Mae’r Gymru wledig mewn trafferth. Mwy o drafferth mae’n debyg nag ers cyn cof, a hynny o du grymoedd a thueddiadau sy’n annhebygol o ddiflannu’n fuan iawn. Hen stori yw camweithredu’r economi yn y fan yma wrth gwrs. Mae’r problemau cymdeithasol sy’n deillio o gyflogau gwael, gwerth ychwanegol isel, diffyg cyfle economaidd ac incwm o’r …
Archifau Tag:COVID-19
Covid-19 yng Nghymru: 18 mis o lofruddiaeth gymdeithasol
Delwedd gan youtookthatwell Yr wythnos hon, mae adroddiad seneddol o bwys wedi beirniadu ymateb cychwynnol y Deyrnas Unedig i Covid-19 yn hallt, gan ei alw yn un o fethiannau iechyd cyhoeddus gwaethaf y Deyrnas Unedig erioed. Mae’r adroddiad wedi canolbwyntio ar yr ymateb yn Lloegr, uwchlaw’r ymateb yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r …
Parhau i ddarllen “Covid-19 yng Nghymru: 18 mis o lofruddiaeth gymdeithasol”
“Diwrnod Rhyddid”: hunan-dwyll Prydeinig iawn
Mae Gweinidog Iechyd newydd Lloegr, Sajid Javid, wedi cyhoeddi y bydd Boris Johnson, ar 19 Gorffennaf, yn sefyll o flaen pobl Lloegr, yn ddifwgwd ac yn wynebgaled, ac yn datgan “rhyddid”. Bydd Lloegr yn dileu pob amddiffyniad rhag Covid-19 ac yn gadael i’r feirws gylchredeg yn wyllt ar lefelau uwch byth: mewn geiriau eraill mae …
Parhau i ddarllen ““Diwrnod Rhyddid”: hunan-dwyll Prydeinig iawn”
Mae Bywydau Du o Bwys – Ailddatganiad
Ar y cyntaf o Fehefin y flwyddyn ddiwethaf, cyhoeddodd Undod y fersiwn gyntaf o’r datganiad yma mewn cydsafiad â’r sawl oedd yn mynnu cyfiawnder i George Floyd, a phawb sy’n brwydro yn erbyn hiliaeth a thrais y wladwriaeth ym mhobman. Nodwyd gennym ar y pryd bod yr ymgeisiadau treisgar i atal y protestiadau ar draws …
Rhoi gwaith yn ei le
Bydd gan bob un ei farn am y graddau y bydd pandemig Covid-19 yn parhau i fygwth ein trefn economaidd, ein ffordd o fyw, ein dyheadau a’n cyfleoedd, ond un peth sydd wedi ceisio annog yr ymdeimlad bod ‘normalrwydd’ am ddychwelyd yw’r neges ‘Dychwelwn i’r gwaith.’ Mae’n dangos pa mor ganolog yw gwaith yn ein …
Llywodraeth Cymru sydd ar fai am yr ail don, nid y dosbarth gweithiol: gwrthsafwch y rhannu a rheoli!
Gan mai Cymru erbyn hyn yw’r unig ran o’r DU lle mae achosion COVID-19 yn parhau i gynyddu, mae’n ymddangos bod penderfyniad hunan-ymwybodol wedi’i wneud ar ran Llywodraeth Cymru i geisio symud y bai oddi arnyn nhw, ac i’r cyhoedd. Ddydd Mawrth, ymddangosodd Vaughan Gething ar wahanol orsafoedd radio a honnodd fod clo bach Cymru …
Cyfiawnder cymdeithasol yw cyfiawnder hinsawdd
Mae’r canlynol yn cyflwyno’r achos dros ddull radical o daclo’r argyfwng hinsawdd yng Nghymru, ac yn gwahodd cyfraniadau gan aelodau Undod i archwilio pynciau perthnasol mewn rhagor o fanylder. Mae’r argyfwng go iawn ar y gorwel… A ninnau yng nghanol pandemig byd-eang, hawdd yw anghofio ein bod ni hefyd yng nghrafangau argyfwng llawer mwy. Mae …
Parhau i ddarllen “Cyfiawnder cymdeithasol yw cyfiawnder hinsawdd”
Iechyd meddwl yng Nghymru: y bwlch rhwng rhethreg a realiti
Rhybudd cynnwys: mae’r erthygl hwn yn trafod hunanladdiad ac esgeulustod mewn lleoliadau cleifion mewnol iechyd meddwl. Cyflwyniad Yn hwyr ar brynhawn Gwener y 24ain o Ionawr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r trydydd cynllun cyflawni, a’r un olaf, ar gyfer ei strategaeth deng mlynedd ar iechyd meddwl. Yn dilyn ymgynghoriad chwe wythnos yr haf diwethaf, treuliodd y …
