Dyma ran olaf erthygl teiran golygydd Planet, Emily Trahair, a hithau’n cynnig ffordd ymlaen i’r Chwith Cymreig. I’w werthfawrogi’n llawn, darllenwch rhan un a dau

Petai chi’n darllen maniffesto Seneddol Reform yn unig, byddech yn credu mai dim ond canolbwyntio ar fenywod a lleiafrifoedd penodol a wna’r pleidiau hynny sy’n gogwyddo tua’r chwith – ac mae’r postiadau asgell dde ar y we sydd o darddiad aneglur yn adrodd yn union yr un stori. Ychydig iawn y mae maniffesto Reform yn ei gynnig i wella bywyd y mwyafrif (yn wir, wedi iddynt ymchwilio, daeth Canolfan Llywodraethiant Cymru i’r casgliad y byddai toriadau treth Reform yn arwain at doriadau enbyd i wasanaethau cyhoeddus gan fuddio’r mwyaf cyfoethog mewn ffordd anghymesur).

Yn hytrach, cyflwyna eu maniffesto ryw gasineb gwyllt onanaidd (neu efallai mai achosi trawiad ar y galon y gwna) yn erbyn ‘Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant’, ‘mewnfudwyr sy’n neidio i flaen y ciw’, ‘gangiau sy’n meithrin perthnasau amhriodol’, ‘ymdrwytho gwleidyddol’, ‘cipio ideolegol’, ynni adnewyddadwy sy’n ‘difetha’r’ dirwedd, ‘naratifau allgáu’, ‘gwleidyddiaeth hunaniaeth gynhennus’ ac ‘ideoleg rhywedd’ sinistr…

Ochr yn ochr ag ambell i gynnig arswydus i orfodi eu ‘naratifau gwaharddol’ eu hunain ar ysgolion, y cyfryngau a sefydliadau diwylliannol, mae yna ffars llwyr. Edrychwch ar dudalen 32 lle mae’r cysyniad o amser, hyd yn oed, wedi cael ei filwrio’n rhan o’r rhyfeloedd diwylliant, fel petai ideoleg ‘woke’ wedi gwyrdroi deddfau ffiseg. Mae yna ganu bib-bib ar gorn yn ein rhybuddio’n barhaol o fygythiadau ymledol, o Glwy Affricanaidd y Moch a Chlefyd y Croen Talpiog a ddaw o ‘bell’, mae yna ymosodiadau ar eich pentan eich hun gyda’r ‘gwaharddiad ar leoedd tân’… (Hefyd, ‘naratifau gwaharddol? Mae’n siŵr bod hynny briadd yn ôl-fodern i fudiad sy’n disgrifio’r Chwith yn elitau sydd wedi derbyn gormod o addysg, eu meddyliau wedi eu llenwi â phethau pwysicach na materion bara-menyn?). Un o’r ffyrdd syml ymlaen i’r chwith fyddai rhoi gwybod i bobl beth yn union sydd wedi cael ei ddweud ym maniffesto Reform.

Sut allwn ymateb ymhellach? Camgymeriad fyddai i ymgyrchwyr y Chwith (yn cynnwys y sawl sy’n gysylltiedig ag Undod) daflu’r llo a chadw’r brych mewn ymateb llawn panig i’r Dde sy’n ymddangos fel petai nhw’n cael y gorau o’r rhyfeloedd diwylliant: rhaid peidio gwahardd cynigion am bolisïau sy’n cefnogi menywod a lleiafrifoedd a hyrwyddo’r polisïau hynny sy’n gyfanfydol (universal) neu’n seiliedig ar ddosbarth yn unig.  Byddai’r model ‘Llafur Glas’ hwn yn troi cefn ar y sawl sydd fwyaf angen ein cydsafiad mewn cyfnod o wir beryg, gan gyfuno â Starmeriaeth drwy normaleiddio byd mwy creulon a llai cyfartal. Fodd bynnag, ymateb cyfeiliornus arall fyddai i’r Chwith ddatblygu meddylfryd gorchfygol drwy gadw a gwarchod naratifau a gwleidyddiaeth Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant (ATCh) yn union fel y maent, a chefnu ar y gwaith hanfodol o ddiwygio’r agenda ATCh honno  a’u troi yn rhywbeth fyddai nid yn unig yn fwy poblogaidd ond yn fwy moesol, ar y cyd â chanolbwyntio ar anghydraddoldeb economaidd – yn rhannol mewn cydnabyddiaeth mai naratifau camsyniol gwleidyddiaeth hunaniaeth a gyfrannodd at gefnogaeth y Dde Eithafol yn y lle cyntaf.

