Pan gyfarfu arweinwyr Plaid Cymru, yr SNP a Sinn Féin yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf, honasant fod “amser Westminster yn dod i ben” a mynnu hawl eu cenhedloedd “i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain, trwy ddulliau democrataidd”.

Gillfoto, CC BY-SA 4.0 <https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0>, via Wikimedia Commons

Fel y disgwylid, mae Andy Burnham eisoes wedi gwrthod y syniad o refferendwm yn yr Alban gan ddweud ei fod “dan waharddiad”, ac wedi gwarafun sôn o ailuno Iwerddon. Er bod y sylwadau hyn wedi derbyn beirniadaeth briodol am danseilio egwyddor sylfaenol Cytundeb Gwener y Groglith, maent yn amlygu’r ffaith, yn fwy cyffredinol, nad yw San Steffan yn ystyried hunanbenderfyniad fel hawl gynhenid, ond fel rhodd i’w gynnig  neu ei omedd gan Lundain.

Fodd bynnag, nid annisgwyl yw’r ffaith nad yw Burnham wedi dweud llawer am annibyniaeth i Gymru, ag eithro’r awgrym nad oedd “trefniant gwahanol i Gymru” yn bosibl. Adlewyrchir hyn hefyd yn agwedd fwy petrusgar Plaid Cymru tuag at y mater ac yn ei hofn o ddieithrio’r sawl sy’n amheus. Yn aml, caiff annibyniaeth i Gymru ei diystyru ar y sail ein bod yn rhy fach, yn rhy dlawd, ac yn wynebu diffyg cyllidol. Fe’n hystyrir yn genedl sy’n dibynnu ar y strwythurau presennol a ddarperir gan y Deyrnas Unedig.

Fel gwrth-ddadl, mae’n gyffredin mewn cylchoedd sy’n cefnogi annibyniaeth i Gymru i chwilio am dystiolaeth o genhedloedd bach eraill. I ni, daw’r ysbrydoliaeth honno yn aml o ochr draw Môr Iwerddon. Wrth gwrs, esgorwyd annibyniaeth Iwerddon mewn amgylchiadau gwahanol iawn, trwy greulondeb chwyldro, rhyfel cartref, a realiti poenus rhaniad y wlad. Fodd bynnag, yn ddiweddarach cafodd mudiadau Ymreolaeth ac annibyniaeth Iwerddon eu tanseilio’n aml ar y sail gyfarwydd nad oeddent yn economaidd hyfyw. Felly, nid yw’n syndod bod Iwerddon wedi, ac yn parhau i fod, yn gyfeirbwynt allweddol i genedlaetholwyr Cymreig.

Dywedodd y Prif Weinidog newydd, Rhun ap Iorwerth, unwaith: “Rwy’n gweld y posibiliadau [o annibyniaeth] yn cael eu hamlygu drwy’r hyn rydym yn ei weld yn Iwerddon… Yr hyn rwy’n ei weld yw cenedl sydd wedi gallu llunio ei thynged ei hun, gwneud ei chamgymeriadau ei hun a cheisio dysgu ohonynt.”

Wedi symud ar draws Môr Iwerddon yn ddiweddar, gallaf werthfawrogi’r sentiment. Yn aml, caiff annibyniaeth ei chyflwyno drwy syniadau mawreddog ac haniaethol fel hunan-benderfyniad, ond yma mae ei harddwch yn amlygu ei hun yn y pethau cyffredin sy’n rhan o fywyd bob dydd. Mae i’w gweld yn y clybiau GAA (chwaraeon Gaeleg) sydd wrth wraidd cymunedau lleol, yn y caneuon gwrthryfelgar hwyr y nos mewn tafarndai a phriodasau, ac yn y baneri Palestina sy’n chwifio ym mhobman. Mae’r rhain oll yn rhan o frwydrau gwrth-drefedigaethol y gorffennol yn Iwerddon a’i brwydr dros annibyniaeth.

Rwyf hyd yn oed wedi ymuno â thîm chwaraeon Gaeleg rhyngwladol, gan ddysgu chwarae hurling a phêl-droed Gaeleg gyda chwaraewyr o bob cwr o’r byd; mae fy mhlant yn gwneud “dawnsio Gwyddelig” mewn sesiynau cerddoriaeth draddodiadol mewn tafarndai (ac weithiau i gerddoriaeth K-pop hyd yn oed); ac ym mhobman yr ewch chi, mae atgofion o’r frwydr dros ryddid o reolaeth Brydeinig.

Mae gennym strydoedd o’r enw Queen Street a Kingsway, Pont Tywysog Cymru, a phortreadau o’r teulu brenhinol mewn adeiladau pwysig; ond yn Iwerddon, mae strydoedd a safleoedd nodedig wedi’u henwi ar ôl gwrthryfelwyr, mae lluniau ohonynt mewn tafarndai, ac mae placiau a cherfluniau ledled y wlad—o bentref mam-gu fy ngwraig yng nghefn gwlad gorllewin Limerick i’r parc y tu allan i feithrinfa fy mab yn Nulyn.

