DALEN LÂN – TYBED?
Am y tro cyntaf ers dechrau datganoli, daeth cyfle i Lywodraeth Cymru ddilyn trywydd gwahanol i’r un a gafwyd dan y law farwaidd a lywiodd ein gwlad hyd yma. Dalen lân o’r diwedd!
Mewn amgylchiadau a fyddai yn anodd i neb eu dirnad dim ond ychydig o flynyddoedd yn ôl, daeth Plaid Cymru i rym ac arwain Llywodraeth leiafrifol yn y Senedd. Cyfuniad o ddadrithiad efo Starmer, twf Reform, a’r diflastod efo Llafur Cymru wnaeth i ddigon o bobl droi at Blaid Cymru. Gellid dweud mai clymblaid answyddogol o gefnogwyr creiddiol Plaid Cymru, cyn-gefnogwyr Llafur Cymru, pobl oedd am bleidleisio dros blaid fwy blaengar, pobl oedd eisiau atal Reform, a phobl oedd eisiau newid yn dilyn degawdau o gael eu siomi, a roddodd grym yn nwylo Rhun ap Iorwerth a’i blaid.
Mae bydysawd o wahaniaeth rhwng Plaid Cymru a Reform, ond eto i gyd clywyd ar stepen y drws fod pobl yn pendroni pa un o’r ddwy blaid yma i’w cefnogi, cymaint oedd eu hawydd am newid. Cefnogaeth amodol, felly, sydd gan y Llywodraeth hon, ac i bob pwrpas bydd ar brawf drwy gydol y tymor seneddol hwn.
Bydd un llygad bob tro ar baratoi at yr etholiad nesaf er mwyn ceisio cadw’r gefnogaeth a gawsant ym mis Mai eleni. Dyna pam mae’n greiddiol i ni sydd am weld sosialaeth yn dod yn ffordd o fyw ddal i bwyso dros orseddu cymuned uwchlaw cyllid. Fel arall welwn ni ddim mwy nag allanolion yn newid.
A fydd y ddalen lân wedi ei baeddu gan fysedd budron selogion twf, cyn i’r Llywodraeth newydd afael yn yr ysgrifbin?
SOSIALAETH DAN LYWODRAETH PLAID CYMRU?
Gwyddom fod yna sosialwyr o argyhoeddiad o fewn rhengoedd Plaid Cymru, yn aelodau cyffredin ac yn Aelodau Senedd. Rhai sydd yn gweld mai cyfalafiaeth a militariaeth yw’r melltithion sydd wedi esgor ar yr hunllefau sydd yn ein llethu ledled y byd, ac yn dangos eu dannedd yma yng Nghymru. Rhai sy’n cydnabod mai gweithredoedd y ddynoliaeth sydd yn gyfrifol am yr argyfwng newid hinsawdd sydd yn ein goresgyn. Rhai sy’n awchu am weld Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn a fedr i gynnig ffordd arall o lywodraethu gwlad er lles ei phobl.
Dyma’r rhai y dylem eu cefnogi er mwyn creu amgylchiadau lle y gallwn fyw bywyd yn ei gyflawnder. Gwlad lle mae tlodi plant, tlodi tanwydd, tlodi bwyd, tlodi cartrefi yn diflannu. Gwlad lle mae cyfoeth mewn pobl, nid pethau. Gwlad lle mae cryfder mewn cymeriad, nid arfau. Gwlad lle mae cymdeithas yn drech nag unigoliaeth. Gwlad lle mae gofal am ein tiroedd, ein moroedd a’n hawyr yn disodli echdynnu adnoddau. Gwlad sy’n gwrthod militariaeth ac yn dewis heddwch.
Pa mor debygol yw gwireddu sosialaeth?
Pa mor anodd fydd torri’n rhydd o lyffetheiriau San Steffan?
Pa mor annibynnol fyddai Cymru ‘annibynnol’?
