Mae Bywydau Duon O Bwys. Datganiad

“Ry’n ni am i Gyngor Caerdydd deimlo’r sarhad y mae trigolion Caerdydd yn ei deimlo dros y posibilrwydd o Gwdihŵ arall, a thros achos arall o’r hyn sydd er lles y cyhoedd yn cael ei drechu er budd rhyw ddatblygiad corfforaethol.”

Mae Cyngor Caerdydd, sy’n enwog am eu diffyg ystyriaeth i ddiogelu diwylliant mewn dinas mor hanesyddol â Chaerdydd, unwaith eto ar fin gwneud tro gwael â’u hetholwyr. Dylai trigolon lleol fod y tu cefn i newid i gymunedau, ond mae’r Cyngor yn cynllunio, yn gudd, i adeiladu bloc swyddfeydd a fflatiau wedi’u gwasanaethu y tu cefn i Tramshed, lleoliad cerddoriaeth byw mewn dinas lle mae eisoes dan fygythiad. Os caiff y cynnig hwn ei gymeradwyo, bydd yn cael effaith ofnadwy ar fusnes Tramshed, yn ogystal â chael effaith negyddol ar draffic a llygredd ar Stryd Pendyris a Heol Clare. Fel trigiolion Caerdydd, rhaid i ni frwydro’n erbyn y modd annemocrataidd y mae cynllunio a datblygu yn y ddinas yn cael eu gweithredu. Rhaid i ni gymryd y cam cyntaf i atal y datblygiad hwn, a gwrthwynebu’r cais cynllunio.

Yn hytrach na chanolbwyntio eu polisi a’u penderfyniadau ar anghenion eu dinasyddion, neu roi platfform i ddiwylliant sy’n ffynnu mewn dinas amrywiol, mae’r Cyngor yn benderfynol o lenwi Caerdydd ag adeiladau llety myfyrwyr di-nod, bariau a chaffis boneddigeiddiol, cymeradwyo ffynhonnau enfawr, ac unrhyw nodwedd bensaernïol arall sydd â’i fwriad i wyngalchu’r Caerdydd a adeiladwyd gan y dosbarth gweithiol. Mae Grangetown, Butetown a’r Bae yn dargedau arbennig i foneddigeiddio di-baid Cyngor Caerdydd, ardaloedd a gyfrannwyd iddynt yn fawr gan fewnfudwyr, a greodd rhai o gymunedau cryfaf a diwylliannol-gyfoethog ein dinas. Yng nghanol pandemig byd-eang, mae’r Cyngor wrthi eto.

Hanes fer ond drychinebus datblygiad a Chyngor Caerdydd

Fel enghraifft, ystyriwn Cyfnewidfa Lo Caerdydd, safle arwyddo siec £1 miliwn cyntaf y byd, a chanolfan economaidd a olygodd bod Cymru’n cyflenwi tannau’r byd. Mewn unrhyw brifddinas arall, ac yn sicr unrhyw ddinas sy’n rhoi gronyn o ystyriaeth i gadwraeth ei hanes, byddai’r adeilad hwn yn cael ei droi’n amgueddfa, yn ofod ar gyfer digwyddiadau cymunedol – neu westy cadwyn sy’n arbenigo mewn partïon ‘stag‘ a ‘hen‘, efallai? Gan osod enghraifft arbennig o roi’n ôl i’r gymuned, penderfynodd Cyngor Caerdydd y byddai’r olaf o rheiny yn syniad da. Ystyriodd y Cyngor y cannoedd o bobl digartref yng Nghaerdydd, y niferoedd trychinebus o dlodi plant mewn cymunedau BAME, a’r diffyg mynediad at addysg cynradd cyfrwng Cymraeg, a phenderfynu mai benthyg £2 filiwn i Signature Living, 8 Mathew Street, Lerwpl, oedd y cam gorau. Dyna un ffordd o gael y gorau ar y Gyfnewidfa Lo.

