Mae Bywydau Duon O Bwys. Datganiad

Delweddau gan youtookthatwell

1. Y Feirws Cyfalafol

Pan ddaeth gwir natur argyfwng Coronafeirws i’r amlwg yn y Deyrnas Gyfunol, gellid fod wedi maddau i rywun am gymryd yn ganiataol ei fod yn arwyddocau ergyd dirfodol i’r drefn economaidd ryngwladol, fel ag y mae. Wrth i’r wlad ddechrau deall y brwydrau yr oeddem ar fin eu hwynebu, siawns y byddem yn gweld y goleuni, gyda methiannau’r Ceidwadwyr Prydeinig, a pholisiau cyni a chyfalafiaeth yn gyffredinol yn dod yn bur amlwg ac yn ddiymwad? Siawns hefyd na allai offer y cyfryngau gwleidyddol sy’n cynnal yr uniongrededd hwn gystadlu â phrofiadau’r degau o filoedd o bobl sy’n marw o’n cwmpas, gyda chymdeithas fel yr ydym yn ei hadnabod yn peidio â gweithio, a gwrthddywediadau cyfalaf a sylwyd arnynt ers tro yn cyrraedd eu terfyn. Am unwaith, a yw’n bosib ein bod yn iawn i gyfateb gobaith ein dealltwriaeth â’n hewyllys?

Ar gychwyn y drychineb hon, roeddem yn cael ein boddi gan awgrymiadau a oedd yn datgan nad oeddem ond yn ailfyw dirwasgiadau blaenorol neu argyfyngau cyfalafiaeth eraill tebyg, ond yn hytrach yn wynebu rhywbeth llawer iawn mwy difrifol ac oesol. Eto, er yr  angen ymddangosiadol ar gyfer newid arwyddocaol i’r ffordd yr ydym yn byw er mwyn goresgyn y bygythiad difrifol hwn i gymdeithas, diflannodd unrhyw synnwyr o frwdfrydedd rhag-chwyldroadol yn gyflym. Daeth grym llwyr arfau ideolegol y wladwriaeth – a difaterwch didrugaredd ei warchodwyr presennol – yn amlwg yn ddigon buan, ac yn yr un modd ein hanallu ninnau i’w wrthsefyll.

Wrth i gadw pellter cymdeithasol, cyfyngiadau symud gorfodol gan y llywodraeth a marweidd-dra economaidd ddod yn realiti, ymddengys i bopeth o fewn y diwylliant Prydeinig ddod i stop. Yn y foment hon, nid oes dim yn digwydd neu’n gallu digwydd, ac ymddengys nad ydym yn gallu damcaniaethu tu hwnt i’r stasis. Mae’r cynigion ar ymateb yn edrych yn aruthrol o debyg i’r rhai a gynigiwyd i’r trychinebau sydd wedi bod. Unwaith eto, ymddengys ein bod yn awyddus i droi at nostalgia, at ymostwng, at adfywiad o ffurfiau marw o anghydsynio.

Fel yr ysgrifennodd Nick Srnicek ac Alex Williams yn Inventing the Future, mae hyn yn gyffredin i’r fath argyfwng, ac ‘wrth i argyfyngau godi cyflymder a grym, mae gwleidyddiaeth yn crebachu ac yn encilio. Yn y parlys hwn o’r gwleidyddol ddychmygol, mae’r dyfodol wedi’i ganslo.’ [2] Yr oll sy’n bodoli yn y presennol bythol hwn yw’r frwydr i osgoi angau, amddifadedd neu unrhyw drallod arall o’r nifer a esgorwyd gan y feirws. Y gorffennol yw’r oll y gall Prydeindod ei fynegi, ac os oes dyfodol am fod y tu hwnt i’r Feirws, ni all diwylliant Prydeinig ddychmygu’i hun yn rhan ohono.

Wrth gwrs, mae’r rhesymau presennol dros y parlys cymdeithasol hwn yn hollol ymarferol. Ar hyd a lled y Deyrnas Gyfunol rydym naill ai yn brysurach nag erioed yn y gwaith (er wrth gwrs nid yw’r faich hon wedi’i ddosbarthu yn gyfartal ymysg dosbarthiadau gwahanol), wedi’n hynysu adref, neu fel arall wedi’n hanalluogi wrth ddelio ag effeithiau’r Feirws. Beth bynnag yw’r amodau personol, nid yw’r mwyafrif llethol ohonom yn eiddo ar yr amser na’r egni i ddychmygu neu ymladd ffordd allan o amodau gwleidyddol enbyd ein helynt.

Mae’r stasis diwylliannol hwn yn llawer iawn dyfnach nag ymateb blinedig i argyfwng unigol, a dylid ei weld fel apotheosis deugain mlynedd o gyflyrru cymdeithasol neoryddfrydol, a elwir yn aml yn ‘realaeth gyfalafol’. Dychmygwyd ‘relaeth gyfalafol’ gan Mark Fisher fel ‘y gred sydd i’w gael nid yn unig mai cyfalafiaeth yw’r unig system wleidyddol ac economaidd ymarferol, ond hefyd ei bod erbyn hyn yn amhosibl hyd yn oed dychmygu dewis arall cydlynol iddi.’[3] Dyma oedd ein cyflwr cyn argyfwng coronafeirws, ac er brys y sefyllfa, y man lle y safwn o hyd.

‘Gorwel y dychymyg’ [4]

Er y bygythiad dirfawr mae cyfalafiaeth yn ei wynebu ar hyn o bryd, dylai’r diffyg symud yn ystod yr argyfwng hwn brofi bod cyfalafiaeth yn rhyfeddol o hyblyg ac addasadwy i’r fath ergydion i’w fecanwaith. Mae diwedd ymddangosiadol realaeth gyfalafol yn cael ei esgor ers bron i ddegawd, ac eto fel y dywed Matt Colquhoun ‘mae dal ffordd i fynd: nid yw pwyntio bys at fethiannau cyfalafiaeth yn gwneud dim os nad yw’n llenwi’r bwlch hwnnw (a’n un ninnau) â ffyrdd amgen o weithredu.’

Nid oes yr un canlyniad byr dymor o’r argyfwng hwn yn anghyfarwydd i ni: nid oes angen dweud wrth ddinasyddion gwladwriaeth Aberfan, Hillsbrough a Grenfell yr hyn sy’n digwydd pan mae’r wladwriaeth esgeulus honno yn gwadu ei chyfrifoldeb neu ddyletswydd i ofalu am ei dinasyddion. Yr unig wahaniaeth o bosib yw graddfa syfrdanol y drychineb hon. Ymddengys felly fod y diffyg atebion amlwg, neu hyd yn oed strategaethau ar gyfer ymladd yr achosion ac effeithiau y mae’r Feirws wedi ei ryddhau, yn awgrymu unwaith eto nad ydym am newid y modd yr ydym yn byw ar ein liwt ein hunain – mewn modd digon radical i allu ymateb i hyn neu unrhyw gwymp cymdeithasol arall a allai fod yn dyfod (yr argyfwng hinsawdd y pennaf yn eu mysg). Fel y dywed Colquhoun:

‘Y gwir, fel mae’r tair mlynedd ddiwethaf wedi ein dysgu ni, yw nad oes terfyn i realaeth gyfalafol – mae’n addasu i’r cyfnod, fel yr ydym ni o dan ei ddylanwad.’

Yr esboniad mwyaf eglur o’r ‘gallu i addasu’ hwn yw nad oes dim byd y tu hwnt i ymadferiad (recuperation) y wladwriaeth gyfalafol, er gwaethaf popeth. Hynny yw, mae’r system economaidd sy’n llywodraethu pob elfen o’n bywydau yn hynod fedrus wrth gymryd yr hyn sy’n ymddangosiadol elyniaethus iddo – protest, anghydsynio artistig, ffyrdd amgen o drefnu ac yn y blaen – a thrawsnewid ei ystyr i’r fath raddau fel ei fod yn cryfhau hegemoni yr hyn yr oedd yn ceisio ei herio.

Mae pob ystum sydd i’n bywyd yn cael ei blygu drwy brism cyfalaf: mae’n aralleirio pob syniad a gweithred posib, hyd yn oed yr hyn sy’n ôl pob golwg yn gamwedd yn ei erbyn. Dywed Marx: ‘Mae natur unigolion yn dibynnu ar y cyflyrau materol sy’n penderfynu ar eu cynhyrchiant’ ac felly ‘mae’r syniadau sy’n arglwyddiaethu yn ddim byd mwy na mynegiant delfrydol o’r perthnasau materol dominyddol.’ Mae bywyd i gyd yn israddol i gynnyrch cyfalafol, ac felly mae pob briwsionyn o ymddygiad dynol yn cael ei gymhathu ynddo.

Yn ôl Marcuse, mae’r broses hon o gymhathu yn trawsnewid ‘gweithiau ymddieithriad’ fel eu bod ‘yn cael eu hymgorffori i’r gymdeithas hon ac yn cael eu cylchredeg fel rhan hanfodol o’r cyfarpar sy’n addurno ac yn seicdreiddio cyflwr y sefyllfa cyffredinol’ [5]. O ganlyniad, mae unrhyw fodd o anghydsynio ‘wedi eu hamddifadu o’u grym gwrthwynebol, o’u dieithriaid sef yr union ddimensiwn o’u gwirionedd’ [6]. Gyda hyn mewn golwg, mae modd gweld sut mae unrhyw strategaethau eginol ar gyfer goresgyn canlyniadau arhosol y Feirws, yn hytrach na chael eu gohirio ganddynt, wedi eu cymhathu yn gyflym gan actorion y wladwriaeth a waethygodd neu a achosodd hwy yn y lle cyntaf.

Mae modd i ni weld o’n cwmpas dystiolaeth o’r cymhathiad hawdd hwn gan y wladwriaeth, a hyblygrwydd ein diwylliant a’n dynoliaeth o dan gyfalafiaeth. Ar hyd bob cam o’n hymgais i ddeall ac i ymyrryd yn yr ymateb gwleidyddol i’r argyfwng, mae Josie Sparrow yn dweud ein bod yn gallu gweld sut mae ‘cyfalafiaeth wedi ymfyddino’n barod i geisio amsugno’r don hon o radicaliaeth bob-dydd i’w llwybr ei hun’.

Sylwer, er enghraifft, ar gyflymder y modd y mae termau a chysyniadau megis ‘cydgymorth‘ a ‘chydsefyll’ wedi eu dwyn oddi ar y cyhoedd a’u defnyddio gan y wladwriaeth, neu’r ffenomen berthynol o glapio i weithwyr iechyd. Newidwyd yr hyn a ddechreuwyd yn gymharol naturiol, yn gyflym ac yn gyfrwys, i sioe a hwyluswyd gan y wladwriaeth, nad oedd yn cynrychioli dim y tu hwnt i’w oddefoldeb: ystum erchyll o wag pan mae gweithwyr iechyd yn erfyn am gymorth gan y llywodraeth. Efallai ei fod yn ymddangos fel bod yr argyfwng yn symud yn araf, ond mae mecanwaith y wladwriaeth yn symud yn gyflym i gyfyngu unrhyw anghydsynio.