Mae’r disgwyliadau, a’r anawsterau, yn fawr. Serch hynny, ar adeg lle mae yna gyfle i ail-gyfeirio dyheadau cenedl, byddai glynu at y ffordd ‘arferol’ o weinyddu gwlad yn golygu mai cyfalafiaeth fyddai’n dal i gael y llaw uchaf, er efallai mewn gwisg a ieithwedd Gymreig a rhyw arlliw o flas cennin.
Ac yn y tymor hir, os y byddai Cymru yn annibynnol (i’r graddau y gall unrhyw wlad fod yn hollol annibynnol), llestr gwag fyddai’r annibyniaeth hwnnw, heb chwyldro llwyr i’r sefydliadau gwleidyddol sy’n cynnal y drefn o gadw grym yn nwylo’r cyfoethogion a gynrychiolir gan gorfforaethau rhyngwladol.
Mae rhybudd clir i Gymru yn erthygl dreiddgar Owain Hanmer, “Annibyniaeth Gymreig a’r Swyn Gwyddelig”. Rhannol yw rhyddid pan mae eich economi wedi ei gwerthu i gorfforaethau anferthol o’r Unol Daleithau. Mae’r gwrthgyferbyniad rhwng gobeithion arwrol y weriniaeth sosialaidd a gefnogid gan James Connolly, a’r presennol o fod yn llawforwyn i fwlturiaid cyfalafiaeth, yn un y dylai ein Llywodraeth bresennol ym Mae Caerdydd fod yn ymwybodol ohono. Dyma eiriau Connolly ei hun:
“The Irishman frees himself from slavery when he realizes the truth that the capitalist system is the most foreign thing in Ireland. The Irish question is a social question. The whole age-long fight of the Irish people against their oppressors resolves itself in the last analysis into a fight for the mastery of the means of life, the sources of production, in Ireland”.
Ac eto:
“If you remove the English Army tomorrow and hoist the green flag over Dublin Castle., unless you set about the organization of the Socialist Republic your efforts will be in vain. England will still rule you. She would rule you through her capitalists, through her landlords, through her financiers, through the whole array of commercial and individualist institutions she has planted in this country and watered with the tears of our mothers and the blood of our martyrs”.
Gellid honni mai rheoli dirywiad oedd swm a sylwedd Llywodraethau Llafur Cymru, tra’n moesymgrymu yn amlach na pheidio i bolisïau canolog o Lundain a grymoedd didostur cyfalafiaeth. Cafwyd beirniadaeth drylwyr o’r Gymru neo-ryddfrydol yn y gyfrol “The Welsh Way” .
Pa ryfedd i Lafur Cymru golli etholiad a’r blaid wedi bod ynghlwm â ffawd Keir Starmer? Polisïau neo-ryddfrydol oedd yn blaenoriaethu corfforaethau, diwydiannau echdynnol a chefnogi y drefn sefydlog. Heb sôn am y distawrwydd llethol am y gyflafan yn Gaza. Go brin fod yna newidiadau go iawn wedi digwydd, ar waethaf geiriau gwych ond di-rym y gyfraith a ddyfynnir hyd syrffed, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Os yw Cymru am gynnig esiampl o weinyddu gwlad yn dosturiol, bydd angen cryfhau y ddeddf a rhoi pwerau effeithiol iddi. Dylai fod wedi ei phlannu ymhob agwedd o Lywodraeth Cymru, ac yn wir y gymdeithas ehangach.
CYFALAFIAETH Y CENNIN?
Beth, felly, yw’r arwyddion cynnar gan y Llywodraeth bresennol ei bod am dorri cwys newydd? Os collir y cyfle i wneud hynny o’r dechrau, bydd yn anodd newid cyfeiriad wedyn. Er bod yna arwyddion calonogol mewn materion cymdeithasol a llesiant, ac y bydd yna sefyll llawer cadarnach yn erbyn San Steffan a phwyso am lawer mwy o bwerau, eto i gyd welwn i ddim llawer o arwyddion hyd yma fod yna stumog i wyrdroi y drefn gyfalafol yn ei holl fileindra barus a dinistriol.
Rhaid mynegi pryder fod rhai o hen arferion Llywodraeth Llafur Cymru am barhau dan yr oruchwyliaeth newydd.