Dwi’n siwr bod treth-dalwyr Butetown, wedi gweld eu Canolfan Celfyddydau yn cau, ar ben eu digon i gael uned mewn gwesty di-chwaeth sy’n nodi Coyote Ugly fel un o nosweithiau allan gorau Caerdydd, yn hytrach na safle benodol sy’n dathlu eu cefndir diwylliannol fel un o gymunedau BAME cyntaf Ewrop. I rwbio halen i’r briw, bydd amgueddfa filwrol newydd yn cael ei adeiladu ar eu stepen ddrws yn lle’r bloc o fflatiau a gafodd ei wrthod yn wreiddiol. Dafliad carreg o’r Senedd, sy’n gartref i ddeddfwrfa wedi’i arwain gan Lafur â Llywodaeth Cymru sy’n enwog am eu perthynas hawdd gyda’r diwydiant arfau, mae’r prosiect yn enghraifft perffaith o ba mor anghywir yw blaenoriaethau datblygiad yng Nghaerdydd.

Er bod y rhan fwyaf o’i drawsffurfiad wedi’i orffen, mae dyfodol y Gyfnewidfa Lo yn ansicr ar hyn o bryd. Mae’r ffaith bod y Cyngor wedi boddio Signature Living, gan gynnig benthyciad a fyddai’n cael ei dderbyn heb oedi pe bai’n cael ei gynnig gan fanc neu fuddsoddwr preifat, yn dangos yr agwedd hollol unllygeidiog sydd gan y Cyngor tuag at gadwraeth atyniadau diwylliannol y ddinas. Dyma’r un Signature Living sy’n gyfrifol am rodd £11,200 i ymgyrch Vaughan Gething i arwain Llafur Cymru, wedi i Gething baratoi’r ffordd i brosiect y Gyfnewidfa Lo gael ei feddiannu gan Signature Living. Mae’n adeilad rhestredig Gradd II, ac nid yw’r ffaith ei fod wedi’i adael i ddadfeilio gan y Cyngor dros ddegawdau lawer yn rheswm iddynt droi eu cefnau ar y Gyfnewidfa Lo. Mae diwylliant Caerdydd yn gaffaeliad i’r ddinas, ac mae agwedd ymddangosiadol di-wyro’r Cyngor i droi Caerdydd mewn i glôn generig yn rhwystredig, ond hefyd yn wirioneddol andwyol i’r diwylliannau cymhleth sydd wedi datblygu yng Nghaerdydd dros ddegawdau a chanrifoedd

Wedi’u boneddigeiddio gan blaid y dosbarth gweithiol: Bae Caerdydd a’i gyffiniau

Mae’r dylifiad hwn o ddatblygiad drud yng Nghaerdydd yn codi’r cwestiwn, beth yw gweledigaeth y Cyngor i Gaerdydd? Beth yw’r nod yn y pendraw? Mae gan y Cyngor ddiffyg gweledigaeth wrth gyhoeddi Cynlluniau Datblygiad Lleol. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn y ddinas yn echrydus. Mae’r diffyg mewn gwasanaethau parcio-a-theithio yn golygu bod pobl yn tyrru i’r gwaith yn eu ceir bob bore, a thra bo hyn yn symptom o’r diffyg datblygiad yn Ne Cymru’n fwy cyffredinol, nid yw Cyngor Caerdydd yn gwneud unrhyw ymdrech i’w leddfu. Mae’r ddinas yn dod yn le gwell (darllener: mwy generig) i ymwelwyr a theithwyr undydd, ond lle gwaeth i fyw. Mae’r Senedd, Adeilad y Pierhead, Canolfan y Mileniwm oll yn rhoi’r argraff o siop ar fin mynd i’r wal yn dangos ei nwyddau drytaf yn y ffenest, wedi’u chwifio o flaen trwynau twristiaid ym Mae Caerdydd i’w denu i’r Zizzi neu Nando’s agosaf. Prin yw’r berthynas rhwng y llefydd hyn â phobl Caerdydd: hyd yn oed ym meicrocosm y Bae, mae llinell derfyn amlwg rhwng Mermaid Quay a Stryd Bute. Gallech yn hawdd wylio’ch panto yng Nghanolfan y Mileniwm, picio i Salt am ddiod rhy ddrud, a neidio’n ôl ar y trên i Fryste heb sylweddoli bod dinas gyfan sydd dan lach digartrefedd, tlodi ac annhegwch hiliol, a hynny yn ddim ond taith fer i ffwrdd ar Nextbike. Pa ymrwymiad sydd wedi’i gynnig, er enghraifft, i drigolion Butetown yng nghyswllt datblygiad y Bae? Maen nhw’n byw ar gyrion lle chwarae gosmopolitaidd, wedi’i gasglu ynghyd gan wleidyddion heb unrhyw ddealltwriaeth o flaenoriaethau, a dirmyg enfawr at wrando ar y bobl maen nhw i fod yn eu cynrychioli. Mae’r gwahaniad wedi’i adlewyrchu yn nefnydd trigolion lleol o ‘Wal Berlin’ i gyfeirio at y pared sy’n rhedeg ar hyd y trac rheilffordd a’n eu gwahanu wrth Atlantic Wharf.

