Wrth i ni lansio ein blog etholiadol, a cheisio cynnig rhywfaint o oleuni i chi ynghylch yr hyn sydd ar droed, rydym wrth ein bodd croesawu ‘nôl cyfrannwr rheolaidd, Gareth Leaman – sydd wedi bod yn ysgrifennu i Novara ymhlith pethau eraill – ac sydd yn yr erthygl teiran hwn yn amlinellu darlun o’r tirlun cyffredinol, esbonio pam bod Reform yn boblogaidd, a sut y byddai eu trechu ymhell o fod yn ddiwedd y stori…
Mae Gareth eisoes wedi ymdrin ag agweddau o’r materion yma yn ei erthygl i Novara wrth ddadansoddi isetholiad Caerffili fis Hydref diwethaf, felly byddem yn argymell darllen hwnnw hefyd!
Gydag etholiad y Senedd ar y gorwel, prinhau’r mae’r cyfloedd i ddatgelu mwy am yr hyn gall poblogrwydd cynyddol Reform UK golygu i Gymru. Felly dyma rai o’r prif bwyntiau i fyfyrio arnyn nhw rhwng nawr a’r 8fed o Fai.
Dan Warchae
Er mwyn deall sut mae Reform UK yn ysgogi a chryfhau sylfaen wleidyddol yr asgell dde yng Nghymru, rhaid inni leoli ein dadansoddiad o fewn yr adwaith poblogaidd byd-eang yn erbyn y rheolaethiaeth ryddfrydol (liberal managerialism) – sef y grym gwleidyddol llywodraethol pennaf, ledled y byd gorllewinol, dros y degawdau diwethaf.
Mae’r dosbarth gweinyddol hwn wedi rheoli dros ein sefydliadau gwleidyddol ers amser maith, tra’n brin o’r ewyllys a’r moddion i ddatrys argyfyngau cyfalafiaeth, sy’n effeithio mor negyddol ar eu dinasyddion. Ar ôl dominyddu pob lefel o lywodraeth am chwarter canrif neu fwy, mae bellach dan warchae, oddi uchod ac oddi isod. Oddi uchod, mae’n cael ei gyfyngu gan lif cyfalaf byd-eang sydd i raddau helaeth y tu hwnt i’w reolaeth: cyllid rhyngwladol, cynhyrchu a chadwyni cyflenwi byd-eang, pŵer corfforaethol rhyngwladol. Oddi isod, mae’n wynebu anfodlonrwydd torfol ynghylch y dirywiad mewn safonau byw sy’n dilyn, a’r anhwylder seicocymdeithasol sy’n ei ganlyn. Yng Nghymru, rhyw ffordd neu gilydd, mae’r gwarchae hwnnw ar fin torri.
Mae cefnogaeth dorfol Lafur Cymru yn dod i ben unwaith ac am byth
![]()
Un sefydliad o’r fath sydd dan warchae yw’r Blaid Lafur Brydeinig. Yng Nghymru yn benodol, mae ei hawdurdod gwleidyddol – sydd wedi bod yn brysur dadfeilio ers amser maith – ar fin chwalu o’r diwedd. Ni ddylai hyn fod yn gymaint o syndod, oherwydd dyma ganlyniad anochel gwleidyddiaeth Llafur ei hun.
Yn sgil trawsnewidiad Prydain ar ôl Thatcher, mae Llafur ers tro byd wedi esgeuluso – ac ar adegau wedi datgymalu’n fwriadol – yr union amodau cymdeithasol a gynhyrchodd y blaid a’r diwylliant a’i chynhaliodd. Rhaid cofio, bod pleidiau’n bodoli fel mynegiant o fuddiannau rhan benodol o’r gymdeithas. Yng nghyd-destun y Blaid Lafur, mae’r rhesymau hanesyddol dros ei fodolaeth wedi’i gysylltu’n anochel â hanes diwydiant, y cymunedau a adeiladwyd o’i gwmpas, a’r undebau llafur a rwymodd eu gweithwyr ynghyd. Wrth i’r pileri sefydliadol hyn ddadfeilio (sydd mor amlwg inni yn y Gymru ôl-ddiwydiannol), felly hefyd y mae’r Blaid Lafur yn dadfeilio, oherwydd nid yw bellach yn fynegiant o floc pleidleisio torfol, cydlynol. Efallai bod honiad drwg-enwog Peter Mandelson, sef bod y dosbarth gweithiol wedi’i glymu i’r Blaid Lafur oherwydd ‘nad oes unman arall iddyn nhw fynd’ wedi bod yn wir am gyfnod. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu llawer os yw’r dosbarth gweithiol llafur wedi’i chwalu a’i ddirymu, i’r graddau nad oes bellach modd ei adnabod.
