Erthygl a ymddangosodd gyntaf yn y Gymraeg ar wefan Cymdeithas y Cymod yn Ionawr 2021 i nodi fod y Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear wedi dod i rym, a bod diwrnod o ymgyrchu yn erbyn y Rhyfel yn Yemen.

Dydd y Lluoedd Arfog 2018, Llandudno
Dydd y Lluoedd Arfog 2018, Llandudno

Militariaeth. Un o’r pynciau pwysicaf, ond un na chaiff ei drafod rhyw lawer yn gyhoeddus yng Nghymru.  Pam tybed?  Mae’n rheidrwydd gwneud hynny os ydym am geisio gwell dyfodol i’n gwlad, ac yn wir i wledydd eraill.

Yn Ionawr 2021 daeth Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear i rym ar 22ain o’r mis, a chafwyd dydd rhyngwladol o alw am derfyn ar y rhyfel yn Yemen ar y 25ain.  Amser da felly i ystyried Cymru a militariaeth.

Pam mae o ar gynnydd?  Beth sy’n bosib ei wneud i’w wrthsefyll?  Beth sy’n addas i wlad fechan ar gyrion Ewrop mewn byd ansicr?  Dylem hefyd feddwl am y traddodiad anrhydeddus o Heddychiaeth yng Nghymru, a sut y gall fod o ddylanwad heddiw ac yfory.

…………………………………………………………..

Mae trais yn rhan anorfod o gynhysgaeth y ddynoliaeth.  Ein trasiedi yw’r anallu i reoli trais o’n gwirfodd fel cymdeithas.  Trasiedi llawer mwy yw defnyddio grym y wladwriaeth ar gyfer trais cyfundrefnol.  Defnyddir trais, neu’r bygythiad o drais, gan y wladwriaeth er mwyn rheoli ei dinasyddion ei hun.  Gormesir gwledydd eraill a rhyfelir yn eu herbyn.  Manteisir ar yr awch diderfyn am arfau gan y diwydiant arfau cyfalafol – arfau sy’n fwy a mwy dinistriol bob blwyddyn.

Trais eithafol yw sylfaen grym gwladwriaeth y Deyrnas Gyfunol.

Erys y gwirionedd hwn ar waetha’r ffaith nad ydi’r rhan fwyaf ohonom yn gweld ei effeithiau yn uniongyrchol.

Mae Lluoedd Arfog y Deyrnas Gyfunol wedi bod yn ymladd yn rhywle yn y byd bob blwyddyn ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yn 1945.

Allforir mwy o arfau gan y Deyrnas Gyfunol nag unrhyw wlad yn y byd heblaw yr Unol Daleithiau.

Daeth Cytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear dan oruchwyliaeth y Cenhedloedd Unedig i rym ar 22ain Ionawr 2021. Ni chymerodd y Deyrnas Gyfunol ran yn y trafodaethau yn arwain at y Cytundeb, ac mae wedi dweud na fydd byth yn ei arwyddo.  Mae’r Deyrnas Gyfunol yn meddu ar arfau niwclear, ac yn bwriadu adnewyddu Trident ar waetha’r gost enfawr o £205biliwn.

Proses wleidyddol yw cyflyru poblogaeth i dderbyn a chefnogi fersiwn wyrdroedig a detholedig o filitariaeth.

Gwneir popeth posib gan Lywodraeth Llundain i hybu militariaeth – a dydi Cymru ddim yn eithriad o’r broses.  Hwyluso’r drefn yn ei ffurf gyfoes mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, gwaetha’r modd.

Dyma a geir yn adroddiad Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan: “We are pleased that the MOD spend on the defence industry in Wales was higher than in many other areas in the UK. We were impressed by the contribution of the industry to the Welsh economy and society and by the strong support provided by the Welsh Government to develop the industry.”  A dyma beth ddywedodd Alun Davies ym mis Rhagfyr 2018, pan oedd yng Nghabinet Llywodraeth Cymru: Mae Hunaniaith (sic)  Gymraeg yn y Lluoedd Arfog yn rhan hanfodol o’n hunaniaeth cenedlaethol.”  Ac ymhellach: “Rydw i am weld presenoldeb milwrol yng Nghymru nid yn unig yn cael ei gadw ar lefelau presennol ond yn cael ei gynnal ac yn cynyddu.”  Cofiwn hefyd fod Carwyn Jones wedi bod yn fodlon croesawu llongau tanddwr Trident i Gymru nôl yn 2012.

Penllanw llwyddiant treisiol Lloegr oedd yr Ymerodraeth Brydeinig.

