yr oedd ef yn cydio De Cymru Evan Roberts wrth Dde Cymru Keir Hardie.&#8217;<\/p><\/blockquote>\n<figure id=\"attachment_97\" aria-describedby=\"caption-attachment-97\" style=\"width: 1024px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-97 size-full\" src=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/afallon-cartref-silyn.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"768\" srcset=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/afallon-cartref-silyn.jpg 1024w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/afallon-cartref-silyn-300x225.jpg 300w, https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/afallon-cartref-silyn-768x576.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-97\" class=\"wp-caption-text\">Afallon, cartref Silyn yn Nhanygrisiau<\/figcaption><\/figure>\n<p>Cai pobl ddifyr noddfa ar aelwyd Afallon. Mae&#8217;n debyg fod llawer ohonom yn gyfarwydd \u00e2&#8217;r cerflun trawiadol ar y brif stryd yn Nulyn, o&#8217;r undebwr Jim Larkin. Daeth o i annerch cyfarfod yn y Blaenau ym Mawrth 1911 a rhoddodd gopi o&#8217;i gyfrol &#8216;Labour in Irish History&#8217; yn anrheg i Silyn. Dau arall fu yno oedd Keir Hardie a George Lansbury. Un o gyfeillion Silyn oedd g\u0175r cyfoethog o&#8217;r enw George Davison a adeiladodd blasty iddo&#8217;i hun yn Harlech, Wernfawr. Gwerthwyd y t\u0177 yn rhad i Tom Jones i&#8217;w droi yn Goleg Harlech. Yno y cynhaliwyd cynhadledd yn 1910 i drafod Adroddiad y Lleiafrif ar Ddeddf y Tlodion, a ysgrifennwyd gan Sidney a Beatrice Webb (a gafodd lawer mwy o sylw na&#8217;r adroddiad swyddogol). Byddai Ysgol Haf y Fabian Society yn cael ei chynnal yn flynyddol yn Penrallt, Llanbedr, rhyw dair milltir o Harlech. O ganlyniad i waith Silyn a&#8217;i gyfeillion, sefydlwyd Pwyllgor Cenedlaethol Cymreig i hyrwyddo diwygio Deddf y Tlodion gyda George Davison yn ysgrifennydd. Dan y teitl, I&#8217;r Gad yn erbyn Tlodi, cyhoeddodd ei erthyglau ar Adroddiad y Lleiafrif yn Y Glorian. Darlithiodd yn aml ar y pwnc efo&#8217;r testun, &#8216;Cors Tlodi a&#8217;r modd i&#8217;w sychu&#8217;. Pwyswyd ar Silyn yn aml i sefyll fel ymgeisydd seneddol, ond gwrthod a wnaeth.<\/p>\n<p>Y pwnc agosaf at galon Silyn oedd addysg i&#8217;r gweithiwr. Doedd dim syndod mai&#8217;r testun yn un o eisteddfodau bach Blaenau Ffestiniog oedd crynhoi ffeithiau Adroddiad. Y Lleiafrif. Roedd ef a Mary Silyn wedi cael eu hysbrydoli mor gynnar \u00e2 1905 ar eu hymweliad \u00e2 Denmarc, a daethant yn gyfarwydd gyda gwaith yr Esgob Grundvig, sylfaenydd yr Ysgolion Gwerin yno. Mor gynnar \u00e2 1906, daeth a chymdeithasau ll\u00ean lleol at ei gilydd ac un o&#8217;r pethau cyntaf wnaeth Silyn oedd adeilady ysgoldy gan fod y festri rhy fach i gynnal cyfarfodydd. Ym 1909, yng Nhwyl Lafur y Chwarelwyr, clywodd anerchiad gan Tom Jones,<\/p>\n<blockquote><p>&#8220;Mynnwch ddosbarthiadau i astudio&#8230;Robert Owen; dysgeidiaeth y Tadau Eglwysig ar fasnach; dysgeidiaeth y Testament Newydd ar ryfel a neges Denmarc a&#8217;r Iwerddon i amaethwyr Cymru.&#8221;<\/p><\/blockquote>\n<p>Dyma danio&#8217;r fflam yn Silyn. Er nad oedd wedi clywed am sefydlu&#8217;r WEA ym 1903, wedi clywed Tom Jones (a oedd yn aelod o&#8217;r WEA) yn annerch, cafodd ei ysbrydoli. Anfonodd Tom Jones gopiau o&#8217;r cylchgrawn misol, &#8216;The Highway&#8217; iddo. Yr oedd Silyn a Tom Jones yn aelodau o Lys Coleg Bangor. Gofynnodd Silyn i Goleg Bangor am ddarlithydd a allai gynnal dosbarthiadau ar economeg yn y Blaenau. Ymatebodd y Coleg yn ffafriol. Wedi cysylltu ag Undeb y Chwarelwyr, dewiswyd Blaenau Ffestiniog fel y lle i gynnal y dosbarthiadau cyntaf. Meddai John Morris Jones, &#8220;Rydw i&#8217;n deall be sy arnoch chi ei eisiau &#8211; eisiau magu arweinwyr sy arnoch chi, on&#8217;te?&#8221; Roedd o wedi deall yn burion.<\/p>\n<p>Dyna sut y daeth y darlithydd ifanc, J F Rees i&#8217;r Blaenau i roi cyfres o 24 darlith ar Hanes Diwydiant. Daeth pump ar hugain i&#8217;r dosbarth, a thri ohonynt yn swyddogion yr Undeb. Dyma gychwyn Dosbarthiadau Tu Allan a barodd am flynyddoedd pan oedd Coleg Bangor yn berthnasol i&#8217;r bobl leol. Awgrymodd Silyn eu bod yn mynd i ardaloedd chwarelyddol eraill a chychwyn dosbarthiadau i weision ffermydd Sir Feirionnydd. Meddai Silyn yn Y Glorian yn 1911,<\/p>\n<blockquote><p>&#8216;Bydd y dynion hyn (fydd wedi dilyn y dosbarthiadau am dair blynedd) yn gaffaeliad mawr ar gynghorau lleol a sirol, ac yn ddinasyddion deallgar a chryfion mewn gwlad.