Byddai’n hawdd, i ddechrau, i gyhuddo Cyngor Caerdydd o fethu’r pwynt, ond maen nhw wedi creu patrwm ymddygiad sy’n ddigamsyniol: cymysgedd o fuddiannau breintiedig, ymarferion amheus, a chwant dybryd i drawsnewid Caerdydd i Fryste neu Lundain Fach yn llawn tyrrau uchel, wedi’i wyngalchu’n ddigonol i chi anghofio pa ddinas ry’ch chi ynddi wedi i chi gamu oddi ar y trên. Mae trigolion Caerdydd yn byw yng nghysgod obsesiwn y Cyngor am gynnydd serch cynnydd – mae datblygiad y ddinas yn gasgliad di-drefn o adeiladau hyll a gwag heb ddim i’w glymu ynghyd, dim byd i ddangos i bobl eu bod nhw yng Nghaerdydd.

Efallai mai’r ffigwr gellir ei gysylltu gryfaf â datblygiad a boneddigeiddio Caerdydd yn hanes ddiweddar y Cyngor yw’r dyn sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf ohono, sef Russell Goodway. Gwleidyddion fel Goodway yw’r math o bobl sy’n dinistrio ffydd y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth fel grym er gwell (heb sôn am y ffath bod Butetown wedi’i dan-gynrychioli beth bynnag). Y peth gwaethaf yw bod diffyg atebolrwydd gan y dyn yn y llefydd y mae wedi bod mor ddylanwadol yn eu creu. Fel cynghorydd ar gyfer ward Trelai, gweithiodd Goodway ei ffordd i’w swyddi fel Prif Weithredwr Siambr Masnach Caerdydd a Gweinidog Datblygiad Economaidd y Cabinet, gan amlygu ei ddyhead i Gaerdydd i fod yn ‘brifddinas Ewropeaidd‘. Mae’n chwerthinllyd i esgus am eiliad bod Caerdydd yn yr un cae â Pharis neu Prague, dinasoedd sy’n cefnogi eu diwylliant a’u hanes ac sydd ar eu hennill o’r herwydd. Yn ddisgwyliedig, fel y mae Goodway’n nodi yn ei erthygl ar drawsnewid Caerdydd i brifddinas Ewropeaidd, nid yw’n gefnogol i’r hyn sy’n digwydd yn y Senedd, gan ei fod yn deall bod llai o ddadgysylltiad rhwng y Senedd a’r cymunedau difreintiedig na rhwng y cymunedau hynny a San Steffan. Pe bai gan drigolion Butetown y Senedd i’w cynrychioli yn 90au pan oedden nhw’n gwrthwynebu adeiladu Atladtic Wharf neu Mermaid Quay (sy’n swnio fel cadwyn yn ei hun), gallai bywyd Mr. Goodway ac eraill fod wedi bod llawer yn fwy anodd: gall datganoli a, Duw a’n gwaredo, atebolrwydd rhanbarthol, wneud dim ond cymhlethu materion i Goodway a’r sefydliad Llafur Cymru sy’n rhedeg Cyngor Caerdydd. Mae gwleidyddion fel Goodway yn anghofio eu bod nhw’n rhedeg Caerdydd er mwyn trigolion Caerdydd, ddim er mwyn y bobl sydd eisiau penwythnos o wyliau dosbarth-canol mewn ‘prifddinas Ewropeaidd’. Ni ellir tanbwysleisio pwysigrwydd bod yn ddeniadol i dwristiaid, wrth gwrs, ond yng Nghaerdydd, y diwylliannau sydd yma’n barod, sydd mor amrywiol a chyfoethog, ddylai’r prif atyniad i fod – nid wyth o dafarndai Wetherspoons ac arena dan-do sgleiniog.

