Y penwythnos yma codwyd cywilydd ar Gymru ar raddfa fyd-eang, wrth i’r Llywodraeth sefyll o’r neilltu, tra bod Undeb Rygbi Cymru yn ceisio cynnal gêm rygbi Cymru – yr Alban. Ar y dechrau, y gred oedd mai camgymeriad oedd hi, neu oedi. Mi fyddan nhw’n ei ganslo, peidiwch â phoeni. Ymddangosodd y memes: ‘allwn ni ddim canslo’r rygbi ychan, mae Denzil wedi archebu’r bws!’

Ond eto, aeth dyddiau heibio heb gyhoeddiad – hyd yn oed wrth i’r CPC ohirio’r gemau pêl-droed cyfeillgar, ac wrth i’r uwch gynghrair Seisnig ganslo ei gemau. Cyn bo hir, roedd hi’n ymddangos bod pob digwyddiad chwaraeon mawr ledled y byd wedi’i ganslo, gan adael gêm rygbi Cymru – yr Alban fel yr unig un ar ôl.

Fe ddaeth ddydd Gwener, a dim byd o hyd: roedd y gêm yn mynd yn ei blaen.

O ganlyniad i’r ffaith ein bod ni erbyn hyn yn sefyll ar ein pennau ein hunain – trwy barhau i gynnal digwyddiad mawr – yn naturiol ddigon roedd yna gynnwrf cynyddol (panig y gellir wedi ei osgoi): be’ yffach oedd yn digwydd? A pam diawl roedden nhw’n bwrw ymlaen gyda’r gêm?

Dim ond brynhawn Gwener y tynnwyd y gêm, ar ôl tipyn o stŵr cyhoeddus, ond nid cyn i’r oedi achosi panig llwyr, ac nid cyn i filoedd o gefnogwyr yr Alban teithio lawr i De Cymru. Mae nhw bellach wedi eu gwasgu i mewn i dafarndai dinas fach, gan achosi problemau posibl o ran heintio a throsglwyddo cymunedol, y gellid wedi eu hosgoi pe bai’r gêm wedi’i chanslo ynghynt.

Yn y cyfnod cyn y gêm, anwybyddodd Undeb Rygbi Cymru a Llywodraeth Cymru ganllawiau’r Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) cyfredol ar ddigwyddiadau mawr: ni chyfathrebwyd unrhyw beth i’r rheini â phroblemau iechyd a oedd yn bodoli eisoes ac a oedd yn ystyried teithio, doedd yna’r un asesiad risg ar gael i’r cyhoedd; dim canllawiau i’r sawl gyda chyflyrrau parhaol i wisgo mygydau; dim cyngor ar bellhau cymdeithasol neu’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus; dim awgrym o gyfleusterau arwahanu brys.

Yn lle hynny, y bwriad tebygol oedd parhau gyda thraddodiadau gorau diwrnod y gêm fawr – gyda miloedd o ddynion yn pisio yn y sincs, cyn dychelwyd i’w seddi heb olchi dwylo.

Tra’n ysgrifennu’r llith yma – wap cyn ei gyhoeddi, a bod yn fanwl gywir – roedd gig y Stereophonics (neithiwr) yn mynd yn ei flaen, gyda deg mil o bobl wedi’u corlanni mewn i’r Arena Motorpoint. Roedd y tafarndai a chlybiau yn orlawn (oce, dan ei sang). Fel yn achos y rygbi, doedd yna ddim wybodaeth iechyd gyhoeddus i’r sawl oedd yn teithio lawr. Dim cyngor ar ymbellhau cymdeithasol, na chwaith sôn am y firws o du’r Cyngor, neu’r Llywodraeth Gymreig. Maen nhw yn chwarae eto heno, er bod awdurdodau’r Eidal yn beio’r cynydd diweddaraf ar ddinasyddion anghyfrifol am beidio dilyn cyngor am gymdeithasu a mynychu digwyddiadau.

Mae llawer o bobl yn naturiol beio Undeb Rygbi Cymru am eu hanallu, a’r crafangu am arian. Ac eto, mae hwn yn sefydliad a gefnogodd apartheid, ac sy’n codi £200 ar gyfer gemau rhyngwladol yr hydref. Mae’n sefydliad o grafwyr militaraidd a brenhinol sy’n embaras cenedlaethol i Gymru. Ni ddylem ddisgwyl gwell gan sefydliad mor bwdr.