Wedi darllen maniffesto Plaid Cymru a’r Gwyrddion ar gyfer 2026, byddwn yn dadlau bod y ddwy blaid, ar y cyfan, nid yn unig yn llwyddo osgoi’r ymatebion problematig hyn ond yn aml yn datblygu ymhellach y weledigaeth amgen ar gyfer ‘undod mewn amrywiaeth’ a amlinellwyd gen i yn fy llith olygyddol yn 2018 (er eu bod weithiau’n ymwahanu â’r weledigaeth honno).

Mewn gair, mae’r rhan fwyaf o gynigion polisi Plaid Cymru a’r Gwyrddion – a’r mwyafrif llethol o wariant awgrymedig y ddwy blaid – yn ymwneud â mesurau fyddai o fudd i’r mwyafrif – neu grwpiau economaidd cenedliadol. Maent yn fesurau sy’n mynd ymhellach na’r Llywodraeth bresennol yng Nghymru. Mae’r ddwy blaid yn addo gwneud mwy na Llafur Cymreig yn y frwydr am ariannu tecach a mwy o bŵer gan San Steffan. (Mae’r Gwyrddion yn cymryd agwedd sy’n canolbwyntio’n fwy ar ailddosbarthu o fewn Cymru na Phlaid, gan ganolbwyntio ar herio landlordiaid a chorfforaethau). Petai’n llwyddiannus, gallai hyn ynddo’i hun wneud ychydig o’r gwaith i leddfu gofidion y bobl hynny sy’n teimlo bod rhai grwpiau’n buddio’n fwy nag eraill o ganlyniad i wleidyddiaeth y wladwriaeth a pholisïau’r gwahanol bleidiau.

Rhoddwyd llawer llai o eiriau ac arian i ddarpariaeth benodol neu gydnabyddiaeth ddigamsyniol i fenywod a lleiafrifoedd yn y ddau faniffesto. Serch hynny, nid yn unig ydy’r ddwy blaid wedi parhau’n ddi-ildio wrth gadw a chyflwyno mesurau sy’n gwarchod ac yn grymuso menywod a lleiafrifoedd (yn arbennig y Gwyrddion), ond mae Plaid Cymru, yn arbennig, wedi gwasgu’r danadl er mwyn dadwreiddio camwybodaeth a’r ‘rhyfeloedd diwylliant cynhenid’ sy’n ymwneud â pholisïau’r blaid (e.e. y rhaglen Cenedl Noddfa a hawliau LHDTC+) ac, yn yr un modd â’r Gwyrddion, mae eu haddewid i gryfhau addysg ddinesig ac ystyriaeth feirniadol – critical thinking – yn cynnig gwella addysg wleidyddol a llythrennedd cyfryngol.

Fodd bynnag, ydy’r ddau faniffesto hyn yn ddigon radical i fynd i’r afael ag anghyfartaledd economaidd? Ar ben hynny a fyddai gan y pleidiau hyn y pwerau gwleidyddol, y gallu a’r arian i wireddu’r cynigion a amlinellir yno a chaniatáu i fywyd y mwyafrif drawsnewid? Os nad ydynt yn llwyddo, i ba raddau y bydd yr etholaeth yn goddef y polisïau sydd wedi eu hanelu at wella bywyd i’r grwpiau penodol nad ydynt yn rhan ohonynt? Dyma’r union fan y bydd gwaith yr etholaeth yn cychwyn wedi’r 7fed o Fai petai’r Chwith yn ennill, bydd yn rhaid i ni wthio’r llywodraeth i fynd ym mhellach eto o ran anghydraddoldeb materol ac i barhau’n rym gwrth-sefydliadol, gan sefyll yn fwy cadarn yn erbyn San Steffan, a’r safiad hwnnw’n un cyhoeddus.

