Os gofynnwch i ambell un o’r gwybodusion am Gyngor Caerdydd, ei gweithgaredd a’r cynllwynio, mae’n lled bosib y clywch geiriau megis ‘Nid Huw Thomas sy’n rhedeg y cyngor’. Ac os nad arweinydd y Cyngor sy’n ei arwain, pwy yn union, y mae’n debyg y gofynnwch, sydd wedi ymgymryd â’r rôl honno? A phwy gall y person yma bod, er gwaethaf ei rym, a ystyriwyd mor amhoblogaidd mae’n debyg, fel nad oedd yno i’r ‘photo-op’ yn lansiad maniffesto diweddar Llafur Caerdydd? Wel, efallai bydd yr enw a gaiff ei adrodd, yn gynllwyngar o bosib, yn canu cloch; “Russell Goodway, wrth gwrs.”

A’r cwestiwn dilynol amlwg bydd, pwy yn union yw Russell Goodway, a pham fe sydd â’r grym y tu ôl i’r orsedd? I’r rhai o oedran penodol, bydd Goodway yn ffigwr adnabyddus a nodedig iawn, sef arweinydd blaenorol Cyngor Caerdydd cyn i Lafur golli grym yn 2004. Mae ei gefndir hefyd yn mynd beth o’r ffordd i esbonio gwleidyddiaeth leol Caerdydd heddiw.

Y dyn, y chwedl

Yn fab i swyddog undeb, mae Goodway wedi bod yn ymwneud â gwleidyddiaeth ers ei gyfnod ym Mhrifysgol Abertawe. Daeth yn gynghorydd cymuned yn 19 oed, yn gynghorydd sir yn 28 oed, ac yr arweinydd cyngor ieuengaf ym Mhrydain yn 35 oed. Erbyn iddo gael ei ddisodli fel arweinydd yn 2004 (gan Rodney Berman fel arweinydd llywodraeth leol Democratiaid Rhyddfrydol leiafrifol), roedd wedi bod yn y rôl am 12 mlynedd. Pardduwyd ei enw da gan gyfres o faterion dadleuol a sgandalau yn ystod ei gyfnod fel arweinydd Cyngor Caerdydd, ac mae’n mynd egluro rhywfaint pam nad oedd ymhlith y ffefrynnau i fod yn arweinydd ar ôl i’w blaid ddychwelyd i rym yn 2012.

Bydd y materion dadleuol hyn, er nad ydynt yn hysbys i bleidleiswyr iau, yn faich y mae Goodway yn eu cario i lawer un sydd â chof hirach, a gellir dod o hyd i fanylion amdanynt yn y parth cyhoeddus o hyd. Maent yn cynnwys:

Ffraeo

Yn ogystal ag isafbwyntiau a’r isafbwyntiau is yng nghyfnod Goodway wrth y llyw, roedd ei deyrnasiad fel arweinydd y Cyngor yn cynnwys ffraeo cyson o fewn y Blaid Lafur leol, a oedd yn effeithio ar wleidyddiaeth genedlaethol, yn enwedig gyda’r Prif Weinidog Rhodri Morgan. Fel yr adroddwyd yn Wales Online, roedd cecru rhyngddo a Goodway wedi ymledu i’r parth cyhoeddus, ar ôl i Goodway gyhuddo’r Prif Weinidog o geisio manteisio ar etholiad o blaid ymgeisydd annibynnol – yn y bôn, yng ngolwg Goodway, yn creu sefyllfa lle byddai’n cael ei drechu yn etholiad y cyngor ym mis Mai 2004.

Mewn sylwadau a wnaed ar 15 Mehefin 2004, dywedodd Rhodri Morgan ei fod yn falch iawn bod Mr Greg Owens wedi cymryd yr awenau fel arweinydd y grŵp Llafur ar Gyngor Caerdydd.

“Mae’n bwysig bod cysgod Russell Goodway yn cael ei godi oddi ar y grŵp cyn gynted â phosibl. Mae angen cael gwared â’r ymraniadau yn y grŵp, fel nad yw pobl bellach yn cael eu hystyried o blaid Russell Goodway neu’n wrth-Russell Goodway, ond yn hytrach yn cael eu barnu ar eu gallu i wneud y gwaith. Mae Greg Owens yn ddyn rhesymol iawn a’r arweinydd gorau posibl i ddod â’r gwahanol garfannau at ei gilydd.”

At hynny, dywedodd y Prif Weinidog nad oedd yn credu y dylai Mr Goodway fod wedi sefyll yng Nghaerdydd yn etholiadau’r cyngor. “Roedd ei gysylltiad â’r ardal mor denau,” meddai. “Roedd ei gymwysterau’n ofnadwy o denau ac fe basiodd drwy’r Blaid Lafur a deddfwriaeth genedlaethol gan ffracsiwn bach iawn.” Roedd hefyd yn ymwneud â sefyllfa chwerthinllyd o rentu hen dŷ cyngor yn Nhrelái. “Rwy’n credu y byddai wedi bod yn well iddi sefyll ym Mro Morgannwg (lle mae ganddo gartref hirsefydlog).”

