Ar y 16ed o Ragfyr, caniataodd Pwyllgor Cynllunio Caerdydd adeiladu Amgueddfa Feddygaeth Filwrol ar Barc Britannia ym Mae Caerdydd, yng ngwyneb gwrthwynebiad lleol a chenedlaethol. Crëwyd yr amgueddfa yn 1952 i “adrodd hanes meddygaeth a gofal iechyd y fyddin, i bobl ac anifeiliaid, o gyfnod Rhyfel Cartref Lloegr hyd at y presennol”. Ei safle presennol yw Baracs Keogh yn Aldershot.

Nid y caniatad cynllunio yw diwedd y stori. Bydd yr ymgyrch yn erbyn yr amgueddfa yn parhau. Ond, sut wnaethon ni gyrraedd yma, a beth mae hyn yn ei ddweud wrthyn ni am lle mae grym yn gorffwys o fewn ein dinas a sut mae penderfyniadau yn cael eu gwneud?

Yn 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Dorïaidd newydd y DG adolygiadau o gyrff cyhoeddus fel rhan o’i hymgyrch llymder. Yn dilyn hyn, cyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn eu bod yn torri arian eu hamgueddfeydd. Penderfynodd yr Amgueddfa Feddygaeth Filwrol i ganfod lleoliad newydd a fyddai’n gallu denu mwy o ymwelwyr na fyddai safle baracs yn ei ganiatáu. Gwrthodwyd y cynnig gan ddinasoedd eraill. Ond roedd gan Gaerdydd ddiddordeb, ac yn 2016 rhoddodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi ar y pryd, sêl bendith Llywodraeth Cymru i’r prosiect.

Pam bod Caerdydd eisiau’r amgueddfa hon pan nad oedd eraill â chysylltiadau cryfach â meddygaeth filwrol ag unrhyw awydd amdani? I arweinwyr y ddinas, roedd yn edrych fel prosiect urddasol a fyddai o fudd i’w huchelgais, a rennir â Llywodraeth Cymru, i ddod yn “ddinas Ewropeaidd o safon rhyngwladol”. Byddent yn honni bod ei leoli ym Mae Caerdydd o help i’w adfywio.

Nid oedd adfail yr orsaf drenau ar Heol Bute a gynigwyd i ddechrau yn cydfynd ag uchelgais yr Amgueddfa. Dyluniwyd adeilad newydd ar gyfer safle cyfagos ar Heol Hemingway a gafodd ganiatâd cynllunio yn 2017. Ond mae ‘Uchelgais Prifddinas’ Caerdydd yn parhau i dyfu. Mae cynlluniau ar gyfer Arena â 15,000 o seddi wrth galon datblygiad £500 miliwn Atlantic Wharf wedi hawlio’r safle hwnnw bellach, felly roedd rhaid canfod safle arall.

Yn y cyfamser, roedd ymgyrchwyr wedi llwyddo i atal datblygiad bloc o fflatiau moethus 24 llawr rhag cael eu hadeiladu ar Barc Britannia. Mae’r parc yn agos i’r Eglwys Norwyaidd ar lan y dŵr yn y Bae a gaiff ei werthfawrogi’n fawr gan y trigolion lleol gan fod y mwyafrif ohonynt yn byw mewn fflatiau. Ym mis Tachwedd 2018, cytunodd Cabinet Caerdydd i brynu’r parc gan yr Associated British Ports. Cafodd gobeithion y gymuned leol y byddai hyn yn sicrhau dyfodol y parc ei chwalu yn haf 2019, pan gyhoeddwyd cynlluniau i adeiladu’r Amgueddfa.

Awgrymodd papur y Cabinet y byddai darn o dir yn cael ei werthu, ond soniwyd am yr ardal caregog, lle safodd Tiwb Canolfan Ymwelwyr y Bae o’r blaen, yn unig. Roedd union ardal y datblygiad wedi’i guddio o dan hawl i ‘gyfrinachedd’ sy’n gwarchod y Cyngor rhag gorfod cyhoeddi eu gweithgarwch a’u busnesau preifat. Byddai ymgyrchwyr yn darganfod yn hwyrach bod y  Cyngor wedi cynnig y tir i’r amgueddfa saith mis cyn i’r Cabinet ei drafod. Mae parc Britannia am gael ei aberthu i sicrhau’r gofod sydd ei angen ar y Cyngor i’w gynnig i fuddsoddwyr i wireddu Arena eu breuddwydion.

Mewn gwirionedd, nid yw’r ardal garegog ond hanner y tir y mae’r Amgueddfa ei hangen. Bydd coed a gwair er mwyn eistedd a chwarae arno, yn cael eu colli. Bydd rhaid symud darnau o gelf cyhoeddus a bwthyn y lockkeeper. Bydd yr Eglwys Norwyeg a’r parc yn byw o dan gysgod datblygiad pum llawr wedi’i ffurfio o wydr a dur rhydlyd. Mae Caerdydd yn honni ei bod yn ddinas Sy’n Dda i Blant, ond bydd rhaid symud y maes chwarae, a does neb yn gwybod i ble eto.