Byddai hwn yn rôl allweddol i Undod, yn benodol. Mewn erthygl graff, empathig ar y blog hwn, disgrifia Catrin Ashton yr hyn sy’n denu nifer o bleidleiswyr y Cymoedd at Reform. O ran y pwyntiau mae hi’n eu crybwyll, gallai darllenwyr y blog hwn – yn arbennig y sawl sydd wedi eu gwreiddio o fewn eu cymunedau – gychwyn sianeli newydd o drafodaethau trwy Undod (mewn cydweithrediad gyda’r undebau) er mwyn rhoi pwysau ychwanegol ar wleidyddion i ddefnyddio polisïau datganoledig neu flaenoriaethau ymgyrchoedd San Steffan sy’n unioni anghyfiawnderau yn erbyn grwpiau galwedigaethol/ dosbarth gweithiol penodol yn eu hardal megis cyn-lowyr a chyn-filwyr, yn ogystal â’r rhai hynny sy’n ymwneud â grwpiau sy’n seiliedig ar hunaniaeth, a pholisïau cyfanfydol.

Fodd bynnag, biliwnyddion adain Dde yw perchnogion y rhan fwyaf o’r llwyfannau ar-lein yn ogystal â llawer o’r hen gyfryngau print a darlledu sy’n boblogaidd yng Nghymru, a’r rhain yw lladmeryddion gwleidyddiaeth Reform. Trefnwyd algorhyddmau i dargedu’n benodol y ddemograffeg hŷn, heb addysg brifysgol, gyda’u propaganda, ac ychwanega hwn at y broblem hir oes sydd gennym yng Nghymru o gyfryngau Cymreig sy’n dioddef o ddiffyg adnoddau.

Mewn amgylchedd o’r fath sut all yr etholaeth gael gafael ar wirionedd yr hyn y mae pob plaid yn ei addo? I ddychwelyd at y pwyntiau a wnaed gan Catrin yn ei herthygl a’u defnyddio’n enghreifftiau, pa mor amlwg oedd hi yng Nghymru yn 2024 nad Reform oedd yr unig blaid i fynnu yn eu maniffesto bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dychwelyd yr arian oedd yn ddyledus i’r glowyr yn scandal eu pensiwn (nes i’r llywodraeth ddatrys y sefyllfa yn hwyrach y flwyddyn honno)? Rôl bwysig y mai ymgyrchwyr sy’n gysylltiedig ag Undod yn barod yn ei wneud yn eu cymunedau yw ymateb i gam-wybodaeth a diffyg gwybodaeth ar fforymau lleol, pa un ai ydy hyn ar Facebook a grwpiau WhatsApp neu mewn cyfarfodydd cymunedol. Gellir gwneud mwy o’r math hyn o waith.

Gan ddefnyddio erthygl Catrin i ddangos nad oes yn rhaid i ni wneud hwn mewn ffordd ‘ysgol feistres’ y Chwith Ryddfrydol – gwawdlun nodweddiadol gan y Dde – nid cwestiwn yw hwn o hyrwyddo polisïau’r pleidiau blaengar o faniffesto Seneddol 2026 ynghylch perchnogaeth gymunedol o ynni gwyrdd a chynigion ynghylch sut i wella tomennu glo, gwaredu ar PFA ac ailddefnyddio’r dŵr cynnes sydd wedi llenwi’r pyllau glo i’w defnyddio’n ynni rhad i bobl leol. Gallwn yn hytrach osod y syniadau hyn ger bron y cymunedau hynny sydd, yng nghyd -destun y Cymoedd, fel noda Catrin, yn wybodus ynghylch systemau ynni a’r tir oddi tanynt. Ar ben hynny, yn hytrach na gwarthnodi cefnogwyr Reform yn ffiaidd neu’n dwp, gallwn fuddio drwy anelu ein dicter at bleidiau’r Dde Eithafol, y cyfryngau a’r sawl sy’n eu noddi am dwyllo pobl hŷn ein cymunedau yn benodol.