Eto mae yna gynsail diweddar i hyn. Yr ydym yn gweld ailgyfansoddi’r ‘gymdeithas fawr’ a welwyd gan glymblaid y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol o ddechrau’r 2010au, a wnaeth, o dan haenen denau gysurus, ddatgan i’r cyhoedd fod y wladwriaeth gymdeithasol wedi’i chyfyngu, a bod rhaid i bawb ymladd drostynt eu hunain mewn gwlad a oedd ond yn caniatau i’r mwyaf breintiedig lwyddo. Ceir atseiniau hefyd o’r ymateb adweithiol i derfysgoedd haf 2011, lle daeth cymunedoliaeth i olygu moethusrwydd dosbarth canol (rhagflaenydd yr ymgyrch chwydlyd ‘clean for for the queen‘) tra’n dawel obeithio y byddai’r fyddin yn cael eu gorchymyn i roi’r isddosbarth (oedd yn aml wedi’u hiliaethu) nôl yn eu lle.

Sylwer hefyd pa mor hawdd mae ein modd ‘newydd’ o fyw wedi’i fasnacheiddio, yn ystod cyfyngiadau symud. Nid yw banciau na chwmniau cyfathrebu wedi gwastraffu unrhyw amser yn stribedu hysbysebion wedi’u hysbrydoli gan y cyfyngiadau yma, gyda phob egwyl hysbysebion nawr yn glytwaith o sgrinau ap sgwrsio arlein. Mae’r ffurf benodol o lafur ynysig sy’n dod o weithio o adref wedi’i drawsnewid i nwydd y gellid ei werthu, gyda dyfodiad platfform Zoom dros nos fe ymddengys yn dangos sut mae’r argyfwng yn gallu bod yn hynod broffidiol – i’r rheiny mewn safle i fod yn eiddo ar yr eiddo deallusol neu’r modd cynhyrchu iawn.

Mae byw gyda’r Feirws hefyd wedi datblygu dimensiwn esthetaidd penodol: wedi’i gynorthwyo gan system wobrwyol y cyfryngau cymdeithasol, mae pobl yn perfformio’r argyfwng – pobi bara, creu sgetsys, chwarae gemau, creu tameidiau o’u bywyd y gellid ei rannu – chwarae eu rhan yn y broses o masnacheiddio lle, fel y dywed Steven Shaviro:

‘Nid yw cyffro neu deimladau esthetaidd bellach yn ddiduedd, oherwydd maent wedi cael eu hailffurfio fel arwyddion o hunaniaeth bersonol’, ‘wedi’u trawsffurfio i ddata’, ‘wedi’u ecsbloetio ar ffurf llafur, a’u marchnata fel profiadau newydd a dewisiadau bywyd cyffrous’.

Mae hyn hefyd, wrth gwrs, ag elfen o ddosbarth iddo: yn yr un modd a bywyd cyn y feirws, mae amser hamdden yn nwydd prin sydd ond yn eiddo i rhai pobl, felly wrth i bobl gwyn dosbarth canol ennill yr hawl i fod y fersiwn gorau o’u hunain, mae pobl dosbarth gweithiol yr un mor brysur ac yn cael eu gorweithio cyn gymaint ag erioed, yn llafurio yn y sector iechyd, yn cludo parseli, yn llenwi silffoedd archfarchnadoedd ac mewn sawl swydd ansicr eraill isel eu tâl.

Nid yw hyd yn oed y masnacheiddio hwn o’n diflastod ein hunain yn rhywbeth newydd: mae Mark Fisher wedi disgrifio sut mae’r hyn yr oeddem yn arfer ei ddisgrifio fel ‘diflastod’ wedi ei drawsnewid i gyniliad o’n gallu cyfyngedig i ganolbwyntio, lle mae:

‘Yn hytrach na gosod sioe dawelol arnom, mae corfforaethau cyfalafol yn mynd allan o’u ffordd i’n gwahodd i gymryd rhan, i gynhyrchu ein cynnwys ein hunain, i ymuno â’r drafodaeth. Erbyn hyn, nid oes rheswm na chyfle i ddiflasu. Rydym yn symud yn ddiderfyn ymhlith y diflas, ond mae ein system nerfol wedi’i gyffroi gymaint fel nad oes gennym y moethusrwydd o deimlo’n ddiflas. Nid oes neb wedi’u diflasu, mae popeth yn ddiflas.’ [7]

Mae adnabod y nodweddion bywyd hyn gyda’r Feirws yn dangos nad yw’r rhain yn ffenomenâu newydd, ond yn hytrach yn symptomau aciwt o nodweddion cyfalafiaeth a oedd yn bodoli eisioes. Felly, i ddeall yr argyfwng yn iawn, mae’n rhaid i ni astudio’r modd mae’r weithred hon o ymadferiad yn perthyn i’r ymryson rhwng y bobl a’r wladwriaeth, a datblygu dealltwriaeth o’r modd mae’r wladwriaeth gyfalafol ryddfrydol yn gweithredu, yn enwedig mewn adeg o argyfwng. Fel y nododd Owain Hanmer, mae’r ffaith fod y cysyniadau hyn yn cael eu cymhathu gan y wladwriaeth ynddo’i hun yn arwyddocau eu methiannau, yn y modd ‘nad yw’n rhyfedd fod llawer yn mwyaf sydyn yn hyrwyddo syniadau ac arferion sosialaeth (ac hyd yn oed anarchiaeth)’ achos ‘bydd hyd yn oed yr unigolyddwyr mwyaf cynddeiriog… yn dibynnu ar gymdeithasiaeth, cydweithrediad pobl a chydgymorth.’ Ac felly mae’n glir nawr ‘bod eu safle ideolegol ar y pwynt hwn yn chwerthinllyd ac yn gwbl annaliadwy.’

Eto mae mudiad torfol yn erbyn y safiad ideolegol anghynaliadwy hwn yn ddigalon o bell. Achos yn y pen draw, mae cyfalaf a’r wladwriaeth yn cynnal monopoli ar gynhyrchu ystyr i’r graddau y daw gweithredoedd tramgwyddus yn ystumiau y gellid eu defnyddio i gynnal uniongrededd gwleidyddol: y ‘rhag-ymgorffori” o ‘ddeunyddiau a oedd ynghynt fel petaent yn cynnwys posibiliadau chwyldroadoll’, sy’n arwain at ‘fformatio rhagbrynol ac ailffurfio o ddyheuadau, uchelgeisiadau a gobeithion gan ddiwylliant cyfalafol’.[8] Felly mae modd i ni fynegi ein hunain mewn modd lluosog yn erbyn gweithredoedd barbaraidd y llywodraeth, ond nid mewn modd sy’n anghydsynio yn erbyn methiant y wladwriaeth, dim ond gwneud yn iawn am y diffygion, heb herio’r rhesymau am y methiant hwnnw.

Dyma’r rheswm pam na allwn ni feddwl tu hwnt i’r argyfwng: mae’n argyfwng cyfalafol, yn wir mae’n argyfwng hanfodion cyfalafiaeth, eto nid oes dim y gellid ei ddychmygu y tu hwnt iddo na chwaith unrhyw bosibilrwydd dymchwelol y tu fewn iddo. Yr ydym yn gweld yr un pethau, yr un patrymau ac y gwelwn mewn unrhyw argyfwng. Yr unig broses yw un o dlodi araf: cyfalafiaeth drychineb, Bezosiceiddio ein holl lafur a’n hadnoddau, a bywyd o dan lywodraeth Prydain Doriaidd yn cyrraedd terfynau erchyll ac abswrd. I ddechrau roedd gennym drasiedi llymder, nawr cawn ffars y Feirws.

Yr ydym wedi gweld sawl enghraifft o bobl yn dod ynghyd i helpu ei gilydd yn ystod y cyfnod astrus hwn. Ond eto, rydym wedi’n rhwystro rhag troi’r ymdeimlad hwn i ddibenion sydd yn chwyldroadol: mudiad torfol o bobl sy’n meddu ar y gallu i adrodd ffaeleddau gweithredoedd y llywodraeth, gan symud i wneud rhywbeth amdanynt. Gwelwn awch am gymunedoliaeth yn gwrthdaro â rhesymeg ddiwylliannol neo-ryddfrydiaeth. Mae rhaid i ni yn awr hefyd arsylwi y ffyrdd penodol y mae’r ffenomenau rhyngwladol hyn yn ymgorffori eu hunain trwy weithredoedd y genedl-wladwriaeth gyfalafol, yn enwedig y wladwriaeth Brydeing sy’n dirywio yn derfynol.

2. Y Feirws Cenedlaethol

Mae modd i ni weld felly broses o ymadferiad – o atal a chymhathu bygythiadau i gyfalaf – sy’n arwyddocaol o allu y genedl-wladwriaeth i ail-raddnodi, adfywio ac ailffurfio ei hun yn achos argyfwng, gan gymryd yr hyn sy’n ei fygwth ac nid yn unig ei wrthsefyll, ond i ymgorffori ac ailbwrpasu’r union fygythiadau hynny. Mae hyn hefyd yn egluro’r modd y mae’r llywodraeth Brydeinig wedi cynnal cydsyniad digonol ar gyfer eu rhaglen hyd yn hyn, er ei fod yn amlwg yn dadfeilio.

Y tensiwn rhwng cymunedoliaeth naturiol ac unigoliaeth peirianyddol (sydd yn gweithredu fel modd o ddargyfeirio bai o’r wladwriaeth i’w phoblogaeth ynysig) yw’r ffurf ddiweddaraf o’r broses hon. Mae’r llywodraeth wedi llwyddo i drawsnewid egwyddorion naturiol o ‘ryng-gysylltedd a chyd-ddibyniaeth… sy’n gyfrwng i gyd-greu ein gilydd’ – sy’n sefyll mewn cyferbyniad llwyr i ddegawdau o ddogma ‘newid enaid’ neoryddfrydol – i’r hyn sy’n ei wrthwynebu; yn hytrach nag anghydsynio yn erbyn ymateb annigonol y llywodraeth, y mae’n ei gefnogi ac yn ei gymeradwyo.

Mae’n rhaid cydnabod fodd bynnag fod y wladwriaeth gyfalafol ryddfrydol yn straffaglu fwyfwy i gynnal y setliad hwn. Mae’n bwysig deall neoryddfrydiaeth fel proses, yn hytrach nag ideoleg statig, yn yr un modd mae David Harvey yn nodi fod ‘cyfalafiaeth yn broses ac nid yn beth’ [9]: yn ei hanfod mae’n cynnwys elfen amserol. Felly, yn ei brosiect llinellol o breifateiddio ac o liniaru ar ddefnyddioldeb y wladwriaeth – ‘dinistr creadigol’ [10], fel y’i gelwir gan Harvey – mae’n cynnwys gwrthddywediad paradocsaidd hanfodol, sef ei fod yn dibynnu ar ei Arall amserol – hanes a chof torfol o’r hyn sy’n wrthun iddo – er mwyn gweithio.