Mae fy mharc lleol wedi’i enwi ar ôl un o arweinwyr Gwrthryfel y Pasg ym 1916 a ymladdodd yn erbyn yr Ymerodraeth Brydeinig, sef Éamonn Ceannt, yn hytrach nag Arglwydd Bute—dyn a ecsbloetiodd niferoedd mawr o weithwyr Gwyddelig oedd yn ffoi rhag y Newyn Mawr er mwyn adeiladu’r un Ymerodraeth honno. Ni ellir byth dwyn hanes chwyldroadol cyfoethog Iwerddon ymaith; mae’n adnodd y gellir troi ato bob amser. Ac er bod presenoldeb y wladwriaeth Brydeinig yn parhau’n bresennol yn Iwerddon, tra’n byw yn y Weriniaeth rwy’n aml yn teimlo fy mod yn byw yng nghysgod yr arwyr chwyldroadol hyn, mewn iwtopia Gwyddelig gallwn ond breuddwydio amdano yng Nghymru.

Roedd adfywio diwylliannol a rhyddfreiniad gwleidyddol yn rhan allweddol o fudiad annibyniaeth Iwerddon, ond rhybuddiodd nifer o sosialwyr Gwyddelig o’r cyfnod nad oedd hyn yn ddigon. Tafliad carreg o gerflun y sosialydd James Connolly yn Nulyn—un o arweinwyr Gwrthryfel y Pasg ym 1916—mae’r Ganolfan Gwasanaethau Ariannol Rhyngwladol (IFSC).

Fe’i creuwyd i ddenu cyfalaf a chwmnïau tramor i’r wlad, ac mae’n cynrychioli model economaidd sy’n sarhad ar weledigaeth Connolly o weriniaeth sosialaidd. Nid anodd yw deffro o’m breuddwyd gweriniaethol Gwyddelig, oherwydd mae Iwerddon erbyn hyn yn gartref i’r cewri technoleg a fferyllol o America: Google, Meta, Apple, Microsoft, Intel, Eli Lilly, a Pfizer, i enwi ond rhai. Mae eu presenoldeb yn adlewyrchu cyfoeth a ffyniant diweddar Iwerddon, sy’n cyferbynnu’n llwyr â’r tynged diddiwedd sydd i weld yn ein hwynebu ni, sef bod y cefndryd Celtaidd tlawd.

Boland’s Mills: unwaith yn bencadlys i fataliwn de Valera’s yn ystod Gwrthryfel y Pasg 1916, mae nawr yn nwylo Google.

Er i ni ar un adeg edrych i’r ysbryd gweriniaethol Iwerddon am ysbrydoliaeth, yr hyn sydd nawr yn denu ein golygon yw ysblander a chyfaredd Iwerddon y corfforaethau rhyngwladol. Wrth ysgrifennu yn y Guardian cyn yr etholiad, tynnodd Simon Jenkins sylw at fodel economaidd Iwerddon fel glasbrint ar gyfer ein dyfodol yng Nghymru. Mae Rhun ap Iorwerth a’i ragflaenydd yn arweinydd y blaid, Adam Price, hefyd yn cefnogi’r syniad, tra bod Yes Cymru wedi tynnu sylw at dwf economaidd Iwerddon fel ymateb i bryderon ynghylch cyfyngiadau economaidd cenhedloedd bach annibynnol fel Cymru a pha mor fforddadwy yw ymwahanu. Gan ein bod ni mor awyddus yn aml i ystyried posibiliadau annibyniaeth drwy lens llwyddiant economaidd Iwerddon, gadewch i ni edrych arno’n agosach.

IWERDDON, HAFAN DRETH

Mae Iwerddon wedi gweld twf rhyfeddol yn ei Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (CMC/GDP) yn ddiweddar, gan ddyblu o tua $300 biliwn yn 2015 i $600 biliwn heddiw. Bellach, mae ganddi’r pumed CMC uchaf y pen yn yr OECD, gyda’r IMF yn rhagweld mai hi fydd gwlad gyfoethocaf Ewrop yn fuan. Dyma ddatblygiad sydd yn cael ei ddathlu gan lawer, a hynny’n ddealladwy o ystyried bod Iwerddon wedi dioddef cryn dipyn yn sgil ei statws fel trefedigaeth Brydeinig a gafodd ei hecsbloetio – yn ogystal â degawdau o dlodi, diweithdra ac ymfudo ar ôl ennill annibyniaeth. Hyd yn oed yn y cof diweddar, cafodd y wlad ei dinistrio’n llwyr gan y chwalfa economaidd yn 2008, ac yn sgil ei hadferiad rhyfeddol, daeth yn enghraifft flaenllaw o bolisïau neoryddfrydol. Beth oedd achos y newid yn ei ffawd a pham mae hyn yn broblem?

