Rydyn ni’n hynod gyffrous i gyflwyno traethawd 3-rhan arall, y tro hwn gan Olygydd Planet a’r awdur amheuthun Emily Trahair. Dyma hi’n edrych ymlaen at gorwelion newydd i’r chwith (yn arbennig o berthnasol i Undod) trwy edrych yn ôl ar ei cholofn olygyddol proffwydol o 2018.

Yn ddiweddar mewngofnodais i Twitter/X Elon Musk, wedi amser hir i ffwrdd ohono. Roedd ffeindio fy ffordd drwy’r ormodaeth o negeseuon a phostiadau’n teimlo’n iasol – fel petawn i ar faes y gad wedi i’r rhyfel ddod i ben. Bu’n frwydr o drafodaethau gwleidyddol Cymreig a welodd y chwith yn colli. Teimla’n wag, bron, yr unig dyfiant yn ordyfiant o AI cellwyredig, y rhan fwyaf o ddilynwyr wedi eu halltudio i lwyfannau eraill neu’n ceisio gwella drwy ddadwenwyno o’r byd digidol yn gyfan gwbl.

Cofiais yn sydyn am bostiadau o’r gorffennol a’r rôl bwysig chwaraewyd ganddynt yn rhyfeloedd diwylliant y Chwith/Dde ond hefyd yn y brwydrau diffrwyth hynny a ddigwyddodd o fewn y chwith ei hun. Nawr ac yn y man gwelais ambell i ffasgydd neu wreig-gasäwr yn ystelcian o amgylch y dilynwyr oedd ar ôl gen i, ond roedd fel petai’r rhan fwyaf o’r dilynwyr hyn nawr yn eu gwisgoedd sifil unwaith eto, yn postio diweddariadau diflas am gathod neu ddyrchafiad yn y gwaith. Efallai mai ceisio bod yn anweledig oeddent rhag denu sylw anfad y trolls a’r bots.

Fodd bynnag, crwydrais ar hyd llwybr arall a glanio yn un o gadarnleoedd y partisaniaid – lle’r oedd barn ac ymatebion yr asgell chwith i ddigwyddiadau’r byd yn cael eu cyfnewid yn rhwydd, fel petai ni nôl yn y flwyddyn 2018 unwaith eto.

Teimla fel petai gan y tirlun digidol, dirlun cyfochrol yn y byd go iawn: ar yr arwyneb ymddengys fel petai bobl wedi rhoi’r gorau i ymgyrchu, a hyd yn oed wedi stopio trafod gwleidyddiaeth gydag unrhyw un nad sy’n rhannu’r un farn â nhw. Maent wedi gorflino o ganlyniad i’r brwydro niweidiol o fewn mudiadau ymgyrchu, y cyfaddawd anniddig rhwng teulu a hen ffrindiau a’r angen i dreulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn talu biliau.

Wedi dweud hynny, mae yno du arall i’r tirlun hwn, un sy’n ein hysbrydoli, lle mae pobl wrthi’n curo drysau er mwyn paratoi i frwydro’r dde eithafol a lle cynhelir sawl trafodaeth gydag anwylon ynghylch pam y byddai pleidlais adain chwith yn well na phleidlais i Reform o ran ymateb i anghenion cymunedol – bu effeithiau ymdrechion o’r fath yn hynod o gadarnhaol yng Nghaerffili’r llynedd.

Rydym yn sefyll ar erchwyn cyfnod rhyfedd, un sydd dan ei sang o beryg a gobaith ill dau: nid ydy’r posibilrwydd o lywodraeth asgell dde eithafol yn y Senedd a San Steffan erioed wedi bod mor agos. Yn yr un modd, nid ers cyfnod Glyndŵr, siŵr o fod, ydy’r mudiad annibyniaeth wedi bod mor agos at rym; ac nid yw’r posibilrwydd o lywodraeth mor sylweddol o sosialaidd wedi bod mor debygol â hyn yng Nghymru ddatganoledig (petai Blaid Cymru a’r Gwyrddion yn llwyddo i greu llywodraeth ac iddi raglen radical). Dyma y mae nifer o ddarllenwyr y blog hwn wedi bod yn gobeithio amdano drwy gydol eu hoedolaeth.

