Dyma’r ail ran o erthygl tair rhan. Ni fyddaf yn ailadrodd y pwyntiau a’r amodau o’r erthygl flaenorol, yn hytrach gallwch ei ddarllen fan hyn.
Mewn llith olygyddol a ysgrifennais ar gyfer Planet yn 2018, cyflwynais gynigion embryonig ar gyfer dychmygu gwleidyddiaeth cyfanfydol (universalist) byddai’n gwasanaethu ac yn ysbrydoli’r mwyafrif, gan rymuso hefyd menywod a lleiafrifoedd. Byddai’r fath o wleidyddiaeth a fyddai’n gwyro oddi wrth gyffredinoliaeth ffug y gorffennol (a oedd gan amlaf yn awgrymu cysyniad penodol o’r hyn sy’n ddynol fel rhagamod) – tra hefyd yn osgoi dulliau’r neo-ryddfrydol, elitaidd o ‘wleidyddiaeth hunaniaeth Adnoddau Dynol’, a gormodedd y ‘rhyfelwyr cyfiawnder cymdeithasol’ Americanaidd gyda’u hagweddau ceryddgar, cwltaidd.
‘Mae angen i hyn olygu gwleidyddiaeth adnewyddedig i’r mwyafrif: cyffredinoliaeth nad sy’n ymgorfforedig yn y gwryw gwyn traddodiadol. Gwleidyddiaeth yn hytrach sydd yn cynnal y cryfder o niferoedd o grwpiau amrywiol, a rheiny wedi’u cyd-blethu mewn i fwyafrif ysgubol, sy’n cael ei gefnogi gan undod cydgymorth, a’r syniad na allwn fod yn rhydd, oni bai ein bod ni bob un yn rhydd.’
Dadleuais bod modd dirnad y ffurf amgen hon o gyffredinoliaeth, un sydd wedi’i chlymu’n annatod â hawliau menywod a lleiafrifoedd, wrth wraidd gwleidyddiaeth Jeremy Corbyn a Leanne Wood fel arweinwyr Llafur a Phlaid, er bod yna le i’w datblygu ymhellach.
Nid oedd y ‘weledigaeth’ yn llith olygyddol Planet yn gyfan gwbl eiddo i mi, wrth gwrs. Cafodd ei ysbrydoli’n rhannol gan sgyrsiau gyda ffrindiau o gefndiroedd gwahanol, a hefyd gan fenthyg yn anuniongyrchol o, ac wedi’i atgyfnerthu gan waith awduron megis (e.e.) Mark Fisher, Dawn Foster ac Ambalavaner Sivanandan.
Ers 2018, mae’r ymdrechion hyn i ddatod gwleidyddiaeth hunaniaeth flaengar oddi wrth wead problemus ‘woke’, a’i hadnewyddu fel rhan o strategaeth asgell chwith ehangach, wedi cael eu mireinio a’u hamlygu ymhellach. Yn yr 8 mlynedd diwethaf, mae nifer o ddeallusion cyhoeddus fel Olúfẹ́mi O. Táíwò, Asad Haider, Jodi Dean, Emma Dabiri, Cinzia Arruzza, Tithi Bhattacharya a Nancy Fraser wedi cyhoeddi safbwyntiau pwysig ar y mater hwn (sy’n amrywio o ran natur eu hamheuaeth o’r hyn y gellir ei wawdio fel ‘woke’, ond lle mae pob un gyda chynnig amgen – sydd fel arfer yn seiliedig ar ddosbarth cymdeithasol – ond nad sy’n cefnu’n llwyr ar yr egwyddorion). Enghraifft arbennig o adeiladol o’r rhain yw Minority Rule: Adventures in the Culture War Ash Sarkar.
Nid ydym bellach yn amgyffred rhyw amheuon aneglur ym mher yr esgyrn bod rhywbeth wedi mynd o’i le yn y modd rydym yn ymwneud â’n gilydd yn wleidyddol. Yn hytrach mae yna bellach geirfa gyfan ar goedd sydd wedi datblygu i fynegi’r rhwysgredigaeth hyn. Mae rhai o’r termau yn parhau i fod braidd yn ddirgel (er yn ddefnyddiol): ‘cipio’r elit’ a ‘ymostyngu epistemig’, unrhyw un? Ond mae eraill wedi cynyddu mewn poblogrwydd wrth i ni ddod i ddeall camddefnydd hunaniaeth at ddibenion elitaidd neu garfanol (a’i chymhathu gan y Dde, fel y mae Minority Rule yn ei nodi): ‘arfogi hunaniaeth’, ‘dehongliadau drwg-ffydd’, ‘plismona iaith’ (ac nid yn yr ystyr traddodiadol Cymraeg!), ‘bwlio-crio’, a – hwre! – ywrthodiad torfol y Milennials/Cenhedlaeth Z o’r ‘girl boss feminism‘ neo-ryddfrydol a halogodd hawliau menywod gymaint yn ystod y degawdau diwethaf.
