Ar ôl osgoi penderfyniad trychinebus o drwch blewyn yr wythnos hon, gyda’u cynlluniau i ddegymu’r Llyfrgell Genedlaethol, mae’r grŵp Reclaim Cardiff yn archwilio penderfyniad pendew arall gan Lafur Cymru mewn perthynas â chynllun chwerthinllyd i osod Amgueddfa Meddygaeth Filwrol ar lawnt y Senedd.

A chithau’n tybio na allai Cyngor Caerdydd gyflawni dim mwy, cyn y Nadolig dyma nhw’n coroni eu gwaith yn 2020 drwy gyrraedd tudalen tri o’r Guardian. Y stori? Beth arall ond ei gynlluniau i werthu Parc Britannia i’r Amgueddfa Meddygaeth Filwrol. Er mwyn i awdurdod lleol neu gynghorydd yng Nghymru dwyn sylw’r wasg Brydeinig, mae yna wir gofyn rhywbeth neilltuol (awgrymu fandaliaeth achlysurol gyda botel o dipecs, er enghraifft).

Penderfynodd Huw Thomas nad oedd am i’w sir enedigol cael y gorau ohono wedi iddi gyrraedd y penawdau yn sgil ei hymateb clodwiw i’r Coronafeirws, a bod unrhyw fath o sylw yn well na dim sylw o gwbl, gan yrru ymlaen gyda phrosiect mor amhoblogaidd, nas welwyd ei debyg ers y chwedlonol Anws y Gogledd.

Dyma gynnig bydd yn derbyn croeso cystal â cachu ci mewn parc; nes bod y linell Shitting on the Dock of the Bay yn eiriau lledneis, addas iawn – ac er gwaethaf ymdrechion gorau ein harweinydd i gaboli rhywfaint ar y cais, rydym oll yn gwybod does na ddim rhoi sglein ar sholen.

Gadewch inni atgoffa ein hunain o’r union resymau pam bod hwn yn gynnig mor amhoblogaidd i Barc Britannia (i lawer mae’n gynnig cwbl ddiffygiol beth bynnag, ond gadewch i ni ganolbwyntio ar y rhesymau pam ei fod yn gynnig mor wael yn ei ffurf bresennol, ac i’r parc ei hun).

1) Effaith Amgylcheddol: mae’n cau mewn man gwyrdd agored gwerthfawr mewn ardal lle nad oes dewis arall o fewn pellter cerdded i breswylwyr, mewn dinas lle mae’r math yma o fangre yn cynrychioli dim ond 8% o gyfanswm arwynebedd y ddinas (o’i gymharu ag 16% yn Birmingham);

2) Cyfleusterau plant: yn ogystal â chau mewn man agored sydd wedi’i goleddu gan blant, mae’n dwyn eu parc chwarae heb unrhyw sicrwydd o rywbeth tebyg yn ei le, o fewn y cyffiniau;

3) Methiant Anochel: mae cynllun ariannol yr amgueddfa fel y mae, wedi’i seilio ar ffigurau ffantasiol a’r honiad y gall ddenu 225,000 o gwsmeriaid bob blwyddyn – mae hynny 70,000 yn fwy na Techniquest, 150,000 yn fwy nag amgueddfa filwrol arall Caerdydd yn y Castell, a thros draean o’r nifer sy’n ymweld â Sain Ffagan sy’n safle neilltuol ac yn rhad ac am ddim.

4) Camsyniad – “gweledigaeth i ddigaloni rhywun”: mae’r dyluniad, diben a’r effaith ar yr ardal oll yn destun beirniadaeth gan wneuthurwyr ym meysydd pensaernïaeth a threftadaeth. Mae’r bobl yn galw am Amgueddfa Hanes Pobl Dduon i Tiger Bay a’r Dociau, ac yn ei le maen nhw’n cael amgueddfa i fyddin a wladychodd traean o’r byd!

5) Gwrthwynebiadau lleol: o ystyried ymrwymiad dwfn ac amlwg y Cabinet i gynddeiriogi trigolion y ddinas, gwyddom na allent becso dim am y bobl leol. Fodd bynnag, mae Reclaim Cardiff yn poeni, ac am atgoffa pawb mai pobl y ddinas, nid datblygwyr, ddylai ddod yn gyntaf. Mae gwrthwynebiad lleol yn sylweddol: maent eisoes wedi brwydro yn erbyn un datblygiad, gan argyhoeddi’r Cyngor i’w brynu er mwyn ei ddiogelu. Pa mor eironig (neu efallai’n rhagweladwy) bod yr un Cyngor am ei werthu.