&#8217;<\/p><\/blockquote>\n<p>Dyma wreiddiau Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yng ngogledd Cymru.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/03\/13\/ail-hanner-bywyd-silyn\/\"><em>Darllenwch ran 2, Ail hanner bywyd Silyn.<\/em><\/a><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dwi&#8217;n gwenu wrth feddwl amdanynt \u2013 Lenin a Silyn yn sgwrsio yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn Llundain lle daethant i &#8216;nabod ei gilydd tua 1903. Ar yr olwg gyntaf, does &hellip; <\/p>\n<p class=\"link-more\"><a href=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/\" class=\"more-link\">Parhau i ddarllen<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Dyddiau cynnar Silyn&#8221;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":94,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[22,24,21,23],"class_list":["post-93","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","tag-dyffryn-nantlle","tag-nebo","tag-silyn","tag-vladimir-lenin","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.2 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Dyddiau cynnar Silyn - undod<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Dyddiau cynnar Silyn - undod\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Dwi&#8217;n gwenu wrth feddwl amdanynt \u2013 Lenin a Silyn yn sgwrsio yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn Llundain lle daethant i &#8216;nabod ei gilydd tua 1903. Ar yr olwg gyntaf, does &hellip; Parhau i ddarllen &quot;Dyddiau cynnar Silyn&quot;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"undod\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2019-02-26T13:27:57+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2019-03-13T20:21:17+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/robert-silyn-roberts.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"388\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"576\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Angharad Tomos\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@undodcymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Angharad Tomos\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"8 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/\"},\"author\":{\"name\":\"Angharad Tomos\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9c759962b0be54e31626a546e681812e\"},\"headline\":\"Dyddiau cynnar Silyn\",\"datePublished\":\"2019-02-26T13:27:57+00:00\",\"dateModified\":\"2019-03-13T20:21:17+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/\"},\"wordCount\":1695,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/robert-silyn-roberts.jpg\",\"keywords\":[\"Dyffryn Nantlle\",\"Nebo\",\"Silyn\",\"Vladimir Lenin\"],\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/\",\"name\":\"Dyddiau cynnar Silyn - undod\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/robert-silyn-roberts.jpg\",\"datePublished\":\"2019-02-26T13:27:57+00:00\",\"dateModified\":\"2019-03-13T20:21:17+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/robert-silyn-roberts.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/robert-silyn-roberts.jpg\",\"width\":388,\"height\":576},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Dyddiau cynnar Silyn\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"name\":\"undod\",\"description\":\"Annibyniaeth Radical i Gymru\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization\",\"name\":\"undod\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png\",\"width\":190,\"height\":190,\"caption\":\"undod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru\",\"https:\/\/x.com\/undodcymru\",\"https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/\",\"https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9c759962b0be54e31626a546e681812e\",\"name\":\"Angharad Tomos\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/e567fc92524cc06ad82c856e93251ef3406e3213bfd7080c662ff8e4ec998075?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/e567fc92524cc06ad82c856e93251ef3406e3213bfd7080c662ff8e4ec998075?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/e567fc92524cc06ad82c856e93251ef3406e3213bfd7080c662ff8e4ec998075?