Yma yng Nghymru y sefydlwyd y model gan Edward 1af gyda’i ryfeloedd didostur a’i gyfres o gestyll i orfodi rheolaeth drwy ofn.  Y wers i’r Cymry, oedd eu hunain mor ryfelgar a pharod i greulondeb ymysg ei gilydd, oedd: “Trechaf treisied, gwannaf gwaedded”.  O ganlyniad bu rhai o’r Cymry yn fodlon iawn i weithio ac ymladd dros y Goron, yma a thramor.  Enghraifft gyfoes o’r meddylfryd taeog hwn oedd cynllun i adeiladu cofeb anferth ‘Y Fodrwy Haearn’ i gestyll Edward yn Fflint yn 2017.   Dim ond gwrthdystio gan y cyhoedd ataliodd y cynllun hwn gan CADW a gyflwynwyd i’r cyhoedd gan Ken Skates, gweinidog yn Llywodraeth Lafur Cymru.

Bu’r Ymerodraeth Brydeinig yn drychinebus i gymaint o wledydd.  Drylliwyd diwylliannau, tanseiliwyd economïau, sefydlwyd hiliaeth fel cyfundrefn, lluniwyd gwledydd drwy dynnu llinellau ar fap – a chollodd miliynau eu bywydau, fel yn India.  Rhaid i Gymru gydnabod ei rhan yn cefnogi, gwasanaethu ac ymelwa ar yr Ymerodraeth.  Ac er mwyn amddiffyn yr Ymerodraeth yr aeth Prydain i ryfel ddwywaith yn yr ugeinfed ganrif, gyda’r holl ddioddef a ddaeth yn sgil hynny.

Gwaddol yr Ymerodraeth sydd i raddau helaeth yn llywio meddylfryd y Wladwriaeth Brydeinig, waeth pa blaid sydd yn rheoli yn San Steffan.  Mae’r Chwith Prydeinig a’i gynrychiolwyr yng Nghymru yn euog o gredu fod canoli grym yn Llundain yn dal i fod y ffordd orau o drefnu cymdeithas ym Mhrydain a Gogledd Iwerddon, fel yr oedd yn y dyddiau pan reolai Prydain y moroedd.  Mewn gwirionedd nid yw hyn o les i drigolion Loegr chwaith – mae meddwl fod gan y wladwriaeth Brydeinig yr hawl moesol i dra-arglwyddiaethu mor bell o’r gwirionedd cyfoes nes ei fod yn chwerthinllyd.

Felly afredir arian, adnoddau a phobl ar filitariaeth yn lle ei ddarparu ar gyfer adeiladu cymdeithas waraidd.  Yn ddiweddar cyhoeddodd Johnson fod £16.5biliwn yn ychwanegol i’w wario ar ‘amddiffyn’.  Ychydig yn ddiweddarach cyhoeddwyd fod torri i fod ar y gyllideb i gynorthwyo gwledydd tlawd.  Ac yn gyfrwys mae Prydain yn ystyried fod rhai prosiectau milwrol yn rhan o gymorth i wledydd eraill.

Sut mae Prydain i gael dylanwad ar y llwyfan byd-eang yn y byd cyfoes?  Un ffordd yw drwy ymarfer gwahanol agweddau o rym milwrol.  Trwy fynd i ryfel, yn amlach na pheidio fel partner i’r Unol Daleithiau fel yn Irac ac Affganistan.  Trwy ddarparu a gwerthu arfau i wladwriaethau ‘cyfeillgar’.  Trwy hyfforddi lluoedd gwladwriaethau eraill mewn technegau rheoli pobl.  Trwy barhau yn bŵer niwclear a thrwy hynny gadw sedd ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.

Er mwyn gwneud trais eithafol yn dderbyniol i drwch y boblogaeth defnyddir sawl dull i guddio a glastwreiddio’r gwirionedd.

Sut y gwneir hyn mor llwyddiannus?  Trwy newid Sul y Cofio i fod yn Sul y Dathlu Rhyfel, a diwrnod VE yn sbloet jingoistaidd.  Trwy ramantu militariaeth.  Trwy sefydlu ‘Diwrnod y Lluoedd Arfog’ a chael ‘Pencampwyr y Lluoedd Arfog’ mewn Cynghorau Lleol.  Trwy ddefnyddio rhwysg y frenhiniaeth.  Trwy godi bwganod am elynion. Trwy gysylltu militariaeth efo swyddi sy’n ddibynnol ar leoliadau milwrol.  Trwy adeiladu economi sy’n dibynnu ar fudreddi’r diwydiant arfau rhyngwladol.  Trwy ddatblygu technolegau rhyfel sy’n lladd o bell, heb yr angen i anfon gormod o’n pobl ni i faes y gad.  Trwy ddirprwyo y gwaith budr o ymladd dramor i gynghreiriaid amheus.  Trwy guddio erchyllterau rhyfel.  Trwy gelu’r gwirionedd am droseddau rhyfel am flynyddoedd.

