Wrth inni aros am ganlyniadau’r etholiad, mae Greg Davies yn ystyried y posibiliad o newid go iawn mewn un gweithgaredd economaidd sydd wedi bod a’i grafangau’n gynyddol o gwmpas Cymru yn oes datganoli.
Cyflwyna’r etholiadau seneddol gyfle hanesyddol i herio militariaeth Brydeinig yng Nghymru. Dan stiwardiaeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig, mae Cymru wedi datblygu rhwydwaith ddwys o filitariaeth wladwriaethol, gwneuthurwyr arfau a chwmnïau seibr-ddiogelwch. Yn ôl Llywodraeth Cymru mae gan y diwydiant hwn drosiant gwerthu o £3.7 biliwn ac mae’n cyfrannu rhyw £1.5 biliwn Gwerth Ychwanegol Gros i’r economi Gymreig. Mae’n amgynnwys tua 285 cwmni, yn eu mysg rhai o gwmnïau arfau mwyaf y byd, ac o leiaf 16,000 o swyddi.
Dros y tri degawd diwethaf, chwaraeodd llywodraeth Llafur Cymru ran bwysig yn y datblygiadau hyn. Cyn i’r Senedd gael y pŵer i ddeddfwriaethu’n ar liwt ei hyn hyd yn oed, roedd gweinyddiaeth Rhodri Morgan yn gwario miliynau er mwyn mynd ar drywydd cytundebau gwerth biliynau o bunnoedd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Ymddengys mai nod datganoli Cymreig oedd meithrin y diwydiant amddiffyn a medi’r ffrwyth.
Dim ond coethi’r brwdfrydedd wnaeth y blynyddoedd rhwng y cyfnod hwnnw a’r presennol. Er nad yw amddiffyn wedi ei ddatganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio ei bwerau ‘datblygiad economaidd’ i gynnal ymgais y diwydiant arfau i ennill ei blwyf yng Nghymru, fel y cofnodwyd gan Academi Heddwch.
Ers dros ddeng mlynedd, mynychwyd un o ffeiri arfau mwyaf a gwaetha’r byd, Defence and Security Equipment International, gan Lywodraeth Cymru mewn ymgais i fuddsoddi ymhellach, gan wario cannoedd o filoedd o bunnoedd yn y broses. Y mae wedi gwobrwyo miloedd mewn grantiau datblygu i gwmnïau arfau mawr, megis RTX / Raytheon, Thales ac Airbus (er nid ar gyfer creu arfau).
Y mae’n parhau i gydweithio’n frwdfrydig gyda metrau’r Weinyddiaeth Amddiffyn, gan gynnwys cynlluniau cyfredol i gynyddu cynhyrchiant dronau yng Nghymru. Fel y dadleuwyd ers hir oed gan Gymdeithas y Cymod ac eraill, y mae wedi bod yn frwd a hyderus ynghylch hyrwyddo militariaeth a recriwtio i’r lluoedd arfog o fewn ysgolion Cymru. Yn y cyfamser, ni ddywedodd lawer o ddim yn erbyn gwyliadwraeth y protestiadau yn erbyn gwneuthurwyr arfau mewn prifysgolion Cymreig.
Y Cymhleth Milwrol-Diwydiannol Cymreig?
Daw arwyddion clir gan Lafur Cymru mai ehangu y dylai’r diwydiant arfau ei wneud. Hoffai i ragor o gwmnïau fuddsoddi yng Nghymru, a hoffai bod buddion y cynnydd mewn gwariant milwrol yn crynhoi mewn mwy o fentrau bach a chanolig. Drwy gyfuno aristocratiaeth Llafur gydag ansicrwydd y petit-bourgeois mae’n weledigaeth lle mae’n fwyfwy anodd gwahanu diogelwch economaidd boblogaeth Cymru oddi wrth ffolineb, rhyfeloedd a dinistr dramor Prydain.

Mae gweinidogion Llafur Cymru’n cysuro eu hunain gyda’r syniad nad ydynt yn ariannu cynhyrchiant arfau’n uniongyrchol. Er bod hyn yn wir, amddiffyniad egwan ydyw o ystyried difrifoldeb y cyhuddiadau yn erbyn y cwmnïau a fuddiodd o gefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Mae Thales, er enghraifft – cwmni y mae gan lywodraeth Cymru bartneriaeth gwerth miliynau o bunnoedd ag ef – wedi’u cyhuddo o elwa’n uniongyrchol o werthu arfau ac offer i Israel yn ystod ymosodiadau’r hil-laddiad yn Gasa. Mae deiliaid grantiau eraill llywodraeth Cymru, megis Airbus a Raytheon / RTX, wedi’u cysylltu’n uniongyrchol ag erchyllterau Sawdi a’r Emiradau Arabaidd Unedig yn Yemen.