Ac eto… mewn sawl poced fach o Gymru, mae’r ymrafael â gwleidyddiaeth adain chwith ac o blaid annibyniaeth yn ymddangos yn ddiegni iawn, ac yn wyneb y cawodydd o gamwybodaeth sy’n hyrddio o bob cyfeiriad gan y dde eithafol, ymddengys yn gatatonig, braidd.

Gyda’r etholiad yn prysur nesáu, mae nifer ohonom yn ystyried pa fodd i wneud y gorau o’r amser sydd ar ôl gennym.

O gadw hyn mewn cof, ces fy nennu at ailystyried llith olygyddol a ysgrifennais ar gyfer cylchgrawn Planet: The Welsh Internationalist nôl yn Hydref 2018. Trafoda sawl pwnc sy’n parhau’n berthnasol i’r ymdrech i drechu’r Dde Eithafol yng Nghymru ond sydd, serch hynny, wedi achosi gymaint o rwygiadau (a chamddehongliadau) nes bod nifer o sylwebwyr erbyn hyn yn gwrthod wynebu’r pynciau hyn yn uniongyrchol. O ganlyniad, rwyf wedi trefnu bod y llith olygyddol hon ar gael am ddim i bobl ddarllen fel nad oes yn rhaid imi ailadrodd yr holl esboniadau a chafeatau yn eu llawnder.

Llun clawr Planet, Rhifyn Hydref 2018

Hoffwn ddistyllu’r ddadl i’w phrif bwyntiau: disgrifiodd y golofn ar yr un llaw’r angen brys i warchod a datblygu ymhellach yr ymdrechion i rymuso menywod a lleiafrifoedd yn wyneb y Dde Eithafol a oedd yn ailgyfodi ar y pwynt hwnnw; ac ail-adroddais pam bod yr ymdrechion hyn mor bwysig yn y lle cyntaf.

Drwy ddefnyddio ffeminyddiaeth yn esiampl graidd, gofynnodd y darn ar yr un llaw, pam fod y cysyniad o wleidyddiaeth ar ran ‘y mwyafrif’ wedi dechrau ymddangos mor gamamserol o safbwynt adain chwith, pam bod hwn yn ei hanfod yn achosi gymaint o bryder, ac yn debygol o arwain at ddymchwel y Chwith. Rhoddodd y golofn olygyddol lais i’r anniddigrwydd hwnnw, oedd yn anodd ei grybwyll, ac a oedd wedi ymddangos ymysg trafodaethau fy ffrindiau o wahanol gefndiroedd. Roedd yn ymwneud â’r ffordd yr oedd egwyddorion penodol a oedd yn delio gydag amrywiaeth, cynrychiolaeth, braint ac ati – egwyddorion roeddem yn cytuno â hwy yn gyffredinol – wedi caledi’n ddogma. Ond, yn wahanol i ideolegau a chredoau’r cenedlaethau cynt, nid oedd i’r dogma hwn weledigaeth resymegol o’r ffordd y gallai dynol ryw ryddhau ei hun a gwella bywyd i bawb.

Amlinellodd y darn amryw broblemau moesegol, rhesymegol, athronyddol ac ymarferol roedd mudiadau adain chwith yn eu hwynebu (problemau a ddinistriodd, mewn sawl achos, y mudiadau hyn yn y pendraw). Roedd yn gyfnod pan drodd cysyniadau megis gwirio eich braint, ‘ildio’r llawr’, ac enwi rhagfarnau yn weithredoedd  gofynnol; a daeth y syniad o eiddilwch gwrywaidd, mansplaning, mân-ymosodiadau ac ati yn rhesymau i gau pobl allan o’r sgwrs yn hytrach na’u gweld yn safbwyntiau dadleuol sy’n gallu bod yn adeiladol mewn ambell i gyd-destun.

Roedd y llith olygyddol yn ymgais i ddangos nad oedd gwleidyddiaeth hunaniaeth wedi mynd yn ‘rhy bell’, yn hytrach roedd wedi mynd i’r cyfeiriad anghywir, ac yn wir roedd yno bellter i deithio eto petai ni am ennill cydraddoldeb a chyfiawnder gwirioneddol i fenywod a lleiafrifoedd.