Mae aelodau a chyn-aelodau’r Lluoedd Arfog yn ddioddefwyr yn ogystal â bod yn llawforynion i drais.

Caiff cyn aelodau o’r Lluoedd Arfog eu gor-gynrychioli mewn carchardai, ymhlith y digartref, y diwaith, y rhai sy’n ddibynnol ar alcohol, y rhai sy’n gaeth i gyffuriau, y rhai sy’n cael eu hunain mewn sefyllfaoedd treisgar megis yn y cartref, y rhai sy’n dioddef o afiechyd meddwl.  Yn gryno, effeithiau Syndrom Ôl Straen Niweidiol (Post Traumatic Stress Syndrome).  Mae hyn yn naturiol yn rhoi treth drom ar deuluoedd a chyfeillion, ac ar y gymdeithas yn gyffredinol.  Bylchog ac annigonol yw gofal y Lluoedd Arfog am eu cyn-aelodau – bydd y baich trymaf yn disgyn ar eraill.

Nid damwain chwaith yw bod recriwtio’r Lluoedd Arfog yn targedu ardaloedd tlawd a difreintiedig.

Nid yw anghenion Cymru a gwerthoedd gwâr yn cael eu hadlewyrchu yma.

Beth am edrych ar yr hyn sy’n cael ei gefnogi yma, a gofyn – bob un ohonom – os ydi hyn yn cyd-fynd ag anghenion gwlad fechan yn y byd cyfoes?  Beth am ystyried ffyrdd eraill o drefnu diogelwch ein pobl?

Edrychwn felly ar y canlynol:

  •       Rhai safleoedd militaraidd yng Nghymru heddiw
  •       Cefnogi Militariaeth yng Nghymru heddiw
  •       Traddodiad Heddwch yng Nghymru
  •       Anghenion Cymru

 

RHAI SAFLEOEDD MILITARIAIDD YNG NGHYMRU HEDDIW

Gallwn ystyried ambell i enghraifft sy’n rhoi blas o’r ffordd mae militariaeth yn cael rhwydd hynt i ymdreiddio i’n bywydau.  Gwelwn fod y broses o filitareiddio yn parhau, ac yn dal i gael ei gefnogi yn swyddogol.

RAF Valley

Sefydlwyd RAF Valley ar Ynys Môn yn ystod yr Ail Ryfel Byd.  Bellach caiff ei ddefnyddio i hyfforddi peilotiaid awyrennau jet milwrol cyflym.  Mae sŵn aflednais yr awyren Texan T1 yn fwrn ar glustiau trigolion Gogledd Cymru, a defnyddir yr awyren Hawk T2 ar gyfer hyfforddiant hefyd.  Ond nid peilotiaid o Brydain yn unig sy’n derbyn hyfforddiant yma.  Mae peilotiaid o Saudi Arabia hefyd wedi eu hyfforddi.  Mae’r Deyrnas Gyfunol yn caniatáu allforio offer milwrol i’r wlad honno – offer a ddefnyddir yn y rhyfel cartref mileinig yn Yemen.  Felly i bob pwrpas mae gwladwriaeth y Deyrnas Gyfunol yn darparu ‘gwasanaeth ôl-werthiant’ er mwyn hybu allforion sy’n lladd y diniwed.  Cwmni BAE Systems sy’n adeiladu yr awyrennau Hawk a felly yn elwa.  Ac wrth gwrs mae nifer helaeth o swyddi sifil yn ddibynnol ar y gweithgaredd hwn – swyddi yn cynhyrchu yr offer mewn ffatrïoedd, a swyddi lleol yn RAF Valley.  Felly gwelir dibyniaeth economi leol ar Ynys Môn ar bolisïau militaraidd a rhyfelgar Llywodraeth Llundain.  Mae 1,500 o bobl yn gweithio yno rhwng staff yr Awyrlu, gweision sifil a chontractwyr.

Cynhaliwyd protest gan Gymdeithas y Cymod, Grŵp Heddwch a Chyfiawnder Gwynedd a Môn, y Crynwyr, Grŵp Heddwch Conwy, CND Cymru a Chymdeithas yr Iaith yn 2018 yn erbyn y gweithgaredd hwn.  Galwyd ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu’r hyfforddiant i ladd yn Yemen, ond yn ofer.

