I’r sawl a fagwyd yn Aberystwyth a’r cyffiniau, mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn adeilad ac yn sefydliad sydd yn annatod rhan o’r tirlun a’r cof. Yn blentyn ysgol dyma le fyddai rhywun yn ymweld mewn mudandod a pharchedig ofn er mwyn cymryd cipolwg ar Feibl William Morgan, ymgorfforiad gwyrth parhad yr iaith oedd yn llifo o’ch genau. Yn eich arddegau, dyma adeilad urddasol oedd yn gefnlen i’ch bywyd beunyddiol, yn sefyll dros y dre ac yn fangre i fyfyrwyr – yn rhan o fywyd nad oedd eto o fewn eich cyrraedd ond oedd yn awgrymog o’i bosibiliadau.  Yn oedolyn dyma gofgolofn o ddiwylliant, llawn trysorau, yn destun balchder fel trigolyn a Chymro neu Gymraes.

Un haf, yn fy ugeiniau cynnar bum yn ddigon ffodus i weithio am gyfnod byr fel cynorthwywr personol i’r Llyfrgellydd. Braint a phleser oedd cael cipolwg o’r sefydliad o’r tu fewn, darganfod rhai o’i ddirgelion, a magu gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o’r arbennigedd, diwylliant a’r gwareiddiad sy’n byw yn y cartref neilltuol hwn. Dealltwriaeth, rwy’n amau, sydd y tu hwnt i ran helaeth o’r gwleidyddion a’r gweinyddwyr sydd a’i ddyfodol yn eu dwylo. Wrth edrych yn ôl, un cwmwl a oedd yn prysur ffurfio uwch ben y Llyfrgellydd beiddgar ar y pryd oedd y pryder na fyddai’r adnoddau gofynnol yn cael eu buddsoddi (a hynny ymhell cyn bygythiad llymder).

Os oedd yr ysgrifen yn dechrau ymddangos ar furiau’r llyfrgell pryd hynny, erbyn diwedd cyfnod y Llyfrgellydd hwnnw a dyrchafiad Carwyn Jones fel Prif Weinidog roedd yn draed brain go iawn; a heddiw fe welwn benllanw’r dadfuddsoddiad bwriadol yn ein treftadaeth. Fandaliaeth ddiwylliannol sydd yn ein dychwelyd i ddyddiau Thatcher.

Mae meddwl am yr hen Fagi yn naturiol troi fy olygon at ran arall o’r byd rwy’n lled gyfarwydd a hi, sef bro mebyd fy mam, Blaenau Gwent. Un o’r cymoedd hynny a chwalwyd yn ddidrugaredd ac yn gwbl fwriadol gan ei chyfalafiaeth ddidostur, chwyldroadol. Parhau y mae’r ymdrechion yno i ailadeiladu isadeiledd yr economi, ond mae’r moddion yn ddadlennol, mewn mwy nag un modd.

Daeth yr achubiaeth honedig ar ffurf gyfres o freuddwydion gwrach, a’r un diweddaraf ar yn ffatri i’r gwneuthurwyr ceir moethus TVR a soniwyd amdani gyntaf nôl yn 2016. Dyma ddilyn patrwm hirsefydlog Llafur Cymru wrth geisio aildanio’r economi Cymreig: denu buddsoddiad o’r tu allan ar sail llafur cymharol rhad ac ambell i gildwrn sylweddol. A dyma batrwm sydd yn un agwedd sylweddol ar waddol neoryddfrydol Thatcher, lle mae yna bwyslais wedi bod ar dargedu cwmnïau a swyddi sydd o’u hanfod am adael (os ydynt yn cyrraedd o gwbl) ar y cyfle cyntaf, pan ddaw cynnig arall.

Ond beth a wnelo hyn gyda’r Llyfrgell Gen? Wel, mae ein straeon wedi’u gweu gyda’i gilydd, ein ffawd ynghlwm yn nwylo plant Thatcher sy’n preswylio yn y Senedd, a thra bod y Llyfrgell yn wynebu dyfodol llwm oblegid diffyg o filiwn a hanner y flwyddyn, y mae Llywodraeth Cymru yn afradu £13.25 miliwn ar y prosiect TVR, dim ond er mwyn sefydlu ffatri iddynt – tra bod TVR yn parhau’n £25 miliwn yn brin o’r arian sydd angen er mwyn hyd yn oed dechrau cynhyrchu.

Mae’r ffaith bod yr hyn sy’n cyfateb i 8 mlynedd o gyllid priodol, ychwanegol ar gyfer y llyfrgell wedi’i roi i ‘fuddsoddiad’ o’r math y mae ei fethiannau’n cael eu profi droeon, yn adrodd cyfrolau. Yn wir, mae’r straeon hyn yn gyforiog o symbolaeth ac yn ddameg o’n cyflwr anfad yng Nghymru.

Gofynnir i gymunedau hirymharous  ddisgwyl achubiaeth drwy gildwrn ar ôl cildwrn aneffeithiol yn cael ei daflu at gwmnïau amlwladol, tra bod yr un llywodraeth yn pledio llymder i’n sefydliadau cenedlaethol hirsefydlog. Yn yr achos yma, ffydd mewn brand Prydeinig a’i sglein wedi hen ddiflannu, diffyg ffydd yn ein pobl a diffyg ymroddiad at ein economiau sylfaenol, law yn llaw gyda dihidrwydd tuag at gartref ein cof cenedligol – gan blaid sy’n honni ei bod yn sefyll gornel Cymru.

A glywyd erioed jôc mor sâl? Annhebyg. Heblaw, efallai, am y ffaith bod y cyfan yn cael ei weinyddu gan cyn-Gardi o Farcsydd a Chenedlaetholwr, sy’n deall cystal a neb gwerth aruthrol yr hyn bydd am gael ei golli.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.