Disgrifiodd yr economegydd Paul Krugman y twf yn y CMC fel “Leprechaun Economics”: ffigwr chwedlonol ac afluniedig nad oedd yn adlewyrchu gweithgaredd economaidd gwirioneddol. Yn hytrach, gellid ei esbonio drwy rôl cyfnewidiol Iwerddon yn hwyluso osgoi treth ar raddfa fyd-eang ar ran cwmnïau amlwladol (MNCs).

Fel llawer i wlad arall a fu’n drefedigaethau gynt, mabwysiadodd Iwerddon strategaeth datblygu economaidd i ddenu Buddsoddiad Uniongyrchol Tramor (FDI) mor gynnar â’r 1950au, gan ddefnyddio cymhellion fel cyfraddau treth corfforaethol “cystadleuol”. Dros y degawdau, sefydlodd llawer o’r cwmnïau rhyngwladol mwyaf a chyfoethocaf yn y byd is-gwmnïau, swyddfeydd, ffatrïoedd ac ati, ledled y wlad. O’r 1990au ymlaen, roedd bwlch yn y gyfraith o’r enw’r “Double Irish” yn caniatáu i gwmnïau a gofrestrwyd yn Iwerddon fod yn breswylwyr treth mewn gwledydd eraill, gan eu gwneud i bob pwrpas yn gwmnïau di-wladwriaeth o safbwynt treth.

Daeth Iwerddon yn llwybr canol i gwmnïau rhyngwladol o’r Unol Daleithiau symud elw drwy eu his-gwmni Gwyddelig i hafan dreth, fel arfer yn y Caribî. Creodd hyn “un o’r cynlluniau mwyaf llwyddiannus yn y byd ar gyfer osgoi treth, gan ddiogelu hyd at driliwn o ddoleri” ar gyfer cwmnïau rhyngwladol. Yn dilyn y sylw anghysurus a ddaeth yn sgil achos drwgenwog Apple, caewyd y bwlch hwn yn 2015 a chafodd ei ddileu’n raddol erbyn 2020.

Gyda’r newidiadau hyn, daeth llawer o gwmnïau rhyngwladol yn breswylwyr treth yn Iwerddon a dechrau trosglwyddo eu hasedau eiddo deallusol (IP)—patentau, nodau masnach, hawliau tramor—i’w his-gwmnïau Gwyddelig. Fel y mae’r economegydd gwleidyddol Aidan Regan yn ei egluro, roedd hyn yn golygu bod gwerthiant byd-eang o feddalwedd, gwasanaethau digidol neu feddyginiaethau â patent bellach yn cael eu cofnodi trwy endidau Gwyddelig. Gydag elw rhai o’r cwmnïau mwyaf yn y byd bellach yn cyrraedd Iwerddon, gwelwyd cynnydd aruthrol yn CMC y wlad. Dyma beth yw “economeg Leprechaun”: cyfrifo creadigol yn hytrach na chynnydd sylweddol mewn gweithgaredd economaidd neu gynhyrchiant.

Y rhan hanfodol i’w deall o’r pos hwn yw bod y broses hon o symud elw yn cynrychioli strategaeth newydd i osgoi talu treth. Trwy leoli eu hawliau eiddo deallusol yn Iwerddon, byddai cwmnïau rhyngwladol yn elwa ar gyfradd dreth gorfforaethol “swyddogol” y wlad o 12.5% ​​(neu gyn lleied â 6.25% mewn achosion penodol yn ymwneud ag eiddo deallusol).

Ymhellach, mae cwmnïau rhyngwladol wedi manteisio ar rhodd hael y wladwriaeth o lwfansau cyfalaf ar gyfer buddsoddi mewn asedau anniriaethol (intangible assets). Maent wedi gallu “prynu” patentau deallusol  gyda’u helw enfawr, gan wrthbwyso’r elw hwnnw yn erbyn y buddsoddiadau hyn, a gan hynny, osgoi baich treth trwm. Mae Kieran Allen—awdur ‘Tax Haven Ireland’—yn honni bod hyn wedi galluogi rhai cwmnïau rhyngwladol i dalu cyfradd dreth rhwng 2% a 6% i bob pwrpas.

Honnodd adroddiad gan Arsyllfa Drethi’r UE yn 2024 fod Iwerddon bellach ymhlith y noddfâu treth mwyaf yn y byd, gyda’i gweithgaredd trosglwyddo elw yn sylweddol uwch na rhai’r Swistir, Ynysoedd Virgin Prydain, Lwcsembwrg, Bermuda ac Ynysoedd Cayman.

Ac er gwaethaf y canrannau cymharol isel o dreth a dalwyd, roedd yn fuddugoliaeth fawr i wladwriaeth Iwerddon: gwelwyd cynnydd aruthrol yn y refeniw o dreth gorfforaethol, o €4.6 biliwn yn 2014 i €23.8 biliwn yn 2023. Mae gan y Gwyddelod air gwych i ddisgrifio hyn: “chancer”—term sy’n cyfeirio at un sy’n mentro’n ddigywylidd, yn achub ei gyfle, yn ddireidus neu gyfrwys sy’n gallu bod yn hoffus ar adegau, ond nid bob amser chwaith. Gyda’r gweithgaredd yma o symud elw, gellid dadlau bod gwladwriaeth Iwerddon bellach yn un o’r “chancers” mwyaf ym myd cyfalafiaeth.