Nid oedd y bennod anffodus hon ychwaith yn ganlyniad i rhyw ysfa marwol ar ran pobl ganol oed Cymru, a barodd iddynt roi eu holl resymeg o’r neilltu oherwydd eu bod eisiau gwylio’r gêm (er na fyddai’n synnu unrhyw un pe bai’n troi allan bod gan dywysogion Llafur seddi bocs wedi’u trefnu).

Yn hytrach, roedd y ffiasco yma’n benllanw rhesymegol, trasig ar Gymru – neu yn fwy penodol, diwylliant gwleidyddol pwdr Llafur Cymru. Ers rhai blynyddau mae rhai ohonom wedi taeru bod Cymru’n wlad unigryw yn ei chyflwr dryllliedig: bod ein harweinwyr yn dwpsod, bod y bobl yn nihilaidd, tu hwnt i becso am y pethau yma. A nawr, mae’r byd a’r betws yn gwybod.

Unbleidiaeth

Yn yr un modd ag y mae Trump a Johnson yn gynnyrch eu diwylliannau gwleidyddol unigryw – yn ymgnawdoliad o’r id pwdr sydd wedi brigo i’r wyneb gyda marwolaeth democratiaeth gymdeithasol – felly roedd gwywo ac anallu Llafur Cymru yn gynnyrch unigryw unbleidiaeth Cymreig.

Mae unbleidiaeth yn caniatáu i bobl druenus, anweddus ennill swyddi o bwys. O dan y sustem hon does dim rhaid i chi fod yn gymwys; does dim rhaid i chi fod yn sosialydd ymroddedig; yn wir does dim rhaid i chi gael unrhyw egwyddorion amlwg o gwbl (mewn gwirionedd, y llestri gweigion sydd orau). Nid oes ond rhaid i chi ennill enwebiad y blaid (yn ôl pob tebyg trwy gael eich eneinio gan ychydig o noddwyr asgell dde dylanwadol, y tu ôl i ddrysau caeedig) a dyna ni, rydych chi yno. Dim craffu, dim straen – bywyd hawdd.

Ar draws y cynadleddau niferus i’r wasg, roedd cyfyngiadau enfawr ysgrifennydd iechyd Cymru, Vaughan Gething, ar ddangos. Mae’n debyg mai Gething yw’r enghraifft par excellence o’r carfan fawr o wleidyddion Llafur Cymreig modern yn y Senedd, y mwyafrif ohonynt, ymddengys, wedi’u hysbrydoli i wleidydda gan Tony Blair. Dyma ddyn sydd yn edrych fel pe bai eisiau’r rhwysg, pŵer, ac enwogrwydd gwleidyddol, ond dim y cyfrifoldeb na’r craffu. Edrych a swnio fel gwleidydd, dyma sy’n bwysig. I’r etholwr arferol, mae’n ymddangos fel cymeriad hu, trahaus a gwag, yn amddifad o empathi, gwerthoedd a deallusrwydd.

Trwy gydol y gynhadledd i’r wasg, gyda’r ynganiad Blairaidd gofalus a’r glasgyfeillgarwch gweniaethus, roedd yn amlwg wrth ei fodd yn derbyn y cwestiynau fel y gwleidydd dychmygol y mae’n eu gwylio ar The West Wing. ‘Ie, iawn, gadewch i ni gymryd cwestiynau gan Dafydd, Adrian… ac yna x, ac y’.

Eto i gyd, yn ddigon buan ac yn ôl ei arfer dechreuodd Gething gwegian hyd yn oed o dan y pwysau lleiaf gan newyddiadurwyr, a ofynnodd gwestiynau sylfaenol ynghylch a ddylai’r gêm fynd yn ei blaen. Roedd dicter yn fflachio y tu ôl i’w lygaid, pryd bynnag y cafodd ei holi. Roedd tôn ei lais, yr un fath ag erioed, yn nawddoglyd ac yn fygythiol. Wrth gwrs, mewn gwlad arferol, craffu o’r fath yw bara menyn y gwleidydd mwyaf glas. Yng Nghymru, gyda’r gyhoeddfa nad sy’n bodoli, mae gweinidogion ein llywodraeth yn gwbl anghyfarwydd â gorfod bod yn atebol i unrhyw un (mae Drakeford, yr unig un deallus, o leiaf yn ceisio ateb cwestiynau, ond y mae’n gyfathrebwr ofnadwy ac mae’n bell o ysbrydoli hyder).