Felly er nad yw’r wladwriaeth gymdeithasol yn bodoli, yn nhermau offer ideolegol y wladwriaeth neoryddfrydol rhaid iddi weithredu fel petai’r wladwriaeth gymdeithasol honno’n dal i fodoli er mwyn ennill cydsyniad ar gyfer yr hyn sydd, yn ei hanfod, yn hunan-ddinistr. Mae sawl modd mae’n ceisio gwneud hyn – annog defnydd o elusen, dibynnu ar y cyfryngau i wireddu eu hamcanion iddynt, allanoli cynhyrchu i’r (ac manteisio ar adnoddau) byd mwyafrifol, ac yn y blaen – ond yn y pen draw mae’n dibynnu ar adnoddau meidrol, ac y bydd yr enillion yn ostyngol bob tro: y broblem gyda crebachu’r wladwriaeth yw fod yna derfyn ar yr hyn y gelllid ei breifateiddio.

Dyma yw canlyniad rhesymegol y rhaglen neoryddfrydol: mae’r wladwriaeth wedi’i chrebachu y tu hwnt i’w gallu i weithredu hyd yn oed yn nhermau mwyaf cyntefig ei gredinwyr pennaf, eto pan welir canlyniadau hyn mae dal yn rhaid i’r wladwriaeth gyfalafol weithredu fel bod modd defnyddio adnoddau y wladwriaeth os yw am lywodraethu a chynnal hegemoni. Argyfyngau fel yr un presennol sy’n amlygu’r ffenomen hon fwyaf.

Mae’r cyhoedd – sydd wedi eu hatomeiddio, eu unigolyddu a’u hynysu – yn ddibynnol ar drugaredd gwladwriaeth les sydd prin yn bodoli, a gwaethygir hyn mewn argyfwng sy’n dibynnu ar fobileiddio eang o adnoddau os yw am gael ei drechu, o’r math y gellid ond ei gael yn y gorffennol gan dadolaeth y wladwriaeth gyfalafol. Fel y mae Umut Ozkirimli yn ei nodi, efallai nad yw pobl ‘yn genedlaetholwyr fel y cyfryw, yn bendant ddim o’r math senoffobig cul yr oedd gan Farage mewn golwg, ond rydym i gyd yn “genedlaethol” wrth edrych at ein gwladwriaeth penodol am gymorth’ [11]. Uwcholeuir felly realiti parhaus:

‘ein bod yn ddinasyddion sy’n cael eu hatgoffa’n benodol mai’r wladwriaeth genedlaethol yw’r unig sefydliad sy’n gallu mobileiddio a dosbarthu’r adnoddau sydd eu hangen i frwydro bygythiad mor anferth. Nid yw’r wladwriaeth genedlaethol na chenedlaetholdeb yn mynd i ddod yn ôl, gan nad ydynt wedi mynd yn y lle cyntaf. Gall cenedlaetholdeb – yr ideoleg – godi neu ddisgyn yn unol â grym disgyrchiant gwleidyddiaeth; y wladwriaeth genedlaethol – y sefydliad – yw’r angor disgyrchol sy’n penderfynu ar wleidyddiaeth.’ [12]

Dyma’r grym mae’r wladwriaeth yn ei ddal, er gwaethaf popeth. Y mae naill ai’n dal yr allweddi i isadeiledd ‘gyhoeddus’ (i’r graddau mae dal yn bodoli) neu’n gallu hwyluso llif cyfalaf breifat gan ddal ein diogelwch fel gwystl. Gall llywodraethau fanteisio ar y ddibyniaeth gyhoeddus hon yn hawdd trwy ei sianeli i ffurf o genedlaetholdeb, un sy’n celu unrhyw oblygiadau o waredu yr angen hwn am wladwriaeth o fewn cyfalafiaeth ryngwladol yr 21G.

Felly mae yna gyd-ddibyniaeth ar fecanwaith y wladwriaeth – neu o leiaf yr atgof ‘hawntiolegol’ o’r modd mae gwladwriaeth gyfalafol i ‘fod’ i weithredu – er mwyn goroesi. Dyma’r rheswm pam y bydd neoryddfrydwyr o hyd yn dibynnu ar, ac yn troi tuag at genedlaetholdeb asgell dde ac awdurdodiaeth, fel y gwelwn ar draws y byd: hyn yw’r oll sydd ganddynt yn weddill, gwacter o ymdeimlad cenedlaetholgar i’w lenwi a mythos a llywodraethiant or-real, yn absenoldeb ffyrdd hen ffasiwn o orfodaeth. Mae rhyddfrydwyr felly’n gaeth rhwng derbyn eu bod wedi methu, a chaniatau i genedlaetholdeb asgell dde awdurdodaidd nad ydynt yn gallu ei reoli fel modd o ymryddhau eu hunain. Fel yr ysgrifenna Dan Evans am ymateb y wladwriaeth Brydeinig:

‘Mae’r dde, fel arfer, yn dangos gwell gafael mewn pŵer a natur yr argyfwng na’r canol rhyddfrydol. Maent yn amlwg yn sylwi eu bod mewn brwydr a bod eu hegemoni o dan fygythiad. Dyna pam eu bod yn ceisio’n ddiderfyn yn eu hymdrechion i ddadwleidyddoli’r argyfwng, i ddefnyddio amser Boris yn yr uned gofal dwys fel arf propoganda, i symud bai, i wasgaru cyfrifoldeb, i apelio at genedlaetholdeb drwy ddefnyddio iaith o aberthu – ‘we are all in this together’. Wedi’r cwbl, dyma Lywodraeth sy’n brofiadol mewn brwydro rhyfeloedd diwylliannol er mwyn cael pobl i’w cefnogi.’

Mae’r ffyrdd penodol mae gwladwriaethau unigol yn ymladd y ‘rhyfeloedd diwylliannol’ hyn er mwyn atgyfnerthu eu grym mewn adegau o argyfwng economaidd yn dibynnu ar natur benodol y mythos genedlaethol(gar) maent yn gallu manteisio arno, oherwydd y manylion cenedlaethol-daearyddol-hanesyddol hyn yw’r unig bethau sy’n weddill gan y wladwriaeth ryddfrydol er mwyn atal ton o ffasgiaeth fel ymateb i annhegwch sydd wedi’i ymwreiddio.

Myth cenedlaethol a’i ddefnydd

Mae gan bob cenedl-wladwriaeth ei ddulliau idosyncrataidd o ddefnyddio’r mythos a’r hanes genedlaethol er mwyn cymell ei phobl ac i straffaglu i gadw olwynion cyfalaf (rhyng)wladol i droi. Caiff hyn yn ei dro ei fewnoli gan y cyhoedd – sydd wedi eu hesgeuluso ac sy’n anobeithio – fel ffordd o ymdopi. Y dull arferol yw ymateb cyfunol, un sy’n croesddweud gwir natur rôl y llywodraeth mewn cyfryngu y statws cwo cyfalafol, ac sydd wastad wedi’i ymadfer yn barod gan y wladwriaeth.

Gwelir er enghraifft, ymateb yr Unol Daleithiau i ddigwyddiad 9/11, efallai’r unig gynsail arall i’r argyfwng coronafeirws yn yr ystyr o fod yn ddigwyddiad rhyngwladol weledol, ‘digwyddiad absoliwt’ [13] a ysgwydodd anian yr economi neoryddfrydol. Drwy fewnoliad y mythos Americanaidd wedi’r rhyfel o’r diwylliant prynu dilyffethair, anogwyd Americanwyr cyffredin i roi eu hofnau i un ochr ac i barhau i siopa a mynychu bwytai gan y wladwriaeth fel gweithred gwladgarol a fyddai’n cadw’r economi Americanaidd rhag suddo. Dyma bellach yw’r ymateb lluosog ‘cenedlaethol’ cyffredin ar gyfer ymosodiadau terfysgol ar draws y Gorllewin ers dau ddegawd: gweithred difeddwl o stoiciaeth, ffurf ar ‘normalrwydd’ sydd wedi ei ffetisheiddio sy’n gosod anghenion cyfalaf yn uwch na amddiffyn bywydau.

Fel y byddai un yn ei ddisgwyl o fythos cenedlaethol mor barhaus, mae modd gweld atseiniau ohono yn yr ymateb i’r Feirws, eto yn ei ffurf mwyaf amlwg yn America, ond hefyd ar draws y byd lleiafrifol yn fwy cyffredinol: dinasyddion yn protestio ar gyfer eu hawl i weithio a chyfrannu i’r economi, i ‘beidio â gadael i’r feirws ennill’, er y niwed amlwg i iechyd unigolion. Yn y modd hwn, mae cenedlaetholdeb yn gweithredu fel rhyw fath o Syndrom Stockholm neu gwlt cargo eang mewn adegau o argyfwng, un sy’n echdynnu syniadau ynghylch cyd-gyfrannogi i ffwrdd o undod, a’u trosi er mwyn homogeneiddio anghenion dynol, fel eu bod yn dorf diwreiddiedig, lle mae cyfryngu ‘perthynas gymdeithasol ymysg pobl’ [14] – hynny yw, sioe cyfalafiaeth – yw’r unig nod cymdeithasol sydd werth ei ystyried. Nid oes dim yn tanlinellu creulondeb o’r modd yr ydym yn byw ar hyn o bryd yn fwy perfeddol na hyn: yr ydym i gyd yn elwa o ‘gadw’r economi i fynd’, er ei fod yn gosod pob un ohonom mewn perygl o ddal salwch difrifol neu farw neu gyfrannu yn uniongyrchol at ddioddefaint eraill.

Yn y dull hwn mae syniadau ynghylch undod a chydgymorth yn cael eu gwrthdroi o ymwybyddiaeth o ofal cymrawdol dros fod dynol arall, a thuag at ‘ddyletswydd cenedlaethol‘ sy’n troi’r sylw yn ôl at ymddygiad unigolion yng ngwasanaeth y Genedl. Daw hyn fel arfer mewn dwy ffurf: mae unigolion naill ai’n cael eu canmol am eu gweithredoedd unigol o arwriaeth aberthol (doctoriaid, nyrsys, athrawon ac yn y blaen) i guddio’r ffaith eu bod yn weithwyr mae eu diogelwch yn cael ei esgeuluso gan y llywodraeth; neu i’r gwrthwyneb, mae ‘torri’r rheolau’ (megis peidio â dilyn canllawiau cyfyngiadau symud) yn caniatau i’r bai ar gyfer yr argyfwng ehangach gael ei osod ar fethiant moesol amryw o unigolion dethol yn hytrach na gweithredoedd y llywodraeth. Er enghraifft, caiff pobl eu barnu am ddychwelyd i’r gwaith sy’n peryglu lledu’r haint ymhellach, â darlledwyr cretinaidd a/neu maleisus yn eiddgar i gyfleu hyn fel gweithredoedd hunanol, yn hytrach nac angen amlwg i ennill bywoliaeth yng ngwyneb cyflogwyr a llywodraethau didrugaredd.