O fewn gwleidyddiaeth bleidiol y DU, mae hyn yn cael ei fynegi gan Zack Polanski a Hannah Spencer o’r Blaid Werdd sy’n gwrthod distewi yn eu cefnogaeth i hawliau menywod a lleiafrifoedd; ond sydd hefyd yn tynnu sylw at anghydraddoldeb economaidd a hawliau’r ‘99%’, ac yn siarad am yr angen am ffordd mwy empathig o ymwneud gyda’r sawl ymysg yr etholwyr sydd wedi cael eu camarwain gan naratifau’r Dde Eithafol, neu sy’n ‘dweud y peth anghywir’, neu’r hyn sy’n annerbyniol yn wyneb y ‘diwylliant dileu’ a cheryddu’r Milennials.
Ers 2018 yng Nghymru mae ymdrechion i lunio dulliau newydd a mwy blaengar (ac ystyrlon) mewn perthynas gyda hunaniaeth a dosbarth hefyd wedi ffynnu. Mewn digwyddiad i nodi hannercanmlwyddiant Planet, cyflwynodd y cyfreithiwr ceisiwyr lloches a hawliau LHDT+ Hussein Said achos cryf i beidio â ‘ymroi i wleidyddiaeth braint’ ond yn hytrach uno yn erbyn y dosbarth llywodraethol – sef y rhai sydd wirioneddol gyfrifol am yr achosion mwyaf niwediol o anghydraddoldeb, megis rhyfel neo-ymherodrol a difrod amgylcheddol. Trafododd Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwareiddiad Cymraeg gan Simon Brooks gymhlethdodau aml-ethnigrwydd yng nghyd-destun diwylliant yr iaith Gymraeg. Ac yn ei gyfeiriadau at dorri ymaith ‘o hen ystrydebau gwleidyddol y chwith ryddfrydol’ a Llafur Cymru yn ‘rheoli a bodloni’ yn unig, a yw’n ormod i obeithio bod Rhun ap Iorwerth a’i dîm wedi darllen gwaith arloesol Dan Evans, A Nation of Shopkeepers: the Unstoppable Rise of the Petty Bourgeoisie? Mae dadansoddiad dosbarth Evans yn amlygu’r ‘Dosbarth Rheoli Proffesiynol’ (y PMC yn y Saesneg) sy’n chwifio bys ac sy’n gyrru llawer tuag at y Dde Eithafol drwy oruchwylio dirywiad ein hamodau byw a’r gyhoeddfa ar yr un llaw, tra ar y llaw arall yn gynyddol plismona iaith a micro-reoli gweithwyr a chleientiaid.
Yn gryno, mae safbwyntiau blaengar ar wleidyddiaeth hunaniaeth wedi esblygu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Pam, felly, bod angen brys i ailystyried a lledaenu dewis amgen yn lle ‘gwleidyddiaeth hunaniaeth’ diwedd y 2010au a dechrau’r 2020au yn y cyfnod sy’n arwain at y 7fed o Fai?
Oherwydd bod y Dde yn elwa ar sefyllfa lle nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol bod unrhyw beth wedi newid ers yr hyn a elwir yn ‘Peak Woke’ 2020, ac ar ben hynny maent yn manteisio ar yr ystrydeb gwrthun o’r drafodaeth honno.
Nid mater yn unig y ceir yma o gyrraedd at y rhai sy’n ystyried pleidleisio Reform, ond hefyd y pleidleiswyr mwy canol-y-ffordd hynny o’r ‘99%’ a fyddai’n gochel rhag Farage, ac na fyddai o reidrwydd yn cael eu cymell gan rwystredigaeth a dicter. Dyma’r sawl a fyddai’n troi at y Torïaid, y canol gwleidyddol, neu’n ymddieithrio o’r broses etholiadol, yn rhannol oherwydd hinsawdd camarweiniol (sy’n deillio o bropaganda asgell dde) yn awgrymu nad yw’r pleidiau asgell chwith yn gweithredu er eu budd nhw, ond yn hytrach er budd dosbarth anghysbell o grwpiau lleiafrifol (neu cenhedlaeth iau, addysgiedig, sydd yr un mor ‘estron’) y maent bellach yn teimlo nad oes ganddynt lawer yn gyffredin â nhw.
Yn rhan olaf yr erthygl hon, byddaf yn edrych mewn mwy o fanylder ar hyn oll, ac yn ymroi i’r cliché pennaf ymhlith casgliadau unrhyw erthygl asgell chwith: Beth Sydd i’w Wneud (Mewn Ychydig o Frawddegau).