Peter Humphreys / Coleg Harlech – Ymgorfforiad Addysg i’r Werin yn yr 20fed ganrif

Nerth mewn niferoedd: sut y gall ymgyrchoedd o fudd i’r 99% sefyll ochr yn ochr gyda’r rhai sy’n dyrchafu menywod a lleiafrifoedd

Wrth gwrs, nid yw dehongliadau o gymdeithas ar seiliau cyffredinol, hunaniaeth a dosbarth yn gategorïau taclus ar wahân, er cymaint y mae pobl fel Farage yn ceisio eu gosod mewn gwrthwynebiad i’w gilydd.

Un o’m cynigion yn 2018 oedd ‘Yn hytrach na’u hyrwyddo ar wahan, mae angen i bleidiau blaengar a mudiadau ymgyrchu cyffredinol cysylltu [er enghraifft] hawliau menywod a thrawsrywiol dro ar ôl tro gydag egwyddorion cyffredinol cydraddoldeb a rhyddid; a hyrwyddo darpariaeth ychwanegol ar gyfer grwpiau gorthrymedig/penodol yn benodol ar y cyd ag amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus cyffredinol yn erbyn toriadau dyfnach byth. Mae angen ailadrodd dro ar ôl tro y manteision pendant i’r mwyafrif, o ofal plant a gofal cymdeithasol am ddim, o fewnfudo, a pheidio â chymryd rhan mewn rhyfeloedd hiliol, neo-ymerodrol.’

Nid cwestiwn o ‘negesu’ yn unig yw cyflwyno polisïau ‘cyffredinol’ a ‘phenodol’ fel gludwaith, yn hytrach na gwneud mewn seilos; i’r gwrthwyneb, mae rhywbeth moesegol cynhenid ​​​​am y symbiosis hwn.

Yn gyntaf, mae’n helpu ategu mai dim ond adeiladwaith yw ‘mwyafrifoedd’ a ‘lleiafrifoedd’ sy’n manteisio rhai ac yn anfanteisio eraill – er eu bod wedi’u gwreiddio’n ddwfn. Rydym oll yn groesiadau: nid yn unig y mae’r mwyafrif ohonom yn profi effeithiau anghydraddoldeb economaidd, ond mae’r mwyafrif ohonom yn perthyn i o leiaf un grŵp arall sydd wedi’i wthio i’r ymylon mewn rhai cyd-destunau.

Yn ail, wrth greu model o’r newydd ar gyfer mwyafrifiaeth – un sy’n fontage o undod mewn amrywiaeth – mae pawb sy’n rhan ohono yn teimlo bod ei lwyddiant yn gysylltiedig gyda’u buddion nhw, ac y gellir gweithio tuag ato ar y cyd, a thrwy gryfder niferoedd, fel rhywbeth sy’ bia ni gyda. Pob un yn dyrchafu’r llall. Mae’r Gwyrddion yn arbennig o gryf o ran yr ymwybyddiaeth gwmpasog hon o frwydrau sy’n gysylltiedig â’i gilydd mewn ecoleg ehangach, fel y mae geiriau Anthony Slaughter yn Voice.Cymru yn amlygu: ‘nad oes cyfiawnder hinsawdd heb gyfiawnder cymdeithasol, heb gyfiawnder economaidd, heb gyfiawnder hiliol. Maent i gyd yn gysylltiedig â’i gilydd’.