Gadawodd Goodway i gorfforaethau wyngalchu’r Bae, ac fe’u croesawodd â breichiau agored. Pe bai buddsoddiad o dramor yn fetrig cymharol i les pobl mewn llefydd fel Butetown, byddai ganddo Wobr Heddwch Nobel. Mae stripio nodweddion adnabyddus Caerdydd yn ymosodiad parhaol ar ddiwylliant, ac mae gwleidyddion fel Goodway yn cynrychioli’r hyn y mae boneddigeiddio yn ei olygu mewn gwirionedd – tynnu’r penderfyniadau am ddatblygiad a chynllunio’r ddinas wrth y bobl sy’n gweithio i’w adeiladu. Wrth i’r erthygl hon gael ei ysgrifennu, mae Mr. Goodway yn dal i aros am e-bost gan bwyllgor y Wobr Heddwch.

Swyddfa 292m2 office ac 16 o fflatiau wedi’u gwasanaethu does mo’u hangen ar Grangetown

Mae’r Cyngor yn llygadu Tramshed nesaf. Ynghanol yr argyfwng coronafeirws, mewn cyfnod lle mae lleoliadau cerddoriaeth yng Nghaerdydd wedi gorfod cau eu drysau (gweler Gwdiŵ am enghraifft arbennig o drist) ac eraill, yn ddiarwybod i ni ar hyn o bryd, na fydd yn agor eto o ganlyniad i effeithiau economaidd y pandemig, mae’r Cyngor yn tagu’r Tramshed, yn targedu’r lleoliad fel llofrudd, yn ei ddedfrydu i farwolaeth drwy ganiatâd cynllunio. Pe bai’r Cyngor yn cymeradwyo’r cais, fe fyddent i bob pwrpas yn datgan nad yw’r gofod parcio a dosbarthu yn angenrheidiol i weithredu parhaol Tramshed. Bydd y 3,000 o droedfeddi sgwâr yn cael eu llenwi gan swyddfeydd a fflatiau wedi’u gwasanaethu, a fydd, heb os, ymhell heibio’r hyn y byddai rhywun arferol o Grangetown yn medru ei fforddio, gan godi prisiau eiddo cyfagos i’r datblygiad hefyd. Mae Grangetown yn un o gymunedau Caerdydd sydd ar ei hôl hi fwyaf, ac mae angen datblygiad sy’n canoli’r gymuned, yn hytrach na thagfeydd a phroblemau parcio. Ond, fe ymddengys, mae’r bobl sy’n byw yn Grangetown ar waelod y rhestr flaenoriaethau.

Mae posibilrwydd cryf na fyddai Tramshed, yn wag ers mis Mawrth â’u sefyllfa ariannol wedi’i niweidio’n sylweddol wrth ddod allan o’r pandemig, yn gallu gweithredu heb ofod dosbarthu a heb y parcio stryd sydd ar gael ar hyn o bryd ar Stryd Pendyris. Ni fyddai artistiaid sy’n teithio yn gallu dadlwytho offer neu barcio bysiau, a byddai’r gofod ar gyfer dosbarthiadau’n cael ei effeithio’n sylweddol heb unrhyw ofod arall i’w derbyn yn ddiogel: os bydd hyn yn digwydd, mae risg gwirioneddol y bydd yn rhaid i Tramshed gau ei ddrysau, ac fe fydd Signature Living, The Shoreditch Bar Group neu unrhyw un arall o’r buddsoddwyr arbennig sydd gennym yma yng Nghaerdydd yn siŵr o fod yn gwerthu coctêls £8 yno erbyn y Nadolig.

