Ym mis Hydref 2025 cynhaliwyd isetholiad yng Nghaerffili a gwyliwyd y canlyniadau dros Brydain. Yn ôl pob sôn, byddai beth bynnag fyddai’n digwydd yng Nghaerffili’n arwydd o’r hyn oedd ar gyrraedd saith mis yn ddiweddarach yn etholiadau’r Senedd ym Mai 2026. O’r cychwyn cyntaf, roedd yno ymdeimlad y byddai Llafur yn colli’r sedd ac mai brwydr fyddai’r isetholiad rhwng Reform a Phlaid Cymru. Yn y diwedd, Plaid Cymru oedd yn fuddugol. Codwyd gobeithion y chwith, ac mae yna ymdeimlad o hyd, efallai, bod yr hyn a ddigwyddodd yng Nghaerffili’n arwydd gobeithiol o’r canlyniadau ehangach yn dilyn yr etholiad mis nesaf.

Mae’r Cymoedd yn ardal weddol fawr ac – efallai am nad yw’r bobl, fel y drafnidiaeth gyhoeddus, yn dueddol o groesi’r Cymoedd – nid yw natur pob cwm yr un peth. Er y tebygrwydd rhwng y gwahanol gymoedd, mae yno wahaniaethau mawr a arweiniodd at fuddugoliaeth Plaid Cymru ac, o ganlyniad, rhesymau i barhau i fod yn ansicr o ganlyniadau’r etholiad yn yr hen faes glo ym mis Mai.

Roedd gan Blaid Cymru hanes hir oes o ymgyrchu yng Nghaerffili, ac mae’r cynnydd yn nifer yr ysgolion Cymraeg yn yr ardal dros y degawdau diwethaf yn brawf o waith caled aelodau lleol y blaid a rhieni dros y blynyddoedd. Yn ogystal, Plaid Cymru oedd â’r mwyafrif yn y Cyngor ym 1999 ac roeddent yn gyfartal yn 2008, ac yn y cyfnod hwnnw Plaid oedd yn arwain y Cyngor. Mae’r sefyllfa’n dra gwahanol ym Merthyr Tudful, er enghraifft. Does yno ddim ysgol uwchradd Gymraeg ym Merthyr, gyda’r disgyblion yn teithio i Hirwaun yn Rhondda Cynon Taf; does yno ddim cydymdeimlad gwirioneddol ymysg y cynghorwyr gyda galw’r rhieni am ysgol uwchradd Gymraeg yn y fwrdeistref i’w plant; a does yno ddim cynghorwyr Plaid Cymru wedi eistedd ar y Cyngor ers 1999. Mae yna gynrychiolaeth gan Blaid Cymru ar Gyngor Caerffili bob tro – hyd yn oed os nad ydynt yn dal mwyafrif. Rhywbeth sy’n bwysig ei nodi efallai, yw nad oes un cynghorydd Reform yng Nghaerffili, tra bod un ar Gyngor Merthyr Tudful ac un hefyd ym Mlaenau Gwent.

Hyd yn oed yng Nghaerffili, cynyddodd pleidlais Reform o 495 pleidlais yn 2021 i 12,113 pleidlais yn 2025. Mae’r cynnydd yn un aruthrol ac er gwaethaf buddugoliaeth Plaid Cymru mae Reform yn gwneud yn dda.

‘Pobl’ Reform

Ond pwy yn union sy’n pleidleisio dros Reform a beth sy’n eu denu? Rwy’n byw yn y Cymoedd fy hun ac mae nifer o bobl yr ardal yn cefnogi Reform ac yn bwriadu rhoi eu pleidlais iddynt ym mis Mai. Mae llawer o sôn yn y cyfryngau am effaith arian tramor ar Reform a’r dylanwad a’r gwaith marchnata a hyrwyddo gall arian a chysylltiadau o’r fath brynu. Ond wrth sgyrsio gyda phobl, a chlywed ambell i sylw ar y stryd, daw’n amlwg bod yna hefyd resymau lleol a hanesyddol dros gefnogaeth yr ardal i Reform.

Y ddemograffeg dan sylw gen i yw pobl hŷn sydd dros eu hanner cant. Treuliodd dadau neu deidiau y rhan fwyaf ohonom eu bywyd gweithiol yn y pyllau glo, ac mae nifer o’r cefnogwyr Reform rwy’n eu hadnabod yn gyn-lowyr eu hunain er eu bod yn rhy ifanc i fod wedi ennill bywoliaeth gydol oes o’r gwaith.

