Undeb Llafur Prospect y Llyfrgell Genedlaethol

Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, yn nyddiau Margaret Thatcher, cynhaliodd y Swyddfa Gymreig adolygiad o’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan ddod i’r casgliad bod angen cyllid ychwanegol ar y Llyfrgell. Cafwyd sylw parod gan was sifil o Whitehall ar y pryd, i aelod o’r tim rheoli: ‘Rydych chi’n hoff fan hyn o’ch Llyfrgell Genedlaethol am y nesaf peth i ddim!’ Pen draw’r adroddiad oedd 30 aelod staff newydd yn dechrau ar yr un diwrnod ym 1992.

Roedd sefydlu Cynulliad Cymru yn 1999 yn cynnig gobaith inni y byddai’r sector Treftadaeth Gymreig yn ganolog i fywyd yr oes gadarnhaol, newydd hon. 20 mlynedd yn ddiweddarach dyma Llywodraeth Cymru yn comisiynu Adolygiad Annibynnol, sydd unwaith eto’n nodi materion penodol eraill, gan ddod i’r casgliad bod y Llyfrgell Genedlaethol wedi’i lwgu o arian mewn modd systematig.

Yn wahanol i 1989, pan weithredwyd ar argymhellion yr adroddiad gan y Swyddfa Gymreig, y tro hwn distawrwydd llethol a ddaeth o Lywodraeth Cymru. Felly, mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cael ei gorfodi i dorri’r gweithlu eto – 30 swydd arall, i lawr i 200 o aelodau staff – sydd, ynghyd â cholli swyddi blaenorol, yn mynd â’r Llyfrgell yn ôl i gyfnod Thatcher. Nid mater o golli swyddi mewn cyfnod economaidd anodd yn unig mo hwn, ond canlyniad i ddiffyg buddsoddiad hirdymor – dyma ymosodiad ar sector Treftadaeth Cymru.

Yn wahanol i’r rhan fwyaf o Lyfrgelloedd Cenedlaethol, nid Llyfrgell yn unig mo’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru: mae’n Archif Genedlaethol, mae’n gartref i gasgliad o Gelf Genedlaethol, mae’n Archif Sain-Weledol a Darlledu Genedlaethol, ac Archif Ddigidol Gynradd i Gymru. Mae’n arch-ganolfan ddiwylliannol wych sydd wedi dod yn gartref i Gomisiwn Brenhinol a Henebion Cymru sydd wedi’u hadleoli yn ddiweddar. Mae’r safle hyd yn oed wedi’i gysylltu trwy goridor amgaeedig i swyddfeydd Geiriadur Cymru a’r Ganolfan Astudiaethau Celtaidd Uwch – mae’n drysor diwylliannol go iawn.

Bydd y toriadau staffio yn arwain at lai o gapasiti i ymgymryd â nifer o’n gweithgareddau. Bydd yn effeithio ar ein gallu i gasglu deunyddiau i’r oesoedd i ddod – o bosibl yn gorfodi casglu 20-40% yn llai – a’n gallu i ddarparu mynediad cyhoeddus i gasgliadau. Ni fuasai Dr John Davies wedi gallu ysgrifennu ‘Hanes Cymru’ heb fynediad at ffynonellau cynradd, y mae rhai ohonynt yng nghasgliadau y Llyfrgell Genedlaethol. A bydd haneswyr y dyfodol dan anfantais wrth ysgrifennu hanes Cymru neu ail-ddehongli’r gorffennol, os nad yw tystiolaeth ddogfennol wedi’i chadw, neu os yw mynediad at yr adnoddau sylfaenol hyn yn anodd neu efallai’n amhosibl, oherwydd colli gwasanaethau cyhoeddus a staff gwybodus.

Y realiti yw y bydd staff sydd â hyd at 30 mlynedd o brofiad o’r casgliadau yn cael eu colli am byth oherwydd y toriadau hyn… ac ymhen ychydig flynyddoedd os yw’r sefyllfa economaidd wedi gwella, bydd yn anodd ailadeiladu’r wybodaeth hon drwy ddod â staff newydd i mewn, wedi inni golli’r cyfle i staff profiadol drosglwyddo eu gwybodaeth yn gyntaf. Y perygl yw y bydd gan Gymru sefydliad diwylliannol llawer llai sylweddol yn y pen draw.

Beth yw’r ateb? Yn syml, mae angen adnoddau ychwanegol arnom i sefydlogi’r cyllid a rhoi sicrwydd hirdymor i’r Llyfrgell, fel bo modd gwasanaethu pobl Cymru a thu hwnt. Mae gofyn cydnabod gwerth y Llyfrgell fel sefydliad diwylliannol. A rhaid wrth ofyn yn ogystal, pam bod Llywodraeth yr Alban yn gallu cynnig sefydlogrwydd ariannol a dyfodol hirdymor i’w sector treftadaeth, yn wahanol i Lywodraeth Cymru? Mae’r ddau yn dibynnu ar y grant bloc o San Steffan – ai dim ond bod gan Lywodraeth yr Alban fwy o arfau cyllidol yw’r rheswm, neu yn hytrach, a yw Llywodraeth yr Alban yn gosod mwy o werth ar ei sector Treftadaeth na Llywodraeth Cymru?

Ymuno â'r Sgwrs

4 Sylw

  1. This is an absolute disgrace, the library is at the centre of welsh culture and history.

  2. It is truly shocking that the Welsh Labour Government is considering cutting the funding to the National Library of Wales, resulting in substantial redundancies. Do they not understand its centrality to Wales as a cultural archival and research institution?

  3. The National Library of Wales must be nourished – just as we nourish Welsh sport with funding. Excellent article.

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.