Apêl Undod: sut i wrthwynebu’r cynllun

Mae Undod yn apelio at ei aelodau sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd, yn enwedig y rheiny sydd yn Grangetown, i weithredu yn erbyn y sefyllfa warthus hon. Os nad ydych yn byw yng Nghaerdydd, ond yn adnabod rhywun sydd, rhannwch yr erthygl hon gyda nhw. Mae boneddigeiddio o’r fath heb gydsyniad trigolion sydd eisoes wedi colli eu gofod cymunedol yn sarhaus. Dylai achos Tramshed a’r swyddfa ein peri i feddwl am ein cymunedau ac i bwy y maen nhw’n cael eu rhedeg. Ai’r Cyngor ddylai wneud y penderfyniad, neu ai’r bobl fydd yn gorfod byw gyda’r traffig erchyll a phroblemau sŵn ddylai gael y dewis? Oes yn rhaid i bobl fel Russell Goodway fyw gyda’r llygredd aer y mae ei ddatblygiadau wedi eu cynhyrchu? Mae’r cais cynllunio’n cael ei wrthio ymlaen pan mae pobl yn fwy prysur yn poeni am gadw eu teuluoedd yn ddiogel na threfnu ymgyrch yn erbyn adeiladu’r rhwystr andwyol hwn i weithredu parhaol Tramshed. Ry’n ni, wrth reswm, mewn cyfnod o ymwybyddiaeth wleidyddol gynyddol ar hyn o bryd, ac mewn cyfnod lle mae nifer o bobl a oedd ynghynt wedi’u dadrithio yn teimlo’n rwystredig gyda’r cynllwynion gwleidyddol sy’n rheoli eu bywydau. Dyma gyfle i lansio ymgyrch i wneud gwahaniaeth go iawn.

Dewch i ni ddangos i Gyngor Caerdydd na fyddwn ni’n derbyn eu boneddigeiddio na’u dosbarthiaeth (classism) mwyach. Mae’r cyngor Llafur Cymru eisoes mewn sefyllfa wleidyddol ansicr, ac ni fyddai’n ddoeth iddyn nhw anwybyddu’r cyfalaf gwleidyddol a fyddai’n cael ei golli drwy ddiystyru ymgyrch gan drigolion Caerdydd sydd wedi’u dadrithio ac wedi trefnu’u hunain. Mae yna eisoes bryderon dros symboleiddiaeth yr ymgynghoriad, gyda newidiadau bychan yn unig i’w gweld yn y cais o gymharu â’r diwethaf. Os bydd nifer digonol o wrthwynebiadau’n cael eu derbyn, mae’n gyfrifoldeb ar y Cyngor i weithredu er budd trigolion Caerdydd. Nid yw “Fe glywson ni chi, a dewis peidio gwrando” yn ddigon da.

Mae angen i ni wrthwynebu’r cynnig, sydd yn medru cael ei wneud yma. Os nad yw’r wefan, fel y mae nifer yn adrodd, yn gweithio, cymerwch sgrinlun o unrhyw broblemau sy’n codi. Gallwch anfon y rhain, gyda’r gwrthwynebiad ry’ch chi am ei gyflwyno ar y wefan, i Development.Management@cardiff.gov.uk gan gynnwys y Project ID 17/01744/MJR, a gofyn i gofrestru eich gwrthwynebiad. Yn yr ebost, dylech gynnwys eich manylion cyswllt a’ch cyfeiriad Caerdydd.