Edrychwn ar yr hyn sydd wedi digwydd yn ddiweddar dan oruchwyliaeth Adam Price, y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni.
Y diwydiant arfau yng Nghymru
Yn ddiweddar bu protestio cydnerth yn erbyn y Ffair Arfau a gynhaliwyd yng Nghasnewydd. Cewch yr hanes yma. Er tegwch, gwaddol y Llywodraeth flaenorol oedd hyn, a ni fu Mr Price ar gyfyl y ffair. Serch hynny, aeth i Sioe Awyr Farnborough, lle roedd cynrychiolwyr y diwydiant arfau yn bresennol, a deallwn fod Mr Price wedi trafod Bargen Twf Amddiffyn Cymru, sy’n hybu y sector arfau fel rhan o strategaeth Llywodraeth San Steffan i ruthro tuag at ryfela. Eto, er tegwch, Llywodraeth Lafur Cymru wnaeth y cytundeb hwn, ond hyd y gwyddom ‘does yna ddim arwyddion fod y Llywodraeth bresennol yn wrthwynebus i’r Cynllun. Yn wir, y ddeilen ffigys a ddefnyddir gan adran Mr Price i gyfiawnhau parhad y trafod efo’r diwydiant arfau yw sôn am Fframwaith Amddiffyn Moesol. Ac fel arfer yn y math yma o gyfiawnhau safbwynt egwan, defnyddir y mantra “gwaith”. Ac o sôn am gefnogi swyddi, dengys ymchwil gan CND Cymru mai dyma faint o swyddi gaiff eu creu mewn gwahanol sectorau am bob £1 miliwn a fuddsoddir: Caffael milwrol – 9.4; Rheilffyrdd – 12.2; Gofal Iechyd – 13.4; Addysg – 14.9; Gofal a Gwaith Cymdeithasol – 19.8 Llyfrgelloedd, Amgueddfeydd a gweithgareddau celfyddydol – 25.5.
Mae dadansoddiad ardderchog Greg Davies, sef “Wynebu’r Diwydiant Amddiffyn yng Nghymru” yn egluro pa mor ddwfn y treiddiodd y fasnach arfau i’n gwlad yng nghyfnod Llafur Cymru wrth y llyw. Daeth yn hen bryd rhoi terfyn ar hyn.
Gwyddom fod Plaid Cymru wedi lleisio gwrthwynebiad cyson i’r hil-laddiad yn Gaza, yn fwyaf diweddar pan anerchodd y Dirprwy Brif Weinidog, Sioned Williams, y rali i gefnogi Palestina y tu allan i Gynhadledd Plaid Cymru yn Llandudno. Mae Plaid Cymru hefyd wedi protestio yn erbyn y niwed a achosir gan allforion arfau. Nawr, mae gan y blaid gyfle i weithredu. Fan lleiaf, dylid gwahardd allforio arfau (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) i Wladwriaeth Israel, ac ni ddylai unrhyw gwmni sy’n gysylltiedig â’r hil-laddiad ym Palestina dderbyn unrhyw fath o gymorth gan Lywodraeth Cymru.
Yn y bôn, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei olygu wrth ‘Amddiffyn’? Dylai olygu mwy na hwyluso’r diwydiant arfau.
Oni fyddai’n wirioneddol flaengar pe gellid troi’r mater hwn yn gyfle i ymgysylltu â mudiadau heddwch, grwpiau amgylcheddol, ymgyrchwyr cymunedol ac undebau llafur? Mae gan y mudiadau hyn i gyd ddiddordeb mewn amddiffyn yn yr ystyr ehangach o ddiogelu heddwch, yr amgylchedd a swyddi ystyrlon. Gall arallgyfeirio graddol i ffwrdd o’r diwydiant arfau fod yn uchelgais go iawn – ni ddylai’r gweithwyr yn y diwydiant fod y rhai sy’n ysgwyddo’r gost economaidd. Oni fyddai’n wych pe bai’r Fframwaith Amddiffyn Moesegol yn cynnwys y syniadau hyn?
