Os oes un cyfnod mewn hanes sydd wedi amlygu pwysigrwydd gofal plant, a gwaith gofal yn gyffredinol, yna’r pandemig cyfredol yw hwnnw.

Yn ogystal â gorfod ymateb i ysgolion yn cau funud olaf o ganlyniad i’r coranfeirws, mae nifer o deuluoedd wedi gorfod ymdopi â’r her o ofalu am eu plant anhwylus neu blant sy’n hunanynysu tra bod yn rhaid i’r rhieni barhau i weithio. Dywed Sefydliad Bevan bod y sefyllfa’n golygu bod “peryg y bydd rhieni, yn y pendraw, mewn sefyllfa o galedu ariannol o ganlyniad i orfod colli gwaith am resymau gofal-plant ac mewn peryg o achosi’r feirws i ledaenu o ganlyniad i rieni yn penderfynu mynd i’r gwaith neu o ganlyniad i aelodau eraill o’r teulu a ffrindiau yn dod i’r tŷ er mwyn gofalu am y plentyn”.

Collodd nifer o rieni eu swyddi dros y flwyddyn ddiwethaf er bod ganddynt blant i’w gofalu amdanynt. Mae’r galw am ymestyn argaeledd ciniawau ysgol i’r gwyliau ysgol, wedi cael llawer o sylw yn y wasg tra bod y nifer o bobl sy’n dibynnu ar fanciau bwyd wedi cynyddu yn ystod y pandemig.

Cyhoeddodd y Rowntree Foundation ei drydedd astudiaeth yn y gyfres Destitution UK – dengys bod amddifadrwydd wedi bod yn cynyddu yn y Deyrnas Unedig hyd yn oed cyn dyfodiad y coronafeirws. Dim ond dwysáu’r broblem a wnaeth y pandemig gan wthio teuluoedd a oedd yn llwyddo i ddal dau ben llinyn ynghyd, dros y dibyn.

Mae Plant yng Nghymru – y corff cenedlaethol dros sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifainc a’u teuluoedd yng Nghymru – wedi pwysleisio natur dorcalonnus y sefyllfa yn ein gwlad ni.

O ran cymorth gyda gofal plant, mewn ardaloedd o Gymru sy’n cael eu hystyried yn ddifreintiedig, mae’n bosib derbyn 30 awr o ofal plant am ddim, unwaith bod y plentyn yn ddwy flwydd oed drwy’r cynllun Dechrau’n Deg. Mewn ardaloedd nad ydynt yn cael eu hystyried yn ddifreintiedig mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r cynllun Cynnig Gofal Plant Cymru sef 30 awr o ofal am ddim i blant tair a phedair mlwydd oed. Noda’r canllawiau bod y cynnig ar gael i rieni sy’n gweithio yn unig.

Nid yw’r cynnig, felly, yn helpu rhieni nad ydynt yn gweithio ond a hoffent ddychwelyd i’r byd gwaith. Nid yw’n helpu, ychwaith, y sawl nad ydynt eisiau dychwelyd i’r byd gwaith am eu bod eisiau gofalu am eu plant eu hunain ond o ganlyniad i hynny yn byw mewn aelwydydd incwm-isel neu di-incwm. Hyd yn oed o fewn teuluoedd lle mae dau riant yn llwyddo i weithio drwy gyfuniad o waith llawn-amser a rhan-amser, a drwy ddibynnu ar aelodau o’r teulu ehangach am ofal plant, mae incwm nifer o’r teuluoedd hyn yn dal i fod yn rhy isel i allu eu codi allan o dlodi. Rhain yw’r tlodion cyflogedig sy’n ddibynnol ar gynlluniau’r llywodraeth megis Credyd Treth Plant a Chredyd Cynhwysol er mwyn goroesi. Mae cyfyngderau’r cynlluniau hyn yn ei gwneud hi bron yn amhosib i deuluoedd lewyrchu ac i blant ffynnu ar gyn lleied o arian. Am ragor o wybodaeth gweler y bennod ‘Effaith Newidiadau i Fudd-dal’ yn yr adroddiad Tlodi Plant a Theuluoedd yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2019 ag a ddiweddarwyd yng Ngorffennaf 2020 gan Plant yng Nghymru.