Nid dyma’r tro cyntaf i beth fel hyn ddigwydd yn RAF Valley.  Flynyddoedd yn ôl, lladdwyd pobl ddiamddiffyn yn Nwyrain Timor ac Aceh wedi i beilotiaid Indonesia gael eu hyfforddi yno.

Yn ddiweddar bwriadwyd ymestyn hyfforddiant peilotiaid i gynnwys Maes Awyr Llanbedr yng Ngwynedd, ond mae hynny wedi ei atal ar hyn o bryd.  Serch hynny, erys y bygythiad hwnnw, fel yn wir y posibilrwydd o ddefnyddio’r safle hwnnw ar gyfer datblygu adar angau (drones) milwrol.

Epynt

Daeth 30,000 erw o dir Cymru i feddiant y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 1940.  Fe’i defnyddir i ymarfer saethu a hyfforddi milwyr.  Caiff y cyhoedd ddim mynd yno heblaw ar adegau penodol ac ar amseroedd penodol.  Bellach gelwir yr ardal yn SENTA – Sennybridge Training Area, gan ddileu canrifoedd o draddodiad a sathru dan draed y diwylliant brodorol.

Mae Angharad Tomos wedi sgwennu hanes y troi allan o 54 o ffermydd oedd yn gartref i dros 200 o bobl, a gofyn y cwestiwn – ‘Onid yw’n hen bryd i’r fyddin adael yr ardal?’

Gwelwyd dihidrwydd y Fyddin Brydeinig pan fu farw 3 o filwyr dan hyfforddiant ar Fannau Brycheiniog yn 2013 – achos na ddaeth o flaen y llys milwrol tan 2018, a ni chafwyd neb yn euog o drosedd.

Aberporth

Adar angau (drones) a thaflegrau sy’n cael sylw yn Aberporth, Ceredigion.

Cafodd y taflegryn “Storm Shadow” ei brofi gyda’r awyren Typhoon yn Aberporth, ym mis Tachwedd 2015.  Defnyddiwyd y taflegryn a’r awyren yn y rhyfel cartref yn Syria yn 2018.

Caiff yr aderyn angau ‘Watchkeeper’ ei brofi yno gyda chefnogaeth lwyr Simon Hart, yr Ysgrifennydd Dros Gymru yn San Steffan, er fod yna sawl damwain wedi bod pan gollwyd rheolaeth ar yr arf angheuol, y tro diwethaf yn 2018, gan beri gofid yn yr ardal.

Penalun

Mae Gwesyll Hyfforddiant Penalun ym Mhenfro yn cael ei ddefnyddio i gartrefu ceiswyr lloches – a digwyddodd hyn heb i’r Aelod Seneddol lleol ac Ysgrifennydd Dros Gymru Simon Hart wybod!  Cafwyd beirniadaeth gref am ddiffygion y ddarpariaeth, a mae Llywodraeth Cymru wedi galw am roi’r gorau i’w ddefnyddio i’r diben hwn.

Ffoaduriaid o’r rhyfeloedd yn Irac ac Iran sydd ym Mhenalun – rhyfeloedd y mae militariaeth Prydain wedi bod yn flaenllaw ynddyn nhw.

 

CEFNOGI MILITARIAETH YNG NGHYMRU HEDDIW

Diwydiant

Rhoddir cefnogaeth ddi-gwestiwn i gwmniau arfau gan Lywodraeth Cymru, er enghraifft ar eu gwefan ‘Trade and Invest Wales’.  Gwneir y cysylltiad rhwng awyr-ofod ac amddiffyn yn bendant a digamsyniol.  Mae brolio am y croeso i gwmnïau arfau megis BAE Systems, Raytheon a QinetiQ, ac i Babcock yn RAF Valley.  Sonnir yn ganmoliaethus am Aberporth a Llanbedr, a thestun llawenydd yw’r ffaith mai Gorllewin Cymru yw’r lle cyntaf yn y byd i gael gofod penodol i’r gwaith yma.  Darparu is-adeiledd ar gyfer y diwydiant arfau a’r Lluoedd Arfog – dyna, ymddengys, yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru.

Enghraifft berffaith o ddiffeithwch moesol oedd y croeso a roddwyd i Ffair Arfau Caerdydd yn 2018 gan Lywodraeth Cymru ac a ganiatawyd gan Gyngor ein prifddinas Caerdydd.  Cafodd 6 o bobl eu harestio yn ystod gwrthdystiadau yno – gwrthdystiadau oedd yn cynnwys nifer helaeth o fudiadau gan gynnwys Cymdeithas y Cymod, nid yn unig o Gymru ond o Loegr hefyd.  Y bwriad oedd cynnal digwyddiad o’r fath y flwyddyn wedyn, ond gorfodwyd ei symud i NEC Birmingham o Gaerdydd.  Roedd Ken Skates o Gabinet Llywodraeth Cymru i fod i siarad, ond bu’n rhaid iddo dynnu’n ôl wedi i’r lleoliad newid.  Dyma ei ymateb i feirniadaeth gan Leanne Wood: “The likes of Airbus, General Dynamics, GE, QinetiQ and the University of South Wales participated in this year’s event – companies and organisations which support vital jobs and investment here in Wales.” 

