Cyhoeddwyd bod Ffair Arfau dan y teitl ‘Amddiffyn Diogelwch Gwytnwch Cymru’ i’w chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd ar 3-4 Medi 2026.
Mae Cymdeithas y Cymod yn gwrthwynebu’r digwyddiad yn llwyr, ac yn gresynu fod Cymru yn gartref i weithgaredd sy’n hyrwyddo y gallu i ladd ar raddfa ddiwydiannol. Dylid canslo y ffieiddbeth hwn ar fyrder. Credwn mai dyna ddymuniad y Mudiad Heddwch yng Nghymru gyfan.
Yn ddiamau, mae Cymru ar groesffordd foesol ac economaidd.
Bellach, mae gennym Lywodraeth newydd yn y Senedd dan arweiniad Plaid Cymru, a chyfle i newid cyfeiriad oddi wrth Economi Ryfel tuag at Economi Gynaliadwy. Dengys y digwyddiad hwn, a gefnogwyd yn y lle cyntaf gan Lywodraeth Llafur Cymru, ein bod fel gwlad am barhau i fod yn weision bach ufudd i’r diwydiant lladd. Nid diwydiant amddiffyn mo hwn, ond diwydiant ymosod.
A ydym am wlad sydd o ddifri am greu Cenedl Heddwch? Neu ydym ni am ddal i gefnogi y -Cymhleth Milwrol Ddiwydiannol (Military Industrial Complex) fel y gwnaeth Llywodraeth Cymru o’r blaen? Nid yw’r hyn a wyddom hyd yma yn argoeli newid cyfeiriad o bwys gan y Llywodraeth newydd.
Mae yna gwestiynau hollol sylfaenol yn wynebu Llywodraeth Cymru, a holl aelodau’r Blaid, am sut fath o Gymru mae nhw am i ni fod. A yw gwaddol Gwynfor, un o Heddychwyr mawr Cymru, i gael ei anghofio? Onid yw condemnio rhwydd ar ryfeloedd dramor tra’n hyrwyddo y dulliau o alluogi’r rhyfeloedd hynny yn rhagrithiol?
Gwrthwynebu Ffair Arfau yng Nghaerdydd yn 2018 wnaeth Cymdeithas y Cymod a llawer o fudiadau eraill. Y tro hwnnw, condemniwyd y Ffair gan Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru ar y pryd, ac mae nifer o Aelodau Senedd Plaid Cymru hefyd wedi condemnio digwyddiadau o’r fath ers hynny.
Gresynwn fod ein Llywodraeth yn cael ei restru fel un o noddwyr y Ffair Arfau hon. Yn ôl adroddiadau ‘roedd Adam Price, Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, i fod i annerch yn y digwyddiad. Deallwn bellach fod hyn yn anghywir, a’i fod wedi gwrthod gwahoddiad i siarad.
Fodd bynnag, mae digon o amser wedi mynd heibio ers yr etholiad i’r Llywodraeth wneud penderfyniad i wneud popeth posib i atal eu cefnogaeth i’r Ffair Arfau. Wedi’r cyfan, un o’r cyd-drefnwyr, heblaw y Llywodraeth, yw General Dynamics Land Systems. Mae hwn yn is-gwmni i General Dynamics – sy’n gysylltiedig â’r lladdfa yn Gaza y mae’r Blaid wedi ei gondemnio. Cyd-drefnydd arall yw Grŵp ADS, sy’n gorff yn cynrychioli cwmnïau arfau. Y cyd-drefnydd arall yw Business in Focus, a dywed ei Prif Weithredwr ei fod yn croesawu y cyfle i fod yn rhan o’r ymdrech ‘genedlaethol’ (sgwn i pa ‘genedl’ sy’ dan sylw?), gan gynnwys cyfleon masnachol i Glwstwr Amddiffyn a Diogelwch Cymru.
Nid yw’n argoeli’n dda pan ddeallwn fod Adam Price wedi bod i Sioe Awyr Farnborough yn ddiweddar; Sioe sy’n cael ei redeg gan gwmni dan berchnogaeth Grŵp ADS. Deallwn i Mr Price gael trafodaethau efo Lee Bruce, person sy’n uchel yn y Grŵp ADS. Yn ôl Mr Bruce bu Mr Price ac yntau yn trafod: “parhau cydweithio rhwng Llywodraeth, y diwydiant ac ADS”, gan gynnwys ar y Fargen Twf Amddiffyn Cymru, sy’n werth £50 miliwn. Bwriad y Fargen yw cynyddu y diwydiant arfau yng Nghymru, gan gynnwys dronau, a galluogi cwmnïau llai i fanteisio ar gyfleon yn y diwydiant.
Cofiwn yn ogystal fod yr arddangoswyr yn y Sioe yn cynnwys cwmnïau arfau o Israel, sef Elbit Systems, Rafael Advanced Defense Systems a Israel Aerospace Industries, sy’n golygu fod presenoldeb Mr Price yn hyd yn oed llai derbyniol.
