Yn yr ail bennod o’i ddadansoddiad teiran o gyflwr y genedl, mae Gareth Leaman yn esbonio apel Reform…

Mae cynnydd Reform yn symptom o fethiant rhyddfrydiaeth

Mae natur datganoli Cymru a ddisgrifiwyd yn fy mlog blaenorol, ynghyd â’r adlach ehangach yn erbyn cyfalafiaeth ryddfrydol, yn gadael Llafur Cymru mewn cyflwr angheuol, yn wyneb grym gwleidyddol fel Reform. Fel y nodwyd yn fy adroddiad Caerffili,

‘Llafur Cymru yw ymgorfforiad gwleidyddol [y dosbarth gweinyddol]: y rhyng-reolwyr (middle-managers) pennaf, a’r Senedd y sefydliad pennaf ar gyfer y cyfryngu goddefol rhwng cyfalaf, y wladwriaeth a’r cyhoedd. Gyda’r pwerau economaidd lleiaf posibl (y mae Llafur Cymru wedi gwrthod ehangu tro ar ol tro, cofiwch), ni all datganoli gyflawni dim mwy na thrin symptomau cyni ariannol San Steffan, a hynny yn wamal iawn.

Ar y gorau mae’n ceisio lleddfu ychydig ar ddiffyg dynoliaeth y Torïaid. Ar y gwaethaf, mae’n mewnoli ac yn ymgorffori rhesymeg neo-ryddfrydiaeth sydd wedi plagio pob lefel o lywodraethiant y DU ers degawdau. Ni ddylai neb synnu bod cefnogaeth i’r blaid – a hyder yn y sefydliad y mae wedi’i redeg ers 25 mlynedd – yn lleihau yn unol â’r cynnydd byd-eang hwn mewn anfodlonrwydd.’

(Mae’r rhan fwyaf o’r erthygl honno – a phopeth sy’n egluro dylanwad Reform UK ar wleidyddiaeth Cymru – yn seiliedig ar y ddamcaniaeth hon. Felly, os am ddealltwriaeth ddyfnach: eto, ewch i’w ddarllen os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hynny.)

Rhaid deall poblogrwydd Reform fel ffenomen ‘gwrth-sefydliad’

Ni fydd gwrthwynebiad trefniadol i Reform yn cyflawni llawer nes iddo gydnabod Reform fel grym ‘gwrth-sefydliad’.

Yn amlwg, mae cyfalaf yn methu. Neu, yn gywirach, mae cyfalafiaeth yn methu’r bobl: mae cyfalafiaeth ei hun yn parhau i fod yn hyfyw. Mewn termau real, mae rheolaeth honedig o’r economi yn gynyddol analluog i gynnal amodau byw digonol i’r mwyafrif, tra’n parhau i atgynhyrchu amodau cronni cyfoeth ar gyfer lleiafrif elitaidd, cynyddol ddetholus. Ni all ein ceidwaid economaidd rhyddfrydol cydnabod na dod i’r afael â hyn, ac maent wedi treulio degawdau yn mynnu bod popeth yn strwythurol gadarn, hyd yn oed wrth i’r drefn gymdeithasol ddadfeilio o’u cwmpas.

I’r llanast hwn mae pobl fel Reform – a’r gwleidyddiaeth y maent yn ei chynrychioli – yn camu: gan osgoi a hefyd manteisio ar argyfyngau cyfalaf – ac arddel ffurf ar ‘wrth-gyfalafiaeth’, mewn ystyr wyrdroëdig – er mwyn sefydlu eu hunain fel buddugwyr diweddaraf, diwethaf y sustem. Trwy hyn, maent yn cydnabod methiannau cyfalafiaeth yn gyfan gwbl, y mae’r gymdeithas drylliedig yn eu cydnabod ac yn uniaethu â – ond yn gadael i’r ‘sefydliad rhyddfrydol’ i’w amddiffyn.

Unwaith eto, o’r erthygl ar Gaerffili:

‘Wrth i oddefgarwch i’r sefydliad gwleidyddol chwalu, rydym wedi gweld cynnydd cydamserol yn y ‘gwrth-elitaidd’: nid gwrth-gyfalafwyr fel y cyfryw, ond y rhai a sydd yn derbyn canmoliaeth fel rhai sydd wedi meistroli cyfalaf at eu dibenion eu hunain, mewn gwrthwynebiad i reolwyr ‘cyfalaf’ ymysg y gweision cyhoeddus, sy’n goruchwylio’n uniongyrchol managed decline ein cymunedau.’

