Mae symbolau yn bwysig. Mae nhw’n llunio ein hamgyffred o pwy ydym ni. Y symbol amlycaf o’n darostyngiad yw’r frenhiniaeth. Ond mae’n fwy na hynny. Mewn cyfnod lle mae’r gwahaniaethau rhwng y tlawd a’r cyfoethog yn mynd yn fwy-fwy amlwg, lle mae tlodi bwyd a thanwydd yn rhemp, lle mae pobl heb gartrefi, mae bodolaeth teulu mor freintiedig yn codi dau fys ar bawb sydd y tu allan i’r elit. Defnyddir Jac yr Undeb a’r Windsors fel arf gwleidyddol i gyflyru pobl i dderbyn y drefn.

Darllenwch erthygl Dim Brenhiniaeth: diffinio a methrin Cymru ddemocrataidd gan Carl Morris yn 2019. Mae’n dreiddgar ei ddadansoddiad.

I’r sefydliad Prydeinig, mae atgyfnerthu seiliau grym yn bwysig. Drwy ddefnyddio pinacl symbolaidd y wladwriaeth, sef y frenhiniaeth, ym mhasiant jiwbilî platinwm Musus Windsor ddechrau Mehefin, gwneir ymdrech i dynnu sylw oddi wrth broblemau dyrys y frwydr o fyw o ddydd i ddydd, a chynnig syrcas i ddiddori. Daw’r ymadrodd: “Gadewch iddynt fwyta cacennau” i’r meddwl……..

Caiff y lluoedd arfog le blaenllaw yn y ‘dathlu’, yn ôl y disgwyl, gan mai gwisgo lifrai yw un o hoff bethau y frenhiniaeth. Bydd cyngerdd, gyda sylwebaeth gan Huw Edwards yn naturiol, yn cynnwys sawl “trysor cenedlaethol” honedig, fel Cliff Richard, Alan Titchmarsh – a Basil Brush! Darlledir y cyfan wrth gwrs, a bydd sgrin fawr ym Mharc Bute, Caerdydd, rhag amddifadu Cymru fach o’r syrcas.

Gall gweriniaethwyr ymwrthod a’r cyfan drwy ddal i weithio drwy’r cyfan, neu drwy beidio a mynd allan o’r tŷ, neu fynd ar wyliau dramor. Osgoi unrhyw barti stryd ar bob cyfri. Ac os am bostio llythyr, gosodwch y stamp ben ucha’n isa!

Oni ddylem edrych y tu draw i’r jiwbilî a gofyn – be nesaf?

Yn barod, mae ymatebion gwrth-frenhinol wedi bod yn amlwg yn ddiweddar. Ffieiddiwyd at Andrew, sy wedi talu miliynau o arian i ferch mae’n honni na chyfarfu a hi erioed. Chafodd William a Cêt fawr o groeso yn y Caribi, nac ychwaith ei ewyrth Edward a’i wraig Sophie – oherwydd cysylltiad y frenhiniaeth â chaethwasiaeth. Gresynwyd at y ffaith fod Carlo yn agor y Senedd yn Llundain yn ei wisg ysblennydd a thrymlwythog o fedalau (am beth, yn hollol, y cafodd o rheiny?), yn darllen rhaglen ddifäol y Llywodraeth tra bod y goron imperialaidd sy’n werth miliynau ar filiynau yn ei ymyl. Bu cefnogwyr tîm peldroed Lerpwl yn gwawdio anthem Lloegr a’r tywysog William yn Wembley yng ngêm derfynol cwpan yr FA.

Bellach, rhaid edrych y tu hwnt i amser Mrs Windsor, a dangos gwrthwynebiad i barhad y frenhiniaeth. Mae rhesymau ymarferol yn ogystal a rhai ideolegol. Dyma i chi rai pethau i’w hystyried.

  1. Y Senedd – pam y dylai Aelodau Senedd Cymru orfod tyngu llw o ffyddlondeb i’r goron? Nid yw hyn yn ofynnol yng Ngogledd Iwerddon, gan na fyddai y Gweriniaethwyr yn fodlon tyngu y fath lw, a felly ni fyddai Cytundeb Gwener y Groglith wedi digwydd.
  2. Stad y Goron – pam na chaiff Cymru reolai yr asedau yma, fel y mae’r Alban yn ei wneud? Mae’r frenhines ei hun ar hyn o bryd yn derbyn 25% o incwm Stad y Goron (canran a gododd o 15% yn 2017 er mwyn talu am atgyweirio Palas Buckingham). Tyfodd asedau adnewyddol y Stad o £49.2 miliwn yn 2020 i £549.1 miliwn yn 2021.
  3. Y brenin Carlo – pam y dylem ei dderbyn? Byddai’n cadarnhau sustem ganoloesol sy’n seiliedig ar anghyfartaledd a genedigaeth fraint.
  4. Tywysog Cymru – a fydd yna arwisgo i William fel a gafwyd i Carlo yn 1969? Dyna stynt wleidyddol gan Lywodraeth oedd yn ofni twf cenedlaetholdeb yng Nghymru.
  5. Y sustem “anrhydeddau” sy wedi ei enwi ar ôl un o’r sefydliadau mwyaf treisgar a fu erioed – sef yr Ymerodraeth Brydeinig. Pa mor aml y clywir “Cymry da” yn honni eu bod yn derbyn gong ar ran eu sefydliad, gan roi eu pennau nhw a’u mudiad dan gesail y frenhiniaeth? Pa mor aml y clywn am bobl yn prynu eu hanrhydeddau? Pam y dylem barhau efo sustem efo hierarchiaeth sy’n ddibynnol ar arian a dosbarth?

Y gwir yw na ddylai hyn fod yn fater trafod mewn unrhyw wlad, gan gynnwys Lloegr. I Gymru, mae’n cynrychioli ein darostyngiad, ac yn arf i’n cadw yn daeog. Pwy na chywilyddia wrth weld pobl yn ymgreinio i unrhyw ymwelydd o’r teulu hwn, neu’n chwerthin yn orffwyll wrth wrando ar un o’u jôcs tila? Pry yn y pren cymdeithasol yw’r frenhiniaeth, a gorau po gyntaf i’r sefydliad beidio a bod.

Boed i’r jiwbilî hwn fod y jiwbilî olaf!

Dinasyddion nid taeogion!

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.