Fel y dadleuodd y Marcsydd Gwyddelig Conor McCabe, mae Iwerddon yn y bôn yn gweithredu fel cyfrwng ar gyfer cronni cyfoeth rhyngwladol trwy sector ‘comprador’ (dyn canol – rhyngfasnachwr), sy’n etifeddiaeth uniongyrchol o’r cyfnod trefedigaethol. Y sawl sydd mwyaf ar eu hennill yw’r cwmnïau rhyngwladol a’r über-gyfoethog sy’n elwa ar arbedion treth enfawr; mae Iwerddon felly wedi dod yn rhan bwysig o system economaidd neo-drefedigaethol sydd wedi arwain at lefel warthus o gronni cyfoeth biliwnyddion (cynilodd y deg unigolyn cyfoethocaf US$100 miliwn y dydd yn 2024).

Ac er gwaethaf y canrannau cymharol isel o dreth a dalwyd, roedd yn fuddugoliaeth fawr i wladwriaeth Iwerddon: gwelwyd cynnydd aruthrol yn y refeniw o dreth gorfforaethol, o €4.6 biliwn yn 2014 i €23.8 biliwn yn 2023. Mae gan y Gwyddelod air gwych i ddisgrifio hyn: “chancer”—term sy’n cyfeirio at un sy’n mentro’n ddigywylidd, yn achub ei gyfle, yn ddireidus neu gyfrwys sy’n gallu bod yn hoffus ar adegau, ond nid bob amser chwaith. Gyda’r gweithgaredd yma o symud elw, gellid dadlau bod gwladwriaeth Iwerddon bellach yn un o’r “chancers” mwyaf ym myd cyfalafiaeth.

Mae craffu rhyngwladol cynyddol ar y mater hwn megis y diwygiadau treth diweddar yr OECD ar gyfer isafswm treth corfforaethol byd-eang (ond prin eu bod yn cyffwrdd â’r broblem go iawn). Yn fwy amlwg eto yw cynlluniau Trump i ddod â chwmnïau fferyllol a thechnoleg yn ôl i’r Unol Daleithiau.  Yn ystod ei ymweliad diweddar I Iwerddon, dywedodd Trump “you took all of our medical companies…you fleeced us”, tra bod Howard Lutnick, Ysgrifennydd Masnach yr Unol Daleithiau, wedi disgrifio Iwerddon fel ei “sgiam treth hoff”.

Er bod yr UDA wedi hwyluso’r mecanweithiau o symud elw ers degawdau, mae dadansoddiad Trump o’r broblem yn Iwerddon yn ddigon cywir.  Ond mae’r goblygiadau yn waeth o lawer y tu hwnt i’w ffiniau. Mae gwladwriaeth Iwerddon yn elwa ar, ac yn hwyluso, tynnu elw a threth o wledydd tlotaf y byd, gan eu hamddifadu o adnoddau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith hanfodol. Mae’r Cenhedloedd Unedig hyd yn oed wedi beirniadu Iwerddon am effaith ei pholisïau economaidd ar iawnderau dynol. Amcangyfrifir gan Oxfam bod osgoi treth gorfforaethol yn costio o leiaf $100 biliwn y flwyddyn i wledydd tlawd – “digon o arian i ddarparu addysg i 124 miliwn o blant ac atal marwolaethau bron i wyth miliwn o famau, babanod a phlant bob blwyddyn.”

Er bod gan Iwerddon hanes balch o gynnal heddwch ac undod rhyngwladol – sy’n parhau heddiw trwy ei chefnogaeth barod i’r Palestiniaid – mae hefyd yn rhan o system economaidd sy’n creu trallod ac ansefydlogrwydd byd-eang. Efallai na fydd hyn yn ymddangos yn broblem i realwyr pragmatig yr Iwerddon, ond o dan wyneb y ffigurau CMC, mae hefyd yn llechu yr hyn sydd wrth wraidd yr anghydfod domestig.

CYMDEITHAS WEDI EI HOLLTI

Mae tair cwmni rhyngwladol mawr— fe gymerir mai Apple, Microsoft, a’r cawr fferyllol Eli Lilly ydynt—bellach yn talu bron i hanner yr hyn sydd yn cynrychioli sylfaen treth gorfforaethol Iwerddon. Nid oes angen bod yn Farcsydd i feirniadu hyn. Yn ddiweddar, roedd cadeirydd Cyngor Cynghori Ffiscol Iwerddon hyd yn oed yn dadlau bod dibynnu ar nifer bach o gwmnïau ar gyfer ei sylfaen dreth yn risg enfawr. Mae cyfoeth a sylfaen treth gorfforaethol Iwerddon yn parhau i fod wedi’u hadeiladu ar eiddo deallusol ac asedau “anniriaethol” sy’n hynod symudol ac yn agored i newidiadau allanol. Yn wir, mae eu heffaith a’u presenoldeb ymhell o fod yn anniriaethol.