Myth ‘Y Rhyfel’

Wrth gwrs, yn y Deyrnas Gyfunol, ysbryd yr Ail Ryfel Byd – neu ‘The War’, cymaint yw ei hollbresenoldeb – yw’r mecanwaith ffurfiol mwyaf amlwg y mae’r cenedlaethodeb ymadferol, nostalgic hwn yn ei gymryd, gyda straeon gwerin or-real ail law y 40au yn bodoli fel math o ‘strwythr ymdeimlad’ wedi ei wyrdroi gan y wladwriaeth, sy’n mynegi syniad torfol o oroesi mewn argyfwng cenedlaethol.

Tra bo’r mecanwaith hwn wedi taflu cysgod dros bolisi pob llywodraeth wedi’r rhyfel, yma a thramor – yn sicr fe bwysodd Thatcher ar ei hymwybyddiaeth ‘Churchilaidd’ ar noswyl rhyfel y Malvinas, er enghraifft – mae’n bosib mae yn oes llymder mae’r mythos hwn wedi’i ddefnyddio yn ei ffurf mwyaf effeithlon a sinigaidd. Yn yr ystyr gyntaf mae hyn yn fater o ddisgwyliad einioes: y pellaf yr ydym yn teithio mewn amser oddi wrth y Rhyfel, y mwyaf mae’i atgof byw yn gadael ein gafael torfol meidrol. Os yw Y Blitz yn ‘[diffinio] hunaniaeth genedlaethol Brydeinig’, fel yr ysgrifennodd Tom Whyman, mae hyn yn ei wneud ‘yn fwy nawr o bosibl, gan fod cyn lleied o bobl yn fyw sydd â’r gallu i’w gofio.’ Unwaith y daw yn ffenomen sy’n seiliedig ar nostalgia torfol, yn hytrach na phrofiad bywyd unigol, gall gynnwys ei fythos gael ei offerynnu fwyfwy.

Eto ar lefel arall mae’n ganlyniad arall o’r modd y mae realaeth cyfalafol wedi’i wreiddio ymhellach, yn yr ystyr, fel y dywed Fisher, y ‘daw grym realaeth cyfalafol yn rhannol o’r modd mae cyfalafiaeth yn cynnwys ac yn llyncu’r hanes blaenorol i gyd’[15]. Mewn cyflwr o’r fath, daw gweithredu cenedlaetholdeb a’i hanes yn modus operandi, ei unig fodd posib o fynnu grym yn erbyn realiti dogma methiedig. Caiff hanesion unigol eu sathru, a’u hailffurfio i lunio Naratif Cenedlaethol. Fel mae Angus Calder yn ei nodi yn The Myth of the Blitz (wedi’i gymryd o On Living in an Old Country gan Patrick Wright):

‘Mae’r ‘genedl’ yn cyfuno darluniau a dehongliadau cyhoeddus o’r gorffennol. Mae’n gweithio drwy ‘godi bywyd anghymalog a bygythiedig bob dydd – sydd wedi’i fyw yn lleol – i fyny tuag at gyswllt gwaredigol â’r hyn mae’n ei frolio fel ei Ysbryd Absoliwt’. [16]

Felly mae’r hyn oedd un tro yn ‘hanes y bobl’ toredig, lluosog, wedi’i ffurfio mewn naratif gwladwriaethol swyddogol a ddefnyddir yn aml i sathru ar unrhyw anghydffurfiaeth yn erbyn camweddau’r llywodraeth. Swyddogaeth y naratif hwn – ac felly egwyddor ganolog cenedlaetholdeb Brydeinig – yw’r ymadferiad o werthoedd cymunedolaidd sy’n bychanu unrhyw anghydfod tuag at y llywodraeth ac yn cyfyngu ar unrhyw fygythiad chwyldroadol. Mae modd gweld hyn drwy gydol ein hanes diweddar, ni ddylem synnu o’i weld yn cael ei ddefnyddio mor aml ar hyn o bryd oherwydd fel mae Owen Hatherley yn ei ddweud, ‘pan ddaw’n fater o drin y gorffennol fel arf, y Ceidwadwyr yw, ac wastad wedi bod, yr arbenigwyr.’ [17]

‘Mae cenedlaetholdeb sentimental wedi trechu realiti materol’ [18]

Dylai’r ffaith fod y mythos Toriaidd yma’n dibynnu ar wyrdroad penodol fod yn amlwg: gall unrhywun â syniad call o neoryddfrydiaeth Prydeinig wedi’r rhyfel weld, fel y noda Charlotte L Riley, bod  ‘ailadrodd  ymdrech y rhyfel sy’n canolbwyntio yn llwyr ar ddewrder ac aberth unigol dros unrhyw ymdrech luosog’ yn hawdd i’w ailffurfio’n strwythur ideolegol sy’n cefnogi’r rhesymeg ddiwylliannol o’r modd yr ydym yn byw ar hyn o bryd.

Eto mae’n hawdd – wrth ddadadeiladu ‘ffuglen’ y Rhyfel mae’r Toriaid yn manteisio arni – i gymryd yn ganiataol ei fod yn achos syml o newid manylion hanes, o gylchredeg anwireddau, o gaslighting y boblogaeth gyfoes i gredu fod profiadau eu cyndeidiau yn hollol wahanol i’r hyn oeddent mewn gwirionedd. Byddai hyn yn ddarlleniad or-syml: safbwynt gwrth-hanesyddol diog y chwith i gyfateb dadansoddiadau bwriadol amrwd y dde. Fel mae Calder yn ei esbonio, datblygodd adeiladwaith y Myth Brydeinig wedi’r rhyfel o ddilechdid rhwng profiad materol (a oedd fel arfer yn ddosbarth gweithiol) â delweddau delfrydol o Brydeinod (a oedd fel arfer yn ddosbarth uwch):

‘Mae’i adeiladwaith yn golygu rhoi ffeithiau a oedd yn hysbys neu y credir eu bod yn wir at ei gilydd, eu gorchuddio â gwerthoedd ysbrydoledig a rhethreg argyhoeddiadol – a hepgor popeth a wyddys neu y credir ei fod yn ffeithiol nad oedd yn ffitio.’ [19]

Efallai bod nifer ar y chwith yn colli’r ffaith fod yr elfennau mwyaf parhaus o Fyth y Rhyfel – gan gynnwys y rheiny sy’n cael eu gwthio gan y dde – yn seiliedig ar y syniad fod gwerthoedd sosialaidd cuddiedig yn bresennol yn ystod y rhyfel, ac er y manteisir arnynt i ‘gefnogi myth goruchafiaeth moesol Prydeinig neu Saesnig’ [20], maent o hyd yn gynsail i’r myth parhaus. Fel y mae Ian Allison yn ei nodi:

‘Roedd rhyfel dosbarth yn fyw ac yn iach yn ystod y rhyfel – roedd llawer o’r cyfoethog a’r pwerus yn ofni aflonyddwch i fusnes neu chwyldro yn fwy na ffasgiaeth – dyna un rheswm pam roedd Churchill angen cefnogaeth Llafur i erlyn y rhyfel. Roedd rhaid i bobl ddosbarth gweithiol frwydro am bopeth o fynediad at lochesi cyrch awyr, i dai, dros gyflog, cyflog cyfartal ac i gadw’r heddlu a’r wardeiniad allan o lochesi mawr’.

Daeth pobl ynghyd yn ystod y rhyfel, roedd gweithredu torfol, roedd aflonyddwch wedi’i gyfeirio at y wladwriaeth. Fel mae Calder yn ei nodi ‘roedd israddio ‘menter rydd’ o blaid cymunedoliaeth bob amser ynghudd yn strwythur y Myth, yn ei sail wrth wrthwynebu gwerthoedd ‘Seisnig’ (neu ‘Brydeinig’) i’r rhai a briodolir i Natsiaeth’ [21], a chyfrannodd hyn at ‘y Myth datblygol yn aml yn [cymryd arno] gymeriad sosialaidd, radicalaidd.’ [22]

Ni ddylid dehongli fod ‘realiti pobl’ yn cael ei ormesu, ond yn hytrach ei fod yn cael ei ymadfer. Dyma sy’n gwneud Myth y Rhyfel – Y Myth Prydeinig – mor bwerus o atyniadol: nid yw’n cael ei wthio ar boblogaeth sy’n gorfod ei dderbyn yn dawel, neu wedi’u twyllo i’w dderbyn. Yn hytrach mae’n arwyddocau strwythurau cuddiedig o ymdeimlad a ffenomena lluosog sydd yn barod â phresenoldeb o fewn y diwylliant sydd wedi ‘dwyn yr achlysur ar gyfer dibenion gwleidyddol sinigaidd’, yng ngeiriau Robat Idris, ac felly’n ‘herwgipio arwriaeth, yn rhamantu trasiedi’ er mwyn ‘dathlu militariaeth a jingoistiaeth Prydain Imperialaidd.’

O’r man hwn, mae’n hawdd i’r wladwriaeth arallgyfeirio y teimladau hyn a’u trawsnewid o fod yn rhai ynghylch undod i fod yn dderbyniad tawel o fecanwaith y wladwriaeth gyfalafol. Mae Adam Ramsey wedi dangos hyn ar waith yn yr argyfwng presennol gan gyfeirio at y frenhiniaeth, sef ymgorfforiad llythrennol y wladwriaeth Brydeinig:

‘Fel cerddor medrus, tynnodd meistr cenedlaetholdeb Prydeinig y teimladau hyn yr oedd eisioes yn eiddo i filiynau o’i ddeiliaid, a’u cysylltu’n ofalus gyda hi ei hun. Yr edmygedd rydyn ni gyd wedi’i deimlo tuag at weithwyr rheng flaen, sy’n peryglu eu bywydau i ofalu amdanom a’n bwydo ni. Y llawenydd rydyn ni gyd wedi’i deimlo wrth sylwi ar enfysau plant yn llenwi ffenestri wrth wneud ein hymarfer corff dyddiol a ganiateir. Yr ofn rydyn ni i gyd wedi’i deimlo wrth i ni edrych i fyw llygaid marwolaeth ein hanwyliaid.

Gan alw ar nerth yr emosiynau hyn i gyd, fe’u henwyd fel “y balchder ym mhwy ydym ni”, gan osod cais Cenedlaethol i “briodoli hunanddisgyblaeth, o ddatrys hynaws a thawel, ac o gyd-deimlad”. Defnyddir y term olaf, wrth gwrs, oherwydd pe bai’n defnyddio’r term mwy cyffredin ‘undod’, yna ni fyddai unrhyw un yn derbyn y syniad amlwg o hurt bod y rhain yn nodweddion Prydeinig yn benodol.’