Parhau i ddarllen “Iechyd meddwl yng Nghymru: y bwlch rhwng rhethreg a realiti”
Rhifyddeg poblyddiaeth
Rai misoedd yn ôl fe ysgrifennodd Angharad Dafis am gau Ysgol Felindre. Yma mae hi’n myfyrio ar yr hyn ddigwyddodd wedyn, a sut mae stori ysgol bentref yng Nghymru yn dinoethi rhith y Gymru ofalgar, gymunedolaidd, gan amlygu sut yr ydym bellach wedi ein caethiwo o fewn strwythurau neoryddfrydol twyllodrus y wladwriaeth Brydeinig. Doeddwn i …
Datrys yr argyfwng tai yng Nghymru
Cyhyd â bod cyfalafiaeth yn parhau, bydd tai bob tro yn nwydd neu’n fuddsoddiad i rai, tra bo eraill yn byw mewn trallod Engels, The Housing Question Mae’r argyfwng coronafeirws wedi’i ddiffinio gan ddosbarth. Mae’r misoedd diwethaf wedi gweld pobl dosbarth gweithiol yn cael eu gorfodi i fynd i weithio o dan amodau peryglus, i’n …
Y Feirws Prydeinig
Delweddau gan youtookthatwell 1. Y Feirws Cyfalafol Pan ddaeth gwir natur argyfwng Coronafeirws i’r amlwg yn y Deyrnas Gyfunol, gellid fod wedi maddau i rywun am gymryd yn ganiataol ei fod yn arwyddocau ergyd dirfodol i’r drefn economaidd ryngwladol, fel ag y mae. Wrth i’r wlad ddechrau deall y brwydrau yr oeddem ar fin eu …
Does dim troi nôl i normal – rhaid i’r chwith achub ar y cyfle a rheoli’r argyfwng
Cyhoeddwyd yn wreiddiol gan yr awdur ar 26 Ebrill 2020 Roedd y “Marcsydd o Sardiniwr” Antonio Gramsci wedi cysegru rhan helaeth o’i fyfyrio i’r cysyniad o argyfwng. Canlyniad ydoedd o fyw drwy gyfres o argyfyngau byd-eang (Y Rhyfel Fawr, cwymp y marchnad stoc 1929), ac argyfwng domestig a oedd yn ganlyniad uniongyrchol o’r argyfyngau rhyngwladol …
Does dim troi nôl i normal: Gramsci, cyfalafiaeth, crisis gwleidyddol, ac ein hymateb ni
Gan: Tad Davies, Ted Jackson, Garmon ab Ion ‘Dyma’r Marcsydd o Sardinia Antonio Gramsci. Cysegrodd lawer o’i amser i fyfyrio ar y syniad o greisis. Wedi holl effeithiau’r Rhyfel Byd Cyntaf sef y Rhyfel Mawr, ac yna’r binno rosso sef ‘y ddwy flynedd goch’ o wrth ryfel a ddilynodd, credai y deilliai trefn sosialaidd …
Prynu’n lleol: gwersi o Gaernarfon ar gynaladwyedd cymuned
Rhan o’r gyfres Cam nesaf Cymru Flwyddyn yn ôl, roedd pawb yn dotio at yr ambarels lliwgar yn Stryd y Plas, nid am ei bod yn tresio bwrw, ond am ei bod yn ddiwrnod heluog, braf. Dyma’r syniad diweddaraf gan y stryd i’w gwneud yn fwy dengar. Yn wir, ar benwythnos yr Ŵyl Fwyd ar …
Parhau i ddarllen “Prynu’n lleol: gwersi o Gaernarfon ar gynaladwyedd cymuned”
Crynodeb o’r cyfryngau: Covid, gweithwyr ar gennad, a diwedd y Deyrnas Unedig
Er mwyn ennill annibyniaeth radical i Gymru, mae angen i ni yn gyntaf sefydlu rhwydwaith o fudiadau i gyfathrebu ein syniadau, dod â phobl at ei gilydd ac ymgyrchu dros y trawsnewidiad yr hoffem ni gyd ei weld. A dyna pham y byddwn yn rhannu uchafbwyntiau o gyfryngau llawr gwlad Cymru – cyfryngau sy’n mynd …
Parhau i ddarllen “Crynodeb o’r cyfryngau: Covid, gweithwyr ar gennad, a diwedd y Deyrnas Unedig”
Mae mudiad cenedlaethol dros newid gwleidyddol yn bosib – ac mae ei angen.
