Angharad Dafis

Mae cymunedau gwledig Cymru o dan warchae.  Mae tai haf ar y naill law a diddymu canolfannau cymdeithasol o bob math ar y llall yn cael effaith andwyol ar hyfywedd yr iaith Gymraeg heb sôn am ansawdd a safon bywyd trigolion y cymunedau hynny.  Ond nid yw’r naratif cenedlaetholgar prif ffrwd swyddogol fel pe bai am gydnabod niwed y ddwy elfen hon.  Ac er y gŵyr pobl y de-orllewin fod tai haf wedi bod yn nychu ein pentrefi arfordirol yn neilltuol ers degawdau lawer, dim ond yn awr a hithau bron yn rhy hwyr y mae’r rhai sy’n dal awenau grym fel pe baent yn dechrau cydnabod hynny.

Rwyf newydd ddathlu fy mhen-blwydd yn drigain.  Gallaf ddweud gyda’m llaw ar fy nghalon fod y mewnlifiad o bobl nad oedd ganddynt unrhyw fwriad nac awydd dysgu’r Gymraeg a’r modd yr oedd hynny mewn perygl o nychu Cymreictod pentrefi a threfi gorllewin Cymru, yn rhywbeth yr oeddwn yn ymwybodol ohono yn blentyn ifanc.  Gan mwyaf, roedd y Gymraeg yn dioddef oddi wrth ddifaterwch tuag ati/anwybodaeth ohoni neu yn rhy fynych o lawer, elyniaeth ronc.  Nid dim ond y pentrefi arfordirol wrth reswm, ac nid dim ond yng nghyd-destun tai haf.  Roeddwn hefyd yn ymwybodol ein bod fel pobl yn gwbwl ddiymadferth wrth geisio wynebu effeithiau’r mewnlifiad a dygymod yn feunyddiol â hwy.

Gydol yr hanner canrif diwethaf rwyf wedi bod yn disgwyl ateb gwleidyddol i’r pos.  Gydol yr amser yn ogystal rwyf wedi teimlo mai mater o ‘tawed y calla sôn’ yw hi wedi bod.  Roedd, ac y mae disgwyl i ni ddiodde’n dawel a dirwgnach rhag tanseilio ymdrechion Plaid Cymru i ennill yr etholiad nesa, neu’n waeth rhag cael ein cyhuddo o hiliaeth. A rhai da ydym ni’r Cymry am gilio i’n cragen pan gawn ein bwlio.  Boed hynny oblegid y Welsh Not neu’r Welsh Mirror mae’r effeithiau yn medru bod yn rhai hynod hirhoedlog.  Mae’r mudiad cenedlaetholgar yn dal i ddiodde o glwyfau’r difenwi gwag abswrd hwnnw pan grochlefwyd ‘hiliaeth’ gan bobl wynion freintiedig gyfoethocach oedd yn barod iawn i defnyddio’u braint a’u cyfoeth i gyflawni gormes ieithyddol, diwylliannol ac economaidd.  Llwyddasant er hynny drwy yngan yr un gair hwnnw i ladd unrhyw drafodaeth ystyrlon am yr anghyfartaledd economaidd oedd wedi arwain at yr argyfwng y tro diwetha i rywrai mwy eofn na’i gilydd fentro ei grybwyll.

Eilbeth yn hyn oll yw lles meddyliol siaradwyr Cymraeg.  Dyna yw’r realiti y disgwylir i ni ddygymod ag ef, pa mor annaturiol bynnag yr ymddengys.  Felly y buasai digwyddiadau cymdeithasol yn neuadd yr eglwys Llanybydder dyweder yn aml yn cael eu britho â’r ymadrodd ‘And now for the benefit of our English friends.’  Efallai y dylasem fod wedi bod yn ddiolchgar gan fod aml i noson mewn neuaddau pentre erbyn hyn yn cynnwys dim ond deunydd ‘for the benefit of our English friends.’ Ac felly mae siaradwyr Cymraeg wedi eu cyflyru i feddwl mai eu problem nhw yw eu  Cymreictod – nid problem y sawl sy’n dod i fyw yn eu plith.  Yn yr un modd, problem brodorion llefydd megis Trefdraeth yw eu bod ers blynyddoedd bellach yn ddieithriaid yn eu bro eu hunain ac wedi teimlo rheidrwydd yn sgil hynny i symud oddi yno. Gall rhywun ond dychmygu sut y mae’r un person sy’n weddill gydol y flwyddyn yng Nghwm yr Eglwys yn teimlo.