Onid dyna yw craidd y mater – fod swyddi yn y diwydiant arfau yn bwysicach na cholli gwaed diniwed?

Cofiwn mai swyddi sy’n hollol ddibynnol ar bolisi militaraidd yw rhain – mae hyrwyddo lladd yn sugno pobl gyffredin, na fyddent yn breuddwydio am ymladd â neb ar y stryd, i mewn i’r gors anfoesol hon.  A dyna pam mae Undebau Llafur yn anffodus yn groch eu cefnogaeth i’r diwydiant at ei gilydd.

Mewn maes arall, mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru a nifer o wleidyddion Plaid Cymru yn lleol i’r diwydiant niwclear yn dangos nad oes ganddynt amgyffrediad o ddifrifoldeb arddel y fath ddiwydiant.  Mae Rolls Royce, sy’n gobeithio codi Adweithydd Niwclear Bychan yn Nhrawsfynydd, yn cydnabod fod yna gysylltiad rhwng niwclear sifil a niwclear militaraidd.

Recriwtio mewn Ysgolion

Gall pobl ifanc sy’n 16 oed ymuno â’r Lluoedd Arfog.  Nid yw hyn yn cael ei ganiatáu mewn gwledydd eraill yn Ewrop.  Mae ymchwil gan Gymdeithas y Cymod a’r Peace Pledge Union yn dangos fod ymweliadau recriwtio gan y Lluoedd Arfog i ysgolion Cymru yn parhau, ar waethaf ymrwymiadau gan Lywodraeth Cymru yn 2015.  Dadleuir fod effeithiau bywyd milwrol yn waeth ar bobl ifanc; fod y darlun a gyflëir o fywyd milwrol yn anghywir; fod yna ddiffyg cyflwyno dadleuon gwrth-filwrol mewn ysgolion.  Ymhellach gosodir hyn yng nghyd-destun militareiddio diwylliannol cynyddol yng Nghymru – hynny yw, gwneud militariaeth yn rhan dderbyniol o fywyd bob dydd.

Amgueddfa Meddygaeth Filwrol

Yn ddiweddar rhoddodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Dinas Caerdydd ganiatâd ar gyfer Amgueddfa Meddygaeth Filwrol ym Mharc Britannia, Caerdydd, er fod yna don anferth o wrthwynebiad yn lleol a ledled Cymru.  Mae’r stori hon sy’n dangos ymrwymiad taeogaidd Llywodraeth Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd i filitariaeth ôl-ymerodraethol Prydain Lai yn destun dagrau a chwerthin yn gymysg.  Gwrthododd sawl dinas y ‘cyfle’ i roi cartref i’r amgueddfa – ond mynnodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi yn2016, gefnogi cais ein prifddinas ni i groesawu y dyrchafu hwn ar ramantiaeth arwrol rhyfela.

Mae’r frwydr yn erbyn yr Amgueddfa yn parhau.

Diwrnod Lluoedd Arfog

Sefydlwyd ‘Diwrnod y Lluoedd Arfog’ gan Gordon Brown i geisio newid y farn gyhoeddus o blaid y Lluoedd Arfog yn dilyn diflastod y cyhoedd efo rhyfeloedd imperialaidd y Deyrnas Gyfunol – diflastod oedd yn golygu fod yna broblem recriwtio.

Yn 2018 daeth y sioe gyfoglyd i Landudno – wedi i Gyngor Sir Conwy ei wahodd, a chael ei ddewis o flaen safleoedd eraill.  Yn lleol, gwnaed yr esgus arferol y byddai o fudd economaidd i’r ardal.  Siomedig iawn i lawer oedd croeso Gareth Jones, arweinydd y Cyngor ar y pryd, ac un a fu’n Aelod Cynulliad Plaid Cymru, i’r digwyddiad.  Daeth y pwysigion i gyd yna – Ann Windsor yn ei lifrai, Teresa May, Cadfridogion rif y gwlith, ynghyd â’r man bwysigion eraill.

Fel un o’r criw bychan a fu yno yn protestio efo Cymdeithas y Cymod, y Peace Pledge Union a Grŵp Heddwch Conwy, roedd yn brofiad annymunol dros ben.  Nid yn unig y casineb atom fel protestwyr (‘The Army should use you as target practice…….!), ond gweld plant ifanc yn cael eu hannog i eistedd y tu ôl i’r gynnau mawrion.

