Yn rhan olaf ei ddadansoddiad teiran mae Gareth Leaman yn pwyso a mesur yr her sydd o’n blaenau.
“Nid oes llawer i awgrymu na fydd Plaid Cymru, o fewn tymor neu ddau, yn ffeindio’u hunain yn yr un sefyllfa â Llafur Cymru nawr.”
Beth bynnag fo canlyniad etholiad y Senedd ym mis Mai, mae’n amlwg nad oes gan sefydliad gwleidyddol Cymru naill ai’r dulliau na’r ddealltwriaeth angenrheidiol i atal y math o wleidyddiaeth y mae Reform yn ei chynrychioli. Drwy gydol rhwygiadau’r degawd diwethaf – o Brexit, i brif weinidogiaeth Boris Johnson, i esgyniad Nigel Farage – mae wedi ymateb gyda’r un hen gân flinedig, gan gyfuno trefniadaeth di-rym a moesoldeb gwag.
Mae llywodraethiant rhyddfrydol yn parhau yng Nghymru, wedi’i rhwymo i’r syniad bod y drefn economaidd bresennol yn ei hanfod yn un cadarn a hyfyw, a bod ansefydlogrwydd gwleidyddol yn ddim ond gwyriad o’r norm, yn hytrach na symptom o uniongrededd sy’n methu. Ni all cynnig diagnosis dilys o wleidyddiaeth Reform: dim ond ei gondemnio fel camsyniad, gan ganiatau’r amodau materol i barhau; yr union amodau sy’n ei gwneud mor apelgar i’r bobl sy’n cael eu methu gan warcheidiad grym y presennol. Yn y bôn, mae’n anghymwys, mewn ystyr systemig a rhethregol, i wynebu mudiad asgell dde sy’n manteisio ar y setliad economaidd-gymdeithasol nychlyd y mae rhyddfrydiaeth yn parhau i’w amddiffyn.
Mae sylwebyddion a gwleidyddion fel ei gilydd yn parhau’n hunanfodlon yn eu hargyhoeddiad y bydd Reform naill ai’n gwywo o dan gyhuddiadau diddiwedd o ragrith, neu y gellir eu ceryddu a’u cywilyddio – ynghyd â’u darpar pleidleiswyr – yn ôl i ebargofiant. Nid yw’r naill strategaeth na’r llall erioed wedi gweithio, ac ni fyddant yn gweithio yma chwaith. Yn waeth na hynny: mae ceryddu darpar etholwyr Reform ond yn cynyddu apêl eu rhinweddau ‘gwrth-sefydliadol’. Mae hunandwyll y garfan Rhyddfrydol ond yn gwthio’r sawl maent wedi’u bradychu ymhellach i goflaid croesawgar yr asgell dde eithafol.
Peidiwch â gadael i’r arolygon barn eich twyllo, i’r naill gyfeiriad na’r llall – pa sut bynnag ffordd mae’r etholiad yma am fynd, byddwn ni wedi ein clymu mewn paradocs hirdymor, creulon. Y dulliau o drechu Reform go iawn – a’r gwleidyddiaeth maen nhw’n cynrychioli – yw’r union bethau sydd wedi eu dinistrio ac sydd wedi arwain at gynnydd Reform yn y lle cyntaf. Mae’r sylfeini cymdeithasol a wrthsafodd ton ar ôl ton o boblyddiaeth asgell dde mewn oesoedd blaenorol – cymunedau clos, gweithleoedd trefnus, sefydliadau lleol – wedi’u chwalu’n ddeilchion ledled y wlad. Mae’r wleidyddiaeth y mae Reform yn ymgorffori yn ymwela ar y dinistr hwn.
Mae llwybrau llygad (short cuts) Rhyddfrydol yn cynnig dim – ac, ymhellach, wedi cyfrannu’n uniongyrchol at ein sefyllfa bresennol. Yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd yn yr hirdymor yw ailadeiladu dulliau o’r math hanesyddol sy’n creu undod (rhai gwrth-gyfalafol yn y bôn) – neu’n fwy priodol, adeiladu o’r newydd, gan mai ychydig iawn sydd ar ôl i adeiladu arni. Mae angen ailwampio llwyr ar Gymru o ran ein ffyrdd o fyw a’r strwythurau sy’n cefnogi hynny: o’r isadeiledd i’r ymwybyddiaeth, ac yn ôl unwaith eto. Mae ei nacâd wedi digwydd o’r blaen; gall newid ar y fath raddfa ddigwydd eto. Mae’r her yn un o amser: bydd hyn yn cymryd degawdau; y perygl go iawn yw’r hyn y gall y dde ei gyflawni yn y bwlch rhwng cwymp rhyddfrydiaeth a’r gobaith o adferiad sosialaidd.