Er bod cwmnïau rhyngwladol sy’n eiddo i berchnogion tramor yn cynrychioli dim ond 3% o fentrau, adroddodd y Swyddfa Ystadegau Canolog eu bod yn cynhyrchu dros 70% o drosiant Iwerddon ac yn cyflogi 27% o’r sawl sy’n gweithio. Ymhellach, mae’r ystadegau cyflogaeth hyn yn aml yn ddadleuol. Mae cyflogaeth mewn cwmnïau rhyngwladol a gefnogir gan Awdurdod Datblygu Iwerddon (IDA)—yr asiantaeth led-wladwriaethol sy’n gyfrifol am fuddsoddiad uniongyrchol tramor— yn cynnig ffigwr sydd efallai’n adlewyrchiad mwy cywir o’r hyn rydym yn sôn amdano, sef tua 11%. Mae’r ddibyniaeth yn amlwg, ond mae clychau eisoes yn dechrau canu: mae’r tonnau diweddar o dorri swyddi yn y sectorau fferylliaeth a thechnoleg wedi datgelu natur fregus y sefyllfa, lle gall penderfyniadau a wneir filoedd o filltiroedd i ffwrdd ddileu swyddi sylweddol yn Iwerddon dros nos.

Er gwaethaf hyn, mae cyflogaeth yn y sectorau hyn yn parhau i fod yn docyn aur, gyda chwmnïau rhyngwladol yn talu cyflogau sylweddol uwch o gymharu â chyflogwyr domestig a’r sector cyhoeddus. Mae Sefydliad Ymchwil Economaidd Nevin yn dangos bod gan Iwerddon yr anghydraddoldeb cyflog uchaf ymhlith gwledydd cyfoethog Ewrop, problem sy’n cael ei lliniaru rhywfaint trwy ailddosbarthu (treth a lles ac ati).

Un o’r cwestiynau mwyaf i wleidyddiaeth Iwerddon yw sut mae’n siapio’r wlad mewn ffyrdd mwy cynnil hefyd. Cydnabu Thatcher hyn yn well nag unrhyw un arall, gyda’i ddadl adnabyddus mai “economeg yw’r dull; y nod yw newid y galon a’r enaid”.

Mae breuddwyd Iwerddon yn swnio’n eithaf cyfarwydd: cyflog chwe ffigwr, tŷ brics coch yn Nulyn neu blasty yn y wlad, Tesla neu Land Rover, gofal iechyd preifat, addysg breifat, cyfleoedd gwaith rhyngwladol, tair neu bedair gwyliau’r flwyddyn, ac yn y blaen. Yn anffodus, mae gan Iwerddon fwy yn gyffredin â’r math hwn o wleidyddiaeth Americanaidd na’r dyheadau hyn yn unig, gan adlewyrchu disgrifiad enwog Galbraith o America yn y cyfnod ar ôl y rhyfel yn y 1950au: “cyfoeth preifat a thlodi cyhoeddus”.

Bydd rhai yn amddiffyn hyn drwy ei gymharu â’r blynyddoedd o ddiweithdra uchel ac allfudo. Fodd bynnag, nid yw’r mwyafrif helaeth o’r boblogaeth yn elwa’n uniongyrchol ar y model economaidd hwn; yn hytrach, mae’n rhaid iddynt fyw o fewn yr amodau anghytbwys y mae’n eu creu. Yn dilyn y protestiadau enfawr yn erbyn prisiau tanwydd a baralysodd y wlad ym mis Ebrill, cyflwynodd Sinead O’Sullivan graff er mwyn arddangos y tensiynau hyn. Dangosai’r graff, er bod Iwerddon yn un o’r gwledydd cyfoethocaf yn Ewrop, bod hi’n berchen ar ymysg y isadeiledd ffisegol a’r gwasanaethau cyhoeddus gwaethaf.

Hanes trefedigaethol a chenedlaethau o dlodi systematig sydd wrth wraidd cryn dipyn o’r diffyg datblygiad yma. Er enghraifft, pan gychwynnodd Llundain adeiladu ei rheilffordd danddaearol, roedd Iwerddon dal i simsanu o ganlyniad i ddinistr y newyn. Fodd bynnag, fel eglurodd O’Sullivan, “daeth Iwerddon o hyd i ffordd o fod yn gyfoethog heb iddi fyth orfod datblygu.” Nid yw mor hawdd defnyddio’r un dadansoddiad cyffredinol a ddefnyddir am ddirywiad y wladwriaeth les a gwasanaethau cyhoeddus dros y degawdau diwethaf mewn perthynas gydag Iwerddon, oherwydd ni ddatblygodd y wladwriaeth les i’r un graddau â’r rhan fwyaf o’u cymdogion Ewropeaidd. Un gymhariaeth yw’r canlynol: yn ne Cymru, mae 30-40% o’r boblogaeth sy’n gweithio, yn gwneud o fewn y sector gyhoeddus; yn Iwerddon 15% yn unig sydd.