 

TRADDODIAD HEDDWCH YNG NGHYMRU

Mae yna draddodiad anrhydeddus o heddychiaeth yng Nghymru, llawer wedi datblygu o anghydffurfiaeth Cymreig ac o’r Blaid Lafur Annibynnol ganrif a mwy yn ôl.  Cyn hynny roedd Henry Richard, Tregaron, yn enwog fel ‘Apostol Heddwch’.

Mynegwyd dyheadau dyfnaf ein pobl am heddwch pan gasglwyd y nifer anhygoel o 390,296 o lofnodion merched Cymru ar ddeiseb yn 1923-1924 yn gofyn i ferched yr Unol Daleithiau ddefnyddio eu dylanwad i berswadio eu gwlad i ymuno’n llawn â Chyngrair y Cenhedloedd.  A bu gorymdaith heddwch gan 2,000 o ferched o ardaloedd o gwmpas Penygroes i Gaernarfon yn 1926, ac yna ymlaen i Hyde Park yn Llundain.  Onid yw y ffaith fod y dyheadau hyn wedi ei dryllio gan y filitariaeth a arweiniodd at yr Ail Ryfel Byd ychydig o flynyddoedd wedyn yn un o drasiedïau mawr y ddynoliaeth?  A gwarthus yw’r ffaith fod yr holl stori wedi mynd yn angof nes i ferched ymchwilio i’r hanes yn ddiweddar.  Oni ddylai ein hysgolion roi gwybod am y pethau hyn?

Cofiwn mai merched o Gymru gerddodd i Gomin Greenham a chynnau’r fflam arweiniodd at sefydlu Gwersyll Heddwch yno i wrthwynebu arfau niwclear Cruise yng nghyfnod Thatcher.

Mae gweithredu dros heddwch yn fygythiad i’r drefn wleidyddol, filitaraidd a’r fasnach arfau.

Ceir gwybodaeth helaeth am fudiadau heddwch cyfoes ar wefan Cymru Dros Heddwch.  Cymdeithas y Cymod, CND Cymru, Grŵpiau Heddwch a Chyfiawnder, Y Ganolfan Gymreig ar Faterion Rhyngwadol sydd a’i chartref yn y Deml Heddwch, Amnest Rhyngwladol, Cyn-filwyr Dros Heddwch; a hefyd y datblygiad cyffrous diweddar o sefydlu Academi Heddwch i Gymru dan arweiniad y Prifardd a’r Heddychwraig Mererid Hopwood.  Bu Jill Evans, a fu’n aelod yn Senedd Ewrop am flynyddoedd, a sy bellach yn cadeirio CND Cymru, yn flaenllaw yn yr ymgyrch i sefydlu’r Academi.

ANGHENION CYMRU

Beth yw ystyr y gair ‘Amddiffyn’ yng nghyd-destun Cymru?  Ers canrifoedd, rydym wedi bod dan adain gwladwriaeth y Deyrnas Gyfunol.  Ond llurguniwyd y gair ‘Amddiffyn’ cymaint fel y gellir dadlau mai ‘Ymosod’ yw ystyr y gair ym meddylfryd y wladwriaeth.  Hynny yw, ymosod ar wledydd eraill os oes ganddyn nhw rhywbeth rydan ni ei angen – fel olew; neu os nad ydi gwleidyddiaeth y wlad honno yn plesio.  I bob pwrpas, parhad o’r ‘Great Game’ a oedd yn llywio polisi tramor Prydain yn y 19eg ganrif a welwn o hyd.  A pharhad o’r meddylfryd ‘Blitz Spirit’ sy’n mynnu fod Prydain yn fodlon sefyll yn erbyn pawb os oes rhaid.  Bellach mae wedi ei blethu’n gywrain efo canfyddiad o le ac agweddau Prydain mewn byd ôl-Brecsit.

Mae Prydain, ar waethaf ei darostyngiad yn y byd cyfoes, yn dal i fod eisiau bod yn barod i ymladd yn erbyn unrhyw un yn unrhyw le.

Gwlad fechan yw Cymru.  ‘Does arni ddim angen swagro ar lwyfan y byd.  ‘Does dim rhaid i’w phobl lyncu’r naratif filitaraidd.  Beth, felly, fedrwn ni ddychmygu fyddai’n addas i Gymru sy’n dymuno cadw ei phobl yn ddiogel, ond eto am gyd-fyw yn heddychlon efo cenhedloedd eraill?  I aralleirio – beth yw gwir ystyr ‘Amddiffyn’?