Dywed yr adroddiad bod:

“…tlodi’n digwydd pan fydd adnoddau teuluoedd yn syrthio o dan eu hanghenion, gan gynnwys cymryd rhan yn eu cymuned leol neu’r gymdeithas yn fwy cyffredinol. Dyma ddiffiniad Llywodraeth Cymru o dlodi:

“Cyflwr hirdymor o fod heb adnoddau digonol i fforddio bwyd, amodau byw rhesymol neu amwynderau, neu i gyfranogi mewn gweithgareddau (fel mynediad at gymdogaethau deniadol a mannau agored) sy’n cael eu cymryd yn ganiataol gan eraill yn eu cymdeithas.”

Yn yr adran Cyflogau Isel o’r adroddiod hwnnw dywed mai:

Cyflogau isel yw un o brif achosion tlodi plant yng Nghymru. Soniodd llawer o’r ymatebwyr i’r arolwg, yn ogystal â chyfranogwyr mewn digwyddiadau tlodi plant rhanbarthol ledled Cymru, am y prinder gwaith am dâl gweddus mewn rhai ardaloedd yng Nghymru.”[1]

Ymateb blaengar, radical i’r broblem fyddai i dalu cyflog da i rieni am ofalu am eu plant eu hunain: byddai hynny yn ei dro yn tynnu plant, a’u teuluoedd, allan o dlodi

Ynghyd â chyfnodau mamolaeth a thadolaeth llawer hirach, byddai talu cyflog da i rieni am fagu eu plant yn gam tuag at roi gwir ddewis i fenywod o ran dychwelyd i’r gwaith wedi cael babi neu aros adref i ofalu am eu plant. Byddai hefyd yn ffordd o leihau’r problemau sy’n codi pan fod angen cymeryd amser i ffwrdd o’r gwaith oherwydd bod eich plant yn sâl neu’n hunan-ynysu – rhywbeth sy’n achosi adfyd ariannol i nifer o deuluoedd.

Mae gofalu am eraill, glanhau, coginio – mewn gair yr holl waith tŷ a’r gwaith gofal sy’n cael ei wneud yn rhad ac am ddim yn y cartref – hefyd yn cael ei alw’n lafur atgynhyrchiol. Mae Ffeminyddion Marcsaidd megis Silvia Federici a Mariarosa Dalla Costa o’r Eidal yn mynnu bod llafur atgynhyrchiol yn rhan allweddol o waith cyflogedig: dyma sydd yn cynhyrchu gweithwyr y dyfodol, dyma sy’n gofalu am blant y sawl sydd mewn gwaith cyflogedig yn ogystal â gofalu am y gweithiwyr cyflogedig eu hunain drwy ofalu am y gwaith tŷ ayyb. Mae gofalu am weithwyr y dyfodol a rhoi’r amser i weithwyr y presennol allu mynd i’r gwaith yn elfennau hollbwysig o gymdeithas gyfalafol. Ac eto nid yw’r gwaith yn cael ei ystyried fel gwaith o gwbl. Ac yn sicr nid fel gwaith sy’n haeddu cyflog.

Mae’r arwyddocâd gwleidyddol o dalu cyflog i famau / rhieni am ofalu am eu plant yn chwyldroadol. Petai llafur atgynhyrchiol mamau yn cael ei ystyried o ddifrif, byddai’r sgil-effeithiau yn golygu bod pob math o waith gofal yn gorfod cael ei ystyried o ddifrif. Byddai’n gynsail i weithiwyr meithrynfeydd ennill cyflog gwell, yn ogystal â’r sawl sy’n gweithio mewn cartrefi gofal, a glanhawyr.  Yn y bôn byddai nifer o’r tlodion cyflogedig a’r tlodion di-gyflog yn cael eu tynnu allan o dlodi petaent yn derbyn cydnabyddiaeth lawn am eu llafur a phetai eu cyflog yn adlewyrchu natur hanfodol y llafur hwwnw.

Mae’r cwestiwn o ofal plant yn annatod yn arwain at gwestiynau am y gofal rydym yn debygol o’i angen ar ddiwedd ein hoes.  Oherwydd pan fod menyw yn gofalu am blant heb iddi ennill cyflog, mae hi mewn peryg o fod mewn sefyllfa bregus ei hunan, yn ei henaint. Yng Nghymru, fel yng ngweddill y Deyrnas Unedig, os ydych yn derbyn budd-daliadau nid ydych yn talu Yswiriant Cenedlaethol yn awtomatig, ac nid ydych o reidrwydd yn cael eich hatgoffa i wneud hynny chwaith. Mae nifer o’r menywod hynny (oherwydd menywod yw’r rhan helaeth o’r bobl hyn) a ofalodd am eu plant heb gyflog yn aml, yn hwyrach yn eu bywydau, hefyd yn gofalu am eu rhieni yn eu henaint neu eu gwŷr o ganlyniad i salwch neu henaint.  Nid yw nifer helaeth o’r menywod hyn yn derbyn hyd yn oed pensiwn cyflawn o’r wladwriaeth am yr holl waith gofal a wnaed ganddynt, dros eu bywydau.