Rwyf wedi hen flino bellach ar ddisgwyl ateb i’r pos. Taten boeth yw’r mewnlifiad o hyd.  Does neb sydd â mymryn o rym wedi llwyddo mynd i’r afael â’r peth.  Aeth degawdau gwerthfawr heibio ers dyfodiad Cynulliad ac yna Senedd ym mae Caerdydd pan allasai’r pleidiau gwleidyddol o bob plaid, ond yn enwedig wrth reswm Blaid Cymru, fod wedi torchi llewys a cheisio lliniaru argyfwng sydd wedi ei ddwysáu gan ddyfodiad Covid-19 a dymuniad naturiol pobol i ffoi o’r dinasoedd a’r mannau poblog i lefydd lle ceir mwy o awyr iach a daear i’w chrwydro ar ddwy droed.

Hyd yn oed wedi i ddegau onid cannoedd yn wir o dai Ceredigion er enghraifft gael eu traflyncu gan bobl o bant ag arian parod yn llosgi yn eu pocedi yn ystod haf 2020, prin yw’r disgwrs cyhoeddus am y mewnlifiad.  Dim ond i’r graddau fod modd neilltuo hynny i bwnc tai haf a gallu pobl leol i gyfranogi o’r stoc dai y mentrir ei grybwyll.  Yn ddiweddar, bu llawer o sŵn a swae yn hwyr iawn yn y dydd am effaith andwyol tai haf ar gymunedau gwledig.  Er bod creu fframwaith i atal rhywfaint ar erydu pellach i’w groesawu wrth reswm, mae aml i bentre mor llawn o dai haf nes bod sôn am gwota mor hwyr yn y dydd yn hollol ddiystyr.  Mae lle i amau i ba raddau y bydd dyblu Treth Gyngor hefyd yn cael effaith bellgyrhaeddol ar y sefyllfa pan fo perchnogion tai haf yn medru codi miloedd o arian poced pwysfawr yr wythnos am logi eu heiddo hudol.

Ac os mai arian cyhoeddus yw’r broblem honedig o ran cynnal ysgolion gwledig, pam na ellid codi treth ysgolion bychain ar berchnogion tai haf?  Mae’n siwr y buasai hynny yn llawer rhy chwyldroadol i’n gwlad gysglyd.  Mae rhywun wedyn yn rhwym o ofyn y cwestiwn: buddiannau pwy yn union y mae gwleidyddion ein Senedd yn eu gwasanaethu drwy ganiatáu i’r fath siarabang ein ffriwhilo’n ddilyffethair i’n hebargofiant?

Wrth gwrs roedd raid i’r argyfwng daro Gwynedd yn wael cyn bod gwleidyddion, fawr a mân, yn dechrau ymystwyrian.  Bron na ellid dweud bod elfen boblyddol hyd yn oed yn perthyn i’r don sydd wedi dygyfor yn sgil Covid yn erbyn tai haf. A phoblyddiaeth yw’r hyn sy’n gyrru gwleidyddion o bob plaid y dwthwn ôl-Frecsitaidd hwn.

Nid ymddengys fod y don boblyddol hon wedi ymestyn i gefnogi ysgolion gwledig chwaith. Buasai rhywun yn tybio y buasai hollbresenoldeb y pla byd-eang wedi ysgogi pobol i ailfeddwl ac i ailystyried polisïau dinistriol megis mynd ati bron yn systematig i gau ysgolion Cymraeg gwledig;  ac y buasai hi’n rhesymol i weledigaeth glir y rhai oedd yn dymuno dianc o lefydd poblog yn Lloegr gael ei hadleisio yn nymuniad Cymry cenedlaetholgar i warchod ysgolion gwledig lle buasai modd i blant ymbellháu yn gymdeithasol a mwynhau digonedd o awyr iach ar yr un pryd.