Digerydd

Ond, mae Cymru yn wlad lle nad oes canlyniadau gwleidyddol yn bodoli. Mae Gething, er enghraifft, wedi llywyddu dros argyfyngau gwarthus, dro ar ôl tro o fewn GIG. Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod mewn mesurau arbennig ers pum mlynedd. O dan oruchwyliaeth Gething, ceisiodd y bwrdd iechyd orfodi nyrsys i weithio’n ddi-dâl, rhywbeth a wrthwynebwyd, diolch byth. Gwelsom y sgandal marwolaethau babanod ar fwrdd iechyd Cwm Taf. ‘Rhesymoli’ ysbytai, sydd wedi gweld cymunedau’n colli eu gwasanaethau damweiniau ac achosion brys hanfodol. Nid oes uned mamau a babanod yng Nghymru o hyd. Gwrthwynebodd alwadau am ysgol feddygol yn y gogledd, byddai’n help enfawr i ddatblygu mwy o feddygon a nyrsys lleol. Mae hyn heb son am y sgandalau dro ar ôl tro ar amseroedd aros, staff sydd heb dâl digonol ac sydd wedi’u gorweithio, ac yn y blaen ac yn y blaen, ad infinitum. Hyn oll, er gwaethaf y ffaith bod Cymru yn gwario dros hanner y grant bloc ar iechyd. Iawn, mae nhw wedi etifeddu sefyllfa truenus gyda phoblogaeth sy’n gymharol gwantan ac yn heneiddio. Ond mae esiampl lachar Cuba yn dangos bod hawlio’r label ‘sosialaidd’ yn joc sâl, gan ystyried bod ein gofal iechyd dal i fod mewn helbul 20 mlynedd wedi datganoli.

Er gwaethaf y methiannau hyn, mae pwysau’n brin ar Gething, ac yn ddigroeso (cyf). Ym myd clos gwleidyddiaeth Cymru, lle mae pawb yn ffrindiau â phawb, ni all y wasg fforddio corddi gweinidogion gan ofni cael eu cau allan. Ond heb graffu, heb atebolrwydd, heb ganlyniadau, ni fydd cynnydd – daw gwiriondeb yn rhywbeth sy’n cael ei dderbyn. Dyma pam y gall unigolion fel Edwina Hart a James Price (Cylchffordd Cymru a Thrafnidiaeth Cymru) fynd o un llanast anferthol i’r llall, heb droi blewyn, ac yna mae pobl yn drysu pam nad yw’r trenau’n cyrraedd ar amser.

Mae’n amlwg na allai Gething ddeall pam fod pobl wedi cythruddo. Mewn dryswch, parhaodd i ailadrodd y gwireb, ‘rydym yn gwrando ar dystiolaeth a chyngor arbenigwyr’. Yn amlwg roedd hyn i fod i egluro popeth: roedd ef ei hun yn fodlon bod y bobl graff yn Llundain wedi datgan, a dyna ni, roedd ei waith wedi gwneud, ac nid oedd angen meddwl am bethau ymhellach!

Ym mhorth y mynwent

Wel, beth oedd tystiolaeth yr arbenigwyr roedd yn cadw cyfeirio ati? Does neb yn gwybod. Nid yw eto ar gael. Mae straeon nawr yn cael eu lledaenu fesul un trwy hoff newyddiadurwyr y lobi gwleidyddol, sydd wedyn yn sylwebu arnynt fel ‘ecscliwsif’, gan greu mwy o banic a llai fyth o eglurder. Mae’r negeseuon o San Steffan wedi bod yn enghraifft o sut i beidio â chyfathrebu yn ystod argyfwng – ni fu egluro o bellter cymdeithasol, arwahanu, na chyfiawnhad dros yr hyn a wnaed hyd yn hyn. Mae wedi bod yn ofnadwy. Ac wrth gwrs, ffordd Boris Johnson o dawelu pobl a bod yn wladweinydd oedd dweud ‘mae eich anwyliaid yn mynd i farw’. Dyna chi galonogol.

