Yn ein hail holiadur gydag Ymgeiswyr i’r Senedd, rydym yn symud o’r Gogledd Ddwyrain i’r De Orllewin i gwrdd ag un o’r Gwyrddion, Chris Evans.

“Yma yng Nghymru, ein pobl yw ein cryfder. Os ydym yn buddsoddi ynddynt, yn rhoi’r cyfleoedd cywir iddynt ar gyfer y dyfodol ac yn sicrhau ein bod ni’n eu dyrchafu yna gallwn ni i gyd gael dyfodol cwbl gynaliadwy a mwy disglair.”

U: Ble wyt ti’n sefyll ac beth mae’r lle hwnnw’n ei olygu i ti, ac sut mae’r etholaethau newydd yn cyflwyno her?

CE: Gŵyr Abertawe. Fy nghartref. Fe’m ganwyd a magwyd yn Brynhyfryd, cyn symud i West Cross yn 15 oed. Rwy’n credu mae’n gofyn symud i ffwrdd am gyfnod er mwyn wir gwerthfawrogi yr hyn sydd gennym yma. Rwyf wastad wedi byw yn agos at y môr yn Sbaen, Portiwgal ac yng Nghymru, ac wedi gweld ei eisiau’n fawr yn ystod fy amser yn Glasgow.

Yn syml, y prif fater gyda’r etholaethau newydd i’r Gwyrddion yw’r maint. Fel plaid sy’n cael ei hariannu gan ei haelodau, nid oes gennym yr un sgop â’r pleidiau sydd wedi’u hariannu gan gorfforaethau felly mae’n rhaid i ni fod yn ddetholus iawn er mwyn cyfleu ein neges a’n syniadau mewn modd mor effeithiol â phosibl. Pan gewch chi’ch arian gan iechyd preifat a chwmnïau nwy ac olew mawr fel Llafur a Reform, nid oes gennych yr un math o rym cyfathrebu. Fodd bynnag, rydym wedi dod yn eithaf da o ran gwneud y mwyaf o’n sefyllfa a chystadlu gyda’r mawrion – a rydym yn dawel hyderus – heb fod yn hunanfodlon – ynghylch ein gobeithion yma yn Abertawe.

U: Pa fath o wleidyddiaeth rydych chi wedi cyfrannu ati – boed fel rhan o blaid neu fel arall – ac oes unrhyw gyflawniadau penodol rydych chi’n falch ohonynt?

CE: Ymunais â’r Gwyrddion yn 2015 ar ôl i’r darllen ar gyfer fy nhraethawd Meistr agor fy llygaid i’r nifer o argyfyngau y mae’r ddynoliaeth yn eu hwynebu, ond nad ydym fel pe baem yn eu sylwi. Yna deuthum yn Gynghorydd Sir yn 2022 i ward Mayals, y gwleidydd Gwyrdd cyntaf erioed ar Gyngor Abertawe. Arweiniais hefyd y cynnig cyntaf erioed i ddatganoli Ystad y Goron yng Nghymru, a llwyddais i’w basio. Ar ôl i ni basio hwnnw yma yn Abertawe, pasiodd pob un o’r 22 o gynghorau sir yng Nghymru gynnig tebyg. Mae’n dangos bod y Gwyrddion yn cyflawni pethau ac yn arloeswyr pan gawn ein hethol. Nid oedd eraill wedi ystyried y fath beth, ond unwaith iddynt gael eu hysbrydoli gennym ni, roeddent yn gweithredu. Dyma’n union y math o beth y bydd Gwyrddion yn y Senedd yn gallu ei wneud: er enghraifft, pwyso ar Blaid Cymru i wthio’r ffiniau.

U: I ba ysgol aethoch chi? Oedd unrhyw wersi bywyd o’r profiad rydych chi’n teimlo sy’n bwysig mewn gwleidyddiaeth?

CE: Ysgol Fabanod a Chynradd Brynhyfryd ac yna Ysgol Gyfun Pentrehafod. Byddwn i’n dweud wrth unrhyw un o’r bobl ifanc mewn ysgolion yn ardaloedd llai breintiedig Cymru bod modd ymwneud â gwleidyddiaeth neu unrhyw faes arall o’u dewis, a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Weithiau gall ymddangos nad oes dyfodol a bod pethau’n edrych yn llwm, ond credwch ynoch chi’ch hun, byddwch y newid cadarnhaol hwnnw a pheidiwch ag ofni gofyn am help.

U: ⁠ ⁠Beth am eich bywyd y tu allan i wleidyddiaeth, unrhyw brofiadau neu swyddi o bwys sydd wedi’ch llunio? Profiadau/Mewnwelediad neu arbenigedd sydd o gymorth mawr ichi?