Mae amddiffyn yn golygu canfod beth yw’r peryglon, ac yna ceisio datrysiadau rhesymol.

Newid hinsawdd yw’r pennaf o’r peryglon.  Mae’n rhesymol dadlau fod militariaeth, yn y pendraw, yn rhan o’r peiriant sy’n gyrru’r rheibio diddiwedd ar adnoddau’r ddaear.  Arfau sy’n amddiffyn y rheibwyr – fel y gwnaethant yn Irac, a fel y maent mewn gwledydd lle y mwyngloddir ac y torrir coed ar raddfeydd aruthrol.

Mae brawychiaeth hunan-aberthol cyfoes wedi datblygu o ganlyniad i ymosodiadau milwrol erchyll ar wledydd tramor.  Ymateb erchyll i hynny yw brawychiaeth gan bobl sy’n dial ar bobl gyffredin, am fod pobl gyffredin yn eu gwledydd hwy wedi eu lladd.  Felly mae militariaeth wedi arwain at fethiant i amddiffyn ein pobl ni ein hunain.

Gwelwyd twf mewn gwleidyddiaeth eithafol y dde, ac mae lle i gredu fod rhai o fewn y Lluoedd Arfog sy’n tueddu i goleddu syniadau o’r fath.  Mae militariaeth yn rhan o ryw syniad annelwig o amddiffyn rhyw werthoedd niwlog ac aneglur sy’n apelio a llygru delfrydiaeth pobl ifanc.

Bygythiad fydd yn debygol o’n hwynebu o dro i dro fydd heintiau newydd, a fel y gwyddom o brofiad Cofid mae’r effeithiau yn drychinebus.  Mae gwario ar amddiffyn rhag heintiau yn well defnydd o arian ac adnoddau na gwario ar filitariaeth.

Bydd y newidiadau a ddaeth ac a ddaw i’n heconomi yn golygu y bydd yn rhaid edrych eto ar sut i gynnal ein pobl – a bydd natur y cysyniad o ‘waith’ yn debygol o newid.  Mae seilio rhannau helaeth o’r economi ar gynhyrchu arfau ac ar gefnogi hynny drwy’r Lluoedd Arfog, a chyflwyno hynny i boblogaeth leol fel yr ‘unig ddewis’ yn gamarweiniol.  Mae gwaith arloesol y Lucas Plan yn dangos sut i ddefnyddio sgiliau y diwydiant arfau i gynhyrchu pethau sydd o wir fudd i ni.

Llu Amddiffyn i Gymru

Gawn ni feddwl yn greadigol am Lu Amddiffyn i Gymru?  Troi y flaenoriaeth i Amddiffyn Sifil yn ein gwlad, yn lle Amddiffyn Milwrol sy’n rhy barod i ymosod ar wledydd eraill.

Corff fyddai’n gweithredu yn gyntaf ac yn flaenaf i amddiffyn yn erbyn y bygythiadau cyfoes megis y rhai a grybwyllwyd.  Yn ail byddai’n gweithredu i’n gwarchod rhag bygythiadau milwrol o’r tu allan – ond byddai’r gweithredu hwn yn rhan o strategaeth i greu amser a lle i drafodaeth ddiplomyddol i ddatrys pa anghydfod bynnag fyddai’n bodoli.

Mae Llu Arfog confensiynol yn filwrol yn ei hanfod, ac eilbeth yw defnyddio’r sgiliau ar gyfer dibenion eraill megis rhoi cymorth mewn argyfyngau gartref neu dramor.  Gwyddom fod datblygu a meithrin nifer o sgiliau yn rhan o hyfforddiant yn y Lluoedd Arfog – ac i raddau helaeth mae’r un sgiliau yn berthnasol yn y maes sifil.  Dylai y Llu Amddiffyn fod yn rhan hanfodol o ymateb i broblemau fel mae nhw’n codi, ac yn rhan o’r cynllunio ar eu cyfer.  Mae’r gallu i drefnu yn gyflym, i ddelio ag anawsterau, a chael y maen i’r wal yn wyneb sialensau yn gryfderau sy gan y Lluoedd Arfog.  Oni fyddai ein gallu i drefnu ymateb i broblemau yn llawer gwell o’r herwydd?

Ni fyddai ein Llu yn ymyrryd dramor, heblaw fel rhan o lu rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig i gadw heddwch a rhoi cymorth dyngarol mewn trychinebau.

Byddai aelodau a chyn-aelodau ein Llu yn cael gofal sy’n eu gwerthfawrogi go iawn, yn lle cael eu harddangos mewn sioe filwrol, neu eu gadael i bydru ar domen sbwriel cymdeithas.