Ceisiodd y darn wahaniaethu rhwng problemau gwleidyddiaeth hunaniaeth gyfredol a oedd yn graidd i’r wleidyddiaeth hon, a’r materion hynny a oedd yn symptomau o anhwylder ehangach ac a oedd wedi troi’n glymau ac a oedd wedi ei lygru gan wleidyddiaeth hunaniaeth.

Gellir crynhoi’r anhwylder cyntaf drwy ei alw’n ‘gynni neoryddfrydol’. Dinistriodd neoryddfrydiaeth ein gallu i feddwl am ein hunain yn gyfangorff cymunedol, yn hytrach nag unigolion yn cystadlu ag eraill. Arweiniodd hefyd at anghydraddoldeb eithafol rhwng y 99% a’r 1%, erydwyd gobeithion y rhan fwyaf o bobl a phlymiodd nifer i dlodi.

Ar yr un pryd, cyfaddaswyd fersiwn o’r agenda amrywiaeth gan reolwyr ac adrannau Adnoddau Dynol y sefydliadau sy’n rheoli ein bywydau (sefydliadau a oedd erbyn hyn yn neoryddfrydol hyd yn oed os oeddent yn ymddangos yn flaengar ar yr arwyneb). Trodd hyn yn broblematig, yn y lle cyntaf oherwydd mae’r un unigolion sy’n ein gwneud yn dlawd ac yn cymryd y pŵer oddi wrthym hefyd yn gorfodi naratif Cydraddoldeb Arwahanrwydd a Chynhwysiant ar bawb, ac o ganlyniad yn tanseilio’r naratif (a hefyd weithiau’n ei ddefnyddio’n dacteg i ymrannu a rheoli pan fod pobl yn ceisio gwella amodau i bawb).

Mae’r gobaith am fwyafrif blaengar a chefnogaeth i leiafrifoedd wedi cael eu tanseilio, ill dau, gan gynni. Cyflwynir darpariaeth wladwriaethol fel rhyw fath o sefyllfa ddigyfaddawd lle mae’n rhaid i ni gyd frwydro dros friwsion – yn y blynyddoedd diweddar ffoaduriaid sydd wedi dioddef yn benodol o wael o sefyllfa o’r fath.

Yr ail anhwylder y mae gwleidyddiaeth hunaniaeth wedi mynd i drafferthion gydag ef yw’r cyfryngau cymdeithasol gwenwynllyd sydd dan berchnogaeth oligarchiaid. Fel y soniais yn y llith olygyddol, ‘mae gwleidyddiaeth hunaniaeth yn golygu cynnal sgwrs sensitif sy’n mynd at wraidd ein hunaniaeth. Pan mae llwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol – sydd wedi eu hamddifadu o ddynoliaeth – yn ganolwyr rhwng pobl, gall fod yn drychinebus i’r math o gydymdrech sydd ei angen i feithrin undod o fewn amrywiaeth.  Mae hwn oherwydd bod y llwyfannau hyn wedi eu dylunio i gynyddu hunan-ddyrchafiaeth o fewn yr economi ‘dal sylw’ (ac o ganlyniad cynyddu’r elw drwy algorythms hysbysebion)’.

Undod mewn amrywiaeth – dyma oedd wrth wraidd llith olygyddol 2018, ac y mae hefyd, byddaf yn dadlau, yn treiddio i galon yr hyn sy’n bwysig yn ystod trafodaethau etholiadol y Senedd.

Yn y ddwy ran nesaf o’r erthygl hon, byddaf yn trafod yr egin gynlluniau a awgrymais yn y golofn olygyddol ynghylch gwahanol fath o wleidyddiaeth gyfanfydol – universalist politics – sydd yn gwasanaethu’r mwyafrif ac sy’n bosib i’r mwyafrif ei gefnogi wrth hefyd rymuso menywod a lleiafrifoedd, a’r modd y mae gwleidyddiaeth hunaniaeth amgen wedi cael ei goethi ers 2018, nes ei fod erbyn hyn yn beth cyffredin o fewn trafodaethau’r chwaith. Byddaf yn cyflwyno fy syniadau ynghylch pam bod yn rhaid i ni ledaenu’r weledigaeth hon ymhellach ac ar fyrder yn ystod y cyfnod cyn etholiad – a pha fodd allwn wneud hynny.

***

 

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.