Gyda’n gilydd, gallwn wneud yn well na derbyn briwsion militariaeth y Wladwriaeth Brydeinig.
Asiantaeth Ddatblygu
Gwyddom bod diffyg gwaith yn fwrn ar gymaint o ardaloedd, o’r Cymoedd i’r cymunedau llechi ac yng nghefn gwlad. Gwyddom hefyd bod y gwaith sydd ar gael yn aml yn talu’n wael, gan greu problemau pellach efo cartrefi, allfudo ieuenctid, tlodi, iechyd, a phoblogaeth sy’n heneiddio, ymysg eraill. Gellid meddwl felly mai croeso digymysg ddylid ei roi i’r cyhoeddiad fod Asiantaeth Ddatblygu i’w sefydlu. Yn ôl y Llywodraeth:
“Bydd yr asiantaeth yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni nod uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i haneru’r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU o fewn deng mlynedd.
“Dan arweiniad y Cadeirydd Jonathan Lewis, sydd â phrofiad helaeth o fusnes ac arweinyddiaeth ledled y byd, bydd y panel yn cynghori Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price, ar ffurf a swyddogaeth yr asiantaeth newydd. ”.
Onid ieithwedd economi gyfalafol sy wedi methu yw hyn? Diau bod bwriad yr Asiantaeth Datblygu yn dda, ond mae angen ailfeddwl sylfaenol ar beth yw seiliau economi. Beth sy’n echdynnol? Beth sy’n gynaliadwy? Beth sy’n eiddo i bobl Cymru? Beth sy’n ddiwydiant moesol? Beth yw diben gwaith os mai oriau meithion a chyflog gwael sydd ar gael? Beth, yn wir, yw dyfodol y cysyniad o ‘waith’ yn y dyfodol, a’r dyfodol hwn yn prysur agosáu? Meddai’r bardd Waldo Williams;
“Beth yw gweithio ond gwneud cân
O’r coed a’r gwenith?”
Ambell dro, gallwn ddysgu mwy gan fardd na gan economegydd!
Os edrychwn ar yr 11 a benodwyd i’r panel, gwelwn mai pobl sydd wedi treulio degawdau yn arwain ac yn gweithio i gorfforaethau byd-eang yw nifer, a rhai wedi eu harwain.
Dyma wybodaeth am y Cadeirydd, Jonathan Lewis, sydd wedi gweithio am ddegawdau yn y diwydiant olew a nwy. Beth am rai o’r cwmnïau y gweithiodd iddyn nhw?
Capita: cwmni yn cyflogi degau o filoedd o bobl. Cafodd ddirwy o £14 miliwn yn 2025 am fethiannau diogelu data. Roedd y dirwy yn dilyn ymadawiad Mr Lewis o’r cwmni, ond y drosedd yn dyddio yn ôl i fis Mawrth 2023, pan oedd Mr Lewis yn Brif Weithredwr. Nid oes yna awgrym o gwbl fod Mr Lewis yn euog o drosedd.
Halliburton: corfforaeth ryngwladol efo dau bencadlys yn Houston a Dubai, a’r cwmni gwasanaethau olew ail mwyaf yn y byd. Mae ei enw’n gyfystyr â sawl sgandal fel y medrwch weld yma . Nid oes gofod yn yr erthygl yma i restru pob sgandal yn ymwneud â Halliburton, ond nodwn yn unig eu bod wedi ymelwa o gytundeb gwerth $7 biliwn ar ôl Rhyfel Irac; cytundeb a ddyfarnwyd iddynt fel yr unig un i gael ymgeisio. Nhw hefyd oedd yn gyfrifol am ddarparu sment i BP, a honnid fod y sment hwnnw’n ddiffygiol, felly roedd y cwmni yn rhan o’r llygredd olew echrydus Deep Water Horizon yn 2010. Mae’n debyg fod y cwmni wedi dileu cofnodion perthnasol i’r ymchwiliad, a thalodd $1.1 biliwn mewn iawndal yn 2014. Wrth gwrs, does dim honiad yn erbyn Mr Lewis yn y naill achos na’r llall.
