Rwy’n ysgrifennu cwta pythefnos ar ôl ymadael o’m swydd etholedig fel Dirprwy Arweinydd Plaid Werdd Cymru – plaid yr wyf wedi gweithio’n galed drosti dros y 7 mlynedd diwethaf. Yn anorfod braidd, ceisiodd cyfryngau y DU ganolbwyntio ar y cynnig “Seionyddiaeth yw Hiliaeth” yn fy natganiad ymddiswyddo – ac i raddau helaeth anwybyddwyd neu lleihawyd pwysigrwydd y rhesymau llawer mwy sylweddol ynghylch pam yr adewais: diffyg parch at Blaid Werdd Cymru a’i haelodau yng Nghymru, a diffyg strategaeth hirdymor. Mae’r erthygl hon yn apêl gennyf i’r chwith ehangach yng Nghymru i ganolbwyntio eu hegni ar strategaeth hirdymor. 

Fy Nhaith i Fyd Gwleidyddiaeth 

Roedd fy nhaith i ymuno â phlaid wleidyddol – heb sôn am gael fy ethol yn Ddirprwy Arweinydd – ychydig yn wahanol i’r rhan fwyaf o bobl. Cefais fy magu yn ardal Oakfield yng Nghwmbrân, ac rwy’n dal i fyw yno.

Llyn cychod Cwmbran

Pan oeddwn i’n tyfu lan, ni ddaeth neb o blaid wleidyddol i guro ar fy nrws. Fel llawer o Gymru, roedd hon yn diriogaeth i’r Blaid Lafur, ac roedd nihiliaeth wleidyddol o fantais iddynt. Yn yr etholiadau lleol diwethaf yn 2022, roedd gan ardal cyngor Torfaen – lle mae Cwmbrân wedi’i lleoli – y gyfradd bleidleisio isaf o’r 22 awdurdodau lleol yng Nghymru. Yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf, fel llawer o etholaethau eraill yng Nghymru, roedd y gyfradd bleidleisio yno yn is na 50%. 

Daeth fy “ymgysylltiad” gwirioneddol cyntaf â gwleidyddiaeth ar lefel leol ym mis Ebrill 2010, pan oeddwn yn 15 oed. Roeddwn yn eistedd mewn ystafell ddosbarth orlawn mewn cragen o ysgol gyfun a oedd yn brysur dadfeilio, ychydig cyn etholiad cyffredinol y DU. Clywais fan yn gyrru heibio i’r ysgol, gyda uchelseinydd yn annog pobl i bleidleisio dros y BNP er mwyn “diogelu ein hardal”. Yn ffodus, nid oeddent yn agos at ennill y sedd, ond roedd eu haerllugrwydd wrth geisio beio “dieithriaid” am y problemau yr oedd fy ardal yn eu hwynebu (ac yn dal i’w hwynebu hyd y dydd heddiw) yn fy digio’n fawr. Yn debyg iawn i bobl sy’n eistedd yn San Steffan neu yn y Senedd yn casglu eu cyflogau, nid oeddent yn gwybod dim am ardaloedd fel fy ardal i, ac nid oedd ots ganddynt chwaith. 

 Euthum i Brifysgol Aberystwyth, lle astudiais radd israddedig mewn Seicoleg yn gyntaf, ac yna radd meistr mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Mae’r ffordd rydym yn ysgogi newid wastad wedi bod o’r diddordeb eithaf imi, yn ogystal â’r diffyg dealltwriaeth ymysg pleidiau gwleidyddol o ardaloedd fel fy nhref enedigol. Rwy’n cofio, yn y cyfnod yn arwain at Refferendwm yr UE yn 2016, ennill sawl peint yn rhad ac am ddim gan ffrindiau yn y brifysgol – a llawer ohonynt yn astudio Gwleidyddiaeth (yn wahanol i mi ar y pryd) – drwy fetio y byddai’r DU yn pleidleisio i adael. Roedd llawer yn chwerthin am fy mhen ar y pryd. Roedd y rhan fwyaf o’r bobl hyn yn dod o ddinasoedd mawr neu drefi a phentrefi braf, cefn gwlad yn Lloegr. Nid o leoedd fel fy un i, lle roedd pobl yn aml yn teimlo bod gwleidyddiaeth yn cael ei gorfodi arnynt, yn hytrach na’i gweithredu er eu lles.