Er gwaethaf y gwyrthwynebiad gwleidyddol eang (gan gynnwys yr AS Llafur lleol) aethpwyd â’r cynigion ger bron i’r Pwyllgor Cynllunio ar gyfer perfformiad ddemocrataidd nas welwyd ei debyg ym myd dychan gwleidyddol ers dyddiau Yes Minister.  Ac ymddengys yn ogystal bod swyddog y Cyngor wedi anghofio ei fod mewn rol di-duedd, ac yn hytrach dyma fe’n cymryd ymlaen y swydd o werthwr ail-law, er gwaethaf diffygion helaeth y prosiect sydd wedi mynd o ddinas i ddinas yn edrych am gartref (er chwarae teg iddo, aeth ddim mor bell a dathlu ei fuddugoliaeth, yn wahanol i’w gydweithiwr). Wrth i’r ornest rhwng gwrthwynebwyr a datblygwyr mynd rhagddi, nid oedd yr un amheuaeth ynghylch y canlyniad, gan godi’r cwestiwn a oedd y Pwyllgor a’i arweinyddiaeth Lafur erioed wedi ymhel â’r syniad o chwarae teg.  Wedi dweud hynny, efallai na ddylai fod yn syndod bod cysyniad o’r fath yn absennol o bwyllgor o dan gadeiryddiaeth rhywun sydd wedi bod a’i broblemau cynt wrth adnabod yr hyn sy’n ymddygiad priodol (a chofiwch chi, dyma gadeirydd â phleidlais fwrw, ychwanegol, sydd â’r pwrpas traddodiadol o sicrhau trafodaeth bellach lle mae anghydweld, ond sydd yn achos y pwyllgor yma’n cael ei ddefnyddio i droi’r fantol o blaid y datblygwyr – wele ffawd y Paddle Steamer yr wythnos ddiwethaf).

Felly ble mae hyn yn ein gadael ni? Wel, er gwaethaf ymdrechion y Cabinet i awgrymu bod y prosiect cyfan rywsut yn nwylo’r Pwyllgor Cynllunio (hen dric da er mwyn gwadu cyfrifoldeb), y ffaith sylfaenol yw bod y parc yn parhau (hyd y gwyddom) yn eiddo’r cyngor, ac felly mater i’r Cabinet yw gwerthu’r man gwyrdd agored gwerthfawr hwn.

Ac felly pery hwn yn benderfyniad gwleidyddol y gellir ei atal am yr holl resymau pwysig sydd eisoes wedi’u hamlygu –

ac yn anad dim y ffaith bod yr achos ariannol dros yr amgueddfa yn fwy o jôc na rhai o’i eitemau yn y siop anrhegion. Nid bod cynlluniau ariannol amheus erioed wedi atal y Cabinet hwn rhag cefnogi unrhyw un, wrth gwrs.

Ond er bod digon o arian ym mhoced ôl y Cyngor i daflu £2miliwn at gwmni yr oedd gan yr AS lleol ‘bryderon difrifol’ amdano, ac yn wir digon wrth gefn i fentro hi ar arena dan-do newydd enfawr (y tocyn euraid yn oes Covid, wrth gwrs) ac adeiladu pencadlys arall iddyn nhw eu hunain, mae Huw Thomas a’i aelod dros ddatblygid Russell Goodway – pen bandit Llafur Caerdydd – yn taeru bod rhaid gwerthu Parc Britannia i ddod ag arian sydd mawr ei angen i’r coffrau.

Yn wir ychydig wythnosau’n ôl, roedd y Cyngor yn gofyn beth fyddai ein hoff wasanaethu i’w torri er mwyn cwrdd â phrinder yn y gyllideb. Nid rhywbeth y byddai rhywun yn tybio bod angen llawer o gymorth arnynt (yn enwedig o ystyried profiad Goodway o rwygo pethau’n ddarnau).

Mae’r saga druenus hon yn ddameg o’r hanes ehangach, lle mae’r Cyngor yn fflachio’r arian i fuddsoddwyr ac yn seboni datblygwyr, tra’n manteisio’n ddidrugaredd ar breswylwyr a’u cyfleusterau. Y sgêm ddiweddaraf yw gorfodi trigolion i brynu’r coed sy’n gwahanu trigolion ger Flaxland Woods o’r ffordd ddeuol gyfagos.

Beth ddaw nesaf i Gaerdydd – Thneed-Ville Dr Seuss, lle mae hyd yn oed yr aer yn nwydd?

O ran Parc Britannia, digon posib bod rhyw fargen eisoes ar y cardiau, a’u bod yn trefnu’r gwerthiant wrth inni ysgrifennu. Os felly, awgrymwn yn garedig fod Huw yn rhoi ei beiro i gadw cyn i’r inc sychu, ac estyn am yr hen dipecs yn lle – neu bydd hwn yn gymal arall ar ei daith wleidyddol y bydd yn siwr o ddifaru.

Am fynegi eich rhwystredigaethau, a phwyntio Huw a Russell i’r cyfeiriad iawn? Anfonwch y llythyr hwn yn uniongyrchol iddyn nhw a’r aelod dros berci; dim ond munud o’ch amser bydd ei angen!

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.