Dyma drafodaeth a recordiwyd ar nos Sul 2il o Fai 2021.

Dyma ddisgrifiad gwreiddiol y digwyddiad:

Awdur ffeministaidd, athrawes ac ymgyrchydd yw Silvia Federici. Ym 1972 roedd hi’n un o sylfaenwyr yr International Feminist Collective â lansiodd yr ymgyrch Wages for Housework. Ynghyd ag aelodau eraill o Wages for Housework ac awduron ffeministaidd eraill megis Maria Miles a Candana Shiva mae Federici wedi cyfranu at y cysyniad o “atgenhedlu” fel cysyniad allweddol i ddealltwriaeth o’r perthnasau rhyng-ddosbarth o ecsbloitio a dominyddiaeth, mewn cyd-destun lleol a byd-eang.

Yng Nghymru rydym yn lansio ymgyrch sy’n galw am Gyflog i Rieni a Gofalwyr: i’r sawl hynny nad ydynt mewn gwaith cyflogedig am eu bod yn gofalu am erailll. Rydym yn galw yn ogystal am bensiwn i ofalwyr sydd yn adlewyrchu eu cyfraniad cyfan yn hytrach na’i cyfnod mewn gwaith cyflogedig yn unig.

Ymgyrch drawsbleidiol yw hon sydd â’r nod o roi parch i waith gofal drwy dalu cyflog da i’r gofalwyr hynny sydd, hyd yma, heb gynrychiolaeth wleidyddol ddigonol a sy’n parhau i gael eu ecsbloitio gan ein cymdeithas er gwaethaf eu rôl ganolog a sylfaenol ym mywydau pob un ohonom.

Diolch i’r Athro Silvia Federici a diolch i’r holl drefnwyr yn enwedig Catrin Ashton ac Elin Hywel.

Gweler hefyd: Cyflog Cymdeithasol i Rieni a Gofalwyr, Pensiwn Gofalwyr Cenedlaethol, a Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru gan Catrin Ashton

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.