Ymateb chwerthinllyd y pleidiau gwleidyddol ar yr asgell chwith ledled y DU i ganlyniad y refferendwm hwnnw – a’r ymdrechion i’w wrthdroi – a’m rhwystrodd rhag ymuno ag unrhyw un ohonynt tan ar ôl etholiad 2019, pan ddaeth y ddadl honno i ben o’r diwedd. Fel rhywun sy’n credu mewn democratiaeth lawr gwlad, ac felly’n cefnogi annibyniaeth i Gymru, dim ond dwy blaid oedd â gwir siawns y byddwn yn ymuno â nhw: Plaid Werdd Cymru neu Blaid Cymru. Ar ôl ystyried y mater, ymunais â’r Blaid Werdd, gan fod ganddynt bolisïau mwy beiddgar oedd yn cyd-fynd yn well â’m barn fy hun.

Euthum ati o ddifri â’r blaid, gan ymgymryd â rolau amrywiol ar lefel leol, gan gyrraedd y pwynt o fod yn Gadeirydd Plaid Werdd Gwent. Ar lefel ieuenctid, fe’m etholwyd yn Swyddog Ymgyrchoedd y ‘Gwyrddion Ifanc’, ac yn ddiweddarach yn Swyddog Addysg Wleidyddol. Yn olaf, ar lefel Cymru, etholwyd fi’n Ddirprwy Arweinydd Plaid Werdd Cymru yn 2024. Yn ystod fy amser yn y blaid, sefais mewn etholiadau lleol, etholiadau’r DU ac etholiadau’r Senedd. Gweithiais i helpu ethol aelodau’r Blaid Werdd ledled Cymru a Lloegr, cymrais rhan mewn cyfarfodydd ar-lein oriau o hyd, deliais â’r wasg, ymwelais â changhennau lleol i roi sgyrsiau, a llawer mwy.

Po fwyaf a wneuthum, y lleiaf yr oeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi neu wrando arni gan y blaid. Roedd hyn, yn ôl pob golwg, oherwydd fy mod yn aelod o Gymru, ac yn rhywun sy’n dod o ardal fel fy un i – ac sy’n dal i fyw yno. Roedd gen i bryderon ynghylch llawer o bethau ac nid oeddwn yn gallu amgyffred unrhyw strategaeth hirdymor ar gyfer ennill pŵer yng nghyd-destun y DU o fewn y blaid. Dechreuais deimlo fy mod yn cael fy defnyddio dim ond pan oedd o fudd iddynt fel llais Cymreig. Roedd y diffyg tâl i rôl Dirprwy Arweinwydd Cymru, er gwaethaf yr amser y mae’n ei gymryd – a’r swm o arian sydd ar gael i’r blaid nawr – o’i gymharu â’r arian ac amser staff y mae’r tîm Arweinyddiaeth yn Lloegr yn ei dderbyn, yn fy ngadael i’n arbennig o flin. 

Gadewais; roedd yn rhaid i mi er mwyn fy iechyd meddwl a’m hunan-barch. Mae’n teimlo’n yr un mor iachaol ac y mae’n boenus. Rwy’n gobeithio y bydd Plaid Werdd Cymru yn pleidleisio i wahanu o’r Blaid yn Lloegr a dod yn wirioneddol annibynnol, ond rwy’n ofni hyd yn oed os bydd yn gwneud hynny, y bydd yn cymryd blynyddoedd ac yn cael ei ohirio gan aelodau sy’n ofni’r etholiadau sydd ar ddod. Iddyn nhw, erfynaf, byddwch yn feiddgar a gwnewch hynny.

Cyflwr Presennol Gwleidyddiaeth Cymru 

Yn dilyn yr etholiad diweddar, rydym o’r diwedd wedi dianc rhag goruchafiaeth Llafur Cymru yn y Senedd. Yn anffodus, nid yw’r diffyg hunanfyfyrio gan Lafur, na’r haerllugrwydd parhaus sy’n nodweddiadol o’u Haelodau Seneddol yn fy synnu o gwbl. Cymerant bleidleiswyr yn ganiataol, gan ystyried gwleidyddiaeth fel rhywbeth i’w weithredu ar gymunedau, yn hytrach nag ymrafer ar y cyd â nhw. Cadarnhawyd y farn hon ymhellach gan brofiad a gefais gyda Huw Irranca-Davies yn ystod ymddangosiad teledu cyn etholiad y Senedd. Yn ystod y sgwrs, anwybyddodd fy mhrofiad personol yn llwyr – sef tyfu i fyny o dan oruchafiaeth Llafur Cymru – a cheisiodd siarad â mi mewn ffordd nawddoglyd. Mae Plaid Cymru nawr mewn grym, ond beth sydd wir wedi newid? Peidiwch â chamddeall; mae llawer o bobl wych yn y Blaid yr wyf yn eu hystyried yn ffrindiau, gan gynnwys nifer o ASau. Ond os ydych chi wedi bod yn y gwrthbleidiau ers degawdau, dylech eisoes fod â chynllun ar gyfer y camau i’w cymryd ar ôl ennill grym. Fodd bynnag, nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth o hyn. Nid yw hyd yn oed mesur mor syml â rhoi diwedd ar hawl landloriad i droi allan yn ddifai yng Nghymru wedi’i weithredu – yr unig wlad ym Mhrydain sy’n dal i ganiatáu hyn.  