Maent yn dweud y bydd adnoddau cyhoeddus newydd yn cyfiawnhau colli’r man agored hwn. Ar rai adegau yn ystod y Pwyllgor Cynllunio, roedd yn teimlo fel bod y prosiect cyfan yn cael ei gyfiawnhau ar sail cael mynediad i ambell dŷ bach. Mae Parc Britannia yn ardal bach gwyrdd a werthfawrogir yn fawr. Nid oes lle i’r Amgueddfa yma.

Gwrthwynebodd Ffrindiau Britannia Park y bygythiad newydd hwn i ofod agored gan ymchwilio i ffeithiau, trefnu gwrthwynebiadau a rhedeg deiseb sydd bellach wedi ennill bron i 5,000 o lofnodau. Mae’n abswrd i adeiladu ar barc gwyrdd sy’n sefyll reit drws nesaf i ddiffeithwch concrit sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru. Ar un adeg, cafodd yr ardal hon ei dynodi ar gyfer prosiect Porth Teigr aflwyddiannus sydd erbyn hyn yn sefyll yn wag, fel y mae’r safle lle’r oedd y Dr Who Experience yn sefyll yn wag. Prosiect arall a fethodd ac a gostiodd dros filiwn i’r Cyngor.

Yn haf 2020, tyfodd ymgyrch Cymdeithas Sifig Caerdydd ar ffurf trydaru a blogio cyson. Roedd elfen filwrol yr amgueddfa yn rhywbeth a oedd wedi ysgogi gofid eang. Cwestiynodd ymgyrchwyr heddwch ei phwrpas. Gofynnodd cefnogwyr YesCymru pam bod sefydliad sydd â chysylltiadau â’r Fyddin Brydeinig yn dod i Gymru. Gyda mudiad Bywydau Du o Bwys yn tynnu sylw at hanes caethwasiaeth a choncwest yr ymerodraeth, roedd dewis safle yng Nghaerdydd yn agos i un o gymunedau amrywiol hynaf Prydain yn Tiger Bay, yn hollol wrthyn i nifer.

Mae amddiffynwyr prin yr Amgueddfa wedi bod yn awyddus i bwysleisio ei helfennau meddygol yn hytrach na milwrol. Mae Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd a chefnogwr brwd y prosiect gwagymffrost hwn wedi gwneud hynny’n gyson. Ond mae gan yr Amgueddfa gyswllt agos â Chorfflu Meddygol, Milfeddygol, Deintyddol a Gofal Brenhinol y Fyddin

Yn 2017, ffurfiwyd Ymddiriedolaeth ar ffurf elusen gofrestredig gan na fyddai’r Amgueddfa yn cael ei gweinyddu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn bellach. Mae ei hamcanion yn rhoi pwyslais canolog ar nodau milwrol: “I addysgu’r cyhoedd ac aelodau o wasanaethau meddygol y Fyddin: yn hanes, llwyddiannau milwrol, gorchestau gwyddonol ac ymroddiad y Corffluoedd; ac yn hanes a datblygiad meddygaeth filwrol; ac hefyd i hyrwyddo effeithlonrwydd milwrol ac annog recriwtio drwy ddull arddangosfa gyhoeddus o’r casgliad mewn amgueddfa.”

Nid yw dathlu llwyddiannau milwrol, hyrwyddo effeithlonrwydd milwrol ac annog recriwtio i’r fyddin yn amcanion iechyd cyhoeddus. Ni fydd hon yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer arweinyddiaeth feddygol fel y mae ei chefnogwyr yn ei honni.

Nid yw’r frwydr i gadw Parc Britannia ar ben. Mae’r Cabinet dal angen cadarnhau gwerthiant y tir fel bod modd adeiladu’r amgueddfa yno. Bydd hynny’n benderfyniad gwleidyddol diamwys, heb le i guddio tu ôl i ddeddfwriaeth gynllunio. Rhaid ei herio.

Hyd yn oed os cânt y tir, ni fydd yr Ymddiriedolaeth â’r arian i adeiladu’r Amgueddfa. Mae eu datganiad ariannol yn dangos asedau o £9 miliwn, ond mae £7 miliwn o’r ffigwr hwnnw yn deillio o werthusiad o’u casgliad. Daeth y £2 filiwn arall ar ffurf rhodd o’r Trysorlys i helpu â’r symud, ond bydd angen llawer mwy o arian arnynt. Gyda chynlluniau ymffrostgar i gael cyfleusterau technolegol trochol ‘Deep Space’, mae’r Ymddiriedolaeth wedi amcangyfrif cost o £30 miliwn. O ble daw yr arian hwn?

Unwaith yr adeiladir yr Amgueddfa, bydd rhaid ei gweinyddu. Yn ei safle presennol llai yn Aldershot, lle mae’r baracs yn helpu i dalu llawer o’r gost, mae’n gwneud colled. Mae’r Amgueddfa yn darogan y bydd 225,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, ond ni fydd defnyddwyr y toiledau’n talu’r biliau. Mae’r sefydliad gyfatebol Americanaidd yn Washington dim ond yn denu 50,000 y flwyddyn, a hynny gyda mynediad a pharcio am ddim. Faint y bydd yr amgueddfa yn ei godi? Ni fydd pris isel yn codi’r arian angenrheidiol i’w rhedeg; bydd pris uchel yn cadw’r ymwelwyr draw, fel a ddigwyddod i’r Dr Who Experience.