Fel y dadleua’r academydd o Brifysgol Maynooth, Patrick Bresnihan, nid yw’r wladwriaeth Wyddelig wedi bod yn araf o bell ffordd yn hwyluso, cynllunio a meithrin isadeiledd o fewn y wlad sy’n cefnogi twf Buddsoddiad Uniongyrchol o Dramor. Erbyn hyn Iwerddon yw’r brif fan yn y byd ar gyfer canolfannau data sy’n sugno ymaith 22% o ynni’r grid cenedlaethol. Gellir dadlau bod gan y wladwriaeth Wyddelig ddigon o arian i ddatblygu gofal iechyd cenedlaethol, trafnidiaeth neu ddarpariaeth dai fyddai gystal ag unrhyw wlad yn Ewrop. Yn aml, rhoddir y bai am anallu Iwerddon i wneud hyn ar gynneddf neu anghymhwysedd gwleidyddol.

Ond mae yno resymau posib eraill. Efallai nad yw’n gwneud am ei bod yn gweld y golud hwn fel arian annisgwyl, annibynadwy yn hytrach na ffynhonnell gynaliadwy o gyfoeth. Efallai mai rheswm mwy sinigaidd sydd ar waith, gan fod diffyg seilwaith cyhoeddus hefyd yn gyfle i greu elw preifat.

Mae hyn yn amlwg ym mhob man: telir cwmnïau preifat gan aelwydydd i gasglu eu sbwriel; mae pob ymweliad â’r doctor yn costio 50 ewro (ac mae pob meddygfa’n fusnes preifat); busnesau preifat yw pob meithrinfa cyn oed ysgol; mae yno ganran weddol uchel (yn arbennig yn Nulyn) o ysgolion uwchradd lle y mae’n rhaid talu ffioedd i fynychu; mae ysbytai preifat yn gyffredin, gyda hanner y boblogaeth yn talu yswiriant iechyd; darperir tai gan luoedd o landlordiaid corfforaethol a datblygwyr. Mae’r rhan helaeth o’r elwa sy’n digwydd yn cael ei chynnal a’i chefnogi gan y wladwriaeth Wyddelig, ond maen nhw’n bron yn ddieithriad yn brin ac yn ddrud. Drwy droi nwyddau cyhoeddus hanfodol yn farchnadoedd preifat sy’n dwyn elw, mae’r wladwriaeth Wyddelig wedi cynhyrchu ymdeimlad o brinder  ac ansicrwydd y mae’r dde eithafol nawr yn ei ddefnyddio fel arf.

TWF Y DDE EITHAFOL

Mae twf y dde eithafol yn Iwerddon wedi digwydd llawer yn hwyrach nag y gwnaeth mewn mannau eraill, ac nid yw’r un patrymau’n berthnasol yma o’u cymharu â gwledydd eraill, p’un ai ydynt yn llefydd dad-ddiwydiannol wedi eu gadael ar ôl, yntau’n wledydd gwladychol ac imperialaidd sy’n dirywio. Mae ganddi, fodd bynnag, gymdeithas sy’n fwyfwy rhanedig ac anghyfartal gyda diffyg gwasanaethau ac isadeiledd cyhoeddus ac ar y cyd â hyn mae yno dwf sylweddol mewn mewnfudo. Ym 1990 ganed rhyw 2% o’r boblogaeth y tu allan i Iwerddon; erbyn heddiw mae’r ffigwr oddeutu 23% ac un o’r canrannau uchaf o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Hyd yn oed cyn yr ymchwydd mewn mewnfudiad, roedd Iwerddon mewn argyfwng tai, argyfwng gofal iechyd ac argyfwng isadeiledd. Fodd bynnag, mae’r problemau systematig hyn, ar y cyd â thwf mewnfudiad wedi bod yn wledd i sborionwyr y dde.

Mae’r dde eithafol yn hynod o effeithiol yn ecsbloetio’r tensiynau o fewn yr economi-wleidyddol gyfalafol byd-eang sy’n creu trafferth ar lefel leol (yr argyfwng tanwydd, yr argyfwng tai, dad-ddiwydiannu, neu system ofal iechyd sydd dan faich), gan gyfeirio pryderon dilys bobl am y pethau hyn tuag at ateb sy’n rhoi’r bai ar bobl nad sy’n achosi’r broblem (fel arfer mewnfudwyr). Drwy wneud hyn maent yn ennyn gwleidyddiaeth hiliol sy’n peri rhwyg sydd yn gadael yr holl broblemau strwythurol sylfaenol yn ddiogel ac yn eu lle.

