Mae Bywydau Du O Bwys. Datganiad

Yr Athro Silvia Federici ar sosialaeth, ffeministiaeth a gofal (fideo)

Dyma drafodaeth a recordiwyd ar nos Sul 2il o Fai 2021. Dyma ddisgrifiad gwreiddiol y digwyddiad: Awdur ffeministaidd, athrawes ac ymgyrchydd yw Silvia Federici. Ym 1972 roedd hi’n un o sylfaenwyr yr International Feminist Collective â lansiodd yr ymgyrch Wages for Housework. Ynghyd ag aelodau eraill o Wages for Housework ac awduron ffeministaidd eraill megis …

Cymorth Cyfreithiol Drwgweithredol yng Nghymru

Dan Newman a Roxanna Dehaghani Mae system cyfiawnder troseddol Cymru a Lloegr yn ddeilchion, yn ôl yr awdur nodedig Secret Barrister. Mae degawdau o ddiffyg ariannu, a waethygwyd gan lymder llywodraeth y DU ers 2010, wedi llethu’r system gan greu bygythiad mawr i fynediad at gyfiawnder. Hyd yma, mae’r ddadl am broblemau cyfiawnder troseddol wedi …

Mae Undod yn cydsefyll â chymunedau Sipsiwn Roma a Theithwyr a’r protestwyr ym Mryste

Mae Undod yn cydsefyll â chymunedau Sipsiwn Roma a Theithwyr a’r protestwyr ym Mryste sydd wedi dioddef ymosodiadau ciaidd gan yr heddlu yr wythnos ddiwethaf, tra’n gwrthdystio yn erbyn y Mesur Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd. Os caiff ei basio, bydd y ddeddfwriaeth hon yn dileu’r hawl i dresmasu, gydag effaith ddinistriol ar fywydau pobl grwydrol …

Nôl i Oes Thatcher i’r Llyfrgell Genedlaethol: Toriadau i’n Treftadaeth

Undeb Llafur Prospect y Llyfrgell Genedlaethol Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, yn nyddiau Margaret Thatcher, cynhaliodd y Swyddfa Gymreig adolygiad o’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan ddod i’r casgliad bod angen cyllid ychwanegol ar y Llyfrgell. Cafwyd sylw parod gan was sifil o Whitehall ar y pryd, i aelod o’r tim rheoli: ‘Rydych chi’n hoff …

Yn Gyntaf, Na Wna Niwed

  Bydd llwyfannu ‘adroddiant adferiad’ (‘recovery narrative’) ôl-bandemig yng Nghymru – trwy ddathliad a esgorwyd arni gan ‘ryfel diwylliant’ Brexit – yn wrthddywediad llwyr, meddai Frances Williams. Yn hytrach na chydweithrediad rhyngwladol, ysgogi adroddiannau cenedlaetholgar ymosodol a wnaeth 2020, blwyddyn y pandemig.  Roedd disgrifiad o’r firws fel corff estron wedi arwain at gyfres o ddigwyddiadau …

Ail gartrefi a digartrefedd: Yr argyfwng tai yng Nghymru (fideo)

Dyma drafodaeth a recordiwyd ar Nos Fercher 18fed Tachwedd 2020. Dyma ddisgrifiad gwreiddiol y digwyddiad: O gymunedau bach gwledig i’n trefi a dinasoedd, mae gan Gymru argyfwng tai. Tra bod adeiladau’n eistedd yn wag, mae pobl yn cael eu thaflu allan ar y strydoedd oherwydd diffyg tai fforddiadwy a’n gwladwriaeth les ddifreintiedig. Mae eraill yn …

Rhaid hawlio nôl Ein Dinas Ni

Bydd y rhai ohonoch sy’n gyfarwydd â’r blog hwn yn ymwybodol ein bod wedi tynnu sylw blaenorol at ddinistr araf ond pendant ein prifddinas gan y cyngor presennol, dan arweiniad y Blaid Lafur.  Mae’r bygythiad i Tramshed Grangetown, a chroesawu Amgueddfa Filwrol Brydeinig ar stepen drws ein Senedd, ond yn ddwy ddameg o’r helbul ehangach …