Mae’n anodd i’r chwith rhyddfrydol danseilio y ffenomen hon, oherwydd nid yn unig mae’n achos o gywiro anwireddau, ond yn hytrach yn dadbacio a chael gwared ar ‘ymdeimladau’ gwreiddiedig diwylliannol sydd nid yn unig yn cynnwys hedyn o wirionedd, ond yn cael eu trysori gan y rheiny sydd am fyw gan ddilyn eu hegwyddorion, eu cadw fel cof diwyllianol ac felly cynnal cyswllt rhwng teulu, traddodiad a lleoliad. Fel mae Michael Calderbank yn cyfeirio ato wrth drafod grym cenedlaetholdeb Brydeinig:

‘mae’r ymdeimlad hwn o fod mor dlawd yn faterol ag yr ydym, rydym yn freintiedig fodd bynnag yn ein hunaniaeth fel cynhaliwyr llinach cenedlaethol byd-hanesyddol, ond gall fod yn gysur. Mae’n rhoi ymdeimlad o werth i fywydau pobl, rhywbeth y gallant ei gadarnhau ac y maent yn teimlo y gallant fod yn falch ohono. O gyfosod y cefndir o bobl yn cymryd popeth sydd ganddynt o werth, mae’n ddealladwy bod y cymunedau hyn yn ddig gyda’r chwith sydd am eu hamddifadu o hyn hyd yn oed.

Dyma yw’r modd y mae’r dde yn gallu ennill cydsyniad y cyhoedd ar draul eu diddordebau, a dyma yw’r modd y daw y chwith nid yn unig yn elyn i’r wladwriaeth gyfalafol ond hefyd y boblogaeth yn gyffredinol. O gael eich gweld fel y gelyn oddi fewn, er y dymuniad syml i rymuso pobl i gael byw gwir ystyr eu hemosiynau mewn modd nad yw’n cael ei fanteisio arno am resymau mileinig – dyma yw’r safle dyrys y mae’r chwith yn ei feddiannu yn yr ymwybyddiaeth Brydeinig. Mae hegemoniaid asgell dde wedi manteisio ar deimladau o gariad a brawdoliaeth sydd fel arfer yn ein llywio drwy adegau o argyfwng (a wnaed yn amlwg yn ystod y Rhyfel) ar gyfer eu dibenion eu hunain. Dyma sut mae neoryddfrydiaeth yn cynnal cydsyniad, a dyma yw’r mecanwaith flaenaf mae ei lwyddiant yn dibynnu arno oddi fewn y wladwriaeth Brydeinig. Mae natur oll gwmpasog y myth hwn yn mynnu gweithredu radicalaidd er mwyn ymryddhau ein hunain o’i achosion a’i ganlyniadau.

3. Feirws y Bobl

Felly lle mae hyn oll yn gadael Cymru? Mae’n amlwg fod y sefydliad Brydeinig wedi bod yn hynod lwyddiannus yn echdynnu ‘ystyr’ i’r Rhyfel gan ei ddefnyddio ar gyfer ei ddibenion ei hun, ac maent yn benderfynol o wneud yr un peth gyda’r Feirws. Mae rhaid bod ffordd o dorri ar draws hyn, gan nad yw’n adrodd gwir stori yr hyn sydd wedi digwydd i ni. Ni fydd yn datgan fod rhannau o Gymru wedi dioddef yn gynt ac yn galetach na rhannau eraill o’r wladwriaeth anghyfartal hon, na chwaith fod cytundebau profi wedi ‘cwympo trwodd’, fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthgilio’n aml i amddiffyniad o drychineb arbrawf Johnson a Cummings, fod Cymru wedi wynebu pwysau parhaus i beryglu ei phoblogaeth oherwydd ei bod yn gweddu amcanion gwleidyddol San Steffan ac yn y blaen.

Mae’n amlwg fod llywodraethiant ddatganoledig yn cynnig ychydig iawn o amddiffyniad yn erbyn y gwaethaf o greulondeb doriaidd, hyd yn oed mewn adegau o argyfwng difrifol. Mae hyn yn hynod o wir pan eisteddai grym gyda ‘diwylliant gwleidyddol pydredig’ Llafur Cymru, eto mae hefyd yn dod o ganlyniad uniongyrchol o gyfyngiadau datganoli ei hun. Fel y mae Evans yn ei ddatgan:

‘Ers blynyddoedd mae llawer ohonom wedi bod yn dweud fod Cymru yn wlad unigryw o doredig: bod ein harweinwyr yn ffyliaid, bod pobl yn nihilaidd, wedi pasio’r pwynt o becso taten. Ac yn nawr mae hynny wedi’i ddangos i’r byd.’

Mae hefyd yn glir, er bod Cymru ar ymylon diwyllianol y Myth Brydeinig (ac yn aml yn cael ei hepgor yn llwyr ohoni), mae’n bell o fod yn rhydd rhag ei dylanwad. Mae’n ansicr os bydd datganoli yn parhau yn ei ffurf presennol ar ôl y Feirws. Os yw hynny drwy gyfrwng anallu llywodraethol neu fel arall, yr ydym wedi ein dal yn wystlon i gyngor sâl a strategaeth byrbwyll o hunanladdiad cymdeithasol o barthau San Steffan. Cymerwyd yn ganiataol ein bod â’r grym – hyd yn oed yn ei ffurf cyfyngedig – i wneud rhywbeth yn wahanol, i achub miloedd o fywydau Cymraeg, ond nid yw wedi bod yn bosib heb ymyrraeth ar y wladwriaeth Brydeinig nad yw’n Llywodraeth wedi meiddio ei ystyried.

Mae’r diffyg ewyllys gwleidyddol i weithredu’n wahanol – yn wirioneddol wahanol – wedi ei wreiddio’n llwyr o fewn diwylliant gwleidyddol Cymru. Yn wir, mae Cymru fel petai’n fwy agored i gredu’r myth Prydeinig ac i ymosodiadau ei rhyfelwyr diwylliannol (fel y mae Brexit wedi’i ddangos), ac mae yna frwydr mawr ar y gorwel i achub unrhyw syniad o annibyniaeth llywodraethol y mae’r diwylliant presennol yn ymddangos yn annigonol i’w ymladd.

Byddai’n naif a hunan foddhaus i awgrymu fod rhain yn broblemau sy’n bodoli o fewn ffiniau Llafur Cymru yn unig (er wrth gwrs nhw sydd yn cynrychioli’r enghreifftiau gwaethaf a nhw ddylai ysgwyddo’r cyfrifoldeb pennaf). Fel y mae Huw Williams yn ei ysgrifennu:

‘Canlyniadau’r diwylliant gwleidyddol rydym wedi ei greu ac a gynhelir gennym ar y cyd sydd o’n blaenau’r funud hon. Nodweddir y diwylliant hwn gan ‘dawelyddiaeth’ sydd wrth galon yr argyfwng yng Nghymru – ac sydd wedi caniatau i weinyddiaeth Lafur ganolbleidiol, difater a digyswllt i balu ymlaen, gan ddilyn yr un rhigol a’r Toriaid sydd yn ein harwain at drychineb pellach, heb yr un cri sosialaidd yn rhefri yn erbyn anghyfiawnder hyn oll.’

Yr her i’r rheiny sydd eisiau trosgynnu hyn, fel bod y rheiny sy’n gyfrifol yn cael eu dal yn gyfrifol a’u hatal rhag dal y fath rym dinistriol eto, yw i ganfod ffordd i dorri pobl y Deyrnas Gyfunol yn rhydd o’r mythos niweidiol, gormesol asgell dde hwn.

Y wladwriaeth fethiedig

Yn ffodus, i ryw raddau gallwn fod yn ffyddiog y tro hwn efallai fod realiti materol ar ein hochr wedi’r cwbl, ac felly fod y Myth Prydeinig bron â diffodd ei hun. Ar lefel aradeileddol ac isadeileddol, mae pydredd wedi bodoli ers degawdau na all unrhyw warchodwyr y wladwriaeth ei atal. Fel y mae Aditya Chakrabortty wedi ei groniclo ers blynyddoedd, ‘mae Prydain yn cael ei hamddifadu o’i seilwaith cymdeithasol: mae’r sefydliadau sy’n ffurfio ei bywyd bob dydd, yr adeiladau a’r gofodau sy’n cynnal ffrindiau ac yn gwthio dieithriaid at ei gilydd’. Canlyniad hyn yw ‘cymdeithas wedi’i falurio gan anhegwch a sector gyhoeddus sydd â’r arian â’r hyder wedi’i waedu ohono’.

Bron nad ydyw wedi dod yn slogan ymysg y chwith i ddatgan fod ‘y DG yn wladwriaeth fethiedig’ gydag enghreifftiau yn ymestyn o’r hunllefus i’r pathetig o abswrd; o drasiedi i ffars. Mae pob llwybr sydd wedi’i dorri gan gyflafiaeth ac imperialaeth Brydeining wedi arwain bob un gwlad estron a reibiwyd, pob cymuned a ddinistrwyd, pob erchyllter cymdeithasol. Mae pwysau trwm Hanes Prydeinig wedi creu haerllugrwydd cenedlaethol na all bellach ynysu’i hun rhag y potenisal o gwymp cyfalafiaeth rhyddfrydol. Fel yr ysgrifenna Musa Okwonga:

‘mae’n bryd rhoi’r gorau i ffetiseiddio ystyfnigrwydd chwedlonol Prydeinig: yr ymdeimlad hwn fod y Brit â’r gallu unigryw i ddyfalbarhau drwy unrhyw storm mae’r byd yn ei daflu atynt, na fyddent fyth yn cael eu caethiwo gan amgylchiadau. Ni ellir canu Rule Britannia i feirws.’

Yn syml iawn, nid yw’r Myth Prydeinig bellach yn gwneud synnwyr: mae wedi dod â’r wlad hon i sefyllfa lle mae’r tensiwn rhwng cyfalafiaeth libertaraidd a chenedlaetholdeb awdurdodol – rhwng yr hyn mae James Butler (wrth fenthyg gan Stuart Hall) yn ei alw’n ‘moderneiddio atchweliadol’ o ‘genedlaetholdeb nostalgic ynghyd â chyfalafiaeth Brydeinig wedi’i adfywio’ – wedi achosi angau a dinistr ar raddfa na allwn ni fyth ei ganiatau eto. Yn hytrach, mae angen i ni greu dyfodol na fyddai’r wladwriaeth Brydeinig yn ei ganiatau yn bosib.