Un ffordd o feddwl am hwn yw dychmygu mai ecosystem ydyw, wedi ei adeiladu o amgylch model economaidd Iwerddon. O fewn ecosystem, mae gwahanol elfennau’n dibynnu ar ei gilydd mewn perthynas symbiotig. Yn achos economi Iwerddon – economi sy’n hafan dreth ac sy’n cefnogi Buddsoddiad Uniongyrchol o Dramor – mae cwmnïau rhyngwladol yn buddio o elw uwch wedi treth, diolch i’r rhwydwaith mewnol o osgoi taliadau treth; ond mae angen trethi, buddsoddiad, swyddi ac ati ar y wladwriaeth i ffynnu; o ganlyniad mae’r dde eithafol yn buddio o’r anhrefn mae’r fath system yn ei gynhyrchu. Mae’r naill a’r llall yn manteisio o’r model economaidd hwn a does ganddynt ddim diddordeb mewn datrys y problemau sydd wrth wraidd y model.

Er bod Fine Gael a Fianna Fáil – y ddwy ganolblaid sydd fwyaf blaenllaw yn Iwerddon – wedi llwyr ymroi i’r model economaidd hwn, mae yno arwyddion o rwygiadau. Yn ddiweddar, enillodd yr ymgeisydd annibynnol Catherine Connolly’r etholiad llywyddol o gryn dipyn o bleidleisiau. Fe’i cefnogwyd gan Sinn Féin, y Blaid Lafur, Pobl o Flaen Elw, Y Gwyrddion a’r Democratiaid Sosialaidd, ac er mai rôl seremonïol sydd gan yr Arlywydd ac iddi bŵer gwleidyddol cyfyngedig yn unig, rhoddodd y fuddugoliaeth ymdeimlad o obaith i’r chwith yn gyffredinol. Yn ystod etholiad cyffredinol 2020, gwnaeth Sinn Fein gynnydd sylweddol wrth ennill y canran uchaf o bleidleisiau dewis cyntaf (tua 25%), a gosod ei hunain yn wrthwynebwyr i’r wladwriaeth ac yn ffyrnig-dargedu’r argyfwng tai.

Fodd bynnag, erbyn yr etholiadau lleol yn 2024, dim ond 11% o’r bleidlais a gawsant gan ddisgyn i drydydd safle yn yr etholiad cyffredinol yn hwyrach y flwyddyn honno. Mae rhai yn priodoli’r newid hwn mewn safle i newid o fewn y blaid ei hun o un a oedd yn cynnal safbwynt chwith-boblyddol i blaid oedd yn ddewis diogel yn lle Fine Gael a Fianna Fáil. Daethant yn llai gwrth-wladwriaethol ac yn blaid oedd yn fwyfwy prif-ffrwd yn economaidd – aethant ati i dawelu meddyliau busnesu mawr – ac maent wedi drysu dros deimladau sy’n gynyddol gwrth-fewnfudwyr.

Ni lwyddodd y blaid i wynebu’n effeithiol y twf mewn rhethreg gwrth-fewnfudwyr, ac ni lwyddon nhw i ailgyfeirio rhwystredigaethau’r cyhoedd tuag at broblemau gwleidyddol ac economaidd systematig, na chwaith cyflwyno ffordd arall o egluro’r sefyllfa oedd yn rhesymegol ac yn cynnig atebion go iawn i ddatrys y problemau. Bu rhwyg rhwng pleidleiswyr oedd yn ystyried mewnfudiad yn broblem a charfan arall gwrth-hiliol, yn y pen draw ni lwyddon nhw i blesio unrhyw un.  Mae gan y datblygiadau hyn oblygiadau pwysig i wleidyddiaeth Gymreig, a’r ffordd yr ydym yn ystyried annibyniaeth.

ANNIBYNIAETH GYMREIG

Mi fyddai James Connolly wedi anghytuno gyda honiad Rhun ap Iorwerth bod Iwerddon yn gyfrifol am ei ffawd ei hun, byddai’n rhybuddio bod annibyniaeth dan gyfalafiaeth yn cyfnewid un math o reolaeth a gormes am un arall. Mae’r Iwerddon gyfoes sydd ohoni bron a bod mor bell o’i weledigaeth â phosib. Mae’n glwm i fodel economaidd sydd wrth fympwy cwmnïau rhyngwladol Americanaidd, un sy’n tynnu’r elw a grëir gan y dosbarth gweithiol yn fyd eang, sy’n amddifadu’r gwledydd tlawd o refeniw treth hanfodol, ac sy’n cyfoethogi cyfranddalwyr corfforaethol. Er y cyfoeth a’r swyddi a ddaeth i’r wlad, daeth Iwerddon yn gaeth i fodel economaidd anghynaladwy a hynod fregus.

Cerflun o’r sosialydd James Connelly yn Nulyn.

Yng Nghymru, rydym yn gwybod o brofiad nad hirhoedlog mo thwf economaidd. Ehangwyd cyfoeth preifat perchnogion a chyfranddalwyr a chynnydd fferyllol-dechnolegol Iwerddon gan ein cynnydd diwydiannol ni,: ond efallai mai dyna lle daw’r tebygrwydd i ben. Un o ganlyniadau’r diwydiannau trymion yng Nghymru oedd cymunedau dosbarth gweithiol cryf a fodolai ar sylfaen o gydymddibyniaeth a chydweithrediad, ymwybyddiaeth wleidyddol a dosbarth, ac isadeiledd cymunedol bwysig (megis neuaddau lles y glowyr a chymdeithasau gofal iechyd) a fu’n sylfaen i’r wladwriaeth les.