Onid yw rhesymeg yn dweud na ellir gwrthwynebu tai haf heb hefyd wrthwynebu cau ysgolion bychain?  Os ydych o blaid cymunedau Cymraeg, does bosib eich bod hefyd o blaid ysgolion pentrefol Cymraeg eu hiaith?  Yn wir onid yw cau ysgol yn ffordd sicr o newid natur unrhyw bentre i fod yn bentref cymudwyr – pobl sy’n teithio oddi yno ben bore i gael eu hysgolia/i weithio dim ond i ddychwelyd erbyn nos.  Lle a ddefnyddir i gysgu ynddo yn unig.  Mangre lle nad yw cymdogion yn adnabod ei gilydd.  Na phlant yn cyd-chwarae.  Cam ceiliog o’r gwactod a greir gan hynny yw troi’r pentref yn bentre o dai haf.  Nid yw cau ysgol bentre yn ffordd sicr o ddenu pobl ifanc i fyw yno chwaith. Ac mewn pobl ifanc y mae parhad.

Rhyfedd felly yw gweld Plaid Cymru wedi degawdau o hepian wrth y tân yn dewis deffro a dechrau taranu yn groch o’r diwedd yn erbyn y farchnad dai haf.  Anodd ar y naw yw dirnad afresymeg ymwrthod â’r farchnad dai haf ar y naill law (marchnad yr ymddengys i’r blaid ei hanwybyddu’n gyfleus am ddegawdau lawer), ac ymwrthod yn ogystal ag ysgolion bychain gwledig ar y llall.  Yn hytrach na gweld y pla fel cyfle i wneud tro pedol drwyddi draw, a dathlu gwerth unedau bychain drwy ddatgan cefnogaeth ddiamwys i ysgolion Cymraeg o bob maint, yr hyn wnaeth Plaid Cymru yng Ngwynedd oedd fe ymddengys ceisio cynghreirio gyda’r gweinidog addysg yn y llywodraeth Lafur er mwyn prysuro cau ysgol Abersoch.

Yn wir onid yw ein plaid genedlaethol wedi bod yn ymddwyn yn hynod ddeublyg dros fisoedd celyd y gaeaf wrth gyhoeddi’n llafar ar y naill law na ellir diodde rhagor mewn perthynas â thai haf, gan osod y bai yn sgwâr wrth draed y Blaid Lafur, tra ar yr un pryd yn llawiau gyda’r union blaid honno wrth brysuro i geisio cau ysgolion bychain ar adeg pan fo’r ysgolion hynny ar gau yn sgil Covid-19?

Dyna Gyngor Sir Plaid Cymru Caerfyrddin hithau er cyhoeddi cyfres o fesurau clodwiw munud ola i fynd i’r afael â phroblem tai haf, yn mynd ati gyda’r un sêl â Chyngor Gwynedd i gyhoeddi ymgynghoriad ar gau ysgol gyfrwng Cymraeg Mynydd y Garreg, hithau hefyd ar gau yn y cyfnod clo, y pentre o le yr hanai ac y trigai Ray Gravell, a ymgyrchodd o blaid cadw ysgol y pentref ar agor.

Nid gormodiaith yw dweud bod yr ymosodiadau didrugaredd ar y cymunedau Cymraeg o bob tu yn gyflafan.  Mae derbyn ergydion gan rai y buasai rhywun yn meddwl eu bod yn garedigion yr iaith yn anodd iawn ei amgyffred.  Pan fo rhywun yn teimlo o dan fygythiad, yr ymateb greddfol yw rhoi pen i lawr a gobeithio mai ar ryw druan arall y bydd y fwyell yn syrthio. Dyna a ddigwyddodd pan gaewyd Ysgol Gynradd Garnswllt, yr ochr draw i’r mynydd o ysgol Felindre.  Yr oeddem ninnau rieni ac athrawon Ysgol Felindre yn hynod ymwybodol ar y pryd fod Garnswllt yn gweithredu fel rhyw fath ar aberthged ddigon afiach i’n cadw ni rhag dioddef yr un dynged.  Roedd ofn gwrioneddol yn ein calonnau pe baem yn bod yn rhy llafar ac yn tynnu gormod o sylw atom ein hunain – mai ni fuasai nesaf.  Mae’r peth yn dal i ddwysbigo fy nghydwybod.  Wrth gwrs, fe wireddwyd ein hofnau gwaethaf ymhen hir a hwyr ac er na ddaeth y fwyell yn ystod cyfnod ein plant ni yn yr ysgol, mater o amser ydoedd cyn bod yr hunlle yn dod yn fyw a Felindre yn cau.