Mae hyn oll yn helpu herio’r syniadau camarweiniol bod ‘gwleidyddiaeth hunaniaeth’ yn gynhenid ​​​​unigolyddol, yn gystadleuol, yn sinigaidd, wedi’i rhannu’n flychau bach i dicio’n ddienaid, a lleiafrifoedd yn rhyw fath o elit anghysbell sy’n derbyn ‘triniaeth neilltuol’.

Er bod cyd-destunau lle mae angen eu gofodau pwrpasol a’u llwyfannau unigryw ar grwpiau penodol, gall sefyll ochr yn ochr a’i gilydd mewn ystyr trosiadol, a chyfleu eu brwydrau a’u hanghenion fel rhan o ddarlun gwmpasog yn y gyhoeddfa ehangach helpu amddiffyn menywod a lleiafrifoedd: pan fydd eu hachosion yn derbyn sylw mewn ffordd ynysig, maent yn aml yn fwy agored i ymosodiadau, ac yn fwy tebygol o gael eu cyflwyno fel yr ‘arall’.  Yn y modd hwn, yn anfwriadol, y gellir gwadu eu dynoliaeth.

Ceir ym maniffesto Plaid ymdrechion ymwybodol, ymddengys, i blethu eu haddewidion i fenywod a lleiafrifoedd â mesurau mwy cyffredinol i bawb. Mae ei hadran cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb yn pwysleisio ‘cymunedau unedig’ a rhai penodol, cyfiawnder economaidd a gwaith teg, yn ogystal â lleiafrifoedd, ac mae ei Deddf Hawliau Dynol i Gymru yn gollage o hawliau cyffredinol a phenodol. Mae’r Gwyrddion yn arddel ymagwedd debyg, er yn pwysleisio ymyriadau ychydig yn fwy radical i rymuso grwpiau penodol.

Sut i gyfleu bod gan bawb hawl i ymdeimlad o falchder a hunanwerth?

Pwysleisiodd rhan arall o’r llith olygyddol yn 2018 sut y gellir ‘hawlio nôl rhinweddau fel rhyddid, rhesymoldeb a balchder oddi wrth y Dde. Gellir dangos y gall unrhyw un deimlo’n falch o’u diwylliant, hyd yn oed dynion gwyn, gwahanrywiol’. Awgrymodd ‘harneisio’ dimensiynau mwyaf ‘creadigol’ gwleidyddiaeth rhywedd i bawb: ‘y rhyddid i ail-ddychmygu’ch hun, i deimlo’n llai dieithr o’r hunan y mae’n rhaid i chi ei gyflwyno i’r byd bob bore’. Galwodd am gymryd ysbrydoliaeth o’r hyrwyddo diweddar o hanes menywod a lleiafrifoedd Cymru i ‘helpu i ailgynnau diddordeb yn hanes pobl yn fwy cyffredinol’ fel adnodd ar gyfer gwrthsefyll.

Ymhellach, pa ffordd fwy effeithiol o ymladd yn erbyn camwybodaeth yr Asgell Dde Eithafol na chynnal ac adfywio traddodiadau balch Cymru a sefydliadau hunan-ddysg ar gyfer y dosbarth gweithiol, siaradwyr Cymraeg a menywod? Gallai hyn fod yn rôl hanfodol arall i Undod, er enghraifft.

Er gwaetha’r ymwybyddiaeth o’r ffaith bod Cymru wedi’i rhwydo oddi fewn i arferion gormesol ledled y byd, ‘dylid meithrin o hyd yr ymdeimlad torfol o falchder a pherchnogaeth ynghylch perthyn i ddiwylliant a allai unwaith eto cael ei nodweddi gan undod â’r rhai sy’n cael eu gorthrymu.’ Mae Plaid yn mynegi hyn yn benodol, gyda’u cyfeiriadau at draddodiadau radical Cymru o ‘undod’ a ‘chwarae teg’, a’u galwad bod hanes, celfyddydau a diwylliant Cymru yn rhannau craidd o gwricwlwm yr ysgol. Mae’r Gwyrddion, er enghraifft, yn galw am ŵyl banc Dydd Gŵyl Dewi. (Fodd bynnag, fel y mae Adam Johannes wedi dadlau ar Facebook, mewn sylw o Ebrill 10fed, nid yw’r maniffestos yn mynd yn ddigon pell wrth gynnig mesurau rhyngwladol, gwrth-imperialaidd y gellid eu gweithredu hyd yn oed o dan y setliad datganoli presennol).