Os mai’r nòd yw denu corfforaethau o dramor i fuddsoddi yng Nghymru, gwyddom o brofiad beth sy’n digwydd pan fydd cwmni yn penderfynu gadael, gan fynd a’r elw efo nhw, a gadael y problemau cymdeithasol, amgylcheddol ac o bosib iechyd ar eu holau.
Ffyrdd
Cyhoeddodd Mark Hooper, yr Is-Weinidog dros Drafnidiaeth, fod y cynllun i godi trydydd pont dros y Fenai i’w adfer. Gwyddom fod Mr Hooper yn flaengar yn ei holl ymwneud gwleidyddol, felly efallai ei fod wedi bod dan bwysau i wneud y cyhoeddiad hwn, sydd, ar yr wyneb, yn un i’w groesawu – os edrychir ar y broblem drwy lens moduro yn unig. Y broblem greiddiol yw ein gor-ddibyniaeth ar foduron, a diffyg sustem gludiant gyhoeddus addas. Mae ein modur yn gyffur sydd wedi creu dibyniaeth ynom! Mae ein heconomi ‘ceir-a-loris’ wedi ei datblygu mewn oes pan oedd olew yn rhad. Nid felly mae hi bellach.
Tybed faint o ffactor yn y cyhoeddiad yw’r gefnogaeth gan Blaid Cymru ym Môn i’r cynllun uber-gyfalafol i forgeisio dyfodol ein plant – a gwir annibyniaeth Cymru – i adeiladu atomfa, a allai hefyd fod yn darged milwrol – yn Wylfa? Ydi’r canfyddiad fod hyn yn llai o faen tramgwydd gwleidyddol nac adeiladu gwelliant i’r M4?
Byddai sicrhau fod ffyrdd presennol yn ein trefi ac yng nghefn gwlad yn cael eu cyllido i’w cynnal a’u cadw yn rheolaidd yn gwneud mwy o synnwyr. Mae angen £953.7 miliwn i ddal i fyny efo trwsio ffyrdd yng Nghymru! A gallai gymryd 13 mlynedd i wneud hyn. Ar gyfartaledd, unwaith bob 108 blwyddyn y bydd wyneb newydd yn cael ei roi ar ffordd!!!
MENTRAU CYMUNEDOL – BYGYTHIAD I’R DREFN, NEU GOBAITH I’R DYFODOL?
Chafwyd fawr iawn o sylw i fentrau cymunedol a chydweithredol hyd yma gan Mr Price, er rhaid cydnabod fod y Prif Weinidog wedi eu cymeradwyo yng Nghynhadledd Flynyddol Plaid Cymru. Gwyddom fod mentrau cymunedol wedi tyfu dros y ddegawd a mwy ddiwethaf. Daeth y term ‘Cymunedoli’, a fathwyd gan y diweddar Sel Wilias o Lan Ffestiniog, yn rhan o eirfa gyfoes. Dyma eiriau Sel:
“I raddau helaeth mae’r cyfrifoldeb am ein dyfodol yn ein dwylo ni. Mae cyfle yn yr ardal hon i ni greu dyfodol amgylcheddol, economaidd, a chymdeithasol yn codi o’r gorau yn ein traddodiad diwylliannol. Rydym wedi dechrau arloesi, a rŵan mae angen gweithredu.”
Fel sawl syniad arloesol mae’n bygwth y drefn sydd ohoni.
Cafwyd erthygl yn Golwg 360 yn mynegi pryderon yr economegydd Dr Edward T Jones o Brifysgol Bangor, dan y pennawd: “Angen sicrhau nad yw mentrau cymunedol yn llesteirio cynlluniau twf Llywodraeth Cymru”.
Prif bwynt sylwadau Dr Jones yw fod perygl y gall perchnogaeth a mentrau cymunedol danseilio y sector breifat. Meddai: “Mae’n rhaid i ni sicrhau nad yw mentrau cymunedol yn allgau arloesedd preifat. Mae mentrau cymunedol yn derbyn buddiannau penodol sy’n golygu eu bod nhw’n medru cystadlu’n haws na’r sector breifat”.
