Mae Bywydau Du O Bwys. Datganiad

Mae’r frwydr yn erbyn yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol yn parhau

Ar y 16ed o Ragfyr, caniataodd Pwyllgor Cynllunio Caerdydd adeiladu Amgueddfa Feddygaeth Filwrol ar Barc Britannia ym Mae Caerdydd, yng ngwyneb gwrthwynebiad lleol a chenedlaethol. Crëwyd yr amgueddfa yn 1952 i “adrodd hanes meddygaeth a gofal iechyd y fyddin, i bobl ac anifeiliaid, o gyfnod Rhyfel Cartref Lloegr hyd at y presennol”. Ei safle presennol …

Apêl brys Undod: 24 awr i achub Tramshed

“Ry’n ni am i Gyngor Caerdydd deimlo’r sarhad y mae trigolion Caerdydd yn ei deimlo dros y posibilrwydd o Gwdihŵ arall, a thros achos arall o’r hyn sydd er lles y cyhoedd yn cael ei drechu er budd rhyw ddatblygiad corfforaethol.” Mae Cyngor Caerdydd, sy’n enwog am eu diffyg ystyriaeth i ddiogelu diwylliant mewn dinas …

Mae’r amgueddfa filwrol yn sarhad. Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i’w atal.

Mae’r cynlluniau ar gyfer adeiladu Amgueddfa Meddygaeth Filwrol ym Mharc Britannia, lawr Bae Caerdydd, wedi cael eu beirniadu’n ffyrnig dros yr wythnos ddiwethaf. Ceir yr argraff cyffredinol, unwaith eto, fod Caerdydd yn cael ei datblygu y tu hwnt i ddylanwad ei thrigolion. Un stori ymhlith nifer yng Nghaerdydd yw’r datblygiad arfaethedig hwn. Ry’ ni wedi …