Dyna hefyd wnaeth gymell RHAG i ganiatáu i’r ddwy ysgol gau – aberthu ysgol fach fan hyn er mwyn annog y Cyngor Sir i greu mwy o lefydd mewn ysgol mwy o faint fan ’co.  Dylai beth sydd yn ei hanfod yn grebachu ar ein diwylliant fod yn rhybudd i bawb sy’n gwirioneddol ymboeni am ddyfodol y Gymraeg ac yn rhybudd hefyd i Blaid Cymru.  Wedi’r cyfan mae rhywun yn gallu deall yn iawn fod ymlyniad at iaith yn gallu bod yn dipyn o boendod i drefn ddigyfnewid- rwy’n-iawn-fel-wdw-i-diolch-yn-fowr y blaid Lafur yng Nghymru.  Ond yn achos Plaid Cymru?  Onid ydynt drwy gau ysgolion gwledig yn mynd ati yn sicr ac yn ddidroi’n ôl i omedd eu dyfodol eu hunain?

Tybed nad rhyw ymdeimlad dan warchae Owain Glyndwraidd felly sydd ar waith wrth i rai o genedlaetholwyr Gwynedd ddewis ymddieithrio oddi wrth ac aralleiddio cymuned Abersoch, cymuned sydd yn dal i ymladd am ei hanadl, yn dal i geisio’i gorau glas i wirfoddol ddal gafael ar linynnau ei Chymreictod?  Ai ofn wynebu’r caswir fu’n gyfrifol, yn yr ystyr fod Cyngor Gwynedd wedi goddefol adael i’r hyn a ddelweddir ar y cyfryngau cymdeithasol fel ‘Abersock’ gael ei wireddu?  Ynte ai’r ymdeimlad ‘ni fydd nesaf’ a’u cymhellodd i gynghreirio gyda’r Blaid Lafur ym mherson y Gweinidog Addysg i brysuro i geisio cau’r ysgol?  Anodd ar y naw i mi wneud synnwyr o’r awydd digon ysgeler i geisio defnyddio’r cod trefniadaeth ysgolion – cod yr oeddwn innau yn fy niniweidrwydd ffôl wedi tybio iddo gael ei lunio er mwyn gwarchod buddiannau ysgolion bychain – er mwyn cyflawni rhywbeth oedd yn gwbl groes i ysbryd tybiedig y cod yn y lle cyntaf.

Mae rhywbeth mawr o’i le arnom fel Cymry nad ydym yn cydsefyll i wrthwynebu’r ymosodiadau hyn yn gadarn.  Ac mae rhywbeth mwy o’i le ar Blaid Cymru gan fod ganddi hithau rym mewn llefydd fel Gwynedd a Chaerfyrddin i ddewis y ffordd arall.

A ninnau heb unrhyw ddewis etholiadol arall o sylwedd, cyndyn yw caredigion yr iaith – minnau yn eu plith – i gollfarnu Plaid Cymru am mai hi sydd i fod cyflawni’r rôl o warchod buddiannau’r Gymraeg.  Ond mae ei record wan mewn perthynas â’r Gymraeg yn aml yn dangos na allwn ddibynnu arni i gyflawni odid ddim yn y cyswllt hwnnw.