Mae’r cyfleoedd sydd yno i danseilio a datgymalu y myth hwn oddi fewn er hynny yn ddigalon o bitw. Ni ellir diorseddu y llywodraeth Johnsonaidd, a hyd yn oed tu hwnt i fwyafrif llethol y weinyddiaeth bresennol, mae’r wlad hon yn ymddangos fel ei bod yn gaeth i lywodraeth Doriaidd diderfyn. Ni fydd dim edifeirwch o’r gyfundrefn ddominyddol hon: nid yw plaid cyfalafiaeth dilyffethair a gorthrwm cymdeithasol â’r arfau ideolegol i allu gorchfygu’r argyfwng, eto ni wnaent gydnabod yr atebion sydd tu hwnt i’w gafael oherwydd eu malais a’u balchder greddfol. Mae’r haerllugrwydd sefydliadol hwn wedi ei ddwysau gan wewyr cyhoeddus realaeth-gyfalafol, ac o ganlyniad, fel y dywed Andy Beckett:

‘Ym Mhrydain, mae’n dal i fod yn syfrdanol o hawdd – ac yn arwydd o ba mor anwastad yw ein democratiaeth – i Lywodraethau Torïaidd sy’n gyfrifol am drychinebau i newid y pwnc. Y gelyn amlwg yw gogwydd asgell dde’r wasg sy’n waeth nawr nag oedd yn y 1950au, gan fod llai o bapurau sy’n gwyro i’r chwith. Ond yr un mor bwysig yw’r amharodrwydd gan bleidleiswyr i wynebu maint yr hyn y mae’r Ceidwadwyr wedi’i gael yn anghywir.’

Hyd yn oed os oedd y Toriaid yn fregus mewn unrhyw fodd, nid oes dewis etholiadol arall o unrhyw fath ar y gorwel ar hyn o bryd. Er gwaethaf fod yr argyfwng hwn yn dangos unwaith eto fod ‘pobl dosbarth gweithiol yn cadw cymdeithas i fynd er eu bod prin yn cael eu talu‘ mae plaid honedig y dosbarth gweithiol wedi dewis diosg unrhyw botensial radical – pa mor ddiffygiol bynnag – o blaid dewis unwaith eto y dewis o fod yn ‘etholiadwy’ sy’n dangos prin ddychymyg tu hwnt i fabwysiadu efelychiad o ystumiau grym Toriaidd. Byddent hyd yn oed yn dinistrio eu haelodaeth democrataidd yn y broses.

Gallwn fynd ymhellach fyth a chydnabod nad oes modd diwygio cyfanrwydd y wladwriaeth Brydeinig. O gadw mewn golwg yr anrheiddioldeb hwn, a hollbresenoldeb y Myth Brydeinig sydd yn cynhyrchu ei gydsyniad, rhaid i ni fod yn bwyllog yn ein dadansoddiad o’r hyn sydd yn bosib. Nid yn unig yw ein tasg yn un o godi ymwybyddiaeth: mae cynnydd amlygrwydd ymddangosiadol amlwg methiannau’r wladwriaeth hon yn annigonol i feithrin y cymhelliant i greu y grym trawsnewidiadwy torfol sydd mor ddirfawr ei hangen arnom. Gall rhwyg fod yn bosib, ond ni fydd yn digwydd yn naturiol neu’n awtomatig: rhaid ei greu. Fel y mae Jacques Ranciere yn ei ysgrifennu ynghylch y dirymu parhaus o’r dosbarth gweithiol rhyngwladol o dan drefn realaeth gyfalafol:

‘Yn anaml iawn y mae’r rhai sydd wedi cael eu hecsbloetio yn gofyn am eglurhad ar gyfreithiau ecsbloetiaeth. Nid yw’r rhai sy’n cael eu dominyddu yn aros yn ddarostyngedig oherwydd eu bod yn camddeall sefyllfaoedd presennol ond oherwydd nad oes ganddynt hyder yn eu gallu i’w drawsnewid.’[23]

Mae hyn yn cynrychioli methiant allweddol mewn strategaeth ar draws enwadau gwahanol y chwith Brydeinig yn ystod yr hanner degawd diwethaf. Mae eu llwybr i lwyddiant wedi rhagdybio yn naïf y gall y wladwriaeth ‘ddymchwel ar ei ben ei hun‘, bod ei wrthgyferbyniadau mewnol (a rhai cyfalafiaeth ei hun) yn methu cynnal ei bwysau ei hun, ac y bydd yr holl adeiladwaith yn dymchwel ar ei ben ei hun. Ni fydd hyn yn digwydd. Nid oes unrhyw ganlyniad ‘naturiol’ derbyniol i’r argyfwng hwn: dim ond trallodion wedi’u pentyrru nes y daw’n annioddefol i unrhywun sy’n poeni am ddynolioaeth gyfunol.

Hyd yn oed wedyn, hyd yn oed wedi hynny, nid oes sicrwydd o ateb blaengar a fydd yn gwneud ei hun yn hyfyw drwy newidiadau arwynebol o uniongrededdau presennol a gweithredoedd y wladwriaeth. Fel y mae Laurie Macfarlane yn ei rybuddio, ‘dylai’r rheiny sydd wedi treulio blynyddoedd yn breuddwydio am fyd y tu hwnt i neoryddfrydiaeth feddwl ddwywaith cyn dathlu,’ oherwydd ‘nid oes tystiolaeth bod gweithred gwladwriaeth yn arwain at ganlyniadau cymdeithasol blaenllaw. Ac yn debyg i’r cwymp ariannol ar ddiwedd 2000au, yr unig beth all ‘Prydeindod’ ei gynnig fel ffordd ymlaen ar y pwynt hwn yw troi tuag at ffasgiaeth:

‘Y dde awdurdodaidd, ac nid y chwith blaengar, a lwyddodd i ennill lle mewn sawl gwlad. Gellid dweud yr un peth am y Dirwasgiad Mawr yr 1930au. Wrth i lywodraethau ymdrechu i ddelio â’r argyfwng economaidd ar raddfa a fyddai’n gallu blaenori’r ddau, mae arwyddion y gall grymoedd awdurdodaidd fuddio ohonynt unwaith eto.’

Mae yna ddarn arloesol o Capitalist Realism gan Mark Fisher, sy’n cael ei rannu’n aml mewn amryw gyd-destunau (yn fwyaf diweddar yn Egress Matt Colquhoun, gyflwyniad arbennig a hynod bersonol i waith Fisher). Mae’n dweud:

‘Rhaid i wleidyddiaeth ryddfreiniol bob amser ddinistrio ymddangosiad o’r ‘drefn naturiol’, rhaid iddynt ddatgelu’r hyn a gyflwynir i fod yn angenrheidiol ac yn anochel o fod yn  fater o ddamwain yn unig, yn union fel y mae’n rhaid iddo wneud yr hyn a oedd yn ymddangos yn flaenorol yn amhosibl fod yn gyrhaeddadwy.’[24]

Mae’r dilechdid o ‘ddinistrio’ a ‘chreu’ yn allweddol yma: nid yw’n ddigon i ‘esbonio’ fod yr hyn yr ydym yn ei alw’n wleidyddiaeth (hynny yw ‘dosbarthiad y synhwyrol’, i fenthyg eto o Ranciere) yn ymddangosiadol, rhithiol ac yn gymyliad o amodau-bywyd go iawn yn ein modd o gynhyrchu. Rhaid i ni ddymchwel yr adeiladwaith: i ymatal rhag ‘siarad am ddiwedd realaeth gyfalafol ac yna pwyntio tuag ato‘ ac ysgubo popeth i ffwrdd gydag ef. ‘Beth sydd ei angen’ medd Colquhoun, gan gymryd syniad Fisher, ‘yw proses tandem o losgi ffug ymwybyddiaeth ynghyd ag ef’.[25]

Ystyr y Feirws

Ni allwn amau fod pobl Cymru wedi eu gosod mewn perygl marwol ar drugaredd y Feirws gan fod y wlad hon wedi’i chloi o fewn sefydliadau, strwythurau grym a mythos y wladwriaeth Brydeinig. Rhaid i ddealltwriaeth wir Gymreig o’r hyn y mae’r Feirws wedi ei osod arnom ddatblygu ymwybyddiaeth o beth y mae Robert Idris yn ei alw‘n drasiedi ‘fod ein prif sefydliad gwleidyddol yng Nghymru yn meddwl yn nhermau’r Deyrnas Gyfunol gyfalafol dro ar ôl tro ar ôl tro. A heb dderbyn nad ydi’r Deyrnas Gyfunol ddim yn malio’r un botwm corn am Gymru.’ Yr her felly yw creu ein hystyr ein hunain ynghylch y Feirws nad yw’n cael ei gynrychioli gan y Myth Brydeinig, neu hyd yn oed yr un Cymraeg swyddogol, cymaint y mae ein sefydliadau wedi eu rhwymo i’r wladwriaeth hon yr ydym yn rhan ohoni.

Tebyg i fyth y Rhyfel, mae angen i ni odro gwir ystyr yr hyn sydd wedi’i ymadfer, gafael ynddynt, eu mynegi a’u perchnogi. Rhaid i ‘ystyr y Feirws’ y mae Cymru yn ei chynhyrchu fod yn wahanol i’r un a gynhyrchir gan y Deyrnas Gyfunol. Oherwydd ar lefel faterol, mae’n wahanol: mae Cymru yn dioddef oherwydd ei bod yn hŷn, yn dlotach, yn salach na nifer fawr o ardaloedd eraill y wladwriaeth anghyfartal hon. Mae hyn wrth gwrs yn ymestyn ymhellach yn ôl mewn amser na’r ymateb i’r Feirws ei hun. Felly, er mwyn ‘curo coronafeirws’, mae angen i ni fynd yn ddyfnach a datgymalu cyfalafiaeth Brydeinig unwaith ac am byth.

Er hynny, rhaid i ni beidio a chael ein twyllo y byddai gwladwriaeth Gymraeg gyfalafol annibynol wedi gwneud yn llawer gwell. Byddai gwladwriaeth o’r fath wedi gorfod wynebu yr un pwysau ac y mae gwledydd eraill yn eu hwynebu: byddai wedi trwmgysgu ei ffordd i fewn i’r un problemau ac wedi bod yn ideolegol analluog i allu symud tuag at atebion derbyniol. Fel y mae Evans yn ei ddweud:

‘Felly, nid yw newid ein gwerthoedd a’n ffordd o drefnu’r economi – sef cyfalafiaeth – yn freuddwyd gwrach neu rhyw gastell yn yr awyr, ond yn anghenraid digwestiwn os yw’r blaned a’r ddynoliaeth am oroesi. Ni all “canolbleidiaeth” gymhedrol ein helpu-mae angen chwyldro ecolegol byd-eang arnom. Mae’r coronafeirws, er ei fod yn drychineb ddynol digynsail, wedi rhoi glasbrint inni, trwy hap a damwain, o sut i oresgyn y sefyllfa. Rhaid inni achub ar y cyfle unigryw hwn, a dechrau brwydro nawr.