Er bod polau piniwn ar y cyfan yn awgrymu nad yw’n debygol, os bydd Reform yn ennill grym ym mis Mai, mae’n ymddangos taw methiant byddan nhw yn ôl pob tebyg, yn wyneb gweithredoedd diflas llywodraethu beunyddiol. Rydym eisoes wedi gweld hyn mewn cynghorau yn Lloegr. Os digwyddith hyn, yr ymateb rhyddfrydol tybiedig bydd y rhagdybiaeth bod y gefnogaeth i’r dde am ddiflannu pan fydd pobl yn gweld eu methiant o ran cyflawni ei haddewidion. Mae hyn, unwaith eto, yn hollol naïf a dyma lle mae’r perygl go iawn. Ni fydd Reform wedi dofi’r symudiadau a fydd yn codi eto fyth o rwystredigaeth yn wyneb methiant gwleidyddion i wella bywydau bob dydd pobl.
Os caiff Reform ei drechu’n gyfan gwbl ym mis Mai, bydd unrhyw frolio buddugoliaethus o’r chwith-canol yn rhy gynnar o lawer. Ceir ormodedd o obaith ofer, yn hytrach na dadansoddi pengaled o ran dehongli’r cynnydd ymddangosiadol o’r chwith-ryddfrydol ôl-Llafur. Er bod pleidiau traddodiadol yn y broses o gael eu gwrthod gan yr etholwyr (a pha mor barhaol yw hyn cawn weld), mae’n ymddangos bod blociau pleidleisio hirhoedlog yn parhau i raddau helaeth yn eu cyfanrwydd.
Mae’n werth cofio hyn oll wrth bwyso a mesur esgyniad ymddangosiadol Plaid Cymru i’r statws o ddarpar-llywodraeth. Mae tueddiadau eithafol cenedlaetholdeb Prydeinig Reform wedi gwneud ymateb Plaid yn rhy hawdd: mae’n wahoddiad i wrthwynebu gyda brand eu hunain o ddemocratiaeth gymdeithasol genedlaetholgar Gymreig, megis cyferbyniad syml â Reform. A hynny heb orfod gwthio’n galed am newid gwleidyddol ystyrlon a dadleuol ar delerau eu hunain.
Rydym wedi bod fan hyn o’r blaen, pan syrthiodd ymaith yr her i genedlaetholdeb adweithiol Boris Johnson trwy ymffrostio arwynebol, gan wastraffu unrhyw gyfle i greu rhwyg gwleidyddol gwirioneddol o fewn gwladwriaeth Prydain. Gyda’r holl broblemau aml-genhedlaeth y bydd yn eu hwynebu, a namau anorchfygol datganoli, nid oes llawer i awgrymu na fydd Plaid Cymru, o fewn tymor neu ddau, yn ffeindio’u hunain yn yr un sefyllfa â Llafur Cymru nawr.
Mae’r problemau cymdeithasol a fanylir arnynt yma yn sustemig, hirhoedlog nad oes modd goresgyn yn glou, yn sicr nid dros nos trwy newid llywodraeth yn unig, waeth pa mor hanesyddol y mae cwymp Llafur yn ymddangos inni. Mewn gwirionedd, cymryd awenau y Senedd yw’r peth gwaethaf all digwydd i bleidiau asgell chwith feddal sy’n gobeithio cynnal rhywfaint o egni gwrthryfelgar neu drawsnewidiol – oni bai bod modd iddynt fynegi hualau’r sefydliad i bleidleiswyr. Os taw’r canlyniad pennaf yw bod Plaid Cymru (a’i his-bartneriaid posib y Blaid Werdd) yn troi mewn i sefydliad technocrataidd di-rym newydd llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, bydd dial gwleidyddiaeth Reform yn waeth fyth. Y risg tymor byr i’r asgell chwith sosialaidd go iawn yw bod eu cefnogaeth i’r llywodraeth newydd hon yn rhy croch, a’u bod yntau yn eu tro yn cael eu drwgdybio ymhellach o ganlyniad.
Ac yna, wrth gwrs, mae bwgan San Steffan. Beth bynnag a ddaw ym mis Mai, mae Cymru’n parhau ar drugaredd yr Etholiad Cyffredinol Prydeinig nesaf, lle mae’n ymddangos yn llawer mwy tebygol y gallai Reform ennill pŵer. Ar hyn o bryd, mae’r potenstial o allu diddymu pob gwrthwynebiad – a phob wedd ar yr hyn y mae pobl yn hoff o ystyried yn ‘Gymreictod’ – yn dod yn fwy tebygol. Byddaf yn ysgrifennu yn fanylach am hyn wedi’r etholiad.
Felly, beth bynnag fydd canlyniad yr etholiad Senedd hwn, mae’r amodau sy’n gyrru dyrchafu grym yr asgell dde am barhau’n anochel. Mae’r trybini yma yn fwy na Reform, ac yn sicr yn broblem fwy nag y gall eu gwrthwynebwyr etholiadol goresgyn. Os bydd pobl yn parhau i fethu â deall amodau’r llithro yma tua’r dde – a sut i’w atal – ein ffawd bydd gwylio’n ddiymadferth wrth iddo drawsnewid Cymru ar ei ddelw ei hun.
