Wrth inni ailddechrau’r blog ar gyfer y cyfnod etholiadol, braf yw derbyn neges o gefnogaeth gan Leanne Wood, sydd newydd ddechrau ar brosiect bach ar gyfer etholiad y Senedd draw ar Substack.

Mae’r Gymru wleidyddol heddiw yn haeddu trafodaeth a dadansoddiad. Mae newidiadau mawr ar y gweill, ac mae adroddiannau, neu naratifau, yn cael eu herio o bob cyfeiriad.

Mae rhai ohonom wedi bod o gwmpas ar y chwith ers tro byd. Gall golwg hirdymor o’r fath ychwanegu dyfnder at ddadansoddiad gwleidyddol.

Mae’n werth nodi yn hynny o beth nad yw llawer o’n gwleidyddiaeth gyfoes yn ddim byd newydd.

Rwy’n gobeithio y bydd fy mhrofiad yn y byd gwleidyddol Cymreig, ynghyd â’r golwg hirdymor hon, yn galluogi cyfraniad i’n helpu ni gyd i wneud rhywfaint o synnwyr o’r byd gwleidyddol yr ydym yn troi ynddi ar hyn o bryd.

Rwy’n ysgrifennu’n rheolaidd ar Facebook. Rwy’n defnyddio’r platfform hwnnw a’r gynulleidfa rydw i wedi’i hadeiladu yno dros sawl blwyddyn i ysgogi, herio, darparu gwybodaeth, datblygu adroddiannau blaengar ac i ddinoethi’r dde eithafol a’r meddwl diog, ailadroddus. Mae’r “gwrth-gefnogwyr” yn gyrru ymgysylltiad ehangach (dim ond o dan amgylchiadau eithafol rwy’n blocio). Mae’r dudalen yn denu postio rheolaidd o dudalennau trefnu asgell dde eithafol, sy’n anfon eu dilynwyr i ymosod ar y lleisiau maen nhw am eu tawelu, gan amlygu fy negeseuon neu hen fideos Senedd yn aml.

Mae rhywfaint o’r cynnwys o Facebook yn haeddu cael ei lledaeu’n ehangach, gyda chynulleidfa nad sydd yno am y gynnen a’r cwympo mas.

Felly, fel treial ar gyfer y cyfnod etholiad, rydw i’n mynd i ysgrifennu ar Substack.

Bydd rhywfaint o’r deunydd yn ddarnau a bostiwyd yn flaenorol o Facebook. Bydd cynnwys newydd hefyd.

Mae’r rhai ohonom sy’n gwrthwynebu’r dde eithafol yn fwy o ran nifer nag y rhai sydd o’i plaid. Os gallwn ni gyfuno ein hymdrechion a gweithredu ar y cyd, rwy’n argyhoeddedig y gallwn ni ddatblygu adroddiant pwerus a pherswadiol sy’n seiliedig ar gymuned, cariad ac annibyniaeth go iawn.

Rydw i wrth fy modd bod Undod yn ailgychwyn, oherwydd bydd y blog hwn hefyd yn cyfrannu at ymdrech o’r fath. Byddwn ni’n cydweithio.

Felly os ydych chi’n gwylio’r gofod hwn, beth am gymryd cipolwg ar Substack a gwylio’r gofod draw fyna hefyd?

Ymlaen!

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.