Rhan o’r gyfres Cam nesaf Cymru Mae’n bosib eich bod chi’n un sydd wedi gofyn, beth yw’r stori felly? A myfyrio rhywfaint ar y cwestiwn a holwyd yn lled gyson: ‘Pam?’ Dyma geisio esbonio i chi rai ystyriaethau felly, a dangos pam bod mudiad o’r fath yn angenrheidiol yn y cyfnod sydd ohoni. Y man …
Parhau i ddarllen “Mae mudiad cenedlaethol dros newid gwleidyddol yn bosib – ac mae ei angen.”
Cam nesaf Cymru: Datrys digartrefedd ar y stryd
Rhan o gyfres Cam nesaf Cymru “Nid oedd y system ddigartrefedd flaenorol yn yn briodol nac yn deg, ac mae’r camau beiddgar a gymerwyd yn ystod yr argyfwng hwn yn dangos hyn yn glir. Rhaid peidio â mynd yn ôl at yr hen system. Rhaid i’r argyfwng fod yn gatalydd i ddatrys digatrefedd.” Yng Nghaerdydd, …
Parhau i ddarllen “Cam nesaf Cymru: Datrys digartrefedd ar y stryd”
Cam nesaf Cymru: cyfres newydd
Dim mwy o wleidyddiaeth o’r top i lawr: bellach lawr y cledrau i dlodi, anghyfiawnder a dyfnhau’r argyfwng ecolegol fydd hi. Mae angen i ni achub y blaen. Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn amlygu’r posibiliadau sydd i’r genedl, wrth iddi godi eto o’r argyfwng hwn. Y coronafeirws yw’r symptom mwyaf eithafol eto o gyfres …
Straeon o lawr gwlad: Cymru a Covid-19
Mae ennill annibyniaeth radical i Gymru yn gofyn am rwydwaith o sefydliadau i gyfleu ein syniadau, dod â phobl ynghyd ac ymgyrchu dros y trawsnewidiad yr ydym am ei weld. Dyna pam y byddwn yn rhannu uchafbwyntiau o gyfryngau lawr gwlad Cymru y gallech fod wedi’u colli. Mae Desolation Radio wedi bod yn darparu dadansoddiad …
Gordon yr Injan Fawr: penodiad gwleidyddol
Mae Undod wedi beirniadu Llywodraeth Cymru mewn cyfres o flogiau am y ffordd mae wedi ymwneud â’r argyfwng Covid-19 o’r cychwyn cyntaf, pan fethwyd a gohirio gêm rygbi rhwng Cymru a’r Alban tan y funud olaf – pan oedd hi’n rhy hwyr i atal miloedd o gefnogwyr rhag teithio i Gaerdydd. Darllenwch y gyfres gyfan. …
Parhau i ddarllen “Gordon yr Injan Fawr: penodiad gwleidyddol”
Rhaid i Vaughan Gething adael
Bydd y byd yn newid yn llwyr, hyd yn oed i’r rhai ohonom sy’n ei wneud yn fyw … Ond mae’r bobl a’n harweiniodd i’r drychineb yn dal i fod yno. * Yn ein crynodeb diweddar o’r argyfwng, buom yn tynnu sylw at gyfres o gamsyniadau gan Lywodraeth Cymru. Mynegwyd y gobaith y byddai eu …
Nid nawr yw’r amser i “gefnogi” yr arweinwyr annwyl.
Hydref 21ain, 1966 Eisteddwn mewn ystafell ysgol; ar drothwy gwyliau hanner tymor. O fewn eiliadau bydd y domen enfawr o faw a gwastraff glo ar ochr y bryn uwch ein pennau yn dechrau llithro. Bydd y mwyafrif ohonom yn marw, a bydd y rhai fydd yn byw yn byw am byth gydag euogrwydd dychrynllyd. Ni …
Parhau i ddarllen “Nid nawr yw’r amser i “gefnogi” yr arweinwyr annwyl.”
Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i leihau tlodi argyfwng – yn awr
Yn gwbl gywir, mae sylw wedi troi at incwm sylfaenol fel dull o sicrhau diogelwch ariannol yn ystod y pandemig a’r dirwasgiad economaidd dwfn fydd yn ei ganlyn. Yn wyneb y disgwyliad o fywiolaethau drylliedig ac incwm yn diflannu, gwelsom Drysorlys y DU yn rhoi gwarantau i fusnes ar lun 80% o gymhorthdal cyflog, rhyddhad …
Parhau i ddarllen “Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i leihau tlodi argyfwng – yn awr”
Llywodraeth Cymru: wastad cam tu ôl
Yn nhrydedd wythnos yr argyfwng COVID-19, nid yw pethau’n argoeli’n rhy dda yng Nghymru. Mae’r Bwrdd Iechyd GIG sy’n dwyn enw ei sylfaenydd, yn cofnodi lefelau uwch o heintio fesul 100,000 na Llundain hyd yn oed, tra bod Cymru gyfan yn ymdebygu i orllewin canolbarth Lloegr – un o’r rhanbarthau sydd wedi’i effeithio mwyaf yn …
Gwleidyddiaeth cyd-gymorth yn ystod yr argyfwng COVID-19
Argyfwng a chymuned Bu sôn lot yn ddiweddar am y wleidyddiaeth ynghylch yr argyfwng COVID-19 – gan gynnwys beirniadaethau pwysig o’r ymateb trychinebus gan lywodraethau’r DU ac yng Nghymru. Mae hwn yn lle pwysig i ddechrau, oherwydd mae angen i ni gydnabod hyn fel argyfwng gwleidyddol, yn enwedig yn ystod cyfnod pan mae rhai yn …
Parhau i ddarllen “Gwleidyddiaeth cyd-gymorth yn ystod yr argyfwng COVID-19”
Mewn sefyllfa o bandemig, rhaid i Lywodraeth Cymru achub y blaen yn wleidyddol
Yn dilyn y cyhoeddiad neithiwr gan Lywodraeth y DU, a adleisiwyd gan Brif Weinidog Cymru, mae’r genedl bellach yn cychwyn ar fersiwn ‘feddal’ ei hun o’r cloi lawr sydd wedi’i weithredu eisioes yn yr Eidal, Sbaen a Ffrainc. Ac eto, ni ddylai fod unrhyw amheuaeth, mae angen gweithredu ymhellach ar unwaith yma yng Nghymru, fel …
Parhau i ddarllen “Mewn sefyllfa o bandemig, rhaid i Lywodraeth Cymru achub y blaen yn wleidyddol”
Ymateb i bandemig coronafeirws: ein galwadau wrth Lywodraeth Cymru
Trwy ddilyn yn y lle cyntaf strategaeth a oedd yn groes i ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a thystiolaeth o’r hyn sydd wedi gweithio mewn gwledydd eraill, mae Llywodraeth y DU wedi colli wythnosau yn y frwydr yn erbyn y firws hwn — camgymeriad a allai gostio bywydau heb gamau brys a radical i …
Parhau i ddarllen “Ymateb i bandemig coronafeirws: ein galwadau wrth Lywodraeth Cymru”
Y golau a ddychwel
Mae’r nos ar ei dywyllaf cyn ddaw’r wawr. Dyma eiriau i’w gofio yn nyfnderoedd argyfwng COVID-19. Wedi’r diwedd disymwth i Brexit a’r dilyw diweddar, mae ymadrodd arall yn neidio i’r meddwl – sef bod pethau drwg yn digwydd mewn trioedd. Mae’r digwyddiad diweddaraf yma, fodd bynnag, o fath arall – anhrefn, ar raddfa Feiblaidd. Cymorth …
Achos marwol o unbleidiaeth
Y penwythnos yma codwyd cywilydd ar Gymru ar raddfa fyd-eang, wrth i’r Llywodraeth sefyll o’r neilltu, tra bod Undeb Rygbi Cymru yn ceisio cynnal gêm rygbi Cymru – yr Alban. Ar y dechrau, y gred oedd mai camgymeriad oedd hi, neu oedi. Mi fyddan nhw’n ei ganslo, peidiwch â phoeni. Ymddangosodd y memes: ‘allwn ni …