Mae’n amlwg nad oedd hyfywedd yn ofid i’r Pwyllgor Cynllunio, ond derbyniodd y Swyddog Cynllunio na fyddai lles y cyhoedd yn cael ei wasanaethu pe bai’r gwaith yn cael ei atal yn ystod ei adeiladu neu pe bai’n dod yn wag yn hwyrach ymlaen. Mae nifer o amgueddfeydd wedi methu yn ddiweddar.

Mae’n anodd gweld sut y gall hyn weithio heb gyfraniadau preifat mawr neu ariannu cyhoeddus helaeth. Mae’r cyngor yn mynnu na fydd yn darparu’r rhain, ond sut y gallwn ni fod yn sicr o hyn? Byddai cytuno i werthu’r tir heb dderbyn cynllun busnes trwyadl a chredadwy gan yr ymddiriedolaeth yn rhoi arian cyhoeddus yn y fantol.

Mae’r modd yr ymdriniwyd â chais yr Amgueddfa wedi dangos sut y mae datblygiadau yn digwydd yng Nghaerdydd. Mae Huw Thomas yn honni nad yw aelodau’r Cabinet yn dyst i drafodaethau ynghylch ceisiadau cynllunio gan ddatblygwyr preifat. Ond Russell Goodway, yr Aelod sydd â chyfrifoldeb dros Fuddsoddi a Datblygu, sydd tu ôl i hyn. Gwahoddodd ef Ymddiriedolaeth yr Amgueddfa i adeiladu ar Barc Britannia, ac mae’r prosiect yn ddibynnol ar barodrwydd y Cyngor i werthu neu i osod y tir y maent yn eiddo arno. Mae’r Cabinet yn atebol ac ni allent guddio tu ôl i’r Pwyllgor Cynllunio.

Mae’r penderfyniad ynghylch yr Amgueddfa yn un o gyfres o fethiannau yn ward Butetown ac ar draws y ddinas.

Mae datblygiadau enfawr yn cael eu caniatáu yn gyson heb i’r Pwyllgor Cynllunio sicrhau’r amod bod angen i 20% o’r unedau fod yn fforddiadwy, gan y byddai gwneud hynny’n lleihau elw’r datblygwr neu werth y tir. Mae gan nifer o fflatiau’n y Bae ddiffygion strwythurol o ganlyniad i ddatblygwyr yn ceisio torri costau, a hynny o dan oruchwyliaeth gwael y Cyngor. Mae tyrrau hyll i letya myfyrwyr sy’n talu rhentiau rheibus yn creithio’r awyr.

Gwariodd y Cyngor £1 miliwn i achub y Gyfnewidfa Lo, ac wedyn ei roi i fuddsoddwr amheus i’w addasu yn westy. Mae darnau helaeth o’r to dal heb eu trwsio, ac o ganlyniad mae’r adeilad yn pydru’n araf. Dim ond oherwydd methdaliadau aruthrol yr achuwbyd y Cyngor rhag gorfod talu £2 filiwn yn ychwanegol. Mae’r gwesty bellach yn cael ei rhedeg gan gyn-aelod o’r cabinet. Mae’r Cyngor eisiau prynu Merchant Place ac Adeiladau Cory ar Stryd Biwt, ond pwy all ymddiried ynddynt i’w hadnewyddu?

Nid oes prin ddim wedi’i adeiladu yn y ddinas yn ddiweddar sydd werth ei gadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd adeiladu’r Arena yn golygu dymchwel Neuadd y Sir a agorwyd yn 1988, ond pwy fydd yn ei golli? Ai adfywiad methiedig arall fydd hyn?

Ar draws Caerdydd, mae mwy a mwy o bobl yn dod yn ymwybodol o’r modd y mae proses cynllunio’r ddinas yn methu ei dinasyddion. Daw ymgyrchoedd lleol i’r fei i helpu amddiffyn llefydd fel Parc Britannia neu’r Dolydd Gogleddol. Mae grwpiau megis Cymdeithas Sifig Caerdydd ac Ein Dinas Ni yn herio’r flaenoriaeth sy’n cael ei roi i fuddiannau’r datblygwyr.

Mae Caerdydd wedi dechrau diwygio ei Chynllun Datblygu Lleol. Bydd hyn yn penderfynu sut y bydd y ddinas yn tyfu o nawr hyd nes 2035. Mae angen Cynllun arnom sy’n rhoi budd a lles pobl y ddinas yn gyntaf, un sy’n darparu cartrefi a gwasanaethau hanfodol, ond un sydd hefyd yn amddiffyn ein hamgylchedd ac sydd wirioneddol yn darparu’r ddinas ddi-garbon y mae’r strategaeth Un Blaned yn honni ei chynrychioli. Mae gwerth ymladd dros hynny.

Un ateb ar “Mae’r frwydr yn erbyn yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol yn parhau”

Mae'r sylwadau wedi cau.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.