Pa bynnag mor rhadlon ymddengys yr ymdrech ar dir Cymru, mae partneriaethau’r llywodraeth gyda chwmnïau o’r fath yn hwyluso ymgais y cwmnïau hyn i geisio cuddio’u henwau drwg. Mae’r parterniaethau’n awgrymu bod y cwmnïau hyn yn haeddu cefnogaeth foesol ac ariannol llywodraeth Cymru a etholwyd yn ddemocrataidd gan y bobl, beth bynnag eu camweddau mewn mannau eraill. Nid yw ‘gwasanaethau gwyngalchu’ Cymru Ddatganoledig dros gyfalaf byd-eang wedi ei gyfyngu at gwmnïau arfau’n unig, yn anffodus.
Mae’r awydd i ddatblygu’r diwydiant amddiffyn, er nad oes cyfrifoldeb ffurfiol gan Gymru dros amddiffyn, yn nodweddiadol o’r ‘Welsh Way’. Wyneb yn wyneb â heriau strwythurol safle economaidd lled-ymylol Cymru, mae’r sefydliadau llywodraethol wedi seilio’u ffydd ar fuddsoddiad uniongyrchol o dramor er mwyn gwella tynged ôl-ddiwydiannol y wlad. Mae graddfa aruthrol y cyfalaf a’r adnoddau sydd ar gael i gwmnïau amddiffyn byd-eang yn eu gwneud yn darged arbennig o ddeniadol ar gyfer yr ymdrechion hyn.
Gwaed ar ein Dwylo
Mae’r ffordd y mae Cymru ddatganoledig wedi cofleidio militariaeth hefyd yn seiliedig ar gyfres o dybiaethau amheus. Yn union yn yr un modd a’i mam-blaid, Llafur y Deyrnas Unedig, golwg anfeirniadol o’r diwydiant amddiffyn sydd gan Lafur Cymru wrth iddi ei ystyried yn ddiwydiant sy’n gweithredu er gwell gartref a thramor, a rhywbeth sy’n greiddiol i ddiogelwch cenedlaethol a ffyniant economaidd.
Eto fyth, cred y gall ddewis a dethol pa elfennau o’r diwydiant i feithrin yng Nghymru ac felly cyfyngu ar gysylltiad â ‘diwedd eithaf gwaedlyd yr holl fusnes’. Mae gweinidogion Cymreig hefyd yn credu’n ddi-gwestiwn yn uniondeb eu prosesau gwirio ar gyfer grantiau’r llywodraeth.
Mae pob un o’r tybiaethau hyn yn gyfeiliornus. Mae cadwyni cyflenwai’r diwydiant amddiffyn yn gynyddol gymhleth a chydgysylltiol. Mae nifer o gwmnïau amddiffyn hefyd yn ymwneud ag ystod eang o weithgareddau masnachol, ac nid ydynt i gyd yn ymwneud ag ‘amddiffyn’.
Golyga hyn bod y posibilrwydd o ariannu cwmnïau sydd wedi chwarae rhan mewn gweithredoedd erchyll dramor trwy amryfusedd yn anodd iawn gwaredu arno’n gyfan gwbl. Ers 2023, mae pob un o lywodraethau datganoledig y Deyrnas Unedig wedi gorfod wynebu’r posibilrwydd eu bod wedi cynorthwyo dirywiad Gasa o ganlyniad i’w cefnogaeth ariannol i gwmnïau amddiffyn sy’n gysylltiedig ag Israel.
Y llynedd, datgelodd Amnest Cydwladol bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi grant £500,000 i Senior, cwmni sydd yn darparu offer milwrol i Luoedd Amddiffyn Israel. Er na roddwyd yr arian ar gyfer y gweithredoedd hynny, tanseiliwyd addewidion Llywodraeth Cymru o ran pwy a beth roedd yn ei gefnogi.
Nid digwyddiad ar wahân oedd hwn. Cafodd weinidogion Cymreig ei dal yn ddisymwth gan ddatguddiadau yn 2018 bod Raytheon / RTX, cwmni arall a oedd wedi derbyn arian datganoledig, yn cyflenwi offer militaraidd i Sawdi-Arabia yn ystod ei ymgyrch ciaidd yn Yemen. Fel y mae penodau o’r fath yn dangos, nid oes gan lywodraeth Cymru oruchwyliaeth gyflawn o weithgareddau’r holl gwmnïau amddiffyn mae’n eu cefnogi gydag arian cyhoeddus.