Yn ôl y ddihareb Affricanaidd “mae angen pentref i fagu plentyn” ond wrth orfodi pawb posib i weithio am gyflog, chwalwyd y gymuned gan gyfalafiaeth. Does braidd neb ar ôl i’n helpu ni i ofalu am ein plant na’r aelodau hynny’n o’n cymuned sydd arnynt angen ein cwmni a’n cefnogaeth.  Cyhoeddwyd adroddiad yn ddiweddar gan y Women’s Budget Group (sefydliad annibynnol, nid-er-elw sydd yn arolygu effaith polisiau’r llywodraeth ar fenywod a dynion): Creating a Caring Economy: A Call to Action ac mae’n un enghraifft o sut allwn greu economi ofalgar. Amlinella “wyth cam i greu economi ofalgar fyddai’n seiliedig ar gydraddoldeb rhyw, llês a chynaladwyaeth”. Gallwn newid y ffordd rydym yn trefnu ein hunain fel cymdeithas. Mae hyd yn oed patrymluniau i ni eu dilyn neu i fenthyg syniadau oddi-wrthynt ac mae yna fudiadau sydd wrthi’n barod yn chwilio am ffyrdd o wireddi’r syniadau hyn. Mae modd i ni drefnu ein cymdeithas ar amcanion gwell, mwy ystyrlon nag elw ariannol.

Galwn am y canlynol:

  • Cyflog Cymdeithasol i Rieni a Gofalwyr i bob riant neu ofalwr nes bod eu plant yn 18 mlwydd oed neu nes bod eu plant wedi gorffen eu haddysg llawn-amser – pa bynnag un sydd hirach.
  • Pensiwn Goflawyr Cenedlaethol i bob riant neu ofalwr sydd wedi gadael gwaith cyflogedig am gyfnod er mwyn gofalu am eu plant, aelodau o’r teulu neu aelodau o’r gymuned, yn ddi-dal.
  •  Cyfnodau mamolaeth a thadolaeth o leiafswm o 5 mlynedd: cadwch swyddi yn agored i bob rhiant nes bod pob un o’u plant wedi cyrraedd oedran ysgol statudol.
  • Gofal plant am ddim o enedigaeth eu plentyn i’r rhieni hynny sydd eisiau dychwelyd i’r byd gwaith ar ôl genedigaeth eu plant.
  • Absenoldeb Rhiant cyflogedig.
  • Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol cadarn, wedi ei ariannu’n hael. Byddai’n cynnig gwsanaethau gofal yn yr un ffordd ag y gall Gwasanaeth Iechyd Cenedlaeth cadarn, wedi ei ariannu’n hael, gynnig gwasanaethau ar gyfer iechyd.
  • Ad-drefniant o’n cymdeithas yn ôl gofal. Felly pan fyddwn yn gofalu am ein plant / rhieni / partneriaid neu aelodau bregus o’n cymunedau bydd pobl eraill yno i’n helpu ni yn ogystal â rhwydweithiau fyddai’n galluogi’r amser i ni ddad-flino yn emosiynol ac yn gorfforol a’r sefydlogrwydd ariannol i ni allu gwneud y gwaith hwn yn hapus ac yn ddi-bryder.
  • Cartrefi o safon da i bawb, a’r cyfle i allu byw yn eich cymuned eich hun heb gael eich gorfodi i adael oherwydd diffyg tai cyngor neu brisiau tai uchel.
  • Mannau agored gwyrdd i bawb gydag aer glân, heb lygredd.

 

[1] Tud 18 Child and Family Poverty Survey gan Plant yng Nghymru, Gorffennaf 2020

Un ateb ar “Cyflog cymdeithasol i rieni a gofalwyr, pensiwn gofalwyr cenedlaethol, a Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru”

Mae'r sylwadau wedi cau.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.