Felly, mae apêl Reform yn gorwedd yn ei  gydnabyddiaeth o fethiant systemig, tra’n honni eu bod yn gallu bargeinio a chyfalaf, er mwyni sicrhau y gwerth mwyaf i’w bleidleiswyr craidd.  Dyma ffurf ar wrth-sefydliadaeth adweithiol. Fel rydw i wedi nodi mewn traethawd blaenorol:

‘Trwy eu llwyddiant, mae ffigurau o’r fath yn gosod y llwybrau ar gyfer negodi didostur o dirwedd cyfalafiaeth, gan ddangos ffyrdd o ‘fargeinio’ â chyfalaf er mwyn ffynnu (neu o leiaf oroesi) o fewn rhwymau ei galedi. P’un a gânt eu cyflwyno fel dyn cyffredin yn brwydro yn nannedd anfantais, neu’r “dyn cryf” buddugoliaethus (neu elfennau o’r ddau), mae gan bob ‘cyfalafwr’ asgell dde newydd nodedig fersiwn eu hun o’r un cenhadaeth sylfaenol, sy’n ddigrybwyll gosod cyfalaf ei hun fel y ‘gelyn’. Mae’n datgan, “gall gofynion cyfalaf eich rhwygo’n ddarnau man, ond dilynwch fi a gallaf eich helpu i wneud y gorau ohono”.⁠

Lle maent yn caffael dylanwad gwleidyddol, gellir cynllunio a mapio llwybrau tarw pellach, mwy eithafol, er mwyn helpu symud ymlaen yn y gymdeithas hon lle mae gofyn ffynnu neu farw. Y ffordd pennaf o wneud hyn yw trwy ddileu neu atal rhannau helaeth o’r ‘gystadleuaeth’ o’r farchnad, neu waredu y rhwystrau sefydliadol tybiedig i lwyddiant: mewnfudwyr, menywod, bradwyr yr asgell chwith, y wladwriaeth gymdeithasol, ac ati.’

Nid oes gofyn datgan bod yr addewidion o iachawdwriaeth yma yn freuddwydion gwrach ar y cyfan. Ar sawl wedd, mae gwleidyddiaeth Reform ond yn fater o ddwysáu amrwd diwylliant Thatcheriaeth sydd eisoes, er mawr tristwch, yn dominyddu diwylliant modern Prydain: rhyddid ffug yr unigolyn, yn seiliedig ar fygu rhyddid unigol eraill, ac ar draul rhyddfreiniad gwirioneddol trwy gymundodaeth.

Y Gymru ôl-ddiwydiannol yw’r lle perffaith i wleidyddiaeth Reform bwrw gwreiddiau

Mae Cymru wedi dioddef dirywiad economaidd-gymdeithasol ers degawdau, gyda dad-ddiwydiannu yn ildio i holl ganlyniadau maleisus marchnadeiddio. Prin yw’r bywyd economaidd sydd ar ôl y tu hwnt i waddol sefydliadol a sylfaen ddiwydiannol wan: cyrff cyhoeddus, y sector gwasanaethau a gorllewin gwyllt hunangyflogaeth – â gweddillion gwladwriaeth gymdeithasol yn suddo o dan dilyw yr argyfyngau y mae gwaith ansicr a swyddi iselradd yn eu creu.

The Welsh Way – Parthian Books

Nid yw cyfalafiaeth bellach yn ehangu trwy ffiniau gofodol newydd, ond trwy ddatgymalu tiriogaethau cynhyrchu hesb y presennol, ac ailfeddiannu’r adfeilion. Mae diffyg sofraniaeth economaidd Cymru yn ei gadael yn arbennig o agored i orfodi’r ailgyfansoddi hwn arni. Rydym wedi gweld hen ddigon eisoes: perfeddwlad gweithgynhyrchu wedi’i thrawsnewid yn  wasgarfa o warysau a chanolfannau galw, ei thrigolion yn cael eu cynnig fel llafur rhad i’w ymelwa arnynt, ei thir wedi’i feddiannu ar gyfer stoc tai preifat.

Mae amodau o’r fath yn ddelfrydol i “genedlaetholdeb trychineb” Reform gydio. Mae’r rhwystredigaeth a achoswyd gan y setliad gwleidyddol presennol, a’i anallu i greu cymdeithas ffyniannus, yn gwasanaethu gwleidyddiaeth o ddrwgdeimlad a gelyniaeth. Yn ei thro, mae’r wleidyddiaeth hon yn cynhyrchu’r cydsynio i ymostwng ni ymhellach i grafangau’r farchnad – a’r holl drallod sy’n gysylltiedig â hynny.

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.