Cyhoeddiwyd yn wreiddiol gan Dolan

Ni ddylai bwriad Northwood Hygiene i gau y ffatri bapur ym Mhenygroes synnu unrhyw un. Bu’r lle dan fygythiad cyn hyn, ond llwyddodd o oroesi. Ond ymddengys mai COVID-19 fydd yr hoelen olaf yn yr arch, yn ôl y perchnogion. Pa mor wir yw hyn?

Dyma yr hyn oedd gan y cwmni i’w ddweud wrth ddatgan eu bwriad i gau ar Fai 26:

“As part of a strategic review of business operations, given the rapidly changing landscape and market conditions, the Directors of Northwood Hygiene Products Ltd regret to announce the proposed closure of the Penygroes manufacturing facility, located in North Wales. This proposal affects 94 employees. As part of the review, various alternative options were considered, but the contraction in market demand as a consequence of Covid-19, and the subsequent significant fall in current and forecasted sales volumes has led to this very difficult decision being made.”

Felly bai y diffyg galw ydi’r rheswm, o ganlyniad i COVID. Ond ‘roswch funud.

Onid papur tŷ bach oedd y peth mwyaf poblogaidd ddeufis yn ôl, gyda pobl yn ymladd drosto? Efallai mai’r diffyg galw mewn canolfannau cyhoeddus yw’r rheswm. Ond nid yn ôl y cwmni ei hun. Mae pencadlys Northwood Hygiene yn Telford.

Ar Ebrill 9ed, dywedson nhw wrth ei papur lleol, y Shropshire Star, fod busnes yn ffynnu:

“Demand for our paper products has rocketed, especially that for toilet roll. In order to meet the current level of demand, staff continue to work 24/7 and many are working significant overtime,” says Northwood marketing manager Paul Mulready.

“We have recruited many new workers at our consumer division, Freedom Paper Products.”

Dyna brofiad y gweithwyr ym Mhenygroes hefyd, doedd y ffatri yno erioed wedi bod mor brysur ar ddechrau’r argyfwng.

Mae Northwood Hygiene wedi sicrhau cytundeb efo DEFRA i gyflenwi papur toiled fel rhan o becynnau bwyd y llywodraeth, ac maent yn hyderus ynglyn â’r dyfodol.

“Longer term there will be a step-change in people’s attitudes to hand hygiene and hygiene in general. Here at Northwood, we will continue to help educate people and provide the product ranges for people to maintain a hygienic lifestyle.”… “We finished 2019 on a high, and the first few months of 2020 continued to show strong growth in all channels,” Paul says.

Yn yr erthygl, mae Paul hefyd yn brolio ymrwymiad y cwmni i gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, mwy na thebyg tra’n cynllunio i dorri 94 o swyddi ym Mhenygroes.

Mae trosiant y cwmni wedi cynyddu yn flynyddol ers 2015, gan ddyblu mewn pedair blynedd i gyrraedd £99 miliwn erbyn diwedd 2018. Gwelodd y cwmni ei elw gweithredol yn dyblu rhwng 2017 a 2018. Mae hyn wedi galluogi y cwmni o Telford i fynd ar sbri yn ystod y blynyddoedd diweddar. Yn wir, gwariodd swm saith ffigwr ar ddau beiriant yn safle Telford yn 2017, a llynedd, buont yn cael gafael ar/ perchnogi cwmniau yn Chesterfield, Oldham a Sbaen, gyda’r cyfan yn gwthio Penygroes yn is ar eu rhestr blaenoriaethau.

Mae’n wir nad oes ateb hawdd i hyn, ond un ohonynt yn bendant yw osgoi trosglwyddo symiau mawr o arian i gwmniau preifat i’w denu i deyrnasu yn y tymor byr. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio efo undebau, y gymuned leol, yr awdurdodau a’r asiantaethau i osod sylfeini perchnogaeth leol ar y safle.

Yn y tymor hir, rhaid i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu buddsoddi mewn perchnogaeth gweithwyr neu gymuned, cael amrywiaeth mewn economiau lleol, a rhoi’r gorau i gefnogi cyfalafiaeth remp.

Llun gan Hedydd Ioan

Un ateb ar “Lawr y pan? Mae angen model arall ar weithwyr ffatri Penygroes”

  1. If this factory can produce high quality toilet paper and possibly other paper products, then we should consider it just the sort of strategic asset Cymru will need in the independent self-sufficient future ahead. Of course, it should be rescued and upgraded. It is one outlet for new timber and hemp industries, part of the downstream processing we should encourage internally. The capacity for special papers, sanitary products, wrapping paper and others should be developed. Why import when we can employ our people in our country? Just more imagination required.

Mae'r sylwadau wedi cau.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.