Gwelodd y rhan fwyaf o’r bobl hyn ddirywiad yn iechyd a gallu corffol eu tadau – sy’n beth anodd iawn i’w weld. Mae’r pentref lle rwy’n byw yn nodweddiadol o’r Cymoedd: un bryn serth yn codi at y mynydd a’r tai wedi adeiladu mewn terasau i’r bryn. Yn y gorffennol, ar nos Sadwrn, byddai’r gwragedd yn sboncio lan y bryn i’r clwb i gadw bwrdd i’r dynion oherwydd byddai’r dynion, gyda dwst y glo yn llenwi eu bron, yn ymlwybro’n araf, araf ac yn stopio ger bob polyn lamp i ddal eu gwynt. Mae plant y dynion hyn yn eu 60au cynnar erbyn hyn – ac maen nhw’n grac. Roedd gweld eu tadau mor wan yn dor-calonnus iddynt. Yn ystod y 1990au cafwyd cyfle am iawndal. Agorwyd canolfannau dros dro lle gallai glowyr a chyn-lowyr gael eu profi i weld os oedd dwst o’r gwaith glo ar eu bron. Yr ateb, bron yn ddi-ffael, oedd nad oedd yno ddwst. Y sigaréts oedd ar fai am y diffyg anadl.

Pan mae glöwr yn marw, mae gan y teulu hawl i ofyn am bost-mortem. Mae’r rhan fwyaf o deuluoedd yn bachu’r cyfle. Gyda’r glowyr gydol oes, pan fyddai’r adroddiad yn dod yn ôl o’r crwner byddai’r teulu’n cael gwybod bod cyrff eu tadau, eu teidiau – er gwaethaf canlyniadau profion yr iawndal – yn hollol ddu y tu mewn.  A byddai ffurflenni swmpus yr iawndal yn cael eu pasio at y gwragedd i’w llenwi.

Mae nifer o bobl yr ardal hon yn pleidleisio Reform oherwydd gwnaeth Nigel Farage ffws mawr o bensiwn y glowyr a’r arian oedd yn ddyledus iddynt. Ymddangosodd ei addewid i drosglwyddo’r pensiwn yn ôl iddynt mewn maniffesto blaenorol hyd yn oed.

Petai’r pyllau glo wedi cau, ac ynni gwyrdd wedi dod i’r fei, mae nifer o’r dynion hyn yn dweud y byddant wedi derbyn y sefyllfa. Ond gan fod Prydain yn mewnforio glo o wledydd eraill er mwyn cynnal strwythur y wlad, maen nhw’n grac iawn unwaith eto ac yn hoffi’r ffordd mae Reform yn siarad am ail gyflwyno diwydiant i Gymru, megis y gweithfeydd dur.

Maent hefyd yn rhannu amheuaeth Reform ynghylch ynni gwyrdd. Mae nifer o bobl yn yr ardal hon yn deall llawer am systemau ynni Prydain, y modd y mae’r sector yn gweithio a’r ffordd y caiff ei gyflenwi – mae’n bwnc sydd o ddiddordeb iddynt oherwydd eu cefndir. Mae nifer o gefnogwyr Reform yn amheus o frwdfrydedd y chwith rhyddfrydol dros ynni gwyrdd. Maen nhw’n ei weld fel ffordd i gwmnïau mawr elwa o’r syniad gwyrdd nesaf, heb fod unrhyw fuddiannau go iawn i’r bobl gyffredin drwy gyfleoedd gwaith a chostau ynni is. Ceir enghreifftiau o ddiystyrwch llywodraethau wrth iddynt sôn am y newid i gerbydau electronig – mae meddyliau pobl yr ardal yn troi at y ceir sydd gennym yn barod ac yna at y cwmnïau ceir, a’r cwmnïau sy’n gyfrifol am isadeiledd y newid hwn, a’r ffordd y byddant yn elwa. Ac er yr holl sôn gan lywodraethau dilynol am drafnidiaeth werdd does dim un ohonynt yn gwella strwythur ein trafnidiaeth gyhoeddus er pa mor barod ydynt i sicrhau elw i’r cwmnïau mawr. Mewn nifer o fannau yn y Cymoedd rydym yn hollol ddibynnol ar geir erbyn hyn ac yn y cyfamser gall corfforaethau mawr wneud beth a fynnent, dim ond eu bod yn plannu digon o goed i wneud yn iawn am y dinistr maent yn ei achosi.