Dylem fod yn ceisio canfod newid gwirioneddol, tra hefyd yn cadw mewn cof y bydd trawsnewidiad ystyrlon o’r modd yr ydym yn byw yn broses hir. Dylem fod yn ymwybodol felly o’r her y mae Nick Srnicek ac Alex Williams yn ei gyflwyno i ni yn Inventing the Future:

‘Os nad yw newid trawsnewidiol llawn yn bosib yn syth, mae’n rhaid i ni anelu ein hymdrechion tuag at hollti’r gofodau o bosibilrwydd hynny sy’n bodoli ar agor, a magu amodau gwleidyddol gwell dros amser. Mae’n rhaid i ni’n gyntaf gyrraedd man oddi fewn, lle mae galw radical yn mynegi’i hun yn ystyrlon, a rhaid felly paratoi ar gyfer y tymor hir os ydym yn dymuno newid y tirwedd gwleidyddol yn sylweddol’, [26]

Ni ddylai’r canlyniad anochel o’r wladwriaeth yn ailgyfansoddi ac ailosod y ‘normal newydd’ olygu fod y chwith yn cael cwympo i hunanfodlonrwydd, fel nad oes dim wedi newid. Mae hyn yn bell o’r gwir: rhaid i ni ganfod unrhyw gyfleoedd a threfnu o’r newydd pryd bynnag a lle bynnag y dônt i’r amlwg.

Ar ddechrau’r argyfwng, dywedodd Michael Ryan o’r WHO sawl tro fod ‘neb byth wedi ymateb ar yr adeg berffaith gyda’r ateb perffaith’, taw ‘Perffeithrwydd yw gelyn y da pan y daw i reoli argyfwng’ ac mai’r ‘camgymeriad mwyaf yw i beidio symud’. Gadewch i ni fenthyg y meddylfryd hwn. Dylem fod yn edrych, lle bynnag y bo’n bosib, ar gyfer cyfleoedd i adael yr hyn sydd yn ein rhwymo – y Deyrnas Gyfunol, imperialaeth, cyfalafiaeth – y byddai’n caniatau trawsnewidiad cadarnhaol a hirhoedlog o’r modd yr ydym yn byw.

Gadael y Feirws

Felly, rydym wedi rhagdybio yma nad oes modd tanseilio neu darfu ar realaeth gyfalafol mewn unrhyw fodd ystyrlon. Y Feirws yw’r bennod ddiweddaraf sydd, heblaw am newydd-deb ei raddfa, yn glynu at y modd mae cyfalaf wedi ymateb i bob argyfwng arwyddocaol mae wedi’i wynebu dros y degawdau diwethaf. Eto, wrth adnabod y prif arfau ideolegol mae’r uniongrededd hwn yn cael eu cynnal ganddynt – yr hyn yr ydym yn ei alw yn Fyth Brydeinig – gallwn amgyffred o bosib ‘ofodau posibilrwydd’[27] y gellir eu hollti. Hynny yw, os yw sefydliadau ‘Prydeindod’ a’r wladwriaeth Brydeinig yn fecanwaith y mae realaeth gyfalafol yn sefydlu’i hun drwyddi ar yr ynysoedd hyn, oni allwn fod yn uchelgeisiol a gwaredu y sefydliadau hyn?

Yr hyn sydd ei angen, yn ei hanfod, yw ffurf ar gyflymiadaeth (accelerationism)- yng ngwir ystyr y term hwn sy’n cael ei gamddefnyddio’n aml – sy’n gwthio tuag at y dihangfeydd prin ond ffrwythlon o bosib sydd ar gael i ni. Ein her felly, yw nid fel y mae Fisher yn ei rybuddio i ‘gyflymu unrhyw beth neu bopeth o fewn cyfalafiaeth yn chwit chwat, yn y gobaith y bydd cyfalafiaeth wedyn yn dymchwel’ ond i ‘[gyflymu] y broses o ddad-haenu’r hyn mae cyfalafiaeth ond yn gallu ei rwystro.’ Ac felly, yn y modd fod cyfalafiaeth yn “ddihangfa (methiedig) rhag ffiwdaliaeth’ [28], felly mae rhaid i ninnau hefyd ystyried beth y gallai ac y dylai dihangfa rhag cyfalafiaeth – rhyw ôl-gyfalafiaeth – edrych yn debyg iddo. Gyda hyn mewn golwg, gadewch i ni ystyried hyn: efallai nad oes gennym y grym i waredu neu ddiwygio cyfalafiaeth Brydeinig, ond mae’r gofodau o bosibilrwydd sydd wedi eu rhwymo oddi fewn i gysyniadau ynghylch Cymru a Chymreictod yn fan hollti, yn ‘allanfa‘ y gallwn ddianc drwyddi. Gall chwalu’r undeb, a’r cysyniad o wladwriaeth Gymreig annibynol, yn y ffurf hwn, fod yn un gofod ‘amherffaith’ o bosibilrwydd: dulliau radicalaidd ar gyfer dibenion iwtopaidd.

Ar yr adeg hon, er gwaethaf unrhyw ogwydd ideolegol tuag at annibyniaeth genedlaethol sydd gennym neu beido, ymddengys fel yr unig opsiwn sydd ar gael i ni. Mae ymgeisiadau at wleidyddiaeth chwith sydd yn dyheu i greu diwygiadau blaengar o fewn y genedl-wladwriaeth Brydeinig – dull ymddangosiadol hanfodol er mwyn ennill unrhyw fath o rym seneddol – wedi eu profi’n ofer. Ychydig iawn o werth sydd mewn unrhyw ffordd o genedlaetholdeb nad yw’n ceisio gwneuthurio man hollti o fewn cyfalafiaeth Brydeinig ac imperialaeth. Ymysg yr amryw o resymau y bu’r prosiect Corbynaidd yn fethiant, yr amhosibilrwydd ymddangosiadol o driongli cysyniadau o neilltuaeth Prydeinig a goruchafiaeth cenedlaethol – sy’n ôl pob golwg yn anorchfygol – gyda gwleidyddiaeth democrataidd, gwrth-imperialaidd, gwrth-gyfalafol, yw efallai’r un mwyaf hanfodol. Ni all dim blaengar gael ei adeiladu, megis paraseit, o fewn plisgyn neilltuaeth cenedlaetholdeb Brydeinig: nid yw’n gyfatebol ag undod rhyngwladol, eto dyma’r unig nodwedd unigryw sy’n eiddo i’r Myth Brydeinig.

Mae canlyniadau bob dydd y neilltuaeth hyn bellach yn eglur inni: mae degawdau, os nad canrifoedd o fythos o ymffrost cenedlaethol, yn ein haflonyddu ni trwy ddiolch i’r Feirws. Mae pobl yng Nghymru wedi marw oherwydd eu bod yn Brydeinwyr. Mae pobl yn Lloegr wedi marw oherwydd eu bod yn Brydeinwyr. Ar draws yr ynysfor hwn, mae pobl wedi cwympo wrth law feirws angeuol oherwydd yr hyn y mae’r Myth Brydeinig yn ei gynrychioli.

Dylai pawb ar yr ynysoedd hyn ymwrthod â’r Myth hwn a’i sefydliadau er lles ein hiechyd cyfunol, ac y bydd angen cydweithio yn yr ymwrthodiod hwn: ar draws cenhedloedd, ardaloedd a ffiniau o bob maint. Yn yr Alban, mae wedi bod yn glir ers tro mai annibyniaeth yw eu dull mwyaf grymus o ddianc. Fel y mae Hatherley yn ei arsylwi ynghylch y cais am annibyniaeth (a fethodd, ond yn sicr sydd ond wedi’i oedi) yn 2014, ei fod yn eglur fod:

‘Roedd y mwyafrif o bleidleisiwyr ‘Ie’ wedi’u hysgogi gan yr awydd i ddianc rhag goruchafiaeth gwleidyddol Lloegr – mewn geiriau eraill, y cam gwag a wnaed gan lywodraethau Toriaidd – ac wedi dod ynghyd nid yn y siroedd traddodiadol, ond yn Glasgow, dinas mwyaf yr Alban a’r un mwyaf amlhiliol.  Roedd yr alwad am ‘wladgarwch’ wedi’i dehongli – yn gam neu’n gymwys – fel galwad am ddemocratiaeth sosialaidd.’ [29]

Y tueddiad hwn sydd wedi aros fel yr unig oleuni ers tro – pa mor arwynebol bynnag yr ymddengys – y mae llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru wedi’i gynnig: saib byrhoedlog (ac wrth gwrs yn y pen draw annigonol) o Brydain Doriaidd. Fel y mae Huw Williams yn ei nodi:

‘mae datganoli wedi golygu’n anochel bod y dewis mwyaf addawol i lawer yn y Brydain Fethiedig hon heddiw (o’r diwedd mae gwerth go iawn i’r ymadrodd hwn) bellach wedi ymbellhau ymhellach o’r wladwriaeth a fydd yng nghof y millenials wedi eu siomi i raddau helaeth. Ar nodyn mwy cadarnhaol, ceir sylwadau fod y Senedd yn cynrychioli gwir ymdeimlad y gall gwleidyddiaeth gael ei wneud yn wahanol, ac i’r rhai sydd wedi treulio amser yn Lloegr mae’r gwahaniaethau o ran llymder, er enghraifft, yn tynnu sylw at sut y gallai diwylliant gwleidyddol Cymru fwy annibynnol greu llawer iawn mwy o bethau.’

Mae Lloegr yn wynebu brwydr llawer mwy na’r Alban neu ni ein hunain os yw am ddatgymalu, drosgynnu neu ymwrthod â phwysau y Seisnigrwydd Trwm hwn sydd wedi esgor ar y Myth Brydeinig hwn. Gallai, ac fe ddylai unrhyw brosiect felly gael ei selio ar ddatgymalu Lloegr yn llwyr. Yng Nghymru, mae’r prosiect hwn yn haws i’w ddychmygu, os nad yn haws i’w gyflawni. Cyhyd ag y gall hunaniaeth benodol Gymreig gael ei arddel o fewn chwalfa o’r fath, gallwn adeiladu prosiect sydd wedi’i wreiddio mewn diosg y cyflwr diwylliannol dinistriol hwn a mynnu rhywbeth gwell ar gyfer ni ein hunain.

Y Feirws Cymreig

Os ydym am fod yn obeithiol, rhagdybiwn fod y rhinweddau hyn yn barod ymhlyg yn yr hyn a ellir ei adnabod fel ‘diwylliant Cymreig’, sy’n cyferbynnu’n llwyr â gwyrdroad y Myth Brydeinig o’r union rinweddau hanfodol dynol hyn. Mae Laura McAllister yn awgrymu ein bod wedi gweld yn ystod yr argyfwng hwn doreth o dystiolaeth o bobl yng Nghymru wedi ‘ailgreu neu ail-egino yn naturiol gymorth cymunedol’, ac felly fod ‘rhaid’ i unrhyw gymdeithas yn y dyfodol gael ei adeiladu yn ôl y cynllun hwn a’i ‘fod amdanom ni. Yr hyn oll sydd gennym yw ein gilydd â’r potensial cyfunol i yrru newid’.