Byddai’n anghyfreithlon datblygu a hybu diwydiannau megis niwclear sy efo cyswllt milwrol.

Byddai safleoedd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn dod i feddiant pobl Cymru.  Meddyliwch am symboliaeth gweld y Fyddin Brydeinig yn gadael Epynt!

Yna gallai Cymru gyfrannu yn wirioneddol at fyd gwell i’w thrigolion hi ei hun, ac i wledydd eraill y byd, mewn ysbryd o gyfeillgarwch rhyngwladol.

 

[1] https://www.historyguy.com/british_wars_1945present.htm

[2] https://www.bbc.co.uk/news/uk-54435335

[3] https://www.icanw.org/

[4] https://cnduk.org/resources/205-billion-cost-trident/

[5] https://publications.parliament.uk/pa/cm5801/cmselect/cmwelaf/97/9702.htm

[6] https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-ystad-y-weinyddiaeth-amddiffyn-phresenoldeb-milwrol-yng-nghymru

[7] https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-18509639

[8] https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/controversial-iron-ring-sculpture-dubbed-13587808

[9] https://www.hurstpublishers.com/book/inglorious-empire/

[10] https://www.bbc.co.uk/news/uk-54988870

[11] https://www.chathamhouse.org/2020/11/examining-impacts-uk-foreign-aid-budget-cut

[12] https://www.independent.co.uk/voices/armed-forces-day-salisbury-weapons-manufacturers-arms-bae-systems-a8980321.html

[13]https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/916576/20171116-Armed_Forces_Covenant-Overview-Guide_for_Local_Authorities-Welsh_language_narrative.pdf

[14] https://www.forces.net/news/why-armed-forces-and-royal-family-are-so-close

[15] https://www.middleeasteye.net/news/saudi-fighter-pilots-trained-raf-bombed-uk-weapons-ranges

[16] https://caat.org.uk/homepage/stop-arming-saudi-arabia/companies-supplying-the-war-in-yemen/

[17] https://www.raf.mod.uk/our-organisation/stations/raf-valley/

[18] https://news.sky.com/story/sas-soldiers-acquitted-of-negligence-over-brecon-beacons-deaths-11501284

[19] https://www.baesystems.com/en/article/first-storm-shadow-missile-successfully-released-from-typhoon

[20] https://www.gov.uk/government/news/raf-jets-strike-chemical-weapon-facility-in-syria

[21] https://www.tivysideadvertiser.co.uk/news/18656777.minister-visits-military-drone-base-aberporth/

[22] https://www.walesonline.co.uk/news/politics/penally-asylum-camp-simon-hart-19046827

[23] https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-54362403

[24] https://tradeandinvest.wales/advanced-materials-manufacturing/aerospace

[25] https://businesswales.gov.wales/news-and-blogs/news/defence-procurement-research-technology-exportability-exhibition-cardiff

[26] https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-south-east-wales-43557677

[27] https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/controversial-defence-event-not-held-15425816 Awel Irene o Gymdeithas y Cymod ar glip fideo yma.

[28] https://www.leannerhondda.wales/arms_fair

[29] http://www.sussex.ac.uk/broadcast/read/42283

[30] https://senedd.wales/laid%20documents/gen-ld10363/gen-ld10363-e.pdf

[31] https://www.dailypost.co.uk/whats-on/whats-on-news/armed-forces-day-2018-llandudno-14852587

[32] https://www.armedforcesday.org.uk/llandudno-to-host-armed-forces-day-2018/

[33] https://cy.wikipedia.org/wiki/Henry_Richard

[34] http://www.cymrudrosheddwch.org/wfp/themau_menywodrhyfelheddwch.html

[35] https://cy.wikipedia.org/wiki/Protest_Comin_Greenham

[36] http://www.cymrudrosheddwch.org/wfp/ymgyrchu.html

[37] https://www.wcia.org.uk/cy/wcia-news-cy/lansiad-academi-heddwch/

[38] https://www.bbc.co.uk/news/uk-45805285

[39] http://lucasplan.org.uk/

Un ateb ar “Militariaeth yng Nghymru”

  1. I am a member of Undod but as a member of Cymdeithas y Cymod I should be so very thankful if an Undod officer could get in touch to support the Heddwch Nain project and to support a petition I am going to begin next month calling upon the Welsh govt to house the peace petition , which almost 400,ooo women in Wales signed in 1924 ,to be housed in the Harbour master’s office in the Bay instead of the proposed War Museum ,which has very little to do with Cardiff or Wales but the temple of peace is significantly in the Centre of Cardiff.

Mae'r sylwadau wedi cau.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.