Tra mae Dr Jones yn cyfeirio at gaffis lleol yn cael trafferth cystadlu yn erbyn rhai cymunedol, gallwn ni gyfeirio at y rhwystrau a gaiff cynlluniau ynni cymunedol pan fyddant yn cystadlu yn erbyn corfforaethau sydd wedi eu cyllido gan arian sy’n deillio yn aml o’r ddinas yn Llundain, neu o sefydliadau ariannol yr Unol Daleithiau.
Beth sy’n hollol eglur i fwy a mwy o bobl yw fod twf economaidd yn syniad y mae gofyn ei gwestiynu yn ei hanfod. Beth yw meini sylfaen llewyrch gwlad? Pobl, cymuned, amgylchedd, cytgord gymdeithasol – a does yna ddim affliw o beryg mai y pethau hyn sy’n bwysig dan y drefn gyfalafol. I’r gwrthwyneb, gwelwn elw fel Duw y cyfoethog cadwedig. Yr union rai sy’n gweiddi’n groch yn erbyn ‘sosialaeth’ pan mae hynny’n golygu rhoi arian a chymorth i bobl gyffredin, ond yn hollol fud pan mae symiau enfawr o arian cyhoeddus ar gael i’w hachub nhw eu hunain. Mae’r math yna o ‘sosialaeth’ yn dderbyniol i’r goludog!
A rhaid i ni wahaniaethu rhwng mentrau bach preifat, sydd angen cymorth; a chorfforaethau mawrion didostur ynghyd â’r sefydliadau ariannol sy’n eu galluogi.
Bellach, mae’r syniad o Gymunedoli wedi gafael mewn sawl ardal yng Nghymru. Gallwn gyfeirio at y dechreuad yn ardal llechi Blaenau Ffestiniog , ei ymlediad i Orllewin Cymru , a’r ail-afael yn ysbryd cydweithredol cymunedau glofaol y Cymoedd.
Craidd Cymunedoli yw rhoi grym economaidd i gymunedau – a thrwy hynny roi gwrthbwynt cryf i apêl y dde eithafol yng nghymunedau dolurus ein gwlad, fel yr eglura Beth Winter a Leanne Wood.
Hyd yma, enghreifftiol yw y mentrau cymunedol, yn yr ystyr na chawsant gefnogaeth lwyr gan Lywodraeth Llafur Cymru. Dychmygwch beth fyddai’n bosibl os y byddai perchnogaeth yn lleol, yn rhanbarthol a thrwy Gymru gyfan yn bodoli yn ein gwahanol sectorau. Ac os na fedrwch chi ddychmygu, ewch i Wlad y Basg lle mae ffyniant economaidd drwy fentrau cydweithredol wedi llwyddo ers 50au yr 20fed ganrif. Mae hyd yn oed y Brifysgol yn Arrasate yn gydweithredol!
Os yw Cymunedoli yn gweithio yng Ngwlad y Basg, gall weithio yma.
Galwn felly ar i’r syniad o Gymunedoli fod yn brif gonglfaen cynllunio economaidd, fel y gallwn luosogi y bendithion er lles ein dinasyddion i gyd. Mae hyn yn golygu rhoi lle blaenllaw i gynrychiolwyr y mudiad cydweithredol ac i undebau llafur ar gyrff y Llywodraeth. Gallesid fod wedi dechrau efo yr Asiantaeth Ddatblygu, ond collwyd cyfle.
I blaid sydd am weld Cymru annibynnol yn y pendraw, mae cael gafael ar wir rym economaidd ein gwlad yn anhepgor. P’run sydd fwyaf tebygol o roi hynny i ni: corfforaethau rhyngwladol neu ein datblygiadau cynhenid?
Beth amdani, Mr Price? Pwy sydd eich angen fwyaf – Mrs Jones o Llanrug; Mr Watkins o’r Rhondda, Ms Phillips o Geredigion – neu Cyfalafiaeth Inc.?
TORRWN Y MAGLAU!