Wrth gwrs, roedd arbenigwyr wedi dweud y gall cynulliadau awyr agored mawr bod yn iawn, ond roeddent hefyd wedi dweud bod pellter cymdeithasol yn synhwyrol, ac efallai na fyddai pobl yn ymgynnull gyda’i gilydd mewn tafarndai yn syniad cystal. Roedd hynny, wrth gwrs, yn anochel yng Nghaerdydd ar ddiwrnod y gêm pan mae dros gan mil o bobl yn ymgynnull yn rheolaidd. A gan feddwl – yn seiliedig ar ragamcanion ceidwadol cyfredol bod gan oddeutu 0.02% o’r boblogaeth (neu 1 ym mhob 5,000 o bobl) y firws – byddai rhai o rheiny yn sicr â’r firws, byddai felly’n cynrychioli risg ddifrifol a chwbl ddiangen. A hynny cyn ystyried pryderon ychwanegol ynghylch, er enghraifft, y cyswllt anochel rhwng pobl heintiedig a phoblogaeth ddigartref enfawr Caerdydd; annhegwch gorfodi byddin o staff o asiantaethau i ddod i weithio a chael eu hunan mewn peryg o gael eu heintio.

Does dim rhaid i chi fod yn epidemiolegydd i weld mae syniad gwael oedd cynnal y gem. Nid yw pobl mor dwp ag y mae Gething amlwg yn ei feddwl.

Ond roedd pryderon dinasyddion yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r twpdra amlwg, uniongyrchol o gynnal y digwyddiad. Mae Cymru yn hynod agored i coronafirws. Mae gennym boblogaeth oedrannus, fregus a llawer iawn o bobl â chlefyd anadlol (canlyniad diwydiant); pobl anabl; a mwy o bobl dlawd sydd bob amser yn fwy agored i afiechyd. Mae gennym brinder o welyau Uned Gofal Dwys oherwydd dinistr systematig y GIG dan lymder.

Mae’r Torïaid wedi achosi i Gymru dirywio dros yr 20 mlynedd diwethaf ac mae polisïau credyd cyffredinol wedi achosi miloedd o farwolaethau diangen. Mae rhai sy’n agos iawn i lywodraeth Johnson wedi fflyrtian gyda ewgeneg, ac mae papurau Torïaidd wedi bod yn eirioli’n agored dros y firws yn ‘difa”r rhai mwyaf agored i niwed. Ar ben hynny, mae pobl yn talu sylw, a gwyddom fod strategaeth y DU o ‘imiwnedd haid’ yn gwbl anghyson yng nghyswllt gwledydd Ewropeaidd, ei bod wedi cael ei drwgdybio fwyfwy gan feddygon yn yr Eidal, gan Sefydliad Iechyd y Byd ac yn awr, yn gynyddol, gan gymuned wyddonol Prydain a hyd yn oed rhai Torïaid. Nid y bobl yma sy’n gyfrifol yn wyneb y pandemig yw’r math o bobl y byddem yn naturiol ymddiried ynddynt er mwyn sicrhau ein lles.

I’r rhan fwyaf o bobl Cymru sydd wedi profi cyni, neu sydd â pherthnasau oedrannus neu faterion iechyd eu hunain (neu yn wir unrhyw un ag asgwrn beirniadol yn eu corff) mae hyn i gyd yn ychwanegu at goctel o banig cwbl dealladwy. Fel asthmatig tila, rwyf wedi dod yn agos at golli’r plot. Rwy’n gweithio gyda phobl ddigartref, y mae gan lawer ohonynt broblemau iechyd sylfaenol, a phroblemau hunanimiwn. Dydw i ddim eisiau iddyn nhw farw; dwi ddim eisiau i’m perthnasau farw.

Dŵr Coch Croyw?