Yr ymerodraeth yn taro’n ôl

Er gwaethaf y record frith a’r gorffennol tymhestlog hwn, arhosodd Goodway fel cynghorydd yn Nhrelái, daeth yn brif swyddog gweithredol Fferylliaeth Gymunedol Cymru yn 2009 a dyfarnwyd OBE iddo o dan lywodraeth Geidwadol yn y DU yn rhestr anrhydeddau’r flwyddyn newydd 2020 am wasanaethau i lywodraeth leol. Yn fwy perthnasol o ran cyflwr presennol Caerdydd, daeth yn ôl i Gabinet Cyngor Caerdydd ar ôl buddugoliaeth etholiadol Llafur yn 2012 fel yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd a Chyllid, dan arweinyddiaeth y ‘Supernan’ Heather Joyce.

Yn ystod y cyfnod hwn, penodwyd nifer o uwch swyddogion gweithredol gan y Cyngor a fyddai’n gwbl sylfaenol wrth ddatblygu teyrnasiad Llafur dros y degawd nesaf, ond cafodd esgyniad Goodway ei dorri’n fyr gan ymddiswyddiad annhymig Joyce, oherwydd salwch ei gŵr. Yn yr etholiad dilynol ar gyfer arweinydd dewiswyd Phil Bale, a oedd yn mwynhau dylanwad cynyddol yn y cabinet, a chafwyd gwared â Goodway a chynghreiriaid iddo fel Huw Thomas a Lynda Thorne.

Ni wnaethant, wrth gwrs, dderbyn hyn yn ddidrafferth, ac yn ystod y tair blynedd nesaf buont yn ymdrechu i ddadsefydlogi’r blaid a thanseilio Bale, a nodweddwyd hyn gan bleidlais o ddiffyg hyder yn 2015. Gwnaethant hefyd roi cynnig ar y syniad o greu Maer i Gaerdydd. Fe wnaeth eu gweithredoedd ddifrod yn y pen draw, ac er i Bale arwain y blaid i fuddugoliaeth yn 2017, cafwyd gwared ohono’n fuan wedyn.

Mae’r hyn a ddigwyddodd nesaf yn destun rhywfaint o ddyfalu, ond mae sibrydion bod yr etholiad wedi’i gynnal gyda’r bwriad o symud y tu hwnt i garfannau de a’r chwith. Fodd bynnag, yn ôl un fersiwn o’r stori ‘breninorseddu’, camodd y rhai ar y dde i’r naill ochr i gronni’r bleidlais y tu cefn i Huw Thomas, gan adael llwybr clir iddo at yr arweinyddiaeth. Yn ôl daeth Lynda Thorne i’r cabinet, ac yn ôl daeth Russell Goodway, y tro hwn yn Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu.

Y mae yna le i’r darllenydd ddyfalu pa ddylanwad y gallai’r penodiad hwn fod wedi’i gael ar ‘ddatblygiad’ y ddinas dros y pum mlynedd diwethaf. Mae cefnogwyr y Cynghorydd Goodway yn aml yn amddiffyn ei ymddygiad drwy gyfeirio at ei record wrth “gyflawni”. Fodd bynnag, mae’n amlwg ei fod wedi methu â darparu gorsaf fysiau nac arena yn ei gyfnod o bum mlynedd yn y swydd, er iddo gyfeirio at y rhain fel ei flaenoriaethau yn 2017. Ymhellach, byddai’n esgeulus inni beidio â’ch cyfeirio at y wefan Calamity Cardiff sy’n manylu ar rai o’r penderfyniadau mwyaf trychinebus gan Gyngor Caerdydd, sydd wedi arwain at brosiectau adeiladu truenus yng nghanol y ddinas, diffyg tai cyngor a thai fforddiadwy, dymchwel coed, mannau gwyrdd sy’n diflannu a diraddio treftadaeth y ddinas.

Yn fwy penodol mae’n cyfeirio at Arena Bae Caerdydd, sydd wedi bod yn destun y dadlau mwyaf diweddar i’r Cyngor, ar ôl i’r gwaith clirio ddechrau ar Barc Silurian a’r cyffiniau, bythefnos yn unig cyn yr etholiadau. Chwarae bach yw tarfu ar adar yn ystod y tymor nythu, fodd bynnag, yng ngoleuni nifer o gwestiynau – o dryloywder i gynaliadwyedd – sydd eisoes wedi’u codi, yn enwedig ynghylch ariannu’r prosiect gyda gwerth £200 miliwn o arian cyhoeddus. Fel prosiect mynwesol Goodway, sydd eisoes ychydig flynyddoedd ar ei hôl hi, bydd yn cymryd mwy nag ychydig o wyau i atal y datblygiad hwn.

Gwaith dyfalu yw tybio’r hyn y gallai pum mlynedd arall o reolaeth Lafur arwain ato ar gyfer ein prifddinas, ond ar sail y sawl a’r hyn y mae Huw Thomas wedi’i alluogi hyd yn hyn, bydd angen i bleidleiswyr blaengar Caerdydd feddwl o ddifri am eu pleidlais. Tra bod Llafur Cymru yn y Senedd wedi ymrwymo i becyn o bolisïau lled-radical yn eu cytundeb gyda Phlaid Cymru, mae Llafur Caerdydd yn Neuadd y Sir, ychydig lathenni i lawr y ffordd, eisoes wedi cychwyn ar lwybr tra gwahanol.

Ymuno â'r Sgwrs

1 Sylwadau

  1. Yr un hen wynebau Llafur i fewn unwaith eto….Rwy’n wirioneddol yn bryderus dros ddyfodol addysg Gymraeg yn y ddinas gyda bobol fel Goodway yn y cyngor. Mae wedi gwneud nifer o sylwadau yn gorffennol sydd yn rhagfarnllyd yn erbyn yr iaith, S4C a siaradwyr Cymraeg. Duw a’n helpo ni.

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.