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Angharad Tomos\"},\"url\":\"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/angharadtomos\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Dyddiau cynnar Silyn - undod","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Dyddiau cynnar Silyn - undod","og_description":"Dwi&#8217;n gwenu wrth feddwl amdanynt \u2013 Lenin a Silyn yn sgwrsio yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn Llundain lle daethant i &#8216;nabod ei gilydd tua 1903. Ar yr olwg gyntaf, does &hellip; Parhau i ddarllen \"Dyddiau cynnar Silyn\"","og_url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/","og_site_name":"undod","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","article_published_time":"2019-02-26T13:27:57+00:00","article_modified_time":"2019-03-13T20:21:17+00:00","og_image":[{"width":388,"height":576,"url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/robert-silyn-roberts.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Angharad Tomos","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@undodcymru","twitter_site":"@undodcymru","twitter_misc":{"Written by":"Angharad Tomos","Est. reading time":"8 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/"},"author":{"name":"Angharad Tomos","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9c759962b0be54e31626a546e681812e"},"headline":"Dyddiau cynnar Silyn","datePublished":"2019-02-26T13:27:57+00:00","dateModified":"2019-03-13T20:21:17+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/"},"wordCount":1695,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/robert-silyn-roberts.jpg","keywords":["Dyffryn Nantlle","Nebo","Silyn","Vladimir Lenin"],"articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/","name":"Dyddiau cynnar Silyn - undod","isPartOf":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/robert-silyn-roberts.jpg","datePublished":"2019-02-26T13:27:57+00:00","dateModified":"2019-03-13T20:21:17+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/#primaryimage","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/robert-silyn-roberts.jpg","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/02\/robert-silyn-roberts.jpg","width":388,"height":576},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/undod.cymru\/2019\/02\/26\/dyddiau-cynnar-silyn\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/undod.cymru\/en\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Dyddiau cynnar Silyn"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#website","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","name":"undod","description":"Annibyniaeth Radical i Gymru","publisher":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/undod.cymru\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#organization","name":"undod","url":"https:\/\/undod.cymru\/en\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","contentUrl":"https:\/\/undod.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/cropped-Undod-Eicon.png","width":190,"height":190,"caption":"undod"},"image":{"@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/undodcymru","https:\/\/x.com\/undodcymru","https:\/\/www.instagram.com\/undodcymru\/","https:\/\/www.youtube.com\/channel\/UC2p51r8PTDxeVjMyjB0FViw"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/undod.cymru\/en\/#\/schema\/person\/9c759962b0be54e31626a546e681812e","name":"Angharad Tomos","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/e567fc92524cc06ad82c856e93251ef3406e3213bfd7080c662ff8e4ec998075?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/e567fc92524cc06ad82c856e93251ef3406e3213bfd7080c662ff8e4ec998075?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/e567fc92524cc06ad82c856e93251ef3406e3213bfd7080c662ff8e4ec998075?s=96&d=mm&r=g","caption":"Angharad Tomos"},"url":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/author\/angharadtomos\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/93","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=93"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/93\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":111,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/93\/revisions\/111"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/94"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=93"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=93"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/undod.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=93"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}