Yng ngoleuni anghymhwysedd llywodraeth Johnson a’r dryswch a braw cynyddol, byddai gweinidog Cymreig cymwys (neu yn wir, unrhyw bobl arferol gyda mymryn o empathi) wedi defnyddio’r cyfle i dawelu meddyliau. Byddent hefyd wedi gwneud y gorau o’u pwerau datganoledig i gau’r digwyddiad i lawr, cysuro pobl, a darparu negeseuon cyhoeddus, clir. Byddai unrhyw sosialydd wedi bod yn naturiol amheus o lywodraeth sydd wedi siafftio’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas dro ar ôl tro. Yn lle, y cyfan a gawsom gan Gething oedd haerllugrwydd syfrdanol, diffyg empathi llwyr ac anallu i ddeall pam roedd pobl yn bryderus. Sut meiddiwch chi ein cwestiynu? Sut meiddiwch chi fy holi?

Ni all Drakeford na Gething weld pa mor normal (a rhagweladwy) oedd hi i bobl bod yn bryderus, i gynhyrfu, ac i fod yn amheus o lywodraeth yn San Steffan sydd wedi gweithredu llofruddiaeth gymdeithasol dro ar ôl tro, dan arweiniad twpsyn sy’n methu cyfathrebu’n effeithiol.

Yn anochel ac yn ddigon buan – ac i rwto halen yn briw gyda sarhad pellach – daeth yr ymosodiadiau Llafur cyfarwydd a chydlynnol i’r amlwg ar twitter, gan fwrw sen ar unrhyw un a oedd yn cwestiynu strategaeth eu dyn nhw: cyhuddiadau o fod yn genedlaetholwyr rhonc, o fod yn chwarae gwleidyddiaeth, neu o beidio ymddiried yn nhystiolaeth gwyddonwyr (debyg felly bod y Sefydliad Iechyd y Byd ar sawl sydd wedi arwain y feirniadaeth wyddonol yn erbyn llywodraeth San Steffan – a frigodd i’r wyneb yn fuan iawn – hefyd yn genedlaetholwyr?). Roedd pori’r cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol yn digalonni dyn. Mewn gwlad arferol, byddai’r bobl asgell dde boenus o blwyfol a thwp yma’n ddibwys. Yn sicr bydden nhw ddim mewn plaid sydd dim ond yn ddemocrataidd gymdeithasol mewn enw. Yng Nghymru, fodd bynnag, maent yn ACau, arweinwyr cyngor a lobïwyr – oherwydd eu bod yn ‘y blaid’ ac yn adnabod y bobl iawn.

Mae’r gred mai ‘nats’ yw’r rhai sy’n cwestiynu pŵer eithaf San Steffan neu sy’n meiddio anghytuno â Llafur Cymru fel petai wedi sodro i ymwybod y bobl yma. I rai, undebaeth kamikaze eithafol yw hyn. I eraill, mae’n fater o gasineb tuag at unrhyw un sy’n cwestiynu eu pŵer ac yn bygwth rhoi rhoi’r caead nôl ar eu pot mêl. Yn achos eraill, twpdra yw’r broblem. Rwy’n amau ​​yn rhan fwyaf o’r achosion ei fod yn gyfuniad o’r tri.

Does ‘dim ots gyda nhw, eu bod nhw unwaith eto yn gosod eu ffydd cyfan, cyfeilornus mewn llywodraeth Dorïaidd; bod llywodraeth yr Alban yn gweithredu’n annibynnol; mae gwell diogel nag edifar, ac na fyddai unrhyw ganlyniadau gwael wedi bod o gymryd y safiad yna ac atal cynulliadau mawr.

Cymru dda

Mae’r mwyafrif o sosialwyr yn naturiol sgeptigol o lywodraeth sydd wedi siafftio’r mwyaf bregus yn y gymdeithas, tro ar ôl tro. Ond mae’r gwrogaeth greddfol a’r teyrngarwch di-feddwl i San Steffan a ddangosir gan arweinyddiaeth Llafur Cymru wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn DNA Llafur Cymru. Dro ar ôl tro, ar faterion polisi ac ar y cwestiwn cyfansoddiadol, mae llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn hapus i ymostwng i’w gwell – y Blaid Torïaid yn San Steffan – tra bod llywodraeth SNP yr Alban wedi ymwahanu fwyfwy a chymryd mesurau beiddgar. Cofier bod Rhodri Morgan wedi hyd yn oed trafod yn agored y strategaeth o ‘beidio siglo’r cwch’ yn ystod refferendwm yr Alban.