Datganiad Undod: Ni fu’r bygythiad i ddiogelwch yma erioed yn deillio o ymfudwyr

Mae Undod yn cydsefyll gyda’r holl bobl sy’n wynebu llwybrau peryglus ac unigolion didrugaredd sy’n elwa arnynt wrth geisio cyrraedd glannau Prydain, o ganlyniad i systemau mewnfudo creulon y DU a’r UE. Rydym yn ymuno gyda galaru’r plentyn 16-oed a gollodd ei fywyd yn Sianel Lloegr, ac yn condemnio’r ymosodiad ar ymfudwr arall 20 oed …

Datganiad Undod ar ganlyniadau arholiadau Cymru

Mae Undod yn collfarnu penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio ag ymddiried yn ein hathrawon, ac i osod graddau yn lle hynny ar sail algorithm a gymeradwywyd gan Lywodraeth Dorïaidd yn San Steffan. Mae’r weithred hon wedi dinoethi’r anghydraddoldebau strwythurol sy’n gweithredu yn ein system addysg, ac mae wedi ategu ymhellach y rhagfarnau sy’n gweithredu yn …

Cofio George Floyd: Undod yn cydsefyll â phrotestwyr gwrth-hiliaeth

Mae Undod yn cydsefyll â’r rhai sy’n mynnu cyfiawnder i George Floyd, dyn du a lofruddiwyd gan heddwas gwyn ym Minneapolis, a phawb sy’n brwydro yn erbyn hiliaeth a thrais y wladwriaeth ym mhobman. Mae’r ymgeisiadau treisgar i atal y protestiadau ar draws yr Unol Daleithiau, o greulondeb di-feddwl i fwledi rwber a’r defnydd eang …

Does dim troi nôl i normal: Gramsci, cyfalafiaeth, crisis gwleidyddol, ac ein hymateb ni

 Gan: Tad Davies, Ted Jackson, Garmon ab Ion ‘Dyma’r Marcsydd o Sardinia Antonio Gramsci. Cysegrodd lawer o’i amser i fyfyrio ar y syniad o greisis. Wedi holl effeithiau’r Rhyfel Byd Cyntaf sef y Rhyfel Mawr, ac yna’r binno rosso sef ‘y ddwy flynedd goch’ o wrth ryfel a ddilynodd, credai y deilliai trefn sosialaidd …

Cam nesaf Cymru: cyfres newydd

Dim mwy o wleidyddiaeth o’r top i lawr: bellach lawr y cledrau i dlodi, anghyfiawnder a dyfnhau’r argyfwng ecolegol fydd hi. Mae angen i ni achub y blaen. Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn amlygu’r posibiliadau sydd i’r genedl, wrth iddi godi eto o’r argyfwng hwn. Y coronafeirws yw’r symptom mwyaf eithafol eto o gyfres …

Adeiladu Cymru gwell: tu hwnt i’r carcharu

Byddai heddiw wedi bod yn ddathliad o ddiwylliant, hunaniaeth ac annibyniaeth Cymru yn un o drefi mwyaf eiconig Cymru, Wrecsam: cartref pêl-droed Cymru, lager rhagorol, Saith Seren, Gŵyl Twm Sbaen, ac arloeswr anghydffurfiaeth Gymreig, Morgan Llwyd. Yn lle, rydym wedi ein caethiwo yn ein tai mewn cyfnod o hunan-ynysu ac argyfwng enbyd na fyddai llawer …

Rhaid i Vaughan Gething adael

Bydd y byd yn newid yn llwyr, hyd yn oed i’r rhai ohonom sy’n ei wneud yn fyw … Ond mae’r bobl a’n harweiniodd i’r drychineb yn dal i fod yno. * Yn ein crynodeb diweddar o’r argyfwng, buom yn tynnu sylw at gyfres o gamsyniadau gan Lywodraeth Cymru. Mynegwyd y gobaith y byddai eu …

Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i leihau tlodi argyfwng – yn awr

