Egwyddorion

Rydym yn fudiad democrataidd, gwrth-heiararchaidd, gweriniaethol sydd wedi’i sefydlu i sicrhau annibyniaeth i Gymru a dyfodol gwell i’w phobl.

1(i) Mae’r wladwriaeth Brydeinig yn gyfundrefn wrth-ddemocrataidd, rhyfelgar ac ymerodraethol sy’n gweithredu er lles yr elit ac ar draul y gweithwyr, y difreintiedig a’r amddifad.

(ii) Safwn yn erbyn siofiniaeth genedlaethol a gwrthwynebwn hiliaeth ac anoddefgarwch yng Nghymru yn eu holl ffurfiau. Ymwrthodwn yn llwyr â ffasgiaeth a neo-ffasgiaeth.

(iii) Rhaid i Gymru annibynnol fod ar flaen y gad o ran cydsefyll rhyngwladol. Mynegwn ein cefnogaeth i bobloedd dan orthrwm, mudiadau’r chwith a mudiadau blaengar dros annibyniaeth ar draws y byd, gwrthodwn rhyfelgarwch a rhyfeloedd ymerodraethol a safwn dros heddwch.

2) (i) Safwn dros warchod ein hamgylchedd naturiol gan ei fod yn hanfodol i’n dyfodol ni gyd fel Cymry a thrigolion y ddaear i sicrhau bywyd o werth i ni, ein plant a’r cenedlaethau sydd i ddod.

(ii) Dylai moddion  cynhyrchu economaidd ac adnoddau naturiol Cymru fod yn eiddo i’w phobl. Gwelwn gyfiawnder, gofal a chynaliadwyedd yn gonglfeini’r economi ac yn sylfaen i lewyrch cenedl, nid elw a chyfalaf.

(iii) Cefnogwn economi moesol i Gymru; gwrthwynebwn y diwydiant rhyfel a’r diwydiant carchardai.

3 (i) Y Gymraeg yw priod iaith ein cenedl ac mae’n perthyn i bawb yng Nghymru. Mynnwn addysg Gymraeg i bawb a’i defnydd fel iaith beunyddiol ymhob agwedd ar fywyd. Gweithredwn dros ei ffyniant fel iaith gymunedol ymhob rhan o’r wlad.

(ii) Mynnwn gyfiawnder i ferched, pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig, pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws, mudwyr a phobl anabl. Brwydrwn gyda’n gilydd dros gymdeithas lle caiff pawb eu rhyddhau o ormes.

(iii) Mynnwn loches a gofal iechyd o safon i bawb, ac addysg hollgynhwysol sy’n rhad ac am ddim i bobl o bob oedran.

Ein bwriad yw defnyddio ein hawliau democrataidd i ymgynull, i fynegi’n rhydd ac i wrthdystio. Defnyddiwn yr iawnderau yma’n ddyfal, gan weithredu’n uniongyrchiol a heddychlon er mwyn sefydlu ein hamcanion a hybu ein gwerthoedd.