Dianc rhag Corwynt Cïaidd
Mae coleddu un rhan o’r sector amddiffyn hefyd yn cryfhau’r dynfa tuag at fentrau milwrol eraill. Mae personau deallus milwrol Prydain yn nodi bod gallu syber-ddiogelwch – un o hoff bethau Llywodraeth Cymru – ynddo’i hun yn ffynhonnell bwysig i allu taflunio grym, ac mae’n sail ddeniadol i’r diwydiant amddiffyn ehangu yn y tiriogaethau hynny sy’n berchen arno.
Mae unrhyw gysylltiad â’r sector, mewn geiriau eraill, yn gyrru’r system ei hun tuag at glymau pellach. Dilynwyd y llwybr hwn yn barod, yn yr Alban y llynedd, pan roddodd llywodraeth yr SNP y gorau i safiad egwyddorol, hir oes i beidio ag ariannu cynhyrchiant arfau.
Mae etholiadau’r Senedd yn gyfle i newid cyfeiriad. Bydd maint a lledaeniad y sector amddiffyn yng Nghymru’n creu awydd cryf i barhau, hyd oed petai gennym glymblaid dan arweinyddiaeth Plaid Cymru. Ac eto, mae’n hanfodol ein bod yn ymwrthod â’r demtasiwn.
Ers tri degawd, mae Llafur Cymru wedi pregethu efengyl swyddi a buddsoddiad. Wedi’r etholiad, cyfrifoldeb cyntaf unrhyw glymblaid flaengar bydd gofyn: beth fydd y gost? Gall Blaid Cymru fod yn falch o’i hanes gwrthwynebol. Heriodd yn llwyddiannus amwysedd Llafur dros ffieidd-dra Israel, ac arweiniodd bleidlais y Senedd i gefnogi’r cadoediad yn Gasa yn 2023, ac amlygodd oddefgarwch Llywodraeth Cymru o filitariaeth. Os yw’n llwyddo yn yr etholiadau, mae’n rhaid i’r safiadau pwysig hyn droi’n weithredoedd cadarn.
Dylai’r llywodraeth Gymreig nesaf stopio ymwneud â phob un ffair arfau yn gyfan gwbl. Dylai roi diwedd ar ariannu cwmnïau sy’n elwa o ryfel a hil-laddiad ac, yn lle, dylai flaenoriaethu mentrau sy’n cynyddu cyfoeth cymunedau. Dylai ymwrthod ag atyniad cytundebau’r Weinyddiaeth Amddiffyn a gwahardd defnydd tir Llywodraeth Cymru ar gyfer arbrofion milwrol. Dylai gefnogi’r mudiad boicot, dad-fuddsoddi a sancsiynau sydd wedi ennill tir ar lefel awdurdodau lleol, yn ei lawnder, a dylai ymwrthod ag unrhyw geisiadau pellach gan lywodraethau San Steffan i roi pen ar unrhyw fynegiant o gydsafiad gydag achos y Palestiniaid.
Yn y tymor hirach, yr her fydd trawsnewid Cymru’n wlad nad sy’n ddibynnol bellach ar filitariaeth. Yn amlwg, mae yno gyfyngiadau i’r hyn y gellir ei gyflawni tra bod Cymru’n parhau’n rhan o wladwriaeth y Deyrnas Unedig, ac yn benodol gwladwriaeth sy’n ymwneud â phrosiect Keynsaidd filwrol.
Serch hynny, fel y mae CAAT yn dadlau, dylem anelu at nod terfynol fyddai’n troi cyfleusterau arfau’r presennol yn gyfleusterau fydd yn creu ac yn cynnal y technolegau hynny sy’n gwella bywydau a llesiant pobl. Wrth i lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig hwyluso rhyfel treisgar gan yr Unol Daleithiau ac Israel yn erbyn Iran a Lebanon, mae herio diwylliant gynyddol filwrol gartref yn argyfyngus ac yn hanfodol ill dau.
Nid oes yn rhaid i Gymru aros am refferendwm annibyniaeth er mwyn troedio llwybr gwahanol o fewn gwleidyddiaeth fyd-eang; dylai’r gwaith hwnnw ddechrau nawr.