Yn eich gwrthwynebiad, ry’n ni’n argymell cyfeirio at yr isod, yn ogystal â nodi pwysigrwydd Tramshed i Grangetown. Mae nifer y gwrthwynebiadau, ac yn fwyaf pwysig 50 o wrthwynebiadau o Grangetown ei hun, yn ein cael i’r cam pwyllgor; ansawdd y gwrthwynebiadau sy’n gosod y seiliau am ymgyrch gref i atal adeiladu’r bloc swyddfeydd:

  • Pe bai’r cynnig cael ei gymeradwyo, byddai diffyg parcio i Tramshed fedru gweithredu. Nid yw’r llefydd parcio presennol yn ddigonol; byddai’r datblygiad hwn yn cael effaith negyddol ar Tramshed, ond hefyd ar bobl sy’n byw ac yn gweithio yn gyfagos. Ni fyddai gan fws teithio, fel y math sy’n cael ei ddefnyddio gan nifer o artistiaid sy’n teithio, unrhywle i barcio ar y strydoedd cyfagos.
  • Pe bai’r cynnig yn cael ei gymeradwyo, mae pryder gwirioneddol ynghylch traffig a thagfeydd ar Stryd Pendyris a Heol Clare. Mewn dinas sy’n ceisio bod yn fwy gwyrdd, gall y cynnig hwn achosi cynnydd sylweddol i ddefnydd ceir ar yr heolydd, a fyddai’n achosi cynnydd mewn llygredd aer a sŵn i drigolion Grangetown – pobl na fydd, mwy na thebyg, yn gweithio yn y swyddfeydd.
  • Pe bai’r cynnig yn cael ei gymeradwyo, bydd llwytho a dadlwytho nwyddau, sydd fel arfer yn digwydd yng nghefn Tramshed, yn amhosib. Nid oes unrhyw safle arall lle gellir llwytho a dadlwytho nwyddau yn ddiogel.
  • Mae’r cynnig yn digwydd yn ystod pandemig byd-eang sydd wedi lladd cannoedd o filoedd o bobl. Nid yw hyn yn adeg deg i fod yn holi barn y cyhoedd ar ddatblygiad o’r fath, a fydd yn anochel yn cael effaith ddifrifol ar Tramshed. Mae Tramshed eisoes yn mynd i gael trafferth wrth ailagor, pryd bynnag fo hynny; bydd y cynnig hwn bron yn sicr yn golygu y bydd yn rhaid iddynt gau. Er budd democratiaeth leol ac atebolrwydd, rhaid i’r cynnig gael ei wrthod.

Dim ond y dechrau yw gwrthwynebu’r cais hwn. Gallai hyn, a dylai hyn, fod yn ddechrau i ymgyrch wedi’i arwain gan y gymuned i frwydro yn erbyn haerllugrwydd y Cyngor, ac i drosglwyddo’r pŵer o’r Pwyllgorau Cynllunio i bobl gweithgar Grangetown. Os derbynnir 50 gwrthwynebiad gan drigolion Grangetown, yna mae’n rhaid i’r cynnig fynd i’r pwyllgor cynllunio, ac fe fydd un o’r deisyfwyr o Grangetown yn cael mynychu i gyflwyno achos y gymuned. Yn ddelfrydol, byddai’r Cyngor yn derbyn llawer mwy na 50 o wrthwynebiadau, a’r rheiny yn dod o Gaerdydd gyfan. Ry’n ni am i Gyngor Caerdydd deimlo’r sarhad y mae trigolion Caerdydd – y rhieny y mae’r Cyngor i fod i warchod eu buddiannau a’u lles – yn ei deimlo dros y posibilrwydd o Gwdihŵ arall, a thros achos arall o’r hyn sydd er lles y cyhoedd yn cael ei drechu er budd rhyw ddatblygiad corfforaethol.

Dyddiad cau

Dyddiad cau cyflwyno sylwadau yw dydd Iau, Mehefin 11eg 2020.

Dysgu mwy

Os hoffech wrando ar gynnwys deifiol, sy’n peri rhywun i feddwl, am ddinas Caerdydd, gwrandewch ar ‘The Right to the City: Cardiff’, podlediad o ddyddiau cynnar Desolation Radio ar Spotify neu Soundcloud:

Os hoffech wybod mwy am gymuned anhygoel Grangetown, dilynwch @grangecardiff ar Twitter.

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.