Mae gwerth gwleidyddol pendant i’w gael o’r fath ddatganiadau: os yw rhywbeth cadarnhaol am ddod o hyn i gyd, rhaid iddo gymryd ffurf sydd yn mynd tu hwnt i ymwrthodiad syml o Brydeindod er mwyn creu ‘Cymreictod’ sydd yn wleidyddol arwyddocaol. Rhaid iddo hefyd gael ei adeiladu ‘oddi tanodd‘, gan afael yn y nodweddion naturiol hyn sy’n cael eu crybwyll gan McAllister. Mae hyn yn bwysig beth bynnag, ond mae iddo angen mwy yn sgil y ffaith nad oes unrhyw blaid wleidyddol yng Nghymru wedi ei arfogi i wthio am y newid radical sydd ei hangen arnom. Mae methiannau Y Blaid Lafur yn niferus ac wedi eu nodi’n eang, tra bod arweinyddiaeth Plaid Cymru – er yn ddigwestiwn yn mynd i’r afael â’r argyfwng hwn yn well nag unrhyw un o gyfatebwyr Llafur Cymru – yn cynnig fawr ddim tu hwnt i wirioneddau amlwg gan ymddiddan yn yr un uniongrededd economaidd sydd wedi’n harwain at y man hwn yn y lle cyntaf. Mae angen dwy hollt: dihangfa rhag cyfalafiaeth a dihangfa rhag Prydeindod. Nid oes modd cyflawni dim heb y ddau, ac nid oes unrhyw blaid gwleidyddol yn agos at ddeall hyn (er wrth gwrs mae digon o syniadau gwerthfawr ar lawr gwlad y gall ein mudiad newydd ddysgu ohono).

Dylai’r ffurf ar Gymreictod yr ydym ei adeiladu fod yn gymunedol, sosialaidd, yn arddangos rhinweddau diwylliant dosbarth gweithiol cynhenid cymdeithas fel Cymru, fel y mae Gwyn Alf Williams yn ei nodi:

‘Ar lefel bodau dynol, yr oedd y dynion a’r menywod hyn a oedd yn cael eu gwthio fel glo dros wyneb eu gwlad yn unedig gan edafedd bregus ac anniriaethol yn unig; gan berthnasau a phatrymau cymunedol y mudo tymhorol-parhaol hwnnw a oedd wedi dod yn ffordd Gymreig o fyw, gan ymdeimlad gwasgaredig o hunaniaeth, gan hunaniaeth newydd a anwyd o wrthdaro, gan y rhwydweithiau cadarnhaol o anghydsynio â’i bregethau teithiol … yn ganolog i’r ail-ffurfiad hwnnw roedd ymwybyddiaeth o’r dosbarth gweithiol yn benodol a ymladdodd ei ffordd drwy wrthryfel i gaffael aeddfedrwydd byr ond grymus.’ [30]

Nid yw’r cysyniad o Gymreictod yma yn bwysig oherwydd nad oes unrhywbeth hanfodol Gymreig am y rhinweddau hyn, ond yn hytrach oherwydd nad yw’n Brydeinig. Tu hwnt i fynnu toriad gwleidyddol â gwladwriaeth sy’n amlwg ddim yn poeni am ei diddordebau, mae’n rhaid i’r ffurf sosio-wleidyddol y mae’r ymwrthodiad hwn yn ei gymryd fod yn wrthun i’r Myth hwnnw fel na ellir ei ymadfer ganddo. Gadewch i ni adleisio y strategaeth wrthwynebol hon y mae Huw Williams yn ei amlinellu: ‘Yn wahanol i Brydain fel cenedl-wladwriaeth, mae gan Cymru oddi fewn iddi ffynnon ddwfn o undod, solidariaeth ac ysbryd cymunedol a all fod o fudd i ni ar amser fel hyn.’

Er mwyn cyflawni hyn, bydd rhaid i ni fynd nid yn unig y tu hwnt i Brydeindod, ond tu hwnt i Gymreictod hefyd, tu hwnt i osodiadau cyfalafol o oddrycheddau cenedlaethol a gwladwriaethol. Felly hefyd, wrth i ni ymwrthod â Phrydeindod, dylem warchod rhag y magl o ramanteiddio fod gorffennol, presennol neu ddyfodol y darn hwn o dir yr ydym yn ei alw’n Gymru yn eiddo ar unrhyw werthoedd cynhenid unigryw neu hynod. Dyma gysgod meddylfryd neilltuaeth Brydeinig: mae’r gwerthoedd yr ydym yn wirioneddol yn dyheu amdanynt yn hollgyffredinol ac yn bodoli heb ffiniau. Nid argyfwng Cymreig yn unig mo’r Feirws, ond un dosbarth gweithiol rhyngwladol. Tasg gychwynnol ymhlith proses hirfaith fyddai annibyniaeth i Gymru, ein cam cychwynnol, gofalus tuag at gymryd rhan mewn ‘clytwaith’ o drefnu dosbarth gweithiol rhyngwladol sydd yn ‘gynhenid gwrth genedlaetholgar ac wrthdrefidigaethol’.

Felly y mae’n rhaid cydnabod fod unrhyw ffurf ar annibyniaeth i Gymru ond yn ddihangfa rhag yr hyn sy’n ein hatal rhag creu gwleidyddiaeth ryddfreiniol: nid hwn yw’r wleidyddiaeth ryddfreiniol ei hun. O’r safbwynt hwn gallwn echdynnu gwir ystyr ‘annibyniaeth’, sydd â fawr o ddim i’w wneud â gwleidyddiaeth genedlaetholgar ac yn ymwneud yn fwy â syniad o gymdogaeth. Y dyhead am hyn yw tarddle’r angen ar gyfer hollti rhag Prydeindod yn y lle cyntaf. Mae annibyniaeth sofrannol ond yn werthfawr i ni i’r graddau ei fod yn creu annibyniaeth diriaethol o bob math: annibyniaeth gweithwyr rhag eu cyflogwyr, tenantiaid rhag eu landlordiaid, menywod rhag y patriarchaeth, pobl croenliw rhag goruchafiaeth pobl wynion, ac yn y blaen.

I ddychwelyd at Fisher a’i waith sydd wedi ymdreiddio i’r traethawd hwn am y tro olaf: yn Acid Communism, ei waith anorffenedig a gyhoeddwyd wedi’i farwolaeth sydd yn gynllun ar gyfer gadael realaeth gyfalafol, mae’n distyllu pwrpas hanfodol yr hyn sydd angen ei adeiladu os ydym am ddianc rhag ein trychinebau cynyddol:

‘Yn hytrach na cheisio goresgyn cyfalafiaeth, dylem ganolbwyntio ar yr hyn y dylai cyfalafiaeth wastad ei rwystro: y gallu cyfunol i gynhyrchu, gofalu a mwynhau.’ [31]

Dyma yw gwir ‘ystyr’ y Feirws – y gwerthoedd ataliedig yr ydym i gyd yn amlwg yn dyheu amdanynt, er bod cyfalaf yn ‘angenrheidiol ac yn gyson [yn rhwystro] cynhyrchiad ein cyfoeth cyfunol’.[32] Rydym wedi profi ein gallu ar gyfer undod; mae’r sefydliadau sydd yn llywodraethu arnom wedi profi eu gallu i’w ddinistrio. Mae gennym ddewis i wneud er mwyn i’r system euog hwn ddarfod – felly gadewch i ni ddianc rhagddo.

Cyfeiriadau

[1] James Meadway, ‘The Anti-Wartime Economy’ https://tribunemag.co.uk/2020/03/the-anti-wartime-economy

[2] Nick Srnicek and Alex Williams, Inventing the Future: Postcapitalism and a World Without Work (Llundain: Verso, 2015), t. 3.

[3] Mark Fisher, Capitalist Realism: Is There No Alternative? (Winchester: Zero, 2009), t. 2.

[4] Ibid, t. 8.

[5] Herbert Marcuse, One-Dimensional Man (Llundain: Routledge, 1991), t. 67.

[6] Ibid.

[7] Mark Fisher, ‘No one is bored, everything is boring’ yn K-Punk: The Collected and Unpublished Writings of Mark Fisher (2004–2016), gol. gan Darren Ambrose (Llundain: Repeater Books, 2018), tt.549–550 (t. 550).

[8] Fisher, Capitalist Realism: Is There No Alternative?, t. 9.

[9] David Harvey, The Condition of Postmodernity: An Enquiry into the Origins of Cultural Change (Rhydychen: Blackwell, 1990), t. 343.

[10] Ibid.

[11] Umut Ozkirimli, ‘Coronationalism?’ https://www.opendemocracy.net/en/can-europe-make-it/coronationalism/

[12] Ibid.

[13] Jean Baudrillard, ‘The Spirit of Terrorism’ yn The Spirit of Terrorism, and Other Essays, cyf. gan Chris Turner (Llundain: Verso, 2012), (tt.3-26), t.4.

[14] Guy Debord, Society of the Spectacle (Detroit: Black & Red, 1983), §4.

[15] Fisher, Capitalist Realism: Is There No Alternative?, t. 4.

[16] Angus Calder, The Myth of The Blitz (Llundain: Random House, 1992) [Argraffiad Kindle].

[17] Owen Hatherley, The Ministry of Nostalgia (Llundain: Verso, 2016), t. 12.

[18] Adam Ramsay, ‘Queen beckons Britain into Covid-nationalism trap’ https://www.opendemocracy.net/en/opendemocracyuk/queen-beckons-britain-covid-nationalism-trap/

[19] Calder, The Myth of The Blitz.

[20] Ibid.

[21] Ibid.

[22] Ibid.

[23] Jacques Ranciere, ‘Problems and Transformations of Critical Art in Aesthetics and its Discontents, cyf. gan Steven Corcoran (Caergrawnt: Polity Press, 2009), tt.45–60. (t. 45).

[24] Fisher, Capitalist Realism: Is There No Alternative?, t. 17.

[25] Matt Colquhoun, Egress: On Mourning, Melancholy and Mark Fisher (Llundain: Repeater Books, 2020), t. 137.

[26] Srnicek and Williams, Inventing the Future, t. 130.

[27] Ibid.

[28] Colquhoun, Egress, t. 38.

[29] Hatherley, The Ministry of Nostalgia, t. 48.

[30] Gwyn A. Williams, When Was Wales? (Llundain: Penguin, 1985), t. 182.

[31] Mark Fisher, ‘Acid Communism’ in K-Punk, tt.753–770 (t. 753).

[32] Ibid, t. 754.

Ymuno â'r Sgwrs

1 Sylwadau

  1. Thank you very much for this piece of work. An excellent read, probably well worth a second and third read. Would I insult you if I suggested we have discovered our very own Welsh Noam Chomsky?

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.