Yn gwbl gywir, mae sylw wedi troi at incwm sylfaenol fel dull o sicrhau diogelwch ariannol yn ystod y pandemig a’r dirwasgiad economaidd dwfn fydd yn ei ganlyn. Yn wyneb y disgwyliad o fywiolaethau drylliedig ac incwm yn diflannu, gwelsom Drysorlys y DU yn rhoi gwarantau i fusnes ar lun 80% o gymhorthdal cyflog, rhyddhad …

Llywodraeth Cymru: wastad cam tu ôl

Yn nhrydedd wythnos yr argyfwng COVID-19, nid yw pethau’n argoeli’n rhy dda yng Nghymru. Mae’r Bwrdd Iechyd GIG sy’n dwyn enw ei sylfaenydd, yn cofnodi lefelau uwch o heintio fesul 100,000 na Llundain hyd yn oed, tra bod Cymru gyfan yn ymdebygu i orllewin canolbarth Lloegr – un o’r rhanbarthau sydd wedi’i effeithio mwyaf yn …

Mewn sefyllfa o bandemig, rhaid i Lywodraeth Cymru achub y blaen yn wleidyddol

Yn dilyn y cyhoeddiad neithiwr gan Lywodraeth y DU, a adleisiwyd gan Brif Weinidog Cymru, mae’r genedl bellach yn cychwyn ar fersiwn ‘feddal’ ei hun o’r cloi lawr sydd wedi’i weithredu eisioes yn yr Eidal, Sbaen a Ffrainc. Ac eto, ni ddylai fod unrhyw amheuaeth, mae angen gweithredu ymhellach ar unwaith yma yng Nghymru, fel …

Ymateb i bandemig coronafeirws: ein galwadau wrth Lywodraeth Cymru

Trwy ddilyn yn y lle cyntaf strategaeth a oedd yn groes i ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a thystiolaeth o’r hyn sydd wedi gweithio mewn gwledydd eraill, mae Llywodraeth y DU wedi colli wythnosau yn y frwydr yn erbyn y firws hwn — camgymeriad a allai gostio bywydau heb gamau brys a radical i …

Ymunwch ag Undod heddiw

I ni, bobl Cymru, roedd nos Iau yn gadarnhad i nifer cynyddol ohonom nad oes dyfodol i ni a’n plant o fewn strwythurau’r wladwriaeth Brydeinig. Gallasai cynghreirio rhwng ein pleidiau ‘blaengar’ wedi achub y dydd o safbwynt cadw y Toriaid mas o’n etholaethau seneddol, ond gweithred dros dro byddai hynny wedi bod, y byddai wedi …

Cymru, yr argyfwng hinsawdd, a’r M4

Datganiad Mae Undod yn fudiad sydd wedi’i sefydlu i sicrhau annibyniaeth i Gymru. Bydd annibyniaeth go iawn yn dilyn nifer o egwyddorion hanfodol, gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i: cyfiawnder hinsawdd gwarchod ein hamgylchedd naturiol economi moesegol i holl bobl Cymru, ac i holl bobloedd y byd. Mae Undod yn gwrthwynebu’n gryf y syniad …

S.O. Davies ac annibyniaeth economaidd i Gymru

Diolch i Nye Davies am sgwrs ddiddorol gyda ni yng Nghanolfan Soar, Merthyr yng nghyswllt y mudiad llafur ac annibyniaeth. Trafod yr adnabyddus S.O. Davies, AS Merthyr 1934-1972, oedden ni – a’r modd roedd yn mynegi ei gred mewn cyd-ddibyniaeth annibyniaeth a sosialaeth. Cymharwyd syniadau Davies â rhai Aneurin Bevan gan ddangos bod y ddau …

Undod: dewch i lansiad y mudiad dros Annibyniaeth Radical i Gymru

Mae hi’n bleser cael eich gwahodd i lansiad mudiad blaengar newydd dros annibyniaeth i Gymru. Siaradwyr: Nia Edwards-Behi Sandy Clubb Dan Evans (Desolation Radio) + mwy Dydd Sadwrn 26th mis Ionawr 2019 11yb tan 3yp Yr Hen Goleg, Aberystwyth, SY23 2AU Digwyddiad lansiad Undod ar Facebook Am 11yb, ar 26ain mis Ionawr 2019, cynhelir cyfarfod cyhoeddus …