“Dysgwn ein dyletswydd o weld ymddygiad gormeswyr y byd. Gwyddant bod y goleuni yn elyn iddynt, felly maent yn llafurio i gadw dynion yn y tywyllwch. Gyda’r bwriad hwn maent wedi penodi trwyddedwyr y wasg.”
Yn atsain sŵn diweddar Reform ynghylch amrywiol faterion o Ryddid Barn, mae fy meddwl wedi troi ar fwy nag un achlysur at yr Athronydd Cymreig Richard Price a’i draethawd, Caru Ein Gwlad. Wedi’i gyhoeddi ym 1789 ar ddechrau’r Chwyldro Ffrengig, wrth i Ewrop rhefru yn erbyn rheolaeth awdurdodaidd eu Brenhinoedd, sbardunodd Cythrwfl y Chwyldro trwy ysgogi’r Ceidwadwr Edmund Burke i ymateb, gyda’i enwog Reflections on the Revolution in France.
Yn ei fyfyrdodau ar seiliau gwladgarwch, mae Price (cyfaill mynwesol i Benjamin Franklin gyda llaw) yn datgan mai’r gwir yw’r cyntaf ymhlith ein “bendithion pennaf”. Mae’n egluro bod mynediad at wybodaeth a syniadau sy’n cyfansoddi’r gwir yn hanfodol i unrhyw wlad, er mwyn atal llywodraethau sy’n ddim mwy “na dyfeisiau i alluogi’r lleiafrif gorthrymu’r lliaws”.
Trwy ysgrifau Price, fel cynifer o gyfnod yr Ymoleuad, cawn ein hatgoffa’n glaer pam y daeth rhyddid barn i’r amlwg fel un o feini prawf cymdeithas ddemocrataidd fodern. Ym myd y 17eg a’r 18fed ganrif roedd sensoriaeth yn gyffredin, lle gallai coleddu rhai credoau crefyddol beryglu bywyd, a lle’r oedd y dosbarthiadau llywodraethol yn gomedd anghydffurfio er mwyn cynnal eu hawdurdod.
Roedd y rhai fel Price a oedd yn ceisio cynnydd a rhyddid yn deall y byddai’n amhosibl heb y cyfle i bobl ddysgu am bosibiliadau llywodraeth gyfansoddiadol a syniadau cysylltiedig. Roedd cynnydd yn gofyn rhyddid barn a rhyddid y wasg er mwyn i syniadau ymledu. “Anwybodaeth yw tad pob rhagfarn, anoddefgarwch, erledigaeth a chaethwasiaeth” meddai. “Hysbyswch a chyfarwyddwch y dynolryw; a bydd y drygioni hyn yn cael ei waredu.”

Wrth olrhain y datblygiadau hanesyddol hwn, gall ymddangos yn groes i’r disgwyl mai’r Dde wleidyddol sydd wedi bod yn hyrwyddo’r achos dros ryddid barn yn ddiweddar. Ar y cyfan, wrth gwrs, maent wedi bod yn cwyno am y gwrthwynebiad i’w hiliaeth, anoddefgarwch a’u hymlid o fewnfudwyr. Ac yn ôl nifer o’r rhai sydd wedi hyrwyddo egwyddor rhyddid barn, maen nhw’n berffaith gywir i fynnu gwrandawiad.
Yn wir, roedd lladmerydd mwyaf adnabyddus rhyddid barn o’r 19eg ganrif, John Stuart Mill, yn dadlau na ddylai’r hyn y gallem ei alw bellach yn ‘iaith casineb’ – na safbwyntiau amhoblogaidd eraill – fod yn ddarostyngedig i’r gyfraith. Yn rhannol mae hyn oherwydd y posibiliad y gallai fod rhywfaint o wirionedd ynddynt, ond yn bwysicach fyth mae er mwyn datgelu anwiredd a herio’r gwirionedd.
Roedd Mill yn ofni y byddai’r gwirionedd yn crebachu i ‘ddogma marwaidd’ ac felly y dylid profi ac adnewyddu ei ysbryd a’i ystyr. Fodd bynnag, fe osododd ei ‘Egwyddor Niwed’ ffin galed yn achos geiriau a allai achosi perygl corfforol uniongyrchol, megis trwy annog tyrfa ddig i ymosod ar werthwr ŷd (neu, er enghraifft, gwesty llawn ceiswyr lloches).
“Cefnogaeth” Reform i Ryddid Barn yng Nghymru
Mae’r cyfnod cyn etholiad y Senedd wedi datgelu ymhellach rai o’r tensiynau sydd ymhlyg yn Reform a’r asgell dde caled a’u coleddu honedig o ryddid barn. Yr enghraifft fwyaf amlwg oedd hanes Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor, pan wrthododd cymdeithas ddadlau gais gan Reform i’w hannerch.