Ni fydd y byd hwn o Lafur na Llafuriaeth byth yn dychwelyd. Os ydyn nhw rywsut yn dal gafael ar rym ym mis Mai, dim ond gofyn cipolwg petrusgar sydd ar yr amodau materol sy’n ffurfio gwleidyddiaeth Cymru, i’ch darbwyllo fod eu hamser ar ben.
Ymddengys bod Llafur wedi cael ei diystyried yn yr ymwybod cyhoeddus yn rhyfeddol o gyflym. Yn go sydyn, y doethineb derbyniol yw bod eu dyddiau fel grym gwleidyddol wedi dod i ben. Mae cynnydd Reform yn dominyddu naratif y cyfryngau poblogaidd, ac mae rhyddfrydwyr y chwith yn ailymgynnull gyda rhyw fath ar ystwythder cynddeiriog o dan nawdd Plaid Cymru a’r Blaid Werdd. Ac eto, er gwaethaf hyn i gyd, dim ond o safbwynt Llafur y gallwn ni ddeall yr etholiad, oherwydd y ffenomenau sy’n gyrru cwymp Llafur sy’n ysgogi cynnydd Reform ar yr un pryd: dad-ddiwydiannu, dirymu’r wladwriaeth gymdeithasol, chwalu cymunedol, anomi diwylliannol, anallu gwleidyddol torfol, ac yn y blaen.
Etifedd datganoli Cymru yw dicter torfol tuag at y dosbarth sydd wedi’i weinyddu
Fel y sonwyd droeon, roedd ‘chwyldro goddefol‘ datganoli Cymru (yn y bôn, rheolaeth Llafur at ei dibenion gwleidyddol ei hun dros broses efo potensial radical) yn anochel am greu argyfwng o ddilysrwydd i’r dosbarth gwleidyddol oedd yn gyfrifol am ei weinyddu. Mae grym cyfyngedig y Senedd wedi arwain at ganfyddiad – nid yn ddisail – o’i harweinwyr fel priciau pwdin (patsies) grymoedd gwleidyddol o fannau eraill: San Steffan, ar un adeg yr Undeb Ewropeaidd (felly poblogrwydd Brexit yng Nghymru), cwangos rhyngwladol a chyfalaf preifat, ac ati.
Ychydig o allu sydd gan y Senedd i weithredu gwelliannau sydd yn ystyrlon a sydd yn cael effaith materol ar fywydau pobl, ac felly’r canfyddiad poblogaidd – un annheg ar brydiau, ond nid fel y cyfryw – yw na chaiff fawr o effaith ar ddinasyddion Cymru, y tu hwnt i ymyrraeth fiwrocrataidd ddisylwedd. O ganlyniad, mae’r cysyniad o ddatganoli yn cael ei ddrwgdybio a’i ddifrïo – a chyda hynny Llafur Cymru, oherwydd yng ngolwg cynifer, yr un yw’r ddau.
Gwelwn yn y Senedd dyblygu a dyfnhau problemau a welwn ar lefel cynghorau lleol, a byddwn yn fuan yn eu gweld yn achos San Steffan: adlach yn erbyn rheolwyr nychlyd cyfalaf. Yn rhan nesaf y gyfres, edrychwn ar y blaid sy’n lleoli ei hun i fanteisio orau ar hyn oll.