Mae ymostwng yn hawdd. Mae’n golygu peidio â gorfod meddwl, peidio â chymryd cyfrifoldeb. Mae’n caniatáu’r trugareddau a’r ymddangosiad o bŵer heb ddim o’r canlyniadau na’r cyfrifoldeb. Llwfrdra sefydliadol sy’n cael ei ddefnyddio gan bobl ddi-asgwrn cefn, heb syniadau na thalent. Dyma sefyllfa naturiol, anochel a pharhaol o dan unbleidiaeth: lloches anochel i’r rhai sydd mewn gwleidyddiaeth drostyn nhw hunain a neb arall.

Ar ben hynny, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn enghraifft berffaith o’r hyn y mae Zizek yn ei alw’n ‘fetishist disavowal’ – gan fynegi pryder am rywbeth (argyfwng yr hinsawdd, dyweder) heb weithredu mewn gwirionedd, na hyd yn oed sylweddoli bod ganddyn nhw fel llywodraeth y pŵer i newid pethau. Llywodraeth y gwangalon yw hon, y mae ei reddf bob amser yw gwneud dim, neu i benderfynu ar yr hanner-mesur pan oedd y mesur radical yn bosib. Mae gweinidogion Cymru yn aml pendroni’n agored ar twitter: ‘sut fyddai gwneud (polisi blaengar x) yng Nghymru’? Ac yn anochel, yn ystod y fiasco yma, y cyfan y gallai rhai’n gwneud oedd rhythu’n oddefol fel lloi, wedi’u rhewi. Byddai’r syniad o ddefnyddio’u pŵer ddim hyd yn oed yn gwawrio arnyn nhw.

Camau nesaf Cymru

Bellach, ni allwn oddef y goddefol. Mae gogwydd greddfol Llafur tuag at drefn gyfalafol laissez-faire Llundain yn addo gyrfa lawr glyn cysgod angau, a fydd yn mynd â ni i gyd gyda nhw – os nad ydym yn ofalus. Mae’r argyfwng yn gofyn am weithredu pendant ac ymyrraeth enfawr gan y wladwriaeth. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r pwerau sydd ganddyn nhw ar frys i liniaru’r argyfwng. Mae angen lledaenu gwybodaeth ar frys ar ymbellhau cymdeithasol trwy’r holl gyfryngau. Dylid atafael ysbytai gofal iechyd preifat i ryddhau gwelyau. Dylid adeiladu ysbytai newydd, dylid archebu gwyntiedyddion, en masse. Rhaid i’r henoed, a grwpiau bregus eraill fel carcharorion, y digartref a cheiswyr lloches gael eu rhoi mewn cwarantîn a’u cefnogi. Mae graddfa’r argyfwng yn dangos faint mae cymdeithas yn dibynnu ar bobl dosbarth gweithiol, yn enwedig arwriaeth dawel ein gweithwyr gofal iechyd anhunanol. Fel rhan o’r ‘Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol’ newydd, mae angen i undebau llafur roi pwysau ar unwaith ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd gweithwyr iechyd cyhoeddus rheng flaen yng Nghymru yn derbyn cynnyd yn eu cyflog, yn derbyn PPE digonol ynghyd â chyngor, a’u iawnderau o safbwynt gorffwys a chael egwyl. Dylai staff rheng flaen mewn diwydiannau heblaw iechyd hefyd dderbyn tâl am weithio mewn amgylchiadau peryg.