Dylai gwleidyddion ac ymgyrchwyr asgell chwith geisio osgoi siarad am ddemograffeg benodol (fel menywod a dynion) fel rhai sy’n gynhenid ​​uwchraddol/blaengar neu israddol/adweithiol, hyd yn oed wrth gellwair neu oherwydd dicter yn sgil camdriniaeth rhagfarnllyd. Awgrymaf ei bod yn llawer mwy adeiladol mynegi sut mae problemau’n gynhenid ​​i strwythurau fel patriarchaeth, cyfalafiaeth ac imperialaeth, sy’n effeithio ar rai grwpiau yn llawer gwaeth nag eraill, ond sydd fel arfer yn ddrwg i bawb mewn un ffordd neu’r llall.

Fel y dywedais yn 2018, ‘ni ddylai gwleidyddiaeth flaengar yn y pen draw fod am ymostwng i hanfodion, ond am werthoedd trawsnewidiol y gall unrhyw un eu mabwysiadu’. Yn ei hanfod, dylai bod ar y Chwith parhau’n fater o fod yn caru’r ddynoliaeth gyfan, er ei fod yn ddyneiddiaeth bengaled, fydol-ddoeth, nad yw’n tanbrisio pa mor enfawr o frwydr fydd hi i sicrhau hyd yn oed enillion cymedrol yn erbyn rhagfarn ac anghydraddoldeb.

Gyda’r chwith bellach yn ystrydeb o’r pedant surbwch ar ei flwch sebon yn chwifio’i fys, mae weithiau’n fuddiol i’r rhai y tu allan y swigen gweld ymgyrchwyr sosialaidd a gwleidyddion yn cyfaddef eu methiannau, newid meddwl, neu’n chwerthin ar ben eu hunain.

(Gwrth-)gasgliad

Fodd bynnag, wedi rhefru rhyw ychydig yma ynglŷn â sut i gyfathrebu â chyd-ddinasyddion, byddwn hefyd yn arddel yr olaf o Chwe Rheol Orwell ar gyfer Ysgrifennu: ‘Torrwch unrhyw un o’r rheolau hyn cyn dweud unrhyw beth gwbl anwaraidd’. Ar wahân i lleferydd casineb diamheuol tuag at nodweddion gwarchodedig, siawns na ddylai fod rheolau cysygredig ynglŷn â sut y dylem ymwneud â’n gilydd. Mae’r hunaniaeth ddynol a chreadigrwydd yn rhy ddiderfyn, yn rhy ddadleuol ac yn anrhaethol ar gyfer hynny. Mae’r bygythiadau a’r posibiliadau sy’n ein hwynebu yn esblygu’n rhy gyflym i ni ymateb dim ond trwy orchmynion a bennwyd ymlaen llaw neu gynlluniau pum mlynedd sefydliadol… Nid oes modd llunio fframweithiau rheoleiddio i’r enaid seciwlar fel y byddai rhywun yn rheoli safonau ansawdd dŵr. Awgrymiadau yn unig yw fy nadleuon fan hyn. Er ei bod yn hanfodol bod maniffestos pleidiau asgell chwith yn mynd i’r afael â materion anghydraddoldeb, yn y pen draw, bydd ‘undod mewn amrywiaeth’ yn gofyn am rywbeth mwy na’r hyn y gellir ei gwmpasu mewn pwyntiau bwled: saernio ymwybyddiaeth ehangach, mwy empathig trwy’r annibendod bob dydd o siarad, byw a bod a gweithio gyda’n gilydd, a brwydro dros ein dyheadau cyffredin.

 

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.