Yn rhy aml, mae’n ymddangos mai dim ond lle i bobl ennill cyflog heb gyflawni rhyw lawer yw’r Senedd. Mae’r system rhestrau caeedig – er ei bod yn welliant ar y system ‘cyntaf i’r felin’ – yn golygu bod math o fanteisio gwleidyddol hunanol yn dal i ffynnu yng Nghymru. Mae’r pleidiau wedi ei cael hi’n hawdd, oherwydd diffyg craffu gwirioneddol gan y cyfryngau Cymreig – oedd yn rhy agos atynt o lawer o fewn ‘swigen’ y Senedd – a chan y cyfryngau yn y DU, sydd yn poeni dim am Gymru. Roeddwn i hyd yn oed wedi cellwair â fy ffrind o’r Blaid Werdd y byddai fy ymddiswyddiad wedi cyflawni un peth o leiaf: sicrhau bod Plaid Werdd Cymru yn cael ei chrybwyll yn adran y DU o raglen BBC Breakfast.  

Rhesymau dros Obeithio

Felly, i ble rydym ni – fel yr asgell chwith ehangach yng Nghymru – am fynd o’r fan hon? Dydw i ddim yn mynd i siarsio unrhyw un i adael plaid. Rwy’n edmygu’n fawr y bobl sy’n gweithio’n galed i geisio annog Plaid Cymru i fod yn fwy beiddgar, a’r rhai yn y Blaid Werdd yng Nghymru sy’n parhau i ymdrechu i’w gwneud yn rym go iawn o fewn gwleidyddiaeth Cymru. Yr hyn yr hoffwn ei weld yw strategaeth hirdymor ehangach gan y ddwy blaid hyn. 

I mi, mae’n parhau i fod yn amlwg bod dyfodol Cymru yn gorwedd y tu allan i system San Steffan – system nad oes ganddi unrhyw ddiddordeb ynom ni. Fodd bynnag, byddai’n debygol o gymryd degawdau lawer i adeiladu hyn, ac mae angen i bobl yng Nghymru deimlo bod y pleidiau yn y Senedd wir yn gweithio drostynt – yn wahanol i’r pleidiau yn San Steffan. 

Mae’n fy nghysuro bod poblogrwydd Reform yn parhau i ddirywio yng Nghymru. Yn anffodus, rwy’n byw yn y ward gyngor lle gwelwyd y symudiad cyntaf o blaid Reform yng Nghymru, pan welodd fy nhri chynghorydd lleol “annibynnol” y cyfle i gael eu dwylo ar arian drwy ymuno â Reform.

Nid ydym ni yng Nghymru yn hoff o gael ein gorchymyn gan bobl mewn siwtiau sydd yn malio dim am ein hardaloedd; yn ffodus, mae’r syniad y gallai Reform, neu unrhyw rym asgell dde arall, ennill mwyafrif yn y Senedd, yn ymddangos yn amhosibl i mi.

Unwaith y bydd pleidiau’r chwith yng Nghymru yn dechrau gwrando ar gymunedau fel yr un rwy’n hannu ohoni, bydd cyfle i sicrhau newid gwirioneddol. Fel y nodais yn fy fideo ymddiswyddo, y gwir amdani yw bod y rhan fwyaf o etholaethau gwleidyddol yn y DU ac yng Nghymru yn cynnwys casgliad o drefi neu ddinasoedd bach – yn debyg iawn i’r lle rwy’n dod ohono. Byddai’n dda i wleidyddion yng Nghymru gofio hyn, a dechrau rhoi llais i bobl o’r cymunedau hyn.

I bawb sydd am weld Cymru well a byd gwell: parhewch i wneud yr hyn y gallwch yn eich cymunedau, a pharhewch i roi pwysau ar ein cynrychiolwyr etholedig. Mae gennym y pŵer o hyd i greu’r newid rydym am ei weld. Gorffennaf gyda geiriau pwerus y bardd R.S. Thomas, o’i gerdd Welsh History:

“When we have finished quarrelling for crumbs
Under the table, or gnawing the bones
Of a dead culture, we will arise
And greet each other in a new dawn.” 

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.