Ymateb llefarydd ar ran y Llywodraeth i bresenoldeb Mr Price yn Farnborough oedd hyn:
“Byddwn yn parhau i gyfathrebu gyda’r sectorau awyr-ofod, amddiffyn, diogelwch, a gwytnwch cenedlaethol i gefnogi y miloedd o swyddi uchel-dechnoleg sy’n talu’n dda yng Nghymru, tra’n hyrwyddo parch at hawliau dynol a chyfraith ryngwladol. Mae fframwaith amddiffyn moesol yn cael ei ddatblygu, gyda chymorth trafodaethau gyda cymheiriaid yn Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, a bydd yn tywys cysylltiad gyda’r sector yn y dyfodol.”
Anodd credu bod disgwyl i ni goelio y ffasiwn ddatganiad sydd i bob pwrpas yn dweud:
“Mae swyddi yn y diwydiant arfau yn cyfri mwy nag unrhyw ystyriaeth arall. Gallwn guddio y tu ôl i hawliau dynol a chyfraith ryngwladol, er bod y ddeubeth wedi colli llawer o’u hystyron bellach.”
Oni fyddai’n llawer gwell i Lywodraeth Cymru chwilio am ffyrdd gwell o greu swyddi nac yn y diwydiant lladd? Oni ddylid chwilio am ffyrdd i ddad-filitareiddio Cymru, yn lle bodloni fod yna tua 50 o safleoedd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ein gwlad? Oni ddylem holi pam fod lladrad tir Epynt yn dal yn ein creithio? Bod Aberporth a Llanbedr yn feysydd arbrofi efo dronau milwrol? Bod peilotiaid yr Awyrlu yn y Fali yn cael eu hyfforddi gan Elbit Systems? A bod y ddibyniaeth economaidd ar y diwydiant angheuol hwn yn creu hinsawdd o ryfelgarwch, ac o ofni codi llais i wrthwynebu?
Pam na chawn ni drafodaeth go iawn ar gynigion ardderchog CND Cymru – “Tu Hwnt i’r Economi Ryfel” sy’n dangos y posibiliadau i ni. Gall sgiliau gweithwyr y diwydiant arfau gael eu defnyddio er lles – ac wrth gwrs creu swyddi newydd. Meddyliwch am ddiwydiannau gwyrdd, am warchod cynefinoedd a thrwy hynny atal llifogydd a lleihau y perygl o dannau.
Wedi’r cyfan, beth yw’r bygythiad mwyaf a wynebwn, ond newid hinsawdd? A bod rhyfeloedd yn creu allyriadau difrifol o garbon, heb sôn am ddistryw amgylcheddol. Ystyriwch hefyd cost economaidd rhyfel, megis y cannoedd o filoedd o swyddi caiff eu colli ym Mhrydain oherwydd cynnydd prisiau egni yn sgil y rhyfel yn Iran.
Oni ddylem ystyried mai polisi bwriadol gan y Wladwriaeth Brydeinig yw creu Economi Rhyfel, un sydd o fudd i’r lleiafrif dethol? Creu Economi Heddwch ddylai fod yn bolisi bwriadol i Lywodraeth Cymru. Mae digon o dysFfatiolaeth bod pob punt o fuddsoddiad cyhoeddus yn creu llai o swyddi yn y sector filitaraidd na mewn sectorau eraill.
Bydd gweithredoedd Llywodraeth Cymru yn dangos i ni pwy a beth fydd yn cael y flaenoriaeth.
Yn y bôn, byddai parhau i gefnogi a hyrwyddo’r diwydiant arfau a militariaeth yn dangos nad yw Llywodraeth Cymru am dorri cwys ei hun go iawn. Dyma gyfle i ddangos fod ein Cymru ni yn ymwrthod â’r drefn sy wedi dod a ni at ddibyn difodiant.
Credwn fod Mererid Hopwood wedi siarad drosom fel Cymry pan gyhoeddodd o’r Maen Llog yn Eisteddfod y Garreg Las:
“Ym mhob man, mae sôn am brinder arian i dynnu plant o dlodi, i ofalu am yr henoed, i roi addysg a chyfle i brofi’r celfyddydau, i’r diwydiant llyfrau a cherddoriaeth, a’r esgid fach yn gwasgu, gwasgu.
“Ac eto, mae arian i fwydo’r gyfundrefn filwrol. Oherwydd dyna’r synnwyr cyffredin – ymarfogi hyd at dlodi i’n cadw ni’n saff.
“O blaid beth y’n ni? Porthi’r peiriant milwrol neu atgyfnerthu harddwch bro: daear a phobl yn cyd-dynnu’n dangnefeddus? Dim ond gofyn.”
……………………………………………………………………………………
Cafodd yr erthygl yma ei gyhoeddi yn gyntaf ar wefan Cymdeithas y Cymod. Am gefndir darllenwch erthygl Greg Davies “Wynebu’r Diwydiant Amddiffyn yng Nghymru”.