Er bod Reform yn gyflym iawn i geisio ei fframio fel mater o’r Brifysgol yn eu gwahardd o’r campws, y gwir amdani oedd eu bod wedi gwahodd eu hunain, ac wedi cael eu gwrthod yn ddiserimoni – ac nad oeddent yn gwerthfawrogi grŵp o fyfyrwyr yn mynegi eu barn ar y blaid. Ceision nhw nid yn unig ei ddarlunio fel achos o sensoriaeth, ond fe ddilynwyd yr honiad gan fygythiad i ddad-ariannu Bangor.
Efallai mai ymateb byrfyfyr oedd hwn ac yn ymgais nodweddiadol boblyddol i apelio at eu pleidleisiwyr craidd, ond mae eu greddf yn ddadlennol yn hyn o beth. Mae dileu’r ffiniau rhwng y wladwriaeth a sefydliadau cymdeithas sifil fel Prifysgolion yn nodweddiadol o or-ymestyn awdurdodaeth, ac mae unrhyw blismona ideolegol ynghylch materion – megis pwy y mae’n rhaid i gymdeithas ddadlau ei groesawu – yn ymyrraeth uniongyrchol â’r rhyddid i ymgynnull a rhyddid mynegiant, ac yn arwydd i eraill yn y gymdeithas sifil am y gost posib o herio llywodraeth (nodwch hefyd eu cynnig arswydus i orfodi dehongliad penodol o hanes ar ein hamgueddfeydd).
Mae eu hymgais ymddangosiadol i hyrwyddo rhyddid barn a’u tuedd gyffredinol i’w danseilio yn drawiadol ar wedd arall. Arweiniodd eu hymgais i dywallt dŵr oer ar gwestiynau ynghylch lleoliad cartref Dan Thomas (yng Nghaerfaddon) at ddatganiad byddai ond yn ymgysylltu â’r cyfryngau cyfeillgar dros baned o de i egluro’r sefyllfa. Ni chafwyd unrhyw eglurhad o sylwedd, gan ein gadael i fyfyrio ar sut mae’r dull hwn o ymgysylltu â’r wasg rydd yn adlais o ochr draw yr Iwerydd.
A dim ond yr wythnos hon, roedd eu prif ymgeisydd ar gyfer Caerdydd Ffynnon Taf yn creu ffys digon difyr, os braidd yn bryderus, am ei brosiect MA, ar allbwn gwefan newyddion nation.cymru. Er gwaethaf y ffaith mai’r Daily Mail yw prif ffynhonnell newyddion yng Nghymru, mae’n ymddangos ei fod yn poeni gymaint am effaith pwyslais Nation ar Blaid Cymru a ‘thirwedd cyfryngau Cymru’ fel ei fod yn argymell ymyrraeth y wladwriaeth trwy adolygiad o gyfryngau Cymru. Hir oes i ryddid y wasg, ynde.
Trumpgar
Mae bygwth Prifysgolion, difrïo rhai newyddiaduwyr tra’n closio ag eraill, a gwarafun ambell i ffynhonnell newyddion, yn atgoffa rhywun o Drumpiaeth, wrth gwrs. Ac mae’n awgrymu’r ymosodiad mwy parhaus, tywyllach a pheryg ar y gwirionedd, un sy’n ei gwneud hi’n llawer anoddach i ganfod y gwir, a’r dde galed bellach yn cyflwyno eu hunain fel y sawl sy’n cynrychioli’r realiti gwleidyddol gwrth-sefydliadol, fel y mae hi go iawn.
Maen nhw yn hyrwyddo conspiracy theories ac yn gweiddi “newyddion ffug” tra’n ymosod ar y gwirioneddau hynny a adeiladodd ddemocratiaeth gymdeithasol a rhyddfrydol fodern. Ymhellach, maent wedi creu ffurf ar ormes gymdeithasol trwy’r cyfryngau cymdeithasol a’u bots y byddai Mill ei hun wedi’i hystyried yn rym ormesol â’r potensial o fod yn fwy pwerus nag unrhyw deyrn (ac sy’n dangos terfynau ei ddelfryd ef o farchnad syniadau lle buasent yn derbyn gwrandawiad cyfartal o resymol fel ei gilydd).
Wrth gwrs, yn hyn o beth rhaid inni gydnabod tuedd y chwith hefyd i stigmateiddio, eithrio a chreu arferion despotig (a ddatgelwyd mewn ffurf digon ingol gan Mark Fisher mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol) – sydd yn y pen draw yn tanseilio eu hymdrechion i wrthwynebu’r dde caled.