Rwyf wedi nodi o’r blaen sut y mae pob ysgol yn gorfod ymladd ei chornel ei hun ac felly yn sylfaenol ddi-rym.  Felly y mae’r egwyddor ‘divide and rule’ yn gweithio ac yn sicr yn parhau i weithio yng nghyd-destun ysgolion gwledig.  Mae’r awdurdodau wrth gwrs yn llwyr ymwybodol o hynny ac felly y pair y pladurio pendifaddau.  Ac wrth i ni rieni, athrawon a chefnogwyr ysgolion bychain gael ein cyflyru i ymgyfranogi o’r siam o broses ymgynghorol sy’n bwdwr rhacs o’i chorun i’w sawdl, onid y cyfan a wnawn yw cynnal y drefn sydd ohoni a rhoi rhwydd hynt i’r pladurio?  Wath prin ar y naw yw’r ymgynghoriadau hyd y gwelaf i sydd wedi esgor ar gadw drysau yr un ysgol ar agor yn barhaol, pa mor gadarn bynnag y dystiolaeth o’i phlaid na pha mor unfryd y gefnogaeth iddi ar lawr gwlad.

Ac nid yw hyn yn neilltuol i gymunedau gwledig chwaith fel y gwelwyd yn ystod y dyddiau diwethaf gyda’r penderfyniad gwaradwyddus i gau y Paddle Steamer yn ardal Bute Caerdydd a chodi bloc arall eto fyth o fflatiau yn lle’r ganolfan gymdeithasol yno, yn gwbl groes i ddymuniad aelodau’r gymuned.

Nid yw Plaid Cymru, na’r llywodraeth Lafur, na’r Cod Trefniadaeth Ysgolion, nac ymgynghoriadau gan awdurdodau addysg ar ddyfodol ysgolion bychain yn unigryw wrth gwrs yn eu hamwysedd lle bo’r iaith yn y cwestiwn.  Atgyfnerthir yr amwysedd gan ddeddfwriaeth sydd i fod cynnal y Gymraeg.  Daeth y newyddiadurwr Richard Youle, (yn wahanol i amryfal ddeiliaid y bladur), cyn ysgrifennu ei adroddiad i’r Evening Post, i ymweld â’r ysgol ac â’r pentre er mwyn ein cyfarfod ni ymgyrchwyr yn dilyn y penderfyniad twp i gau ysgol Felindre.  Yn ystod yr ymgyrch i gadw drysau’r ysgol ar agor rwy’n cofio iddo fy ffonio ac iddo ofyn y cwestiwn canlynol ‘Is the system broken?’ mewn perthynas â grym Comisiynydd y Gymraeg.  Efallai fod angen Sais i ddweud y caswir wrthym.

Nid yw’r broses ymgynghorol honedig bresennol yn addas i bwrpas ac er ein bod yn cael ein gorfodi i gyfranogi ohoni, y cyfan a wnawn wrth wneud hynny yw parhau â’r drefn ddiffygiol sy’n bodoli.  Rwyf wedi nodi o’r blaen yr angen am unigolyn/sefydliad â’r swyddogaeth unswydd o warantu cyfiawnder i ysgolion bychain.  Hyd nes y bo’r gyfundrefn honno yn ei lle rwy’n grediniol y dylid rhoi moratoriwm ar gau ysgolion Cymraeg.

Yn y cyfamser mae angen i bawb sy’n poeni am ddyfodol y Gymraeg, gan gynnwys y rhai mwyaf cydwybodol o’n gwleidyddion, alw am gryfhau’r ddeddfwriaeth addysg er mwyn sicrhau bod awdurdodau addysg o dan orfodaeth i ystyried ac ymgynghori’n drwyadl ar yr effaith ar y Gymraeg o fewn y gymuned ac ar ansawdd bywyd aelodau’r gymuned honno yn ogystal â’r effeithiau economaidd cyn cael yr hawl i gyhoeddi na chynnal ymygynghoriad ar ddyfodol ysgol.  Hyd yma mae’r alwad honno wedi syrthio ar glustiau byddar ysywaeth.

Os oes gennym fymryn o hunan-barch, siawns nad ydym yn haeddu gwell na’r galanastra presennol.  Ond os na fynegwn ein hanfodlonrwydd, bydd y galanastra yn sicr o barhau.  A dim ond Abersocks fydd yn weddill i ni.  Ni fyddwn yn gallu beio neb ond ni ein hunain am hynny.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.