Bydd y cau mawr sydd ar ddod yn codi materion dosbarth cymdeithasol y bydd angen mynd i’r afael â nhw. Bydd llawer o bobl dosbarth gweithiol yn cael eu gorfodi mewn i swyddi manwerthu ansicr; nid oes ganddyn nhw’r braint o allu gweithio gartref. Bydd eraill yn cael eu troi allan o waith am hunan-ynysu. Mae angen i bobl dalu rhent, bwyta, aros yn fyw. Mae Jeremy Corbyn wedi galw ar y Llywodraeth i godi tal salwch, yn gymesur â lefelau Ewropeaidd. Rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy i atal pobl rhag cael eu hamddifadu. Rhaid iddynt roi diwedd cyffredinol ar bobl yn cael eu troi allan o’u tai, rhaid rhewi taliadau treth gyngor, rhentau, taliadau cyfleustodau, a chynyddu cynhyrchiant y banciau bwyd a rheoli dosbarthiad bwyd a chyflenwadau mewn ffordd synhwyrol. Os oes cau mawr ar ddod, rhaid cau pob busnes nad yw’n hanfodol a rhaid i’w gweithwyr allu cael gafael ar arian brys. Mae angen gofal plant brys ar gyfer ein gweithwyr allweddol. Yma hefyd, yn enwedig os na fydd Llywodraeth San Steffan yn diwygio Credyd Cynhwysol, gallai Llywodraeth Cymru dreialu Incwm Sylfaenol Cyffredinol trwy gydol yr argyfwng. Dylai busnesau bach hanfodol a mentrau cymdeithasol defnyddiol hefyd allu cael rhyddhad ariannol i’w hatal rhag mynd i’r wal.

Mae Gething a Drakeford eisoes wedi cael eu dala mas. Mae’r llanw’n troi yn erbyn y dystiolaeth a roddant eu ffydd ynddi mewn modd mor cibddall. Ni allwn fforddio llanast arall. Os nad ydynt yn camu i’r adwy o fewn y 48 awr nesaf, dylid cyflwyno pleidleisiau o ddiffyg hyder, ar frys, a’u cynnal yn y Senedd. Pan fydd hwn wedi dirwyn i ben – ac os bydd etholiadau 2021 yn mynd yn eu blaen – rhaid i ni gofio, pan ddaeth yr awr, ni ddangoswyd unrhyw arweinyddiaeth, ac yna eu pleidleisio allan. Ac wrth i ni weithio tuag at Gymru annibynnol, y diwylliant gwleidyddol nychlyd hwn y mae’n rhaid i ni ei drawsnewid. Rhaid i ni eu taflu i’r neilltu os ydym am saernïo sosialaeth go iawn.

Os na fydd gweithredu, bydd yn rhaid i ddinasyddion weithredu’n annibynnol a ffurfio grwpiau cyd-gymorth. Mae pobl Undod eisoes yn dechrau gweithio ochr yn ochr â chymrodyr eraill i ffurfio grwpiau hunangymorth cymunedol yn absenoldeb cymorth gan y wladwriaeth. Gallwch chi gymryd rhan fan hyn.

Mae iechyd y cyhoedd yn gwbl ganolog i sosialaeth. Yn wahanol i gyfalafwyr, credwn fod gan bawb yr hawl i fywyd hir, iach o hapusrwydd ac urddas. Mae gofalu am y sâl a’r bregus yn sylfaenol i’n gwerthoedd. I’r rhai sy’n cwyno am ‘chwarae gwleidyddiaeth yn ystod argyfwng’: yn syml iawn, mae ein hagwedd tuag at werth bywyd dynol yn wahanol i’r Llywodraeth Dorïaidd greulon. Mae iechyd bob amser wedi bod yn fater gwleidyddol dwfn, dwys – nid un ‘niwtral’. Felly ni ellir disgwyl i ni bellach ddilyn ein harweinwyr mewn modd cibddall, na bod yn dawel pan fyddwn yn poeni am ein hanwyliaid a’n cymunedau.

Mae iechyd yn anad dim yn fater dosbarth. Mae pobl dosbarth gweithiol yn fwy tebygol o farw’n gynnar, i fynd yn sâl yn gynnar, o fod gyda symudedd gwaeth ac ati. Sefydlwyd y GIG am yr union reswm hwn – fel y byddai pawb yn gallu cael triniaeth feddygol, nid y cyfoethog yn unig. Mae’n parhau i fod y peth mwyaf y mae’r Cymry wedi’i gyfrannu at y byd, a rhaid gwneud popeth o fewn ein gallu i’w helpu mewn amser o angen mawr. Dyma’r flaenoriaeth fwyaf i ni nawr.

Os hoffech weld ymateb cadarnach i’r achos gan Lywodraeth Cymru, gallwch lofnodi’r llythyr yma.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.