Fodd bynnag, mae arwyddion bod y rhod yn dechrau troi o ran Trump a’i gyfeillion Prydeinig, a’r ceiniog yn dechrau disgyn bod eu gwleidyddiaeth yn gyffredinol llawn y tensiynau sy’n amlwg yn eu safiad ar ryddid barn.
Mae ei ryfel yn erbyn Iran wedi eu dinoethi yn eu holl ffolineb, eu llygredigaeth a’u rhagrith narsisistaidd a threisgar. Mae imiwnedd ymddangosiadol Farage i feirniadaeth efallai’n teneuo: mae’r addewid o difidend economaidd Brexit yn ddeilchion; yn yr un modd mae’r canlyniadau i’r DU o ran yr ymchwydd mewn mewnfudo a’r anallu i ‘anfon y cychod yn ôl’ yn hysbys; yn ogystal mae Farage bellach wedi rhwyfo’n ôl ar ei honiadau hynod ynghylch ailagor y pyllau glo a’r ffwrnesi ym Mhort Talbot.
Rhaid cyfaddef, fodd bynnag, mewn ambell ystyr na ellir beio nifer sylweddol o’r etholwyr am gael eu camarwain, o ystyried eu bod wedi cael eu hanwybyddu mor gyson, a bod y dosbarth gwleidyddol ers Tony Blair wedi treulio gymaint o amser ac ymdrech yn curadu eu cyfathrebu cyhoeddus a’u negesu (a ffugio pethau fel arfau dinistr torfol) – cymaint felly fel ein bod ni bellach yn ei gymryd yn ganiataol mewn un ystyr bod gwleidyddiaeth yn ymgais i lurgunio realiti a gwadu deallusrwydd a phrofiad bob dydd y cyhoedd.
Rhagolygon y Blaid
Mae gan Blaid Cymru, prif wrthwynebiad Reform yng Nghymru, y cymeriadau a’r dilysrwydd i osgoi’r gwaethaf o hyn oll (ond a all rhywun egluro pam nad yw Lindsay Whittle, arwr Caerffili, ar bob fideo yn ei ymgyrch?) – ond dydyn nhw chwaith ddim yn ddiogel o’r un duedd.
I ddewis un enghraifft leol i mi, mae cyngor Sir Gaerfyrddin – wedi arwain gan y Blaid – ar hyn o bryd yn ceisio cau ysgolion pentref yn un o’u cadarnleoedd, a hynny dan faner yr hyn y maent yn ei alw’n ‘foderneiddio’. Gallai adeiladu ysgolion bro newydd, neu chwilio am ffyrdd newydd o drefnu darpariaeth ysgolion presennol fod yn “foderneiddio” – ond nid cau ysgolion ar y cyfle cynta a chludo plant bach filltiroedd i lawr y ffordd. Ac eto maent yn parhau â’r math o garbwl yr ydym i gyd wedi cael llond bol ohono, ac sydd wedi gyrru pobl i goflaid Reform. Pan fydd iaith yn colli ei hystyr, dylem oll pryderi.

Wrth ymdrin â hyn oll, gallai Plaid gwneud yn waeth na throi at arwr ychydig yn hŷn na Richard Price. Wrth i Reform barhau yn eu hymgais i ddatgysylltu gwirionedd gwleidyddol o’i angorfa, a chreu eu realiti dryslyd, paradocsaidd llawn casineb, gellid dadlau ei bod hi’n bryd i’r Blaid, ei chefnogwyr, a’i beirdd, sianelu ffigur Taliesin, a “chreu mythau” eu hunain, o fath cadarnhaol a rhyddfreiniol.
Yr iaith sydd ei angen yw’r math sy’n symud y tu hwnt i ddisgwrs afiach managerialism. Defnyddiwyd Taliesin gan y nofelydd Emyr Humphreys mewn modd cofiadwy yn ei hanes llenyddol o Gymru, fel ymgorfforiad o oroesiad Cymru â’i allu i newid ffurf. Roedd yn cynrychioli’r arfer, os nad yr anghenraid Cymreig o newid hunaniaeth yn barhaus, yn wyneb cymathu Seisnig, a hynny trwy gryfder a bywiogrwydd grym geiriau.
Os fuodd erioed amser i Gymru adeiladu gwirionedd newydd o’i ‘ffwrnes awen’, rhyddhau ei hun o hualau’r disgwrs cyfoes ac ailddiffinio iaith ei gwleidyddiaeth, dyma hi. Fel y dywedodd un o gyfoeswyr Price, a’n pencampwr mythau llesol: “y Gwir yn Erbyn y Byd”.