CE: Mae’r rhan fwyaf o fy swyddi wedi bod mewn gwasanaeth cwsmeriaid. Yma yng Nghymru, ein pobl yw ein cryfder. Os ydym yn buddsoddi ynddynt, yn rhoi’r cyfleoedd cywir iddynt ar gyfer y dyfodol ac yn sicrhau ein bod ni’n eu dyrchafu – tra hefyd yn datrys y nifer o heriau ecolegol sy’n ein hwynebu – yna gallwn ni i gyd gael dyfodol cwbl gynaliadwy a mwy disglair.

Hefyd, mi es ar daith gerdded elusennol ar ben fy hun unwaith o Gas-gwent i Dyddewi ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, pan oedd fy merch yn iau. Roedd digon o amser i hunanfyfyrio a meddwl am y dyfodol, ond roedd hefyd yn bythefnos unig iawn. Cwympodd y geiniog y gall unigedd fod yn hynod niweidiol ac, i grwpiau penodol yn y gymdeithas, gall hynny fod eu profiad beunyddiol. Am y rheswm hwn, rwy’n credu bod adeiladu cymunedau yn hynod bwysig, ac rwy’n ofni bod cyfryngau “cymdeithasol” a rhai pleidiau yn creu rhwygiadau, ac yn cynyddu ynysu cymdeithasol yn ddiangen, a dylem ymladd yn erbyn hynny cymaint ag y gallwn.

U: Beth sydd bwysicaf am wleidyddiaeth yn eich barn chi, ac os cewch chi eich hun beth fydd eich blaenoriaeth?

Helpu pobl a’r blaned. Fel Cynghorydd, rwyf wedi ceisio canolbwyntio ar yr elfen gwaith achos, sydd, dweden i, yn gyfystyr â 90% o fy amser. Os gallwch chi gweithredu’r newidiadau cadarnhaol hynny ar gyfer pobl a chymunedau, yna rwy’n teimlo bod hynny’n waith gwerth chweil. Rwy’n credu y byddai hynny’r un peth pe bawn i’n cael fy ethol i’r Senedd: dylem fod yno i wneud bywydau pobl yn well, a dyna fydd fy ffocws.

U: ⁠Fel ymgeisydd Gwyrdd, beth yw eich barn yn fras ar annibyniaeth i Gymru, sut y dylid mynd ati, sut mae’n ymwneud â blaenoriaethau eraill ac ati?

Rwy’n ei gefnogi’n llwyr ac yn aelod o YesCymru. Yn y Senedd gyntaf hon lle efallai bydd gennym fwyafrif annibynnol, rwy’n credu y gallai fod gormod i’w atgyweirio yn gyntaf, cyn y gallwn fynd ati’n iawn. Aeth yr SNP amdani yn eu hail dymor yn Holyrood ac rwy’n credu y gallai hynny fod yn opsiwn mwy synhwyrol. Mae llawer i’w wneud yn gyntaf o ran cadw tŷ.

Yr eliffant yn yr ystafell yw’r posibilad o Farage yn cael ei ethol yn Brif Weinidog yn 2029 gan Loegr, ac yn ceisio diddymu’r Senedd yn erbyn ewyllys pobl Cymru. Ydyn ni wedyn yn cynnal refferendwm ac os yn llwyddiannus, yn datgan annibyniaeth heb ganiatâd Llundain? Bydd yn gyfnod diddorol.

U:  A phan nad ydych chi wrthi’n gwleidydda ble byddem ni’n dod o hyd i chi a beth byddech chi’n debyg o fod yn gwneud?

Mae gan fy merch ASD ac rydym yn treulio llawer o amser gyda’n gilydd, gan ei helpu i gymdeithasu a dod i arfer â sefyllfaoedd cymdeithasol. Rydym ni’n dau wrth ein bodd â chyngherddau roc felly mae hi bob amser yn gofyn am docynnau ar gyfer y Nadolig a phenblwyddi, ac mae gennym ni dipyn wedi’u trefnu. Dydw i ddim wedi gweld Metallica ers y 90au felly bydd hynny’n wych. Rydw i hefyd wrth fy modd yn cerdded, yn enwedig ar Benrhyn Gŵyr, a dydw i ddim o reidrwydd yn dweud na i beint ar y diwedd!! Os gai hefyd cynnig hysbys digywilydd braidd  i Ŵyl Gerdded Penrhyn Gŵyr, sydd â rhai teithiau cerdded gwych eto eleni.

 

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.