Petai glowyr wedi cael y cyfle i fod ar flaen y gad gydag ynni gwyrdd a bod Cymru a meysydd glo eraill Prydain wedi gallu dangos i’r byd sut gallem gyflawni dyfodol gwyrdd a sut byddai dyfodol o’r fath yn edrych, gallai’r stori wedi bod yn un wahanol. Ond gan eu bod yn ymwybodol iawn o’r ffordd y gall lywodraethau ddweud celwyddau, dydyn nhw ddim yn ymddiried yn y syniad o ynni gwyrdd fel rhywbeth cynhenid dda.

Maent yn  teimlo, unwaith eto, mai Reform sy’n lleisio’r ansicrwydd a deimlir ganddynt – pryderon nad sydd o unrhyw ddiddordeb i’r dosbarth sy’n rheoli na dosbarth canol y chwith ryddfrydol. Ac eto, wedi iddynt weld dirywiad eu tadau dydyn nhw ddim chwaith yn diddori mewn dychwelyd at yr amodau gwaith hynny.

Pam ddim Plaid?

Codwyd y cwestiwn gan rai, os mai bwriad pleidleiswyr Reform yw codi dau fys i’r status quo, pam na fyddent efallai yn pleidleisio dros Blaid Cymru – er mwyn rhoi diwedd ar y wladwriaeth Brydeinig unwaith ac am byth? Ond mae hynny’n broblem yn y Cymoedd. Mae nifer o deuluoedd ynghlwm â’r fyddin, un ffordd neu’r llall, ac yn falch iawn o’r lluoedd arfog ac o aelodau eu teulu sydd wedi bod yn rhan ohonynt. Maen nhw’n teimlo’r angen i warchod Prydain hyd yn oed, yn erbyn Mwslemiaid ar hyn o bryd, ac i nifer yn y Cymoedd, er cryfder eu Cymreictod, mae Prydain yn wlad iddynt hefyd.

Ceir llawer o sôn gan yr adain dde eithafol am Fwslemiaid yn paratoi i gipio grym ym Mhrydain. Yn y Cymoedd, pan gaewyd y pyllau glo daeth byd cyfan i ben. Os ydych chi wedi profi diwedd un byd, hawdd yw dychmygu y gall y byd nesaf ddod i ben hefyd. Ac maen nhw’n fodlon gweithredu i gadw gweddillion y byd cyntaf hwnnw a gollwyd ganddynt a’r tameidiau ohono sy’n dal i fod ar wasgar.

Pan ofynnais i nifer ohonynt sut oeddent yn teimlo am ganlyniadau isetholiad Caerffili’r bore hwnnw pan gyhoeddwyd y newyddion, “Yes, great!” oedd yr ymateb: “Anything to get Labour out!”. Yn sôn am etholiadau’r Senedd mis Mai mae nifer wedi siarad yn frwdfrydig am eu cefnogaeth i Reform. Pan rwy’n ateb drwy sôn am fy nghefnogaeth i’r Comiwnyddion mae’r hyn a ddaw yn ôl ganddynt yn gadarnhaol ac yn gefnogol, bob tro.

Mae sosialaeth a chomiwnyddiaeth yn gyfarwydd iddynt, ac nid yw’r bobl hyn yn erbyn cysyniadau o’r fath. Maen nhw’n aml yn falch iawn o waith eu tadau dros yr undebau llafur, yn falch o’r frwydr galed yn ystod streic y glowyr ac yn gandryll yn dal i fod, gyda Thatcher a’i llywodraeth. Ond dydyn nhw ddim yn gweld arwydd o’r cysyniadau sosialaidd hyn yng ngwleidyddiaeth y Blaid Lafur na Phlaid Cymru chwaith. Ac o leiaf gyda Reform maen nhw’n teimlo bod Farage wedi siarad am yr hyn sydd wedi eu cythruddo pan nad oes unrhyw un arall wedi gwneud.

Mae pobl yn gymhleth ac yn aml mae ein gobeithion, ein hofnau a’r hyn rydym yn falch ohono yn ddryslyd ac yn groes i’w gilydd. Does yno ddim un o’r pleidiau brif ffrwd, mewn gwirionedd, yn cynrychioli nifer yn yr ardal hon. Felly pam na fyddent yn pleidleisio dros Reform? Does dim byd yn newid, ta beth.

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.