Cyrhaeddodd y twf diwydiannol hwn ei anterth dros gan mlynedd yn ôl, ond rydym yn dal i ddioddef o’i ddirywiad hyd heddiw. Er gwaethaf hyn, roedd y seiliau cymunedol a gwleidyddol yn hanfodol i gymunedau yn ystod yr amryw argyfyngau a ddaeth wedyn, a gallant fod yn bwysig eto ar gyfer ein gwleidyddiaeth heddiw ac yn y dyfodol. Nid yw un o’r pethau hyn yn wir am Iwerddon. Os, neu pan, ddaw dymchwel yr economi, caiff natur yr economi hafan-dreth Buddsoddiad Uniongyrchol o Dramor ei ddatgelu’n llwyr: llewyrch bas a greodd elw preifat i ychydig iawn o bobl a braidd dim byd i bawb arall.

Drwy ethol Prif Weinidog sydd, am y tro cyntaf, o blaid annibyniaeth, mae gennym gyfle – os nad rheidrwydd  – i drafod annibyniaeth, yn cynnwys ei phroblemau. Mae Cytundeb Caerdydd yn symud i’r cyfeiriad hwnnw. Dywed yn glir y bydd yn “gwrthod model economaidd diffygiol San Steffan” o blaid meithrin economïau cryfach, tecach” er mwyn mynd i’r afael ag anghyfiawnder cymdeithasol. Dyma ddelfryd grymus a blaengar. Fodd bynnag, bydd yr economi’n parhau i fod yn gwestiwn pwysig i lawer a bydd rhai yn cael ei denu at y model Gwyddelig fel ateb.

Dewch i ni beidio ag anghofio sut y bu i’r SNP addo, yn ystod refferendwm annibyniaeth ddiwethaf yr Alban, y byddent yn lleihau treth gorfforaethol er mwyn denu cyfalaf o dramor – polisi a yrrwyd gan John Swinny a oedd yn Weinidog Cyllid ar y pryd ond sydd erbyn hyn yn Brif Weinidog. Yng Nghymru cawsom ninnau ein denu gan freuddwydion gwrach Buddsoddiadau Uniongyrchol o Dramor, tra bod eraill yn gweld y dyfodol ar ffurf cymoedd silicon.

Mae yno beryg y bydd Cymru annibynnol yn gosod ein dyfodol yn nwylo iachawdwyr o gwmnïau rhyngwladol. Hyd yn oed o safbwynt pragmataidd, nid yw hyn yn gwneud synnwyr. Gan fod hafan dreth a system sy’n croesawu Buddsoddiad Economaidd o Dramor yn bodoli’n barod dros Fôr Iwerddon, pa fantais fyddai gennym? Mae’r model Gwyddelig yn cynrychioli ras i’r gwaelod nid cyfle am rywbeth gwell.

Nid yw gwrthod y model Gwyddelig yn ffordd o amddiffyn y status quo. Mae datganoli’n ein cadw’n gaeth i San Steffan a’r Ddinas – a’r naill a’r llall wrth wraidd dinistr cyfalafiaeth fyd-eang, ac nid yw o fudd i’r mwyafrif o bobl yng Nghymru. Rydym wedi cael hen ddigon o amser i arbrofi o fewn y cyfyngiadau hyn ac mae angen gweledigaeth amgen arnom. A derbyn bod posibilrwydd y byddwn yn rhan o lywodraeth Brydeinig wedi ei harwain gan Farage – rhywbeth fyddai’n gwneud i ddyddiau Thatcher, hyd yn oed, edrych yn rhesymol – mae’n daer angen dewis amgen arnom. Ond, ni ddylem edrych tuag at ein cymdogion Celtaidd am ysbrydoliaeth oherwydd nid Google, Apple nac Eli Lilly yw’r ateb.

Ni eillir creu proses gyfundrefnol allan o annibyniaeth sy’n addo trwsio ein heconomi yfory. Rhaid i ni ei hadeiladu o’r gwaelod i fyny, drwy fudiadau llawr gwlad sy’n gwthio am reolaeth ddemocrataidd dros ein heconomi heddiw. Bydd yn rhaid i’n llwybr tuag at annibyniaeth gynnwys gweledigaethau diriaethol ac ymarferol sy’n argyhoeddi pobl ei fod, nid yn unig yn economaidd bosib, ond y bydd yn gwella ein bywydau beunyddiol. Mae’n bosib ein bod yn agosach nag yr ydym yn sylweddoli at yr atebion, mae ein hanes cyfoethog o gydymddibyniaeth, economi gydweithredol a pherchnogaeth gymunedol yn cynnig y seiliau ar gyfer annibyniaeth wirioneddol.

*diolch i Frank, Sheila, a John am yr amser a roddwyd ganddynt i ddarllen y darn hwn ac am eu hadborth.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.